Hafan y Blog

Teithio’n ôl mewn amser yn y Storfeydd Archeoleg Gan Aron O’Shea

Aron O'Shea - Gwirfoddolwr Archaeoleg, 20 Mai 2026

Ers mis Ionawr 2025, rydw i wedi cael y pleser pur o helpu staff Archeoleg yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ochr yn ochr â’m cyd-wirfoddolwr, Jeff. Gyda’n gilydd, mae Jeff a minnau wedi gweithio gyda Dr Elizabeth Walker, yr holl-wybodus Evan Chapman, a Siân Iles sydd hefyd yn wych (efallai y byddwch yn ei chofio yn dilyn blog Lleisiau’r Amgueddfa yn y gorffennol. Dyma flog byr am yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni hyd yma. Ar y diwedd, rydw i wedi cynnwys dolenni i rai o’r deunyddiau ychwanegol ar-lein i’r rhai sy’n dymuno dysgu mwy am yr hyn sy’n cael ei gyflwyno’n fyr yma. 

Y cam cyntaf ar ein taith trwy’r storfeydd Archeoleg yw Oes y Cerrig (neu’r oes Baleolithig). Yma, fe wnaeth Elizabeth ein cyflwyno i Ogof Coygan, safle ogof bwysig o ganol yr oes Baleolithig (sydd wedi’i ddinistrio gan chwarela) ger Talacharn, Sir Gaerfyrddin.

Mae’n ymddangos bod yr ogof wedi cael ei defnyddio fel cuddfan gan udfleiddiaid yn bennaf, o ystyried y casgliad o weddillion anifeiliaid ysglyfaethus mawr, gan gynnwys mamoth, rhinoseros blewog, ceirw mawr a cheffylau, yn ogystal ag amrywiaeth o famaliaid bychain ac adar. Roedd gweddillion anifeiliaid cigysol eraill yn bresennol hefyd, gan gynnwys eirth brown, bleiddiaid a chadno'r Arctig. Hefyd yn nodedig yn safle Coygan, roedd tair enghraifft wych o fwyeill llaw a elwir yn bout coupé, gydag un ohonynt yn cael ei arddangos fel y gwelir yn y llun hwn.

Roedd Elizabeth yn ddigon caredig i gymryd amser i egluro sut yr oedd arfau carreg yn cael eu creu (rhywbeth sy’n dal i’m syfrdanu) a sut i ddarganfod arwyddion eu bod wedi cael eu defnyddio. Yn y gorffennol, roedd gweddillion ysgerbydol o safle Coygan yn cael eu storio mewn blychau plastig i’w cadw o fewn eu hystodau tymheredd a lleithder “cyfforddus”. Roedd gwaith uwchraddio ar amodau amgylcheddol y storfeydd yn golygu bod modd ail-becynnu’r gweddillion mewn blychau cardfwrdd archif, a bod modd defnyddio’r cynwysyddion plastig i gadw eitemau eraill. Cafodd Jeff a minnau’r dasg o ail-gartrefu’r dannedd, esgyrn a’r ysgarthion ffosiledig gan olrhain lleoliad eu cartref newydd a thicio pob pecyn o weddillion oddi ar restr. Gyda’i gilydd, fe wnaethom ni drosglwyddo mwy na 2,000 o fagiau o weddillion a llwyddo i ad-hawlio rhywfaint o silffoedd o le storio! Gan nad oeddwn wir wedi ystyried bywyd (a marwolaeth) creaduriaid cyn-hanesyddol o’r blaen, roedd yn deimlad gostyngedig (ac yn syndod) i feddwl am faint a mathau’r anifeiliaid a fyddai wedi byw gyda Neanderthaliaid a bodau dynol modern.

Roedd un o’n prosiectau nesaf yn golygu ein bod yn neidio ymlaen i gyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain! Yn fwy penodol, fe wnaethom ni gyrraedd dinas Rufeinig Venta Silurum, y “farchnad” a phrif ddinas weinyddol y llwyth Silure a oedd wedi’i sefydlu a’i leoli yn yr ardal a elwir erbyn heddiw yn ‘Caerwent’.

Mae rhannau helaeth o waliau cerrig y ddinas a sylfeini rhai o’r adeiladau’n dal i sefyll heddiw - ewch i ymweld â’r ardal i weld drosoch chi eich hun! Cynhaliwyd sawl cloddfa yn Venta Silurum, y cyntaf gan Gronfa Archwilio Caerwent (CEF) ym 1899-1913 ac yn ddiweddarach gan Amgueddfa Cymru o 1981 i 1995. Ymysg y darganfyddiadau o ganlyniad i’r cloddiadau diweddarach (a fethwyd gan y CEF!) oedd y bwcl gwregys aloi copr hyfryd a welir isod, a gallwch ddarllen mwy amdano yma.

Heblaw am y gwaith metel addurniadol hyfryd hwn, daeth cloddiad yr Amgueddfa o’r Heblaw am y gwaith metel addurniadol hyfryd hwn, daeth cloddiad yr Amgueddfa o’r Heblaw am y gwaith metel addurniadol hyfryd hwn, daeth cloddiad yr Amgueddfa o’r    

Heblaw am y gwaith metel addurniadol hyfryd hwn, daeth cloddiad yr Amgueddfa o’r forum-basilica (adeilad llywodraeth leol gyda marchnad awyr agored) yng Nghaerwent, o hyd i gasgliad sylweddol o... gregyn wystrys, y credir eu bod wedi cael eu bwyta gan swyddogion y llywodraeth. Fe wnaeth Evan, sef Curadur a ffynhonnell yr holl wybodaeth yn ymwneud â phethau o’r storfa, roi’r dasg i ni gofnodi’r cregyn wystrys a’u trefnu yn ôl cam yn y gwaith cloddio. Er bod y gwaith hwn yn llychlyd iawn, roedd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am y ddeinameg fwy sifil rhwng yr Ymerodraeth a llwythi lleol sy’n cyferbynnu’n sylweddol â’r gwrthglawdd milwrol yn ardal gyfagos Caerleon.

Mae’r uchafbwynt olaf yn y daith gyflym hon drwy diroedd hanesyddol yn ein harwain i’r cyfnod Canoloesol, ac i raddau helaeth, at ddechreuad casgliadau’r Amgueddfa. Mae Amgueddfeydd wedi bod yn adnodd addysgiadol ers amser maith ac yn lleoedd i “arddangos” arteffactau na fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn gallu cael mynediad atynt; yn ystod y blynyddoedd cynnar, felly hefyd oedd Amgueddfa Cymru. Ac eithrio derbyn arteffactau newydd ac unigryw, un o’r ffyrdd y byddai amgueddfeydd ac ysgolheigion yn y 19eg ganrif yn gallu dangos neu astudio gwrthrychau archeolegol oedd drwy eu hail-greu. Un enghraifft nodedig o’r arfer hwn oedd creu a gwerthu copïau plaster o wrthrychau ifori canoloesol wedi’u cerfio er enghraifft. Galwyd y copïau hyn a grëwyd yn gelfydd yn “ifori priddin”. Mae arddangosfa ddiweddar gan Sefydliad Celf Courtald ac Arddangosfa Victoria & Albert wedi archwilio’r pwnc yma, a gallwch ddarllen mwy am hynny (a gwylio) yma. Mae casgliad o eitemau ifori o’r fath wedi cael ei brynu a’i gatalogio gan Amgueddfa Cymru (Amgueddfa Hanes Naturiol, y Celfyddydau a Hynafiaeth Cymru gynt) ac ers hynny, mae’r casgliad wedi cael ei gadw o fewn y Storfeydd Archeoleg, ac mae’r panel wedi’i gerfio yn portreadu gwahanol seintiau’n un enghraifft o hyn.

Aeth Siân, Uwch Guradur Casgliadau a Datblygiad: Canoloesol, Jeff a minnau ati i bori drwy’r catalog testun yn unig o 1902 a oedd yn cynnwys dros 130 o eitemau “ifori” i geisio paru’r disgrifiadau gyda’r hyn yr oeddem yn ei weld yn y casgliad. Roedd y rhesymeg y tu ôl i hyn yn ddeublyg: yn y lle cyntaf, er mwyn deall pa gopïau sydd yn dal i fod yn rhan o’r casgliadau; ac yn ail, er mwyn gallu adnabod a chysylltu’r arteffactau gyda’r gwreiddiol a oedd wedi’i gopïo. Yn ffodus iawn, roedd hud a lledrith ffotograffiaeth a chasgliadau sydd wedi’u digido’n helaeth yn hwyluso’r gwaith ychydig, gan fod mwyafrif yr eitemau “ifori” a chatalog yr Amgueddfa’n cyfeirio at olygfeydd Beiblaidd neu chwedlonol nad ydynt mor adnabyddus i gynulleidfaoedd modern (fel fi!). Er bod y profiad wedi arwain at sawl enghraifft o déjà vu a oedd yn ddigon i anfon rhywun yn wallgof, yn twrio (yn ofalus) trwy focsys o gastiau (a allai fod yn fawr ac yn lletchwith), rydw i’n teimlo’n freintiedig i fod yn gysylltiedig mewn ffordd fach iawn â chasgliadau cynnar yr Amgueddfa. Roedd y wynebau rhyfedd yr olwg a’r creaduriaid annisgwyl yn bendant yn fonws.

Rhag ofn nad yw’n gwbl amlwg - cefais amser gwych yn gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru. Roedd yn gyfle, nid yn unig i weld rhai o’r arteffactau anhygoel a darnau o hanes Cymru, ond rwyf hefyd wedi cyfarfod â phobl arbennig a charedig sy’n gweithio yn yr Amgueddfa. Mae pawb o’r tîm Diogelwch i’r tîm Gwirfoddolwyr, i’r adran Archaeoleg wedi bod yn hael ac yn groesawus. Byddaf yn trysori’r amser a dreuliwyd yn chwerthin ac yn dysgu yn y storfeydd Archeoleg (ac yn yr ystafell egwyl!).

Diolch arbennig i Elizabeth Walker, Evan Chapman, a Siân Iles, gan na fyddwn wedi cael y pleser o gyflawni’r antur uchod hebddynt, ac ni fyddwn wedi deall hanner yr hyn yr wyf yn ei ddeall erbyn hyn. Diolch hefyd i Jeff am ei gyfeillgarwch, ei gefnogaeth, ac yn benodol am ei lais i ddarllen gwahanol rifau a chyfesurynnau.

Gwaith darllen pellach:

Mae cronfa ddata Casgliadau Ar-lein yr Amgueddfa yn lle gwych i ddod o hyd i luniau a gwybodaeth am wrthrychau!

Y cyfnod cyn-hanesyddol

[ERTHYGL] ‘A Day in Archaeology – Sorting out the storeroom’ gan Elizabeth Walker

https://www.archaeologyuk.org/resource/sorting-out-the-storeroom-dr-elizabeth-a--walker--principal-curator--collections---access--amgueddfa-cymru---national-museum-wales-.html

[ERTHYGL] ‘The Cave Men of Ice Age Wales’ gan Elizabeth Walker

https://museum.wales/articles/1317/The-Cave-Men-of-Ice-Age-Wales/

[ERTHYGL] ‘The oldest people in Wales – Neanderthal teeth from Pontnewydd Cave’ gan Elizabeth Walker

https://museum.wales/articles/1014/The-oldest-people-in-Wales---Neanderthal-teeth-from-Pontnewydd-Cave/

[FIDEO] Anerchiad Cymdeithas Archeoleg Cambrian i’r Llywydd yn 2022 (Elizabeth A Walker): The significance of Welsh Caves to Palaeolithic Archaeology

https://cambrians.org.uk/elizabeth-a-walker-presidential-address-2022/  [Mae gwybodaeth am safle Coygan yn dechrau ar 27:16]

Oes y Rhufeiniaid

[ERTHYGL] ‘A Day in Archaeology – The Llantrisant Fawr Hoard’ gan Evan Chapman https://www.archaeologyuk.org/resource/llantrisant-fawr-hoard-by-evan-chapman--senior-curator--archaeology-at-amgueddfa-cymru-museum-wales.html

[ERTHYGL] ‘Segontium - The Romans in North Wales’ gan Evan Chapman

https://museum.wales/articles/1322/Segontium---The-Romans-in-North-Wales/

[ERTHYGL] ‘Gelligaer Roman fort’ gan Evan Chapman

https://museum.wales/articles/1328/Gelligaer-Roman-fort/

Y Cyfnod Canoloesol

[ERTHYGL] ‘Medieval Cardiff’

https://museum.wales/articles/1334/Medieval-Cardiff/

[ERTHYGL] ‘A Day in Archaeology - Medieval Floor Tiles Project at Amgueddfa Cymru’ gan Jennifer Frost (Gwirfoddolwr)

https://www.archaeologyuk.org/resource/medieval-floor-tiles-volunteering-project-at-amgueddfa-cymru-museum-wales.html

[ERTHYGL] ‘A Day in Archaeology – Medieval Floor Tiles Project at Amgueddfa Cymru: Part 2’ gan Siân Iles 

https://www.archaeologyuk.org/resource/medieval-floor-tiles-volunteering-project-at-amgueddfa-cymru--part-2--museum-wales-.html

Ffynonellau:

Aldhouse-Green, S., Scott, K., Schwarcz, H., Grün, R., Housley, R., Rae, A., Bevins, R. and Redknap, M. 1995. ‘Coygan Cave, Laugharne, South Wales, a Mousterian Site and Hyaena Den: a Report on the University of Cambridge Excavations’, Proceedings of the Prehistoric Society, 61, tud. 37-79.

Guest, P. 2022. ‘The Forum-Basilica at Caerwent (Venta Silurum): A History of the Roman Silures’, Britannia, 53, tud. 227-267.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.