: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Adnodd Saesneg i ddysgwyr newydd i Amgueddfa Cymru

Loveday Williams, Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli, 10 Mai 2023

Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn gweithio gyda Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, gan gefnogi pobl i integreiddio i’w cymunedau newydd, ers blynyddoedd lawer. 

Fel rhan o’r gwaith hwn, rydyn ni wedi datblygu partneriaethau gyda chyrff allweddol fel Addysg Oedolion Cymru. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda ni dros y flwyddyn ddiwethaf, ochr yn ochr â’u myfyrwyr ESOL (Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill), i ddatblygu adnoddau newydd i ddysgwyr ESOL er mwyn cefnogi dysgwyr Saesneg i archwilio ein hamgueddfeydd a’n horielau. 

Mae’r adnoddau newydd yn cwmpasu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion. 

Mae’r adnoddau wedi’u creu gan diwtoriaid Saesneg i ddysgwyr ac wedi eu profi gan ddysgwyr ESOL. Maen nhw’n dilyn cwricwlwm ESOL ac yn addas ar gyfer gwahanol lefelau, o Lefel Mynediad i Lefel 2. 

Erbyn hyn mae’r adnoddau newydd wedi’u profi, eu mireinio a’u treialu, ac maen nhw’n barod i’w lawrlwytho o’n gwefan i unrhyw ddysgwr neu grŵp ESOL sy’n ymweld ag un o’r amgueddfeydd (gweler y dolenni uchod). 

Mae gennym set o adnoddau ESOL hefyd ar gyfer Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a gafodd eu datblygu mewn ffordd debyg fel rhan o Broject Creu Hanes a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 2014. 

Rydyn ni’n parhau i weithio gyda’n partneriaid ac aelodau o’r gymuned i ddarparu cyfleoedd ystyrlon i bobl sy’n wynebu rhwystrau i gymryd rhan yn y celfyddydau a threftadaeth ddiwylliannol.

Rydyn ni’n dysgu cymaint gan y bobl sy’n ymweld â’n safleoedd ac sy’n derbyn y cyfleoedd dysgu rydyn ni’n eu cynnig. 

Mae helpu pobl sydd newydd gyrraedd Cymru i ymgartrefu ac integreiddio i’w cymunedau newydd yn faes pwysig iawn o’n gwaith a gobeithio y bydd yr adnoddau newydd hyn i ddysgwyr yn gymorth i lawer o bobl ar y daith honno. 

Diolch yn fawr i Addysg Oedolion Cymru a’r tiwtoriaid a dysgwyr Saesneg sydd wedi cyfrannu at greu’r adnoddau newydd hyn i ddysgwyr. 

Pride 2022

6 Mai 2022

Ar ôl cofio rywsut sut i drefnu digwyddiad mor fawr ar ôl cyfnod mor hir, roedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn gartref i PRIDE ar 30ain Ebrill a Mini PRIDE ar 1 Mai. Roedd hi'n ymdrech fawr gan y tîm cyfan, gyda staff Ymgysylltu Cymunedol, Addysg, Digwyddiadau, ac Ymgysylltu Ieuenctid yn cydweithio â PRIDE Abertawe, Cyngor Dinas Abertawe a Heddlu De Cymru. Heb anghofio wrth gwrs y timau Blaen Tŷ, Technegol, Glanhau (roedd lot fawr o glitter!), Marchnata ac Elior. (Ymddiheuriadau i unrhywun dwi heb eu henwi – fe gyfrannodd pawb.)

Yn y gorffennol, PRIDE oedd y digwyddiad mwyaf yn yr Amgueddfa, gydag ymhell dros 4000 o bobl yn galw draw. Eleni dyma ni'n dewis canolbwyntio ar fod yn Fan Cymunedol yr ŵyl, gyda phecyn adloniant cymedrol, yn wahanol i'r prif lwyfan ar Lawnt yr Amgueddfa lle roedd stondinau bwyd a diod, a nwyddau.

Roedd yr adeilad yn llawn stondinau gwybodaeth, gwerthwyr crefft a chymunedol o bob math – YMCA Abertawe, Cyfnewid Llyfrau Oxfam, tîm rygbi hoyw/cynhwysol Swansea Vikings (roedden nhw'n boblogaidd iawn!), Proud Councils, a Gwasanaeth Tân Canol a Gorllewin Cymru (oedd hefyd yn boblogaidd am ryw reswm!).

Y tu allan roedd amrywiaeth o weithgareddau yng ngardd GRAFT, gan gynnwys gweithdy sgiliau Circus Eruption, drymio o Affrica, gweithdy hunaniaeth a darlunio sialc. Yno hefyd oedd côr cynhwysol True Colours, môr forynion croesawgar, flachddawns zumba a llawer mwy!

Fe dyrrodd pawb i'r stondin siarad i wrando ar Welsh Ballroom, cyn i ni glywed Christoper Anstee yn lansio'i gofiant newydd Polish the Crown gyda phanel holi ac ateb treiddgar yn trafod dod i oed yn LGBTQ+ ac effaith Cymal 28.

Dyma ni'n dechrau'r dydd fel arfer drwy ymuno â'r orymdaith drwy'r ddinas i ddangos ein cefnogaeth, a diolch byth roedd yr haul yn gwenu a'r dorf i gyd yn swnllyd eu cefnogaeth!

Yn y nos dyma ni'n gweld Welsh Ballroom yn dangos eu doniau wrth lwyfannu sioe ffasiwn hollgynhwysol, yn dathlu cyrff o bob math – ac roedd cyfle i'r gynulleidfa ymuno ar ddiwedd y sioe.

Plant a phobl ifanc oedd canolbwynt dydd Sul – diwrnod arall lliwgar llawn hwyl. Roedd yno deithiau My Little Pony a Trollz, crefftau a glitter ym mhobman, amser stori gyda brenhines drag, gweithdy holi ac ateb Beth yw PRIDE? gyda phobol ifanc Good Vibes, a gorymdaith PRIDE fach ciwt ofnadwy drwy'r Brif Neuadd.

Roedd e'n benwythnos ffantastig, a mor braf oedd gweld cymaint o wynebau cyfarwydd ar ôl oesoedd. Ar ôl camu i'r Amgueddfa a gweld yr adeilad yn enfys o liwiau LGBTQ+, gwnaeth un partner cymunedol grio mewn hapusrwydd gan ddweud 'Diolch, mae'n teimlo fel dod adre, mae mor braf teimlo galla i fod yn fi.'.

Ymlaen i 2023...

Mae Trawsnewid yma!

Oska von Ruhland, 10 Mawrth 2022

Mae’r arddangosfa rad ac am ddim i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, rhwng 12 Mawrth a 17 Gorffennaf 2022.

Mae Trawsnewid yn datgelu ac yn dathlu hanes queer Cymru a newid cymdeithasol. Daw'r gwrthrychau yn yr arddangosfa o gasgliad LHDTQ+ Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a'u cyflwyno gyda naratif newydd sbon ochr yn ochr â gweithiau celf queer Cymreig. Gall ymwelwyr gamu i'n gorffennol – gorffennol sy'n aml yn cael ei anghofio – a gweld sut mae'r frwydr dros newid cymdeithasol yn parhau hyd heddiw. Gyda gwrthrychau queer hanesyddol, o ddiwedd y 1700au hyd y pandemig presennol, mae amrywiaeth eang o gymunedau, hunaniaethau a mudiadau yn cael eu cynrychioli yn yr arddangosfa.

Dewiswyd y gwrthrychau sy'n cael llwyfan yn yr arddangosfa gan gyfranogwyr project Trawsnewid. Pobl ifanc yw'r rhain sy'n cynnal ac yn mynychu gweithdai sy'n trafod hanes a diwylliant pobl LHDTQ+ Cymru, ac maen nhw wedi cydweithio i ddatblygu thema'r arddangosfa, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gelf a chreu queer. Dros sawl wythnos mae'r bobl ifanc wedi mynd drwy'r casgliad a dewis y darnau sy'n sefyll allan fel conglfeini pwysig hanes queer Cymru.

Yn rhan o'r arddangosfa mae casgliad o weithiau newydd gan rai o'r gwirfoddolwyr. Mae pob gwaith wedi'i ysbrydoli gan agwedd ar hanes queer Cymru, boed yn eitem o'r casgliadau LHDTQ+ neu'n gymuned o'u cwmpas. Drwy gyfuno myrdd o gyfryngau artistig mae nhw'n taflu goleuni heddiw ar yr hanes anghofiedig hwn.

Bydd cyfle hefyd yn yr arddangosfa i weld Cabaret Queer – cyfres o ffilmiau byr gan gyfranogwyr Trawsnewid yn trafod eu profiadau, eu cysylltiad â Chymru, a'u hunaniaeth queer. Mae'r Cabaret i gyd i'w weld ar YouTube, ond yn yr arddangosfa gallwch chi ei fwynhau wrth ymgolli yn yr hanes a'r diwylliant sydd wedi'i gasglu a'i guradu gan bawb ym mhroject Trawsnewid a'r casgliad LHDTQ+.

Dathliadau Pen-blwydd: 15 mlynedd gyntaf Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Stephanos Mastoris, 14 Hydref 2020

I ni’r staff yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, mae'n anodd credu bod 15 mlynedd wedi mynd heibio ers i ni groesawu ein hymwelwyr cyntaf ar 17 Hydref 2005. Er bod pobl ar eu ffordd i fod yn oedolion yn 15 mlwydd oed, rydym ni i gyd yn yr Amgueddfa yn teimlo'n ifanc, yn ffres a mentrus.

Rwy'n credu fod yna sawl rheswm dros hyn.

Yn gyntaf oll, mae gennym ni ymwelwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd, ac mae eu cymhelliant dros ymweld yn amrywiol iawn. O'r 250,000 o ymweliadau i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, mae cyfran dda o bobl yn dod o’r tu hwnt i dde-orllewin Cymru, ac yn ymweld â ni am y tro cyntaf. Maent wedi'u denu gan yr arddangosfeydd arloesol sy'n adrodd hanes dynol diwydiannu Cymru dros y dair ganrif ddiwethaf, gyda gwrthrychau allweddol o gasgliadau Amgueddfa Cymru a Dinas Abertawe wedi'u hesbonio drwy ddadansoddiad rhyngweithiol. Ac er ein bod yn rhan o deulu o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn amgueddfa leol iawn hefyd, gyda mwyafrif ein hymwelwyr yn dychwelyd yn rheolaidd i weld yr arddangosfeydd dros dro niferus y byddwn yn eu creu a’u cynnal bob blwyddyn, neu i fynychu'r 300 o ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim sy'n rhan mor bwysig o'n rhaglen flynyddol.

Yn ail, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn warws enfawr o ddeunyddiau a chyfleoedd i ddysgu ac ysbrydoli. Fel ag y mae delweddau'n adrodd straeon, mae arteffactau hanesyddol yn bwyntiau ar hyd eich taith, yn hytrach na chyrchfannau sefydlog ar gyfer dealltwriaeth, teimladau a chreadigrwydd. Mae rhaglenni addysg yr Amgueddfa i bobl o bob oedran bob amser ag elfen amlddisgyblaethol gyda llawer o straeon dynol a hwyl. Rydym bob tro’n barod i roi cynnig ar unrhyw beth unwaith, cyn belled ei fod yn gyfreithiol ac yn ddiogel!

Yn drydydd, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn chwarae rôl bwysig ym mywyd diwylliannol ac economaidd ehangach Abertawe a'r cylch. Mae nifer o sefydliadau a chymunedau yn defnyddio'r Amgueddfa ar gyfer cyfarfodydd, fel lle i rannu eu gwaith â'r cyhoedd, neu fel lle i ddathlu. Gallwch hefyd logi'r Amgueddfa ar gyfer priodasau, cyfarfodydd preifat a chorfforaethol, ac adloniant. Mae’r lleoliad canolog, y bensaernïaeth brydferth ac arddangosfeydd difyr yn helpu i wneud y digwyddiadau hyn yn arbennig iawn.

Yn bedwerydd, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi ymrwymo erioed i gynyddu pwrpas cymdeithasol ein treftadaeth. Rydym wedi gweithio'n gyson i ddefnyddio ein casgliadau a'n cyfleusterau i gryfhau hunaniaeth cymunedau, croesawu pobl newydd i Abertawe, a helpu pobl sydd dan anfantais i ddeall eu potensial drwy gaffael sgiliau a meithrin uchelgais a hunan-barch.

Ac yn olaf, mae gan yr Amgueddfa dîm anhygoel o staff. Ein bwriad yw penodi 'pobl pobl’, sy'n mwynhau croesawu ein hymwelwyr, sy'n barod eu cymwynas ac yn wybodus, ac yn gallu gweithio'n arbennig o dda fel tîm deinamig. Yn ogystal â bod yn wych wrth eu gwaith 'swyddogol', mae gan lawer ohonynt sgiliau eraill hefyd, ac rydym wedi manteisio ar y sgiliau hyn yn ein digwyddiadau a'n rhaglenni addysg.

Felly, beth sydd i ddod yn y dyfodol? Er gwaethaf yr anawsterau cyfredol yn ystod pandemig COVID-19, rydym yn siŵr y bydd y 15 mlynedd nesaf mor gyffrous a gwerthfawr â'r 15 mlynedd diwethaf. Bydd ail-ddatblygu canol y ddinas ac yn arbennig yr arena newydd gerllaw yn cynnig cyfleoedd gwych i ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd. Bydd y byd digidol ar-lein ymestynnol yn cynnig llawer o ffyrdd newydd i ddathlu diwydiant ac arloesi Cymru heddiw ac yfory i gynulleidfa byd-eang. Mae'n debyg y bydd profiadau'r 8 mis diwethaf yn gwneud i ni werthfawrogi'r profiad o bethau 'go iawn' mewn llefydd megis Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy'n lleoliad perffaith i bobl gyfarfod, ymgysylltu â'i gilydd, dysgu a mwynhau.

Stori SS Arandora Star yn eich dosbarth: Hydref 2020

Leisa Williams, 11 Medi 2020

Yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ein nod yw i groesawu a rhoi profiad byw, unigryw o Gymru, ei phobl a’r diwydiannau sydd wedi siapio ein gwlad a’n cymdeithas i ddisgyblion ysgol. Rydyn ni yn yr Amgueddfa wedi bod yn rhan o bartneriaeth arloesol am 15 mlynedd a mwy gyda Theatr na nÓg, Amgueddfa Abertawe a Technocamps. Mae’n bartneriaeth unigryw i Gymru, os nad Prydain.  Mae’n cyfuno theatr byw gyda chasgliadau lleol a chenedlaethol ac arbenigedd Technocamps mewn cyfres o weithdai cyffrous.

Eleni, fe ddaw Theatr na nÓg â stori bwysig yr Arandora Star, a suddodd 80 mlynedd yn ôl, yn fyw i ddisgyblion ar draws Cymru drwy ddrama radio gyffrous. Bydd y ddrama eleni yn canolbwyntio ar Lina, merch ifanc sy'n byw yn Abertawe sy'n wynebu dyfodol ansicr ar ôl i'r Eidal ymuno â'r Rhyfel yn 1940. Mae ei thad yn cael ei gymryd o'u caffi bach yn Abertawe ac yn cael ei gludo ar yr Arandora Star. Collodd 805 o bobl eu bywydau, gan gynnwys Cymry o dras Eidalaidd, oedd ar eu ffordd i wersylloedd yng Nghanada.

Fe fydd hi’n flwyddyn go wahanol eleni yn sgil Covid-19 i ni ac i’r disgyblion. Fel arfer ar yr adeg yma o’r flwyddyn, fe fydden ni’n brysur yn gorffen paratoi gweithdai ‘hands-on’ cyffrous, yn barod i groesawu miloedd o blant ysgol drwy ddrysau'r Amgueddfa ond eleni mae pethau’n wahanol iawn i bob un ohonom. Gyda Covid-19 a'r cyfnod clo a ddilynodd daeth yn amlwg na fydden ni’n gallu dilyn yr un drefn - rhaid oedd bod yn fwy creadigol! Felly, gyda ein tîm bach, wnaethon ni fynd ati i greu gweithdy digidol, gyda ffilmiau byrion ac adnodd athrawon i gyd-fynd â’r ddrama radio ar The Arandora Star, gan ganolbwyntio ar stori technoleg ac arloesedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Felly yng ngweithdai digidol yr Amgueddfa byddwn yn cyflwyno cymeriad Capten Edward Morgan o’r Llynges Frenhinol. Bydd yn tywys dysgwyr trwy manylion y suddo a chyflwyno dyfeisiau a thechnoleg y cyfnod. Mae yna becyn ar gyfer athrawon gyda cyfres o wersi ag awgrymiadau er mwyn gwneud gwaith estynedig sy’n cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru 2022.Fe fydd y cynnwys i gyd ar gael drwy app gwych Theatr Na nÓg.