Dathlu Mis Balchder! - Gwisgo fy mathodyn gyda Balchder
27 Mehefin 2025
,To celebrate Pride Month this year, some of our amazing ACPs will be hosting Pride themed workshops across some of our museums this June. As part of that celebration, we asked them to reflect on the themes and inspiration behind their workshop and what Pride means to them.
Mae Balchder wedi golygu cydsefyll a chydfrwydro erioed, ac am byth.
“You have worn our badge ‘Coal Not Dole’ and you know what harassment means, as we do. Now we will support you. It won’t change overnight, but now a hundred and forty thousand miners know … about black [communities] and gays and nuclear disarmament and we will never be the same.”
Cefais i fy ysbrydoli i gynnal gweithdai creu bathodynnau cwiar/cydsefyll ar gyfer Bloedd diolch i ddylanwad yr LGSM. Grŵp oedd Lesbians and Gay Men Support the Miners wnaeth gefnogi a chodi arian yn ystod Streic y Glowyr 1984-85. Dyma nhw'n creu cysylltiadau â chymunedau glofaol De Cymru, gan gynnwys Castell-nedd, Dulais ac Abertawe, a chodi arian ar gyfer grwpiau cefnogi menywod. Mae bathodyn gan y grŵp nawr yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru. Cafodd y bathodyn ei ddylunio gan yr ymgyrchydd, ac aelod o'r LGSM, Jonathan Blake.
Mae LGSM yn esiampl wych o ymgyrchu croestoriadol, a chydsefyll cwiar. Fel y gwelwn ni o ddyfyniad David Donovan, pwrpas y mudiad yw cefnogi grwpiau eraill ac uno yn erbyn systemau sy'n gormesu ac arwahanu. Roedd LGSM yn teimlo'n gryf y dylai dosbarthiadau cymdeithasol gydsefyll, ac yn cymharu triniaeth y cyfryngau o gymunedau glofaol ac LHDTC+ (pardduo Undeb Cenedlaethol y Glowyr a lledu gwybodaeth gamarweiniol am y pandemig HIV/AIDS). Profodd y ddau grŵp hefyd drais yr heddlu a dod yn gocyn hitio gwleidyddol.
Roedd yr LGSM yn gymuned bwysig i bobl oedd yn dioddef gyda HIV/AIDS, fel Jonathan Blake oedd yn un o'r bobl gyntaf yn y DU i dderbyn diagnosis HIV. Doedd y cyhoedd ddim yn deall HIV ar y pryd, ac roedd stigma mawr tuag at y cyflwr, felly gallai hafan yng nghymuned yr LGSM fod yn radical a chwyldroadol i ddioddefwyr.
Cododd yr LGSM filoedd o bunnoedd i gefnogi glowyr oedd ar streic, gan gynnal perfformiadau o'u dawns 'Pits and Perverts' enwog i godi arian ar gyfer y glowyr a'u teuluoedd. Ar y llaw arall, daeth llawer o lowyr i orymdeithio yn Pride, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn gwthiodd yr NUM i hawliau LHDT gael eu cynnwys ym mholisiau y TUC (Cyngres yr Undebau Llafur) a'r Blaid Lafur. Dyma esiampl berffaith o'r effaith cymdeithasol pwysig y gall cydsefyll rhwng ymgyrchwyr ac ar draws dosbarthiadau cymdeithasol ei gael.
Mae mwy o angen nag erioed heddiw i ledu'r neges hon. Yn barod eleni rydyn ni wedi gweld erydu hawliau LHDTC+, pardduo ac erlid cymunedau traws, a thwf pleidiau asgell-dde. Rydyn ni wedi gweld hil-laddiad ar draws y byd, gwarth gwleidyddol, a gwadu hawliau dynol. Rydyn ni hefyd wedi gweld tactegau gwleidyddol a safbwyntiau yn y cyfryngau sydd yn fwriadol yn ceisio ein llethu a'n rhannu ni. Ac rydyn ni fel cymunedau wedi cael ein brifo gan y safbwyntiau hyn, a'r systemau sy'n erydu ein hawliau, ein buddion a'n lles.
Ac felly yn ystod Mis Balchder rhaid i ni uno, a chydsefyll. Rhaid i ni arddel ysbryd LGSM er mwyn cefnogi'n gilydd. Rydyn ni'n byw mewn cyfnod anodd. Mae pawb yn dioddef yr argyfwng costau byw, ac yn lle cael ein rhannu, rhaid i ni helpu'n gilydd i gasglu bwyd a chodi arian a phrotestio a gweithredu. Cymuned, cariad, cydsefyll. Dyna yw ystyr Balchder.
Dyna'r themâu dwi'n ceisio eu cyfleu yn fy ngweithdy. Fel ymgyrchydd cwiar ac anabl, dwi'n credu'n gryf mewn gweithredu croestoriadol. Dwi'n credu fod bathodynnau yn esiampl wych o micro-weithredu a micro-wrthsefyll. Mae bathodynnau wedi bod yn rhan o'r mudiadau DIY a pync ers blynyddoedd, ac wedi cael eu defnyddio ers oes i gyfleu hunaniaeth a balchder cwiar. I fi, mae'r bathodyn LGSM yng nghasgliad yr Amgueddfa yn fwy nag addurn. Mae'n symbol o fudiad llawn gobaith a chydsefyll. Drwy greu ein bathodynnau ein hunain, gallwn ni fynegi ein hunain a chynrychioli achosion sy'n bwysig i ni.
Galwch draw i'r gweithdy i roi cynnig ar weithredu creadigol, a chreu bathodynnau.
Kaja Brown @kaja_amy_brown ar Instagram
Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yw grwp pobl ifanc rhwng 16 – 25 oed sy’n byw yng Nghymru a chydweithio gyda’r Amgueddfa drwy gyfleoedd cyfranogol a chyflogedig.
Hwn yw lle i ddyfnhau gwybodaeth a sicrhau bod mannau treftadaeth a diwyllianol yn fwy cynrychioliadol o’r bobl ifanc a’u diwylliannai niferus sy’n byw yng Nghymru neu o Gymru. Rydyn ni yma i wneud treftadaeth yn berthnasol.
Rydyn yn edrych ar gelf, treftadaeth a hunaniaeth, amgylcheddaeth, gwyddorau naturiol, hanes cymdeithasol ac archaeoleg drwy ein casgliadau a chyd-cynhyrchu digwyddiadau, gweithdai, arddangosfeydd, cyfryngau digidol cyhoeddiadau, grwpiau datblygu a mwy! Mae ein Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn gweithio’n agos gydag adrannau ar draws yr Amgueddfa i'n helpu ni ddyfnhau cynrychiolaeth yn ein casgliadau a rhaglenni, i adlewyrchu pob cymuned yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ehangu ein casgliadau LHDTC+, dad-drefedigaethu ein casgliadau a chasglu hanesion llafar ar hanes dosbarth gweithiol. Gall Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru hefyd ddod â’u syniadau neu bynciau y hoffen nhw archwilio trwy ein casgliadau!
Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bost i glywed am gyfleoedd ar draws yr Amgueddfa yma.
Cewch gysylltu drwy e-bostio bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk. Dilynwch ni ar Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Bloedd!