: Hanes

Llwyau caru

25 Ionawr 2024

Mae'r traddodiad o wneud llwyau caru'n deillio o gyfnod pan ddefnyddiai'r Cymry cyffredin lestri pren i fwyta.

Mae casgliad llwyau caru Amgueddfa Cymru yn llawn esiamplau addurnedig cain, hanesyddol a modern. Mae'n dilyn y newid yn y grefft o'u cynhyrchu dros amser ac yn dangos amrywiaeth eang mewn steil a dyluniad, pob un yn arddangos gwaith crefft o'r safon uchaf.

Mae cyflwyno llwy wedi'i cherfio'n gain yn rhodd i anwylyd wedi bod yn arfer poblogaidd yng Nghymru ers oes. O lwy hynaf yr Amgueddfa, sydd wedi'i dyddio i 1667, i waith cyfoes crefftwyr llwyau adnabyddus heddiw, mae safon y llwyau yn brawf o ddawn ac ymroddiad y gwneuthurwr wrth greu gwrthrych i'w drysori gan eu câr.

Dwy lwy wedi'u cerfio o un darn o bren ac wedi'u cysylltu ag un ddolen, sydd â cherfiadau cymesurol cywrain gan gynnwys siapiau tebyg i seren, cilgantau, cylchoedd a'r llythyren T.

Yn ôl y traddodiad byddai dynion ifanc yn gwneud llwyau caru o un darn o bren, ac yn eu rhoi i'w cariadon fel arwydd o'u cariad.

Rhoddion rhamant

Er taw prin yw'r ffynonellau hanesyddol, y gred gyffredinol yw y byddai dyn yn cerfio llwy garu a'i chyflwyno i'r ferch oedd wedi mynd âi fryd fel rhodd rhamantus. Mae'r esiamplau o'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n sail i gasgliad yr Amgueddfa yn llawn teimlad ac angerdd y cerfwyr oedd am greu gwaith celf oedd yn deilwng o'u cariadon.

Offer syml fel cyllyll poced bach fyddai'n cael eu defnyddio i greu'r llwyau, a hynny o un darn o bren yn ddelfrydol. Roedd pren â graen clos yn hynod boblogaidd, fel sycamorwydden, bocsen a choed ffrwythau.

Er bod poblogrwydd yr arfer wedi amrywio dros y degawdau, mae'r grefft wedi goroesi ac yn cael ei harfer heddiw gan do newydd o grefftwyr sydd â'u bryd ar gynnal y grefft.

Yn draddodiadol, rhoddion rhamantaidd oedd llwyau caru, ond heddiw cant eu rhoi yn aml i goffau digwyddiadau arbennig – priodas a phen-blwydd, bedydd a phen-blwydd priodas. Bu newid sylweddol yn eu swyddogaeth dros y blynyddoedd – yn enwedig o ganol yr ugeinfed ganrif a'r twf yn y galw am esiamplau wedi'u masgynhyrchu.

Symbolaeth

Bu newid hefyd yn ddiweddar yn symbolaeth y llwyau, gyda symbolau Celtaidd a chenedlaethol fel y cennin Pedr a dreigiau yn cael eu defnyddio i gyfleu hunaniaeth Gymreig. Mae hyn yn creu cyferbyniad â'r ystyr ramantus wreiddiol – y calonnau, y diemwntau a'r olwynion.

Mae llwyau caru yn cyfleu ein meddyliau a'n teimladau o hyd ac mae cerfwyr hyd heddiw sy'n driw i'r traddodiad gwerin, yn creu llwyau i gomisiwn neu fel anrhegion i deulu a ffrindiau.

Crefft yw hon sy'n parhau i esblygu a chrefft sy'n siŵr o lawenhau ac ysbrydoli am genedlaethau i ddod.

O weld amrywiaeth eang y dyluniadau yng nghasgliad yr Amgueddfa, mae'n amlwg bod gan y cerfwyr rwydd hynt i addurno eu llwyau. Er bod pob llwy yn unigryw, gyda llythrennau neu ddyddiadau sy'n personol i'r derbyniwr yn aml, dros amser, datblygwyd cyfres o symbolau a ddefnyddiwyd i gyfleu syniadau a theimladau rhamantus. Gellir dehongli'r symbolaeth hon mewn amryw ffyrdd wrth gwrs, a dim ond dychmygu gwir deimladau'r cerfiwr wrth ei waith allwn ni.

  • Calonnau      
    Symbol cariad ym mhob cwr o'r byd a welir yn aml ar lwyau caru Cymreig. Arwydd o angerdd ac emosiwn dwfn sy'n sicr yn cyfleu dwyster teimlad y cerfiwr at ei anwylyd. Mae'n bosibl bod llwy â dwy galon ddangos cariad cytun rhwng y crefftwr a'r derbyniwr.
  • Powlenni dwbl       
    Yn achlysurol cai llwyau caru eu cerfio gyda dwy bowlen neu fwy, gan ddangos, o bosibl, undod yr eneidiau cytun neu nifer y plant y bwriedir eu cael.
  • Coma neu siâp persli       
    Siâp sydd i'w weld yn aml ar lwyau caru Cymreig hanesyddol y dwedir ei fod yn cynrychioli'r enaid a serch dwys.
  • Peli mewn cawell       
    Credir bod peli wedi'u cerfio mewn cewyll yn cynrychioli nifer y plant y bwriada'r cerfiwr eu cael, ond gall hefyd gynrychioli gŵr sy'n gaeth gan ei gariad.
  • Cadwyni       
    Caiff rhain eu hystyried fel arwydd o deyrngarwch a ffyddlondeb, ond gallant hefyd fod yn arwydd o gwpl wedi'i clymu gan eu cariad a'u ffyddlondeb.
  • Diemwntau       
    Credir bod diemwntau yn dymuno llewyrch ac yn addewid i ddarparu'n dda i'ch cariad.
  • Allweddi a thyllau clo       
    Yn ogystal â'r tŷ, gwelir delweddau eraill ar lwyau caru Cymreig weithiau sy'n arwydd o gartref dedwydd – mae allweddi a thyllau clo yn cael eu cerfio'n aml er mwyn cyfleu diogelwch, neu'r syniad rhamantus o allwedd y galon.
  • Olwyn      
    Mae olwynion i'w gweld yn aml ar lwyau caru Cymreig a dywedir eu bod yn brawf o addewid y cerfiwr i weithio'n galed ac arwain ei gymar drwy fywyd.

Gwnewch eich llwy garu rhithiol eich hun.

Cymerwch olwg ar ein siop ar lein am syniadau Dydd Santes Dwynwen

Ymweld â'r siop ar-lein

Ceffylau yng nglofeydd Cymru

Ceri Thompson, 6 Hydref 2023

Mae golwr yn sefyll o dan y ddaear mewn pwll glo; mae'r trawstiau pren o'i gwmpas ac mae'n gafael mewn ceffyl glo
Mae dau ddyn yn dal ffrwyn dau geffyl. Mae’n dywyll ond mae olwyn glo i’w weld yn y cefndir; mae wyneb un dyn yn edrych yn ddifrifol
Ceffyl brown yn sefyll ar drac mewn pwll glo; mae sied werdd un ochr iddo a thomen lechi yr ochr arall, mae'r cefyll yn tynnu cart y tu ol iddo
Ceffyl gwyn yn rhedeg mewn cau; mae coed yn y pellter tu ol iddo

Mae ceffylau wedi bod â chysylltiad agos â chloddio glo ers dyddiau cynnar y diwydiant. Cawson nhw eu defnyddio i gludo glo o'r pyllau i'r cwsmer, i bweru injans weindio a phwmpio ac, yn bwysicaf oll, i symud glo o'r talcen glo i'r siafft.

Ym 1878 cyfrifodd yr RSPCA fod dros 200,000 o geffylau yn gweithio ym mhyllau glo Prydain. Lleihaodd y niferoedd wrth i fecaneiddio ddod yn fwy cyffredin, ond parhawyd i'w defnyddio trwy gydol yr ugeinfed ganrif. Mae’n debyg mai ceffyl pwll glo olaf Cymru oedd Robbie, a ymddeolodd o Bwll Glo Pant y Gaseg ym 1999.

'Merlod pwll glo,' oedd enw mwyaf cyffredin y cyhoedd arnyn nhw, ond roedd ceffylau pwll glo Cymru fel arfer tua 15 dyrnfedd o uchder – yr un maint â cheffylau rhyfel Harri VIII. Honnir yn aml iddyn nhw fynd yn ddall, ond ni fyddai ceffyl dall wedi bod yn ddefnyddiol iawn o dan y ddaear, ac fel arfer byddai unrhyw anifail a oedd wedi colli ei olwg yn cael ei ddwyn i'r wyneb cyn gynted â phosibl.

Er eu bod yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu glo cyn cyflwyno cludiant mecanyddol, mae defnyddio ceffylau yn y diwydiant glo yn aml wedi bod yn ddadleuol iawn. Dadleuai'r perchnogion glo eu bod yn hanfodol yn y broses economaidd o dynnu glo, a byddai'r rhai sy'n caru anifeiliaid yn ystyried eu defnydd yn greulon.

Yn y canol, rhwng y ddwy ochr, oedd y glowyr, a oedd efallai yn cydymdeimlo â'r anifeiliaid hyn. Fodd bynnag, gallen nhw anwybyddu unrhyw greulondeb, neu hyd yn oed fod yn greulon eu hunain, pe bai eu pecyn cyflog dan fygythiad.

Roedd ceffylau pwll glo Cymru fel arfer tua 15 dyrnfedd o uchder ac yn wrywod, adfeirch yn bennaf ond roedd rhai meirch yn cael eu cadw. Roedd y mwyafrif o deip Cob Cymreig ond roedd ceffylau mwy megis ceffylau gwedd a cheffylau a fewnforiwyd o Wlad Belg hefyd yn cael eu cadw, yn enwedig ar yr wyneb neu ar y prif ffyrdd cludo. Pan oedd y stociau o geffylau yn isel, roedd modd eu cael o mor bell i ffwrdd ag America a Rwsia. Roedd merlod llai, tua 13 dyrnfedd o uchder, yn cael eu defnyddio weithiau ar gyfer dyletswyddau cludo ysgafn.

Roedd yn rhaid iddyn nhw fod o leiaf 4 oed cyn cael eu derbyn i waith pwll glo. Ym 1893, roedd disgwyliad oes cyfartalog ceffyl pwll glo rhwng 8 a 9 mlynedd, a byddai tua 6% yn cael eu lladd mewn damweiniau. Erbyn y 1950au roedd hyn wedi codi i rhwng 10 a 15 mlynedd, er bod rhai a oedd yn cyflawni 'tasgau ysgafn' yn dal i fod mewn cyflogaeth a hwythau dros 20 oed.

Erbyn y 1930au, roedd y rhan fwyaf o geffylau yn gweithio rhwng 45 a 60 awr yr wythnos. Ar ôl 1949 nid oedd uchafswm yr oriau gwaith i fod yn fwy na 48 awr a dim mwy na 7 shifft, yr wythnos. Roedd ganddyn nhw hefyd hawl i'r un egwyl o 20 munud â'r dynion.

Ym 1938, roedd gan lowyr hawl i wythnos o wyliau blynyddol â thâl, ac roedd y ceffylau fel arfer yn cael eu caniatáu uwchben y ddaear hefyd. Erbyn 1948 roedd y glowyr a'r ceffylau yn cael pythefnos o wyliau blynyddol.

Erbyn 1878, roedd yr RSPCA yn amcangyfrif bod tua 200,000 o geffylau yn gweithio ym mhyllau glo Prydain. Erbyn 1913 roedd hyn wedi gostwng i 70,000, oherwydd dulliau cludo mecanyddol gwell. Ym 1930 adroddwyd nad oedd gan 25 o byllau glo Cymru unrhyw geffylau o gwbl. Ym 1947 roedd yna tua 8,000 o geffylau pwll glo yng Nghymru, erbyn 1967 dim ond 417 oedd. Erbyn yr 1980au roedd ceffylau'r Bwrdd Glo Cenedlaethol yn cael eu hymddeol ond, mewn 'pyllau preifat' llai, cafodd ceffylau eu defnyddio am rai blynyddoedd eto.

Ymddeolodd ceffylau pwll glo olaf Cymru, Gremlin a Robbie, o Bwll Glo Pant y Gaseg, Pont-y-pŵl, ym 1999. Cawson nhw eu hanfon i un o gartrefi gorffwys yr RSPCA yn Milton Keynes, ond roedd hynny'n rhy ddiflas i Robbie, a chafodd ei fenthyg i Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Lloegr yn Wakefield lle bu'n tynnu tybiau ysgafn o ymwelwyr o amgylch y safle. Bu farw Robbie ar 27 Ebrill 2009, y ceffyl pwll glo olaf yng Nghymru yn ôl pob tebyg.

I lawer o ymwelwyr â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, y rhannau mwyaf cofiadwy yw’r stablau tanddaearol a'r rhai ar yr wyneb, sy’n dal i ddwyn enwau’r ceffylau a oedd yn gweithio yno. Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, roedd tua 300 o geffylau yn gweithio ym mhyllau glo Blaenafon, a 72 ohonyn nhw’n gweithio yn Big Pit.

Daethpwyd â'r ceffyl tanddaearol olaf yn Big Pit i fyny ym 1972, ond parhaodd dau geffyl i weithio ar yr wyneb tan 1974.

Boed yn 'anifail anwes bodlon' neu'n 'ferlyn pwll truenus', roedd y ceffyl pwll glo yn rhannu'r un amodau a pheryglon â'r glöwr ei hun. Buon nhw’n farw yn eu cannoedd o gamdriniaeth, damweiniau a ffrwydradau. Mae arnom ddyled fawr iddynt, gan gynnwys llwyddiant y chwyldro diwydiannol.

Yr Het Gymreig - Ddoe A Heddiw

Niamh Rodda, 27 Gorffennaf 2023


 

Hetiau bach o’r 1860au gan yr hetiwr o Gymru, John Evans. Mae’r Het Gymreig yng nghanol y llun.

        Mae hetiau’n aml yn wleidyddol. Hawdd fyddai cymryd yn ganiataol mai gwarchod pen rhag y tywydd yw eu hunig bwrpas, ond o feddwl ychydig am y peth, fe welwch eu bod yn llawer mwy na hynny. O gap pig coch ‘Make America Great Again’, i gapiau cochion y Chwyldro Ffrengig, i unrhyw hetiau milwrol - mae hetiau’n cael eu defnyddio’n aml i nodi ar ba ochr ydych chi. Mae hetiau, fel sy’n wir am bob ffasiwn, yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth enfawr o ffyrdd i gyfathrebu ag eraill, a gallan nhw ddynodi ystod o wybodaeth wrthon ni: cenedligrwydd, rhywedd, diddordebau a hunaniaeth. Mae’r het yn aml yn gysylltiedig â hunaniaeth grŵp; mewn torf o bobl gall yr het fod yn ddynodwr allweddol ac os caiff ei gwisgo gan grŵp mawr o bobl gall greu delwedd drawiadol. Mae’r Het Gymreig, a oedd yn cael ei gwisgo’n draddodiadol gan ferched, yn gwneud yn union hynny, ac mae ei chorun du tal a’i chantel caled yn creu edrychiad unigryw a thrawiadol sydd wedi cael ei ddefnyddio fel symbol o Gymreictod ers amser maith.

 

Cyn yr Het Gymreig

Mae yna gred gyffredin mai dyfais Fictoraidd oedd yr het Gymreig a’r wisg genedlaethol – rhan o dreftadaeth Gymreig ddychmygol – ond mae digon o dystiolaeth yn mynd yn ôl ganrif ynghynt sy’n dweud fel arall wrthon ni. Mae’n bosib bod y Fictoriaid wedi curadu fersiwn benodol o’r wisg Gymreig ac wedi cadarnhau’r syniad ohoni fel ‘Gwisg Genedlaethol Gymreig’ ond roedd y dillad eu hunain, gan gynnwys yr het, wedi bod yn cael eu gwisgo ers yn llawer hirach.

Cyn i’r Het Gymreig fod yn Gymreig, dim ond het oedd hi. Roedd hetiau â chorun uchel wedi’u gwneud o ffelt neu ffwr befar yn boblogaidd mewn llawer o wledydd ar un adeg. Roedd dynion a merched ledled Prydain yn ystod ail hanner y cyfnod Elisabethaidd yn gwisgo hetiau o’r fath i deithio ac i farchogaeth, ac yna mabwysiadwyd fersiwn â chantel lletach, sef ‘steil cafalîr’, gan y dosbarth canol yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg. Ar yr adeg yma roedd hetiau’n symbol pwysig o statws. Ffwr befar oedd y defnydd o safon a fyddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer hetiau ffelt, ond roedd ffeltio’r ffwr yn anodd ac yn gostus ac o 1670 ymlaen, roedd y cynnyrch yn aml yn cael ei fewnforio o America. Mae Samuel Pepys yn nodi yn ei ddyddiadur ym 1661 fod het befar wedi costio 45 swllt iddo. O tua 1640 i 1660 daeth fersiwn o’r het befar gyda chorun tal, sef yr het bigfain, yn boblogaidd, a oedd yn edrych yn debyg iawn i’r hyn y bydden ni’n ei ystyried yn het Gymreig heddiw. Heddiw mae hetiau o’r steil yma’n cael eu cysylltu’n gryf â’r Piwritaniaid a’r pererinion i America, oherwydd eu dyluniad syml, di-addurn. Felly hyd yn oed 400 mlynedd yn ôl, roedd yr het yn llawn ystyr, o gyfoeth a dosbarth i dueddiadau gwleidyddol a chrefyddol.

 

Ni a Nhw

Tra bod yr het bigfain ddu, ynghyd â nodweddion eraill rydyn ni’n eu cysylltu heddiw â’r wisg genedlaethol, yn gyffredin ledled Ewrop ac America yn yr ail ganrif ar bymtheg, yn y ddeunawfed ganrif y gwelwn wahaniaeth mewn steil. Tra bod tueddiadau ffasiwn mewn mannau eraill yn newid, roedd y werin yng Nghymru yn dewis cadw’r ymddangosiad hŷn yma. Wrth i ffasiwn newid yn gyflym yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif, roedd y ffaith bod y dosbarthiadau is yng Nghymru yn ymwrthod â’r steiliau newydd (boed hynny’n fwriadol neu oherwydd diffyg arian) yn golygu bod gwahaniaeth nodedig yng ngwisg y dosbarthiadau is yng Nghymru o gymharu â’u cyfoedion yn Lloegr. Mae hyn yn cael ei ddogfennu mewn nifer o adroddiadau gan deithwyr o Loegr a wnaeth sylwadau ar y gwahaniaeth mewn dillad rhwng y Saeson a’r Cymry, ac ymhlith y rhain mae disgrifiadau o het ddu uchel a oedd yn cael ei gwisgo gan ferched. 

Paentiad gan Julius Caesar Ibbetson, Gwisgoedd Castellnewydd Emlyn, 1792

Arlunydd o Loegr oedd Julius Caesar Ibbetson a greodd nifer o weithiau yn cyfleu golygfeydd o fywyd Cymreig ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Drwy’r gweithiau hyn, gellir gweld delwedd amlwg o ferched dosbarth gweithiol Cymru. Mae’r paentiadau’n cyfleu gwisg sy’n wahanol i’r hyn a oedd yn wisg ffasiynol ledled Ewrop yn ystod y 1790au, ac mae bron pob un o’r gweithiau’n cynnwys merched yn gwisgo’r hyn y gallwn ei ystyried yn amrywiad cynnar o’r het Gymreig. 

Yn Gwisgoedd Castellnewydd Emlyn o 1792, mae pob un o’r 14 o ferched yn yr olygfa, yn ogystal â’r ddau blentyn, yn cael eu darlunio’n gwisgo hetiau ag ymylon du sydd bron yn union yr un fath â’i gilydd. Er bod yr hetiau’n fyrrach ac yn llai caled na’r hyn rydyn ni’n ei ystyried yn het Gymreig heddiw, mae yna debygrwydd amlwg o ran steil. Yn yr arysgrif o dan y paentiad dyfrlliw, mae Ibbetson yn nodi “peculiar drefs and costume of the peasantry, in the district around Newcastle Emlyn in Pembrokeshire.” Yma mae’r arlunydd o Loegr yn tynnu sylw at y ffaith fod gwisgoedd merched Cymru yn dra “hynod” iddo o’u cymharu â gwisgoedd yn Lloegr. Mae’r gwisgoedd hyn hefyd yn debyg i’r hyn y byddai rhywun yn ei feddwl amdano heddiw fel y wisg genedlaethol Gymreig, gyda’u patrymau streipiog a brith, a’u siolau a’u ffedogau. Yn ogystal â golwg nodedig y wisg, yr hyn sy’n rhyfeddol yw unffurfiaeth yr hetiau ymhlith yr holl ferched. Ar yr adeg yma roedd amrywiaeth eang o steiliau mewn hetiau, bonedau, capiau, tyrbanau, ategolion gwallt, wigiau a steiliau gwallt a dewis enfawr o addurniadau i’w hychwanegu gan gynnwys blodau, rhubanau a phlu. Fodd bynnag, yng ngweithiau Ibbetson, gwelwn un steil du di-addurn.

Roedd y Cymry’n ymwybodol o unffurfiaeth drawiadol y wisg Gymreig, a daeth yn symbol strategol o bŵer torfol. Yn ôl yr hanes enwog, dywedir ei fod wedi helpu i drechu pwerau milwrol goresgynnol hyd yn oed. Ym 1797, glaniodd llongau rhyfel Ffrainc yn Sir Benfro yn yr hyn a elwir yn Frwydr Abergwaun. Mae sawl adroddiad yn dogfennu sut y bu i gannoedd o ferched mewn siolau coch a hetiau befar du Cymreig sefyll ar hyd yr arfordir y tu ôl i fyddin Prydain gan greu’r ddelwedd o bell eu bod nhw hefyd yn filwyr; arweiniodd hyn i’r Ffrancwyr ildio’n ddiamod. Yn sgil hyn, ystyriwyd bod y wisg genedlaethol Gymreig yn symbol o gryfder ac undod, a daeth yn rhan o etifeddiaeth Gymreig falch a chafodd ei gwreiddio yn hanes y genedl.

 

Gwisg Genedlaethol

Atgynhyrchiad o 1931 o gardiau post “Dull-wisgoedd Cymru/Cambrian Costumes“ gan Arglwyddes Llanofer ym 1834 (wedi'i docio)

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd yr het Gymreig a gweddill y wisg Gymreig i fod â steil sydd hyd yn oed yn fwy diffiniedig. Cyn hynny, nid yr het Gymreig oedd yr unig het oedd yn cael ei gwisgo o bell ffordd, yn rhannol gan ei bod yn ddrytach na hetiau ffelt neu wellt eraill. Roedd llawer o amrywiadau lleol ar yr het Gymreig hefyd; roedd yr het uchel yn boblogaidd mewn trefi mwy fel Caerdydd, Bangor a Chaerfyrddin, tra bod hetiau gwellt is gyda chorun gwastad yn boblogaidd ym Mhenrhyn Gŵyr, gan eu bod yn caniatáu i ferched gario basgedi cocos ar eu pen ac yn fwy addas ar gyfer y tywydd gwyntog. Ond dros y ganrif, byddai’r het yn cael ei newid i’r edrychiad mwy unigol, safonol ac unffurf rydyn ni’n meddwl amdani heddiw fel yr het Gymreig.

Arglwyddes Llanofer (1802 i 1896) oedd y person a ddylanwadodd yn fawr ar y defnydd o’r wisg Gymreig draddodiadol, a bu’n gweithio’n ddiflino i hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Ysgrifennai’n helaeth am y wisg Gymreig, a chynhyrchodd gyfres o ddarluniau ar y testun, a chanddi hi y cawn y traddodiad o wisgo’r wisg genedlaethol ar Ddydd Gŵyl Dewi. Er nad Arglwyddes Llanofer a ddyfeisiodd y wisg genedlaethol Gymreig, gweithiodd yn galed i ddod â’r wisg o gyfyngau’r dosbarth gweithiol, i gymdeithas y dosbarth uwch, gan fynnu bod yn rhaid i westeion i’w phartïon wisgo’r wisg genedlaethol hyd yn oed.

Ym 1832, daeth y Dywysoges Fictoria (cyn bod yn frenhines) a’i mam ar ymweliad i’r gogledd, ac yn eu coets roedden nhw’n gwisgo hetiau Cymreig wrth basio drwy Fangor ‘i dalu teyrnged i forwynion hardd Cymru’. Felly erbyn hyn, gallwn weld y trawsnewidiad llwyr o wisg draddodiadol y werin i’r wisg genedlaethol ffasiynol ar gyfer pob dosbarth. Yn y ganrif honno felly, mae’r het a’r wisg genedlaethol yn dod yn ddillad ffurfiol smart. Roedd merched yn dewis gwisgo eu gwisg orau wrth werthu eu nwyddau yn y farchnad, yn ogystal ag ar y Sul i’r eglwys a’r capel. Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, byddai llawer o gystadlaethau’r Eisteddfod yn cynnig gwobr am yr het Gymreig orau hyd yn oed. Yn ystod y ganrif hon, mae’r het Gymreig wedi dod yn symbol o falchder cenedlaethol. Wrth ddisgrifio’i chyfnod yn y gorllewin, ysgrifenna’r llenor o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Marie Trevelyan, ym 1893: “Yno, mae’r het befar yn dal i gael ei gwisgo o hyd gan rai o’r merched prydferthaf a glanaf yn y dywysogaeth. Maen nhw’n ferched trwsiadus iawn”.

Mae’n anodd nodi’n union pryd rhoddwyd y gorau i wisgo’r het Gymreig o ddydd i ddydd oherwydd poblogrwydd aruthrol delwedd yr ‘hen fenyw Gymreig’. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif roedd y wisg Gymreig wedi newid o fod yn ddillad arferol, i wisg o Gymreictod ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus a thwristiaeth. Daeth delwedd y Wisg Genedlaethol Gymreig yn thema doreithiog ar gardiau post, cofroddion, a thwristiaeth yn nhrefi glan môr Cymru. Felly roedd pobl yn parhau i wisgo’r Het Gymreig ond roedd ei hystyr wedi newid unwaith eto.

Het i Bawb

 Ar hyd y canrifoedd, roedd y defnydd o’r het Gymreig yn symud yn ôl ac ymlaen o ran steil, o’r werin i’r teulu brenhinol. Nid dosbarth oedd yr unig ffin ddiwylliannol yr oedd yr het yn ei chroesi. Mae’r het hefyd wedi mynd y tu hwnt i ffiniau dillad rhywedd. Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif, roedd y steil yma o het yn cael ei hystyried i raddau helaeth yn het i ddynion, a oedd yn dderbyniol yn gymdeithasol i ferched ei gwisgo yng nghyd-destun marchogaeth a theithio yn unig (gweithredoedd a oedd yn aml yn cael eu hystyried fel rhai gwrywaidd) ac eto yng Nghymru, mae’n ymddangos bod y drefn honno’n cael ei hanwybyddu. Yn y ddeunawfed ganrif, roedd llawer o ddisgrifiadau Saesneg am ferched yng Nghymru yn gwisgo mewn modd ‘hynod’, ac yn nodi eu bod yn gwisgo ‘hetiau dynion’. Mynychodd Mary Yorke, teithiwr i Gymru ym 1774, wasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a sylwodd ar hen wraig gyda “sgarff dros ei phen a het fel het i ddynion”. Er gwaethaf hyn, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, roedd yr het Gymreig wedi dod yn eitem oedd â chysylltiad cryf â bod yn fenyw Gymreig. 

Er bod hetiau Cymreig yn cael eu hystyried yn draddodiadol fel dilledyn i ferched, mae bellach yn ddilledyn sy’n herio’r deuaidd yn fwyfwy, gydag artistiaid cwiar cyfoes yn benodol yn defnyddio’r het yn eu gwaith fel symbol cenedlaethol y gall unrhyw un ei gwisgo. Felly, mae’r het a ddechreuodd yn ôl pob tebyg fel het dyn yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac a fabwysiadwyd wedi hynny gan ferched, unwaith eto yn llwyddo i orchfygu’r rhywedd deuaidd yn y rhai sy’n ei gwisgo heddiw. Ac felly, wrth i’r pendil ffasiwn symud o un pen o’r sbectrwm i’r llall, rydyn ni’n ei weld yn dechrau siglo’n ôl heddiw.

Nid yw’r berthynas ddeinamig yma rhwng y Cymry, dillad, a rhywedd yn rhywbeth newydd. Yn y 1800au, roedd merched a oedd yn gweithio yn y pyllau glo yn gwisgo dillad bechgyn, gan gynnwys trowsus, er mwyn gallu cropian drwy’r pyllau. Yn ystod Terfysgoedd Beca gwelwyd dynion yn gwisgo dillad merched mewn protestiadau treisgar, ac fel y soniwyd eisoes, cafodd merched mewn gwisg Gymreig eu camgymryd fel milwyr Prydeinig yn ystod Brwydr Abergwaun. Mae’r Het ei hun, mewn sawl ffordd, yn eitem androgynaidd - mae ei nodweddion du ac onglog llyfn yn llawer tebycach i eitemau gwisg gwrywaidd nodweddiadol fel siwt a het silc na llawer o ddillad benywaidd traddodiadol. Mae ei nodweddion onglog yn aml yn gwrthgyferbynnu â’r cap gwyn â ffrils a lesys oddi tano. Efallai mai dyma’n rhannol pam ei bod yn bwnc mor ddiddorol i lawer o artistiaid cwiar heddiw.

Ffotograff o berfformwyr o’r grŵp Dawns Gyfoes Qwerin. Ffotograff gan Sioned Birchall.

Yn y grŵp perfformio dawns gyfoes Qwerin, sy’n cael ei gyfarwyddo a’i goreograffu gan Osian Meilir, mae perfformwyr yn asio dawns werin draddodiadol Gymreig ag egni’r bywyd nos cwiar. Mae’r perfformwyr yn gwisgo ffurf wedi’i haddasu o’r wisg genedlaethol, ynghyd â hetiau Cymreig hynod o fawr, sy’n hongian drosodd ac yn cuddio llawer o wynebau’r perfformwyr, gan eu gorfodi i edrych allan drwy dyllau wedi’u torri allan yn ochr yr het. Mae’r gwisgoedd hyn, a ddyluniwyd gan Becky Davies, yn adrodd stori weledol drawiadol. Mewn dyfyniad gan Osian am y perfformiad maen nhw’n dweud:

“Mae’r het yn creu rhyw fath o bresenoldeb, sy’n rhoi ymddangosiad sinistr a dirgel i ni. Mae’r hetiau, sy’n symbol o ddiwylliant Cymreig, yn cyfleu’r union bethau sy’n ein cyfyngu rhag symud ymlaen yn gorfforol at ddawnsio mwy egnïol a llawen. Drwy dynnu’r hetiau yma rydyn ni’n dileu’r blynyddoedd o gywilydd, baich a gormes, gan dorri cysylltiadau â disgwyliadau a chyfyngiadau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae aduno a chyfarch yr hetiau tua diwedd y gwaith yn weithred o dderbyn, derbyniad o’n hunaniaeth ein hunain. Rydyn ni’n croesawu’r hetiau yma’n ôl i’n breichiau fel symbol o ddilyniant, undod, cytgord a newid; symud gyda’n gilydd i ddyfodol newydd, Cymru gwiar.”

Mewn geiriau eraill, mae’r het wedi dod yn symbol o hen Ddiwylliant Cymreig, ond yn hytrach na symbol y gellir gadael iddo lithro i ffwrdd, yn symbol y gellir ei ailfywiogi gydag ysbryd cyfnod newydd o hunaniaeth Gymreig.

 

Seicoleg Hetiau

Mae’r Het yn eistedd mewn man amlwg ar y gwisgwr, mae’n fframio’r wyneb ac mae modd i’r gwisgwr ei gweld yng nghornel eu llygaid. Mae hyn yn golygu y gallan nhw ddod yn arfau pwerus yn y ffordd rydyn ni’n gweld ein hunain. Wrth drafod hetiau, dywedodd y golygydd ffasiwn, Isabella Blow, sy’n adnabyddus am wisgo hetiau: “Mae ffasiwn yn beth fampiraidd, hwn yw’r hwfer ar eich ymennydd. Dyna pam dw i’n gwisgo’r hetiau, i gadw pawb draw oddi wrtha i.” Mae Isabella yn cyfeirio at ofynion cymdeithasol ffasiwn a chydymffurfiaeth, sy’n gallu bod yn ormesol, a sut gall chwarae ar y meddwl; fel gwrthbwynt i hyn, mae’r het yn cyflawni rôl tarian feddyliol a chorfforol. Mae het ag ymylon llydan yn creu ac yn mynnu pellter corfforol rhwng pobl, ac yn gwneud yr un peth yn seicolegol hefyd, gan greu gwahaniaeth amlwg rhwng y sawl sy’n ei gwisgo a’r rhai nad ydyn nhw’n ei gwisgo. Yn ei hanfod, mae gan het y potensial i greu ymdeimlad o wahanu a hunaniaeth annibynnol rhwng y gwisgwr a’r llall. Gall hyn roi cipolwg ar lwyddiant yr het Gymreig, fel tarian amddiffynnol, mae’n symbol o warchod diwylliant a threftadaeth Cymru.

 Yn olaf, mewn dyfyniad arall gan Isabella, mae’r ymdeimlad cynhenid o hunaniaeth sy’n gysylltiedig â’r het yn cael ei atgyfnerthu“Dydw i ddim yn defnyddio het fel prop, dw i’n ei defnyddio fel rhan ohona i. Os ydw i’n teimlo’n isel, dw i’n mynd i weld Philip (Treacy), yn gorchuddio fy wyneb, ac yn teimlo’n wych”. Felly mae sut mae rhywun yn gwisgo yn effeithio nid yn unig ar sut mae eraill yn eich gweld, ond sut rydyn ni’n gweld ac yn teimlo amdanon ni ein hunain. Os yw dillad yn estyniad o’n hunain, yna mae caru’r dillad rydyn ni’n eu gwisgo yn creu potensial i’n helpu ni i weld ein hunain yn wahanol. Yn achos yr het Gymreig gall fod yn symbol o gryfder, cenedligrwydd, a balchder. I’r rhai sy’n gwisgo’r Het Gymreig heddiw, boed wrth ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, fel rhan o wisg dawns yn yr Eisteddfod, neu am hwyl, mwynhewch wisgo’r Het i’ch helpu i deimlo’n wych ac i’ch cysylltu â 400 mlynedd o hanes a treftadaeth Cymru.

 

Cyfeiriadau / Darllen Pellach

  • British Vogue, Isabella Blow, Bibby Sowray. 4 Tachwedd (2011)

  • Folk life, Welsh Peasant Costume, F. G. Payne. cyfrol II (1964) 

  • Textile history, Welsh peasant dress-workwear or national costume?, Christine Stevens. 33 (I) (2002)

  • The costume accessories series, Hats, Fiona Clark. (1982)

  • Welsh Costume, Ken Ethridge. (1958)

  • Women in Welsh History, Derek Draisey. (2004)

  • Women’s Headdress and Hairstyles in England from A.D.600 to the Present Day, Georgine de Courtais.(1986)

Dolenni gwe

Gwen John: ‘Y naws sy’n bwysig’ Rhan 2

Neil Lebeter, 9 Mehefin 2020

Dyma ail flog sy’n cymryd cip ar waith Gwen John yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Yn y rhan gyntaf dyma ni’n trafod sut y daeth y casgliad mwyaf o waith Gwen i Gaerdydd ac yn cymryd cip ar ei thechneg gynnar.

Newidiodd y dechneg hon yn ddramatig wedi canol y 1910au. Canolbwyntiodd Gwen bron yn gyfangwbl ar bortreadau o fenywod, gan ddefnyddio paent yn ddarbodus iawn, heb haenau uwch na farnais. Does dim ymdrech i guddio’r brwswaith ac mae’r cyfosod yn fwy gwastad ond yn llai esmwyth. Gwelwn eto ymateb cyflym Gwen i’r gwynt celfyddydol wrth i artistiaid eraill Ewrop ddechrau defnyddio technegau tebyg.

Mae’n debyg bod Gwen John yn fwyaf adnabyddus am ei phortreadau. Ynddynt mae’n cyfleu rhyw naws annirnad sy’n llawn emosiwn. Yr hyn sy’n rhyfeddol am y gweithiau hyn yw cymhlethdod y cyfosod, a’r dechneg sy’n sylfaen i holl naws y gweithiau.

Ffordd dda o esbonio hyn yw i edrych ar waith anorffenedig…

Asstudiaeth o Ferch Noeth ar ei Heistedd (c.1920au)
Olew ar gynfas
32.4 x 24.1 cm

Mae arddull wastad a harmoni tonyddol portreadau Gwen John yn destun cyffredin, gyda’r gwrthrych a’r cefndir yn aml yn asio’n un arwyneb. Yr hyn sy’n rhyfeddol am dechneg Gwen yw ei bod hi’n paentio o ymylon y cynfas, yn aml heb fraslunio ymlaen llaw. Byddai’n dechrau yng nghornel y gynfas ac yn paentio am i mewn, fel y gwelwn yma. Wrth gael ei baentio’n olaf (neu ddim o gwbwl yn yr achos hwn) daw’r wyneb yn ail bron i’r cyfosodiad. Bydd unrhyw artist yn gwerthfawrogi crefft mor rhyfeddol o anodd yw hyn, a’r ymwybyddiaeth ofodol i greu cyfanwaith wrth ddechrau ar yr ymylon. Mae hyn hefyd yn dwysáu’r teimlad fod y cefndir a’r gwrthrych yn un – nid yw’r ffigwr, yn enwedig yr wyneb, yn ddim pwysicach na gweddill y paentiad.

Ar gefn y gwaith hwn mae fersiwn arall o’r un portread, y tro hwn gyda’i dillad ac yn fwy cyflawn. Yma eto gwelwn taw’r wyneb yw’r rhan olaf bron i gael unrhyw sylw.

Merch mewn Gwisg Las (c. 1914-15)

Merch mewn Gwisg Las (c. 1914-15)
Olew ar gynfas
41.8 x W 34.5 cm

Fe ddychwelwn ni yn awr at Merch mewn Gwisg Las. Wedi 1915 dechreuodd gwaith Gwen John newid yn ddarmatig a dyma un o’r esiamplau cynharaf o’i thechneg sych. Mae hwn yn waith rhyfeddol sydd gyda’r mwyaf poblogaidd yn Amgueddfa Cymru.

Yma mae Gwen yn defnyddio grwnd o galch a glud anifeiliaid, sy’n cynhyrchu swigod bychan wrth i’r calch gymysgu â’r glud cynnes, i roi arwyneb garw i’r cynfas. Mae’r grwnd hwn a’r haenau olew dilynol i gyd wedi eu taenu’n sych a thenau iawn, heb ymdrech i guddio’r brwswaith.

Yn y manylyn yma gellir gweld nad yw’r paent brown wedi glynu at y grwnd gwyn ym mhob man. Mae’n ein hatgoffa o ffresco sy’n pylu, ac yn ychwanegu at gymeriad bregus y portread. Mae’r paent wedi’i daenu mor sych a chyson nes bod y cefndir a’r gwrthrych yn ymddangos fel un, ac yn toddi i’r arwyneb.

Mae edrych ar y paentiad dan olau gwahanol hefyd yn datgelu gwybodaeth ddiddorol hefyd.

Drwy daflu golau o’r ochr gallwn ni weld pa mor anwastad yw’r cynfas – gwahanol iawn i gynfas llyfn proffesiynol. Mae hyn bron yn sicr yn fwriadol, i ategu’r gwead cyfoethog.

Mae golau is-goch yn dangos ychydig o waith braslunio, yn amlinellu prif elfennau’r cyfosodiad cyn paentio.

O astudio’r gwaith dan olau uwch-fioled gwelwn fod Gwen wedi dychwelyd at y gwaith, gan wneud newidiadau gyda phaent gwyn yn cynnwys mwy o sinc sy’n ymddangos yn gliriach dan olau UV. Mae’r gwaith tacluso yma hefyd yn ysgafn iawn.

Ond dyma’r darganfyddiad mwyaf syfrdanol…

Drwy daflu golau o gefn y cynfas gallwn weld cyn lleied o baent sydd wedi ei ddefnyddio. Mae’n grefft ryfeddol bod Gwen wedi llwyddo i greu darlun mor deimladwy heb ddefnyddio fawr ddim paent o gwbl. Dyw’r paent braidd yno.

Yr Ystafell Fechan (1926)

Yr Ystafell Fechan (1926)
Olew ar gynfas
Cymynrodd Gaynor Cemlyn-Jones, 2003
22.2 x 27.3 cm

Mae’r gwaith hwn o 1926 yn dangos ystafell yng nghartref Gwen yn un o faestrefi Paris, ac yn un o’r paentiadau a ddangoswyd yn unig arddangosfa unigol Gwen yn ystod ei bywyd. Gwelwn baled cyfyngedig, gyda gwanhaniaethau arlliw cynnil yn y cefndir a’r tebot yn ganolbwynt bychan yng nghanol y cynfas.

Wedi erchyllter y Rhyfel Byd Cyntaf gwrthododd nifer o artistiaid syniadau avant-garde, gan ddychwelyd at arddulliau mwy traddodiadol. Cefnwyd er enghraifft ar Ddyfodoliaeth a Fortisiaeth gan fod y dechnoleg a’r awtomatiaeth a ddathlent cyn y rhyfel yn allweddol i’r gyflafan. Wrth ‘Ddychwelyd at y Drefn’ gwelwyd artistiaid fel Picasso a Braque yn troi o Giwbiaeth at ddulliau traddodiadol bron yn gyfangwbl. Cynyddodd poblogrwydd yr arddull Glasurol, ac o drefn a realaeth mewn paentio. Yn ei bywgraffiad o Gwen John, dywed Alicia Foster bod y gwaith yn gymhleth o’i ystyried dan faner ‘Dychwelyd at y Drefn’, ond mae Gwen yn cydgerdded â’r mudiad yn ei defnydd union a threfnus o liw, fel y gwelir yn Yr Ystafell Fechan.

Disgrifiodd Gwen sut y byddai’n defnyddio disg liw hynod gymhleth oedd yn nodi pob lliw a’i berthynas ag unrhyw liw neu arlliw arall. Datblygodd system nodiadau hefyd hefyd i fraslunio a chofnodi cyfosodiadau. Mae’r ‘cod’ hwn wedi bod yn hynod anodd ei ddatrys, ac mae gan ei nodiadau naws delynegol sydd, er ei brydferthwch, yn gwneud y gwaith ditectif yn anos fyth. Er enghraifft, pa liw fyddech chi’n ei ddyfalu yw ‘Gwawr caru’n ofer Ebrill ar y traeth liw nos’

Roedd gan Gwen system rifo yn ogystal â nodiadau lliw. Byddai’n creu brasluniau cyflym o bopeth – gwrthrychau yn ei hystafell ac ar ymweliadau, teithwyr ar y trên a cynulleidfa esglwys. Roedd y system rifo a’r nodiadau lliw yn ei galluogi i gofio lliwiau ac arlliwiau’r gwrthrychau y byddai’n eu cofnodi mewn pensil a siarcol.

Yn ddiweddarach byddai’n ailgreu ei darluniau mewn dyfrlliw, gouache neu olew, gan fireinio’r cyfosodiad a’r lliw.

Ffigwr yn yr Eglwys

Ffigwr yn yr Eglwys
Gouache ar bapur
16.7 x 12.3cm

Oddeutu 1913 trodd Gwen at Babyddiaeth. Byddai ei ffydd yn dod yn bwysig iawn iddi ac fe ddisgrifiodd ei hun fel ‘Artist bach Duw’. Addolwyr yn yr eglwys yw testun nifer o’i darluniau wedi hyn, yn aml i’w gweld o’r cefn neu’r ochr.

Yn Ffigwr yn yr Eglwys mae’r ffrog wedi’i lliwio â golchiad tenau o’r un lliw â’r het, ar gwallt yn gymysgedd o liw’r cefndir a’r het. Mae hyn yn allweddol i’r modd y byddai Gwen yn asio ei lliwiau. Nid yw symlrwydd o reidrwydd yn syml.

Gyda diolch i gydweithwyr Amgueddfa Cymru ddoe a heddiw am eu gwaith ymchwil trylwyr, yn enwedig David Fraser Jenkins, Beth McIntyre, Kate Lowry ac Oliver Fairclough. Mae bywgraffiad byr Alicia Foster, a gyhoeddwyd gan Tate, yn rhoi crynodeb drylwyr ac yn ailystyried elfennau pwysig o yrfa Gwen John.

Gwen John: ‘Y naws sy’n bwysig’ Rhan 1

Neil Lebeter, 27 Mai 2020

Gwen John yw un o artistiaid pwysicaf yr 20fed ganrif. Mae ei gwaith i’w weld mewn casgliadau ledled y byd gan gynnwys y Tate, Musée Rodin ac Amgueddfa Gelf Fetropolitan Efrog Newydd. Yn ffodus i ni yng Nghymru, yma yn Amgueddfa Cymru mae’r casgliad mwyaf a pwysicaf o’i gwaith. Rydyn ni’n mynd i gymryd cip ar y casgliad hwnnw a chanolbwyntio ar ddetholiad sy’n datgelu mwy am Gwen a’i thechneg, a pam mae ei gwaith yn dal mor berthnasol heddiw.

Ganwyd Gwen John yn Hwlffordd ym 1876, yn ail o chwech o blant ac yn chwaer fawr i Augustus John o ryw 18 mis. Symudodd y ddau i Lundain i astudio yn Ysgol Gelf Slade, gyda Gwen yno rhwng 1895 a 1898. Slade oedd un o’r ysgolion celf cyntaf i agor ei drysau i ferched, ac felly roedd Gwen ymhlith y genhedlaeth gyntaf o fenywod i dderbyn hyfforddiant celf ffurfiol.

Wedi gorffen yn Slade symudodd Gwen i Baris gan astudio yno dan law James McNeill Whistler. Yn Ffrainc y treuliodd y rhan fwyaf o’i bywyd, yn bennaf ym Mharis a’r cyffiniau – canolbwynt y byd celf – a cafodd ei haddysg a’i phrofiadau yno effaith ddofn ar ei gwaith. Talodd ei ffordd drwy weithio fel model artist, a thrwy hynny gyfarfod â Rodin a arweiniodd at berthynas angerddol.

Pan yn ymweld â’i chwaer ym Mharis, soniodd Augustus wrth y meistr Whistler fod gwaith Gwen yn dangos llawer o gymeriad. Yn ôl y sôn, ymateb Whistler oedd:

“Cymeriad? Beth yw hynny!? Y naws sy’n bwysig. Mae gan dy chwaer ymdeimlad da o naws.”

Y dyfyniad hwn yw ein man cychwyn, a byddwn ni’n edrych ar weithiau Gwen yng ngasgliad Amgueddfa Cymru o safbwynt naws, sut y datblygodd ei harddull, a’r ffaith nad yw symlrwydd o reidrwydd yn syml.

Casgliad Amgueddfa Cymru

Prin oedd y gwaith wnaeth Gwen John ei arddangos yn ystod ei bywyd, a dim ond un sioe unigol o’i gwaith a welwyd, yn Orielau Newydd Chenil yn Llundain ym 1926. Prin oedd y gweithiau a werthodd hefyd – byddai’n aml yn eu rhoi’n anrhegion – ac wedi ei marw y casglwyd y rhan fwyaf o’i lluniau. Un cefnogwr brwd oedd y noddwr o’r UDA, John Quinn, a brynodd 39 o’i gweithiau, a dyma’n rhannol pam fod cyfran helaeth o’i gwaith yn yr UDA. Roedd ei gefnogaeth yn rhoi peth rhyddid ariannol iddi arfer ei chrefft.

Prynodd Amgueddfa Cymru y gwaith cyntaf gan Gwen John ym 1935, Merch mewn Gwisg Las, a hynny am £20 ar ôl iddo gael ei ddangos mewn arddangosfa o Artistiaid Cyfoes Cymru yn Oriel Gelf Deffett Francis Art yn Abertawe. Wedi iddo gael ei brynu, ysgrifennodd Gwen y nodyn byr isod i’r Amgueddfa:

Llythr gan Gwen John at David Kighley Baxandall, Ceidwad Celf Cynorthwyol, 21/11/1935

Llythr gan Gwen John at David Kighley Baxandall, Ceidwad Celf Cynorthwyol, 21/11/1935

Llythr gan Gwen John at David Kighley Baxandall, Ceidwad Celf Cynorthwyol, 21/11/1935

“Rwyf yn llawn llwenydd a balchder eich bod chi wedi prynu un o fy mheintiadau bach i dros yr Amgueddfa, a diolchaf i chi am eich canmoliaeth a’ch beirniadaeth ohono. Mewn erthygl ar yr arddangosfa mae eich gwerthfawrogiad medrus a greddfol o waith fy mrawd wedi rhoi boddhad i mi. Yr eiddoch yn gywir iawn Gwen John”

Er bod Merch mewn Gwisg Las yn parhau’n un o’r paentiadau pwysicaf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru prin oedd y sylw a roddwyd i waith Gwen yn ystod ei bywyd na’r degawdau wedi ei marw. Hyd yn oed ym 1959, mae’n ymddangos yn y Penguin Dictionary of Art & Artists fel atodiad i’w brawd – does ganddi ddim cofnod personol.

Ond gwelwyd newid dramatig i’r casgliad yn Amgueddfa Cymru ym 1976 ar ganmlwyddiant ei geni. Y flwyddyn honno caffaelodd yr Amgueddfa dros 900 o ddarluniau, llyfrau braslunio a phaentiadau gan ŵyr Gwen, Edwin John. Yn y cagliad oedd cynnwys ei stiwdio pan fu farw 40 mlynedd ynghynt a chyfran helaeth o gynnyrch diwedd ei gyrfa. Yn sydyn, roedd yng Nghymru y casgliad mwyaf o’i gwaith yn y byd.

Techneg

Beth am gael cip ar y casgliad yma felly – yn enwedig ei gwaith diweddarach – a dod i ddeall yn well ei thechneg a’i datblygiad, a sut y defnyddiai Gwen ddull hynod gymhleth i gynhyrchu’r gweithiau hudolus sydd mor gyfarwydd i ni heddiw.

Cornel o Ystafell yr Artist ym Mharis (1907–9)

Cornel o Ystafell yr Artist ym Mharis (1907–9
Olew ar gynfas 
31.2 × 24.8 cm 
Prynwyd gyda chymorth Ymddiriedolaeth Derek Williams ac Ystâd Mrs J. Green 
 

Gall techneg paentio olew Gwen gael ei rannu’n daclus yn dechneg draddodiadol gynnar a thechneg sych ddiweddarach. Y gwaith diweddarach yw mwyafrif casgliad yr Amgueddfa ond mae hon yn esiampl dda o’r dechneg draddodiadol. Paentiwyd y llun hwn o ystafell Gwen mewn atig ym Mharis yn 1907-09. Saif cadair wiail unig wrth ffenestr agored ac ar y bwrdd bychan o dan y ffenestr mae llyfr agored. Cafodd y gwaith ei gaffael gan yr amgueddfa yn gymharol ddiweddar, ym 1995.

Mae nifer yn gweld ystafelloedd moel Gwen fel ymgorfforiad o’i bywyd meudwyol, ac mae’r llun hwn yn bendant yn atgyfnerthu’r darlleniad hwnnw. Daeth rhai i’r cagliad fod y gwaith, a baentiwyd pan oedd ei pherthynas â Rodin yn chwalu, yn bortread o absenoldeb. Ond mae Alicia Foster ac eraill yn dadlau y dylid ei weld yng nghyd-destun gwaith ei chyfoedion ym Mharis. Yn hytrach na phortread o feudwy, mae’n brawf fod Gwen wrth galon datblygiadau celfyddydol y ddinas ar y pryd.

Ar droad yr 20fed ganrif trodd nifer o artistiaid at Yr Ystafell fel testun, a Gwen John yn eu plith. Gwelir y gadair wiail hon mewn nifer o’i gweithiau o’r cyfnod. Roedd cadeiriau gwiail yn ysgafn a rhad ac i’w gweld mewn ystafelloedd a stiwdios cymaint o artistiaid nes dod yn symbol ffasiynol o hunaniaeth yr artist ym Mharis dechrau’r 20fed ganrif.

Beth am gymryd golwg agosach ar dechneg a deunyddiau’r paentiad hwn. Mae staff Cadwraeth Amgueddfa Cymru wedi ymchwilio’n helaeth i adeiladwaith paentiadau Gwen John, gan ddatgelu gwybodaeht ddiddorol am ei dull o weithio, a sut y newidiodd dros y blynyddoedd.

Mae Cornel o Ystafell yr Artist ym Mharis yn un o ddwy fersiwn o’r olygfa hon, ac mae’r llall yng nghasgliad Amgueddfeydd Sheffield. Roedd Gwen ar y pryd yn paentio gyda phaent olew gwlyb wedi’i adeiladu’n haenau dros gefndir gwyn. Caiff y brwswaith ei guddio ac mae’r gwaith yn ymddangos yn llyfn a llathraidd diolch i’r haen o farnais. Mae’r arddull yn nodweddiadol o dechneg yr Hen Feistri ac yn dangos hyfforddiant ffurfiol Gwen. Ar y chwith mae trawstoriad o’r haenau paent wedi’i gymryd o ochr chwith y paentiad, ger pen y gadair.

Ar y dde, mae’r haen binc sy’n rhoi gwawr gynnes i’r olygfa, ac mae’r paent dros ei ben yn denau iawn mewn mannau i ddatgelu’r pinc. Mae’r cyfan yn cyfleu naws hamddenol hwyr brynhawn neu noswyl, gyda’r llenni les yn chwythu’n hamddenol ar yr awel.

Yn ail ran y erthygl hwn byddwn ni’n edrych ar y newid mawr yn nhechneg ddiweddarach Gwen ac yn taflu goleuni newydd ar un o baentiadau pwysicaf yr Amgueddfa...

Gyda diolch i gydweithwyr Amgueddfa Cymru ddoe a heddiw am eu gwaith ymchwil trylwyr, yn enwedig David Fraser Jenkins, Beth McIntyre, Kate Lowr ac Oliver Fairclough. Mae bywgraffiad byr Alicia Foster, a gyhoeddwyd gan Tate, yn rhoi crynodeb drylwyr ac yn ailystyried elfennau pwysig o yrfa gwen John.