: People's Postcode Lottery

Anrhegion ddoe, heddiw

Sarah Parsons, 20 Rhagfyr 2017

Dim syniadau am anrhegion i’r plant eleni? Mae digon o ysbrydoliaeth yng nghasgliadau’r Amgueddfa. Bydd rhai o’r eitemau yma’n cael eu harddangos yn orielau newydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn hydref 2018.

Peiriant gwnïo tegan

Rhif caffael: F82.51.63

Oes rhywun yn y teulu’n dwlu ar wnïo? Margaret Eckley o Sili oedd perchennog y tegan hyfryd hwn. Byddai wedi chawrae ag ef yn y 1930au. Mae’n cael ei droi â llaw ac yn addurn arno mae llun o’r Hugan Fach Goch. Mae llyfr cyfarwyddiadau ganddo hefyd.

 

Set o filwyr bychan

Rhif caffael: 56.313.134 – 154

Beth am hen ffefryn? O Aberhonddu y daw’r set hon o filwyr tegan. Wnaethon nhw fartiso yr holl ffordd? Cawsant eu rhoi i’r Amgueddfa yn y 1950au, a bydden nhw wedi cael eu defnyddio gan blant y rhoddwr a gafodd eu geni yn y 1890au.

 

Tractor tegan Corgi

Rhif caffael: F00.27.9

Mae ceir bach Corgi yn boblogaidd o hyd. Plant o Gaerdydd fyddai wedi chwaraeâ’r tractor hwn yn y 1950au a’r 1960au.

 

Dol gwisg Gymreig

Rhif caffael: 30.316

Ganol y 19eg ganrif byddai plant wedi chwarae â’r ddol Gymreig hon. Mae’n rhaid ei bod hi wedi cael ei thrysori – roedd hi yn nheulu’r rhoddwr am 80 mlynedd. I weld mwy o ddoliau Cymreig ewch i wefan Casgliad y Werin Cymru.

 

LEGO Nadolig

Rhif caffael: 2000.194/1

Fyddai hi ddim yn Nadolig heb LEGO! Dyma sïon corn a’i sled a gynhyrchwyd yn ffatri LEGO yn Wrecsam.

Dyw’r gwrthrychau ddim i’w gweld ar hyn o bryd, ond byddan nhw ar y wefan yn fuan, ynghyd â nifer o’n casgliadau Celf, Archaeoleg, Diwydiannol, Cymdeithasol a Diwylliannol. Diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery am eu cefnogaeth i’r gwaith hwn.

Os oes gwrthrych penodol yr hoffech chi ei weld yn unrhyw un o’n hamgueddfeydd, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei ddangos cyn teithio, neu gallwch chi drefnu apwyntiad i’w weld.

Wyt ti’n un gwael am gasglu pethau?

Sarah Parsons, 4 Awst 2017

Dyma un o’r storfeydd rhyfedd a rhyfeddol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae’n llawn dop o wrthrychau. Rydyn ni’n dal i gasglu pethau newydd, ond rhaid i ni ddewis a dethol beth i’w gadw. Does dim digon o le i bopeth!

Storfa yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae pob math o bethau i’w canfod mewn storfa o hanes cymdeithasol, o goes glec i gloc tad-cu.

Ar ei hymweliad cyntaf â’r stôr, cafodd un o’r merched ei rhybuddio i wylio rhag y mantrap. Jôc dda, meddyliodd hi. Ond na, mae mantrap yn llechu ym mhen un coridor tywyll!

Rydw i wedi bod yn ymwybodol ers amser bod y mwyafrif helaeth o gasgliadau amgueddfeydd yn cuddio mewn storfeydd, a taw dim ond cyfran fach sydd i’w gweld yn yr orielau. Doeddwn i ddim yn sylweddoli gwir raddau hyn tan i fi ddechrau gweithio yma.

O’r 5 miliwn wrthrychau sydd yng ngofal y saith amgueddfa; o geir clasurol, i garreg leuad, paentiadau byd-enwog, cadwyni caethweision a thoiled cyhoeddus; faint o wrthrychau sydd yn cael eu harddangos?

Dim ond 0.2% o gasgliadau Amgueddfa Cymru sydd yn cael eu harddangos.

Os ydych chi am weld gwrthrych penodol yn un o’r amgueddfeydd, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i arddangos gyntaf. Gallwch chi hefyd wneud apwyntiad i weld gwrthrychau penodol. Diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, rydyn ni wedi derbyn nawdd i ehangu’n cofnodion ac ychwanegu delweddau fydd i’w gweld ar Casgliadau Ar-lein yn yr hydref. Cadwch lygad hefyd am deithiau tu ôl i’r llenni yn y storfeydd dan arweiniad ein curaduron a’n cadwraethwyr. Gall y rhain fod yn agoriad llygad!

Rydyn ni’n gofalu am y casgliadau drosoch chi. Gobeithio y byddan nhw’n rhoi cymaint o bleser i chi ag i ni.

Ai teitl fy swydd i yw’r gwiriona yn y byd?

Sarah Parsons, 15 Mehefin 2017

Wel, efallai ddim yn y byd i gyd, ond yn sicr mae gyda’r gwiriona yn Amgueddfa Cymru!

Pan fydd ffrindiau’n holi “Sut mae’r swydd newydd?” fydd dweud fy mod i’n Gynorthwy-ydd Metadata Casgliadau Ar-lein ddim yn rhyw lawer o help.

Mae hon yn swydd newydd sbon yn yr Amgueddfa a grëwyd diolch i nawdd y People’s Postcode Lottery.

“Ym... enw crand am fewnbynnu data?”. Dyw hynny’n fawr o help chwaith. Mae’n wir taw eistedd wrth sgrin cyfrifiadur fydda i’r rhan fwyaf o’r amser, gyda thaenlenni a basau data yn troi fy llygaid i’n sgwâr wrth i fi symud gwybodaeth o un blwch i’r llall. Ond bob hyn a hyn bydda i’n cael fy atgoffa o werth gwirioneddol y gwaith.

Mae’r hyn sydd i fi yn gasgliad o rifau’n cambyhafio ac yn gwrthod ffitio’n y golofn gywir, mewn gwirionedd yn cynrychioli gwrthrychau a delweddau o’n casgliadau amrywiol.

Bob hyn a hyn felly, bydd llun bydenwog yn ymddangos, fel Glaw, Auvers gan Van Gough

Neu gall fod yn hen ffotograff o drigolion y teras o dai gweithwyr haearn sydd bellach yn Sain Ffagan Amgeuddfa Werin Cymru. Os edrychwn ni’n ofalus, mae’n amlwg bod rhai o’r plant ar bigau’r drain, prin yn medru aros yn llonydd i’r camera!

Mae gwrthrychau Amgueddfa Cymru i gyd wedi’u catalogio ar fas data er mwyn i ni gadw golwg ar bob eitem yn y casgliad a ble caiff ei gadw.

Fy ngwaith i yw paru’r rhifau yn y bas data gyda’r delweddau a’r wybodaeth amdanynt (dyna’r Metadata yn y teitl) er mwyn i chi gael eu gweld ar Casgliadau Ar-lein (fydd ar gael yn y fuan iawn).

Hwn fydd y cyfle cyntaf i chi gael chwilio’r bas data eich hun. Byddwch chi’n gweld yr union wybodaeth â’r curaduron pan fydda’n nhw’n chwilio drwy ein gwrthrychau. Os ydych chi am wybod faint yn union o feiciau modur sy’n y casgliadau, cyn hir gallwch chi weld dros eich hun!

Mae’n waith mawr tacluso’r holl wybodaeth cyn ei gyflwyno i’r cyhoedd, ond rydyn ni wrthi’n brysur... felly nol at y taenlenni a fi!

Bryn Eryr: troi tŷ yn gartref

Dafydd Wiliam, 18 Awst 2015

Ers y blog diwethaf mae’r gwaith ar y safle wedi datblygu cryn dipyn. Rydym wedi gorffen y to gwellt ac mae camau olaf y gwaith tirlunio wedi dechrau. Mae banc pridd wedi’i godi o amgylch y ddau dŷ crwn i efelychu amddiffynfeydd cadarn gwreiddiol Fferm Bryn Eryr ar Ynys Môn. Adeiladwyd cysgod to glaswellt y tu ôl i’r tai a fydd yn cael ei ddefnyddio fel gweithdy awyr agored a gofod addysg ychwanegol. Mae’r waliau o ‘glom’ - sef cymysgedd o glai, isbridd a cherrig mân - yn union fel y tai crwn, ond mae’r to glaswellt yn esiampl arall o ddeunydd toi sydd bron mor hen â gwellt. Gosodwyd arwyneb cobl o flaen y tai crwn, sydd hefyd yn efelychu’r lleoliad gwreiddiol.

Yn ddiweddar rydw i wedi bod yn canolbwyntio ar ddodrefnu’r tai. Bydd y mwyaf o’r ddau yn gymharol wag (dim ond aelwyd a mainc bren yn dilyn y waliau) er mwyn ei ddefnyddio fel ystafell ddosbarth ac ardal arddangos. Mae’r tŷ llai yn dangos bywyd cartref fel yr oedd yn ystod Oes yr Haearn ac yn cynnwys dodrefn cyffredin i’r cyfnod – tân i gynhesu, gwely i gysgu, gwŷdd i greu dillad a blancedi - a cistiau pren yw storio, ynghyd a chrochan i goginio bwyd. Seiliwyd bron pob eitem ar esiamplau o’r cyfnod sydd wedi llwyddo goroesi dros 2000 o flynyddoedd. Mae’r grochan yn replica o lestr coginio copr a haearn a ganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach, prin 25km o Bryn Eryr, ac wrth y tân bydd fersiynau syml o’r brigwrn a ganfuwyd yng Nghapel Garmon yn Sir Ddinbych. Mae’r llestri pren wedi eu seilio ar rhai a ganfuwyd ym mryngaer Breiddin ym Meirionydd tra bod y maeniau melin yn efelychu y rhai a ganfuwyd yn Bryn Eryr ei hun. Rydyn ni wedi cynhyrchu set lawn o offer trin coed yn dilyn esiamplau o fryngaerau fel Tre’r Ceiri a Castell Henllys. Mae hyd yn oed y blancedi wedi eu copïo o ddarnau o ddefnydd sydd wedi goroesi.

Gyda’r tŷ wedi ei ddodrefnu fel y byddai yn y cyfnod gallwn ni ddefnyddio’r lleoliad i ail-greu bywyd mewn tŷ crwn. Gyda chymorth crefftwyr, actorion a gwirfoddolwyr gallwn ni ddod i ddeall bywyd Oes yr Haearn yn well a helpu troi’r tŷ hwn yn gartref.

Llys Rhosyr: ffenest i'r gorffennol

Dafydd Wiliam, 22 Ebrill 2015

Mae ein neuadd ganoloesol yn codi’n gyflym. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar orffen ffenestri yr adeilad lleiaf o ddau. Adeilad B yw'r enw dros dro am hwn, ac yn y gorffennol fe allai wedi bod yn siambr wely’r tywysog (gan fod enghreifftiau eraill o neuadd a siambr gyfagos yn bodoli) neu yn gegin, a fyddai hefyd yn debygol o fod yn agos i'r neuadd (oherwydd pwy fuasai am wledda ar fwyd oer?).

Mae'r ffenestri yn Romanésg eu harddull, sy’n nodweddiadol o'r cyfnod. Yn gul ar du allan yr adeilad ond yn lledaenu’n sylweddol ar y tu fewn, mae’r cynllun yn manteisio i’r eithaf ar y golau naturiol. Mae dau reswm pam eu bod mor gul: mae ffenestri bach yn haws yw hamddiffyn na ffenestri mawr, ac felly roeddent yn elfen gyffredin mewn adeiladau amddiffynnol fel cestyll; ac yn ail, gan bod gwydr ffenest yn gymharol brin yn y cyfnod roedd ffenestri bach yn lleihau’r drafft oer a allai ddod i mewn. Carreg wastad sydd ar ben bob ffenest, ond gallai hefyd fod yn fwa cerrig – roedd y naill ddull yn gyffredin yn y cyfnod. Mi fydd caeadau pren dros y ffenestri i’w cau pan fydd plant ysgol yn aros dros nôs.

Yn ogystal â'r gwaith cerrig, mae'r gwaith o lifio pren i ffrâm y to wedi cychwyn yn ddiweddar hefyd. Camp grefftus tu hwnt yw ffurfio darn pren sgwâr o gainc coeden dderw. Dim ond mewn llinell syth y gall y 'band-saw' dorri, felly mae'r gainc yn gorfod cael ei lleoli yn union cyn cychwyn y gwaith llifio. Mae angen ei addasu i lan ag i lawr, yn ogystal ag i'r chwith ag i'r dde, oherwydd gall un toriad gwael effeithio ar y toriadau dilynol i’r fath raddau nes bod y darn pren yn annefnyddiadwy.