Castell Rhaglan 22 Mawrth 2022 Castell Rhaglan yw un o adeiladau canoloesol diweddar gorau Ynysoedd Prydain ac, er ei fod yn adfail bellach, mae’n nodwedd drawiadol yn nhirwedd de-ddwyrain Cymru. Lle mae Castell Rhaglan? Mae Castell Rhaglen i’r gogledd o bentref Rhaglan yn Sir Fynwy, oddi ar yr A40 rhwng Trefynwy a’r Fenni. Am fanylion ymweld ewch i wefan Cadw. Cafodd y castell fel y mae heddiw ei godi mewn tri chyfnod. Yn y cyfnod cyntaf, yn y 15fed ganrif, adeiladwyd y Tŵr Mawr chweochrog, pum llawr, wedi’i amgylchynu gan ffos. Yn wreiddiol, pont godi o’r castell oedd yr unig ffordd i fynd i’r tŵr. Yn yr ail gyfnod, ychwanegodd Syr William Herbert, Iarll cyntaf Penfro, ystafelloedd moethus. Yn olaf, cafodd y castell ei droi’n blasty gan Ieirll Caerwrangon yn y 16eg ganrif. Y Porthdy Mawr, Rhaglan. Codwyd y porthdy rhwng 1460 a 1469 ac fe'i cynlluniwyd i wneud argraff ar ymwelwyr ac i'w dychryn drwy gynnwys rhesi o gloerdyllau, tyllau arllwys, porthcwlisau a drysau. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Pwy adeiladodd Castell Rhaglan? Mae rhywfaint o ddadlau ynghylch pwy adeiladodd ran gyntaf y castell. Fe’i codwyd naill ai gan William Herbert, Iarll cyntaf Penfro, neu ei dad, William ap Thomas, a brynodd Rhaglan ym 1432. Roedd William Herbert yn ŵr allweddol yng ngwleidyddiaeth diwedd y 15fed ganrif. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau rhoddodd ei gefnogaeth i Edward IV. Yn wobr am ei deyrngarwch cafodd deitl Iarll Penfro a digon o adnoddau ariannol i droi Rhaglan yn gaer-blasty. Byrhoedlog, fodd bynnag, oedd llwyddiant yr Iarll. Ym 1469 cafodd ei gipio gan gefnogwyr y Lancastriaid ym Mrwydr Edgecote a chafodd ei ladd. Cadwodd teulu Herbert eu rheolaeth ar Gastell Rhaglan tan 1492, pan gafodd ei drosglwyddo i deulu Somerset. William Somerset, trydydd Iarll Caerwrangon (1526–1589), oedd yr aelod cyntaf o’i deulu i newid adeiladau’r castell yn sylweddol. Adluniad o Gastell Rhaglan, tua 1620, yn dangos y gerddi ffurfiol yn ystod dyddiau gorau'r castell. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Canolbwyntiodd yr Iarll William ar wella ansawdd y neuadd a’r ceginau er mwyn bodloni disgwyliadau cymdeithasol ei gyfnod. Yn ogystal, sefydlodd y gerddi, oedd yn cynnwys cyfres o derasau, llyn artiffisial, ffownten, gwelyau blodau a gerddi perlysiau. Adluniad o fywyd yng Nghastell Rhaglan yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn ystod cyfnod Trydydd Iarll Caerwrangon. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Beth ddigwyddodd i Gastell Rhaglan? Erbyn canol y 17eg ganrif, roedd Rhaglan ym mlodau ei ddyddiau. Cyrhaeddodd lefel o soffistigedigrwydd ac ysblander tebyg i blastai gorau’r wlad. Fodd bynnag, daeth Rhyfel Cartref Lloegr i darfu ar bopeth. Ym 1642, cyhoeddodd pumed Iarll Caerwrangon ei gefnogaeth i achos y Brenhinwyr, gan gynnig cymorth ariannol sylweddol i’r Brenin Siarl I. O ganlyniad, roedd Rhaglan yn darged i luoedd y Seneddwyr, a roddodd y castell dan warchae ym Mehefin 1646. Llwyddodd ei amddiffynwyr i ddal eu gafael arno yn ystod yr haf ond erbyn canol Awst roedd y Seneddwyr o fewn 60 llath i’r castell. Ildiodd ei amddiffynwyr ar 19 Awst. Ar ôl cael ei gipio, cafodd y castell ei ddifrodi’n fwriadol er mwyn sicrhau na ellid ei amddiffyn eto. Dyma pryd y cafodd y twll anferth ei greu yn y Tŵr Mawr. Gadawyd Castell Rhaglan yn wag a dirywiodd; yna, daeth yn ffynhonnell gyfleus ar gyfer cerrig adeiladu ac yn atyniad pictiwrésg i dwristiaid. Bellach, diolch i waith Cadw a’i ragflaenwyr, mae’r adeilad yn cael ei warchod. Pwy sydd biau Castell Rhaglan? Mae Castell Rhaglan yn dal yn eiddo i deulu Somerset, a ddaeth yn Ddugiaid Beaufort ym 1682. Ym 1938 cafodd ei roi yng ngofal y Weinyddiaeth Waith, ac erbyn hyn mae yn nwylo Cadw. Pa ffilmiau sydd wedi defnyddio Castell Rhaglan? Ymddangosodd Castell Rhaglan yn ffilm Terry Gilliam, Time Bandits (1981), lle cafodd ei ffilmio fel castell Eidalaidd dan warchae yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Darllen cefndir Raglan Castle gan J. R. Kenyon. Cyhoeddwyd gan Cadw (2003). Teils llawr addurnedig Castell Rhaglan Rhestriad Cadw Rhestriad Coflein (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) Addaswyd y llun ar y blaen o Castell Rhaglan gan Steve Slater, CC BY 2.0
Dogni Bwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd Mared McAleavey, 5 Mai 2020 Allwch chi ddychmygu sut y byddech chi'n teimlo heddiw os byddai rhywun yn dweud wrthych nad oedd modd i chi brynu eich hoff fwyd? Neu, os byddai modd, dim ond swm bach y gallech ei brynu ac y byddai'n rhaid iddo bara wythnos a byddai'n rhaid i chi giwio amdano? Dyma ddigwyddodd i bobl yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1939-45) pan gyflwynwyd dogni ym Mhrydain. Pam y cyflwynwyd dogni ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd? Ceisiodd Adolf Hitler, unben yr Almaen, orfodi diwedd cynnar i'r rhyfel drwy ymosod ar longau oedd yn cludo bwyd a nwyddau eraill i Brydain. Roedd am newynu'r genedl er mwyn ei threchu, a'i arf oedd fflyd o longau tanfor oedd yn teithio ar draws yr Iwerydd. Yng Nghymru, fel mewn rhannau eraill o Brydain, roedd awyrennau’r Almaenwyr hefyd yn targedu porthladdoedd a dociau, yn ogystal â threnau nwyddau mewn mannau diwydiannol fel Casnewydd, Abertawe a Chaerdydd. Beth oedd Dogni yn yr Ail Ryfel Byd? Roedd rhai eitemau, yn enwedig bwyd, yn brin iawn ac yn anodd eu prynu yn y siopau arferol. Dechreuodd pobl brynu nwyddau mewn panig mewn ffordd debyg i'r hyn a welwyd yn y cyfnod diweddar fel yn ystod yr argyfwng petrol neu adeg pandemig Covid. Felly, cyflwynodd y Llywodraeth gynllun ddogni fel system deg i ganiatáu i bobl gael swm penodol o fwyd bob wythnos. Roedd cynllun dogni gan wledydd eraill a oedd yn rhan o'r rhyfel hefyd, fel America. Roedd rhai pobl yn cofio dogni gan ei fod hefyd wedi digwydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18). Pryd dechreuodd Dogni Bwyd ym Mhrydain yn yr Ail Ryfel Byd? Gyda'r prinder bwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn dal yn fyw yn y cof, cyflwynodd y llywodraeth y cynllun dogni bwyd ym mis Ionawr 1940. Sut roedd y system dogni'n gweithio? Derbyniodd pob person yn y wlad, gan gynnwys plant, lyfr dogni a bu'n rhaid i bob cartref gofrestru gyda chigydd, groser a dyn llaeth lleol a oedd yn gorfod sicrhau bod ganddynt ddigon o fwyd i'w cwsmeriaid. Roedd y llyfrau dogni'n cynnwys cwponau y bu'n rhaid eu cyflwyno wrth brynu eitemau. Roedd gan bawb lyfr dogni, gan gynnwys aelodau o'r Teulu Brenhinol. Tyfodd y rhestr o fwydydd a gafodd eu dogni wrth i'r rhyfel barhau. Roedd y rheolau'n llym iawn ac roedd pobl oedd yn cael eu dal yn ceisio twyllo yn wynebu dirwy neu gael eu hanfon i'r carchar. Yn aml, roedd pobl a oedd yn dlawd neu'n ddi-waith ac yn dioddef o ddiffyg maeth yn y blynyddoedd cyn y rhyfel yn cael eu bwydo'n well o lawer yn ystod y rhyfel oherwydd dogni. Sut roedd dogni'n effeithio ar fywydau pobl yn yr Ail Ryfel Byd? Dig for Victory, gan Mary Tunbridge. Dig for Victory, gan Mary Tunbridge. Yn 1939 dechreuodd y llywodraeth ei hymgyrch 'Dig for Victory' a chyhoeddodd gyfres o bosteri lliwgar i annog pobl i dyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain. Gellir gweld rhai o'r posteri hyn yn Swyddfa Bost Blaen-waun a Siop y Teiliwr yn yr Amgueddfa. Cafodd cynhyrchion oedd dros ben eu troi’n jam, picl neu siytni, fel y gellid eu bwyta yn y gaeaf. Roedd pobl hefyd yn cadw geifr, ieir, cwningod a moch. Roedd moch yn arbennig o boblogaidd gan y bydden nhw’n bwyta bron unrhyw beth a gellid eu pesgi'n gyflym i'w lladd am eu cig. Roedd Woolton Pie yn bastai llawn llysiau ac roedd yn bryd cyffredin iawn yn ystod rhyfel. Roedd yn galluogi pobl i ddefnyddio'r llysiau a dyfwyd ganddyn nhw a'r llysiau a gafodd eu dogni, gan sicrhau deiet maethlon. Pwy oedd Potato Pete a Doctor Carrot? Er mwyn gwneud yr ymgyrch yn ddeniadol, crëwyd dau gymeriad, Potato Pete a Doctor Carrot i annog pobl i fwyta llysiau. Ymddangosodd y ddau yn y rhan fwyaf o ryseitiau mewn llyfrau a chylchgronau. Pa fath o fwyd gafodd ei ddogni ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd? Dyma enghraifft o ddogn i un oedolyn yn ystod y rhyfel: Bacwn a ham 4 owns Menyn 2 owns Caws 2 owns Marjarîn 4 owns Braster coginio 4 owns Llaeth 3 pheint Siwgr 8 owns Jam 1 pwys bob deufis Te 2 owns Wyau, 1 yr wythnos, os oedd ar gael a phecyn o wyau powdr bob pedair wythnos. Oherwydd eu bod yn dal i dyfu, roedd plant yn derbyn llaeth ychwanegol, sudd oren ac olew iau penfras. Roedd llawer o eitemau nad oeddent yn fwyd hefyd yn cael eu dogni fel sebon, dillad, petrol a phapur. Pryd daeth dogni i ben ar ôl yr Ail Ryfel Byd? Daeth y rhyfel i ben yn 1945 ond parhaodd y dogni. Oherwydd tywydd gwael, roedd bara'n cael ei ddogni tan 1948 ac roedd tatws hefyd yn brin. Doedd rhai bwydydd ddim yn cael eu dogni o gwbl e.e. cig morfil ond, heb fawr o syndod, ni fu hyn erioed yn boblogaidd gyda phobl Prydain! Dim ond ar ddechrau'r 50au y daeth dogni rhai bwydydd i ben h.y. te yn 1952, wyau, hufen, siwgr a melysion yn 1953, a menyn, caws ac olew coginio yn 1954 a chig a bacwn yn 1954. Dyma lun o Mrs Barbara Donaldson o Aberdâr, Morgannwg Ganol. Roedd hi'n cofio dogni'n glir gan ei bod hi'n 13 oed pan ddechreuodd y rhyfel. Roedd yr wy sych yn eithaf blasus, meddai, ac roedd modd ei ddefnyddio mewn sawl ffordd. Ar ôl y rhyfel, roedd hi bob amser yn gwrthod prynu marjarîn gan fod arno flas artiffisial a’i fod yn ei hatgoffa hi o flynyddoedd y rhyfel a "The White Cliffs of Dover", sef cân nad oedd hi erioed yn hoff ohoni! Ffeithiau llai adnabyddus am Ddogni yn yr Ail Ryfel Byd. Nid oedd cig morfil yn cael ei ddogni, h.y. roedd ar gael i bobl ei brynu heb lyfrau dogni. Doedd hwn ddim yn boblogaidd gyda'r cyhoedd ym Mhrydain gan fod pobl o’r farn bod ganddo arogl annymunol a blas diflas hyd yn oed pan ychwanegwyd sbeisys ato. Gan fod bananas wedi'u mewnforio h.y. wedi'u cludo o wledydd tramor, roedden nhw’n un eitem o fwyd nad oedd ar gael o gwbl yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Byddai rhai siopau ffrwythau'n rhoi arwydd yn eu ffenestri gan ddweud, "Oes wir, does dim bananas gennym!" i godi ysbryd pobl. Ysbrydolwyd hyn gân hwyliog Americanaidd o'r 1920au “Yes, we have no bananas!”. Ffrwythau eraill na welodd llawer o blant mohonyn nhw nes bod y rhyfel wedi dod i ben, oedd orenau, lemonau, pîn-afalau a grawnwin, oedd hefyd yn cael eu mewnforio.
Dogni Dodrefn yn ystod yr Ail Ryfel Byd Sioned Williams, 5 Mai 2020 Tudalen o gatalog dodrefn utility, 1947 Byddai troi llaw at drwsio, pwytho neu ailgylchu pethau wedi bod yn ail-natur i’r rheini fu’n byw yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gan fod deunyddiau crai fel pren yn brin, doedd prynu o’r newydd ddim yn opsiwn i’r rhan fwyaf. Roedd yr ychydig ddodrefn newydd a gynhyrchwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn rhan o gynllun dogni’r llywodraeth. Ym 1941, aeth y Bwrdd Masnach ati i gynllunio casgliad o ddodrefn o wneuthuriad syml a rhad sef dodrefn utility. Ym 1942, cyhoeddodd Cadeirydd y Bwrdd Masnach, Syr Hugh Dalton, eu nod: To secure the production of furniture of sound construction, in simple but agreeable designs and at reasonable prices. Cyhoeddwyd y catalog cyntaf o ddodrefn utility ym 1943 gyda chasgliad o tua thrideg darn gwahanol. Dyluniwyd y dodrefn gan aelodau o'r pwyllgor ymgynghorol o dan arweiniad y dylunydd dodrefn adnabyddus, Gordon Russell. Roedd y darnau yn syml ac yn fodern, gydag ôl dylanwad y mudiad celfyddyd a chrefft (arts and crafts). Ni chynhyrchwyd dodrefn nad oedd yn cydymffurfio â safonau utility a rhoddwyd y bathodyn utility, ‘CC41’ (Controlled Commodity 1941), ar bob darn fel arwydd o safon. Gellid archebu’r dodrefn o’r catalog neu eu prynu o siopau lleol a thalwyd amdanynt gyda thalebau. Byddai gan bob dodrefnyn ei werth mewn unedau, er enghraifft byddai’r gadair bentan yn werth 6 uned a’r seidbord yn werth 8 uned. Nid pawb oedd yn gymwys am y talebau dodrefn - roedd angen sicrhau trwydded cyn derbyn y talebau gwerth 30 uned. Rhoddwyd blaenoriaeth i’r rheini a oedd wedi colli eu cartrefi adeg y rhyfel o ganlyniad i'r bomiau ac i gyplau priod ifanc yn symud i gartrefi newydd, fel y prefabs. Mae sawl darn utility wedi eu harddangos yn y Prefab yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Adeiladwyd y prefabs i ateb y gofyn am gartrefi newydd wedi’r rhyfel, pan roedd nwyddau yn parhau i gael eu dogni. Cynlluniwyd y tai yn ofalus i gynnwys digon o gypyrddau storio ym mhob ystafell fel na fyddai angen prynu llawer o ddodrefn. Ym 1945, ni ddaeth diwedd i ddogni gyda diwedd y rhyfel a pharhaodd y cynllun trwy’r blynyddoedd o gynildeb hyd nes 1952.
Diwrnod VE: Medalau Dewrder, Gwasanaeth ac Aberth Alastair Willis, 5 Mai 2020 Mae Diwrnod VE yn coffáu buddugoliaeth y Cynghreiriaid dros yr Almaen Natsïaidd. Mae’r Cenhedloedd Unedig hefyd yn cadw Mai 8-9 fel ‘cyfnod o gymodi, a chofio’r rhai a gollodd eu bwydau yn yr Ail Ryfel Byd’.Ar 8 Mai 1945, death y rhyfel yn Ewrop i ben. Wedi bron i chwe mlynedd o ymladd gwaedlyd, roedd y Natsïaid wedi’u trechu. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd – oedd i bara am bedwar mis arall yn y Cefnfor Tawel – roedd dros 60 miliwn o filwyr a phobl gyffredin wedi colli eu bywydau, a dros 15,000 o’r rhain yn Gymry. Mae casgliad Amgueddfa Cymru o fedalau’r Ail Ryfel Byd yn dyst i ddewrder ac aberth rhyfeddol milwyr a phobl gyffredin Cymru rhwng 1939 a 1945. Yn y erthygl hwn byddwn ni’n cyflwyno hanesion rhai medalau o’r rhyfel a’r bobl wnaeth eu hennill.Gallai milwyr Prydain ennill wyth seren ymgyrch (ychwanegwyd nawfed yn 2012) a dwy fedal wasanaeth. Dyfarnwyd medalau dewrder hefyd am weithredoedd a gwasanaeth rhagorol gan aelodau’r lluoedd neu’r cyhoedd.Is-Swyddog William John James (Royal Navy), CaerdyddGwasanaethodd yr Is-Swyddog William John James ar yr HMS Galatea, criwser ysgafn oedd yn gwasanaethu’r Llynges Frenhinol yng Nghefnfor yr Iwerydd a Môr y Canoldir nes cael ei tharo gan dorpedo a’i suddo gan long danfor yr Almaen yn Rhagfyr 1941. Lladdwyd William a dros 460 o’r criw, gyda prin 100 yn goroesi. Dyfarnwyd ei fedalau wedi iddo farw a’u cyflwyno i’r teulu ynghyd â llythr cydymdeimlad gan y Morlys. Medalau W.J. James (o’r chwith i’r dde): Medal Gwasanaeth Cyffredinol y Llynges gyda clasb Palesteina 1936-1939, Seren 1939-1945, Seren yr Iwerydd, Seren Affrica, a’r Fedal Ryfel. Llythr cydymdeimlad medalau W.J. James. Y Parchedig Ivor Lloyd Phillips (y Fyddin), KilgettyDyfarnwyd y medalau yma i’r Parchedig Ivor Lloyd Phillips, caplan yn y fyddin a wasanaethodd gyda Chatrawd Maes 102 (Iwmyn Penfro) y Magnelwyr Brenhinol yn Tiwnisia a’r Eidal. Medalau’r Parch. I.Ll. Phillips (o’r chwith i’r dde): y Groes Filwrol, Seren 1939-1945, Seren Affrica gyda chlasb y Fyddin 1af, Seren yr Eidal, y Fedal Amddiffyn a’r Fedal Ryfel gyda deilen dderw efydd yn dynodi i Ivor gael ei ‘Enwi mewn Adroddiadau’. Dyfarnwyd y Groes Filwrol i Ivor Phillips, y fedal ail uchaf o dan Groes Fictoria ar y pryd. Mae’r gymeradwyaeth gyda’r fedal yn datgan iddo ‘Gyflawni ei ddyletswyddau mewn modd cwbl anhunanol a diwyd... mae ei waith wedi bod yn ddiarbed ac mae meddwl mawr ohono gan ddynion o bob rheng… Heb adael i daflegrau’r gelyn darfu ar ei waith, mae’n dangos difaterwch am ei ddiogelwch personol yn wastad. Bydd yn prysuro at y clwyfedig bob amser ac mae ei bresenoldeb a’i waith gyda nhw... wedi bod beunydd yn ysbrydoliaeth fawr i eraill’.Daeth yn Archddeacon Casnewydd yn ddiweddarach. Y Parch. Phillips. Bathodyn Caplan y Fyddin y Parch. Phillips. Rhoddodd y Parch. Phillips ei fedalau i Amgueddfa Cymru ym 1991.Sarjant Glyn Griffiths (yr Awyrlu Brenhinol), Llandudno Glyn Griffiths (dde) ac aelodau eraill ei sgwadron ar awyren Hurricane. Ganwyd Glyn Griffiths yn Llandudno ym 1918, a daeth yn Sarjant ac yn beilot awyren Hawker Hurricane fel aelod o Sgwadron 17 yn ystod y Battle of Britain rhwng Gorffennaf a Hydref 1940. Lloriodd o leiaf chwech awyren Almaenig ac o bosib hyd at 15. Dyfarnwyd y Fedal Hedfan Neilltuol iddo am ei weithredoedd. Wedi’r Battle of Britain aeth yn hyfforddwr gan hedfan yn ddiweddarach gyda Sgwadron 4. Wrth ddychwelyd o gyrch dros Ffrainc bu mewn damwain ag awyren arall uwchlaw’r maes awyr a gorfod neidio o’r awyren. Dioddefodd losgiadau gwael gan roi terfyn ar ei wasanaeth yn y rhyfel. Medalau Sarjant Griffiths (o’r chwith i’r dde): y Fedal Hedfan Neilltuol, Seren 1939-1945 gyda chlasb Battle of Britain, Seren yr Iwerydd, y Fedal Amddiffyn, y Fedal Ryfel, Croix de Guerre (Gwlad Belg), Urdd Leopold II (Gwlad Belg). Sarjant William Herbert Evans (yr Awyrlu Brenhinol), CaerdyddRoedd Sarjant Evans yn llywiwr bomwyr Halifax yn Sgwadron 78. Cafodd ei ladd ar 31 Awst 1943 pan saethwyd ei awyren yn ystod cyrch gan 600 o awyrennau ar ddinasoedd Mönchengladbach a Rheydt yn yr Almaen. Dyfarnwyd ei fedalau wedi ei farw. Medalau Sarjant Evans (o’r chwith i’r dde): y Fedal Ryfel, Seren Criw Awyr Ewrop, Seren 1939-1945. Rhoddwyd medalau Sarjant Evans i Amgueddfa Cymru gan ei deulu.Benjamin Lewis Aylott (Heddlu), PontarddulaisGanwyd Benjamin Aylott yn Llundain, a gwasanaethoedd gyda’r Llynges Brydeinig yn y Rhyfel Byd Cyntaf cyn symud i Bontarddulais. Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd fe ymunodd â Heddlu Morgannwg fel Cwnstabl Rhyfel Wrth-Gefn. Dyfarnwyd Medal Dewrder Gwasanaethau Heddlu a Thân y Brenin iddo am arestio enciliwr arfog o’r fyddin ar 27 Rhagfyr 1943. Medal Dewrder Gwasanaethau Heddlu a Thân y Brenin B.L. Aylott. B.L. Aylott a’i deulu wedi derbyn ei fedal gan y Brenin Siôr VI ym Mhalas Buckingham. Rhoddwyd ei fedalau i Amgueddfa Cymru gan ei fab Terry Aylott yn 2011.Thomas William Keenan (aelod o’r cyhoedd), CaerdyddAr noson 2-3 Ionawr 1941 ymosododd dros 100 o awyrennau’r Almaen ar Gaerdydd. Roedd Thomas Keenan yn wyliwr mewn storfa danwydd a ddefnyddiodd ei het i symud bom llosgi oedd wedi glanio ar danc yn dal 300,000 galwyn o betrol. Llosgodd ei ddwylo’n wael, ond fe arbedodd y tanc petrol. Dyfarnwyd Medal Siôr iddo am ei ddewrder. Yn y casgliad hefyd mae dwy fedal a dderbyniodd wedi gwasanaethau gyda’r Corfflu Gynnau Peiriant yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Medalau T.W. Keenan (o’r chwith i’r dde): Medal Siôr, Medalau Rhyfel a Buddugoliaeth Prydain (WW1), y Fedal Amddiffyn, 1939-1945. Medalau T.W. Keenan (cefn). Gordon Love Bastian (y Llynges Fasnach), Y BarriEynon Hawkins (y Llynges Frenhinol), LlanharanDyfarnwyd y Medalau Albert yma i G.L. Bastian ac E. Hawkins am achub bywydau ar y môr.Ganwyd Gordon Bastian yn y Barri, ac roedd yn Ail Swyddog Peiriannyddol ar yr S.S. Empire Bowman, gafodd ei tharo gan dorpedo ar 31 Mawrth 1943. Derbyniodd Fedal Albert am ‘ddewrder, cryfder a phwyll aruthrol’ wrth arbed dau ddyn rhag boddi yn howld danio’r llong.Roedd Eynon Hawkins, Morwr Abl gyda’r Llynges Frenhinol yn gwasanaethu fel gyniwr ar long fasnach arfog gafodd ei tharo gan dorpedo a’i llosgi ar 10 Ionawr 1943. Yn ôl y London Gazette (29 Mehefin 1943) ‘...llwyddodd Hawkins gyda phwyll a dewrder o’r mwyaf i drefnu criw a ddihangodd yn y dŵr nes iddynt gael eu hachub gan un o longau Ei Fawrhydi. Ddwy waith fe nofiodd i helpu eraill oedd mewn trafferthion, gan losgi ei wyneb ei hun wrth eu tynnu i ddiogelwch.’ Medalau Albert G.L. Bastian ac E. Hawkins. Medalau Albert G.L. Bastian ac E. Hawkins. Rhoddwyd y ddwy fedal i Amgueddfa Cymru gan y ddau dderbyniwr.Elizabeth Harriet Edwards (aelod o’r cyhoedd), CaerdyddDyfarnodd Cymdeithas y Groes Goch Brydeinig y fedal isod i Hettie Edwards am hyfedredd Cymorth Cyntaf. Hettie Edwards oedd Llyfrgellydd Amgueddfa Cymru rhwng 1931 a 1970. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn gwirfoddoli fel nyrs gyda Chymdeithas y Groes Coch Brydeinig.Darllenwch mwy am Hetty Edwards:Rhan UnRhan DauRhan Tri Medal Hyfedredd Cymorth Cyntaf y Groes Goch E.H. Edwards.