Cymryd rhan mewn ‘Cymerwch Ran’ 2026 – safbwynt artist ifanc, Iza Jem
, 8 Hydref 2026
Tra bod Amgueddfa Lechi Cymru ar gau dros dro ar gyfer prosiect ailddatblygu mawr, mae’r tîm wedi bod yn brysur yn teithio gyda’n ‘pop-ups’ ac yn mynychu digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Maent wedi bod yn treialu ac yn profi gweithgareddau fydd yn cael eu plethu i mewn i’r ailddatblygiad, ac yn rhannu’r cynlluniau gyda’n cymunedau. Darllenwch isod sut y rhoddwyd cyfleoedd llawrydd i weithwyr creadigol fel rhan o raglen Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn ystod y digwyddiad blynyddol ‘Cymryd Ran’ yn Venue Cymru.
Dechreuodd y prosiect hwn drwy ymchwil a gweld casgliadau’r Amgueddfa Lechi. Roedd y cyfle o weld sut mae nifer helaeth o eitemau yn cael eu storio, eu catalogio, a'r gofal a roddir yn ddiddorol iawn. Rhoddodd hyn deimlad gwirioneddol i mi o beth allwn i'w wneud a’i ddatblygu gan sbarduno syniadau wedi'u gwreiddio yn hanes y diwydiant llechi ledled Gogledd Cymru a thu hwnt. Roedd yr atyniad tuag at ochr creadigol y cymunedau llechi fel cerfio addurniadol, barddoniaeth, a gwneud baneri yn gryf iawn ynof.
Roedd gweithio gyda Cara yn rhan ganolog o’r broses. Dechreuon ni gan ymchwilio’n unigol wedyn cymharu nodiadau, rhannu diddordebau a thrafod beth oedd wedi ein hysbrydoli. Yn y flwyddyn newydd fe wnaethon ni gyfarfod i rannu syniadau. Yn y cyfarfod hwnnw roeddem yn rhannu’r un brwdfrydedd ac ar yr un llwybr yn enwedig wrth archwilio printio sbwng (foam) fel bod y cyfranogwyr yn gallu creu eu patrymau llechen eu hunain. Penderfynon ni ar weithdy cerdded-i-mewn a fyddai'n caniatáu i bobl brofi hanes ac estheteg o le tân cerfiedig o lechi yn Ddyffryn Ogwen. Cawsom ein hysbrydoli gan y plât a grëwyd o lechi ac felly dewison ni baled lliw gan dynnu sylw at lechen fel diwydiant byd-eang ac amrywiol. Roedd y cydweithio ei hun yn ysgogol iawn gan ein bod yn cyfnewid syniadau yn gyson.
Un o uchafbwyntiau'r gweithdy oedd gweld ymatebion y plant wrth i’w printiau ymddangos; eu balchder, y syndod a’r cyffro. Dangosai hyn pa mor bwerus yw creu amgylchedd i gyfranogwyr weld eu syniadau a’u lleisiau yn cael ei adlewyrchu yn yr hyn maent yn ei greu. Gwelais hefyd pa mor hanfodol yw paratoi ar gyfer y math yma o weithdy, mae bron yn amhosibl paratoi yn ormodol. Roedd meddwl am y broses, gosod deunyddiau yn barod a rhoi camau mewn lle i gynnal gweithdy o’r math yn sicr wedi gwneud gwahaniaeth pan oedd deg o blant angen cefnogaeth ar yr un pryd.
Yn y pen draw, gwelais werth symleiddio a lleihau cymhlethdod a hynny heb gyfyngu ar ddychymyg er enghraifft, roedd cyfyngu ar y lliwiau ar y palet yn annog ffocysu ac arbrofi yn hytrach na chyfyngu ar bosibiliadau creadigol.
Mi wnaeth y prosiect ddyfnhau fy nghysylltiad gyda chasgliad Amgueddfa Lechi ac atgyfnerthu fy sgiliau cydweithio, hyrwyddo, a dylunio gweithdai. Rhoddodd i mi mewnwelediad newydd i gadw cydbwysedd rhwng strwythur a rhyddid a roddai cyfle i’r cyfranogwyr weld eu hunain yn yr hyn yr oeddent yn ei greu.
Mae prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston, a chyllidwyr eraill.