Dathlu Merched sy’n Arwain: Helen Goddard, Cyfarwyddwr Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. 6 Mawrth 2026 Dathlu Merched sy’n Arwain: Dyma Helen Goddard, Cyfarwyddwr Prosiect yn Amgueddfa Lechi Cymru. Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, rydym yn rhoi’r llwyfan i rai o’r merched anhygoel sy’n siapio dyfodol Amgueddfa Lechi Cymru. Heddiw, rydym yn falch o gyflwyno Helen Goddard, Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer ein rhaglen ailddatblygu. Arwain gyda Phwrpas Fel Cyfarwyddwr Prosiect, mae Helen yn goruchwylio pob agwedd ar ailddatblygiad uchelgeisiol yr Amgueddfa Lechi. Ei rôl yw sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ei botensial yn llawn- yn greadigol, yn ddiwylliannol ac o fudd i gymunedau ledled Cymru ac ehangach. “Dwi’n gyfrifol am y prosiect yn ei gyfanrwydd,” meddai Helen, “a sicrhau ei fod yn cyflawni ei uchelgais.” Taith drwy Dreftadaeth Cyn ymuno â’r amgueddfa, bu Helen yn gweithio fel archeolegydd ac archeolegydd cymunedol. Treuliodd lawer o’i gyrfa gynnar yn Ynysoedd hardd y Gogledd a’r Gorllewin yn yr Alban, gan weithio’n agos ag ynyswyr ar brosiectau treftadaeth a chymunedol. Symudodd Helen i Gymru yn 2011 - gyda’r nod o ddysgu Cymraeg - a chafodd ei chymhwyso’n weithwyr amgueddfeydd wrth weithio i Gyngor Sir Conwy. Merched sy’n Arwain y Ffordd Mae Helen yn angerddol dros weld mwy o ferched yn camu i mewn i sectorau sydd yn hanesyddol yn cael eu harwain gan ddynion. Er bod cynrychiolaeth dda o ferched ym maes treftadaeth, mae’r sector adeiladu angen dal i fyny. Ond yma yn yr Amgueddfa Lechi, mae’r darlun yn newid. “Mae gennym nifer o ferched mewn rolau arweinyddiaeth yma,” meddai. “Ein Pennaeth Safle, Elen; y Rheolwr Datblygu Arddangosfeydd, Ulli; ein Curadur, Cadi; a’n Penaethiaid Prosiectau Cyfalaf, Julie a Diane. Maent i gyd yn ferched eithriadol.” Ei chyngor i ferched sy’n dymuno dilyn llwybrau tebyg? “Arwain o’r galon. Ti ddim angen ymddwyn mewn ffordd wrywaidd i arwain. Mae’n iawn i ddangos emosiwn, i gydweithio, ac ymddiried yn dy dîm”. Bywyd y Tu Allan i’r Amgueddfa Tu hwnt i’r Amgueddfa Lechi, mae gan Helen nifer o straeon annisgwyl - gan gynnwys un bennod gofiadwy yn ei bywyd: “Nes i weithio ar gwch pysgota yn Ynysoedd Heibridiau unwaith!” Ysbrydoliaeth gan Ddynes Gryf Mae Helen yn nodi ei mam fel un o’i dylanwadau mwyaf: “Daeth fy mam o deulu o 10 o blant yn byw mewn tlodi gwledig, ond gwnaeth hi greu ei llwybr ei hun. Nath hi fyth roi’r gorau i’r freuddwyd o helpu pobl, ac aeth ymlaen i ddod yn Nyrs Ymarferydd tuag at ddiwedd ei gyrfa.” Diolch am rannu, Helen, mi wyt yn ysbrydoliaeth ac yn arweinydd bendigedig!
Ystlumod yn Amgueddfa Lechi Cymru: Gwarchod ein preswylwyr lleiaf yn ystod y gwaith ail-ddatblygu 3 Mawrth 2026 Wrth i waith ailddatblygu ar y safle fynd yn ei flaen, mae cymuned bwysig o greaduriaid bach yn cymeryd blaenoriaeth yn ein cynlluniau - ein ystlumod bach! Gan weithio yn agos gyda'r Ecolegydd Carola Hoskins o SK Environmental Solutions Ltd, rydym wedi bod yn cadw llygaid ar yr ystlumod i gyd ar y safle a rydym yn gwarchod 10 clwyd ar y safle. Ystlumod soprano pipistrelle a pipistrelle cyffredinol yw rhain, sef dau o’r mathau lleiaf o ystlumod yn y DU. Mae 7 clwyd yn cael eu defnyddio gan ystlumod gwrywiadd, neu ystlymod benywaidd sydd ddim yn cario babi ond mae un yn arbennig iawn gan ei fod yn glwyd famolaeth sy’n cefnogi 65 ystlym yn ystod cynfod prysur yr haf.Lle Diogel i Groesawu Bywyd NewyddMae’r ystlymod yn cysgu mewn lleoliadau gwahanol ar hyn o bryd ond rydym yn digswyl iddynt ddychwelyd i'r safle tua diwedd Ebrill pan fydd 35 ystlym benywaidd yn setlo mewn i’w clwyd mamolaeth. Erbyn diwedd Mai neu dechrau Mehefin, bydd bob Mam yn rhoi genedigaeth i un cenau gan ddwblu maint y gytref dros nos! Er bod 65 ystlum yn swnio fel nifer da, mae hyn mewn gwirionedd yn gytref famolaeth fach, sy’n ei wneud yn un pwysig iawn. Addasiad Natur bendigedig"Er bod gan yr ystlumod nifer o nodweddion difyr, un o’r pethau mwyaf diddorol ydi’r ffaith ei bod yn gallu oedi beichiogrwydd." meddai Carola. "Byddant yn gwneud hyn drwy storio’r sberm o’r hydref drwy’r gaeaf oer. Mae hyn yn galluogi nhw eni yn ystod tywydd cynhesach y gwanwyn, ble mae mwy o fwyd ar gael iddynt a gwell siawns o oroesi. Dyma un o’r prif resymau pam fod yr ystlumod yn ffynnu yn y DU."Cadwraeth yn Ganolog i’n Gwaith Ail DdatblyguMae ystlumod a’u clwydi yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol, sy’n golygu fod unrhyw waith i’r toeau neu leoliadau posib i ystlumod ymgartrefu yn gorfod digwydd dan drwydded. Mae’r gwaith hwn yn gorfod digwydd yn ystod y gaeaf, tra bod yr ystlumod yn cysgu mewn lleoliad arall. Mae Carola yn gweithio gyda’n tîm ni er mwyn cynghori a rhoi arweiniad ar y gwaith yma er mwyn sicrhau fod y mynedfaoedd dal ar agor, fod y strwythur yn ddiogel a bod y gofodau yn rhydd i’r ystlumod ddychwelyd yn y gwanwyn. Rydym yn falch iawn o warchod y mamaliaid bychain yma, sydd wedi bod yn ymgartrefu yn yr amgueddfa ers amser maith.Ariannwyd y project gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru yn cynnwys Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston ac arianwyr eraill. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n cyllidwyr i gyd am eu cefnogaeth.
Cydweithio i drwsio Una Chloe Ward, 26 Ionawr 2026 Mae Una wrthi'n cael ei thrwsio yn Boston Lodge, gweithdai peirianyddol Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Ym mis Rhagfyr a Ionawr, fu grŵp o wirfoddolwyr draw i helpu efo’r gwaith! Adeiladwyd Una ym 1905 gan gwmni Hunslet o Leeds a bu’n gweithio yn Chwarel Mhen-yr-Orsedd tan tua 1960, yn cael ei defnyddio’n bennaf i gludo wagenni o rwbel y tu mewn i’r Chwarel. Yn anffodus methodd ei phrofion perfformiad ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae wedi gorfod aros yn segur ers hynny oherwydd rheolau iechyd a diogelwch, er mawr siom i staff ac ymwelwyr.Fu'r cyfle i helpu gyda'r gwaith atgyweirio yn rhan o'r cydweithrediad rhwng Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac Amgueddfa Lechi Cymru - oedden ni'n gwybod byddai pobl yn neidio ar y cyfle i fod yn rhan o stori Una!Dros ddau benwythnos, helpodd sawl gwirfoddolwr i ‘sandio’, crafu, glanhau a pharatoi darnau metel oddi ar Una, yn barod i'w ail-baentio. Mae hyn yn rhan hanfodol o adfer Una a sicrhau bod yr injan stêm yn cael ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan fod paent ffres yn helpu i amddiffyn y metel. "Mae'r diwrnod a dreuliais yn gweithio ar Una wedi fy arwain at ddilyn y cyfle i wirfoddoli ar brosiectau eraill o fewn Safle Treftadaeth Lechi Gogledd-orllewin Cymru... Fe wnes i fwynhau'r diwrnod yn fawr" - David, gwirfoddolwrDiolch yn fawr i bawb ddoth draw i Finffordd ar ddyddiau oer gaeafol i helpu ni efo Una. Braf oedd cael rhannu hanes yr injan stêm bach, a gweld eich brwdfrydedd.Wrth i'r gwaith barhau ar Una, rydym yn gobeithio cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ymgysylltu â'r daith! Ymunwch â'n rhestr bostio i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd diweddaraf:Tanysgrifiwch i'r rhestr bostioAriennir y project gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson a Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl gyllidwyr am eu cefnogaeth.
Archeolegwyr yn Amgueddfa Lechi Cymru? Chloe Ward, 5 Ionawr 2026 Dwi'n gwybod, dydi archaeoleg ddim yn rhywbeth sy’n dod i’ch meddwl yn awtomatig wrth feddwl am yr Amgueddfa Lechi! Ond ym mis Rhagfyr, ymunodd tri gwirfoddolwr â ni i gymryd rhan mewn arolygon archeolegol sy'n rhan angenrheidiol ym mhroject ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Comisiynwyd Archaeoleg Wales i arolygu a chofnodi dwy nodwedd yng ngweithdai Gilfach Ddu, lle mae'r amgueddfa wedi'i lleoli. Oedd angen recordio grisiau 1970au y Ffowndri, a thraciau rheilffordd gwreiddiol y tu allan yn yr iard. Mae arolygon fel hyn yn angenrheidiol ar gyfer adeiladau rhestredig fel y Gilfach Ddu, ac yn bwysig er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cael eu cofnodi. Bydd grisiau’r Ffowndri yn cael eu newid i rhai mwy hygyrch a diogel, tra bydd y traciau rheilffordd yn cael eu rhoi nôl unwaith y bydd draenio wedi'i osod oddi tanddynt. Ymunodd tri gwirfoddolwr, Nicola, Donna a Shay, â'r archeolegydd adeiladau Emily i dynnu lluniau o'r nodweddion hyn, a chreu cofnod parhaol tua’r dyfodol. Rhoddodd hyn sylfaen dda o wybodaeth i’r gwirfoddolwyr am archaeoleg adeiladau a sut i arolygu nodweddion trwy dynnu llun a ffotograffiaeth. Rhoddodd hefyd gyfle iddynt ddysgu am ailddatblygu'r Amgueddfa Lechi a'r gwelliannau sy'n cael eu gwneud.DIOLCH Nicola, Donna a Shay!Cofrestrwch i’n rhestr bostio i glywed am gyfleoedd i wirfoddoli yn yr Amgueddfa Lechi:Tanysgrifiwch i'r rhestr bostioAriennir y project gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson a Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl gyllidwyr am eu cefnogaeth.
Blwyddyn eithriadol! Blwyddyn ers cau drysau'r Amgueddfa Lechi dros-dro ar gyfer ailddatblygu! Helen Goddard, Cyfarwyddwr Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, 3 Tachwedd 2025 Mae wedi bod yn ddeuddeg mis eithriadol i broject ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Ers i ni gau ein drysau am y tro ym mis Tachwedd 2024, mae'r tîm wedi ymgymryd â'r gamp anhygoel o baratoi'r amgueddfa ar gyfer y gwaith ailddatblygu. Rydyn ni wedi llwyddo i gael grant hynod uchelgeisiol gwerth £12m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae hyn, ynghyd â'r buddsoddiad gan ein cefnogwyr eraill, wedi ein galluogi o'r diwedd i wireddu uchelgais lawn y prosiect. Rydym wedi pacio a chludo ein casgliadau'n ddiogel i'w cartref dros dro yng Nghanolfan Gasgliadau Llandygai a wedi penodi MPH Ltd yn brif gontractwr i ddechrau ar y gwaith cadwraeth ac atgyweirio arbenigol iawn ar y safle, sy’n gyffrous dros ben. Yn ystod y gwaith galluogi, mae hen adeiladau’r siop a’r caffi wedi cael eu dymchwel yn barod ar gyfer y datblygiadau newydd ar y safle. Mae wedi bod yn anhygoel gweld y rhannau hyn o'r safle'n dychwelyd i sut roedden nhw'n edrych pan oedd y gweithdai'n weithredol, am y tro. Rydyn ni wedi mynd â'n staff a'n casgliadau ar y lôn, gan fynd â’r profiad amgueddfa y tu hwnt i waliau'r – i leoliadau partner ar hyd a lled ardal Safle Treftadaeth y Byd. Mae rhai o'n staff blaen ty ni wedi ymgartrefu yn Ysbyty'r Chwarel ac yn fan hyn rydym wedi cyflwyno cymeriad newydd sef Maragaret y Metron, dynes anhygoel go iawn oedd yn gweithio yno. Mae ein chwarelwyr llechi wedi ymgartrefu yn eu lleoliad dros dro yng Nghastell Penrhyn, moment bwerus a symbolaidd i hanes llechi a'u lle yn hanes ein cymunedau lleol yma yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae ein Gof draw yn Crefft Migldi Magldi yng nghei llechi Caernarfon gyda Gof ifanc yno.Rydym hefyd wedi bod yn gweithio'n galed ar be fydd yn mynd i mewn i'r Amgueddfa yn y pen draw - yn dylunio a paratoi ar gyfer y gofodau dehongli newydd. Mae'n teimlo fel amser da i oedi, i bwyso a mesur, ac i ddathlu'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma rhai o'r pethau sydd wedi eu cyflawni yn ystod yr amser yma diolch i'n staff eithriadol a'n partneriaid ehangach. Mae’r prosiect yn mynd ar wib a does dim arwydd ei fod am arafu! Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn yn parhau i ddatblygu’r profiad i ymwelwyr ar y safle, gan gynnwys yr arddangosfeydd o’r radd flaenaf yn yr amgueddfa, sy’n gyflwyniad gwirioneddol wych i safle treftadaeth y byd ‘Tirweddau Llechi Gogledd-orllewin Cymru’ – ochr yn ochr â'n partneriaid ar draws yr ardal hynod hon. Gwyliwch y gofod yma am fwy o fanylion!