Gwaith cadwraeth ar wrthrychau'r Amgueddfa Lechi 16 Ebrill 2026 Mae cadwraeth wrth wraidd prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Genedlaethol ac mae'r tîm Cadwraeth eisoes yn gweithio'n galed yn asesu ac yn gweithio ar y casgliadau i'w cadw'n ddiogel a sicrhau eu bod yn edrych ar eu gorau, pan fydd yr Amgueddfa yn ailagor. Jennifer Griffiths yw Uwch Gadwraethwr Casgliadau'r Diwydiant ac mae'n un o sawl aelod o'r tîm sy'n gweithio ar gasgliad yr Amgueddfa. Dyma ychydig o hanes y gwaith mae hi'n ei wneud ar hyn o bryd: “Rydw i wedi dechrau fy rhan i o’r gwaith cadwraeth drwy drin troli tâliadau" meddai Jennifer. "Mae'r cabinet pren yma yn cynnwys 49 o duniau tâl bach wedi’u gwneud o dunplat. Roedd y cabinet a’r holl ddroriau yn y cabinet yn fudr iawn gyda baw ar yr wyneb a baw wedi’i wreiddio, ac roedd y tuniau i gyd wedi cyrydu’n drwm iawn. Gellir gweld y cabinet yma cyn ac ar ôl y gwaith cadwraeth. "Hyd yn hyn, mae cadwraeth y cabinet a 7 o’r tuniau wedi cymryd cyfanswm o 45 diwrnod o waith. Mae pob tun tâl yn cymryd 2 ddiwrnod i’w gwblhau, ac mae 7 tun wedi’u cwblhau hyd yn hyn. "Dim ond 42 tun i fynd!"Mae nifer o bobol eraill yn gweithio ar y casgliad hefyd yn cynnwys ein casgliad patrymau pren anferth, dilladau, dodrefn, papur a llawer mwy! Dros y misoedd nesaf byddwn yn edrych yn fwy manwl ar y holl elfennau gwahanol o gadwraeth sy'n mynd ymlaen yn rhan o'r project ailddatblygu cyffrous yma felly cadwch lygaid allan am fwy o hanes. Noddir y project ailddatblygu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Cyngor Gwynedd fel rhan o broject Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston a noddwyr eraill. Rydyn ni'n diolch o galon i'n holl noddwyr am eu cefnogaeth. Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.