: Project Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Project Creu Hanes

Addysg Oedolion mewn Partneriaeth yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Loveday Williams, Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli , 23 Medi 2020

Sefydlwyd fforymau yn gynnar yn y project Creu Hanes yn Sain Ffagan i'n helpu ni i ddatblygu ein harferion cyfranogi. Un o'r fforymau hyn oedd y Fforwm Dysgu Anffurfiol, a'i ffocws oedd ar ddysgu i oedolion a'r gymuned a'u cyfranogiad. Roedd y partneriaid ar y fforwm hwn yn gysylltiedig â'r meysydd gwaith hyn yn bennaf a daethant ynghyd i'n cynorthwyo ni i ddatblygu rhaglen addysg i oedolion yn yr Amgueddfa.

Yn ystod y project, chwaraeodd y Fforymau rolau gwahanol, ac roedd rhai yn fwy gweithredol nag eraill. Gweithiodd y Fforwm Dysgu Anffurfiol gyda ni cryn dipyn ar y dechrau ac yna drwy gydol oes y project, ac roedden nhw'n gyfrifol am helpu i lunio cwmpas maes Dysgu Oedolion yn yr Amgueddfa.

Yn 2015, pan ddechreues i weithio gyda'r fforwm fe aethon ni ati i ailystyried eu rôl ac adfywio eu rhan nid yn unig yn y project ond ym maes Addysg Oedolion drwy'r Amgueddfa, yn ogystal â chyfrannu at ddatblygiad y rhaglen Llesiant.

Ers hynny mae'r fforwm, sy’n dwyn y teitl Fforwm Addysg Oedolion bellach, wedi mynd o nerth i nerth. Maen nhw wedi'n helpu ni drwy'r project a gyda gwaith newydd a gwaith sy’n mynd rhagddo. Mae llawer o'r partneriaid gwreiddiol yn parhau gyda ni ers cwblhau'r project yn 2018, ac mae partneriaid newydd wedi ymuno ers hynny, gan ychwanegu at amrywiaeth ac ehanger y grŵp.

Dyma flas o rywfaint o'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud gyda'n gilydd dros y blynyddoedd a'r hyn sydd gan bartneriaid i'w ddweud:

"Roedd hi'n fraint i Llandaf 50+ gael gwahoddiad i ymuno â'r Fforwm Addysg i Oedolion a mynychu ei gyfarfodydd chwarterol yn yr Amgueddfa Werin.

Amcanion ein helusen yw helpu i leddfu problemau unigedd ac ynysu cymdeithasol ymhlith pobl hŷn, a'u hannog nhw i drefnu, a chymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol. Felly, roedd gweithio gyda Sain Ffagan, a sefydliadau a grwpiau elusennol lleol yn gyfle heb ei ail. Fe arweiniodd y cyfle i gyfrannu at drafodaethau ynghylch cyfleusterau a chyfleoedd i bobl hŷn yn ystod aildrefnu'r Amgueddfa at lawer o awgrymiadau gan ein haelodau ynghylch problemau bod yn hŷn.

Mae'n hawdd iawn canolbwyntio ar eich sefydliad chi'ch hun heb fod yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn y sector gwirfoddol ac elusennol. Er bod gennym gyfle i roi diweddariad ar ein gweithgareddau ni yn y Fforwm, mae'n wych clywed beth arall sy'n digwydd. Ac rydyn ni hefyd yn cael cyfle i gwrdd â phobl newydd o ardal Caerdydd a'r Fro, pobl sy'n helpu eraill i wella eu bywydau. Yn ôl ein Trysorydd ar ôl ei chyfarfod cyntaf: 'doeddwn i ddim yn sylweddoli bod cymaint yn digwydd, mae pobl yn gwneud pethau gwych'.

Ac rydyn ni'n clywed am gyfleoedd i wirfoddoli hefyd. Mae gennym atgofion melys o gatalogio llyfrau o hen lyfrgell Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, a'u gweld nhw yn ôl ar y silffoedd lle dylen nhw fod. Y llyfrau ar beirianneg, oedd yn ehangu'r meddwl, clasuron y plant i'w diddanu amser gwely, a hyd yn oed rhai a oedd ychydig yn feiddgar (ac yn boblogaidd hefyd o weld y stampiau y tu mewn i'r clawr!). Ac yna ginio pleserus, ar ôl pob sesiwn yn arwain at greu cyfeillgarwch am oes.

Mae'r Fforwm wedi gwneud i Llandaf 50+ deimlo fel rhan o'r Amgueddfa ac fe ddenodd ein hymweliad a thaith i'r Amgueddfa niferoedd gwych o'n haelodau, pawb yn ailymweld gyda ffrindiau newydd ac yn mwynhau esboniadau'r tywyswyr hyddysg. Dychwelodd nifer ohonynt gyda'u teuluoedd yn nes ymlaen yn y flwyddyn i sôn am yr hyn a ddysgwyd.

Rydyn ni hefyd yn gallu trosglwyddo'r wybodaeth rydyn ni'n dysgu amdani yn y Fforwm i'n haelodau. Aeth nifer ohonynt i ddigwyddiadau yn ystod Wythnos Addysg Oedolion gan fwynhau crefftau newydd a hel atgofion am yr hen rai. Caiff teithiau cerdded newydd a thaflenni eu hegluro yn ystod cyfarfodydd 50+ ac rydyn ni'n annog pobl i ymweld.  

Gobeithio bydd y Fforwm yn parhau i alluogi ein helusen, fechan ond gweithgar, i weithio gydag Amgueddfa mor bwysig a phoblogaidd yn y dyfodol, er lles pawb." (Gwirfoddolwr, Llandaf 50+)

Project Ail-ddehongli Sefydliad y Gweithwyr Oakdale

Roedd aelodau'r fforwm yn hanfodol i'r gwaith o ail-ddehongli Sefydliad y Gweithwyr Oakdale yn ystod 2015-16. Yn sgil eu cyfraniad nhw, gwelwyd yr adeilad yn ailagor gyda dehongliad mwy cyfranogol a chyfeillgar i'r defnyddiwr. Roedd hyn yn cynnwys datblygu adnoddau i ddysgwyr Cymraeg, pobl sy'n byw gyda dementia ac unigolion gyda chyflyrau synhwyraidd. Gallwch nawr fynd i mewn i bob un o ystafelloedd y sefydliad - o'r blaen dim ond cip drwy'r drws oedd yn bosibl cyn y gwaith ail-ddehongli.

"Ym mis Mawrth 2016, fel aelod o grŵp Hanes Lleol Prifysgol y Drydedd Oes yng Nghaerdydd, fe gymerais i ran ym mhroject ail-ddehongli Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, neu'r 'stiwt' fel y byddai'r trigolion lleol yn ei alw. Fel rhan o’r project, bûm i'n ymchwilio i'r adeilad, a godwyd yn ystod y Rhyfel Mawr, ac a barhaodd i fod yn ganolfan gymdeithasol ac addysgiadol allweddol i lowyr yr Oakdale a'r gymuned ei hun drwy'r ystafell darllen, cyfarfodydd, y llyfrgell, cyngherddau, ffilmiau a dawnsfeydd am sawl blwyddyn wedi hynny. Penllanw'r project oedd ailagor yr adeilad yn ystod ei flwyddyn ganmlwyddiant, a ddathlwyd gyda pharti i bobl leol o Oakdale gyda minnau'n ysgrifennu erthygl yng nghylchgrawn chwarterol cenedlaethol P3O 'Third Age Matters'. (Valerie Maidment, U3A Caerdydd).

Treialu Addysg Oedolion yn Sain Ffagan

Mae aelodau'r Fforwm wedi bod yn ganolog i dreialu cyrsiau a sesiynau blasu yn Sain Ffagan dros y blynyddoedd diwethaf. Fe wnaethon ni weithio gyda phartneriaid cymunedol lleol Action Ely Caerau (ACE) i recriwtio gwirfoddolwyr i beilota ein cwrs achrededig cyntaf mewn sgiliau gwnïo yn 2016. Roedd yr holl gyfranogwyr yn lleol i'r ardal ac yn wynebu rhwystrau o ran cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu traddodiadol. Roedd y cwrs ynghlwm â'r Amgueddfa ei hun gan fod y cyfranogwyr yn gwneud gwisgoedd i staff yr Amgueddfa eu gwisgo wrth gyflwyno sesiwn yr Oes Haearn i ysgolion. Roedd y gwisgoedd yn seiliedig ar batrwm traddodiadol, a rhoddwyd arweiniad i'r cyfranogwyr ynghylch y technegau yr oedd eu hangen i'w gwneud gan y tiwtor profiadol a'r wniadwraig gwisgoedd hanesyddol arbenigol, Sally Pointer. Doedd dim un o'r cyfranogwyr wedi gwnïo o'r blaen ac fe adawodd pawb ar ddiwedd y cwrs 10 wythnos, nid yn unig â chymhwyster yn eu meddiant, ond wedi gwella eu hyder a'u diddordeb ar gyfer dysgu pellach.

“Rydyn ni wir wedi mwynhau gweithio gyda'r Amgueddfa Werin ac maen nhw wedi dod yn bartner hynod werthfawr ym Mhroject Bryngaer Cudd CAER. Enghraifft o ddylanwad y bartneriaeth hon yw'r cwrs gwnïo a drefnwyd ar y cyd. Mae'r cwrs wedi'i achredu gan Agored Cymru ac yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru ac mae'r project wedi'i seilio ar gryfderau'r ddau sefydliad gydag Addysg Oedolion Cymru yn recriwtio cyfranogwyr o'n cymunedau lleol (ac yn cynnal yr hyfforddiant yn yr hyb cymunedol lleol). Mae'r Amgueddfa Genedlaethol wedi creu amgylchedd croesawgar gan hwyluso'r hyfforddiant a threfnu ymweliadau i'r ymwelwyr â Sain Ffagan. Cwblhawyd y cwrs gan y 13 o gyfranogwyr, oedd yn wynebu rhwystrau rhag dysgu a’r un ohonyn nhw wedi gwnïo o'r blaen. Ymhlith y canlyniadau roedd gwell hunanhyder a diddordeb o'r newydd mewn dysgu. Mae'r amgueddfa'n parhau i ddefnyddio gwisgoedd yr Oes Haearn a wnaed ganddyn nhw, felly maen nhw wedi llwyddo i wneud eu marc! Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r math hwn o broject ac yn gyfranogwyr brwd yn y Fforwm Addysg Oedolion er mwyn sicrhau y gallwn ni barhau i weithio gyda phartneriaid fel yr Amgueddfa Genedlaethol ar y math hwn o broject yn y dyfodol." Dave Horton, Rheolwr Datblygu ACE.

Wythnos Addysg Oedolion:

Mae un o aelodau allweddol y Fforwm, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn cynnal ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion ledled Cymru bob blwyddyn. Maen nhw wedi cynnig cefnogaeth o ran datblygu a chyflwyno ein rhaglenni dros y blynyddoedd ac rydyn ni wedi bod yn gyfranogwyr rheolaidd ers 2015. Rydyn ni wedi profi gweithgareddau a gweithdai crefft, wedi ymchwilio i'r potensial o gyd-gyflwyno a chynnal cyrsiau, ac wedi sicrhau ein bod wedi gallu cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ein sefydliadau partner, yn ogystal â chynnig cyfleoedd ar raddfa ehangach, er enghraifft, drwy gynnal ffair wybodaeth yn 2019. Eleni, ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion, rydyn ni wedi bod yn falch i gymryd rhan yn y digwyddiad digidol hwn, gan greu rhaglen o gyfleoedd yn seiliedig ar wneud, ar grefftio ac ar greu.

Dyma ddyfyniad o un o'n partneriaid allweddol, Hafal. Mae cyfranogwyr Hafal wedi treialu a chymryd rhan mewn gweithdai yn ystod Wythnosau Addysg Oedolion blaenorol ac ar wahanol adegau gydol y flwyddyn.

"Rwy'n cynnal project garddio i grwpiau o bobl yn Hafal, yr Elusen Iechyd Meddwl a leolir yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.          

Mae bod yn rhan o'r Fforwm Addysg Oedolion wedi rhoi cyfle anhygoel i mi fynd â grwpiau i amrywiaeth o weithdai a gynhelir yn yr amgueddfa. Roedd y gweithdy Copr Addurniadol yn llwyddiant ysgubol, yn yr un modd â'r gweithdy cerfio llwy garu, ac fe wnaethon ni weithio am sawl wythnos yn helpu gyda tho gwellt yr adeilad to crwn.

Mae cael gwybod gan aelodau eraill y fforwm am yr hyn sydd ganddyn nhw ar y gweill yn y gymuned hefyd wedi cynnig cyfleoedd i ni fynychu gweithgareddau gwahanol. Un o'r rhain oedd y gloddfa archeolegol ym Mryngaer Trelái, lle cawson ni daith o amgylch y safle a gweld rhai o'r arteffactau oedd yn cael eu darganfod yno.

Arweiniodd hyn at weithdy yn yr amgueddfa gyda'r prif archaeolegydd, yn edrych yn fanylach ar yr hyn a ddarganfuwyd ar y safle a beth allai hyn ei ddweud wrthym am y ffordd roedd pobl yn byw ar y pryd, ac roedd hyn yn hynod ddiddorol i bawb yn y grŵp.

Mae llawer o gyfleoedd dysgu yn cael eu trafod yn y fforymau a gallaf roi gwybod i'm grwpiau i fel y gallan nhw fanteisio ar y cyfleoedd os ydyn nhw'n dymuno.

Mae Loveday yn llawn gwybodaeth ac yn gyfeillgar tu hwnt, ac yn dda iawn am gysylltu pobl â'i gilydd er budd pawb. Mae wedi bod yn fraint i fod yn rhan o'r fforwm." (Lesley, Ymarferydd Adfer, Hafal)

 

Cynnal cyrsiau yn Sain Ffagan

Ers agor y cyfleusterau newydd yn Sain Ffagan yn 2017, rydym wedi gweithio'n galed gyda phartneriaid i sefydlu cyfleoedd i sefydliadau eraill ddod â'u cyfleoedd dysgu i'r Amgueddfa. Rydyn ni wedi gweithio gydag Adran Ehangu Mynediad Met Caerdydd, a ddaeth â chyfres o weithdai i'r Amgueddfa yn 2019, er enghraifft, Ysgrifennu Creadigol a Therapi Ategol. Roedd y cyrsiau hyn yn defnyddio'r Amgueddfa a'i chasgliadau i greu ysbrydoliaeth a dylanwadu ar gynnwys y cyrsiau. Mae'r bartneriaeth hon yn galluogi dysgwyr i brofi persbectif unigryw Cymreig ar eu profiad dysgu.

Dyma'r hyn roedd gan dîm Ehangu Mynediad Met Caerdydd i'w ddweud am y bartneriaeth:

“Bu'n bleser o'r mwyaf i gydweithio â Sain Ffagan, ac mae hyn wedi'n galluogi ni i gyfoethogi'r cyrsiau drwy rannu'r adnoddau a'r arbenigedd rhagorol sydd ar gael yn yr Amgueddfa. Mae tiwtoriaid o'r Brifysgol yn gallu gweithio gyda'r staff yn Sain Ffagan i ymgorffori diwylliant Cymru i'w cyrsiau ac mae'r creiriau yn dod â phopeth yn fyw i'r myfyrwyr.

Drwy rannu adnoddau, cyhoeddusrwydd ac arbenigedd, mae'r myfyrwyr yn cael budd ehangach drwy’r bartneriaeth nag y byddai’n bosibl fel arall. Rydyn ni hefyd yn gallu cyrraedd cymuned ehangach ac yn gallu ymgynghori drwy gyfrwng y fforwm dysgu fel bod gennym ddealltwriaeth well o'r hyn y byddai'r gymuned yn dymuno'i ddysgu.

Yn olaf, mae'n wych gallu cynnal cyrsiau mewn adeiladau mor anhygoel a chael cymorth gan yr holl staff sydd bob amser yn broffesiynol, yn gyfeillgar ac yn bwysicaf oll, yn cynnig croeso cynnes." (Jan Jones, Pennaeth Ehangu Mynediad, Met Caerdydd).

Rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos â Chymraeg i Oedolion yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydyn ni wedi cynnal Sadwrn Siarad, diwrnod o weithgareddau Cymraeg, yn ystod yr haf am sawl blwyddyn, ond yn 2019, roedden ni'n gallu cynnig gofod ystafell ddosbarth er mwyn cynnig dosbarthiadau Cymraeg gyda'r nos yn Sain Ffagan. Cynhaliwyd peilot ym mis Ionawr 2019 pan ddechreuodd cwrs Mynediad 1. Yn dilyn llwyddiant hwn, dechreuwyd dau gwrs pellach yn y mis Medi canlynol, ac aeth y dysgwyr o'r cwrs cyntaf ymlaen at gwrs Mynediad 2.

Dyma'r hyn sydd gan dîm Cymraeg i Oedolion yn Ysgol y Gymraeg i'w ddweud am y bartneriaeth:

“Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn falch iawn o gael y cyfle i gydweithio â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Ffurfiwyd y bartneriaeth drwy Fforwm Addysg Oedolion sy’n cael ei arwain gan Loveday Williams o’r Amgueddfa ac mae’r cyd-weithio rhyngom wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Yn Ionawr 2019, cynhaliwyd cwrs dysgu Cymraeg lefel Mynediad ar gyfer dechreuwyr yn yr Amgueddfa. Mae’r gwaith wedi dwyn ffrwyth ers hynny gan i ni ddarparu tri chwrs ym mis Medi 2019, cwrs dilyniant a dau gwrs lefel Mynediad i ddechreuwyr. Er i ni orfod oedi’r dysgu wyneb yn wyneb ym mis Mawrth eleni, mae’r holl gyrsiau wedi parhau’n rhithiol ac yn parhau ar-lein am 2020-2021. Felly er nad oes modd i ni gynnal dosbarthiadau yn Sain Ffagan ar hyn o bryd, mae’r Fforwm Addysg Oedolion yn ein galluogi ni i barhau i gyd-weithio a chynllunio at y cyfnod nesaf.” (Mari Rowlands, Dysgu Cymraeg Caerdydd)

Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda phob un o'n partneriaid a sefydlu partneriaethau newydd yn y dyfodol, wrth i ni asesu sut olwg bydd ar ein "normal newydd" a sut y gallwn ni barhau i weithredu a thyfu ein darparu addysg i oedolion.

 

Atgofion o Wyliau Hapus wrth i Ni Aros Adre i Gadw’n Ddiogel

Ian Smith - Uwch Guradur Diwydiant Modern a Chyfoes, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 28 Mai 2020

Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn parhau i aros gartref ac aros yn ddiogel yma yng Nghymru. Yn ystod wythnos y Sulgwyn mae rhai ohonoch yn gwersylla yn yr ardd neu'n mwynhau aros yn y garafán ar y dreif. Efallai bod eraill yn hiraethu am wersylla neu garafanio yn Eisteddfod yr Urdd dros y blynyddoedd, neu anturiaethau i rai o'ch hoff fannau gwyliau ar hyd ein harfordir. Felly, i’n helpu ni i gyd gydag ychydig hiraeth am wyliau wrth i ni aros gartref, dyma Ian Smith, Curadur Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gydag ychydig o’r hanes y tu ôl i’r llun hwn:

Tynnwyd y llun hwn tua 1951. Ynddo, gwelir y teulu Dodds a oedd yn byw yng Nghaerdydd. Comisiynodd Mr Dodds y garafán ym 1950 i'w hadeiladu a'i gosod gan Louis Blow & Co yn Nhreganna, Caerdydd. Costiodd y fan £ 600.00 - ffortiwn fach yn y dyddiau hynny.

Aeth y teulu ar daith ledled De Cymru ynddi er i'r fan gael ei gadael yn barhaol ar gae ffermwr ger Casnewydd yn Sir Benfro yn y pen draw. Yno, cafodd y teulu eu holl wyliau haf tan 2009.

Y teulu creodd y cynllun a oedd yn cynnwys pethau fel top cwpwrdd arbennig y byddai crud cario'r babi yn ffitio'n berffaith iddo; gwely dwbl plygu i lawr ar gyfer Mam a Thad a sgrin rhannu derw oedd yn llithro i’w le, a oedd i bob pwrpas yn ffurfio dwy ystafell wely. Roedd cegin fach gyda stôf nwy a sinc gyda thap pwmp troed i ddarparu dŵr golchi. Roedd yn rhaid casglu dŵr yfed mewn canistr alwminiwm mawr - gwaith da i'r plant os oedd angen eu blino allan cyn mynd i’w gwely! Roedd yr adlen yn dyblu maint y lle byw ac yn darparu ardal i gadw pethau'n sych.

Yn 2009 cynigiwyd y garafán i'r amgueddfa gan Michael Dodds, a oedd erbyn hynny yn ei 70au. Mike yw'r bachgen hŷn yng nghefn y grŵp yn y llun. Mae’r garafán yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Hanes Cenedlaethol Sain Ffagan, yn Oriel ‘Byw a Bod’.

 

 

 

 

 

 

 

Cadair Eisteddfod Caerdydd - Ysbrydoliaeth Sain Ffagan

Sioned Williams, 9 Awst 2018

Caiff Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 ei noddi gan Amgueddfa Cymru, i nodi 70 mlynedd ers sefydlu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

 

Mae Sain Ffagan wedi bod yn hyrwyddo crefftwaith Cymru ers agor ym 1948, ac mae noddi Cadair yr Eisteddfod yn ffordd addas o ddathlu hyn. Chris Williams gafodd y fraint o ddylunio a chreu'r Gadair eleni.

Mae Chris yn gweithio fel cerflunydd ac mae'n aelod o'r Royal British Society of Sculptors. Mae'n byw yn Pentre, ac mae ganddo weithdy ac oriel yn Ynyshir, Rhondda.

Cafodd elfennau o'r gadair eu creu yn Gweithdy, adeilad newydd cynaliadwy yn Sain Ffagan, sy'n dathlu sgiliau gwneuthurwyr ddoe a heddiw - a lle mae cyfle i ymwelwyr o bob oed droi eu llaw at grefftau o bob math. Yno, bu Chris yn arddangos ac yn rhannu'r broses o greu'r gadair gydag ymwelwyr – y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn hanes Cadair y Genedlaethol.

Tapiwch ar y cylchoedd isod, wrth i Chris esbonio'r broses o greu cadair eiconig Eisteddfod Caerdydd:

  • O'r Aelwyd i'r Orsedd

    Cadair Eisteddfod 2018 trwy lygad y saer

  • Yr Ysbrydoliaeth

    Mae cadair Eisteddfod 2018 wedi'i ysbrydoli gan gadeiriau ffon Cymreig, fel hon yn Ffermdy Cilewent, Sain Ffagan

  • Dathlu Crefft Cymru

    Dewiswyd y garthen hon am ei phatrwm manwl - a ddaeth yn briff nodwedd y gadair

  • Y deunydd crai - pren llwyfen ac onnen - yn cyrraedd y gweithdy yn Pentre

  • Dyluniwyd y gadair fel model cywir ar Rhino 3D. Galluogodd hyn i mi fesur yn fanwl er mwyn creu jigiau a thempledi ar gyfer y breichiau a'r coesau

  • Mae sedd a chefn y gadair o'r un goeden lwyfen. Rhaid oedd sandio'r pren er mwyn datgelu'r graen - a gweld a oedd nam ar y pren sydd angen ei ystyried

  • Fe wnes i'r gwaith siapio yn Gweithdy, oriel grefft newydd Sain Ffagan. Roedd yn braf gallu rhannu'r broses o greu'r gadair gyda'r cyhoedd

  • Addurnwyd y cefn a'r sedd yn defnyddio laser Co2 - mawr yw'r diolch i gyngor Caerffili am gael defnyddio'r engrafwr! Ysbrydolwyd y patrwm cain gan garthen a wehyddwyd ym Melin Esgair Moel yn 1960. Mae'r felin (a'r garthen) 'nawr yn Sain Ffagan.

  • Roedd clampio'r pren ar gyfer yr uniad yn broses gymhleth, a roedd angen nifer o glampiau hir i reoli'r pwysau

  • Cafodd y testun hefyd ei engrafu â laser. Gwnaed hyn ar ddarn fflat o onnen, a gafodd ei lamineiddio i'r fraich gyda nifer fawr o glampiau

  • Gludo'r coesau yn eu lle

  • Bron â gorffen... Morteisio'r cefn yn ei le

  • Troi'r breichiau o gwmpas y cefn i greu uniad unigryw, a'i ludo yn ei le. Caiff y coesau bychain eu hychwanegu, a'u gosod gyda lletemau

  • A dyma hi yn ei holl ogoniant - cadair Eisteddfod 2018. Pob lwc i'r holl gystadleuwyr!

Lleisiau coll Cymraeg Caerdydd

Blog Gwadd: Dylan Foster Evans, 6 Awst 2018

Sut beth oedd Cymraeg Caerdydd yn y gorffennol? Dylan Foster Evans sy'n trafod lleisiau coll ein prifddinas:

 

Wrth bori mewn papurau newydd o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe welwch fod trafod o dro i dro ar ddiflaniad Cymry Cymraeg ‘brodorol’ Caerdydd.

Roedd gan y dref yr adeg honno ei ffurf ei hun ar y Wenhwyseg, y dafodiaith leol draddodiadol. Ond er bod niferoedd siaradwyr Cymraeg Caerdydd ar gynnydd, llai a llai a siaradai hen dafodiaith Gymraeg Caerdydd. Mae’n destun rhyfeddod, felly, ein bod ni heddiw yn gallu gwrando ar leisiau’r to olaf o unigolion a fagwyd yn siarad y Wenhwyseg leol yn y Gaerdydd bresennol neu’n agos iawn ati.

 

Mae gwrando arnynt yn brofiad sy’n gofyn am ychydig o ymdrech ar ein rhan. Ar adegau, waeth cyfaddef ddim, mae rhyw afrwyddineb yn nodweddu geiriau rhai o’r siaradwyr olaf hyn. Nid niwsans mo hynny, chwaith, ond rhywbeth sy’n gwbl, gwbl greiddiol i’r profiad. Hen bobl yw’r rhain ac mae olion y degawdau i’w clywed ar eu lleisiau.

Ac yn achos sawl un, nhw yw siaradwyr Cymraeg olaf y llinach. Mae eu perthynas â’r iaith wedi breuo o flwyddyn i flwyddyn ac o ddegawd i ddegawd.

Ond yn yr afrwyddineb hwnnw — ac yn wir yn eu Saesneg — y daw eu profiadau’n fyw.

Dyna lle clywn ôl addysg a anwybyddai’r Gymraeg; dyna lle clywn effaith diffyg trosglwyddo rhwng cenedlaethau; a dyna lle’r ymdeimlwn â realiti shifft ieithyddol. Ond er gwaethaf hynny oll, mae yma wir brydferthwch.

 

Enwau'r ddinas - o Blwyf Mair i Lanetarn

Y cynharaf ohonynt yw Edward Watts (1840–1935) o Landdunwyd ym Mro Morgannwg. Fe’i recordiwyd pan oedd yn hynafgwr dros ei ddeg a phedwar ugain.

Cofiai ymweld â Chaerdydd tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac wrth sôn am safle hen neuadd y dref yn ‘Plwyf Mair’ mae’n cofnodi elfen o ddaearyddiaeth Gymraeg Caerdydd sydd bellach wedi ei cholli.   

A dyna chi Tom Lewis y ‘trychwr’ o ‘Rwbina’ (nid ‘o Riwbeina’ fel y dywedai llawer ohonom heddiw).

A’r Husbands — cynnyrch cymuned amaethyddol Llanishan, Llys-fæ̂n a Llanetarn, chwedl hwythau (ond Llanisien, Llys-faen a Llanedern i ni, debyg iawn).

Caerdydd wahanol iawn oedd Caerdydd llawer o’r lleisiau hyn. Ond hebddyn nhw a’u tebyg, gwahanol iawn fyddai ein Caerdydd ninnau.

 

 

Gyda diolch i Beth Thomas, Meinwen Ruddock-Jones a Pascal Lafargue. Am ragor o hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd, dilynwch @CymraegCaerdydd a @diferionDFE - ac am ragor o Archif Sain Ffagan, dilynwch @ArchifSFArchive

Bydd arddangosfa o hanes Trebiwt, y Bae a Chaerdydd i'w gweld yn Y Lle Hanes trwy gydol yr Eisteddfod.

Anrhegion ddoe, heddiw

Sarah Parsons, 20 Rhagfyr 2017

Dim syniadau am anrhegion i’r plant eleni? Mae digon o ysbrydoliaeth yng nghasgliadau’r Amgueddfa. Bydd rhai o’r eitemau yma’n cael eu harddangos yn orielau newydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn hydref 2018.

Peiriant gwnïo tegan

Rhif caffael: F82.51.63

Oes rhywun yn y teulu’n dwlu ar wnïo? Margaret Eckley o Sili oedd perchennog y tegan hyfryd hwn. Byddai wedi chawrae ag ef yn y 1930au. Mae’n cael ei droi â llaw ac yn addurn arno mae llun o’r Hugan Fach Goch. Mae llyfr cyfarwyddiadau ganddo hefyd.

 

Set o filwyr bychan

Rhif caffael: 56.313.134 – 154

Beth am hen ffefryn? O Aberhonddu y daw’r set hon o filwyr tegan. Wnaethon nhw fartiso yr holl ffordd? Cawsant eu rhoi i’r Amgueddfa yn y 1950au, a bydden nhw wedi cael eu defnyddio gan blant y rhoddwr a gafodd eu geni yn y 1890au.

 

Tractor tegan Corgi

Rhif caffael: F00.27.9

Mae ceir bach Corgi yn boblogaidd o hyd. Plant o Gaerdydd fyddai wedi chwaraeâ’r tractor hwn yn y 1950au a’r 1960au.

 

Dol gwisg Gymreig

Rhif caffael: 30.316

Ganol y 19eg ganrif byddai plant wedi chwarae â’r ddol Gymreig hon. Mae’n rhaid ei bod hi wedi cael ei thrysori – roedd hi yn nheulu’r rhoddwr am 80 mlynedd. I weld mwy o ddoliau Cymreig ewch i wefan Casgliad y Werin Cymru.

 

LEGO Nadolig

Rhif caffael: 2000.194/1

Fyddai hi ddim yn Nadolig heb LEGO! Dyma sïon corn a’i sled a gynhyrchwyd yn ffatri LEGO yn Wrecsam.

Dyw’r gwrthrychau ddim i’w gweld ar hyn o bryd, ond byddan nhw ar y wefan yn fuan, ynghyd â nifer o’n casgliadau Celf, Archaeoleg, Diwydiannol, Cymdeithasol a Diwylliannol. Diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery am eu cefnogaeth i’r gwaith hwn.

Os oes gwrthrych penodol yr hoffech chi ei weld yn unrhyw un o’n hamgueddfeydd, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei ddangos cyn teithio, neu gallwch chi drefnu apwyntiad i’w weld.

People's Postcode Lottery Logo