Hafan y Blog

Atgofion o Wyliau Hapus wrth i Ni Aros Adre i Gadw’n Ddiogel

Ian Smith - Uwch Guradur Diwydiant Modern a Chyfoes, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 28 Mai 2020

Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn parhau i aros gartref ac aros yn ddiogel yma yng Nghymru. Yn ystod wythnos y Sulgwyn mae rhai ohonoch yn gwersylla yn yr ardd neu'n mwynhau aros yn y garafán ar y dreif. Efallai bod eraill yn hiraethu am wersylla neu garafanio yn Eisteddfod yr Urdd dros y blynyddoedd, neu anturiaethau i rai o'ch hoff fannau gwyliau ar hyd ein harfordir. Felly, i’n helpu ni i gyd gydag ychydig hiraeth am wyliau wrth i ni aros gartref, dyma Ian Smith, Curadur Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gydag ychydig o’r hanes y tu ôl i’r llun hwn:

Tynnwyd y llun hwn tua 1951. Ynddo, gwelir y teulu Dodds a oedd yn byw yng Nghaerdydd. Comisiynodd Mr Dodds y garafán ym 1950 i'w hadeiladu a'i gosod gan Louis Blow & Co yn Nhreganna, Caerdydd. Costiodd y fan £ 600.00 - ffortiwn fach yn y dyddiau hynny.

Aeth y teulu ar daith ledled De Cymru ynddi er i'r fan gael ei gadael yn barhaol ar gae ffermwr ger Casnewydd yn Sir Benfro yn y pen draw. Yno, cafodd y teulu eu holl wyliau haf tan 2009.

Y teulu creodd y cynllun a oedd yn cynnwys pethau fel top cwpwrdd arbennig y byddai crud cario'r babi yn ffitio'n berffaith iddo; gwely dwbl plygu i lawr ar gyfer Mam a Thad a sgrin rhannu derw oedd yn llithro i’w le, a oedd i bob pwrpas yn ffurfio dwy ystafell wely. Roedd cegin fach gyda stôf nwy a sinc gyda thap pwmp troed i ddarparu dŵr golchi. Roedd yn rhaid casglu dŵr yfed mewn canistr alwminiwm mawr - gwaith da i'r plant os oedd angen eu blino allan cyn mynd i’w gwely! Roedd yr adlen yn dyblu maint y lle byw ac yn darparu ardal i gadw pethau'n sych.

Yn 2009 cynigiwyd y garafán i'r amgueddfa gan Michael Dodds, a oedd erbyn hynny yn ei 70au. Mike yw'r bachgen hŷn yng nghefn y grŵp yn y llun. Mae’r garafán yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Hanes Cenedlaethol Sain Ffagan, yn Oriel ‘Byw a Bod’.

 

 

 

 

 

 

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.