Amgueddfa Lechi Cymru

SBRAGIO - galwad am weithwyr creadigol llawrydd!

31 Gorffennaf 2026

Ydych chi’n gerddor, artist, peiriannydd sain neu’n gweithio mewn maes creadigol? 

Rydym yn chwilio am weithwyr llawrydd i arwain ar broject cerddorol cyffrous fydd yn rhan o ailddatblygiad Amgueddfa Lechi Cymru. 

Bydd ailddatblygiad yr amgueddfa yn gwarchod, gwella a dehongli safle arbennig yr Amgueddfa Lechi, ac yn creu canolfan Treftadaeth y Byd UNESCO gan gefnogi sgiliau traddodiadol, dysgu a lles a rydym wedi ymrwymo i greu gofodau newydd a gwahanol ble mae pobl yn gweld eu hunain yn profi ymdeimlad o berthyn. 

Meddai Chloe Ward - Rheolwr Ymgysylltu y Project: 

"Bydd Project SBRAGIO yn gweithio gyda chymunedau a lleisiau lleol i greu gofodau a phrofiadau ysbrydoledig sy’n cynnig persbectif unigryw ar hanes y cymunedau chwarela a luniodd yr ardal hon o Gymru. Bydd yn dod â phobl ynghyd i weithio gyda sŵn a cherddoriaeth mewn ffordd sy’n adlewyrchu hanes, tirwedd a straeon byw’r gymuned leol. 

Bydd cyfle i gydweithio, arbrofi a chreu gwaith newydd fydd yn helpu ailddweud stori yr Amgueddfa Lechi drwy weithio gyda grwpiau targed o’r ardaloedd llechi ac ardaloedd lleol yr amgueddfa, gyda ffocws ar gymunedau lleol, pobl o ardaloedd economaidd-gymdeithasol isel, cymunedau mwyafrif byd-eang, pobl hŷn gan gynnwys pobl yr effeithir arnynt gan ddementia, pobl ifanc."

Bydd arweinyddion SBRAGIO yn gyfrifol am recriwtio a gweithio gyda’r cymunedau, datblygu syniadau creadigol sy’n ymateb i’r Amgueddfa a’i hanes ac arwain ar broses gydweithredol, gynhwysol a chyffrous a chreu allbwn o ddarnau cerddorol newydd ar y cyd gyda chymunedau targed lleol, fydd yn cael ei ddefnyddio i gyfoethogi dehongli newydd Amgueddfa Lechi Cymru. Bydd yr arweinyddion yn helpu cydlynu a chyfrannu at ddigwyddiad arbennig i ddathlu’r gwaith ar ddiwedd y project, er enghraifft cyngerdd neu ŵyl. 

 Amserlen 

  • Bydd y project yn cychwyn mor fuan â phosib. Rydym yn gobeithio bydd y project creadigol hwn yn dod i ben tua diwedd 2026. 
  • Mi fydd hi’n bosib cyflwyno elfennau terfynol yn gynnar yn 2027, ond dim hwyrach na diwedd Mawrth 2027. 

Cyllideb

  • Mae cyfanswm o 3 gronfa o £3,000 ar gael, ar gyfer 3 elfen wahanol. 
  • Dylai’r cyfanswm o £3,000 gynnwys holl ffioedd, teithio, chynhaliaeth ac unrhyw ddeunyddiau. 
  • Mae cyllideb ar wahân i dalu costau darpariaeth cyfieithu neu unrhyw gostau sy’n ymwneud â hygyrchedd. 
  • Mae Amgueddfa Cymru yn ad-dalu costau teithio ar gyfer gweithwyr llawrydd ar gyfradd o 25c y milltir.   

Iaith

  • Mae'n hollbwysig i ni fod pobl yn gallu cymryd rhan yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac felly’n bwysig bod unrhyw hwyluswyr neu waith cymunedol yn cael ei gynnal yn ddwyieithog. Byddwn yn ffafrio datganiadau o ddiddordeb gan unigolion sy'n siarad Cymraeg neu'r rhai sy'n dangos dealltwriaeth o hyn. Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn gallu cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg Amgueddfa Cymru sydd i'w gweld yma.

Hawlfraint

  • Amgueddfa Cymru fydd yn  berchen ar hawlfraint yr holl gynnyrch o'r project hwn.

Mynegi diddordeb a cheisio

  • Rydym yn croesawu cynigion ysgrifenedig dim mwy na 2 dudalen A4, neu fideo byr/recordiad llais sydd o dan 5 munud. 
  • Rydym yn hapus i drafod ffyrdd eraill o wneud cais am y cyfle hwn. 

Bydd angen cynnwys y wybodaeth ganlynol: 

  • Profiad perthnasol o sut rydych chi wedi ymgysylltu'n greadigol â chymunedau.
  • Gwybodaeth am eich maes ymarfer creadigol a'ch syniadau ar gyfer y prosiect - be fyddech chi'n bwriadu ei gyflawni ac efo pwy fyddech chi'n bwriadu gweithio.
  • Amlinelliad o’ch costau chi, gan gynnwys eich ffi dyddiol. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y ddogfen yma

Os oes gennych ddiddordeb neu eisiau gwneud cais danfonwch eich mynegiant o ddiddordeb drwy e-bost at chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk - erbyn 11/09/2026. 

Byddwn yn adolygu ceisiadau yn barhaus ac yn cysylltu â phob ymgeisydd ddim hwyrach na wythnos ar ôl y dyddiad cau. 

Galwad am ddiddordeb Cronfa Gerddorol (PDF)

Atgofion trwy grefft, gan Rachel Evans

1 Ebrill 2026

Fel artist, mae fy ngwaith yn archwilio olion hanes cymdeithasol a gedwir o fewn arteffactau domestig a thirweddau lleol. Rwy'n cael fy nenu at fanylion sy'n myfyrio ar feithrin a dyfeisgarwch, yn enwedig rhai a luniwyd gan brofiadau dyddiol menywod, sydd yn aml ar goll o hanesion swyddogol. Roedd y project hwn yn gyfle gwych i ymgysylltu â chyfranogwyr, clywed straeon, ac archwilio sut mae gwrthrychau bob dydd yn dal atgofion a hanesion. 

Dechreuodd ein sesiynau yn yr ‘ystafell ddydd’ ar ward Morfa, Ysbyty Alltwen, gyda sgyrsiau am fywyd domestig y gorffennol, wedi’u sbarduno gan arteffactau o'r amgueddfa, fel crochenwaith, cyllyll a ffyrc, a thecstiliau. 
 

Baner o luniau wedi dynnu yn ystod gweithdai creadigol Ysbyty Alltwen.


Fe wnaethon ni greu darnau personol wedi'u hysbrydoli gan fywyd domestig gan ddefnyddio clai aer-sychu, gyda gweadau sy'n adlewyrchu llafur diwydiannol a llafur cartref. Drwy ddefnyddio stampiau llythrennau, roedd modd argraffu atgofion o'n trafodaethau i'r clai, gan ychwanegu haen bersonol at straeon torfol. Ychwanegwyd lliw gydag inc a graffit, neu de a choffi, wedi'i bwffio i roi naws oedrannus i’r darnau - proses a oedd yn adleisio tasgau domestig. 


Ysbrydolodd y matiau rhacs sydd yn rhan o gasgliad yr Amgueddfa Lechi, ac yn symbol o ddyfeisgarwch domestig, ni i greu ein sampl gydweithredol ein hunain. Yn draddodiadol, gwnaethpwyd y matiau hyn trwy wthio stribedi rhacs trwy ddeunydd sach; fe wnaethon ni addasu'r dull er mwyn symlrwydd drwy lapio defnydd o amgylch glanhawyr pibellau, yna eu cysylltu â'u gwnïo i siâp mat rhacs bychan.

Gweithiau creadigol a gwnaed yn ngweithdai Ysbyty Alltwen.


Mae'r darnau cylch brodwaith wedi'u hysbrydoli gan flanced chwarelwr o tua 1900, wedi'i gwneud o ddarnau clytiog o frethyn llwyd wedi'u trimio â choch, i amddiffyn ei berchennog rhag amodau llym y barics. Mae ein darnau wedi'u gwnïo yn cyfuno dyfeisgarwch gwnïo a thrwsio â symbolau o'r llefydd tân cerfiedig a welir mewn rhai cymunedau chwarelyddol.


Mae'r darnau maint cerdyn post yn parhau â'r thema, yn cynnwys symbolau o'r llefydd tân, gyda thestun wedi'i dynnu o sgyrsiau ac atgofion.


Mae'r project hwn wedi bod yn ffordd wych o rannu straeon personol a chreadigrwydd, gan ddod â phobl ynghyd trwy greu gyda’n gilydd - diolch i bawb a gymerodd ran!

"Braf oedd dod at ein gilydd a dysgu sgiliau newydd" - claf o ward Morfa, Ysbyty Alltwen

Manylion cyswllt: rachelevanscelf@gmail.com

Instagram: rachelevans_artist 
 

Cynhaliwyd y gweithgareddau yma fel rhan o broject ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, a ariennir gyda nawdd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU trwy Gyngor Gwynedd fel rhan o broject Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill.  
 

Chwarelwyr yn y Castell!

Julie Williams, 16 Chwefror 2026

Chwarelwyr Amgueddfa Lechi Cymru yn symud o’r chwarel i’r castell!  

Am y tro cyntaf erioed mae chwarelwyr llechi yn gweithio yng Nghastell Penrhyn – cartref un o berchnogion chwarel cyfoethocaf Cymru. 

Mae chwarelwyr o Amgueddfa Lechi Cymru, sydd fel arfer i’w gweld yn yr amgueddfa yn Llanberis, wedi symud dros-dro i arddangos eu sgil a’u crefft yn y Castell. 

Mae hyn yn digwydd wrth i Amgueddfa Lechi Cymru gau ei drysau am gyfnod ar gyfer ailddatblygiad mawr. Oherwydd y gwaith hwn mae’r amgueddfa, sy’n rhan o deulu Amgueddfa Cymru, wedi penderfynu rhannu ei stori mewn lleoliadau eraill o fewn safle treftadaeth byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. 

Sefydlwyd Chwarel y Penrhyn gan y teulu Pennant. Roedd yn un o brif chwareli llechi Cymru am bron i 150 o flynyddoedd, ac roedd yr amodau gweithio’n galed iawn yno. Ym 1900, aeth dros 2,000 o weithwyr ar streic am well cyflogau ac amodau gweithio – penllanw blynyddoedd lawer o wrthdaro ac anfodlonrwydd. 

Roedd Streic y Penrhyn yn un hir a chwerw. Fe barodd dros dair blynedd, un o’r streiciau diwydiannol hiraf yn hanes Prydain, ac achosodd galedi difrifol i’r chwarelwyr a’u teuluoedd. Rhwygwyd y gymuned yn ddwy; rhwng y ‘streicwyr’ a achosodd yn driw i’r streic neu adael i ddod o hyd i waith arall, a’r ‘bradwyr’ a ddychwelodd i’r chwarel. ⁠ 

I nifer o drigolion yr ardal, mae’r Castell yn dal i fod yn symbol o gyfoeth a gormes. Yn hanesyddol, fyddai’r chwarelwyr byth yn croesi trothwy’r Castell, ac mae llawer o’u teuluoedd wedi cadw draw ar hyd y blynyddoedd. 

Mae Castell Penrhyn a’r gerddi bellach dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac mae’r safle wedi bod yn cydweithio gyda thrigolion yr ardal ac artistiaid ers dros ddegawd i rannu mwy o’r hanes, ac ailgysylltu â’r gymuned leol, fel yr esboniodd Ceri Williams, Rheolwr Cyffredinol Castell Penrhyn: 

“Dros y degawd a mwy diwethaf, rydym wedi bod yn ail-edrych ar ein ffordd o rannu hanes a chysylltiadau diwydiannol a threfedigaethol Castell Penrhyn. Rydym wedi cyflawni cymaint ar hyd y cyfnod, ond mae croesawu’r chwarelwyr i’r castell yn garreg filltir arwyddocaol o ran ailgysylltu’r gymuned â’r safle hanesyddol hwn. 

⁠Yn barod, mae torfeydd wedi bod yn ymgasglu i wylio’r arddangosfa hollti llechi, sydd yn ddathliad o grefftwyr lleol, ond hefyd yn brofiad sy’n ychwanegu at hanes diwydiannol y castell. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag Amgueddfa Lechi Cymru dros y misoedd i ddod, a chynnig ymweliad unigryw a chofiadwy i Gastell Penrhyn.”

I Amgueddfa Lechi Cymru, mae’r cyfle i’w chwarelwyr arddangos eu gwaith yng Nghastell Penrhyn yn rhan allweddol o’r rhaglen ailddatblygu, ac yn benodol ymgyrch Amgueddfa ar y Lôn yn 2025, sy’n adleoli elfennau o’r amgueddfa tra bod y safle ar gau. 

Dywedodd Elen Roberts, Pennaeth Amgueddfa Lechi Cymru: 

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r tîm yng Nghastell Penrhyn ac i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru am roi’r cyfle unigryw hwn i ni gydweithio fel rhan o raglen ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru.  Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth dros y blynyddoedd i rannu hanes y diwydiant llechi, ac mae’r cyfle i rannu sgiliau a straeon ein chwarelwyr yn beth mawr i’r ddwy ochr. Bydd symud i Gastell Penrhyn – ac i safleoedd eraill yn yr ardal Treftadaeth Byd – yn ystod ailddatblygiad yr amgueddfa yn gyfle i ni gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a sicrhau bod ein stori yn parhau tu hwnt i furiau’r amgueddfa. 

Bydd ein staff ar eu hennill o gael dal i weithio gyda’r cyhoedd, a gwella eu gwybodaeth o hanes y llechi, a gobeithio y bydd ymwelwyr ar eu hennill o gwrdd â staff yr amgueddfa mewn lleoliadau newydd a fydd – ynghyd â’r cynnig presennol i ymwelwyr â Chastell Penrhyn – yn cynnig persbectif newydd ar stori’r llechi.”

Mae’r Amgueddfa a’r Castell yn rhannau allweddol o safle Treftadaeth Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. Croesawyd y datblygiad gan yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Partneriaeth Llechi Cymru:

 “Mae Cyngor Gwynedd a’i bartneriaid wedi cydweithio ers blynyddoedd i ddatblygu partneriaeth gref er mwyn sicrhau statws treftadaeth byd i Dirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. Mae canlyniadau’r bartneriaeth gref hon nawr yn dwyn ffrwyth wrth i ni weld buddsoddiad sylweddol o dros £30m drwy raglen weithgareddau Llewyrch o’r Llechi – fel y rhai yn Amgueddfa Lechi Cymru a lleoliadau eraill ar draws yr ardal. Rydym hefyd yn gweld ffyrdd newydd ac arloesol o gydweithio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, cynnig profiadau newydd, a rhannu stori fyd-eang llechi Cymru.” 

Mae’r chwarelwyr yng Nghastell Penrhyn bob dydd yn ystod 2025.                                         

Am fwy o hanes y Castell ewch i wefan Castell Penrhyn: www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/penrhyn-castle-and-garden

Wythnos yn gweithio yn Amgueddfa Lechi Cymru efo Cari a Mali

Cari a Mali, myfyrwyr profiad gwaith, 14 Gorffennaf 2025

Cari a Mali, dwy o fyfyrwyr profiad gwaith Amgueddfa Lechi Cymru.
Cari, myfyrwraig profiad gwaith, yn cerdded ar hyd ffordd gul wedi'i hamgylchynu gan goed deiliog gwyrdd.

Diwrnod 1 

Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?

Yn ein diwrnod cyntaf yma bu i ni fynd am dro o amgylch yr ardal gan ehangu ein dealltwriaeth am hanes y chwareli. Yn ogystal, bu i ni ymweld gyda’r Ysbyty Chwarel gan ddysgu mwy am afiechydon a chlefydau a byddai’r chwarelwyr yn eu hwynebu.

Pa sgiliau ddysgon ni o’r profiad?

Gan fod disgyblion ysgol wedi dod i ymweld gyda’r Amgueddfa cawsom ddysgu sut i weithio gydag ymwelwyr - yn enwedig plant iau, a dysgu mwy am yr ardal o wrando ar y cyflwyniad. Wrth gerdded o amgylch yr ardal, yn sicr, rydym wedi dysgu llawer mwy am hanes y chwareli a’r chwarelwyr.

Diwrnod 2

Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?

Heddiw yr aethom ni i Gastell Penrhyn. Yma, bu i ni gerdded o amgylch y castell a gwylio arddangosiad naddu a hollti. Yn yr arddangosfa cawsom ddysgu fwy am ddylanwad llechi, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y byd. Gofynnom hefyd am adborth gan y gwylwyr. Tra yn ymweld â’r Castell, bu i ni ddarganfod gwely wedi ei greu yn gyfan gwbl o lechan!

Pa sgiliau ddysgon ni o’r profiad?

Wrth drafod gyda chynulleidfa’r arddangosfa, bu i ni ddatblygu sgiliau trafod cyhoeddus a derbyn adborth ac roedd o fodd er mwyn magu hyder a sgiliau cyfathrebu.

Gliniadur yn agored ar sgrin sy'n dangos y blog y mae myfyriwr ar brofiad gwaith yn ei greu.

Diwrnod 3

Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?

Diwrnod hanesyddol heddiw yn Ysbyty’r Chwarel. 

Cawsom ehangu ein dealltwriaeth hanesyddol o’r ysbyty, yr ardal, y chwareli a’r chwarelwyr. Daethom yn ôl i’r swyddfa wedyn i weithio ar ein blog ac am gyfarfod.

Pa sgiliau ddysgom ni o’r profiad?

Drwy weithio ar y blog rydym wedi cryfhau ein sgiliau dylunio, gwirio ac iaith. Ac wrth gwrs, drwy wario amser yn Ysbyty’r Chwarel cawsom ehangu ein dealltwriaeth hanesyddol.

Diwrnod 4

Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?

Heddiw cawsom roi ein sgiliau ffilmio a technegol i’r defnydd drwy gymryd clipiau fideo ar gyfer ‘insta reels’. Erbyn diwedd y dydd roeddem wedi casglu clipiau fideo ar gyfer reel ‘Helfa Natur’ ac ar gyfer reel ‘Wythnos Profiad Gwaith’.

Pa sgiliau ddysgom ni o’r profiad?

Yn sicr, cryfhaom ein sgiliau TGCh wrth ddefnyddio camerâu, mics, a dysgu sut i greu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.

Collage o ddigwyddiad pop-yp gyda deunyddiau marchnata Amgueddfa Cymru, a myfyrwyr profiad gwaith yn helpu gosod yn gwisgo vest high-vis.

Diwrnod 5

Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?

Heddiw roedden ni'n help setio fyny stondin yr Amgueddfa Lechi ar gyfer Trail Marathon Eryri 2025. Ar ôl hynny daethom yn ôl i’r swyddfa i orffen ein blog ac y reels.

Pa sgiliau ddysgom ni o’r profiad?

Drwy setio’r stondin i fyny cryfhaom ein sgiliau gwaith tîm ac wrth gwrs ein sgiliau corfforol! Drwy orffen y blog a'r reels fe wnaeth ganiatáu inni gryfhau eich sgiliau golygu a thechnoleg.

Ewch draw i Facebook i weld Reel sy'n cofnodi amser Cari a Mari ar brofiad gwaith i glywed fwy! 

Magu hyder, un mat rhacs ar y tro!

Chloe Ward, 13 Mehefin 2025

Ym mis Mehefin 2023 cychwynnodd Amgueddfa Lechi Cymru rôl wirfoddoli crefftau er mwyn creu 6 mat rhacs ar gyfer ein rhaglen addysg. Wnaethon ni recriwtio 6 o wirfoddolwyr, ac oedd Isabel de Silva yn rhan o’r grŵp. Dechreuodd wirfoddoli tra'r oedd hi'n gorffen ei gradd meistr ym Mhrifysgol Bangor, a’i rheswm dros wirfoddoli oedd er mwyn ennill profiad ar gyfer swydd neu yrfa. 

Gwirfoddolwyr yn creu matiau rhacs.

Yn o gystal a chreu matiau rhacs, bu rhaid i Isabel a’r gwirfoddolwyr ymgysylltu ag ymwelwyr yn Nhŷ’r Prif Beiriannydd er mwyn egluro sut oedd creu matiau rhacs a thrafod hanes y draddodiad. Pan ddechreuodd Isabel wirfoddoli, roedd hi’n eithaf swil ac yn ddihyder. I weithio ar hyn ymhellach, gwirfoddolodd Isabel i'n helpu ni adeg y Nadolig gyda gweithdai gwneud torchau rhacs hefyd – roedd yn amgylchedd prysur a bywiog! Tyfodd ei hyder wrth iddi siarad â mwy a mwy o ymwelwyr a delio â'r llu o gwestiynau am y matiau rhacs gan ymwelwyr brwdfrydig. 

Gwirfoddolwr yn creu addurniadau nadolig traddodiadol.

“Nath gwirfoddoli hefo'r Amgueddfa Llechi helpu fi i godi fy hyder, gwella fy sgiliau cyfathrebu a dysgu sgil ymarferol newydd.” - Isabel de Silva

Ar ôl iddi raddio a chwblhau ei gradd meistr ac ers magu hyder a datblygu sgiliau gwaith, mae Isabel bellach wedi cael swydd gyda Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd a gyda Storiel, amgueddfa ac oriel Gwynedd. Mi orffennodd Isabel mat rhacs bendigedig ar ei phen ei hun erbyn Gorffennaf 2024… cymerodd blwyddyn o wirfoddoli unwaith yr wythnos! 

"Drwy fy ngwirfoddoli nes i ddysgu gymaint amdan hanes yr ardal leol, ac effaith y chwarel ar fywydau pobol Gogledd Cymru heddiw. Nath y wybodaeth hynny ysbrydoli fi i neud fy rhan mewn cadw a rhannu hanes Cymru, a dwi wedi cael y cyfle i neud hynny drwy fy swydd yn Storiel." - Isabel de Silva