Ymgyrch Mai Di-Dor yn Amgueddfa Wlân Cymru: Beth rydyn ni’n ei wneud a pham mae’n bwysig Heather Jackson & Debby Mercer, 3 Mehefin 2026 Bob mis Mai, fel rhan o ymgyrch Mai Di-Dor, mae Amgueddfa Wlân Cymru yn caniatáu i rannau o’i thirwedd dyfu, gan greu lle i flodau gwyllt, pryfed a’r ecosystem ffynnu. Drwy gamu’n ôl rhag torri’r gwair fel arfer, hyd yn oed am gyfnod byr, mae’r tiroedd yn cael eu trawsnewid, gan ddangos faint mae bywyd yn dibynnu ar wair hir a newid tymhorol.Mae gan yr Amgueddfa gysylltiad dwfn â’r dirwedd o’i chwmpas, o’r defaid sy’n cyflenwi’r gwlân i’r cynefinoedd ar garreg ei drws. Ar y safle mae tair erw a hanner o ddôl, gyda Nant Bargod a Nant Bran, llednentydd yr Afon Teifi, yn ffinio â hi. Ochr yn ochr â hyn mae gardd liwurau’r amgueddfa—gofod sydd wedi’i drin, ond sydd yr un mor gyfoethog o ran lliw, hanes a bywyd gwyllt.Gyda’i gilydd, mae’r mannau hyn yn dangos sut gall newid syml yn y dull o reoli tir gefnogi amgylchedd ffyniannus a chydgysylltiedig.Tirwedd Dôl FywI ffwrdd o sŵn peiriannau’r felin, mae’r ddôl yn cynnig man mwy tawel a myfyriol. Caiff y gwair ei dorri’n dymhorol yn lle ei dorri’n aml, ac mae’n cynnig cynefin pwysig i amrywiaeth eang o rywogaethau. Mae’r dull hwn wrth wraidd ymgyrch Mai Di-Dor, gan ganiatáu i wair a blodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu.Mae’r math hwn o laswelltir garw a llaith—a elwir yn rhos—yn dod yn gynyddol brin. Mae’n hanfodol ei reoli’n ofalus, gan y gall torri gormod ar y gwair neu rywogaethau ymledol fel Clymog Japan darfu’n gyflym ar y cydbwysedd sy’n galluogi bywyd gwyllt i ffynnu.Yn y gwanwyn a’r haf, mae’r ddôl yn dod yn fyw. Mae gloÿnnod byw fel yr Iâr Fach Dramor a’r Fantell Goch yn hedfan ymhlith y blodau, tra bod y Brithribin Brown prin yn dodwy wyau ar ddrain duon yn y gwrychoedd. Mae gwenyn yn casglu neithdar o feillion a drain gwynion, mae buchod coch cwta yn bwydo ar bryfed gleision, ac mae mursennod yn hofran ar hyd glannau’r afon. Mae arolygon hyd yn oed wedi cofnodi dros 30 rhywogaeth o chwilod ar y safle.Mae bywyd planhigion yr un mor bwysig. Mae glaswelltau brodorol fel cynffonwellt y maes a pheiswelltydd yn cefnogi blodau gwyllt gan gynnwys y bengaled, blodau’r llefrith a thansi, tra bod ardaloedd gwlypach yn gartref i frwyn, erwain a thriaglog. Gyda’i gilydd, mae’r planhigion hyn yn darparu bwyd a lloches i bryfed, adar ac anifeiliaid eraill.Un ardal arbennig o gyfoethog yw sianel gorlif yr afon, lle mae llifogydd tymhorol yn cludo maetholion sy’n annog amrywiaeth dwys o fywyd planhigion. Mae’n ein hatgoffa bod prosesau naturiol yn dal i siapio’r dirwedd.Drwy ganiatáu i’r ddôl dyfu drwy fis Mai, mae ymgyrch Mai Di-Dor yn cefnogi’r cynefin cymhleth a ffyniannus hwn.Yr Ardd Liwurau: Crefft a Bywyd GwylltOchr yn ochr â’r ddôl, mae’r ardd liwurau yn cynnig amgylchedd mwy strwythuredig, gyda’i gwreiddiau yn hanes cynhyrchu tecstilau. Am filoedd o flynyddoedd, byddai pobl yn defnyddio planhigion a mwynau i liwio ffibrau, arfer a barhaodd ym melinau gwlân Cymru ymhell i’r ugeinfed ganrif cyn i liwurau synthetig ddod yn fwy cyffredin.Heddiw, mae’r ardd liwurau yn ailgysylltu â’r traddodiad hwn, gan ganiatáu i’r amgueddfa archwilio’r daith o blanhigyn i ffabrig lliw. Wedi’i datblygu dros lawer o flynyddoedd a bellach yng ngofal yr ymarferydd lliwio naturiol Susan Martin, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae’n ardd weithredol ac yn lle i ddysgu.Yn ystod y tymor tyfu, mae’r ardd yn llawn lliw—yn ofod croesawgar i ymwelwyr ond hefyd yn denu ystod eang o fywyd gwyllt. Mae’r ardal hon yn elwa ar yr un egwyddor sydd y tu ôl i ymgyrch Mai Di-Dor—rhoi lle ac amser i blanhigion dyfu.Bywyd gwyllt ar draws y safleAr draws y ddôl a’r ardd liwurau, mae ystod amrywiol o rywogaethau, gyda phob un yn chwarae eu rhan yn cynnal iechyd yr amgylchedd.Mae gloÿnnod byw ymhlith yr ymwelwyr amlycaf, ond mae llawer o rywogaethau yn profi dirywiad hirdymor. Un rheswm am hyn yw’r diffyg planhigion addas i lindys. Nid yw’r blodau sy’n denu gloÿnnod byw bob amser yr un rhai â’r planhigion maen nhw’n dodwy wyau arnynt.Yn yr Amgueddfa, mae planhigion a gaiff eu hystyried yn aml yn “chwyn”—fel danadl poethion, ysgall a helyg—yn cael tyfu mewn ardaloedd penodol, gan ddarparu cynefinoedd hanfodol i lindys.Mae gwenyn yr un mor bwysig, o’r cacwn cyfarwydd i rywogaethau fel y cardwenyn. Mae pryfed hofran, sy’n aml yn cael eu camgymryd am wenyn meirch, hefyd yn chwarae rôl ddeuol: fel oedolion maen nhw’n peillio planhigion, tra bod eu larfa yn bwydo ar bryfed gleision, gan helpu i amddiffyn bywyd planhigion.Nid yw bywyd gwyllt bob amser yn amlwg ar yr olwg gyntaf. Mae mwydod yn hanfodol i iechyd pridd, gan awyru’r tir a thorri deunydd organig i lawr. Maen nhw hefyd yn ffurfio rhan bwysig o’r gadwyn fwyd—does dim byd yn well gan wahadden na gwledd o fwydod.Mae adar yn ymwelwyr rheolaidd hefyd. Mae’r robin goch yn gydymaith cyfarwydd i arddwyr, yn aml yn ymddangos pan fydd y pridd yn cael ei aflonyddu gan olygu bod pryfed yn dod i’r wyneb.Mae’r ystod o gynefinoedd ar draws y safle hefyd wedi arwain at nodi rhywogaethau llai cyffredin. Mae gwyddonwyr yr Amgueddfa wedi cofnodi’r pry cop Araeoncus humilis, sydd wedi’i ddosbarthu’n rhywogaeth fregus yng ngwledydd Prydain—gan amlygu pwysigrwydd cynnal yr amgylcheddau hyn.Edrych ymlaen ac ymweldDim ond un o’r ffyrdd mae Amgueddfa Wlân Cymru yn cefnogi bioamrywiaeth yw ymgyrch Mai Di-Dor, ond mae ei heffeithiau i’w gweld ar draws y safle cyfan.Drwy ganiatáu i wair a blodau gwyllt dyfu, mae’r amgueddfa’n creu amodau lle gall pryfed, adar ac anifeiliaid ffynnu. Mae mannau fel yr ardd liwurau yn dangos nad yw cadwraeth a threftadaeth ddiwylliannol yn ddau beth ar wahân, ond bod cysylltiad dwfn rhyngddynt.Mae hi wedi bod yn gyffrous gweld yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sy’n ymweld â thir yr amgueddfa, ond mae bob amser mwy i’w ddarganfod. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gefnogi’r cynefinoedd hyn, gan gynnwys cynlluniau i gamerâu bywyd gwyllt ganfod mwy fyth o rywogaethau sy’n ymweld.Anogir ymwelwyr i archwilio’r dirwedd. Ym mis Ebrill eleni, gwnaed llwybr cul drwy’r ddôl, gan alluogi ymwelwyr i ymlwybro drwy’r gwair hir heb darfu ar y bywyd gwyllt.Mae Llwybr y Ddôl yn amlygu rhai o’r planhigion a’r anifeiliaid sydd i’w cael ar draws y safle, tra bod arwyddion, a gefnogir gan brosiect TYFU Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn esbonio pwysigrwydd mentrau tymhorol fel ymgyrch Mai Di-Dor.Drwy adael i’r gwair dyfu, mae Amgueddfa Wlân Cymru yn datgelu byd cudd—un sy’n newid gyda’r tymhorau ac sy’n gwobrwyo’r rhai sy’n cymryd amser i edrych ychydig yn agosach. Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.