Agor drysau i greu - Amgueddfa Lechi Cymru
Lois Ann Jones , 20 Medi 2026
Yn ystod haf 2026, gwahoddwyd dwy artist dalentog o ardal y llechi, Jordan King a Ffion Pritchard, i’n Canolfan Gasgliadau yn Llandygai i fod yn rhan o broject newydd o’r enw ‘Agor Drysau i Greu’. Pwrpas y project yma, sy’n rhan o broject ehangach ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi, oedd rhoi cyfle i artistiaid lleol greu darnau creadigol wedi’u hysbrydoli gan y dirwedd llechi, ac annog themâu treftadaeth yn y sîn greadigol leol. Roedd yn bwysig hefyd ein bod yn cefnogi’r sector greadigol leol drwy brojectau fel hyn. Roddwyd pwyslais ar wneud y project yn gynaliadwy gan sicrhau bod y deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y project yn rhai sy’n cael eu hailgylchu, eu hailddefnyddio neu eu haddasu at ddibenion gwahanol. Treuliodd Jordan a Ffion ddiwrnod cyfan yn y Ganolfan Gasgliadau yn cael eu hysbrydoli gan gasgliad eang yr Amgueddfa Lechi. Dros gyfnod o ddau fis, aeth y ddwy ati i orffen cynllunio a chreu eu darnau creadigol. Darllenwch fwy am brofiad y ddwy artist isod.
Jordan King – @jordanchristina_photography
Mae fy ngwaith yn arbenigo mewn ffotograffiaeth a gweithiau celf sy’n seiliedig ar ffotograffau; rwy’n defnyddio cyfryngau megis ffibrau ac edafedd gwlân Cymreig, a llechi Cymreig, sy’n cael eu caffael yn gynaliadwy ac fel sgil-gynnyrch y diwydiannau gwlân a llechi. Gan fy mod yn byw ac yn gweithio mewn ardal sydd â threftadaeth chwarelyddiaeth ddiweddar, rwy’n teimlo bod defnyddio llechi yn fy ngwaith yn hollbwysig er mwyn pwysleisio’r tirweddau a’r deunyddiau sy’n rhan o’r dirwedd. Rwy’n hoffi gwneud hyn yn fy holl waith celf.
Y brif ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith celf cyfryngau cymysg 3D oedd helmed chwarelwr, sy’n cael ei disgrifio fel helmed ddiogelwch Cromwell, o gasgliad Amgueddfa Lechi Cymru. Mae’r eitem hon wedi’i gwneud o gardfwrdd cywasgedig. Dyma’r ysbrydoliaeth fwyaf i mi ac anogodd fi yn nes ymlaen i benderfynu creu un darn 3D, sydd hefyd yn cysylltu nifer o leoliadau a gwrthrychau yn yr amgueddfa â’r darn yma. Dechreuodd fy null creadigol ar gyfer y broses hon â’r bwriad o greu gwaith celf cyfryngau cymysg yn fy arddull arferol, gan weithio ar ffotograff 2D â deunyddiau 3D. Newidiodd hyn yn fuan pan gefais y syniad o greu gwrthrych ffisegol 3D, gan ddefnyddio mwydion papur. Ar ôl i mi wneud siâp yr helmed â mwydion papur, fe wnes i beintio’r gwaelod a datblygu’r ffotograffau a’r deunyddiau roedd arna i eisiau eu defnyddio ar y tu allan.
Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer fy newis o liwiau paent gan yr artist Ifor Pritchard a’r llyfr “Craig Yr Oesoedd / True Grit” y mae ei waith celf i’w gweld ynddo. Tynnwyd y lluniau y dewisais eu harddangos ar yr helmed gennyf i fy hun ar y teithiau “Gofodau Distaw” a “Hetiau Caled” ar safle Amgueddfa Lechi Genedlaethol Cymru yn Llanberis ac ar wahoddiad i’r Ganolfan Gasgliadau. Wrth gydnabod y diwydiant llechi, rhaid i mi hefyd gydnabod peryglon gweithio yn y chwareli, a chyfeirio’n bennaf oll at Hugh Richard Jones, un o sylfaenwyr yr amgueddfa fel rydyn ni’n ei hadnabod heddiw.
Mae pob un o’r deunyddiau a ddefnyddiwyd ar gyfer y project hwn wedi’u caffael yn lleol ac mor gynaliadwy ag sy’n bosibl. Mae’r prif elfennau fel a ganlyn; papur a chardfwrdd wedi’i ailgylchu, llechi lleol o Ddyffryn Nantlle, darnau dros ben o ddefnydd tapestri Cymreig o Felin Wlân Trefriw ac edafedd cyrliog wedi’i lifo â llaw gan Weki Wool.
Ffion Pritchard - @ffionartist
Rwy’n artist amlddisgyblaethol sy’n angerddol am straeon, cymuned a lliw. Ers graddio o Brifysgol Brighton ag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn darlunio, rwyf wedi treulio degawd yn gweithio ym meysydd teledu, dylunio, celfyddyd gain, celfyddydau cyfranogol a gwaith cymorth, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae’r gwaith arbrofol hwn wedi fy arwain at fyd celf, iechyd a lles – lle rwy’n defnyddio fy angerdd am gelf, dylunio a ffilm i wneud gwahaniaeth ystyrlon. Ar hyn o bryd, rwy’n astudio ar gyfer gradd MA mewn Celf, Iechyd a Lles ym Mhrifysgol De Cymru.
Fel un gafodd ei magu yng Ngwynedd, mae'n hawdd cymryd yn ganiataol yr hanes cymhleth, ynghyd â phrydferthwch y llechi yn y tirlun. Yn ystod fy ngradd gyntaf, ac wrth adael fy nghartref, cefais werthfawrogiad newydd o hyn. Daeth i'r amlwg yn fy ngwaith wrth i mi arbrofi ychydig efo peintio ac animeiddio ar lechi drwy uned o waith yn archwilio hanes fy nghartref drwy'r brwydro gwleidyddol yn y chwareli.
Ar gyfer y preswyliad, dwi wedi bod yn arbrofi efo ffotograffiaeth, animeiddio ac ysgrifennu. Cafodd y ffilm 'Marciau' ei hysbrydoli gan y syniad o etifeddiaeth, yr hyn rydym yn ei adael ar ôl, a'r aberth sy'n creu gwell byd i'r cenedlaethau sydd i ddod. Mewn cyd-destun hollol wahanol, yn y sioe gerdd 'Hamilton', mae'r prif gymeriad yn brwydro efo’i angen i adael etifeddiaeth drwy gydol y ddrama. Byddaf yn meddwl yn aml am y cwestiwn moesegol sy’n codi drwyddi 'Beth yw etifeddiaeth? Plannu hadyn mewn gardd na fyddwch byth yn ei gweld.', eironi torcalonnus y weithred o aberthu er mwyn cael byd gwell. Y dyfyniad yma daeth i’m meddwl wrth bori drwy gasgliad yr amgueddfa o graffiti a marciau gafodd eu gadael ar lechi chwarel Dinorwig. Mae'r marciau yma yn drosiad o’r etifeddiaeth - y brwydro gwleidyddol, y gwaith caled a'r gormes, yn ogystal â chipolwg ar hanes cymdeithasol y chwarel - y chwerthin a'r cymeriadau. Rwy’n dal i ddatblygu’r ffilm, a byddaf yn ychwanegu sgript a llais ati yn y pen draw.
Os hoffech chi hefyd gael eich ysbrydoli gan ein casgliad, rydym yn cynnal teithiau misol o gwmpas ein Canolfan Gasgliadau lle mae cyfle i chi ddysgu mwy am y project ailddatblygu, a’r broses o symud ein casgliad. Mae’r teithiau hefyd yn gyfle unigryw i weld ein casgliad mewn amgylchedd gwahanol cyn i’r brif Amgueddfa ailagor. Cliciwch y ddolen yma i archebu eich tocynnau!
Noddir y project ailddatblygu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o broject Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston a noddwyr eraill. Rydyn ni'n diolch o galon i'n holl noddwyr am eu cefnogaeth.
