Gwirfoddoli Unigol


Cyfleon Cyfredol

Gwirfoddolwyr Casgliadau, Amgueddfa Lechi Cymru

Dyddiad cau: 13 Medi 2024 (erbyn 5pm)

Pwrpas y rôl: Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn cael ei hailddatblygu ac fel rhan o hyn mae’r casgliad yn symud! Tra bod gwaith cadwraeth hanfodol yn digwydd yn y Gilfach Ddu, bydd rhannau o'r casgliad yn cael eu pacio a’u symud i sicrhau eu diogelwch - dewch i helpu ni!

Sut i Gymryd Rhan?

  1. Cofiwch ddarllen y Disgrifiad Rôl i wneud yn siŵr mai dyma'r rôl gywir i chi. Cofiwch ystyried yr ymrwymiad amser ac unrhyw ystyriaethau eraill rydyn ni wedi'u cynnwys.
  2. Llenwch Ffurflen Gofrestru a'i dychwelyd at gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk neu drwy'r post at Adran Gwirfoddoli, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd CF5 6XB.              
    Rydyn ni'n derbyn ceisiadau dros y ffôn hefyd, neu drwy fideo neu glip sain byr. Ffoniwch (029) 2057 3002 am ragor o wybodaeth.
  3. Os cewch chi eich dewis ar gyfer y rôl, byddwn ni’n cysylltu dros e-bost. Efallai y cewch eich gwahodd i gyfarfod anffurfiol neu ddiwrnod agored grŵp.        
    Allwn ni ddim gwarantu lle, ond rydyn ni'n sicrhau bod pob cais yn cael ei drin yn deg a bod pob un yn cael ei gyflwyno i oruchwyliwr y rôl i'w ystyried.


 

Lawrlwytho'r Ffurflen Gofrestru (PDF)