Cerfluniau atig Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Kristine Chapman, 23 Medi 2022 Ar waliau allanol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym Mharc Cathays mae sawl cerflun i’w gweld. Maent yn cael eu galw yn ‘Gerfluniau Atig’. Mae rhai i’w gweld ar Neuadd y Ddinas drws nesaf hefyd.Yn wir, pan lansiwyd cystadleuaeth i ddylunio Amgueddfa Genedlaethol newydd Cymru ym 1909, roedd telerau’r gystadleuaeth yn nodi:‘From the position of the site on the east side of the City Hall and the relation of the Law Courts on its west side, to that building as a centre, it is thought desirable that externally the Museum building should be designed in harmony with these buildings, that, so far as possible, it may be in sympathy with the general scheme adopted’.Bu’r penseiri a enillodd y gystadleuaeth, sef Arnold Dunbar Smith (1866–1933) a Cecil Claude Brewer (1871–1918), yn gweithio gyda’r cerflunydd enwog Syr William Goscombe John (1860–1952) i ddylunio’r cerfluniau fyddai’n addurno’r adeilad. Eu bwriad oedd creu pedwar grŵp, bob un yn cynnwys dau neu dri ffigwr, ar gyfer pedair ochr yr adeilad. Byddai hyn wedi golygu 16 grŵp i gyd.Roedd grwpiau’r Adain Ddeheuol – sef blaen yr Amgueddfa – i fod i ddarlunio hanes Cymru, gyda cherfluniau ar gyfer Oes y Cerrig, Oes yr Efydd, Oes yr Haearn ac Oes y Glo. Model plastr Gilbert Bayes ar gyfer Oes yr Efydd; newidiwyd y teitl yn hwyrach i Y Cyfnod Clasurol. Diwydiannau Cymru oedd i gael eu cynrychioli gan gerfluniau’r Adain Orllewinol: Amaeth, Mwyngloddio, Llongau a Haearn a Dur.Byddai cerfluniau’r Adain Ddwyreiniol yn canolbwyntio ar y gwyddorau: Seryddiaeth, Cemeg a Ffiseg, Bywydeg a Daeareg ac Archaeoleg.Ac yn olaf, roedd yr Adain Ogleddol i fod i gynrychioli’r celfyddydau: Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Celfyddydau Graffig a Phensaernïaeth a Cherfluniaeth.Gan fod yr Amgueddfa yn cael ei hadeiladu mewn camau, fesul adain, gan ddechrau gyda’r Adain Ddeheuol, penderfynwyd canolbwyntio ar gerfluniau’r ardal honno gyntaf.Ym 1914 cafodd 14 o gerflunwyr eu gwahodd i gyflwyno ceisiadau. Cawsant eu cynghori fod y cerfluniau i fod yn rhan o’r adeilad, ac nid yn ychwanegiad ato, a bod felly angen gweithiau ‘monumental and masonic’ yn hytrach na ‘plastic treatment’. Roedd angen iddynt fod yn symbolaidd yn hytrach na darluniadol, heb boeni gormod am gywirdeb hanesyddol nag edrych yn realistig. Y Cyfnod Modern gan Richard Garbe Mae rhestr o’r enillwyr yn Adroddiad Blynyddol yr Amgueddfa 1914–15:Gilbert Bayes (1872–1953) am ei fodel o Oes yr EfyddRichard L. Garbe (1876–1957) am ei fodel o Oes y CerrigThomas J. Clapperton (1879–1962) am ei fodel o Oes y GloGofynnwyd i’r artistiaid buddugol wneud fersiwn derfynol o’u dyluniad, yn ogystal â cherflun i gyd-fynd. Penderfynwyd hefyd bod angen newid y categorïau, a chawsant eu hailenwi yn Y Cyfnod Cynhanesyddol, Y Cyfnod Clasurol, Y Cyfnod Canoloesol a’r Cyfnod Modern.Felly cafodd Gilbert Bayes y dasg o gynhyrchu cerfluniau’r Cyfnod Cynhanesyddol a’r Cyfnod Clasurol. Aeth Richard Garbe ati i gynhyrchu cerfluniau’r Cyfnod Canoloesol a’r Cyfnod Modern. Gyda’i gilydd, dyma gwblhau’r dyluniad o hanes Cymru ar du blaen yr Amgueddfa. Mwyngloddio a Llongau gan Thomas J. Clapperton Gofynnwyd i’r enillydd arall, Thomas J. Clapperton, ail-enwi ei gerfluniau Oes y Glo yn Mwyngloddio a chreu cerflun arall i’r Llongau. Dyma fyddai’r ddau grŵp cyntaf o gerfluniau i gynrychioli Diwydiannau Cymru ar yr Adain Orllewinol. Adeiladwyd rhan o’r adain hon fel rhan o’r cam cyntaf, felly roedd lle ar gyfer y cerfluniau hyn.Cafodd ambell i gerflun allanol arall eu comisiynu ar yr adeg hon hefyd, ond nid oeddent yn rhan o’r cynllun Cerfluniau Atig. Dyluniwyd dwy ddraig a dau lew gan A. Bertram Pegram, i gael eu rhoi o gwmpas gwaelod y gromen. Mae’n werth nodi na fu unrhyw gynlluniau i roi cerflun ar ben y gromen yn debyg i’r ddraig ar ben Neuadd y Ddinas; does dim golwg o gerflun o’r fath yn unrhyw un o ddarluniau’r penseiri o’r Amgueddfa.Daeth cynllun y cerfluniau i stop nes i Adain Ddwyreiniol yr Amgueddfa gael ei hadeiladu yn y 1930au. Agorwyd yr adain, sy’n cynnwys Darlithfa Reardon Smith, yn swyddogol ym 1932. Fodd bynnag, erbyn hyn roedd y cynllun gwreiddiol ar gyfer y cerfluniau wedi newid yn sylweddol. Yn wahanol i’r grwpiau o ffigyrau ar yr Adain Ddeheuol, roedd y cerfluniau hyn yn ffigyrau unigol.Y gred oedd na fyddai cymaint o bobl yn gweld yr Adain Ddwyreiniol, ac felly nad oedd angen cerfluniau mor fawr ac amlwg. Mae cofnodion y Pwyllgor Adeiladu ym mis Chwefror 1936 yn nodi: ‘Er ei bod yn bwysig y dylai’r cerfluniau wneud eu dyletswydd o gwblhau’r dyluniad pensaernïol, cynigir nad oes angen grwpiau tri ffigwr mewn cerfwedd uchel’. Celf gan Bertram Pegram Yn lle’r cynllun gwreiddiol i ddarlunio’r gwyddorau ar yr Adain Ddwyreiniol, penderfynodd y pwyllgor gomisiynu cerfluniau yn portreadu’r celfyddydau – thema’r Adain Ogleddol yn wreiddiol. Y cerfluniau a grëwyd oedd Addysg gan Thomas J. Clapperton (y cerflunydd oedd yn gyfrifol yn barod am ddau gerflun yr Adain Orllewinol), Cerddoriaeth gan David Evans (1893–1959); a Celf gan A. Bertram Pegram, a greodd y llewod ar waelod y gromen. Cerddoriaeth gan David Evans Chafodd gweddill yr Adain Orllewinol, a’i dau gerflun olaf, ddim eu cwblhau tan y 1960au. Roedd y gweithiau hyn yn ffigyrau unigol fel dyluniadau’r 1930au, yn hytrach na’r grwpiau aml-ffigwr gan T.J. Clapperton oedd ar yr Adain Orllewinol yn barod.Jonah Jones (1919–2004) sy’n gyfrifol am y ddau gerflun. Hanes Natur yw pwnc y cyntaf, ac mae’n gerflun o Santes Melangell sy’n dal tusw o flodau, rhedyn a gweiriau a phenglog hwrdd, gyda sgwarnog o gwmpas godre ei gwisg. Diwydiant yw’r ail thema, sef cerflun o chwarelwr yn hollti llechen. Er nad yw’r cerfluniau yn cadw’n llwyr at y cynllun gwreiddiol (Amaeth a Haearn a Dur), maent yn cyfeirio at thema’r adain, sef diwydiannau Cymru.Yn y 1980au cafodd y cerflun olaf ei gomisiynu, pan gafodd yr Adain Ddwyreiniol estyniad i’w gwneud yr un maint â’r Adain Orllewinol. Penderfynodd y Pwyllgor Celf ym 1988 i ofyn i bum cerflunydd am gynlluniau i greu ffigwr fyddai’n cyd-fynd â cherflun Cerddoriaeth gan David Evans, ac yn cwblhau thema gelfyddydol yr adain. Reguarding Guardians of Art gan Dhruva Mistry Y cerflun a ddewiswyd oedd Reguarding Guardians of Art gan Dhruva Mistry (1957– ), ffigwr oedd yn hanner person a hanner anifail, gydag adenydd. Cafodd ei osod ym mis Awst 1990. Er bod arddull y cerflun yn wahanol i’r gweddill, dywedodd Ceidwad Celf yr Amgueddfa ar y pryd ei fod yn ‘cwrdd â gofynion y sefyllfa yn wych o ran cyfansoddiad a graddfa’.Roedd cynllun gwreiddiol yr Amgueddfa yn cynnwys Adain Ogleddol, ond ni chafodd erioed ei hadeiladu ac ni chrëwyd unrhyw gerfluniau ar ei chyfer. Felly o’r 16 grŵp o gerfluniau a gynlluniwyd ar gyfer yr Amgueddfa, dim ond 12 a gafodd eu creu. O’r 12 hynny, mae eu hanner yn ffigyrau unigol. Pwy â ŵyr, os caiff Adain Ogleddol ei hadeiladu byth, efallai y gwelwn gystadleuaeth arall i ddylunio’r pedwar cerflun sy’n weddill.
Castell Rhaglan 22 Mawrth 2022 Castell Rhaglan yw un o adeiladau canoloesol diweddar gorau Ynysoedd Prydain ac, er ei fod yn adfail bellach, mae’n nodwedd drawiadol yn nhirwedd de-ddwyrain Cymru. Lle mae Castell Rhaglan? Mae Castell Rhaglen i’r gogledd o bentref Rhaglan yn Sir Fynwy, oddi ar yr A40 rhwng Trefynwy a’r Fenni. Am fanylion ymweld ewch i wefan Cadw. Cafodd y castell fel y mae heddiw ei godi mewn tri chyfnod. Yn y cyfnod cyntaf, yn y 15fed ganrif, adeiladwyd y Tŵr Mawr chweochrog, pum llawr, wedi’i amgylchynu gan ffos. Yn wreiddiol, pont godi o’r castell oedd yr unig ffordd i fynd i’r tŵr. Yn yr ail gyfnod, ychwanegodd Syr William Herbert, Iarll cyntaf Penfro, ystafelloedd moethus. Yn olaf, cafodd y castell ei droi’n blasty gan Ieirll Caerwrangon yn y 16eg ganrif. Y Porthdy Mawr, Rhaglan. Codwyd y porthdy rhwng 1460 a 1469 ac fe'i cynlluniwyd i wneud argraff ar ymwelwyr ac i'w dychryn drwy gynnwys rhesi o gloerdyllau, tyllau arllwys, porthcwlisau a drysau. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Pwy adeiladodd Castell Rhaglan? Mae rhywfaint o ddadlau ynghylch pwy adeiladodd ran gyntaf y castell. Fe’i codwyd naill ai gan William Herbert, Iarll cyntaf Penfro, neu ei dad, William ap Thomas, a brynodd Rhaglan ym 1432. Roedd William Herbert yn ŵr allweddol yng ngwleidyddiaeth diwedd y 15fed ganrif. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau rhoddodd ei gefnogaeth i Edward IV. Yn wobr am ei deyrngarwch cafodd deitl Iarll Penfro a digon o adnoddau ariannol i droi Rhaglan yn gaer-blasty. Byrhoedlog, fodd bynnag, oedd llwyddiant yr Iarll. Ym 1469 cafodd ei gipio gan gefnogwyr y Lancastriaid ym Mrwydr Edgecote a chafodd ei ladd. Cadwodd teulu Herbert eu rheolaeth ar Gastell Rhaglan tan 1492, pan gafodd ei drosglwyddo i deulu Somerset. William Somerset, trydydd Iarll Caerwrangon (1526–1589), oedd yr aelod cyntaf o’i deulu i newid adeiladau’r castell yn sylweddol. Adluniad o Gastell Rhaglan, tua 1620, yn dangos y gerddi ffurfiol yn ystod dyddiau gorau'r castell. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Canolbwyntiodd yr Iarll William ar wella ansawdd y neuadd a’r ceginau er mwyn bodloni disgwyliadau cymdeithasol ei gyfnod. Yn ogystal, sefydlodd y gerddi, oedd yn cynnwys cyfres o derasau, llyn artiffisial, ffownten, gwelyau blodau a gerddi perlysiau. Adluniad o fywyd yng Nghastell Rhaglan yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn ystod cyfnod Trydydd Iarll Caerwrangon. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Beth ddigwyddodd i Gastell Rhaglan? Erbyn canol y 17eg ganrif, roedd Rhaglan ym mlodau ei ddyddiau. Cyrhaeddodd lefel o soffistigedigrwydd ac ysblander tebyg i blastai gorau’r wlad. Fodd bynnag, daeth Rhyfel Cartref Lloegr i darfu ar bopeth. Ym 1642, cyhoeddodd pumed Iarll Caerwrangon ei gefnogaeth i achos y Brenhinwyr, gan gynnig cymorth ariannol sylweddol i’r Brenin Siarl I. O ganlyniad, roedd Rhaglan yn darged i luoedd y Seneddwyr, a roddodd y castell dan warchae ym Mehefin 1646. Llwyddodd ei amddiffynwyr i ddal eu gafael arno yn ystod yr haf ond erbyn canol Awst roedd y Seneddwyr o fewn 60 llath i’r castell. Ildiodd ei amddiffynwyr ar 19 Awst. Ar ôl cael ei gipio, cafodd y castell ei ddifrodi’n fwriadol er mwyn sicrhau na ellid ei amddiffyn eto. Dyma pryd y cafodd y twll anferth ei greu yn y Tŵr Mawr. Gadawyd Castell Rhaglan yn wag a dirywiodd; yna, daeth yn ffynhonnell gyfleus ar gyfer cerrig adeiladu ac yn atyniad pictiwrésg i dwristiaid. Bellach, diolch i waith Cadw a’i ragflaenwyr, mae’r adeilad yn cael ei warchod. Pwy sydd biau Castell Rhaglan? Mae Castell Rhaglan yn dal yn eiddo i deulu Somerset, a ddaeth yn Ddugiaid Beaufort ym 1682. Ym 1938 cafodd ei roi yng ngofal y Weinyddiaeth Waith, ac erbyn hyn mae yn nwylo Cadw. Pa ffilmiau sydd wedi defnyddio Castell Rhaglan? Ymddangosodd Castell Rhaglan yn ffilm Terry Gilliam, Time Bandits (1981), lle cafodd ei ffilmio fel castell Eidalaidd dan warchae yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Darllen cefndir Raglan Castle gan J. R. Kenyon. Cyhoeddwyd gan Cadw (2003). Teils llawr addurnedig Castell Rhaglan Rhestriad Cadw Rhestriad Coflein (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) Addaswyd y llun ar y blaen o Castell Rhaglan gan Steve Slater, CC BY 2.0
Caerdydd a’i fathdy yn Oes y Normaniaid. Edward Besly & Peter Webster, 5 Hydref 2018 Arian o gyfnod Gwilym Goch - blaen Arian o gyfnod Gwilym Goch - cefn Mae Amgueddfa Cymru newydd gaffael darn prin o hanes cynnar Caerdydd: ceiniog arian o gyfnod y brenin Normanaidd Gwilym II (1087-1100) a wnaed ym mathdy’r castell yn nechrau’r 1090au. Darn arian sydd newydd ei gaffael o gyfnod Gwilym Goch Mab Gwilym Goncwerwr (neu ‘y Bastard’) oedd Gwilym II ac roedd yn cael ei alw’n 'Gwilym Goch’ neu ‘Rufus’, efallai am fod ganddo wallt coch. Yn ystod ei deyrnasiad ef y dechreuodd y Normaniaid gynnal cyrchoedd i’r rhan hon o Gymru o dan Robert FitzHamon, barwn Normanaidd a oresgynnodd yr ardal a dod yn arglwydd cyntaf Morgannwg. Daeth y Normaniaid â’r arferiad o ddefnyddio darnau arian gyda nhw ac ymddengys bod bathdy wedi’i agor yn y castell yn fuan ar ôl ei sefydlu yn 1081. Fodd bynnag, nid oedd yr un darn arian a dadogwyd yn bendant i fathdy Caerdydd yng nghyfnod Gwilym Goch wedi’i gofnodi cyn i hwn ymddangos yn 2017, mewn casgliad preifat oedd yn cael ei werthu ar ocsiwn. Cyn goresgyniad y Normaniaid, roedd darnau arian bath yn cael eu defnyddio’n rheolaidd yn Lloegr yng nghyfnod yr Eingl-Sacsoniaid. Roedd ganddynt rwydwaith o fathdai a chyflenwad canolog o ddeiau i wneud yr arian ond doedd dim traddodiad o fathu arian yng Nghymru. Tref ffiniol oedd Caerdydd yn nyddiau cynnar y Normaniaid ac felly roedd rhaid i’w bathdy ymorol amdano’i hunan: ymddengys bod dei tu blaen (‘pen’) y darnau arian wedi’i fenthyca o rywle arall a delw’r brenin wedi’i ailysgythru, gan wneud iddo edrych braidd yn ddigri. Roedd dei y cefn (‘cynffon’) wedi’i wneud yn lleol ac mae arwyddnod y bathdy, ‘CAIRDI’ [CIVRDI neu CIIIRDI], wedi’i ysgythru’n glir ond yn amrwd arno ond ni allwn ddarllen enw’r bathwr yn iawn, ‘IÐHINI’ (Ð = ‘TH’) – efallai mai Æthelwine oedd ei enw (diddorol nodi mai enw Sacsonaidd yn hytrach nag un Normanaidd yw hwnnw). Roedd dyluniad yr arian bath yn cael ei newid bob ychydig flynyddoedd – ac roedd y brenin yn cael cyfran bob tro y cyhoeddwyd darnau arian newydd. Erbyn hyn, gwyddom am bedwar gwahanol gyhoeddiad o ddarnau arian o fathdy Caerdydd ag enw ‘William’ arnynt (gallai fod yn Gwilym Goncwerwr neu ei fab, Gwilym Goch) a phedwar cyhoeddiad arall yn enw Harri I (1100-35) ond maent i gyd yn eithriadol o brin. Yn rhyfel cartref teyrnasiad y Brenin Steffan (1135-54), syrthiodd Caerdydd i ddwylo plaid ei elyn yr Ymerodres Matilda, plaid yr Angefiniaid. Yn 1980, canfuwyd celc o dros 100 o ddarnau arian yng Nghoed y Wenallt, uwchlaw Caerdydd, y rhan fwyaf yn perthyn i gyhoeddiadau na wyddem amdanynt o’r blaen o gyfnod Matilda. Trawsnewidiwyd ein gwybodaeth am y cyfnod gan y canfyddiad hwn. Roedd yn cynnwys cyhoeddiadau barwnaidd o Gaerdydd ac Abertawe a dyma'r dystiolaeth gynharaf sydd gennym am yr enw 'Swansea'. Ar ôl hynny, fodd bynnag, nid oes sôn am fathdy Caerdydd. Mae ein darn arian newydd o gyfnod Gwilym Goch yn ddarn arall o’r jig-so am hanes cynnar Caerdydd a’r cylch. Mae llawer o ddarnau eraill o’r jig-so yn dal ar goll, a phwy a ŵyr beth sy’n dal heb ei ddarganfod? Bu Gwilym Goch farw ar 2 Awst 1100 pan drawyd ef â saeth wrth iddo hela yn y New Forest: damwain anffodus ynteu lofruddiaeth tybed? Edward Besly, Nwmismatydd (Curadur Darnau Arian a Medalau), Amgueddfa Cymru. Y castell Normanaidd fel y tybia CBHC yr oedd yn edrych. Credir na chodwyd y gorthwr cerrig tan ar ôl teyrnasiad Gwilym Goch ac mai o bren y byddai wedi’i godi’n wreiddiol. Mwnt a dyfrffos o’i gwmpas Man lle tybir yr oedd y wal rhwng y wardiau Mur Rhufeinig wedi’i ailddefnyddio, heb y tyrau oedd yn taflu allan mae’n fwy na thebyg Clawdd pridd a ffos y tu allan iddo Trychiad cynllunio trwy amddiffynfeydd pridd y castell cyn tynnu rhan allanol y clawdd canoloesol oddi yno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r 20fed ganrif ac ail-greu mur y gaer Rufeinig. Olion mur y gaer Rufeinig Clawdd Rhufeinig Clawdd Normanaidd Mur y castell o’r cyfnod canoloesol diweddarach Mur Normanaidd y castell wedi’i ail-greu rhwng Porth y De a Thŵr y Cloc Mur gorllewinol y castell. Yn y bôn, wal y castell Normanaidd yw’r darn rhwng y tyrau. Y mwnt Normanaidd enfawr, gyda gorthwr gwag o gerrig a godwyd yn ddiweddarach yn y canoloesoedd. Y clawdd Canoloesol sy’n dal y tu mewn i’r muriau dwyreiniol. Olion adeilad o’r canoloesoedd hwyr sydd i’w weld yn y glaswellt ym mlaen y llun. Y wal gerrig a’r porth o’r ward allanol i’r ward fewnol, gan edrych o’r Gorthwr tua Phorth y De. Mae’n fwy na thebyg bod y wal hon yn rhan o amddiffynfeydd y castell Normanaidd. Y map a greodd Speed o Gaerdydd yn 1610. Dyfodiad y Normaniaid Ffrwyth datblygu mawr yn Oes Fictoria yw’r Gaerdydd a welwn heddiw i raddau helaeth ond mae ardal reit yng nghanol y ddinas lle bu caer Rufeinig ac a oresgynnwyd wedyn gan y Normaniaid. Ychydig o dystiolaeth, os o gwbl, sydd bod pobl yn byw yng Nghaerdydd rhwng diwedd y cyfnod Rhufeinig a dyfodiad y Normaniaid i Gymru yn y 1080au, ond efallai bod pobl yn byw am gyfnod yn y man lle’r oedd y ffordd Rufeinig o Gaerllion i Gaerfyrddin yn croesi afon Taf. Pan gyrhaeddodd y Normaniaid, dyma'r man lle penderfynwyd sefydlu canolfan filwrol a gweinyddol eu harglwyddiaeth newydd, Morgannwg, gan ailddefnyddio olion yr hen gaer Rufeinig i godi mur a sefydlu tref fechan wrth borth y de. Ail-greu’r castell Normanaidd Y castell oedd canolbwynt Caerdydd yn y cyfnod Normanaidd ond mae adeilad presennol y castell yn wahanol iawn i’r un gwreiddiol. Er mwyn cyrraedd at y castell Normanaidd, mae’n rhaid i ni dynnu’r addasiadau a wnaed gan ardalyddion Bute yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r 20fed ganrif, a oedd yn cynnwys adfer rhannau o furiau’r hen gaer Rufeinig. Cododd y Normaniaid glawdd enfawr o bridd dros olion muriau’r gaer Rufeinig, o fan ger cornel ogledd-orllewinol y castell ac o gwmpas i’r ochrau sy’n wynebu Ffordd y Brenin a Heol y Dug erbyn hyn. Atgyweiriwyd muriau eraill y gaer Rufeinig (o fan ger porth presennol y de ac o gwmpas i’r ochr sy’n wynebu Parc Bute erbyn hyn) ond, yn rhyfedd ddigon, ymddengys bod y tyrau oedd yn taflu allan ac yn rhan o’r amddiffynfeydd Rhufeinig wedi’u tynnu – i gael deunyddiau i wneud y gwaith atgyweirio efallai. Mae’r mur Normanaidd hwn i’w weld o hyd, er bod cryn dipyn o waith adfer wedi’i wneud arno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhwng porth y de a Thŵr y Cloc ac i'r gogledd o adeiladau pen gorllewinol y castell. Daeth y deunydd ar gyfer y cloddiau ar yr ochr ogleddol, yr ochr ddwyreiniol a rhan o’r ochr ddeheuol o ffos enfawr a gloddiwyd o gwmpas y darn amgaeedig i gyd. Cafodd y ffos hon ei llenwi ar Ffordd y Brenin a Heol y Castell/Stryd y Dug ac mae’n gorwedd o dan y ddyfrffos orllewinol bresennol a'r lledgamlas ogleddol. Cewch gipolwg ar y ffos hon yn achlysurol pan agorir ffosydd gwasanaeth o gwmpas y castell ond cawn syniad cliriach o’i maint o dystiolaeth John Ward, curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerdydd rhwng 1893 ac 1912. Gwelodd Ward y toiledau tanddaear yn cael eu cloddio yn Ffordd y Brenin ac, eu eu bod o dan y ddaear yn llwyr, dywedodd nad oeddent yn cyrraedd gwaelod y ffos. Yn niagram cynllunio Ward o glawdd pridd y castell, gwelir canlyniad yr holl waith cloddio ffosydd – y clawdd sylweddol sy’n dal y tu mewn i furiau’r castell (i’r chwith yn y diagram) a’r un fath ar y tu allan. Y tu mewn i’r amddiffynfeydd allanol, cododd y Normaniaid fwnt enfawr – tomen tebyg i fasn pwdin a’i ben i lawr, a dyfrffos fawr o’i gwmpas. Mae hwn i’w weld o hyd, er bod Capability Brown wedi gwneud peth gwaith tirlunio ar y mwnt tua diwedd y 18fed ganrif a bod y ddyfrffos (a lanwyd gan Brown) wedi’i hailgloddio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac efallai ei bod ar ffurf fwy rheolaidd nag y bu. Gallwn dybio bod rhyw fath o adeiladwaith ar ben y mwnt, tŵr a phalisâd pren mae’n debyg, a bod y 'gorthwr gwag’ presennol o gerrig wedi cymryd eu lle yn yr 1240au. Credir bod gweddill tu mewn y castell wedi’i rannu fel y gwelir yn awr â rhyw fath o wal rhwng y gorthwr a phorth y de. Mae’n debygol, ond nid yn bendant, mai wal gerrig oedd yno. Gallwn ddisgwyl bod adeiladau (o bren mae’n fwy na thebyg) yn y ddwy ‘ward’ a gafodd eu creu felly ond, hyd yma, ni ddaethpwyd ar draws adeiladweithiau pendant yn yr ardal fechan a gloddiwyd. Y dref Normanaidd I’r de o’r castell oedd tref fechan Caerdydd. Y map a grewyd yn 1610 gan John Speed yw’r olygfa glasurol o’r dref ganoloesol. Mae’n dangos darn o dir a mur o’i amgylch yn ymestyn i’r de o fan ychydig i’r dwyrain o gornel de-ddwyreiniol y castell i waelod lle mae Heol Eglwys Fair yn awr. Fodd bynnag, map o’r dref yn y cyfnod canoloesol diweddar yw hwn. Mae’n debygol bod y drefn Normanaidd gyntaf yn llai, a’i ffiniau’n ymestyn i lle mae Stryd Womanby, Stryd y Cei, Stryd yr Eglwys a Heol Sant Ioan (yr hanner cylch o strydoedd ym mhen gogleddol y dref fel y’i gwelir ar fap Speed). Gellir gweld y patrwm hwn o hyd yn strydoedd Caerdydd ac mae cyffordd Heol Fawr a Heol Eglwys Fair, a chyffordd Heol Sant Ioan a Working Street i’w gweld ar y man lle credir roedd y terfyn cynnar. Trafodir hyn a llawer o hanes dogfennol Caerdydd yn oesau’r Normaniaid a’r Angefiniaid gan David Crouch (2006). Ni wireddwyd gobaith Crouch y bydd archaeoleg yn ychwanegu at y darlun hwn hyd yma. Ni ddaethpwyd o hyd i adeiladweithiau mor hen wrth gloddio yn y man lle’r awgrymir roedd y dref gyntaf (yn Stryd Womanby a Stryd y Castell) ond mae’r gwaith yn cadarnhau bod pobl yn byw yno yn oes y Normaniaid. Yn wir, wrth i drigolion Caerdydd yn Oes Fictoria fynd ati i gloddio selerydd, collwyd llawer o dystiolaeth bosibl, gwaetha’r modd. Peter Webster, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd, Amgueddfa Cymru (cyn-ddarlithydd, Prifysgol Caerdydd) Darllen Pellach Castell Caerdydd Ceir ymdriniaeth helaeth o’r castell canoloesol yn CBHC, An inventory of the ancient monuments in Glamorgan, Vol. III, Part 1a, Medieval Secular Monuments, the early castles from the Norman conquest to 1217, Llundain 1991, 162-211, sydd, er gwaetha’i deitl, yn adrodd stori’r castell hyd at yr 20fed ganrif. Rhoddir rhagor o gefndir i waith adfer Ardalyddion Bute gan J. P. Grant, pensaer i’r 4ydd Ardalydd (Cardiff Castle, its history and architecture, Caerdydd 1923). Y Dref Gan David Crouch y mae’r drafodaeth orau ar Gaerdydd yr oes Normanaidd. ‘Cardiff before 1300’ tt.34-41 yn J.R.Kenyon, D.M.Williams (Goln), Caerdydd. Architecture and Archaeology in the Medieval Diocese of Llandaff, Trafodion Cynhadledd Cymdeithas Archaeolegol Prydain 29, Llundain 2006. Mae hwn yn cynnwys cyfeiriadau at waith cynharach gan W.Rees (1962) a D.Walker (1978).
Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
The Great War: Britain’s Efforts and Ideals 2 Awst 2014 Y project print mwyaf uchelgeisiol y Rhyfel Byd Cyntaf.Cyfres lawn o brintiau The Great War: Britain’s Efforts and Ideals a gyflwynir yn yr arddangosfa hon. Cynhyrchwyd chwe deg chwech o brintiau fel propaganda artistig gan lywodraeth Prydain ym 1917, er mwyn ysbrydoli’r cyhoedd oedd wedi cael digon ar ryfela ac ailgynnau fflam yr ymdrech.Cyfrannodd deunaw artist eu gwaith, gyda rhai o enwau mwyaf blaenllaw’r cyfnod – yn eu plith Augustus John, George Clausen a Frank Brangwyn.Fel comisiwn gan y llywodraeth, ni chafodd y cyfranwyr ryddid artistig llwyr. Cafodd pob artist ei bwnc penodol ei hun, ac roedd yn rhaid i bob delwedd fodloni’r sensoriaid.Mae’r printiau wedi’u rhannu’n ddau bortffolio, ‘Delfrydau’ ac ‘Ymdrechion’. Cyfleu’r rhesymau dros frwydro, a gobeithion Prydain am y rhyfel oedd diben ‘Delfrydau’. Mae’n llawn delweddau dramatig a symbolaidd, fel Rhyddid y Moroedd a Buddugoliaeth Democratiaeth. Darlunio gwaith caled y bobl mae’r ail bortffolio, yr ‘Ymdrechion’ fyddai’n helpu Prydain i wireddu ei ‘Delfrydau’. Mae’r portffolio ‘Ymdrechion’ wedi’i rannu’n naw adran, pob un yn portreadu gweithgaredd neu thema wahanol.Cynhyrchu ac ArddangosComisiynwyd y printiau gan Wellington House, adran o’r llywodraeth a sefydlwyd yn gyfrinachol i gynhyrchu propaganda. Rheolwr y prosiect oedd yr artist Thomas Derrick (1885-1954), a chyfarwyddwyd y broses argraffu gan yr artist a’r cyfrannwr F. Ernest Jackson (1872-1945). Avenue Press, Llundain, argraffodd y cyfan.Talwyd yr artistiaid yn hael, gyda phob un yn derbyn £210 (tua £10,000 heddiw) a phosibilrwydd o freindaliadau ychwanegol o’r gwerthiant. Printiau cyfyngedig o ddau gant oedden nhw. Gwerthwyd y printiau ‘Ymdrechion’ am £2 2s 0d (£100) yr un, a phrintiau ‘Delfrydau’ am £10 10s 0d (£500).Fel comisiwn gan y llywodraeth, ni chafodd y cyfranwyr ryddid artistig llwyr. Cafodd pob artist ei bwnc penodol ei hun, ac roedd yn rhaid i bob delwedd fodloni’r sensoriaid.Cynhaliwyd yr arddangosfa gyntaf gan y Gymdeithas Celfyddyd Gain, Llundain, ym mis Gorffennaf 1917, cyn crwydro orielau celf rhanbarthol ledled Prydain. Aeth ar daith i Ffrainc ac America hefyd, lle cafodd y rhan fwyaf o’r portffolios eu harddangos a’u gwerthu.Ymateb y Cyfnod i’r Printiau“The very soul of the war is to be read in the set of sixty-six brilliant lithographs.”(The Illustrated London News, 1917)Comisiynwyd y printiau hyn fel propaganda, gyda’r nod penodol o godi ysbryd y werin a dylanwadau ar farn y cyhoedd ynglŷn â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ym Mhrydain a thu hwnt. Ym 1917, wedi tair blynedd o frwydro ffyrnig a cholledion enbyd, roedd angen ffordd newydd ar y llywodraeth o gynnal cefnogaeth y cyhoedd i’r rhyfel. Cynlluniwyd y printiau i atgoffa pobl o nod ac amcan y brwydro, ac er mwyn pwysleisio pwysigrwydd dyletswydd gwladgarol.Mae’n anodd gwybod pa mor llwyddiannus oedd y printiau fel arf propaganda. Cawsant eu cyhoeddi’n eang wedi’r arddangosfa gyntaf ym 1917. Roedd rhai newyddiadurwyr yn cefnogi’r achos, “To see these lithographs is a patriotic as well as an artistic duty” (Burton Daily Mail, 15 Chwefror 1918. Ond doedd ymateb pawb ddim mor bositif; “their efforts are in almost every instance sincere; yet the result is, on the whole, meagre and unsatisfying.” (The Daily Telegraph, 20 Gorffennaf 1917). Roedd yr ymateb cychwynnol yn America yn gadarnhaol ‘they have been a revelation to American Fifth Avenue art patrons, dealer, critics…They put up British prestige’. Llai na’r disgwyl, fodd bynnag, fu gwerthiant y printiau yno a gwnaeth y prosiect golled yn gyffredinol.Lithograffi a Chlwb Senefelder‘The most brilliant of the younger men are all now making remarkable lithographs…there is a genuine renaissance of the art’ (Joseph Pennell, 1914)Techneg brintio sy’n seiliedig ar yr egwyddor nad yw olew a dŵr yn cymysgu yw lithograffi. Bydd yr artist yn defnyddio defnydd seimllyd i dynnu llun ar arwyneb llyfn – calchfaen fel arfer. Caiff inc ei rolio dros yr wyneb, fydd yn glynu at y darlun a ond nid at y rhannau llaith di-lun. Gosodir papur ar ben y garreg a’i roi drwy’r wasg. Gellir creu effeithiau gwahanol trwy ddefnyddio deunyddiau seimllyd amrywiol i ddarlunio, gan efelychu darlun sialc, pensil neu lun dyfrlliw. Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o’r printiau hyn yn y dull ‘trosglwyddo’, gyda darlun ar bapur arbennig yn cael ei drosglwyddo i garreg, yn hytrach na gweithio arni’n uniongyrchol. Gyda lithograff lliw, bydd yr artist yn cychwyn gyda chynllun un lliw ar faen clo. I ychwanegu lliwiau eraill, rhaid defnyddio carreg wahanol ag arni’r inc newydd, ac argraffu un ar ben y llall.Roedd llawer o’r artistiaid hyn yn aelodau o glwb Senefelder, clwb bychan a sefydlwyd ym 1908 er mwyn annog ac adfywio lithograffi fel cyfrwng artistig. Enwyd y clwb ar ôl yr Almaenwr a ddyfeisiodd y broses yn y ddeunawfed ganrif. Cynhyrchwyd y portffolio hwn mewn cyfnod pan oedd chwa newydd o ddiddordeb ym mhotensial artistig lithograffi. Ideals Rhyddid y Moroedd - Frank Brangwyn Teyrnasiad Cyfiawnder - Edmund J. Sullivan Aileni’r Celfyddydau - Charles Shannon Buddugoliaeth Democratiaeth - William Rothenstein Italia Redenta - Charles Ricketts Diwedd Rhyfel - Sir William Nicholson Adfer Serbia - Gerald Moira Safiad Unedig Rhag Ymosodiad (Lloegr a Ffrainc – 1914) - F. Ernest Jackson Adfer Alsace-Lorraine i Ffrainc - Maurice Greiffenhagen Gwlad Pwyl, Cenedl - Edmund Dulac Ail-greu Gwlad Belg - George Clausen Y Wawr - Augustus John “To lose sight of Britain's ultimate ideals of freedom and democratic justice is to reduce the present war to nothing less than a carnival of carnage” (Burton Daily Mail, Feb 15, 1918)Aeth deuddeg artist ati i greu lithograff lliw llawn ar gyfer yr adran hon. Roedd rhai, gan gynnwys Brangwyn ac F. Ernest Jackson yn feistri ar y grefft tra bod eraill, fel Clausen a Grieffenhagen, yn defnyddio’r dechneg am y tro cyntaf.Trwy gyfrwng alegorïau a symbolaeth, mae portffolio Delfrydau yn cyfleu nod ac amcan y rhyfel. Yn draddodiadol, mae alegori wedi bod yn dechneg gyffredin yn y byd celf gyda ffigyrau chwedlonol neu hanesyddol yn cyfleu syniadau a chysyniadau ehangach. Mae ffigyrau a ffurfiau yn cynrychioli gwledydd a chysyniadau a theitl pob darn yn cyfeirio at neges ac ystyr y gwaith. Er nad oedd portreadau alegorïaidd yn ffasiynol yn y byd celf pan gynhyrchwyd y printiau yma, defnyddiwyd y dechneg fel arf propaganda i bwysleisio pwysigrwydd yr amcanion. Drwy wneud cysylltiadau mawreddog, nod y printiau oedd cyfiawnhau dulliau a gwirioneddau rhyfel i bobl gyffredin.Er i lawer ganmol y project, roedd eraill yn beirniadu ‘Delfrydau’ am ei bortread rhamantaidd o’r rhyfel. Making Soldiers Arwain Carcharorion - Eric Kennington Dros yr Ymyl - Eric Kennington I’r Ffosydd - Eric Kennington Barod i Wasanaethu - Eric Kennington Y Mwgwd Nwy - Eric Kennington Ymarfer Bidogau - Eric Kennington Darluniau ‘sy’n cyfleu ysbryd ein byddin newydd ifanc’ – dyna ddisgrifiad un newyddiadurwr o’r printiau hyn, sy’n dangos milwyr yn hyfforddi ac ar faes y gad. Mae’n debyg y dewiswyd Kennington i fynd i’r afael â’r pwnc hwn gan ei fod yntau wedi listio gyda 13eg Bataliwn (Kensington) Catrawd Llundain ac wedi ymladd ar Ffrynt y Gorllewin, Ffrainc, rhwng 1914 a 1915. Cafodd ei glwyfo a’i ryddhau am resymau meddygol ym 1915. Fel y rhan fwyaf o waith celf yn ystod cyfnod y rhyfel, nid portreadu’r gyflafan a’r drasiedi fawr oedd y nod. Yn hytrach, mae Kennington yn clodfori’r milwr cyffredin.Ganed Kennington yn Chelsea, Llundain, yn fab i arlunydd portreadau amlwg. Astudiodd yn Ysgol Gelf Sant Paul, Ysgol Gelf Lambeth ac Ysgol City and Guilds. Cafodd ei benodi’n artist rhyfel swyddogol rhwng 1917 a 1919 a rhwng 1940 a 1943, lle bu’n portreadu morwyr ac awyrenwyr. Making Sailors Uchelgais yr Ifanc - Frank Brangwyn Y Gwn - Frank Brangwyn Y Gwyliwr - Frank Brangwyn Mynd Dramor - Frank Brangwyn Ymarfer ar Long - Frank Brangwyn Duff - Frank Brangwyn Mae lluniau Brangwyn yn adlewyrchu ei ddiddordeb yn y môr. Yn llawer o’i brintiau, mae wedi manteisio ar nodweddon lithograffi er mwyn creu printiau tebyg i frasluniau a darluniau. Cafodd Brangwyn ei ysgwyd i’r byw gan ddifodiant a dinistr rhyfel, yn enwedig yn Fflandrys, lle cafodd ei eni. Er na chafodd erioed ei benodi’n artist rhyfel swyddogol, cynhyrchodd lu o lithograffau ar gyfer achosion da.Ganwyd Brangwyn yn Brugge, Fflandrys. Roedd ei dad o dras Eingl-Gymreig a’i fam yn hanu o Aberhonddu. Dychwelodd y teulu i fyw ym Mhrydain, ac erbyn iddo droi’n bymtheg, roedd Brangwyn yn astudio dan adain William Morris, y cynllunydd a’r sosialydd. Wrth iddo ennill ei blwyf fel paentiwr, ysgythrwr a lithograffydd, dechreuodd Brangwyn grwydro’r byd. Roedd eisoes yn adnabyddus dramor pan dderbyniodd y comisiwn hwn, ac yn aelod o Glwb Senefelder a hyrwyddai lithograffi fel cyfrwng. Making Guns Codi a Thiwb Mewnol - George Clausen Y Craen Rheiddiol - George Clausen Turnio Gwn Mawr - George Clausen Y Morthwyl Mawr - George Clausen Y Ffwrnais - George Clausen Lle Gwneir y Gynnau - George Clausen Bu Clausen yn ymchwilio ar gyfer y printiau hyn yn Ffatri Ynnau Frenhinol Woolwich Arsenal, Llundain a oedd yn cynhyrchu arfau, bwledi a ffrwydron ar gyfer lluoedd arfog Prydain. Ar ei anterth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y ffatri’n cyflogi tua 80,000 o bobl ac yn ymestyn dros 1,300 o erwau. Penodwyd Clausen yn artist rhyfel swyddogol ym 1917 ac oherwydd ei oed, bu’n cofnodi gweithgareddau gartref yn hytrach nag ymweld â maes y gad.Ganwyd Clausen yn Llundain yn fab i George Clausen Senior, paentiwr o fri o dras Danaidd. Aeth i’r Coleg Celf Brenhinol ac ysgolion celf South Kensington, yna’r Académie Julian ym Mharis. Ef oedd un o sylfaenwyr y New English Art Club a chafodd ei ethol yn Athro Arlunio'r Academi Frenhinol ym 1904. Fe’i urddwyd yn farchog ym 1927. Building Ships Barod i forio - Muirhead Bone Basn arfogi llong - Muirhead Bone Gweithdy - Muirhead Bone Iard longau o graen mawr - Muirhead Bone Ar y blociau - Muirhead Bone Iard Longau - Muirhead Bone Muirhead Bone oedd yr artist rhyfel swyddogol cyntaf. Roedd yn enwog am greu darluniau â manylder ffotograffig ac ymhlith darlunwyr amlycaf Prydain. Yn ogystal â chofnodi’r rhyfel ar y Ffrynt, treuliodd Bone gyfnod ar lannau’r Clyde yn yr Alban, yn cofnodi bwrlwm y diwydiant adeiladu llongau yno. Byddai’n clymu llyfr nodiadau i’w law er mwyn braslunio. Mae’r printiau yn dangos camau gwahanol y broses adeiladu, yn ogystal â golygfeydd o’r iard, un ohonynt o ben craen. Dywedodd un gohebydd fod ei gyfres, ‘delights in the intricacies of scaffolding and mechanical contrivances’. Ymddangosodd y lluniau hyn yng nghyhoeddiad y Swyddfa Ryfel hefyd, The Western Front, cyfrol II, 1917.Brodor o Glasgow oedd Bone, ac astudiodd yn ysgol gelf y ddinas honno. Ymgartrefodd yn Llundain ym 1901. Bu’n artist rhyfel swyddogol rhwng 1916 a 1918, ac yn artist swyddogol y Morlys rhwng 1939 a 1946. Fe’i urddwyd yn farchog ym 1937. Building Aircraft Plymio ar awyren Taube - Christopher Richard Wynne Nevinson Gogwyddo ar uchder o 4,000 o droedfeddi - Christopher Richard Wynne Nevinson Yn yr awyr - Christopher Richard Wynne Nevinson Weldiwr Asetylen - Christopher Richard Wynne Nevinson Cydosod darnau - Christopher Richard Wynne Nevinson Creu’r Injan - Christopher Richard Wynne Nevinson Dyma printiau Nevinson yn ennyn cryn edmygedd pan gawsant eu harddangos am y tro cyntaf. Yn ôl un beirniad, ‘he contrives to make the visitor almost giddy’, a dywedodd un arall bod ganddo rym arbennig, ‘the power of expressing sensations rather than visual facts’.Astudiodd Nevinson lithograffi ym 1912 dan law Ernest Jackson. Ar ddechrau’r rhyfel, aeth ati i wirfoddoli fel gyrrwr ambiwlans, profiad a gafodd effaith ddirdynnol arno. Fe’i penodwyd yn artist rhyfel swyddogol ym 1917. Mae’r printiau hyn yn dilyn y broses o adeiladu awyren, o greu a chydosod y darnau i’r hedfan yn y pen draw, ac yn Weldiwr Asetylen a Cydosod darnau gwelwn gyfraniad cynyddol menywod i’r diwydiant.Ganed Nevinson yn Llundain, yn fab i’r newyddiadurwr a’r gohebydd rhyfel Henry Nevinson. Astudiodd yn Ysgol Gelf Slade ac ym Mharis. Caiff ei ystyried yn un o artistiaid rhyfel enwoca’r cyfnod. Er cymaint oedd dylanwad mudiadau avant-garde celfyddyd Ewrop megis Ciwbiaeth a Dyfodoliaeth arno, mabwysiadodd arddull mwyfwy realistig wrth iddo geisio cyfleu’r gwrthdaro. Work on the Land Dyrnu - William Rothenstein Llusgo coed - William Rothenstein Plannu tatws - William Rothenstein Llosgi marchwellt - William Rothenstein Drilio - William Rothenstein Aredig - William Rothenstein Ar 15 Mai 1917, ysgrifennodd Rothenstein at Ernest Jackson, ‘I hope to have the 5th drawing finished early this week and the last next week. I will then come up to town and do what is needful to the stones’. Nid oedd yn hapus gyda rhai o’i weithiau cynnar, gan ddweud fod y llinellau’n ymddangos yn fain a phur symol. Penderfynodd argraffu rhai mewn lliw browngoch yn hytrach na du. Mae’r gweithiau hyn yn syml a chynnil, ac yn wrthgyferbyniad i holl ddwndwr a moderniaeth rhyfel a welir yn llawer o brintiau eraill y gyfres. Mae’r printiau hyn yn dwyn i gof ddelweddau o lafurwyr gwledig a oedd yn gyffredin iawn mewn tirluniau ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mwy na thebyg iddynt gael eu darlunio yn ardal Stroud, Swydd Gaerloyw, lle’r oedd Rothenstein yn byw.Ganed Rothenstein yn Bradford i deulu Almaenig-Iddewig. Dysgodd ei grefft yn Ysgol Gelf Slade, Llundain a’r Académie Julian, Paris. Yn ogystal â chael ei benodi’n artist rhyfel swyddogol Byddin Prydain ym 1917-1918, bu’n artist i fyddin Canada ym 1919. Ef oedd Pennaeth y Coleg Celf Brenhinol rhwng 1920 a 1935, ac fe’i urddwyd yn farchog ym 1931. Tending the Wounded Ysbyty Glirio yn Ffrainc - Claude Shepperson Ymadfer yn Lloegr - Claude Shepperson Mewn Ysbyty yn Lloegr - Claude Shepperson Gadael y trên yn Lloegr - Claude Shepperson Ar Fwrdd Llong Ysbyty - Claude Shepperson Blaen-orsaf Trin Clwyfau yn Ffrainc - Claude Shepperson Mae’r printiau hyn yn dilyn taith milwr clwyfedig o’r Ffrynt, trwy’i driniaeth a’i adferiad nôl adref. Yn wreiddiol, roedd y trefnwyr wedi gofyn i’r artist a’r cyn-lawfeddyg Henry Tonks (1867-1937), ymateb i waith y gwasanaethau meddygol. Fodd bynnag, teimlai Tonks nad oedd y papur a ddarparwyd yn addas ar gyfer darlunio, a gwrthododd y cynnig. Comisiynwyd Shepperson i fynd i’r afael â’r pwnc wedyn, ac aeth ati i gynhyrchu cyfres a gafodd dderbyniad gwresog iawn.Ganwyd Shepperson yn Beckenham, Caint, ac roedd yn artist amlgyfrwng llwyddiannus yn gweithio mewn dyfrlliw a phen ac inc, darluniau a lithograffau. Wedi rhoi’r gorau i astudio’r gyfraith, dilynodd gyrsiau celf yn Llundain a Pharis. Mae’n enwog am y darluniau doniol a gyfrannodd i gylchgrawn Punch rhwng 1905 a 1920. Women's work Gydag Arfau: Gwaith medrus - A. S. Hartrick Ffatri Arfau: Gwaith Trwm (Drilio castin) - A. S. Hartrick Gydag Arfau: gwaith peryglus (pacio T.N.T) - A. S. Hartrick Ar y Lein: Glanhawyr injans a cherbydau - A. S. Hartrick Yn y Trefi: Tocynwraig bysiau - A. S. Hartrick Ar y Tir: Aredig - A. S. Hartrick Mae’r printiau hyn yn cofnodi cyfraniad allweddol menywod i’r ymdrech ryfel. Pan alwyd ar ragor o ddynion i ymuno â’r brwydro ym 1915, roedd gofyn i fenywod ysgwyddo’r baich. Cododd lefelau cynhyrchu yn y ffatrïoedd a’r ffermydd wrth i fenywod wneud gwaith fyddai’n draddodiadol yn waith y dyn. Er bod cryn dipyn ohono’n waith llafurus a pheryglus, cafodd llawer o fenywod ryddid newydd, a chyfle i ddangos eu dawn a’u gallu mewn meysydd a reolwyd cyn hynny gan ddynion. Anfonwyd Hartrick i wneud brasluniau yn y fan a’r lle, ac mae llawer o’r cyfansoddiadau yn fwriadol eu hystum a’u hosgo – yn lluniau ‘gwneud’. Delweddau propaganda ydyn nhw heb arlliw o’r caledi a’r peryglon a wynebai’r menywod o ddydd i ddydd.Ganwyd yr artist a’r darlunydd Hartrick yn India a’i fagu yn yr Alban cyn mynd ati’n wreiddiol i astudio meddygaeth. Wedi troi at gelf, mynychodd Ysgol Gelf Slade, Llundain, ac ysgolion celf Paris, gan arddangos yn Salon Paris 1887. Roedd yn un o sylfaenwyr Clwb Senefelder ym 1909. Trodd ei law at ddysgu hefyd, gan gyhoeddi’r gyfrol ganllaw Lithography As A Fine Art ym 1932. Transport by Sea Yr Harbwr Diogel - Charles Pears Cynnal y Lluoedd Dramor - Charles Pears Cludo’r Milwyr - Charles Pears Cyflenwi’r Llynges - Charles Pears Cynnal y Fasnach Allforio - Charles Pears Cynnal Cyflenwadau Bwyd - Charles Pears Cyflawnodd y llynges fasnachol dasgau allweddol yn ystod y rhyfel, gan gynnwys cefnogi llongau’r llynges, cludo milwyr a chario cyflenwadau hanfodol. Roedd yn beryg bywyd, a mawr fu colledion y fflyd. Yn llun Pears gwelwn y llongau yn eu holl fanylder.Ganwyd Pears yn Pontefract, Swydd Efrog, ac er ei lwyddiant fel darlunydd a lithograffydd, mae’n bennaf enwog am ei forluniau. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn swyddog â chomisiwn gyda’r Morlu Brenhinol, a bu’n gweithio fel artist morol swyddogol rhwng 1914 a 1918, ac eto ym 1940. Cafodd hefyd yrfa lwyddiannus fel cynllunydd posteri, gan greu gweithiau i gwmnïau fel trenau tanddaearol Llundain.CadwraethCafodd holl brintiau eu trin yn Stiwdio Cadwraeth Papur Amgueddfa Cymru. Cadwyd y printiau yn eu mowntiau a’u ffolderi gwreiddiol ers eu cyflwyno i’r Amgueddfa ym 1919.Roedd llawer o’r printiau wedi brychu (yn cynnwys smotiau browngoch) ac yn fudr. Mae hyn yn arwydd o bapur mewn cyflwr gwael. Byddai’n parhau i ddirywio heb ei drin.Gwnaed cais am gyllid i benodi cadwraethydd papur dan hyfforddiant i weithio ar y prosiect hwn am bum mis. Mae’r holl brintiau wedi’u golchi, eu gwasgu, eu trwsio a’u hailfowntio. Bellach, mae pob un yn y cyflwr gorau posibl a bydd y mowntiau newydd yn darparu amodau storio rhagorol. Bydd y gwaith cadwraeth hwn yn sicrhau y byddant ar gof a chadw i genedlaethau’r dyfodol.Cynhaliwyd ymchwil i’r math o bapur a ddefnyddiwyd ar gyfer y printiau hefyd. O’r dyfrnod ‘HOLBEIN’, gwelsom taw cwmni Spalding a Hodge, gwerthwyr a chynhyrchwyr papur â melinau papur yng Nghaint, oedd yn gyfrifol amdano.