Gwen John: Eicon Cwiar Cymreig? Helena Anderson, 9 Mehefin 2026 Yn ddiweddar mae Gwen John wedi adennill ei lle fel un o eiconau ciwar Cymru. Doedd rhywioldeb Gwen byth yn gyfrinach (fe soniodd ei brawd, Augusutus, ei bod hi'n cael ei thynnu at ddynion a menywod yn ei ragair i gatalog yr Arddangosfa Goffa yn 1946, ac mae'n codi yn y tri bywgraffiad ohoni), ond mae'r diddordeb newydd yn ein hannog i ystyried sut fyddai hyn yn dylanwadu ar ei gwaith a sut fyddai hi'n gweld y byd. Sut mae rhywedd a rhywioldeb yn newid sut fyddwn ni'n dehongli dewis artist o destun ac arddull, a sut fyddan nhw'n darlunio'r byd?Cafodd Gwen berthynas ramantus a rhywiol gyda dynion a menywod drwy gydol ei hoes. Yn ei hunangofiant fe soniodd Augustus sut y cafodd hi ei chroesi mewn cariad gan gyd-fyfyrwraig yn Ysgol Gelf Slade, wnaeth arwain at ddrama a Gwen yn ei heiddigedd yn mynnu bod y ferch yn gorffen ei charwriaeth gyda dyn priod. Awgrymodd Susan Chitty, awdur y bywgraffiad cyntaf ohoni, taw Grace Westray oedd hon – cyd-fyfyrwraig oedd yn rhannu fflat gyda Gwen ac Augustus am gyfnod. Efallai taw hi yw'r fenyw ifanc yn y blaendir yn Portread Grŵp – un o'r gweithiau prin sy'n bodoli o ddyddiau coleg Gwen. Drwy'r ffenest fe welwn ni ddau ffigwr arall, sef Gwen a'r artist Ambrose McEvoy o bosib (cariad arall). Mae'r portread grŵp yn dangos y cwlwm cymhleth o gariad, cyfeillgarwch a theulu oedd yn nodwedd o fywyd coleg Gwen. Roedd y fflat roedd y myfyrwyr yn ei rannu ar 21 Fitzroy Street yn bair creadigol wnaeth sbarduno ei datblygiad artistig, ac yn hafan ddiogel iddi arbrofi a darganfod ei rhywedd. Gwen John, Portread Grŵp, 1897. Casgliad Celf UCL – i'w weld ar hyn o bryd yn Gwen John: Hardd a Hynod Patrwm tebyg welwn ni yn nifer o'i pherthnasau: atyniad cryf a theimladau dwys yn gorlifo'n ddefosiwn llethol gan Gwen. Yn fuan ar ôl symud i Baris yn 1904 dyma hi'n cyfarfod y cerflunydd Auguste Rodin. Cyn hir roedd hi'n hoff fodel iddo, a datblygodd perthynas ramantus. Mae'r berthynas wedi'i chofnodi yn y cannoedd o lythyrau anfonodd hi ato, ac sydd bellach yn archifau'r Musée Rodin. Mae nifer yn llythyrau caru sy'n trafod rhyw a chwant yn agored (gan gynnwys atyniad at fenywod) a rhai hefyd yn sôn am ei gwaith modelu dydd-i-ddydd i artistiaid eraill. Roedd nifer o'r rhain yn fenywod cwiar, fel Ottilie Roederstein, Ida Gerhardi, Anna Wood Brown, a Hilda Flodin – pob un yn gleientiaid a ffrindiau am flynyddoedd. Dyw hi ddim yn glir os fyddai Gwen byth yn mynychu'r caffis a'r salons oedd yn ganolbwynt i fyd artistig, Saffig y menywod hyn, ond byddai hi'n bendant yn cylchdroi yn yr un cylchoedd.Ac fel nifer o'r menywod y byddai hi'n cydweithio â nhw, roedd rhentu lle ei hun yn hanfodol i'w byd personol a phroffesiynol. Yr apartment dan y distiau a welwn ni yn Cornel o Stafell yr Artist ym Mharis oedd ei chartref a'i stiwdio. Mae'r hanesydd Alicia Foster wedi dangos sut oedd ystafell ei hun yn allweddol i'w gwaith fel artist, ond fel menyw ddibriod, roedd hefyd yn lle diogel i wahodd ffrindiau a chariadon. Mewn oes pan allai cerdded y strydoedd heb gwmni ddenu sylw digroeso, roedd gallu rhentu lle bach, preifat yn rhoi rhyddid personol, rhywiol, cymdeithasol ac economaidd. Pa ryfedd fod ystafelloedd Gwen yn ymddangos mor aml, ac mor aml yn destun ei gwaith? I fenyw ac artist cwiar, sengl, roedd lle fel hyn yn hafan a bywoliaeth. Gwen John, Cornel o Stafell yr Artist ym Mharis, 1907-9, NMW A 3397 Ddiwedd 1926 dyma Gwen yn cyfarfod yr athronwyr Pabyddol enwog Jacques Maritain, oedd yn byw ym Meudon gyda'i wraig Raissa a'i chwaer yng-nghyfraith Véra Oumançoff. Buan y datblygodd Gwen deimladau dwys at Vera, ddaeth yn gyfaill mynwesol ac arweinydd ysbrydol iddi. Byddai'r ddwy yn siarad yn aml ar ôl yr offeren yn yr eglwys, ac yn cerdded yn y goedwig gyda'i gilydd. Datblygodd agosatrwydd Gwen yn deimladau rhamantus, ond mae'n debyg nad oedd Véra'n teimlo'r un fath. Mae sawl drafft o lythyrau angerddol at Véra ymhlith papurau Gwen John yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn y llythyrau mae Gwen yn plethu myfyrdodau crefyddol a defosiwn rhamantus, gan ofyn i Dduw sut i garu Véra, a gofyn am gael cusanu ei dwylo. Cafodd Véra ei llethu gan yr holl sylw, a gofynnodd i Gwen beidio â llythyru ac ymweld fwy nag unwaith yr wythnos. Fe wnaeth Gwen hynny, ond yn ogystal â llythyrau, dechreuodd ddod â darluniau o'r enw dessins de lundi (darluniau dydd Llun) yn anrhegion gyda hi ar ei hymweliadau. Bob wythnos am bron i ddwy flynedd fe gyflwynodd Gwen ddarlun neu ddyfrllun i Véra, yn gymysgedd o weithiau unigryw a fersiynau o syniadau cynharach. Mae'r testunau, yr arddull, a'r cyfrwng yn amrywio'n fawr. Byddai'n cyflwyno rhai wedi'u glynu ar bapur lliw, gyda'r teitl a'r dyddiad ar y cefn. Dyma sut ydyn ni'n gwybod teitlau cymaint o waith Gwen ar bapur (fel Mademoiselle Pouvereau a Souvenir du Dimanche des Rameaux). Gwen John, Mademoiselle Pouvereau, NMW A 3607 Fe gadwodd Véra'r darluniau hyn ymhell ar ôl i'r berthynas orffen, hyd yn oed ar ôl iddi ffoi i'r UDA yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd dros gan dessins de lundi eu hailddarganfod yn archif y teulu Maritain yn y 1960au, ac mae nifer o'r gweithiau sydd nawr yng nghasgliad stiwdio Amgueddfa Cymru yn fersiynau o'r dessins de lundi a roddodd Gwen yn anrheg. Wrth edrych o'r newydd ar y rhain o safbwynt rhywioldeb Gwen, maen nhw'n amlwg yn fwy nag astudiaethau o gyfansoddiad ac arlliw. Maen nhw'n arwydd o gariad mynwesol yn deillio o gyd-addoli a chyd-weddïo, ac oherwydd taw unwaith yr wythnos y gallai Gwen gysylltu â Véra daeth y darluniau yn fodd ychwanegol o ddangos ei chariad. Lluniau dydd Llun yn lle llythyrau.Un o'r delweddau wnaeth Gwen eu hanfon fel dessins de lundi oedd darlun o Santes Thérèse o Lisieux (1873-1897). Lleian gyfoes o Ffrainc oedd hon, wnaeth farw'n ifanc a chael ei dyrchafu'n sant cyn gynted â phosib. Roedd hi'n un o'r seintiau cyntaf i ymddangos mewn ffotograff, a defnyddiwyd hyn gan y cwfaint i gynhyrchu eiconau ohoni a sbarduno'r ymgyrch i'w dyrchafu. Fe gyhoeddodd y cwfaint yn Lisieux lyfrau, cardiau gweddi, a chofroddion gyda llun Thérèse. Fel artist wnaeth droi at y ffydd Babyddol, cafodd Gwen ei chyfareddu gan y ffotograffau hyn oedd yn dangos am y tro cyntaf wir wyneb sant, yn hytrach nag eicon delfrydol wedi'i gynhyrchu ganrifoedd ar ôl eu marw. Datblygodd hoffter arbennig at lun o Thérèse a'i chwaer hŷn, Céline, yn blant a dyma hi'n darlunio a phaentio'r cyfansoddiad gannoedd o weithiau. Anaml fydd y delweddau hyn yn cael sylw mewn astudiaethau o waith Gwen John, ac maen nhw'n aml yn cael eu wfftio fel brasluniau difeddwl neu obsesiynol. Ond mae hyn yn anwybyddu pa mor bwysig fyddai gweld 'gwir wyneb' santes oedd prin dair blynedd yn hŷn na Gwen. Yn goron ar y cyfan, erbyn i Gwen ddechrau ei darlunio hi yn y 1920au roedd Thérèse wedi dod yn dipyn o eicon cwiar ei hun, gyda Jean Cocteau, Henri Ghéon, Lucie Delarue-Mardrus, Vita Sackville-West, a Radclyffe Hall yn ddilynwyr brwd. Roedd ei neges o 'wneud y pethau bychain' – gallai bywyd tawel, amherffaith fod yn ddwyfol diolch i weithredodd bach cyffredin – yn apelio at bobl oedd wedi cael tröedigaeth, artistiaid avant-garde, a phobl ar gyrion cydeithas. Roedd 'ffordd fychan' Thérèse yn apelio'n fawr at Gwen a byddai hi'n ysgrifennu yn ei llyfrau nodiadau diweddarach ei bod hi am ddod yn santes ei hun. Fel rhywun ar y cyrion, oedd ddim yn cydymffurfio â safonau cyffredin yn ei gwaith na'i rhywioldeb, roedd delwedd a dysgeidiaeth Thérèse yn gysur mawr iddi. Gwen John, Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, NMW A 15561 Gwen John, Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, NMW A 15534 Wrth edrych ar waith Gwen o safbwynt rhywedd hyblyg gallwn ni ddehongli ei gwaith o'r newydd. Dim ond ychydig o esiamplau mae'r erthygl hon yn eu trafod, ac mae digon o waith i'w wneud eto. Wrth gydnabod bod Gwen John yn berson cwiar ac ystyried sut fyddai hyn yn dylanwadu ar ei ffordd hi o weld y byd, rydyn ni'n dyfnhau ein dealltwriaeth ohoni. I ddysgu mwy am Gwen fel artist cwiar, darllenwch lyfr Norena Shopland Forbidden Lives (2017), Erthygl Tabitha Deadman yn Art UK ‘Bi visibility: Gwen John and multiple gender attraction’, ac erthyl Mair Jones yn Art UK ‘Queer Welsh women in art’.
Dathlu Balchder: Tu ôl i’r llen gyda Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru James Lindsay, 25 Medi 2025 Ym mis Mehefin 2025, fel rhan o brosiect REACH Cymru, gwahoddodd Amgueddfa Cymru geisiadau ar gyfer dau Gynhyrchydd Amgueddfa Cymru i gynllunio a chynnal gweithdy ar Balchder. Dyma oedd gan James, un o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, i’w ddweud am y profiad:Ar gyfer mis Balchder, gwahoddodd Amgueddfa Cymru Kleo a fi i drefnu gweithdy ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Innovate: elusen sy’n ymroddedig i helpu oedolion ag anableddau dysgu. Darparon ni’r deunyddiau, yr ysbrydoliaeth, a gwers hanes fer fel bod modd i bobl greu arwyddion i’w cario ym mharêd Balchder Caerdydd ar 21 Mehefin.Rhan o fy rôl i oedd chwilota drwy gasgliad yr amgueddfa am ysbrydoliaeth, a wnaeth y catalog ddim siomi. Cefais fy synnu gan yr ystod o ddeunydd oedd ar gael; o ddeunydd protest y 1980au, i weithiau gan artistiaid cwiar balch, gweithiau a oedd yn annwyl i bobl gwiar, a ffotograffau teuluol preifat. Ymhlith y deunyddiau protest roedd crysau-t, baneri, a bathodynnau, gyda llawer ohonyn nhw’n gwrthwynebu Adran 28 yn benodol. Rhan o gyfraith a gyflwynwyd gan lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher oedd Adran 28, a oedd yn nodi bod sôn am gyfunrywioldeb mewn ysgolion yn ymgais i ‘hyrwyddo’ ffordd o fyw. Roedd hyn yn golygu nad oedd gan blant mewn ysgolion unrhyw ffordd o gael mynediad at wybodaeth gywir a diduedd am rywioldeb a rhyw diogel am dros ugain mlynedd. Mae gan Amgueddfa Cymru grys-t sydd ag union eiriad Adran 28 wedi’i argraffu arno. I fi, wrth ddathlu Balchder, mae’n bwysig ein bod ni’n edrych yn ôl ar yr holl waith a wnaed yn y gorffennol, fel bod ganddon ni’r nerth i edrych tua’r dyfodol. Mae hi mor bwysig i fi bod amgueddfeydd yn cynnwys gwrthrychau fel y rhain, ac mae’n gam enfawr ymlaen i’n cymunedau a’n sefydliadau diwylliannol. Roedd fy nhro cyntaf mewn digwyddiad Balchder yn gymharol aflwyddiannus. Yn 2018 neu 2019, teithiais i a fy ffrind i Lundain gan obeithio dod o hyd i’r fath o gymuned oedd tu hwnt i gyrraedd plant mewn ysgol uwchradd gymharol fach. Ar y daith yno, fe glywon ni grŵp o bobl yn rhybuddio’i gilydd bod dathliad Balchder yn digwydd, a bod yn rhaid iddyn nhw fod yn ofalus gan y bydden ni i gyd yn cael rhyw yn y strydoedd. Galla i ddweud â sicrwydd bod clywed hyn wedi gwneud fi’n llawer mwy anghyfforddus nag unrhyw beth brofais i yn nathliad Balchder. Ond roedd clywed hynny’n dal i deimlo’n ynysig. Ymlwybrodd y ddau ohonon ni o gwmpas Llundain, a chadw i ni’n hunain fwy neu lai, ac nid oedd Balchder yn teimlo fel rhywbeth roeddwn i am fynd iddo eto.Ar fore dathliad Balchder Caerdydd eleni, ro’n i wedi blino’n lân ac yn teimlo’n eithaf digalon o fod yn colli’r parêd. Ond erbyn y prynhawn, ro’n i’n ddigon effro i gerdded i ganol y ddinas, ac ymhen munudau roedd hi’n hawdd adnabod llawer o’r bobl a oedd yno ar gyfer Balchder neu’r Picnic Cwiar Mawr. Roedd hi mor galonogol gweld cymaint o deuluoedd gyda phlant. A wnes i ddim clywed un gair drwg am bobl gwiar. Dim rhybuddion nad oedden ni’n gwybod sut i reoli’n hunain. Dim codi ofn am bobl draws mewn mannau cyhoeddus. Eisteddais i yn yr haul gyda chwpl o ffrindiau. Gwelais gŵn wedi’u gwisgo’n lliwgar mewn hetiau dwl. Ac o’r diwedd, roedd yn teimlo bod digwyddiad Balchder wedi cyflawni ei fwriad, a daeth teimlad llethol o lawenydd ac o deulu drosta i. Ro’n i wedi ymlacio.Roedd hi’n bleser llwyr gweithio gydag Amgueddfa Cymru ar gyfer mis Balchder. Disgrifiodd rhywun hanes cwiar i fi unwaith fel “crwydro” drwy archifau; gweld pwy neu beth sy’n dal eich llygad. Bydden i’n annog pawb i wneud yr un fath, ac i chwilio am lawenydd cwiar, waeth pa fis yw hi.Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei arwain gan y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026.
Creadigrwydd, Cyfeillgarwch a Balchder: Gweithdai REACH Cymru gyda Innovate Trust a First Choice Hywel Squires, 20 Awst 2025 Fel rhan o brosiect REACH Cymru (Trigolion yn Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth), rydym wedi cael y pleser o weithio gyda grwpiau o Innovate Trust a First Choice - dau sefydliad sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu yn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi dod at ein gilydd ar gyfer cyfres o weithdai creadigol i gysylltu â'n hanes a'n treftadaeth leol trwy gelf a chreadigrwydd.Ers dechrau REACH, rydym wedi cynnal chwe gweithdy sy'n canolbwyntio ar amgueddfeydd. Dechreuon ni gyda thaith gerdded ymwybyddiaeth ofalgar o amgylch Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Rhoddodd gyfle i ni i gyd arafu, sylwi ar ein hamgylchoedd, a sgwrsio mewn lleoliad hamddenol. Roedd yn gosod tôn ysgafn ac agored, un sydd wedi cario trwy'r holl sesiynau ers hynny.Un o'r uchafbwyntiau oedd ymweliad gan ein Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTC+, Mark Etheridge. Rhannodd Mark straeon LHDTC+ pwerus o gasgliadau'r amgueddfa, a arweiniodd at sgyrsiau meddylgar. Rhoddodd le i'r grŵp fyfyrio, gofyn cwestiynau a chysylltu'r straeon hynny â'u profiadau eu hunain. Dywedodd Rhys, un o'r cyfranogwyr, “The LGBTQ+ activity at St Fagans was important to me, after that I started to talk to people and be more open with the group about being gay” Ychwanegodd Zac “this is for me, I’m gay so this is for me, look it’s cool”.Wedi'u hysbrydoli gan wrthrychau o'r amgueddfa, dechreuodd y grŵp greu eu gwaith celf eu hunain. Roedd rhai pobl yn braslunio delweddau a negeseuon, tra bod eraill yn dylunio crysau-T. Yr hyn oedd yn sefyll allan mewn gwirionedd oedd y meddylgarwch y tu ôl i bob darn. Roedd gan bob dyluniad ystyr ac yn adlewyrchu rhywbeth go iawn i'r person a'i gwnaeth. Yn ôl Rhys “Two of my favourite activities were the art lesson with Marion and designing a t-shirt about what being Welsh meant to me. I liked them because I liked sitting down with friends and support workers, just having fun and getting creative”.Roedd rhai o'n gweithdai mwy diweddar yn canolbwyntio ar Pride. Arweiniodd dau o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru sesiwn ddifyr am hanes ac arwyddocâd Pride, a wnaeth tanio lawer o chwilfrydedd a thrafodaeth. Cafodd y grŵp y dasg o greu baneri beiddgar, llachar y gellid eu cario yn yr orymdaith. Roedd y sesiynau hyn yn llawn brwdfrydedd, digon o liwiau ac ymdeimlad gwirioneddol o ddathlu.Mae REACH yn ymwneud â dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd. Mewn gweithdai, rydym yn clywed straeon sydd heb gael eu clywed o’r blaen i uwcholeuo a chryfau balchder, yn ogystal â defnyddio talentau pobl leol i herio’r stigma y mae eu cymunedau yn eu hwynebu. Gwrandewch ar beth sydd gan Eve, Cydlynydd Iechyd a Lles ar gyfer First Choice, i'w ddweud"Being part of the Wales REACH Project, I've loved seeing a core group form of people who are passionate about learning, sharing and creating. Wales REACH has provided the group with opportunities to try new things and form new friendships; some of these people may have never otherwise crossed paths despite their common interests. Their energy and enthusiasm has been infectious and it's been wonderful to join in with some of the sessions, hosted by kind and knowledgeable facilitators".Cadwch lygad am flogiau eraill sydd ar ddod, yn arddangos y gwaith anhygoel sydd wedi bod yn digwydd ar draws ein holl gymunedau sy'n cymryd rhan.Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei arwain gan y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026.
Dathlu Mis Balchder! - Gwisgo fy mathodyn gyda Balchder Kaja Brown, CAC, 27 Mehefin 2025 To celebrate Pride Month this year, some of our amazing ACPs will be hosting Pride themed workshops across some of our museums this June. As part of that celebration, we asked them to reflect on the themes and inspiration behind their workshop and what Pride means to them. Mae Balchder wedi golygu cydsefyll a chydfrwydro erioed, ac am byth. “You have worn our badge ‘Coal Not Dole’ and you know what harassment means, as we do. Now we will support you. It won’t change overnight, but now a hundred and forty thousand miners know … about black [communities] and gays and nuclear disarmament and we will never be the same.”Geiriau David Donavan ar ran glowyr Dulais o flaen tyrfa o 1,500 yn y Pits and Perverts Ball, Camden, 10 Rhagfyr 1984Cefais i fy ysbrydoli i gynnal gweithdai creu bathodynnau cwiar/cydsefyll ar gyfer Bloedd diolch i ddylanwad yr LGSM. Grŵp oedd Lesbians and Gay Men Support the Miners wnaeth gefnogi a chodi arian yn ystod Streic y Glowyr 1984-85. Dyma nhw'n creu cysylltiadau â chymunedau glofaol De Cymru, gan gynnwys Castell-nedd, Dulais ac Abertawe, a chodi arian ar gyfer grwpiau cefnogi menywod. Mae bathodyn gan y grŵp nawr yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru. Cafodd y bathodyn ei ddylunio gan yr ymgyrchydd, ac aelod o'r LGSM, Jonathan Blake.Mae LGSM yn esiampl wych o ymgyrchu croestoriadol, a chydsefyll cwiar. Fel y gwelwn ni o ddyfyniad David Donovan, pwrpas y mudiad yw cefnogi grwpiau eraill ac uno yn erbyn systemau sy'n gormesu ac arwahanu. Roedd LGSM yn teimlo'n gryf y dylai dosbarthiadau cymdeithasol gydsefyll, ac yn cymharu triniaeth y cyfryngau o gymunedau glofaol ac LHDTC+ (pardduo Undeb Cenedlaethol y Glowyr a lledu gwybodaeth gamarweiniol am y pandemig HIV/AIDS). Profodd y ddau grŵp hefyd drais yr heddlu a dod yn gocyn hitio gwleidyddol. Roedd yr LGSM yn gymuned bwysig i bobl oedd yn dioddef gyda HIV/AIDS, fel Jonathan Blake oedd yn un o'r bobl gyntaf yn y DU i dderbyn diagnosis HIV. Doedd y cyhoedd ddim yn deall HIV ar y pryd, ac roedd stigma mawr tuag at y cyflwr, felly gallai hafan yng nghymuned yr LGSM fod yn radical a chwyldroadol i ddioddefwyr.Cododd yr LGSM filoedd o bunnoedd i gefnogi glowyr oedd ar streic, gan gynnal perfformiadau o'u dawns 'Pits and Perverts' enwog i godi arian ar gyfer y glowyr a'u teuluoedd. Ar y llaw arall, daeth llawer o lowyr i orymdeithio yn Pride, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn gwthiodd yr NUM i hawliau LHDT gael eu cynnwys ym mholisiau y TUC (Cyngres yr Undebau Llafur) a'r Blaid Lafur. Dyma esiampl berffaith o'r effaith cymdeithasol pwysig y gall cydsefyll rhwng ymgyrchwyr ac ar draws dosbarthiadau cymdeithasol ei gael.Mae mwy o angen nag erioed heddiw i ledu'r neges hon. Yn barod eleni rydyn ni wedi gweld erydu hawliau LHDTC+, pardduo ac erlid cymunedau traws, a thwf pleidiau asgell-dde. Rydyn ni wedi gweld hil-laddiad ar draws y byd, gwarth gwleidyddol, a gwadu hawliau dynol. Rydyn ni hefyd wedi gweld tactegau gwleidyddol a safbwyntiau yn y cyfryngau sydd yn fwriadol yn ceisio ein llethu a'n rhannu ni. Ac rydyn ni fel cymunedau wedi cael ein brifo gan y safbwyntiau hyn, a'r systemau sy'n erydu ein hawliau, ein buddion a'n lles. Ac felly yn ystod Mis Balchder rhaid i ni uno, a chydsefyll. Rhaid i ni arddel ysbryd LGSM er mwyn cefnogi'n gilydd. Rydyn ni'n byw mewn cyfnod anodd. Mae pawb yn dioddef yr argyfwng costau byw, ac yn lle cael ein rhannu, rhaid i ni helpu'n gilydd i gasglu bwyd a chodi arian a phrotestio a gweithredu. Cymuned, cariad, cydsefyll. Dyna yw ystyr Balchder. Dyna'r themâu dwi'n ceisio eu cyfleu yn fy ngweithdy. Fel ymgyrchydd cwiar ac anabl, dwi'n credu'n gryf mewn gweithredu croestoriadol. Dwi'n credu fod bathodynnau yn esiampl wych o micro-weithredu a micro-wrthsefyll. Mae bathodynnau wedi bod yn rhan o'r mudiadau DIY a pync ers blynyddoedd, ac wedi cael eu defnyddio ers oes i gyfleu hunaniaeth a balchder cwiar. I fi, mae'r bathodyn LGSM yng nghasgliad yr Amgueddfa yn fwy nag addurn. Mae'n symbol o fudiad llawn gobaith a chydsefyll. Drwy greu ein bathodynnau ein hunain, gallwn ni fynegi ein hunain a chynrychioli achosion sy'n bwysig i ni. Galwch draw i'r gweithdy i roi cynnig ar weithredu creadigol, a chreu bathodynnau.Kaja Brown @kaja_amy_brown ar Instagram Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yw grwp pobl ifanc rhwng 16 – 25 oed sy’n byw yng Nghymru a chydweithio gyda’r Amgueddfa drwy gyfleoedd cyfranogol a chyflogedig.Hwn yw lle i ddyfnhau gwybodaeth a sicrhau bod mannau treftadaeth a diwyllianol yn fwy cynrychioliadol o’r bobl ifanc a’u diwylliannai niferus sy’n byw yng Nghymru neu o Gymru. Rydyn ni yma i wneud treftadaeth yn berthnasol.Rydyn yn edrych ar gelf, treftadaeth a hunaniaeth, amgylcheddaeth, gwyddorau naturiol, hanes cymdeithasol ac archaeoleg drwy ein casgliadau a chyd-cynhyrchu digwyddiadau, gweithdai, arddangosfeydd, cyfryngau digidol cyhoeddiadau, grwpiau datblygu a mwy! Mae ein Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn gweithio’n agos gydag adrannau ar draws yr Amgueddfa i'n helpu ni ddyfnhau cynrychiolaeth yn ein casgliadau a rhaglenni, i adlewyrchu pob cymuned yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ehangu ein casgliadau LHDTC+, dad-drefedigaethu ein casgliadau a chasglu hanesion llafar ar hanes dosbarth gweithiol. Gall Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru hefyd ddod â’u syniadau neu bynciau y hoffen nhw archwilio trwy ein casgliadau!Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bost i glywed am gyfleoedd ar draws yr Amgueddfa yma.Cewch gysylltu drwy e-bostio bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk. Dilynwch ni ar Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Bloedd!
Dathlu Mis Balchder! - Hunaniaeth Cwiar: Symbolaeth Blodau a Chymuned Elizabeth Bartlett, CAC, 19 Mehefin 2025 I ddathlu Mis Balchder eleni, bydd rhai o'n cynhyrchwyr amgueddfa cymru anhygoel yn cynnal gweithdai ar thema Balchder ar draws rhai o'n hamgueddfeydd ym mis Mehefin. Fel rhan o'r dathliad hwnnw, gofynnon ni iddyn nhw fyfyrio ar y themâu a'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'w gweithdy a'r hyn y mae Balchder yn ei olygu iddyn nhw.Mae hanes ciwar yn llawn symbolaeth, ac elfen fawr o hyn oedd symbolaeth blodau. Fel cyfeiriad dilornus neu wedi'i adennill, ac fel modd i gyfathrebu ag aelodau eraill y gymuned, mae blodau yn gwau drwy ein hanes.Mae fioled wedi'i gysylltu â'r lesbiaidd a'r benywaidd ers canrifoedd a'r carnasiwn gwyrdd yn fodd i ddynion hoyw adnabod ei gilydd. Daeth 'pansi' yn enw dilornus am ddyn merchetaidd ond defnyddiwyd lafant (y blodyn a'r lliw) ers degawdau fel symbol o frwydr a rhyddid cwiar.Yn archifau Amgueddfa Cymru mae cyfoeth o'r symbolaeth flodeuog hon, mewn bathodynnau protest a gweithiau celf, yn arwydd o'r cyswllt â blodau drwy ein hanes.FioledYn y 6ed ganrif disgrifiodd Sappho, bardd o ynys Lesbos, ei chariad benywaidd yn gwisgo tiara fioled. Mae Sappho yn enwog am y farddoniaeth gariadus, erotig, ‘saffig’ sy'n dwyn ei henw ac a gafodd ddylanwad mawr ar iaith ac eiconograffi lesbiaidd a rhywioldeb benywaidd. Does dim dwywaith bod ei defnydd o flodau yn ei barddoniaeth wedi cyfrannu at amlygrwydd blodau yn y diwylliant cwiar dros y canrifoedd.Ym Mharis ar droad yr 20fed ganrif roedd blodau fioled yn addurn cyffredin i fenywod y 'Paris Lesbos' – menywod hoyw fyddai'n defnyddio'r blodau fel arwydd o'u cymuned, rhoddion i'w gilydd, ac wrth gael eu claddu.Cyrhaeddodd y symbol America drwy Broadway a'r ddrama Ffrengig, the Captive. Mae'r blodyn yn cael ei ddefnyddio fel symbol o gariad saffig wrth i fenyw roi tusw o flodau fioled yn rhodd i'w chariad. Achosodd hyn sgandal yn Efrog Newydd – cafodd y ddrama ei gwahardd, cwympodd gwerthiant blodau fioled, a chyflwynwyd deddf 'anwedduster' yn y dalaith. Er gwaetha'r ymateb, roedd cefnogwyr ym Mharis yn dal i wisgo blodau fioled yn eu llabedi a'u beltiau.Mae'r lliw fioled wedi bod yn amlwg yn hanes mudiadau LHDTC+ hefyd. Roedd ar y faner Balchder cyntaf a grëwyd gan yr artist Gilbert Baker yng Nghaliffornia yn 1978. Mae'n dal yno ar y faner Balchder heddiw, ac ar faneri balchder blaengar a chynhwysol eraill. Fel symbol sydd wedi para a thyfu dros fileniwm a mwy, mae'n symbol addas o ysbryd a dyfalbarhad y gymuned LHDTC+.Y PansisAr droad yr ugeinfed ganrif roedd sawl term 'blodeuog' am ddynion merchetaidd, neu hoyw a'r un mwyaf cyffredin oedd 'pansi'. Yr enw ar y twf mewn bywyd nos cwiar a chlybiau drag mewn dinasoedd fel Efrog Newydd, Los Angeles a Chicago oedd y 'panzy craze'. Roedd cymunedau tebyg ar draws Ewrop – yn Llundain, Paris a Berlin cyn twf awdurdodyddiaeth a'r Natsïaid.Daeth y Dirwasgiad Mawr, yr Ail Ryfel Byd a diddymu'r Gwaharddiad ar alcohol yn America â diwedd i'r cyfnod byr o ryddid i'r gymuned LHDTC+, ond parhaodd y pansi fel symbol. Mae'n cael ei ddefnyddio'n ddirmygus gan rai pobl hyd heddiw, ond mae pansi hefyd wedi cael ei hawlio gan y gymuned fel term hoffus.LafantDefnyddiwyd y lliw lafant i gynrychioli'r gymuned LHDTC+ mewn sawl cyfnod a lle gwahanol, yn enwedig yr 20fed ganrif, ond roedd y blodyn hefyd yn llai adnabyddus fel symbol o gariad hoyw. Byddai lesbiaid yn rhoi blodau lafant fel rhodd cynnil i ddangos eu cariad at ei gilydd, a parhau i dyfu wnaeth y cyswllt â hunaniaeth cwiar drwy gydol y 1990au.Tyfodd yr 'ofn lafant' yn America y 1940au a'r 1950au yr un pryd â'r 'ofn coch' comiwnyddol. Cafodd nifer o aelodau'r gymuned LHDTC+ eu diswyddo, yn enwedig yn y gwasanaeth sifil, gan fod eu rhywedd yn cael ei gysylltu â daliadau comiwnyddol. Daeth y lliw lafant i gynrychioli'r gymuned LHDTC+ drachefn fis ar ôl terfysgoedd chwyldroadol Stonewall ym mis Gorffennaf 1969 pan wisgodd y Gay Liberation Front freichledau a sasiys lafant wrth orymdeithio ar draws Efrog Newydd.Y Gay Libertation Front oedd y sefydliad cyntaf i ddefnyddio 'gay' fel rhan o'u henw swyddogol, ac roedd eu gwaith yn drobwynt i'r gymuned LHDTC+ ledled y byd. Ar un o'u bathodynnau cyntaf roedd blodyn porffor gyda'r symbolau gwrywaidd a benywaidd ar ei betalau, yn gorffwys ar ddwrn – symbol traddodiadol protest.Mae'r bathodyn i'w weld ar hyn o bryd yn oriel Cymru... Falch yn Sain Ffagan.Ffurfiodd grŵp radical o'r enw 'the Lavander Menace' i brotestio na chai menywod lesbiaidd a saffig eu derbyn mewn mudiadau ffeminyddol ddechrau'r 1970au. Y cyntaf i ddefnyddio'r term oedd yr awdur a'r ymgyrchydd ffeminyddol, Betty Friedan. Drwy ddisgrifio lesbiaid fel 'perygl lafant' fe lwyddodd i danseililo'r holl fudiad dros ryddid i fenywod. Mabwysiadodd y grŵp yr enw er mwyn ceisio negyddu'r iaith negatif oedd yn cael ei defnyddio i'w disgrifio, a daethant yn greiddiol i ddyddiau cynnar ffeminyddiaeth lesbiaidd.CarnasiwnDaeth y carnasiwn gwyrdd yn boblogaidd ddiwedd yr 19eg ganrif diolch i'r awdur enwog, Oscar Wilde. Cai'r blodyn ei liwio drwy ei ddyfrio â dŵr yn cynnwys arsenig. Byddai Oscar Wilde yn pinio'r blodyn i labed chwith ei siaced, gweithred ddaeth yn gynyddol bobologaidd, fel arwydd cynnil i bobl ei fod yn rebel, yn ddyn oedd yn caru dynion, yng nghymdeithas Llundain Fictoraidd lle'r oedd dynion hoyw'n cael eu condemnio a'u carcharu.Ar ôl cyhoeddi'r llyfr The Green Carnation (yn ddienw) cafodd Oscar Wilde ei arestio a'i garcharu am anwedduster dybryd. Gwadodd yn llwyr taw fe oedd awdur y llyfr, ond roedd ei waith yn poblogeiddio'r carnasiwn dros y blynyddoedd yn ddigon i'r awdurdodau ei ddedfrydu.Er gwaetha hyn, mae'r carnasiwn yn cael ei gydnabod fel symbol hyd heddiw, er ei fod yn llai adnabyddus.Y RhosynMae'r rhosyn yn symbol cyffredin o gariad, sy'n cynnwys cariad cwiar wrth reswm. Daeth y rhosyn yn eiconig i ddynion hoyw yn Japan yn y 1960au, ac mae'r dylanwad i'w weld yn yr iaith hyd heddiw gyda bara – rhosyn mewn Japanaeg – yn derm cyffredin am y gymuned.Mae rhosod hefyd yn bwysig i'r gymuned draws, yn enwedig ar Ddiwrnod Dathlu Traws (Mawrth 31) pan fydd pobl yn ailadrodd y geiriau 'rhowch i ni ein rhosod tra'n bod ni yma'. Mae angen i ni ddathlu bywydau pobl draws, a menywod traws o liw, yn lle galaru pan fyddan nhw'n cael eu lladd. Y nod yw gwneud galar yn llai creiddiol i brofiad y gymuned draws, a dathlu bywyd a dyrchafu lleisiau pobl drawsryweddol. Daeth y rhosyn yn symbol pwysig o hyn, yn arwydd o werthfawrogiad a hapusrwydd i bobl draws.Hunanbortread yw hwn gan yr artist Cedric Morris, a baentiwyd pan oedd yn byw gyda'i bartner yng Nghernyw. Gallai'r rhosyn ar ei frest yn symbol hoyw neu o gariad yn gyffredinol, ond mae'n esiampl arall o'r berthynas rhwng y gymuned LHDTC+ a blodau dros y blynyddoedd. Roedd Cedric Morris yn eithaf agored am ei berthynas â'i gyd-artist Arthur Lett-Haines, er bod bod yn hoyw yn dal yn anghyfreithlon ar y pryd. Mae blodau'n rhan annatod o'n cymuned ac yn ffordd brydferth o ddathlu ein hanes. Un darn hynod werthfawr o archifau Amgueddfa Cymru yw'r blodau a wisgwyd ym mhriodas dau ddyn hoyw, Federico Podeschi a Darren Warren, ar y diwrnod y daeth priodas rhwng pobl o'r un rhyw yn gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr. Mae'r blodau yn symbol o'r hyn y mae'r gymuned cwiar wedi brwydro gymaint drosto: yr hawl i gydraddoldeb cyfreithiol. Ond maen nhw'n atgof hefyd taw nid dyma ddiwedd y daith o bell ffordd, yn enwedig mewn byd tymhestlog gyda'n hawliau sylfaenol prin yn dal yn eu dyddiau cynnar.Mae fy ngweithdy, a gynhaliwyd yn Pride dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn eich annog i gysylltu â'n hanes ni drwy greu printiau. Y llynedd dyma ni'n creu baner i'w chario yn Pride Cymru, ac eleni bydda i'n gwahodd pobl o greu darn o gelf i fynd adref gyda nhw neu ei roi'n anrheg i rywun annwyl.Elizabeth Bartlett @liz_did_stuff ar InstagramCynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yw grwp pobl ifanc rhwng 16 – 25 oed sy’n byw yng Nghymru a chydweithio gyda’r Amgueddfa drwy gyfleoedd cyfranogol a chyflogedig.Hwn yw lle i ddyfnhau gwybodaeth a sicrhau bod mannau treftadaeth a diwyllianol yn fwy cynrychioliadol o’r bobl ifanc a’u diwylliannai niferus sy’n byw yng Nghymru neu o Gymru. Rydyn ni yma i wneud treftadaeth yn berthnasol.Rydyn yn edrych ar gelf, treftadaeth a hunaniaeth, amgylcheddaeth, gwyddorau naturiol, hanes cymdeithasol ac archaeoleg drwy ein casgliadau a chyd-cynhyrchu digwyddiadau, gweithdai, arddangosfeydd, cyfryngau digidol cyhoeddiadau, grwpiau datblygu a mwy! Mae ein Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn gweithio’n agos gydag adrannau ar draws yr Amgueddfa i'n helpu ni ddyfnhau cynrychiolaeth yn ein casgliadau a rhaglenni, i adlewyrchu pob cymuned yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ehangu ein casgliadau LHDTC+, dad-drefedigaethu ein casgliadau a chasglu hanesion llafar ar hanes dosbarth gweithiol. Gall Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru hefyd ddod â’u syniadau neu bynciau y hoffen nhw archwilio trwy ein casgliadau!Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bost i glywed am gyfleoedd ar draws yr Amgueddfa yma.Cewch gysylltu drwy e-bostio bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk. Dilynwch ni ar Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Bloedd!