Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Cymru a'r Rhyfeloedd Byd: Dyddiaduron Kate Rowlands 27 Ionawr 2017 Mae'r cyfri twitter @DyddiadurKate yn trydar dyddlyfrau Kate Rowlands, Sarnau. Ganrif yn ddiweddarach, mae ei chofnodion o 1915 yn rhoi golwg i ni ar fywyd yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth y dyddiadur i feddiant Sain Ffagan yn 1969, pan aethant allan i gymunedau gwahanol i recordio hanes leol pobl Cymru, yn eu geiriau eu hunain. Mae Dyddiadur 1915 Kate Rowlands, yn ddarlun cynnil a chyfoethog o fywyd yng nghefn gwlad Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n rhoi cip i ni o dasgau bob dydd, enwau caeau a ffermydd, cymeriadau lleol, tafodiaeth ac arferion y cartref a'r capel. Darllenwch y dyddiadur ar twitter, neu gweld mwy am gymeriadau'r dyddiadur. Trydar gan DyddiadurKate Rhagor am Kate 'Kitty' Rowlands Bywyd Cynnar Ganed Kate yn y Brymbo, ger Wrecsam, yn 1892. Roedd ei mam, Alice Jane, yn wreiddiol o’r Hendre, Cefnddwysarn. Bu farw ei thad – gweithiwr yn y diwydiant dur – pan roedd hi’n naw mis oed. Wedi hynny, dychwelodd ei mam weddw at ei theulu yng Nghefnddwysarn. Mae’n amlwg i rieni ei mam ddylanwadu’n fawr arni. Mewn cyfweliad hanes llafar â'r Amgueddfa mae’n dweud mai "y nhw oedd y canllawie gathon ni gychwyn arnyn nhw." Tair blynedd yn ddiweddarach, mae’i mam yn ailbriodi ag Ellis Roberts Ellis. Hyd y gwyddom, dyma’r Ellis sy’n cael ei grybwyll yn y dyddiadur. Tua 1887, pan roedd Kate yn bum mlwydd oed, symudodd y teulu bach i ffermio i ardal Llantisilio, ger Llangollen. Dychwelodd y tri i’r Sarnau tua chwe mlynedd yn ddiweddarach – i fferm Tyhen. Dyma leoliad y dyddiadur. Gwaith ar y tir - ac yn y tŷ A hithe’n unig blentyn, gadawodd Kate yr ysgol yn 14 mlwydd oed i helpu ei rhieni wrth eu gwaith. Mae’n debyg mai fferm fach oedd Tyhen – rhy fach i gyflogi dynion. “Mi gollodd nhad a mam eu iechyd i radde. Buodd hynny’n groes fawr i mi gael gyrru mlaen efo addysg ynde. Rhaid i mi fod adre ynde, ’da chi’n gweld… Dipyn o bopeth, jack of all trade ynde. O’n i’n gorfod helpu llawer iawn allan ynde, efo ceffyle a rwbeth felly ynde. Twmo’r popdy mawr i grasu bara, a chorddi fel bydde amser yno ynde, ryw ddwywaith yr wsos ynde.” Hanes Llafar Rhoddodd Kate Rowlands ei dyddiadur i'r Amgueddfa, pan ddaeth Minwel Tibbott a Lyn Davies i'w chyfweld yn y 1960au. Oherwydd gwaith diflino curaduron cynnar yr Amgueddfa, mae casgliad eang yn Sain Ffagan sy'n ymwneud â hanes merched - gellir pori gwybodaeth amdanynt ar dudalennau Hanes Llafar Merched Cymru. Yn ogystal â dyddiadur 1915, rhoddodd Kate ddyddiadur arall i'r Amgueddfa - sef cofnod o'i bywyd yn 1946. Mae modd darllen y dyddiadur hwnnw hefyd ar twitter, a'i archwilio ar flog yr amgueddfa. Kate Rowlands - Bywyd Cynnar Kate Rowlands - Wythnos ar y Fferm Kate Rowlands - Chwarae Steddfod a Gadael Ysgol Yn ogystal â rhannu hanesion lleol ardal y Sarnau, roedd y dyddiadur yn taro goleuni ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar gefn gwlad Cymru. Darllenwch hanes Kate a chymeriadau'r ardal ar flog Dyddiadur Kate. Carcharorion Rhyfel Fron Goch "Erbyn Ebrill 1915, roedd sgil effeithiau’r Rhyfel Mawr i’w gweld a’u teimlo ar lawr gwlad Meirionnydd. Nepell o gartref Kate a’i theulu, fe agorwyd gwersyll i garcharorion rhyfel ar gyn safle distylldy whisgi..." [gweld mwy] Arferion Nadolig "Ro’n i wedi edrych ymlaen cael darllen am baratoadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ac wedi bod yn dyfalu p’un â’i gŵydd yntau asen o gig eidion fyddai’r wledd? Pwy fyddai’n galw heibio?" [gweld mwy] Tomi'r Hendre a'r Ffrynt "Yr wyf yn hynod o hapus a digon o fwyd ac mewn iechyd rhagorol ac yn mynd yn dew ac yn gryf. Nid wyf yn med[d]wl y byd[d] yn rhaid imi byth fynd i’r front... Gyrwch fy nghyllell boced a fy spectol [yn] fuan." [gweld mwy] Alcohol a Dirwest "Soniodd Lloyd George am ‘the lure of the drink’ a dweud bod y ddiod gadarn yn gwneud mwy o’r difrod i Brydain na holl longau tanfor yr Almaen..." [gweld mwy] Gallwch lawrlwytho fersiwn electronic o'r dyddiadur yma: E-lyfr Dyddiadur Kate (PDF)
Rhywogaeth newydd i wyddoniaeth: Bolycetiaid yn Ynysoedd Falkland Teresa Darbyshire, 21 Chwefror 2013 1. Map yn dangos y lleoliadau samplo ar arfordir yr ynys Ddwyreiniol gyda map mwy o'r lleoliadau ger Stanley 3. Mwydyn cennog (Polynoidae) ganfuwyd dan garreg wrth blymio 4. Dau cirratulid ganfuwyd dan garreg wrth blymio 8. Mwydyn rhwyfo (Phyllodocidae) gyda'i streipiau du nodweddiadol 9. Dwy rywogaeth abwyd du wahanol (Arenicolidae) o'r lan 10. Rhywogaeth abwyd môr newydd (Nereididae) Mae polycetiaid (neu fwydod gwrychog) i'w gweld ym mhob un cynefin morol ar y Ddaear bron. Anifeiliaid hyblyg ac amrywiol eu lliw a'u llun ydyn nhw, ac mae tua 10,000 o rywogaethau wedi cael eu disgrifio hyd yn hyn. Gyda'n amgylchedd morol yn wynebu straen cynyddol mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n gwybod pa rywogaethau sy'n byw ymhle. Mae polycetiaid o gynefinoedd yn y moroedd o amgylch Ynysoedd Falkland yng nghefnfor De'r Iwerydd wedi cael eu samplo'n aml fel rhan o fordeithiau ymchwil ar yr Iwerydd. Ar y llaw arall, prin yw ein gwybodaeth o bolycetiaid o gynefinoedd rhynglanwol (rhwng marciau llanw isel ac uchel). Ar ddechrau'r 20fed ganrif gwnaeth naturiaethwr o Ynysoedd Falkland, Rupert Vallentin, beth gwaith yn y maes gan anfon sbesimenau at dacsonomegwyr i'w hadnabod a'u hymchwilio. Prin yw'r gwaith a wnaed ar ôl hyn. Biolegydd morol yn Amgueddfa Cymru yw Teresa Darbyshire, ac mae wedi bod yn cydweithio â'r Grŵp Arolygon Moroedd Bas lleol i astudio polycetiaid Ynysoedd Falkland. Treuliodd bedair wythnos yn gwneud gwaith mae yn niwedd 2011 dan nawdd Cronfa Ysgoloriaeth Shackleton, gan samplo pedwar arfordir ar bymtheg (Delweddau 1, 2, 6) ar yr ynys Ddwyreiniol, y brif ynys. Cafwyd cyfle hefyd i blymio gyda Grŵp Arolygon Moroedd Bas lleol fel rhan o'u harolwg a thrwy hyn bu modd ymestyn y samplu hyd yn oed ymhellach. (Delweddau 3, 4, 7). Cododd rhai peryglon biolegol anghyffredin wrth weithio yn Ynysoedd Falkland gan gynnwys morlewod cyfeillgar yn astudio Teresa traoedd hi'n gweithio dan y dŵr, eliffantod môr yn sleifio i fyny tu ôl iddi ar y lan, a caracaras (adar ysglyfaethus) yn ceisio dwyn y potiau samplu! (Delwedd 5) Wedi i bolycetau gael eu cadw (sefydlogi), bydd nodweddion sy'n bwysig wrth eu hadnabod, fel lliw a phatrwm (Delwedd 8), yn aml yn diflannu neu'n newid. Cafodd y rhan fwyaf o sbesimenau felly eu hastudio a'u ffotograffio yn fyw dan ficrosgop. Byddai sbesimenau hefyd yn cael eu "hymlacio" cyn eu cadw fel bod llai o siawns iddyn nhw wingo neu dorri, felly byddai'n haws o lawer eu hadnabod yn ddiweddarach. Dyw adnabod polycetau ddim yn broses hawdd na chyflym! Mae sbesimenau gwahanol i'w gweld ledled y byd ac yn newid yn ôl cynefin a lleoliad. Mae'n debyg iawn y bydd polycetau Ynysoedd Flakland yn eu lleoliad yn Ne'r Iwerydd yn wahanol i bolycetau Gogledd yr Iwerydd, ac felly mae'n rhaid chwilio'n drylwyr drwy unrhyw lyfrau ar y pwnc i'w hadnabod. I ddechrau, cai'r sbesimenau eu trefnu'n deluoedd (grwpiau o sbesimenau sy'n perthyn). Er nad yw pob teulu i'w gweld ym mhob amgylchfyd, maer' teuluoedd gafodd eu adnabod yn Ynysoedd Falkland hefyd i'w gweld yn nyfroedd Prydain. Astudiwyd pob teulu yn ei dro er mwyn adnabod pob rhywogaeth ym mhob lleoliad. Mae'n haws o lawer adnabod rhywbeth os oes gennych chi lawer o sbesimenau i'w cymharu, yn blant ac oedolion, a sbesimenau o wahanol gyflwr. Bellach mae dros ddeg ar hugain o deuluoedd gwahanol wedi cael eu hadnabod o'r samplau. Mae dau rywogaeth abwyd du (Arenicolidae, Delwedd 9) ac abwyd y môr (Nereididae, Delwedd 10) newydd wedi'u hadnabod, sy'n syndod gan fod y ddau grŵp yn cynnwys anifeiliaid mawr sy'n gymharol gyfarwydd ac yn cael eu defnyddio'n gyson fel abwyd gan bysgotwyr. Disgwylir y byd nifer o rywogaethau newydd yn cael eu hadnabod wrth i'r sbesimenau gael eu dadansoddi. Wedi dychwelyd yn 2013 i samplo lleoliadau ychwanegol, bydd rhestr cynhwysfawr o bolycetau rhynglanwol a glannau Ynysoedd Falkland ar gael, ac yn gymorth i weithwyr gwarchod amgylcheddol lleol.
Darganfyddiad newydd am hen offeryn: oedd dau seinflwch y crwth Cymreig yn unigryw? 2 Ebrill 2012 Crwth Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y crwth o'r 18fed ganrif yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn ddigon ffodus i feddu ar un o dri chrwth Cymreig sy'n dal i fodoli ym Mhrydain. Wedi darganfod agorfa gudd, ai dyma'r unig offeryn a chwaraeir gyda bwa i gael dau seinflwch? Gwelir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at offeryn llinynnol o'r enw 'crwth' yng Nghyfreithiau Hywel Dda yn y 12fed ganrif. Roedd yn boblogaidd yng Nghymru drwy gydol yr Oesoedd Canol ac yn ffefryn ymysg y dosbarthiadau uwch. Mae Cyfreithiau Hywel Dda yn cyfeirio at y crwth, ynghyd â'r delyn a'r pibau, fel offeryn o statws a chwaraeir gan wŷr bonheddig ac a ddefnyddid yn aml mewn adloniant cerddorol. Cynhaliwyd cystadlaethau ar y crwth yn Eisteddfod gyntaf yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi ym 1176, ac mae cywydd gan Rhys Goch Eryri, tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, acrobatiaid a cherddorion (gan gynnwys y crythwyr) gai eu croesawu i gartrefi noddwyr cyfoethog. Poblogeiddio'r ffidil Newidiodd rôl gymdeithasol y crwth yn sylweddol oddeutu 1600 fodd bynnag, wrth iddo gael ei gysylltu fwyfwy â'r traddodiad gwerin. Daeth poblogrwydd y ffidil yn y 18fed ganrif ag oes y crwth fel offeryn byw i ben yng Nghymru i bob pwrpas, gan gau pen y mwdwl ar fileniwm a mwy o arfer a datblygiad. Erbyn ailgynnau'r diddordeb mewn cerddoriaeth draddodiadol yn nechrau'r 20fed ganrif, roedd y grefft o greu crwth, heb sôn am y dulliau cydnabyddedig o'i chwarae a thechnegau perfformio eraill, wedi mynd yn angof. Y crythau olaf O'r tair esiampl hanesyddol sy'n dal i fodoli, mae pob un yn offeryn chwe thant hirsgwar gyda chefn, ochrau a seinfwrdd gwastad, gyda'r corff, y seinflwch a'r brif ffrâm wedi'u cynhyrchu o un darn o bren. Mae byseddfwrdd yn rhannu agoriad hirsgwar yn un pen a gellir gweld dau dwll yn y seinfwrdd. Crwth Sain Ffagan Mae'r flwyddyn 1742 wedi'i harysgrifio ar y crwth a chafodd ei gynhyrchu gan Richard Evans o Lanfihangel Bachellaeth, Sir Gaernarfon. Cafodd ei fenthyg i'r Amgueddfa'n wreiddiol ym 1935 gan y Cyrnol J. C. Wynne Finch o'r Foelas, Sir Gaernarfon; ei deulu yw perchnogion yr offeryn hyd heddiw. Er ei fod yn gyflawn, mae cyfres o begiau tiwnio wedi'u cau sydd bron yn cydredeg â'r set bresennol. Crwth Aberystwyth Mae ail grwth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a roddwyd i'r Llyfrgell ar ei hagoriad ym 1907 gan ei phrif sylfaenydd, Syr John Williams. Mae'n bosibl taw'r Parchedig John Jenkins (1770-1829) o Geri, Sir Drefaldwyn oedd perchennog yr offeryn hwn. Er ei fod yn gyflawn (ac eithrio dau dant drôn sydd ar goll), mae gwaith adfer/atgyweirio sylweddol wedi cael ei wneud i'r prif fframwaith rywdro. Crwth Warrington Gellir gweld y drydedd esiampl yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington, ac er bod y dyddiad yn anhysbys mae'n debyg i offeryn a ddisgrifiwyd ac a ddarluniwyd yn rhifyn 1775 o'r cyfnodolyn Archaeologia (cyfrol III, plât vii). Prynwyd y crwth hwn yng Nghymru ym 1843 gan Dr James Kendrick, un o haneswyr lleol cyntaf Warrington a hynafiaethydd nodedig. Rhoddodd Kendrick y crwth i'r dref y flwyddyn honno gan ddod yn un o'r eitemau cyntaf i gael ei arddangos yn yr amgueddfa leol. Mae crwth Warrington yn llai cyflawn na'r ddau flaenorol, gyda'r gynffon, y tannau, y byseddfwrdd a'r nyten i gyd ar goll. Crwth Sain Ffagan dan belydr-X. Mae'r darn tywyllach yn y gwddf yn dangos gofod clir yn culhau ac mae agoriad cudd wedi'i guddio o dan y byseddfwrdd lle mae'r gofod ar ei fwyaf llydan Mae delwedd pelydr-x o grwth y Llyfrgell Genedlaethol yn dangos yr un nodweddion ag esiampl Sain Ffagan. Y crwth yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington. © Warrington Museum and Art Gallery. Mae byseddfwrdd coll crwth Warrington yn ein galluogi i weld maint llawn y gofod. Gellir gweld y gwahaniaeth rhwng y coed moel golau yn y llun a'r border tywyllach fyddai wedi'i leinio â glud. Datgelu agoriad cudd Mae gwaith cadwraeth ar grwth Sain Ffagan wedi datgelu agoriad cudd o dan y byseddfwrdd sy'n ymwthio tu hwnt i'r byseddfwrdd. Yn dilyn archwilio pellach, gwelwyd bod yr agoriad yn ymestyn ar hyd y gwddf. Datgelodd delwedd pelydr-x o'r offeryn fod gwagle pwrpasol sy'n culhau ar hyd y byseddfwrdd. Golyga hyn bod llai o arwyneb i ludo'r byseddfwrdd i'r gwddf ac felly byddai'n dipyn anoddach i'w gynhyrchu nag offeryn â gwddf solid, gwastad — fyddai wedi glynu'n well i arwyneb uwch y gwddf. Beth fyddai'r rheswm dros greu agoriad o'r fath? A fyddai'n gwella safon donyddol yr offeryn? Mae'n bosibl iawn y byddai'r agoriad wedi gweithio mewn modd tebyg iawn i seinflwch offeryn neu chwyddseinydd i roi sain mwy cyflawn wrth i'r tannau ddirgrynu. Offeryn bwa unigryw? Mae'n ddigon posibl bod yr ail seinfwrdd hwn yn gwneud y crwth yn unigryw ymysg offerynnau gaiff eu chwarae â bwa, gan nad oes nodwedd o'r fath wedi cael ei ddefnyddio yn un o offerynnau eraill teulu'r feiolin. Dangosodd archwiliad o grwth Aberystwyth agoriad tebyg yn y gwddf. Gan fod nodweddion gwahanol i'r esiampl hon i'r un a gedwir yn Sain Ffagan (a'i bod mwy na thebyg wedi cael ei hadeiladu gan grefftwr gwahanol) mae'n ddigon posibl bod agoriad o'r fath yn nodwedd oedd yn gyffredin i bob crwth. Er mwyn cadarnhau'r ddamcaniaeth hon, dangosodd archwiliad manwl o ddelwedd o'r crwth yn Amgueddfa Warrington y gellir gweld y llinellau glud yn culhau bob ochr i'r gwddf, gyda phren moel yn y canol, gan ddangos maint yr agoriad gwreiddiol. Mae'r amrywiad yn y cynllun eto'n awgrymu taw crefftwr gwahanol a'i cynhyrchodd. Mae'n rhaid felly bod agoriad yng ngwddf y crwth yn dechneg adeiladu safonol y byddai gwneuthurwyr crythau yn eu defnyddio wrth adeiladu'r offeryn. Mae'n bosibl bod modd profi'r gwahaniaeth a wnaiff yr agoriad hwn i sain yr offeryn drwy gofnodi graddfa donyddol atgynhyrchiad o grwth sydd â byseddfwrdd solid, cyn creu agoriad yn yr un offeryn a chofnodi'r gwahaniaeth. Dyluniad mewn inc ar arwyneb y byseddfwrdd a ddaeth yn amlwg o dan olau uwchfioled yn unig Rhaid tynnu sylw hefyd at nodwedd arbennig arall am grwth Sain Ffagan, sef dyluniad mewn inc ar arwyneb y byseddfwrdd a ddaeth yn amlwg o dan olau uwchfioled yn unig. Gan y byddai'r crwth yn cael ei ddal yn erbyn y corff fel arfer, gallai'r offerynnwr weld i lawr y gwddf a byddai cynllun ar y byseddfwrdd o bosibl wedi helpu gyda lleoliad y bysedd ar y gwddf. Yn rhyfedd iawn, mae ôl y dyluniad hwn i'w weld hefyd ar seinfwrdd telyn fechan sydd hefyd i'w gweld yn Sain Ffagan. Erthygl gan: Emyr Davies, Cadwraethydd: Celfi, Offerynnau Cerdd a Horoleg, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Emma Lile, Curadur: Cerddoriaeth, Chwaraeon ac Arferion Traddodiadol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Tarddiad Cerrig Gleision Côr y Cewri Richard Bevins, 21 Chwefror 2012 Pont Saeson, Mehefin 2011. Pont Saeson, Mehefin 2011. Mae tarddiad cerrig gleision Côr y Cewri wedi bod yn destun dyfalu a dadlau ers blynyddoedd. Cafodd tarddiad un math o'r garreg las ei ganfod yng ngogledd Sir Benfro ddechrau'r 1920au, ond erbyn hyn mae daearegwyr Amgueddfa Cymru wedi canfod cysylltiad uniongyrchol rhwng math arall o'r garreg a rhan wahanol o ogledd Sir Benfro. Tybed a fydd modd i ni ganfod syniadau newydd am sut y cafodd y cerrig eu cludo i Gôr y Cewri? Côr y Cewri Côr y Cewri, ar Wastadeddau Caersallog, yw un o henebion mwyaf eiconig y byd. Mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ac mae'r un mor gyfarwydd ym mhedwar ban ag y mae safleoedd enwog fel Machu Picchu yn Peru a Rhyfelwyr Terracotta Xian yn Tsieina. Mae Côr y Cewri'n safle cymhleth. Mae fwyaf adnabyddus am ei feini hirion, sy'n cynnwys y Cylch Allanol, y Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Garreg Sawdl ac, o fewn y strwythur, yr 'Allorfaen'. O amgylch y cylch cerrig mae twmpathau a ffosydd, a chyfres o 'dyllau' y tybir iddynt gynnwys meini hirion corau eraill. Mae'r tyllau hyn, sy'n cael eu galw'n Dyllau Aubrey, yn bwysig am eu bod yn cynnwys malurion (neu 'naddion' mae rhai archaeolegwyr yn eu galw) nad yw ei litholeg i'w weld ymhlith y meini hirion cyfredol. Fodd bynnag, rhan yn unig yw Côr y Cewri fel y sefyll heddiw, o ystod ehangach o nodweddion cyfoes sy'n cynnwys y Rhodfa, y Cwrsws, a'r diweddaraf i'w bennu, Côr Gorllewin Amesbury (y'i gelwir yn 'Bluestonehenge' — Côr y Cerrig Gleision). At ei gilydd, dyma Dirwedd Côr y Cewri. Yr enw ar gerrig mawr y Cylch Allanol yw 'Sarsenau'. Dyma gerrig o dywodfaen caled a gwydn y credir iddynt gael eu casglu o amgylchedd lleol Gwastadeddau Caersallog. Mae tarddiad cerrig llai'r Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Allorfaen, sef y Cerrig Gleision, yn fath 'egsotig' yn ardal Gwastadeddau Caersallog. Am flynyddoedd lawer, bu archwilwyr Fictoraidd blaengar yn pendroni yn eu cylch. Dyma litholeg y Cerrig Gleision, fel y'i gelwir. Y Cerrig Gleision Fodd bynnag, yn ei bapur a gyhoeddwyd yn The Antiquaries Journal ym 1923, roedd H. H. Thomas o'r Arolwg Daearegol yn honni iddo ganfod tarddiad dolerit smotiog y Cerrig Gleision ym mrigiadau creigiog, neu 'tyrrau', uchelfannau'r Preseli, i'r gorllewin o Grymych. Yn benodol, credai mai'r tyrrau yng Ngharn Menyn a Cherrig Marchogion oedd y tarddleoedd tebygol. Aeth ymlaen i ystyried sut y cludwyd y cerrig gan bobl i Wastadeddau Caersallog gan fwrw amcan ar ddull cludo ar dir yn hytrach na siwrnai ar fôr a thir. Nid dolerit smotiog yw'r holl Gerrig Gleision sy'n sefyll yng Nghôr y Cewri heddiw fodd bynnag. Tyffiau llif lludw yw pedair ohonynt, o gyfansoddiad dacitig neu ryolitig. Mae malurion a ganfuwyd yn Nhyllau Aubrey ac mewn cloddiadau archaeolegol eraill yng Nghôr y Cewri a'i Dirwedd yn cynnwys dolerit smotiog a rhagor o ddeunydd dacitig a rhyolitig gwahanol iawn. Cynllun o Gôr y Cewri Cynllun o Gôr y Cewri Tirlyn Gôr y Cewri Canfyddiadau diweddar Yn 2009, cychwynnodd Amgueddfa Cymru archwiliadau petrolegol newydd. O astudio malurion o Gae'r Cwrsws, ger y Cwrsws, gwelwyd presenoldeb samplau gafodd eu pennu'n dyffiau llif lludw, gyda phwmis tiwb, darnau crisial a chlastau lithig ar batrwm matrics graen mân wedi'i ailgrisialu. Maent yn gymharol debyg i'r pedair maen hir dacitig a rhyolitig, ond mae gwahaniaethau allweddol. Hefyd yn bresennol oedd samplau y'u gelwyd gynt yn anffurfiol yn 'rhyolit â ffabrig'. Diffinnir y litholeg hon gan ffabrig datblygedig iawn, sy'n bresennol ar raddfa milimetrau. O ddilyn y gwead nodedig hwn, mae gwyddonwyr yr Amgueddfa wedi pennu Pont Saeson, sydd yn y tiroedd isel tua'r gogledd i Fynydd Preseli, fel tarddiad y garreg. Anweddu'r Cerrig Gleision I brofi'r tarddiad ymhellach, casglwyd tystiolaeth feintiol drwy ddadansoddi cyfansoddiad mân grisialau sircon, maint micron, o Gôr y Cewri, a samplau rhyolit o Bont Season. Defnyddiwyd techneg o'r enw 'sbectromeg màs anwythiad abladiad laser cypledig' ym Mhrifysgol Aberystwyth. Canolbwyntir pelydr laser pwerus iawn sydd â diamedr o 10 micron yn unig ar y crisialau sircon (sy'n ddim mwy na 100 micron) a'u 'habladu' — sef eu hanweddu fwy neu lai — gan adael y crisialau sircon yn frith o dyllau bach. Yna, caiff yr anwedd a gynhyrchir yn y broses ei ddadansoddi yn y sbectromegydd màs, sy'n dangos cemeg y crisialau sircon. Dyma'r tro cyntaf i gemeg sircon gael ei defnyddio i ganfod tarddiad deunydd archaeolegol. Yn ogystal â sirconiwm (a haffniwm, elfen sy'n perthyn yn agos iddo) roedd y crisialau'n cynnwys crynodiadau digonol i'w hadnabod o ystod o elfennau gan gynnwys sgandiwm, tantalwm, wraniwm, thoriwm a'r elfennau daear prin. Roedd dadansoddiad y ddau set o samplau bron yr union yr un peth, gan ddarparu 'ôl bys' geogemegol. Mae'r canlyniad o bwys sylweddol ac fe'i gyhoeddwyd yn 2011 mewn cyfnodolyn o bwys rhyngwadol, Journal of Archaeological Science. Ym mis Mehefin 2011, cynhaliwyd gwaith samplo manylach gan bennu'r brigiad a elwir yn Graig Rhos-y-felin ger Pont Saeson fel tarddiad y rhan fwyaf o'r malurion rhyolit a ganfuwyd yn ystod gwaith cloddio yng Nghôr y Cewri a gerllaw. Cyhoeddwyd canlyniadau'r cloddiadau diweddaraf hyn yn y cyfnodolyn Archaeology in Wales ym mis Rhagfyr 2011. External links Prifysgol Caerlŷr UNESCO: Côr y Cewri Safle Treftadaeth y Byd Prifysgol Aberystwyth Journal of Archaeological Science Archaeology in Wales Journal