Cydweithio i drwsio Una Chloe Ward, 26 Ionawr 2026 Mae Una wrthi'n cael ei thrwsio yn Boston Lodge, gweithdai peirianyddol Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Ym mis Rhagfyr a Ionawr, fu grŵp o wirfoddolwyr draw i helpu efo’r gwaith! Adeiladwyd Una ym 1905 gan gwmni Hunslet o Leeds a bu’n gweithio yn Chwarel Mhen-yr-Orsedd tan tua 1960, yn cael ei defnyddio’n bennaf i gludo wagenni o rwbel y tu mewn i’r Chwarel. Yn anffodus methodd ei phrofion perfformiad ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae wedi gorfod aros yn segur ers hynny oherwydd rheolau iechyd a diogelwch, er mawr siom i staff ac ymwelwyr.Fu'r cyfle i helpu gyda'r gwaith atgyweirio yn rhan o'r cydweithrediad rhwng Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac Amgueddfa Lechi Cymru - oedden ni'n gwybod byddai pobl yn neidio ar y cyfle i fod yn rhan o stori Una!Dros ddau benwythnos, helpodd sawl gwirfoddolwr i ‘sandio’, crafu, glanhau a pharatoi darnau metel oddi ar Una, yn barod i'w ail-baentio. Mae hyn yn rhan hanfodol o adfer Una a sicrhau bod yr injan stêm yn cael ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan fod paent ffres yn helpu i amddiffyn y metel. "Mae'r diwrnod a dreuliais yn gweithio ar Una wedi fy arwain at ddilyn y cyfle i wirfoddoli ar brosiectau eraill o fewn Safle Treftadaeth Lechi Gogledd-orllewin Cymru... Fe wnes i fwynhau'r diwrnod yn fawr" - David, gwirfoddolwrDiolch yn fawr i bawb ddoth draw i Finffordd ar ddyddiau oer gaeafol i helpu ni efo Una. Braf oedd cael rhannu hanes yr injan stêm bach, a gweld eich brwdfrydedd.Wrth i'r gwaith barhau ar Una, rydym yn gobeithio cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ymgysylltu â'r daith! Ymunwch â'n rhestr bostio i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd diweddaraf:Tanysgrifiwch i'r rhestr bostioAriennir y project gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson a Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl gyllidwyr am eu cefnogaeth.
Archeolegwyr yn Amgueddfa Lechi Cymru? Chloe Ward, 5 Ionawr 2026 Dwi'n gwybod, dydi archaeoleg ddim yn rhywbeth sy’n dod i’ch meddwl yn awtomatig wrth feddwl am yr Amgueddfa Lechi! Ond ym mis Rhagfyr, ymunodd tri gwirfoddolwr â ni i gymryd rhan mewn arolygon archeolegol sy'n rhan angenrheidiol ym mhroject ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Comisiynwyd Archaeoleg Wales i arolygu a chofnodi dwy nodwedd yng ngweithdai Gilfach Ddu, lle mae'r amgueddfa wedi'i lleoli. Oedd angen recordio grisiau 1970au y Ffowndri, a thraciau rheilffordd gwreiddiol y tu allan yn yr iard. Mae arolygon fel hyn yn angenrheidiol ar gyfer adeiladau rhestredig fel y Gilfach Ddu, ac yn bwysig er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cael eu cofnodi. Bydd grisiau’r Ffowndri yn cael eu newid i rhai mwy hygyrch a diogel, tra bydd y traciau rheilffordd yn cael eu rhoi nôl unwaith y bydd draenio wedi'i osod oddi tanddynt. Ymunodd tri gwirfoddolwr, Nicola, Donna a Shay, â'r archeolegydd adeiladau Emily i dynnu lluniau o'r nodweddion hyn, a chreu cofnod parhaol tua’r dyfodol. Rhoddodd hyn sylfaen dda o wybodaeth i’r gwirfoddolwyr am archaeoleg adeiladau a sut i arolygu nodweddion trwy dynnu llun a ffotograffiaeth. Rhoddodd hefyd gyfle iddynt ddysgu am ailddatblygu'r Amgueddfa Lechi a'r gwelliannau sy'n cael eu gwneud.DIOLCH Nicola, Donna a Shay!Cofrestrwch i’n rhestr bostio i glywed am gyfleoedd i wirfoddoli yn yr Amgueddfa Lechi:Tanysgrifiwch i'r rhestr bostioAriennir y project gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson a Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl gyllidwyr am eu cefnogaeth.
Fy mhrofiad: Gwirfoddoli Gofal Casgliadau ar draws yr Amgueddfa Anna Watson - Gwirfoddolwr Gofal Casgliadau , 30 Medi 2025 Fy enw i yw Anna Watson ac rydw i wedi bod yn gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru ers mis Tachwedd 2024. Rwy'n gwirfoddoli bob wythnos fel cynorthwy-ydd gofal casgliadau yn yr adran gadwraeth. Rydw i wedi mwynhau'r profiad yn aruthrol gan fod pob wythnos yn wahanol, felly rydw i bob amser yn dysgu rhywbeth newydd ac yn datblygu fy sgiliau. Dechreuais y rôl wirfoddoli hon ar ôl gorffen fy ngradd meistr mewn Gofal Casgliadau gyda Phrifysgol Caerdydd ac mae'r cyfle hwn wedi bod yn wych er mwyn rhoi'r sgiliau a gefais o'r cwrs hwnnw ar waith. Hyd yn hyn, rydw i wedi helpu gyda chynnal a chadw arddangosfeydd yn yr orielau celf a'r adran hanes natur; cynnal a chadw microhinsawdd yn yr adran archaeoleg; archwiliadau o'r casgliadau entomoleg ac wedi helpu i lanhau ac adleoli'r storfa hylif (fel y gwelwch yn y llun)! Mae'r cyfle i weithio mewn sawl adran a chwrdd â chymaint o wahanol guraduron, cadwraethwyr a thechnegwyr sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd wedi bod yn amhrisiadwy. Bob wythnos rwy'n gyffrous i weld beth fyddwn ni'n ei wneud nesaf.
Archwilio Cynhanes: Fy Mhrofiad yn Gwirfoddoli gydag Offer Carreg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Rebecca Mahon - Gwirfoddolwr Offer Cerrig Cynhanesyddol, 10 Medi 2025 Rhwng mis Hydref 2024 a mis Mai 2025, ro’n i’n ddigon ffodus i gael gwirfoddoli yng nghasgliadau archaeolegol Amgueddfa Cymru. Bob dydd Iau, roeddwn i a fy nghyd-wirfoddolwyr yn cael trin, adnabod a chatalogio casgliad enfawr o offer carreg cynhanesyddol a gasglwyd gan Henry Stopes ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod ein sesiynau wythnosol, roedden ni’n cael ein hannog gan ein goruchwyliwr, y Prif Guradur Elizabeth Walker, i geisio deall a darganfod sut roedd cymunedau ledled y byd yn arfer defnyddio’r offer yma. Gan ddechrau drwy ddod i adnabod yr offer, buon ni’n dysgu sut i gategoreiddio yn ôl sut byddai’r offeryn yn cael ei ddefnyddio yn seiliedig ar y marciau oedd arnyn nhw. Yna bydden ni’n rhifo ac yn categoreiddio'r offer gan ddefnyddio system Stopes fel y gellid eu mewnbynnu i'r gronfa ddata ar-lein.Roedd ein gwaith fel gwirfoddolwyr yn golygu y gallai Amgueddfa Cymru gwblhau ei gwaith o gyfri’r eitemau sydd yn ei chasgliad gan Stopes, a ddaeth i law’r amgueddfa ym 1912, gan ganiatáu i'r casgliad cyfan fod ar gael i'r cyhoedd. Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru yn caniatáu i fi ennill profiad sy'n berthnasol i fy ngradd a gweithio gydag arteffactau yn amrywio o bennau saethau fflint i emwaith wedi'i wneud o asgwrn! Rwy'n teimlo'n ffodus fy mod wedi cael cyfle i brofi sut mae’r sefydliad anhygoel yma’n gweithio a chwrdd â'r gweithwyr proffesiynol a'r gwirfoddolwyr ymroddedig sy'n gweithio ynddo. Mae bod yn wirfoddolwr wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn!
Dathlu Gwirfoddolwyr! Ffion Davies, 5 Gorffennaf 2025 Mae Amgueddfa Cymru yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol a dathlu i gydnabod a dathlu ein gwirfoddolwyr drwy gydol y flwyddyn. Bob haf rydym yn trefnu digwyddiadau dathliadau yng Nghaerdydd, Abertawe, Drefach Felindre, a Gogledd Cymru i ddathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr. Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad yn y DU o bopeth sy'n ymwneud â gwirfoddolwyr ac mae'n digwydd bob blwyddyn rhwng 1-7 Mehefin.Roedd dathliadau haf eleni yn unigryw!Fe wnaethon ni gynnal ein parti stryd cyntaf erioed y tu allan i'n dau adeilad eiconig, Neuadd y Gweithwyr Oakdale a Thafarn y Vulcan, yn Sain Ffagan. Daeth dros 60 o wirfoddolwyr ledled Caerdydd i gael pizza fegan gyda sides a pheint dewisol yn y Vulcan. Cafodd Nia Williams, Cyfarwyddwr Profiad, Dysgu ac Ymgysylltu, y siawns i ddweud diolch i bob gwirfoddolwr yn unigol yn ystod y digwyddiad. Fe wnaethon ni hefyd gynnal ein cwis enwog, a oedd eleni'n ymddangos yn addas iawn yn y Vulcan. Enillodd Gwirfoddolwyr y Clwb Crefftau gwis eleni!Yng Ngogledd Cymru, mae Amgueddfa Lechi Genedlaethol ar gau ar gyfer ailddatblygu, felly wnaeth gwirfoddolwyr ymweld ag Amgueddfa ar y Lôn, gweld chwarelwyr Castell Penrhyn yn perfformio eu harddangosiadau hollti llechi. Wnaeth y gwirfoddolwyr mwynhau'r siawns i gael cip o gwmpas ystafelloedd hanesyddol yng nghastell, yn dysgu am y linc rhwng y castell a’r diwydiant llechi.Cafodd gwirfoddolwyr yn GRAFT, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sesiwn gwneud mosaig gydag artist i greu gwaith celf gyda'r awgrym 'beth mae'r ardd GRAFT yn ei olygu i mi'. Dilynwyd hyn gan pizza a seremoni wobrwyo yn dathlu'r chwynwr gorau, y dewin dŵr, ac ati. Gorffennwyd y sesiwn gyda sesiwn drymio gan One Heart Drummers.Yn lle ein cinio a'n gweithgaredd crefft arferol, cafodd gwirfoddolwyr yn Amgueddfa Wlân Genedlaethol ddiwrnod allan i ymweld â Depo Didoli Gwlân Prydain a'r amgueddfa leol. Fe ddywedon ni unigryw!Dyma’n ffordd i ddweud Diolch i’n gwirfoddolwyr arbennig a wnaeth rodd dros 34,880 o oriau blwyddyn ddiwethaf!“Volunteers are a highly valued part of our family here at Amgueddfa Cymru. Volunteers enrich and add value to the way we inspire learning and enjoyment for everyone through the national collection of Wales. They enable a much wider, and more diverse range of voices, experiences and perspectives to contribute to the delivery of that core purpose than we could ever achieve solely through the staff body. I started my culture and heritage career with a volunteering placement many years ago. Volunteering changed my life, and it’s wonderful to see the wide range of ways in which volunteering changes lives in Amgueddfa Cymru.” Jane Richardson, Chief Executive, Amgueddfa Cymru.Eisiau Cymryd Rhan? Cymryd Rhan / Amgueddfa Cymru