Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys – stori Elizabeth Radcliffe Elen Phillips, 11 Mai 2020 Ffedog y Groes Goch – gwisgwyd gan Elizabeth Radcliffe fel nyrs gwirfoddol yn Ysbyty Sain Ffagan, tua 1916-19. Heddiw (12 Mai 2020) yw Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys – diwrnod sy’n cael ei nodi’n flynyddol, ond sydd ag arwyddocâd arbennig eleni wrth i ni ddiolch i ofalwyr a nyrsys ledled Cymru am eu gofal a’u gwasanaeth yn ystod y cyfnod dihafal hwn. Ychydig dros ganrif yn ôl, yn debyg i heddiw, roedd aberth ac ymdrechion nyrsys a gofalwyr ar flaen meddwl y boblogaeth, ond o dan amgylchiadau gwahanol iawn wrth gwrs. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, sefydlwyd bron i 18,000 o elusennau newydd ym Mhrydain ac fe welwyd ymgyrchu gwirfoddol ar raddfa heb ei debyg o'r blaen. Ynghyd ag Urdd Sant Ioan, roedd y Groes Goch Brydeinig yn ganolog i'r ymgyrch hon. Yn 1909, daeth y ddwy elusen ynghyd i sefydlu cynllun y Voluntary Aid Detachment (VAD), gyda'r bwriad o roi hyfforddiant meddygol i wirfoddolwyr a'u paratoi i wasanaethu gartref a thramor mewn cyfnodau o ryfel. Yn ôl ystadegau'r Groes Goch, erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd 90,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y cynllun - yn eu plith Elizabeth Radcliffe o bentref Sain Ffagan. Yn ferch i ofalwr capel y pentref, roedd Elizabeth a’i theulu yn denantiaid i’r Arglwydd Plymouth o Gastell Sain Ffagan. Ganwyd chwech o blant i William a Catherine Radcliffe – pedwar mab (William, Thomas, Robert a Taliesin) a dwy ferch (Elizabeth a Mary). Cyn y Rhyfel, bu Elizabeth yn gofalu am blant James Howell – un o berchnogion y siop enwog yng Nghaerdydd. Ond erbyn 1916, roedd hi nôl yn Sain Ffagan ac yn gwirfoddoli fel nyrs VAD yn yr ysbyty ategol a agorwyd ar dir y Castell ym Mawrth y flwyddyn honno. Ar y pryd, roedd hi’n 28 mlwydd oed. Roedd y rhan fwyaf o nyrsys Ysbyty Sain Ffagan yn wirfoddolwyr lleol – menywod o’r pentref, yn anad dim, a oedd wedi derbyn hyfforddiant sylfaenol gan y Groes Goch. Dim ond 70 o wlâu a dwy ward oedd yn yr ysbyty, felly milwyr ag anafiadau ysgafn oedd yn cael eu trin yno. Roedd gofyn i’r gwirfoddolwyr wisgo iwnifform swyddogol y mudiad, sef ffrog las a ffedog wen gyda chroes goch wedi ei phwytho ar y frest. Mae llyfrau cyfrifon Ystâd Plymouth yn cynnwys sawl cyfaniad ariannol at gostau prynu gwisgoedd i staff yr ysbyty. Mae’n debyg fod siop J. Howell & Co. ymhlith y cyflenwyr. Yn ffodus iawn, mae gwisg Elizabeth Radcliffe o’r cyfnod hwn wedi goroesi, ynghyd â llun ohoni yn ei lifrai. Rhoddwyd ei ffedog a'i llewys i gasgliad yr Amgueddfa yn 1978, ac yn ddiweddar cawsom ragor o wybodaeth amdani a’i brodyr gan aelodau’r teulu. O’r pedwar brawd aeth i’r ffrynt, dim ond un ohonynt – Taliesin – ddaeth adref i Sain Ffagan yn fyw. Mae enwau William, Thomas a Robert Radcliffe i’w canfod ar gofeb rhyfel y pentref, ynghyd ag Archer Windsor-Clive - mab ieuengaf yr Arglwydd Plymouth - a laddwyd ym Mrwydr Mons. Mae’n amhosibl i ni amgyffred â mawredd y golled i Elizabeth a’i rhieni – un teulu ymysg y miliynau a rwygwyd gan erchyllterau’r Rhyfel Mawr. Os hoffech ddarganfod mwy am waith y Groes Goch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae adnoddau gwych ar wefan y mudiad. Mae llu o wrthrychau a delweddau perthnasol yn y casgliad yma yn Sain Ffagan hefyd. Ewch draw i'r catalog digidol i ddarganfod mwy.
Dogni Bwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd Mared McAleavey, 5 Mai 2020 Allwch chi ddychmygu sut y byddech chi'n teimlo heddiw os byddai rhywun yn dweud wrthych nad oedd modd i chi brynu eich hoff fwyd? Neu, os byddai modd, dim ond swm bach y gallech ei brynu ac y byddai'n rhaid iddo bara wythnos a byddai'n rhaid i chi giwio amdano? Dyma ddigwyddodd i bobl yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1939-45) pan gyflwynwyd dogni ym Mhrydain. Pam y cyflwynwyd dogni ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd? Ceisiodd Adolf Hitler, unben yr Almaen, orfodi diwedd cynnar i'r rhyfel drwy ymosod ar longau oedd yn cludo bwyd a nwyddau eraill i Brydain. Roedd am newynu'r genedl er mwyn ei threchu, a'i arf oedd fflyd o longau tanfor oedd yn teithio ar draws yr Iwerydd. Yng Nghymru, fel mewn rhannau eraill o Brydain, roedd awyrennau’r Almaenwyr hefyd yn targedu porthladdoedd a dociau, yn ogystal â threnau nwyddau mewn mannau diwydiannol fel Casnewydd, Abertawe a Chaerdydd. Beth oedd Dogni yn yr Ail Ryfel Byd? Roedd rhai eitemau, yn enwedig bwyd, yn brin iawn ac yn anodd eu prynu yn y siopau arferol. Dechreuodd pobl brynu nwyddau mewn panig mewn ffordd debyg i'r hyn a welwyd yn y cyfnod diweddar fel yn ystod yr argyfwng petrol neu adeg pandemig Covid. Felly, cyflwynodd y Llywodraeth gynllun ddogni fel system deg i ganiatáu i bobl gael swm penodol o fwyd bob wythnos. Roedd cynllun dogni gan wledydd eraill a oedd yn rhan o'r rhyfel hefyd, fel America. Roedd rhai pobl yn cofio dogni gan ei fod hefyd wedi digwydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18). Pryd dechreuodd Dogni Bwyd ym Mhrydain yn yr Ail Ryfel Byd? Gyda'r prinder bwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn dal yn fyw yn y cof, cyflwynodd y llywodraeth y cynllun dogni bwyd ym mis Ionawr 1940. Sut roedd y system dogni'n gweithio? Derbyniodd pob person yn y wlad, gan gynnwys plant, lyfr dogni a bu'n rhaid i bob cartref gofrestru gyda chigydd, groser a dyn llaeth lleol a oedd yn gorfod sicrhau bod ganddynt ddigon o fwyd i'w cwsmeriaid. Roedd y llyfrau dogni'n cynnwys cwponau y bu'n rhaid eu cyflwyno wrth brynu eitemau. Roedd gan bawb lyfr dogni, gan gynnwys aelodau o'r Teulu Brenhinol. Tyfodd y rhestr o fwydydd a gafodd eu dogni wrth i'r rhyfel barhau. Roedd y rheolau'n llym iawn ac roedd pobl oedd yn cael eu dal yn ceisio twyllo yn wynebu dirwy neu gael eu hanfon i'r carchar. Yn aml, roedd pobl a oedd yn dlawd neu'n ddi-waith ac yn dioddef o ddiffyg maeth yn y blynyddoedd cyn y rhyfel yn cael eu bwydo'n well o lawer yn ystod y rhyfel oherwydd dogni. Sut roedd dogni'n effeithio ar fywydau pobl yn yr Ail Ryfel Byd? Dig for Victory, gan Mary Tunbridge. Dig for Victory, gan Mary Tunbridge. Yn 1939 dechreuodd y llywodraeth ei hymgyrch 'Dig for Victory' a chyhoeddodd gyfres o bosteri lliwgar i annog pobl i dyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain. Gellir gweld rhai o'r posteri hyn yn Swyddfa Bost Blaen-waun a Siop y Teiliwr yn yr Amgueddfa. Cafodd cynhyrchion oedd dros ben eu troi’n jam, picl neu siytni, fel y gellid eu bwyta yn y gaeaf. Roedd pobl hefyd yn cadw geifr, ieir, cwningod a moch. Roedd moch yn arbennig o boblogaidd gan y bydden nhw’n bwyta bron unrhyw beth a gellid eu pesgi'n gyflym i'w lladd am eu cig. Roedd Woolton Pie yn bastai llawn llysiau ac roedd yn bryd cyffredin iawn yn ystod rhyfel. Roedd yn galluogi pobl i ddefnyddio'r llysiau a dyfwyd ganddyn nhw a'r llysiau a gafodd eu dogni, gan sicrhau deiet maethlon. Pwy oedd Potato Pete a Doctor Carrot? Er mwyn gwneud yr ymgyrch yn ddeniadol, crëwyd dau gymeriad, Potato Pete a Doctor Carrot i annog pobl i fwyta llysiau. Ymddangosodd y ddau yn y rhan fwyaf o ryseitiau mewn llyfrau a chylchgronau. Pa fath o fwyd gafodd ei ddogni ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd? Dyma enghraifft o ddogn i un oedolyn yn ystod y rhyfel: Bacwn a ham 4 owns Menyn 2 owns Caws 2 owns Marjarîn 4 owns Braster coginio 4 owns Llaeth 3 pheint Siwgr 8 owns Jam 1 pwys bob deufis Te 2 owns Wyau, 1 yr wythnos, os oedd ar gael a phecyn o wyau powdr bob pedair wythnos. Oherwydd eu bod yn dal i dyfu, roedd plant yn derbyn llaeth ychwanegol, sudd oren ac olew iau penfras. Roedd llawer o eitemau nad oeddent yn fwyd hefyd yn cael eu dogni fel sebon, dillad, petrol a phapur. Pryd daeth dogni i ben ar ôl yr Ail Ryfel Byd? Daeth y rhyfel i ben yn 1945 ond parhaodd y dogni. Oherwydd tywydd gwael, roedd bara'n cael ei ddogni tan 1948 ac roedd tatws hefyd yn brin. Doedd rhai bwydydd ddim yn cael eu dogni o gwbl e.e. cig morfil ond, heb fawr o syndod, ni fu hyn erioed yn boblogaidd gyda phobl Prydain! Dim ond ar ddechrau'r 50au y daeth dogni rhai bwydydd i ben h.y. te yn 1952, wyau, hufen, siwgr a melysion yn 1953, a menyn, caws ac olew coginio yn 1954 a chig a bacwn yn 1954. Dyma lun o Mrs Barbara Donaldson o Aberdâr, Morgannwg Ganol. Roedd hi'n cofio dogni'n glir gan ei bod hi'n 13 oed pan ddechreuodd y rhyfel. Roedd yr wy sych yn eithaf blasus, meddai, ac roedd modd ei ddefnyddio mewn sawl ffordd. Ar ôl y rhyfel, roedd hi bob amser yn gwrthod prynu marjarîn gan fod arno flas artiffisial a’i fod yn ei hatgoffa hi o flynyddoedd y rhyfel a "The White Cliffs of Dover", sef cân nad oedd hi erioed yn hoff ohoni! Ffeithiau llai adnabyddus am Ddogni yn yr Ail Ryfel Byd. Nid oedd cig morfil yn cael ei ddogni, h.y. roedd ar gael i bobl ei brynu heb lyfrau dogni. Doedd hwn ddim yn boblogaidd gyda'r cyhoedd ym Mhrydain gan fod pobl o’r farn bod ganddo arogl annymunol a blas diflas hyd yn oed pan ychwanegwyd sbeisys ato. Gan fod bananas wedi'u mewnforio h.y. wedi'u cludo o wledydd tramor, roedden nhw’n un eitem o fwyd nad oedd ar gael o gwbl yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Byddai rhai siopau ffrwythau'n rhoi arwydd yn eu ffenestri gan ddweud, "Oes wir, does dim bananas gennym!" i godi ysbryd pobl. Ysbrydolwyd hyn gân hwyliog Americanaidd o'r 1920au “Yes, we have no bananas!”. Ffrwythau eraill na welodd llawer o blant mohonyn nhw nes bod y rhyfel wedi dod i ben, oedd orenau, lemonau, pîn-afalau a grawnwin, oedd hefyd yn cael eu mewnforio.
Dogni Dodrefn yn ystod yr Ail Ryfel Byd Sioned Williams, 5 Mai 2020 Tudalen o gatalog dodrefn utility, 1947 Byddai troi llaw at drwsio, pwytho neu ailgylchu pethau wedi bod yn ail-natur i’r rheini fu’n byw yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gan fod deunyddiau crai fel pren yn brin, doedd prynu o’r newydd ddim yn opsiwn i’r rhan fwyaf. Roedd yr ychydig ddodrefn newydd a gynhyrchwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn rhan o gynllun dogni’r llywodraeth. Ym 1941, aeth y Bwrdd Masnach ati i gynllunio casgliad o ddodrefn o wneuthuriad syml a rhad sef dodrefn utility. Ym 1942, cyhoeddodd Cadeirydd y Bwrdd Masnach, Syr Hugh Dalton, eu nod: To secure the production of furniture of sound construction, in simple but agreeable designs and at reasonable prices. Cyhoeddwyd y catalog cyntaf o ddodrefn utility ym 1943 gyda chasgliad o tua thrideg darn gwahanol. Dyluniwyd y dodrefn gan aelodau o'r pwyllgor ymgynghorol o dan arweiniad y dylunydd dodrefn adnabyddus, Gordon Russell. Roedd y darnau yn syml ac yn fodern, gydag ôl dylanwad y mudiad celfyddyd a chrefft (arts and crafts). Ni chynhyrchwyd dodrefn nad oedd yn cydymffurfio â safonau utility a rhoddwyd y bathodyn utility, ‘CC41’ (Controlled Commodity 1941), ar bob darn fel arwydd o safon. Gellid archebu’r dodrefn o’r catalog neu eu prynu o siopau lleol a thalwyd amdanynt gyda thalebau. Byddai gan bob dodrefnyn ei werth mewn unedau, er enghraifft byddai’r gadair bentan yn werth 6 uned a’r seidbord yn werth 8 uned. Nid pawb oedd yn gymwys am y talebau dodrefn - roedd angen sicrhau trwydded cyn derbyn y talebau gwerth 30 uned. Rhoddwyd blaenoriaeth i’r rheini a oedd wedi colli eu cartrefi adeg y rhyfel o ganlyniad i'r bomiau ac i gyplau priod ifanc yn symud i gartrefi newydd, fel y prefabs. Mae sawl darn utility wedi eu harddangos yn y Prefab yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Adeiladwyd y prefabs i ateb y gofyn am gartrefi newydd wedi’r rhyfel, pan roedd nwyddau yn parhau i gael eu dogni. Cynlluniwyd y tai yn ofalus i gynnwys digon o gypyrddau storio ym mhob ystafell fel na fyddai angen prynu llawer o ddodrefn. Ym 1945, ni ddaeth diwedd i ddogni gyda diwedd y rhyfel a pharhaodd y cynllun trwy’r blynyddoedd o gynildeb hyd nes 1952.