Castell Rhaglan 22 Mawrth 2022 Castell Rhaglan yw un o adeiladau canoloesol diweddar gorau Ynysoedd Prydain ac, er ei fod yn adfail bellach, mae’n nodwedd drawiadol yn nhirwedd de-ddwyrain Cymru. Lle mae Castell Rhaglan? Mae Castell Rhaglen i’r gogledd o bentref Rhaglan yn Sir Fynwy, oddi ar yr A40 rhwng Trefynwy a’r Fenni. Am fanylion ymweld ewch i wefan Cadw. Cafodd y castell fel y mae heddiw ei godi mewn tri chyfnod. Yn y cyfnod cyntaf, yn y 15fed ganrif, adeiladwyd y Tŵr Mawr chweochrog, pum llawr, wedi’i amgylchynu gan ffos. Yn wreiddiol, pont godi o’r castell oedd yr unig ffordd i fynd i’r tŵr. Yn yr ail gyfnod, ychwanegodd Syr William Herbert, Iarll cyntaf Penfro, ystafelloedd moethus. Yn olaf, cafodd y castell ei droi’n blasty gan Ieirll Caerwrangon yn y 16eg ganrif. Y Porthdy Mawr, Rhaglan. Codwyd y porthdy rhwng 1460 a 1469 ac fe'i cynlluniwyd i wneud argraff ar ymwelwyr ac i'w dychryn drwy gynnwys rhesi o gloerdyllau, tyllau arllwys, porthcwlisau a drysau. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Pwy adeiladodd Castell Rhaglan? Mae rhywfaint o ddadlau ynghylch pwy adeiladodd ran gyntaf y castell. Fe’i codwyd naill ai gan William Herbert, Iarll cyntaf Penfro, neu ei dad, William ap Thomas, a brynodd Rhaglan ym 1432. Roedd William Herbert yn ŵr allweddol yng ngwleidyddiaeth diwedd y 15fed ganrif. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau rhoddodd ei gefnogaeth i Edward IV. Yn wobr am ei deyrngarwch cafodd deitl Iarll Penfro a digon o adnoddau ariannol i droi Rhaglan yn gaer-blasty. Byrhoedlog, fodd bynnag, oedd llwyddiant yr Iarll. Ym 1469 cafodd ei gipio gan gefnogwyr y Lancastriaid ym Mrwydr Edgecote a chafodd ei ladd. Cadwodd teulu Herbert eu rheolaeth ar Gastell Rhaglan tan 1492, pan gafodd ei drosglwyddo i deulu Somerset. William Somerset, trydydd Iarll Caerwrangon (1526–1589), oedd yr aelod cyntaf o’i deulu i newid adeiladau’r castell yn sylweddol. Adluniad o Gastell Rhaglan, tua 1620, yn dangos y gerddi ffurfiol yn ystod dyddiau gorau'r castell. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Canolbwyntiodd yr Iarll William ar wella ansawdd y neuadd a’r ceginau er mwyn bodloni disgwyliadau cymdeithasol ei gyfnod. Yn ogystal, sefydlodd y gerddi, oedd yn cynnwys cyfres o derasau, llyn artiffisial, ffownten, gwelyau blodau a gerddi perlysiau. Adluniad o fywyd yng Nghastell Rhaglan yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn ystod cyfnod Trydydd Iarll Caerwrangon. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Beth ddigwyddodd i Gastell Rhaglan? Erbyn canol y 17eg ganrif, roedd Rhaglan ym mlodau ei ddyddiau. Cyrhaeddodd lefel o soffistigedigrwydd ac ysblander tebyg i blastai gorau’r wlad. Fodd bynnag, daeth Rhyfel Cartref Lloegr i darfu ar bopeth. Ym 1642, cyhoeddodd pumed Iarll Caerwrangon ei gefnogaeth i achos y Brenhinwyr, gan gynnig cymorth ariannol sylweddol i’r Brenin Siarl I. O ganlyniad, roedd Rhaglan yn darged i luoedd y Seneddwyr, a roddodd y castell dan warchae ym Mehefin 1646. Llwyddodd ei amddiffynwyr i ddal eu gafael arno yn ystod yr haf ond erbyn canol Awst roedd y Seneddwyr o fewn 60 llath i’r castell. Ildiodd ei amddiffynwyr ar 19 Awst. Ar ôl cael ei gipio, cafodd y castell ei ddifrodi’n fwriadol er mwyn sicrhau na ellid ei amddiffyn eto. Dyma pryd y cafodd y twll anferth ei greu yn y Tŵr Mawr. Gadawyd Castell Rhaglan yn wag a dirywiodd; yna, daeth yn ffynhonnell gyfleus ar gyfer cerrig adeiladu ac yn atyniad pictiwrésg i dwristiaid. Bellach, diolch i waith Cadw a’i ragflaenwyr, mae’r adeilad yn cael ei warchod. Pwy sydd biau Castell Rhaglan? Mae Castell Rhaglan yn dal yn eiddo i deulu Somerset, a ddaeth yn Ddugiaid Beaufort ym 1682. Ym 1938 cafodd ei roi yng ngofal y Weinyddiaeth Waith, ac erbyn hyn mae yn nwylo Cadw. Pa ffilmiau sydd wedi defnyddio Castell Rhaglan? Ymddangosodd Castell Rhaglan yn ffilm Terry Gilliam, Time Bandits (1981), lle cafodd ei ffilmio fel castell Eidalaidd dan warchae yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Darllen cefndir Raglan Castle gan J. R. Kenyon. Cyhoeddwyd gan Cadw (2003). Teils llawr addurnedig Castell Rhaglan Rhestriad Cadw Rhestriad Coflein (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) Addaswyd y llun ar y blaen o Castell Rhaglan gan Steve Slater, CC BY 2.0
Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52 Elen Phillips, 2 Mawrth 2020 Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52 Casgliadau Arlein: Gorchudd gwely clytwaith Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i dros 200 o gwiltiau a chlytwaith. Mae’r casgliad amrywiol a phwysig hwn yn cynnwys trawstoriad o gynlluniau a thechnegau, ac yn cynrychioli bron i 300 mlynedd o’r grefft yng Nghymru. Un o uchafbwyntiau’r casgliad yw Cwilt y Teiliwr – gorchudd gwely clytwaith a wnaed gan James Williams, prif deiliwr milwrol o Wrecsam. Mae cynllun y cwilt yn brawf o ddawn greadigol y teiliwr, yn ogystal â’i werthfawrogiad o orchestion peirianegol ei ddydd. Yn y gornel uchaf ar y chwith, mae Pont Menai a gwblhawyd gan Thomas Telford ym 1826. Mae traphont Cefn ger Wrecsam yng nghanol y darn, a phagoda Tsieineaidd yn y gornel uchaf. Mae'r golygfeydd eraill y cynnwys themâu Beiblaidd – arch Noa, Jona a’r morfil, Cain yn lladd Abel, a'r ddelwedd ganolog o Adda yn enwi'r anifeiliaid. Gwneir cwiltiau clytwaith yn aml drwy wnïo defnydd sydd dros ben, er enghraifft hen grysau neu siwtiau. Gwnaeth James Williams ei gwilt drwy ailgylchu sborion gwlân – defnydd lifrau milwrol mae’n debyg. Yn syfrdanol, mae'r cwilt cyfan yn cynnwys 4,525 o ddarnau mân, oll wedi'u gwnïo at ei gilydd o’r cefn gyda thrawsbwythau. Gelwir y math hwn o waith yn glytwaith mewnosod. Mae’n dechneg sy’n gofyn am fedr arbennig â’r nodwydd a brethyn sy’n ddigon trwchus i ddygymod â’r trawsbwythau. O ganlyniad, mae’r engreifftiau sydd i’w canfod mewn casgliadau amgueddfeydd yn dueddol o fod yn gysylltiedig â theilwriaid proffesiynol. Yn ôl hanes teuluol, bu James Williams wrthi am ddegawd, rhwng 1842 a 1852, yn pwytho’r cwilt yn ystod ei oriau hamdden. Ymhen dim, daeth galw i’w arddangos yn gyhoeddus. Ym 1876 dangoswyd y cwilt mewn arddangosfa fawr o ‘drysorau celfyddyd’ (Art Treasures Exhibition) a gynhaliwyd yn Wrecsam i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn ddiweddarach, ym 1925 bu’r cwilt ar arddangos yn Wembley, ac yn Wrecsam unwaith eto pan ddaeth yr Eisteddfod yn ôl i’r dref ym 1933. Mae tystiolaeth o gyfrifiadau ardal Wrecsam yn dangos mai brodor o’r dref oedd James Williams. Fe’i ganed ym 1818 ac erbyn y 1850au roedd ganddo weithdy teilwra yn ei gartref yn College Street, ger Eglwys y Plwyf. Bu farw ym 1895 ac fe etifeddwyd y busnes gan ei fab. Ym 1935, daeth y cwilt i feddiant yr Amgueddfa drwy ei ŵyr, Richard Williams, a oedd hefyd yn deiliwr fel ei dad a’i daid. Meddai ar y pryd: “it has always been my wish that the quilt should be sent to [the] National Museum of Wales so as my fellow countrymen should have the opportunity to admire a work of art that today could not be done if you were to pay the most skilful craftsman £1 a minute to do”.
Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Ydych chi'n cofio Doctor Carrot a Potato Pete? 30 Gorffennaf 2012 Doctor Carrot a Potato Pete Potato Pete Ar drothwy'r Ail Ryfel Byd roedd Prydain yn mewnforio 60% o'i bwyd. Wrth gofio am y prinder bwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cyflwynoddd y llywodraeth y sustem dogni ym mis lonawr 1940. Dosbarthwyd llyfrau dogni i bawb a bu'n rhaid i bob cartref gofrestru gyda chigydd, groser a dyn llefrith lleol. Roedd y rhain yn derbyn digon o fwyd ar gyfer eu cwsmeriaid cofrestredig. Y bwydydd cyntaf i gael eu dogni oedd menyn, siwgr, bacwn a ham. Ymhen amser cafodd mwy o fwydydd eu hychwanegu at y sustem, ac fe amrywiai swm y ddogn o fis i fis wrth i'r cyflenwad o fwydydd amrywio. O fis Rhagfyr 1941 roedd popeth arall gwerth eu cael ar y sustem pwyntiau. Cai pob person 16 pwynt y mis i brynu detholiad o fwydydd, fel bisgedi, bwyd tun a ffrwythau sych – os oeddynt ar gael yn y siopau. Roedd yn sustem effeithiol gan ei bod yn galluogi'r llywodraeth i ddynodi gwerth pwynt uchel ar nwyddau prin, ac yna lleihau eu gwerth os oedd digonedd. Yn naturiol, roedd plant yn cael eu trin yn wahanol i oedolion, ac yn derbyn bwydydd ychwanegol oedd yn angenrheidiol ar gyfer eu tyfiant, fel llefrith, sudd oren ac olew'r penfras. Nid Prydain oedd yr unig wlad â dognau bwyd. Siopwr yn dileu'r tocynnau ar gyfer y te, siwgr, braster a bacwn a ganiateir ar gyfer un wythnos oddi ar lyfr dogni gwraig tŷ. Caiff y mwyafrif o fwydydd ym Mhrydain eu rhoi ar ddogn a defnyddir yr arwyddnod "National" ar gyfer rhai brandiau. Gerddi Llysiau Roedd sicrhau bod dognau'r teulu'n parhau tan ddiwedd yr wythnos yn broblem fawr. I ystwytho'r sefyllfa anogwyd y genedl i ddarparu'r cynnyrch eu hunain. Lawnsiwyd yr ymgyrch Dig For Victory ym mis Hydref 1939. Roedd galw ar bawb i gadw rhandir, i balu eu gwelyau blodau a'u lawntiau, a'u troi'n erddi llysiau. Fe'u hargymhellwyd i gadw ieir, cwningod, geifr a moch – anifail arbennig o boblogaidd gan eu bod un bwyta unrhyw weddillion o'r gegin. Treuliwyd tipyn o amser ac egni ar bropaganda'n hyrwyddo economi a dyfeisgarwch wrth goginio. Cyflogwyd economyddion cartrefi deithio'r wlad i ddangos y dulliau gorau i goginio gyda'r adnoddau prin. Cychwynnodd y Weinyddiaeth Fwyd gyhoeddi taflenni Food Facts ym 1940 ac roedd cylchgronau, papurau newydd a rhaglenni radio dyddiol fel The Kitchen Front a'r Radio Doctor, yn llawn syniadau a risetau ynglŷn â sut i wneud y gorau o'r bwyd ar gael. Ymddangosai Potato Pete a Doctor Carrot, cymeriadau a gyflwynwyd i hyrwyddo bwyta llysiau, yn y mwyafrif o risetau. Anogwyd y cyhoedd i arbrofi gyda bwydydd newydd ac anghyffredin. 'Doedd tiwna ddim at flas cymdeithas yr Ail Ryfel Byd, sy'n syndod o ystyried ei boblogrwydd heddiw – roedd cig morfil yn fwy amhoblogaidd fyth. Fitiminau Gwaethygu wnaeth sefyllfa bwyd ar ddiwedd y rhyfel. Cafwyd prinder bara a thatws yn dilyn cyfnod sych a chynhaeaf gwael ym 1945, a bu rhaid dogni'r rhain am y tro cyntaf. Erbyn 1948 roedd y lwfans bwyd llawer yn is na'r cyfartaledd yn ystod y rhyfel. Codwyd y cyfyngiadau ar de ym 1952 – rhyddhad mawr i genedl o yfwyr te. Tynnwyd hufen, wyau, siwgr a fferins oddi ar y sustem ym 1953 a menyn, caws ac olew coginio ym 1954. Daeth 14 mlynedd o ddogni i ben ar 4 Gorffennaf 1954, pan godwyd y cyfyngiadau ar gig a bacwn. Oherwydd y prinder bwyd yn ytsod y cyfnod dogni, bu'n rhaid i deuluoedd newid eu patrwm bwyta. Cafodd bawb lai o gig, brasder, wyau a siwgr nag erioed o'r blaen. Golygai'r dogni bod y tlotaf o'r gymdeithas yn derbyn mwy o brotein a fitaminau yn eu deiet. Canlyniad hyn oedd cynnydd syfweddol yn iechyd y genedl. Cafwyd gwellhad o ran iechyd cyffredinol plant, ac ar gyfartaledd roeddynt yn dalach ac yn drymach na phlant cyn y rhyfel. Bu lleihad yn nghyfradd marwolaethau babanod a chynnydd o ran oedran cyfartalog drwy farwolaeth naturiol.
Crochenwaith o Loegr yn Amgueddfa Cymru Andrew Renton, 6 Ionawr 2010 1: Jwg gynhaeaf o briddwaith wedi'i endorri. Cafodd ei gwneud yn Gestingthorpe, Suffolk, ym 1680. Prynwyd ym 1904. Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad rhagorol o grochenwaith o Loegr a ddechreuwyd adeg sefydlu'r Amgueddfa. Mae'n parhau i ffynnu, diolch i genedlaethau o gymwynaswyr. Dechreuodd hen Amgueddfa Drefol Caerdydd gasglu gwaith cerameg ym 1882, gyda'r nod o ddatblygu'r casgliad gorau posibl o grochenwaith a phorslen o Gymru. Erbyn 1895 credai'r Amgueddfa ei bod yn meddu ar y casgliadau gorau a mwyaf cynrychiadol o'u math yn y byd, a dechreuodd gyfeirio'i sylw at feysydd newydd, gan gynnwys cerameg o Loegr a'r cyfandir. Ym 1896 gwnaed Robert Drane yn guradur anrhydeddus. Roedd yn gasglwr brwd ar borslen Caerwrangon, ac ef hefyd a oedd wedi dewis yr eitemau porslen Cymreig cyntaf i'r Amgueddfa eu prynu. 2: Tebot hufenwaith gydag addurn wedi'i argraffu a'i enamlo ar thema sêr-ddewiniaeth. Cafodd ei wneud gan William Greatbatch, Swydd Stafford, tua 1778. Prynwyd ym 1902. 3: Dysgl crochenwaith slip yn dangos eryr â dau ben. Cafodd ei gwneud gan Ralph Toft, Swydd Stafford, tua 1663-88. Prynwyd ym 1903. 4: Mwg crochenwaith caled â gosodiad arian, wedi'i enamlo ag arfbais Farmer, Fulham, 1706. Prynwyd ym 1903. 9: Jwg berlwaith wedi'i henamlo a wnaed yng Nghrochendy Ferrybridge, Swydd Efrog, tua 1800. Cymynrodd gan Ernest Morton Nance, 1953 10: Fâs o grochenwaith caled basalt â darlun llosgliw. Cafodd ei gwneud gan Wedgwood a Bentley, tua 1775-85. Rhodd gan Mr a Mrs F. E. Andrews, 1934 11: Ffigwr priddwaith o Alexandra, Tywysoges Cymru (1844-1925), a wnaed yn Swydd Stafford tua 1862. Cymynrodd gan Mrs H. de C. Hastings, 1995 12: Tebot hufenwaith wedi'i baentio dan y gwydredd mewn glas a manganîs. Cafodd ei wneud gan Enoch Booth, Swydd Stafford, tua 1743. Rhodd gan W. J. Grant-Davidson, 1994 Sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Cymru Ar yr adeg hon roedd Amgueddfa Drefol Caerdydd hefyd yn ymgyrchu dros sefydlu amgueddfa genedlaethol i Gymru, a'i huchelgais oedd datblygu i fod y sefydliad newydd hwnnw. Ym 1902 cyfeiriodd at y ffaith fod ei chasgliadau yn tyfu'n fwyfwy cenedlaethol eu natur, ac felly dechreuodd ddatblygu ei chasgliad o grochenwaith o Loegr. O'r Canoloesol i'r diwydiannol Câi pob rhan o'r traddodiad crochenwaith yn Lloegr ei chynrychioli, o grochenwaith diwedd y canol oesoedd, i grochenwaith caled, slip a Delft yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, i ddarnau wedi'u cynhyrchu trwy'r dulliau diwydiannol a gyflwynwyd yn Swydd Stafford o ganol y ddeunawfed ganrif. [lluniau 1-2] Dyma rai o'r eitemau eithriadol: dysgl crochenwaith slip prin a godidog o'r ail ganrif ar bymtheg gan Ralph Toft o Swydd Stafford [llun 3] mwg pwysig o grochenwaith caled wedi'i enamlo ag arfbais Farmer â'r dyddiad 1706 arno [llun 4] dysgl hynod, o grochenwaith Delft. Cafodd ei gwneud yn Brislington ym 1680, ac mae'n dangos dau sgweier o Wlad yr Haf a oedd wedi herwgipio efeilliaid cyswllt i'w harddangos, er mwyn codi arian. [llun 5] Roedd balchder yr Amgueddfa yn yr hyn yr oedd wedi'i gyflawni yn amlwg. Mewn adroddiad a ysgrifennwyd ym 1905 ar y ddysgl crochenwaith Delft o Brislington, mae'n nodi mai ychydig iawn o'r dysglau hyn a oedd yn bodoli, ac mai'r enghraifft hon yng Nghaerdydd, o bosibl, oedd y gorau ohonynt. 5: Dysgl o grochenwaith Delft a wnaed yn Brislington ger Bryste, tua 1680. Prynwyd ym 1904 6: Tebot crochenwaith caled rosso antico a wnaed gan Wedgwood, Swydd Stafford, tua 1810-20. Rhodd gan Wilfred de Winton, 1903. 7: Jwg gwrw o berlwaith, gydag arysgrif i John Hughes o Lansamlet ger Abertawe. Mae'n debyg iddi gael ei gwneud gan Ralph Wedgwood yn Burslem, Swydd Stafford, neu Ferrybridge, Swydd Efrog, tua 1790-1800. Rhodd gan W S de Winton ym 1904 8: The New Marriage Act, mewn perlwaith. Er mai'r gred, pan y'i prynwyd, oedd iddo gael ei wneud yn Abertawe, cafodd ei wneud mewn gwirionedd yn Swydd Stafford tua 1825. Prynwyd ym 1941 Wilfred de Winton Roedd y banciwr Wilfred de Winton yn cefnogi'r ymgyrch dros gael amgueddfa genedlaethol, a rhoddodd ei gasgliad enfawr o borslen iddi yn ddiweddarach. Roedd ei roddion o grochenwaith o Loegr yn cynnwys jwg gwrw ddoniol o berlwaith, wedi'i mowldio ag wynebau yn dangos gwahanol gamau meddwdod. Mae'r handlen ar ffurf morfab yn edrych i mewn i'r jwg. [ill. 6-7] Y gred ar y pryd oedd i'r jwg hon gael ei gwneud yng nghrochendy lleol Cambrian, ond mewn gwirionedd mae'n un o'r nifer o ddarnau o Gymru yn y casgliad y canfuwyd yn ddiweddarach eu bod o Loegr. [llun 8] Ernest Morton Nance Ym 1953 rhoddodd Ernest Morton Nance ei gasgliad o waith cerameg Cymreig i'r Amgueddfa yn ei ewyllys. Roedd Nance yn arbennig o falch o'i jwg 'Crochenwaith Cambrian'. Credai mai golygfeydd o grochendy yn Abertawe a baentiwyd arni, ond mewn gwirionedd mae'n debygol mai yng nghrochendy Ralph Wedgwood yn Ferrybridge y gwnaed hon hefyd, tua'r flwyddyn 1800. [llun 9] 13: Powlen gwaddodion/slops o grochenwaith caled wedi'i fowldio o slip a'i wydro â halen. Cafodd ei gwneud yn Swydd Stafford tua 1740. Rhodd gan W. J. Grant-Davidson, 1994 14: Tebot crochenwaith caled coch ag addurn chinoiserie wedi'i fowldio. Cafodd ei wneud yn Swydd Stafford tua 1760-65. Rhodd gan W. J. Grant-Davidson, 1994 15: Dysgl briddwaith wedi'i phaentio mewn lystar coch ac aur gan William de Morgan, tua 1881. Prynwyd ym 1994 16: Fâs briddwaith wedi'i phaentio â llaw. Cafodd ei dylunio gan Frank Brangwyn ar gyfer Royal Doulton, tua 1930-35. Prynwyd ym 1972 Y casgliad yn parhau i ehangu Mae'r casgliad o grochenwaith o Loegr yn parhau i ffynnu, diolch i genedlaethau o gymwynaswyr. [llun 10] Trwy gymynroddion, derbyniwyd casgliadau helaeth o grochenwaith lystar (yr Arglwydd Boston, 1942), cloriau potiau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Miss E. A. Nicholl, 1981) a ffigyrau o Swydd Stafford o gyfnod y Frenhines Victoria (Mrs H. Hastings, 1995). [llun 11] Ym 1994 roedd rhodd W. J. Grant-Davidson, a oedd yn ysgolhaig ym maes crochenwaith Cymru, yn cynnwys darnau diddorol o Swydd Stafford. Y mwyaf diddorol oedd enghraifft gynnar a phwysig o debot hufenwaith a wnaed gan Enoch Booth tua'r flwyddyn 1743. [lluniau 12-14] Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn casglu crochenwaith modern, ac mae wedi prynu enghreifftiau fel dysgl lystar gan William de Morgan a fâs Royal Doulton a ddyluniwyd gan Frank Brangwyn. [lluniau 15-16] Cafwyd darnau modern eraill o Gasgliad Allestyn yr Amgueddfa, er enghraifft dyluniadau o'r 1930au gan y pensaer Keith Murray ar gyfer Wedgwood ac, yn arbennig, rhodd hael gan Mick Richards, sef casgliad ardderchog o waith cerameg Susie Cooper. [llun 17] Mae'r casgliad yn parhau i ehangu, a phrynwyd eitemau fel tebot hufenwaith o tua 1765, sy'n coffáu'r gwleidydd radical John Wilkes. [llun 18] 17: Fâs briddwaith wedi'i chreu ar droell a'i hendorri. Cafodd ei gwneud gan Grochendy Susie Cooper, tua 1932. Rhodd gan Mick Richards, 2003 18: Tebot hufenwaith yn dathlu John Wilkes. Mae'n debyg y cafodd ei wneud a'i enamlo yn Swydd Stafford tua 1763-68. Prynwyd yn 2009 Awdur: Andrew Renton, Pennaeth Celfyddyd Gymhwysol