Defnyddio’r casgliad celf cenedlaethol i gefnogi lles staff y GIG Stephanie Roberts, 22 Ebrill 2021 Hafan Staff adain Glan-y-Llyn Ysbyty Athrofaol Cymru Clogwyn ym Mhenarth, min nos, trai gan Alfred Sisley yn Hafan Staff, adain Glan-y-Llyn Traeth Fforest, Bae Ceredigion gan John Brett, yn Hafan Staff, adain Glan-y-Llyn Heulwen yr Hydref ar ôl Glaw, gan Andrew MacCallum, yn Hafan Staff, adain Glan-y-Llyn Wrth i bandemig COVID-19 waethygu dros y gaeaf 2020, ac wrth i’r pwysau ar staff y GIG gynyddu, mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn mynd â’r casgliad celf cenedlaethol i ysbytai er mwyn rhoi cysur i staff a chleifion. Fel pawb arall rydym wedi rhyfeddu – a chael braw – wrth weld aberth personol dyddiol staff y GIG dan amgylchiadau na ellir eu dychmygu. Rydym yn sylweddoli mai cip yn unig o’r hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yr ydym wedi ei weld, ac rydym wedi gofyn beth allwn ni fel Amgueddfa ei wneud i helpu? Fel rhan o Celf ar y Cyd cyfres o brojectau i ganfod ffyrdd newydd i bobl fwynhau’r casgliad celf yn ystod y pandemig – rydym wedi gweithio gyda byrddau iechyd Cymru . Roeddem yn awyddus i staff y GIG gael cyfle i fwynhau celf fel rhan o’u diwrnod gwaith, ac i benderfynu eu hunain sut ddylai celf gael ei ddefnyddio yn eu gweithle. Hafan Staff Lakeside Ar ddechrau mis Chwefror 2021, agorodd adnodd newydd yn adain Glan-y-Llyn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Mae’r Hafan Staff yn ofod i staff yr ysbyty gamu i ffwrdd o’u hamgylchedd waith dwys i gael eiliad o hoe a llonyddwch. Mae hyn yn golygu rhywbeth gwahanol i wahanol bobl, felly mae’r gofod aml-bwrpas yn cynnwys cegin, cawod, ac ardal dawel lle gall staff ymlacio, darllen, myfyrio, eistedd, neu fwynhau cwmni cydweithwyr. Mae hefyd yn ofod heb ffonau symudol. Ymgynghorwyd â staff yr Amgueddfa ar gynllun, golwg a naws yr Hafan Staff drwy gyfrwng pôl piniwn ar fewnrwyd NHS Connect. Roedd teimlad cryf y dylid adlewyrchu thema natur. Mae ymchwil wedi dangos fod natur a’r byd naturiol yn themâu poblogaidd mewn ysbytai, ac mae erthygl a gyhoeddwyd yn y Journal of the Royal Society of Medicine yn awgrymu y gallai hyn fod yn sgil seicoleg esblygiadol: mae amgylcheddau naturiol iachus yn cymell ymateb emosiynol cadarnhaol ynom ni. Mae hefyd yn awgrymu bod lliwiau tawelach natur, fel glas a gwyrdd, yn gallu cynhyrchu effeithiau synhwyrus mwy ymlaciol a phleserus na lliwiau mwy tanbaid, fel coch a melyn. Pan glywsom gynlluniau am yr Hafan Staff, roeddem yn gwybod ein bod am gymryd rhan – a bod yr adnoddau gennym. Mae’r casgliad celf cenedlaethol yn gyfoeth o weithiau celf sy’n dathlu harddwch y byd naturiol – y peth anodd oedd lleihau’r dewisiadau! Dewis y gweithiau Roeddem yn teimlo y dylai nodweddion gweledol a therapiwtig y delweddau gael blaenoriaeth dros eu harwyddocâd hanesyddol, ac felly lluniwyd rhestr hir o ddelweddau posib oedd â naws tawel, a rhai a fyddai’n gallu helpu i ‘agor’ y gofod gydag wybrennau eang, a golygfeydd pell. Golygfeydd Cymreig yw nifer o’r rhain hefyd, gan gynnwys uchafbwyntiau poblogaidd, megis Y Clogwyn ym Mhenarth, min nos, trai gan Alfred Sisley, a gweithiau llai adnabyddus megis Tro yn Afon Conwy gan Robert Fowler. Roedd Sisley yn delio gydag afiechyd pan baentiodd yr olygfa hon ym Mhenarth, a daeth Robert Fowler i Gymru hefyd am gyfnod o ymadfer ar ôl salwch. Cyflwynom y rhestr hir i staff yr ysbyty, ac i arbenigwyr ystafelloedd gofal iechyd, Grosvenor Interiors, a gomisiynwyd i gynllunio’r gofod. Aethon nhw ati’n ofalus i leihau’r rhestr, gan ddewis gweithiau yr oedden nhw’n teimlo fyddai’n cydweddu’n dda â’i gilydd, ac osgoi unrhyw beth fyddai’n weledol annymunol. Roedd lliw a thonyddiaeth y gweithiau celf yn arbennig o bwysig er mwyn creu ymdeimlad o undod a llonyddwch, oedd yn gymorth wrth wneud y dewis terfynol. Dewiswyd ambell liw allweddol o’r gweithiau celf – glas meddal o’r awyr glir; glas tywyllach, lliw denim o’r awyrluniau mwy oriog; a lliw gwyrdd olewydd – i’w defnyddio fel y palét lliw ar gyfer y dodrefn a’r waliau. Cafodd rhai o’r delweddau eu hatgynhyrchu fel murluniau o’r llawr i’r nenfwd, eraill fel fersiynau llai, cwtogedig o’r gwaith celf gwreiddiol. Roedd hyn yn galluogi i bobl arbrofi gyda graddfa: roedd hi’n eithaf cyffrous i weld dyfrlliw ar raddfa fach fel Yr Enfys gan Thomas Hornor wedi ei helaethu i faint y gallwch chi gamu mewn iddo bron! Mae delweddau ar raddfa mor fawr yn helpu i greu profiad i ymgolli ynddo. Yn hytrach na defnyddio labeli amgueddfa traddodiadol, gwahoddwyd y beirdd Hanan Issa a Grug Muse i gyfansoddi cerddi’n ymateb i’r project, gan dynnu ar rai o’r themâu a’r motiffau yn y delweddau. Agorodd yr Hafan Staff ar 1 Chwefror 2021, ac mae bellach yn cael ei defnyddio’n ddyddiol gan staff yr ysbyty. Gobeithiwn y bydd y delweddau o gasgliad cenedlaethol Cymru yn helpu i’w wneud yn lle mwy pleserus i fod, ac yn dod â harddwch a rhyddhad i’w diwrnod. Cyllid a chefnogaeth Datblygwyd yr Hafan Staff yn Lakeside gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Gwasanaeth Lles a Iechyd Cyflogai, diolch i gyllid ddaeth drwy rodd mawr gan Gareth ac Emma Bale yn ystod y pandemig. Gwnaed cefnogaeth Amgueddfa Cymru yn bosibl drwy Celf ar y Cyd. Cyfres o brojectau celf gweledol yw Celf ar y Cyd mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sy’n ein herio ni i rannu’r casgliad celf cenedlaethol mewn ffyrdd newydd ac arloesol yn ystod y pandemig. Mae llinynnau eraill y project yn cynnwys ein cylchgrawn celfyddydau gweledol ar-lein, Cynfas, a’r arddangosfa Celf 100. Dilynwch ni ar Instagram @celfarycyd am fwy.
Gwen John: ‘Y naws sy’n bwysig’ Rhan 2 Neil Lebeter, 9 Mehefin 2020 Dyma ail flog sy’n cymryd cip ar waith Gwen John yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Yn y rhan gyntaf dyma ni’n trafod sut y daeth y casgliad mwyaf o waith Gwen i Gaerdydd ac yn cymryd cip ar ei thechneg gynnar. Newidiodd y dechneg hon yn ddramatig wedi canol y 1910au. Canolbwyntiodd Gwen bron yn gyfangwbl ar bortreadau o fenywod, gan ddefnyddio paent yn ddarbodus iawn, heb haenau uwch na farnais. Does dim ymdrech i guddio’r brwswaith ac mae’r cyfosod yn fwy gwastad ond yn llai esmwyth. Gwelwn eto ymateb cyflym Gwen i’r gwynt celfyddydol wrth i artistiaid eraill Ewrop ddechrau defnyddio technegau tebyg. Mae’n debyg bod Gwen John yn fwyaf adnabyddus am ei phortreadau. Ynddynt mae’n cyfleu rhyw naws annirnad sy’n llawn emosiwn. Yr hyn sy’n rhyfeddol am y gweithiau hyn yw cymhlethdod y cyfosod, a’r dechneg sy’n sylfaen i holl naws y gweithiau. Ffordd dda o esbonio hyn yw i edrych ar waith anorffenedig… Asstudiaeth o Ferch Noeth ar ei Heistedd (c.1920au) Olew ar gynfas 32.4 x 24.1 cm Mae arddull wastad a harmoni tonyddol portreadau Gwen John yn destun cyffredin, gyda’r gwrthrych a’r cefndir yn aml yn asio’n un arwyneb. Yr hyn sy’n rhyfeddol am dechneg Gwen yw ei bod hi’n paentio o ymylon y cynfas, yn aml heb fraslunio ymlaen llaw. Byddai’n dechrau yng nghornel y gynfas ac yn paentio am i mewn, fel y gwelwn yma. Wrth gael ei baentio’n olaf (neu ddim o gwbwl yn yr achos hwn) daw’r wyneb yn ail bron i’r cyfosodiad. Bydd unrhyw artist yn gwerthfawrogi crefft mor rhyfeddol o anodd yw hyn, a’r ymwybyddiaeth ofodol i greu cyfanwaith wrth ddechrau ar yr ymylon. Mae hyn hefyd yn dwysáu’r teimlad fod y cefndir a’r gwrthrych yn un – nid yw’r ffigwr, yn enwedig yr wyneb, yn ddim pwysicach na gweddill y paentiad. Ar gefn y gwaith hwn mae fersiwn arall o’r un portread, y tro hwn gyda’i dillad ac yn fwy cyflawn. Yma eto gwelwn taw’r wyneb yw’r rhan olaf bron i gael unrhyw sylw. Merch mewn Gwisg Las (c. 1914-15) Olew ar gynfas 41.8 x W 34.5 cm Fe ddychwelwn ni yn awr at Merch mewn Gwisg Las. Wedi 1915 dechreuodd gwaith Gwen John newid yn ddarmatig a dyma un o’r esiamplau cynharaf o’i thechneg sych. Mae hwn yn waith rhyfeddol sydd gyda’r mwyaf poblogaidd yn Amgueddfa Cymru. Yma mae Gwen yn defnyddio grwnd o galch a glud anifeiliaid, sy’n cynhyrchu swigod bychan wrth i’r calch gymysgu â’r glud cynnes, i roi arwyneb garw i’r cynfas. Mae’r grwnd hwn a’r haenau olew dilynol i gyd wedi eu taenu’n sych a thenau iawn, heb ymdrech i guddio’r brwswaith. Yn y manylyn yma gellir gweld nad yw’r paent brown wedi glynu at y grwnd gwyn ym mhob man. Mae’n ein hatgoffa o ffresco sy’n pylu, ac yn ychwanegu at gymeriad bregus y portread. Mae’r paent wedi’i daenu mor sych a chyson nes bod y cefndir a’r gwrthrych yn ymddangos fel un, ac yn toddi i’r arwyneb. Mae edrych ar y paentiad dan olau gwahanol hefyd yn datgelu gwybodaeth ddiddorol hefyd. Drwy daflu golau o’r ochr gallwn ni weld pa mor anwastad yw’r cynfas – gwahanol iawn i gynfas llyfn proffesiynol. Mae hyn bron yn sicr yn fwriadol, i ategu’r gwead cyfoethog. Mae golau is-goch yn dangos ychydig o waith braslunio, yn amlinellu prif elfennau’r cyfosodiad cyn paentio. O astudio’r gwaith dan olau uwch-fioled gwelwn fod Gwen wedi dychwelyd at y gwaith, gan wneud newidiadau gyda phaent gwyn yn cynnwys mwy o sinc sy’n ymddangos yn gliriach dan olau UV. Mae’r gwaith tacluso yma hefyd yn ysgafn iawn. Ond dyma’r darganfyddiad mwyaf syfrdanol… Drwy daflu golau o gefn y cynfas gallwn weld cyn lleied o baent sydd wedi ei ddefnyddio. Mae’n grefft ryfeddol bod Gwen wedi llwyddo i greu darlun mor deimladwy heb ddefnyddio fawr ddim paent o gwbl. Dyw’r paent braidd yno. Yr Ystafell Fechan (1926) Olew ar gynfas Cymynrodd Gaynor Cemlyn-Jones, 2003 22.2 x 27.3 cm Mae’r gwaith hwn o 1926 yn dangos ystafell yng nghartref Gwen yn un o faestrefi Paris, ac yn un o’r paentiadau a ddangoswyd yn unig arddangosfa unigol Gwen yn ystod ei bywyd. Gwelwn baled cyfyngedig, gyda gwanhaniaethau arlliw cynnil yn y cefndir a’r tebot yn ganolbwynt bychan yng nghanol y cynfas. Wedi erchyllter y Rhyfel Byd Cyntaf gwrthododd nifer o artistiaid syniadau avant-garde, gan ddychwelyd at arddulliau mwy traddodiadol. Cefnwyd er enghraifft ar Ddyfodoliaeth a Fortisiaeth gan fod y dechnoleg a’r awtomatiaeth a ddathlent cyn y rhyfel yn allweddol i’r gyflafan. Wrth ‘Ddychwelyd at y Drefn’ gwelwyd artistiaid fel Picasso a Braque yn troi o Giwbiaeth at ddulliau traddodiadol bron yn gyfangwbl. Cynyddodd poblogrwydd yr arddull Glasurol, ac o drefn a realaeth mewn paentio. Yn ei bywgraffiad o Gwen John, dywed Alicia Foster bod y gwaith yn gymhleth o’i ystyried dan faner ‘Dychwelyd at y Drefn’, ond mae Gwen yn cydgerdded â’r mudiad yn ei defnydd union a threfnus o liw, fel y gwelir yn Yr Ystafell Fechan. Disgrifiodd Gwen sut y byddai’n defnyddio disg liw hynod gymhleth oedd yn nodi pob lliw a’i berthynas ag unrhyw liw neu arlliw arall. Datblygodd system nodiadau hefyd hefyd i fraslunio a chofnodi cyfosodiadau. Mae’r ‘cod’ hwn wedi bod yn hynod anodd ei ddatrys, ac mae gan ei nodiadau naws delynegol sydd, er ei brydferthwch, yn gwneud y gwaith ditectif yn anos fyth. Er enghraifft, pa liw fyddech chi’n ei ddyfalu yw ‘Gwawr caru’n ofer Ebrill ar y traeth liw nos’ Roedd gan Gwen system rifo yn ogystal â nodiadau lliw. Byddai’n creu brasluniau cyflym o bopeth – gwrthrychau yn ei hystafell ac ar ymweliadau, teithwyr ar y trên a cynulleidfa esglwys. Roedd y system rifo a’r nodiadau lliw yn ei galluogi i gofio lliwiau ac arlliwiau’r gwrthrychau y byddai’n eu cofnodi mewn pensil a siarcol. Yn ddiweddarach byddai’n ailgreu ei darluniau mewn dyfrlliw, gouache neu olew, gan fireinio’r cyfosodiad a’r lliw. Ffigwr yn yr Eglwys Gouache ar bapur 16.7 x 12.3cm Oddeutu 1913 trodd Gwen at Babyddiaeth. Byddai ei ffydd yn dod yn bwysig iawn iddi ac fe ddisgrifiodd ei hun fel ‘Artist bach Duw’. Addolwyr yn yr eglwys yw testun nifer o’i darluniau wedi hyn, yn aml i’w gweld o’r cefn neu’r ochr. Yn Ffigwr yn yr Eglwys mae’r ffrog wedi’i lliwio â golchiad tenau o’r un lliw â’r het, ar gwallt yn gymysgedd o liw’r cefndir a’r het. Mae hyn yn allweddol i’r modd y byddai Gwen yn asio ei lliwiau. Nid yw symlrwydd o reidrwydd yn syml. Gyda diolch i gydweithwyr Amgueddfa Cymru ddoe a heddiw am eu gwaith ymchwil trylwyr, yn enwedig David Fraser Jenkins, Beth McIntyre, Kate Lowry ac Oliver Fairclough. Mae bywgraffiad byr Alicia Foster, a gyhoeddwyd gan Tate, yn rhoi crynodeb drylwyr ac yn ailystyried elfennau pwysig o yrfa Gwen John.
Gwen John: ‘Y naws sy’n bwysig’ Rhan 1 Neil Lebeter, 27 Mai 2020 Gwen John yw un o artistiaid pwysicaf yr 20fed ganrif. Mae ei gwaith i’w weld mewn casgliadau ledled y byd gan gynnwys y Tate, Musée Rodin ac Amgueddfa Gelf Fetropolitan Efrog Newydd. Yn ffodus i ni yng Nghymru, yma yn Amgueddfa Cymru mae’r casgliad mwyaf a pwysicaf o’i gwaith. Rydyn ni’n mynd i gymryd cip ar y casgliad hwnnw a chanolbwyntio ar ddetholiad sy’n datgelu mwy am Gwen a’i thechneg, a pam mae ei gwaith yn dal mor berthnasol heddiw. Ganwyd Gwen John yn Hwlffordd ym 1876, yn ail o chwech o blant ac yn chwaer fawr i Augustus John o ryw 18 mis. Symudodd y ddau i Lundain i astudio yn Ysgol Gelf Slade, gyda Gwen yno rhwng 1895 a 1898. Slade oedd un o’r ysgolion celf cyntaf i agor ei drysau i ferched, ac felly roedd Gwen ymhlith y genhedlaeth gyntaf o fenywod i dderbyn hyfforddiant celf ffurfiol. Wedi gorffen yn Slade symudodd Gwen i Baris gan astudio yno dan law James McNeill Whistler. Yn Ffrainc y treuliodd y rhan fwyaf o’i bywyd, yn bennaf ym Mharis a’r cyffiniau – canolbwynt y byd celf – a cafodd ei haddysg a’i phrofiadau yno effaith ddofn ar ei gwaith. Talodd ei ffordd drwy weithio fel model artist, a thrwy hynny gyfarfod â Rodin a arweiniodd at berthynas angerddol. Pan yn ymweld â’i chwaer ym Mharis, soniodd Augustus wrth y meistr Whistler fod gwaith Gwen yn dangos llawer o gymeriad. Yn ôl y sôn, ymateb Whistler oedd: “Cymeriad? Beth yw hynny!? Y naws sy’n bwysig. Mae gan dy chwaer ymdeimlad da o naws.” Y dyfyniad hwn yw ein man cychwyn, a byddwn ni’n edrych ar weithiau Gwen yng ngasgliad Amgueddfa Cymru o safbwynt naws, sut y datblygodd ei harddull, a’r ffaith nad yw symlrwydd o reidrwydd yn syml. Casgliad Amgueddfa Cymru Prin oedd y gwaith wnaeth Gwen John ei arddangos yn ystod ei bywyd, a dim ond un sioe unigol o’i gwaith a welwyd, yn Orielau Newydd Chenil yn Llundain ym 1926. Prin oedd y gweithiau a werthodd hefyd – byddai’n aml yn eu rhoi’n anrhegion – ac wedi ei marw y casglwyd y rhan fwyaf o’i lluniau. Un cefnogwr brwd oedd y noddwr o’r UDA, John Quinn, a brynodd 39 o’i gweithiau, a dyma’n rhannol pam fod cyfran helaeth o’i gwaith yn yr UDA. Roedd ei gefnogaeth yn rhoi peth rhyddid ariannol iddi arfer ei chrefft. Prynodd Amgueddfa Cymru y gwaith cyntaf gan Gwen John ym 1935, Merch mewn Gwisg Las, a hynny am £20 ar ôl iddo gael ei ddangos mewn arddangosfa o Artistiaid Cyfoes Cymru yn Oriel Gelf Deffett Francis Art yn Abertawe. Wedi iddo gael ei brynu, ysgrifennodd Gwen y nodyn byr isod i’r Amgueddfa: Llythr gan Gwen John at David Kighley Baxandall, Ceidwad Celf Cynorthwyol, 21/11/1935 “Rwyf yn llawn llwenydd a balchder eich bod chi wedi prynu un o fy mheintiadau bach i dros yr Amgueddfa, a diolchaf i chi am eich canmoliaeth a’ch beirniadaeth ohono. Mewn erthygl ar yr arddangosfa mae eich gwerthfawrogiad medrus a greddfol o waith fy mrawd wedi rhoi boddhad i mi. Yr eiddoch yn gywir iawn Gwen John” Er bod Merch mewn Gwisg Las yn parhau’n un o’r paentiadau pwysicaf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru prin oedd y sylw a roddwyd i waith Gwen yn ystod ei bywyd na’r degawdau wedi ei marw. Hyd yn oed ym 1959, mae’n ymddangos yn y Penguin Dictionary of Art & Artists fel atodiad i’w brawd – does ganddi ddim cofnod personol. Ond gwelwyd newid dramatig i’r casgliad yn Amgueddfa Cymru ym 1976 ar ganmlwyddiant ei geni. Y flwyddyn honno caffaelodd yr Amgueddfa dros 900 o ddarluniau, llyfrau braslunio a phaentiadau gan ŵyr Gwen, Edwin John. Yn y cagliad oedd cynnwys ei stiwdio pan fu farw 40 mlynedd ynghynt a chyfran helaeth o gynnyrch diwedd ei gyrfa. Yn sydyn, roedd yng Nghymru y casgliad mwyaf o’i gwaith yn y byd. Techneg Beth am gael cip ar y casgliad yma felly – yn enwedig ei gwaith diweddarach – a dod i ddeall yn well ei thechneg a’i datblygiad, a sut y defnyddiai Gwen ddull hynod gymhleth i gynhyrchu’r gweithiau hudolus sydd mor gyfarwydd i ni heddiw. Cornel o Ystafell yr Artist ym Mharis (1907–9) Olew ar gynfas 31.2 × 24.8 cm Prynwyd gyda chymorth Ymddiriedolaeth Derek Williams ac Ystâd Mrs J. Green Gall techneg paentio olew Gwen gael ei rannu’n daclus yn dechneg draddodiadol gynnar a thechneg sych ddiweddarach. Y gwaith diweddarach yw mwyafrif casgliad yr Amgueddfa ond mae hon yn esiampl dda o’r dechneg draddodiadol. Paentiwyd y llun hwn o ystafell Gwen mewn atig ym Mharis yn 1907-09. Saif cadair wiail unig wrth ffenestr agored ac ar y bwrdd bychan o dan y ffenestr mae llyfr agored. Cafodd y gwaith ei gaffael gan yr amgueddfa yn gymharol ddiweddar, ym 1995. Mae nifer yn gweld ystafelloedd moel Gwen fel ymgorfforiad o’i bywyd meudwyol, ac mae’r llun hwn yn bendant yn atgyfnerthu’r darlleniad hwnnw. Daeth rhai i’r cagliad fod y gwaith, a baentiwyd pan oedd ei pherthynas â Rodin yn chwalu, yn bortread o absenoldeb. Ond mae Alicia Foster ac eraill yn dadlau y dylid ei weld yng nghyd-destun gwaith ei chyfoedion ym Mharis. Yn hytrach na phortread o feudwy, mae’n brawf fod Gwen wrth galon datblygiadau celfyddydol y ddinas ar y pryd. Ar droad yr 20fed ganrif trodd nifer o artistiaid at Yr Ystafell fel testun, a Gwen John yn eu plith. Gwelir y gadair wiail hon mewn nifer o’i gweithiau o’r cyfnod. Roedd cadeiriau gwiail yn ysgafn a rhad ac i’w gweld mewn ystafelloedd a stiwdios cymaint o artistiaid nes dod yn symbol ffasiynol o hunaniaeth yr artist ym Mharis dechrau’r 20fed ganrif. Beth am gymryd golwg agosach ar dechneg a deunyddiau’r paentiad hwn. Mae staff Cadwraeth Amgueddfa Cymru wedi ymchwilio’n helaeth i adeiladwaith paentiadau Gwen John, gan ddatgelu gwybodaeht ddiddorol am ei dull o weithio, a sut y newidiodd dros y blynyddoedd. Mae Cornel o Ystafell yr Artist ym Mharis yn un o ddwy fersiwn o’r olygfa hon, ac mae’r llall yng nghasgliad Amgueddfeydd Sheffield. Roedd Gwen ar y pryd yn paentio gyda phaent olew gwlyb wedi’i adeiladu’n haenau dros gefndir gwyn. Caiff y brwswaith ei guddio ac mae’r gwaith yn ymddangos yn llyfn a llathraidd diolch i’r haen o farnais. Mae’r arddull yn nodweddiadol o dechneg yr Hen Feistri ac yn dangos hyfforddiant ffurfiol Gwen. Ar y chwith mae trawstoriad o’r haenau paent wedi’i gymryd o ochr chwith y paentiad, ger pen y gadair. Ar y dde, mae’r haen binc sy’n rhoi gwawr gynnes i’r olygfa, ac mae’r paent dros ei ben yn denau iawn mewn mannau i ddatgelu’r pinc. Mae’r cyfan yn cyfleu naws hamddenol hwyr brynhawn neu noswyl, gyda’r llenni les yn chwythu’n hamddenol ar yr awel. Yn ail ran y erthygl hwn byddwn ni’n edrych ar y newid mawr yn nhechneg ddiweddarach Gwen ac yn taflu goleuni newydd ar un o baentiadau pwysicaf yr Amgueddfa... Gyda diolch i gydweithwyr Amgueddfa Cymru ddoe a heddiw am eu gwaith ymchwil trylwyr, yn enwedig David Fraser Jenkins, Beth McIntyre, Kate Lowr ac Oliver Fairclough. Mae bywgraffiad byr Alicia Foster, a gyhoeddwyd gan Tate, yn rhoi crynodeb drylwyr ac yn ailystyried elfennau pwysig o yrfa gwen John.