Darganfod T. Leigh: canfod peintiwr coll Stephanie Roberts, 26 Ionawr 2012 Gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Concordia, Montreal, mae ymchwilwyr yn Amgueddfa Cymru wedi datgelu gwybodaeth newydd am fywyd a gwaith y peintiwr portreadau anadnabyddus, Thomas Leigh. Credir bellach bod dau beintiwr o'r enw Thomas Leigh — tad a mab — ond gobeithio y gellir darganfod mwy o baentiadau fydd yn gymorth i dynnu'r llen ar ddirgelwch bywyd y teulu hwn o beintwyr. T. Leigh: yr enigma Gall gwneud ymchwil i waith peintiwr anadnabyddus o'r 17eg ganrif fod yn dasg anodd. Weithiau, y gwaith a orffennwyd yw'r unig beth ar ôl o fywyd yr artist, ac felly oedd hi gyda Thomas Leigh. Ym 1941, cyhoeddodd yr hanesydd celf Maurice Brockwell apêl am wybodaeth am y peintiwr 'di-nod' T. Leigh gan nodi; 'It is strange that we still know nothing about his origin, place and date of birth... marriage, and death,'.1 Dim ond trwy ei lofnod y gwyddid am Leigh ar y pryd, a hynny ar chwe phortread gan gynnwys un o Robert Davies o Wysane. Doedd dim sicrwydd beth oedd ei enw cyntaf hyd yn oed. Mae nifer o bortreadau eraill gan Leigh wedi eu canfod ers hynny, gan ddod a'r cyfanswm i un deg tri. Fig.1: Thomas Leigh, Robert Davies III o Wysane, 1643, NMW A 20 Fig.2: Thomas Leigh, Anne Davies, 1643, NMW A 21 Rhestr o bortreadau gan Thomas Leigh Robert Davies o Wysane, 1643 (Amgueddfa Cymru, ffig.1) Anne Davies o Wysane, 1643 (Amgueddfa Cymru, ffig.2) Eleanor Mutton (Eyton yn ddiweddarach), 1643 (lleoliad anhysbys) Robert Davies o Wysane, 1643 (casgliad preifat) Anne Davies o Wysane, 1643 (casgliad preifat) Eleanor Mutton, 1643 (casgliad preifat) Margaret Lloyd o Esclus, 1643 (casgliad preifat) Robert Ashley, c.1656 (Llyfrgell Middle Temple, Llundain) Aston Cokayne, c.1635-40 (lleoliad anhysbys) Boneddiges Anhysbys a elwir yn Iarlles Derby, 1634 (lleoliad anhysbys) Thomas Heyton, 1634 (Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Trerice) Isabel Heyton, 1634 (Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Trerice) David, Iarll 1af Barrymore (lleoliad anhysbys) Fig.3: Artist Prydeinig anhysbys, Y Fonesig Mutton, tua 1640, NMW A 3742 Fig.4: Artist Prydeinig anhysbys, Syr Peter Mutton, 17eg ganrif, NMW A 3741 Fig.5: Artist Prydeinig anhysbys, Llanerch, Sir Ddinbych, Cymru, c. 1667, Canolfan Celf Brydeinig Yale, Casgliad Paul Mellon B1976.7.115 Chwilio am beintiwr coll Er mwyn canfod person 'coll' mae'n rhaid chwilio trwy doreth o ddogfennau a rhestrenni mewn archifau lleol, a gellir canfod pethau hynod. Mae'r cyfeiriad cynharaf ato yn dangos bod Leigh yn Llundain ym 1613/14, lle cafodd ei wysio i'r llys ddwy waith: y tro cyntaf am ryddhau carcharor, a'r ail dro am ddadlau â chychwr!2 Mae'n debyg iddo adael Llundain am Gaer. Cafwyd tro yng nghynffon y stori wedi darganfod dogfen yn archifau Caer. Ym 1642 cyflogodd y peintiwr Edward Bellen ddau jermon newydd: Thomas Leigh a'i fab.3 Awgrymai'r dystiolaeth newydd hon bod dau beintiwr o'r enw 'T. Leigh', tad a mab, a'u bod yn gweithio gyda'u gilydd am gyfnod. Gwr o Gaer? Yn ogystal â gweithio yn Swydd Gaer, mae'r dystiolaeth yn awgrymu eu bod yn hanu o'r sir yn wreiddiol. Efallai na fyddwn ni byth yn medru eu canfod fodd bynnag, gan fod bron i ugain Thomas Leigh wedi'u cofrestru yno yn y 17eg ganrif — a dyna'r rhai y gwyddon ni amdanynt! Roedd cymuned fawr o beintwyr yn gweithio yng Nghaer yn y 17eg ganrif. Byddai'r rhan fwyaf yn peintio tai, arfbeisiau a herodrau, ond trodd rhai at bortreadau, gan ateb galw cynyddol gan y dosbarth uwch am botreadau i arddangos yn eu plastai yn y wlad. Tramorwyr oedd nifer o'r peintwyr portreadau a weithiau ym Mhrydain yn ystod y cyfnod, a thrwy hyn fe gyflwynwyd arddulliau a thechnegau newydd a ddylanwadodd ar beintwyr Prydain. Ganwyd Cornelius Johnson i rieni o'r Iseldiroedd, ac mae'n debyg i'w naturoliaeth dawel ddylanwadu ar Leigh. Mae rhai yn credu iddo dderbyn hyfforddiant ganddo hyd yn oed.4 Portreadau'r teulu Davies Mae dau bortread gan Thomas Leigh yn yr Amgueddfa — portread o Robert Davies o Wysane, a'i wraig Anne (ffigyrau 1a 2). Peintiwyd y ddau ym 1643 i'w harddangos yn Neuadd Llannerch, cartref rhieni Anne, Syr Peter Mutton a'i wraig (ffigyrau 3-5). Peintiodd Leigh bortread o chwaer Anne Eleanor hefyd, ond mae lleoliad presennol y llun yn anhysbys. Roedd hi'n arferol i beintwyr gopïo portreadau ar gyfer gwahanol aelodau o'r teulu, ac fe beintiodd Thomas Leigh sawl fersiwn unfath i'w harddangos yn ystâd teulu Davies, Gwysane. Wyddon ni ddim pam y comisiynodd y teulu Davies y grŵp hwn o bortreadau. Ddegawd ynghynt, priododd Robert ag Anne ‐ oedd yn 12 oed ar y pryd — gan uno ystadau Gwysane a Llannerch. Allwch chi helpu? Anaml y byddai peintwyr ar ddechrau'r 17eg ganrif yn llofnodi eu gwaith, ond mae'r Leighs wedi gadael dau lofnod gwahanol. Efallai taw llofnod y tad yw un a llofnod y mab yw'r llall, ond mae'n anodd profi hyn. Dos dim dwywaith nad oes portreadau eraill gan Thomas Leigh sy'n dal heb eu darganfod. Ydych chi wedi gweld ei lofnod ar bortread sydd heb gael ei restru yma? Efallai taw dyna'r darn jig-so olaf, fydd yn datgelu'r cyfan am ddirgelwch bywyd y teulu hwn o beintwyr! Llofnod 1 Llofnod 2 Llyfryddiaeth Bellach Stephanie Roberts a Robert Tittler, 'Discovering 'T.Leigh': Tracking the elusive portrait painter through Stuart England and Wales', British Art Journal X1:2 (2010/11), tud.24-30 Nodiadau Maurice Brockwell, 'T.Leigh, Portrait-Painter, 1643', Notes&Queries rhif181 (Awst, 1941), tud.119 'Sessions, 1613: 28 and 30 June' and 'Sessions, 1614: 5 and 6 May', County of Middlesex. Calendar to the sessions records: new series, cyfrol1: 1612-14 (1935), tud. 117-154 a 400-452; Chester Archive MS G17/2, Minutes of the Company of Painters, Glaziers, Embroiderers and Stationers of Chester 1620-1836, unpagenated vide 1642 J. D. Milner, 'Two English Portrait Painters', Burlington Magazine 29:165 (Rhagfyr. 1916), tud.374 Cysylltiadau Prifysgol Concordia, Montreal
Casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams 6 Mai 2011 NMW A(L) 606 Ceri Richards The Pianist 1949 Pencil, indian ink and watercolour 38.2 x 56.2 cms On loan from the Derek Williams Trust since 1984 © Estate of Ceri Richards. All rights reserved, DACS 2010 NMW A(L) 561 Josef Herman Three Welsh Miners About 1966 Oil on canvas 66 x 51 cms On loan from the Derek Williams Trust since 1984 Copyright of Artist's Estate NMW A(L) 577 Ben Nicholson 1944-45 (Painting) 1944-45 pencil and watercolour on board 17.2 x 16.8 cms On loan from the Derek Williams Trust since 1984 © Angela Verren Taunt 2010. All rights reserved, DACS. Derek Mathias Tudor Williams F.R.I.C.S. (1929-1984) yw cymwynaswr mwyaf Amgueddfa Cymru ers Gwendoline a Margaret Davies. Dyn diymhongar, preifat oedd Derek Williams, a weithiai fel syrfëwr siartredig yng Nghaerdydd a Phontypridd. Mwynhâi lawer o weithgareddau hamdden, gan gynnwys golff, opera, ffotograffiaeth, ond yn fwy na dim, casglu celfyddyd gyfoes oedd yn mynd â’i fryd. Cafodd foddhad aruthrol yn datblygu ei gasgliad a'i arddangos yn ei gartrefi niferus. Mae'r casgliad yn cynnwys nifer fawr o weithiau gan arlunwyr neo-ramantaidd Prydeinig, gan gynnwys Ceri Richards, John Piper, David Jones a Keith Vaughan. I gefnogi'r rhain, ceir gweithiau gan arlunwyr eraill o'r un cyfnod, megis Lucian Freud, Josef Herman, Ivon Hitchens, Graham Sutherland, Ben Nicholson a Henry Moore. Bu farw Derek Williams yn 1984, a galwai ei ewyllys am i'w gasgliad a gweddill ei ystâd gael eu cadw mewn ymddiriedolaeth, gan adael i'w ymddiriedolwyr ofalu am y gweithiau celf a'u harddangos yn gyhoeddus, ynghyd â chyfrannu at y gwaith o ehangu'r casgliad. Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Derek Williams gan ei ysgutorion ym 1992, a lluniwyd cytundeb ffurfiol rhyngddynt a'r Amgueddfa yn y flwyddyn ganlynol i gydweithio er mwyn cyflawni dymuniadau Derek Williams. Ers hynny, bu casgliad yr Ymddiriedolaeth ar fenthyg hirdymor i'r Amgueddfa ac ychwanegwyd dros hanner cant o weithiau gyda mwy'n parhau i gael eu prynu bob blwyddyn. Nifer o luniau gan arlunwyr blaenllaw'r 1970au, 80au a'r 90au, gan gynnwys Michael Craig-Martin, Craigie Aitchison, Sean Scully a Howard Hodgkin yw nifer dda o'r ychwanegiadau newydd. Caiff casgliad gwreiddiol Derek Williams ei ymestyn a'i gryfhau o hyd drwy brynu gweithiau pwysig gan arlunwyr canol yr ugeinfed ganrif, yn eu plith Ceri Richards, Henry Moore, John Minton ac Edward Burra. Dangoswyd diddordeb mewn celfyddyd gyfoes ryngwladol drwy brynu gweithiau'n gyson gan arlunwyr y gwelir eu gwaith yn Artes Mundi. Nid yw Ymddiriedolaeth Derek Williams yn anghofio'r celfyddydau cymhwysol ac mae ganddi ddiddordeb byw yn y maes hwn. Prynodd unarddeg o weithiau celfyddyd gymhwysol dros yr un mlynedd ar bymtheg ddiwethaf, a chynorthwyodd yr Amgueddfa i brynu nifer o ddarnau celf, yn enwedig ym maes cerameg. Hefyd, mae gan yr Ymddiriedolaeth ddiddordeb mewn gwaith gan arlunwyr cyfoes Cymreig ac arlunwyr sy'n gweithio yng Nghymru, gan gynnwys prynu gwaith gan enillwyr Medal Aur yr Eisteddfod. Mae haelioni a chefnogaeth mawr Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi arwain at alluogi yr Amgueddfa i brynu sawl darn o gelfyddyd ôl-1900 i'w chasgliad celfyddyd fodern, yn cynnwys David Hockney, Stanley Spencer a Pablo Picasso.
Bywyd ffosil - ar raddfa wahanol 8 Mawrth 2011 Y pysgodyn ffosil Pholidophorus; mae'r cylch yn dangos yr ardal dywyll lle mae'r bacteria ffosil wedi'u cadw Golwg drwy ficrosgop ar y gytref o facteria ffosiledig, wedi'i chwyddo x20,000 Ffosilau yw gweddillion bywyd hynafol. Mae'r rhan fwyaf o ffosilau anifeiliaid wedi'u gwneud o rannau caled y corff fel esgyrn, dannedd a chregyn. Mewn rhai achosion prin, gall meinwe meddal neu facteria hyd yn oed gael eu ffosileiddio. Pysgodyn ffosil o Wald yr Haf sydd wedi'i gadw'n dda Darganfuwyd y pysgodyn ffosil a welir yma ar draeth Kilve yng ngogledd Gwlad yr Haf, ac er ei fod wedi colli'i ben, mae'r gweddill wedi cadw'n dda. Mae'r ffosil tua 11cm o hyd ac mae ei gen yn amlinellu siâp ei gorff. Gellir gweld olion yr esgyll blaen hefyd. Pholidophorus yw enw'r pysgodyn; mae'n anifail sydd wedi marw allan oedd yn edrych yn debyg i'r pennog modern. Bu farw'r pysgodyn hwn bron i 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl tra'n nofio yn y môr Jwrasig oedd yn gorchuddio Gwlad yr Haf. Cafodd y corff lonydd gan sborionwyr wedi iddo farw ac felly cafodd ei gladdu mewn gwaddod mân. Caledodd y gwaddod yma yn y pen draw i ffurfio carreg a cafodd y pysgodyn ei ffosileiddio y tu mewn iddi. Manylion microsgopig yn datgelu mwy o weddillion ffosiledig Er ei fod yn esiampl dda, mae'r pysgodyn ffosil hwn wedi cadw rhywbeth mwy hynod fyth hyd yn oed. Tynnodd gwyddonwyr Amgueddfa Cymru ddarnau bychan o ganol y ffosil i'w hastudio o dan ficrosgop electron. Wedi chwyddo'r ddelwedd 20,000 o weithiau, daeth rhai manylion bychan i'r golwg — haen o strwythurau pitw hirgrwn. Dyma weddillion ffosiledig bacteria. Mae bacteria wedi ffosileiddio wedi eu canfod mewn sawl lle yn y byd, ac mae'r mwyaf amlwg mewn ffosilau yn Ne America a'r Almaen. Mae'r bacteria wedi'u cadw mewn calsiwm ffosffad yn aml iawn, am fod calsiwm yn elfen gyffredin mewn gwaddod, a ffosfforws yn cael ei greu wrth i feinwe anifeiliaid bydru. Sut ydyn ni'n gwybod taw bacteria ffosil yw'r rhain? Yn gyntaf, maen nhw wedi clystyru at eu gilydd mewn cytrefi ac o faint a siâp tebyg i facteria modern. Yn ail, mae meinweoedd cellol bregus eraill, fel celloedd embryo a ganfuwyd yng nghreigiau Cambriaidd Tsieina, wedi cael eu cofnodi. Gall meinwe cyhyr wedi ffosileiddio hyd yn oed gadw manylion mewnol celloedd, er enghraifft yng nghreigiau Jwrasig Brasil a chreigiau Mïosenaidd Sbaen. Mae gwyddonwyr yn gweld achosion o ffosileiddio celloedd yn amlach, yn cynnwys bacteria, wrth iddyn nhw edrych yn fanylach ar y ffosilau yn eu casgliadau. I gloi, mewn achosion prin gall haen denau dywyll o facteria ffosil amlinellu ffosil, gan ddatgelu siâp meinweoedd cnawdol o amgylch y sgerbwd, fel yng nghreigiau Ëosen yr Almaen. Mae hyn yn dweud wrthon ni bod y bacteria wedi ffosileiddio'n gyflym wedi iddyn nhw farw. Mae'n dod yn gynyddol amlwg bod bacteria yn chwarae rôl bwysig wrth ffosileiddio, gyda'r bacteria eu hunain weithiau yn cael eu cadw. Wrth edrych ar ffosil, mae'n naturiol meddwl pa fath o anifail neu blanhigyn yw e, ond gellir gwneud rhai darganfyddiadau diddorol drwy ofyn o beth mae'r ffosil wedi ei wneud?. Mae'r ateb wrth edrych yn agosach yn peri syndod yn aml a gall fod yn allweddol i ddysgu sut y cafodd yr organeb ei ffosileiddio yn y lle cyntaf.
Cymru 1678: Ail-greu'r brasluniau cynharaf o Gymru a luniwyd yn y fan a'r lle Emily O'Reilly, 11 Chwefror 2011 Castell Benfro Dinbych-y-pysgod Mae gan Amgueddfa Cymru frasluniau o bymtheg golygfa o Gymru a luniwyd gan Francis Place (1647-1728). Mae deg o'r rhain mewn un llyfr braslunio. Tynnwyd y deg braslun ym 1678, a dyma'r lluniau cynharaf o Gymru a dynnwyd 'yn y fan a'r lle'. Prynodd yr Amgueddfa'r brasluniau gan ddeliwr ym 1931. Roedd y deliwr wedi'u prynu yn Sotheby's mewn arwerthiant o gasgliad Coleg Celf Patrick Allan-Fraser yn Arbroath, yr Alban. Roedd y casgliad yn cynnwys darluniau, argraffiadau, crochenwaith a'r unig lun olew hysbys, sef hunanbortread, a ddaeth i law'n uniongyrchol drwy deulu Place. Mae'r darluniau wedi'u gwneud drwy gyfuno o leiaf dwy ddalen ar wahân a'u gludo ar ddalen arall i'w dal at ei gilydd, sef papur cynnar wedi'i wehyddu mwy na thebyg, sy'n awgrymu bod y gwaith yn perthyn i ddiwedd y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd rhai darluniau a oedd yn ymestyn dros y dudalen wedi'u gadael yn 'rhydd', fel bod modd i'r sawl a oedd yn edrych arnynt godi'r dudalen a gweld yr ochr arall. Roedd eraill wedi'u gludo i ddalen gynnal gan guddio'r braslun 'dibwys' ar y cefn. Brasluniau cudd Yn ystod y gwaith cadwraeth, penderfynodd staff yr Amgueddfa dynnu'r holl frasluniau oddi ar y dalenni cynnal. Ar ôl tynnu'r holl frasluniau o'r llyfr, daeth i'r amlwg bod darlun ar gefn un dudalen yn perthyn i ddarlun ar gefn tudalen arall, gan greu darlun dwy dudalen newydd. Drwy wneud hyn datgelwyd brasluniau nad oeddent wedi'u gweld ers i'r llyfr braslunio gwreiddiol gael ei ddarnio o leiaf 200 mlynedd yn ôl. Roedd yn bosibl gweld trefn wreiddiol y brasluniau hefyd. Caerdydd Mae gan lawer o'r brasluniau groes neu saeth yn dangos lle mae'r olygfa banoramig yn ymestyn dros y dudalen. Mae Caerdydd yn ddau fraslun dwy dudalen sy'n uno. Mae yna groes ar dŵr yr eglwys yn y ddau fraslun, yn dangos lle mae'r ddau yn gorgyffwrdd. Cardydd (1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 1 Cardydd (1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 2 Caerdydd (1678) Francis Place, wedi'u cyfuno'n ddigidol. Golygfeydd panoramig nas gwelwyd o'r blaen Gan nad oedd llawer o botensial mewn dangos y golygfeydd hanesyddol hyn o Gymru mewn oriel draddodiadol, cafodd y lluniau eu sganio a'u cyfuno drwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Roedd modd gweld y lluniau panoramig fel delweddau cyflawn am y tro cyntaf erioed wedyn. Yn ystod y broses, dadlennwyd gwybodaeth am ddulliau Place o weithio. Wrth gyfuno'r tudalennau gwahanol, nid oedd angen newid y gorwel yn y lluniau i sicrhau ei fod yn syth — tystiolaeth o allu Place fel dyluniwr. Er nad yw technoleg wedi newid y dulliau o drin y gwrthrychau hyn, mae wedi gwella ein gwybodaeth amdanynt drwy ddatgelu llawer am ddulliau gweithio'r arlunydd. Ystumllwynarth Mae gan Ystumllwynarth ddwy groes ar yr ymyl chwith, yn dangos bod y darlun yn parhau dros y dudalen. Ar ochr arall y ddalen ceir croesau cyfatebol ar yr ymyl dde. Ystumllwynarth (1678) Francis Place. Braslun 1 Ystumllwynarth (1678) Francis Place. Braslun 2 Ystumllwynarth (1678) Francis Place wedi'u cyfuno'n ddigidol Ymchwil Mae'r rhan fwyaf o waith gwreiddiol Place yn dod o arwerthiant Sotheby's ym 1931. Mae eitemau amrywiol o'r arwerthiant hwn bellach i'w gweld yn Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain, gan gynnwys nifer o ddarluniau wedi'u mowntio a dau lyfr braslunio. Mae'r eitemau hyn yn awgrymu bod y darluniau sydd i'w gweld yn Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Victoria ac Albert yn perthyn i un llyfr braslunio yn wreiddiol. Mae llyfr braslunio cyntaf Amgueddfa Victoria ac Albert yn cynnwys deunaw tudalen, yr un nifer yn union â'r un yn Amgueddfa Cymru, ac mae ganddo'r un dyfrnodau; ceir rhestr ar ddechrau'r llyfr braslunio sy'n cyfateb i'r golygfeydd ynddo, ac mae'r rhestr yn parhau gyda llefydd yng Nghymru sy'n cyfateb i'r drefn a sefydlwyd ar ôl astudio brasluniau Amgueddfa Cymru. Er nad Place a ysgrifennodd y rhestr, mae'n ymddangos yn gymharol hen. Efallai mai un o ddisgynyddion Place a wnaeth y rhestr cyn symud y brasluniau gorau i'w mowntio mewn llyfr ar wahân? Ceir mwy o dystiolaeth yn ail lyfr braslunio Amgueddfa Victoria ac Albert, sy'n cynnwys darn o bapur wedi'i ludo y tu mewn i'r clawr cefn. Mae'r ddalen hon yn cyfateb i'r braslun olaf yn y llyfr braslunio cyntaf. Yn anffodus, mae'r dudalen olaf wedi'i gludo i lawr, ond ar yr unig ddarn bach y gellir ei godi, gwelir llinell pensil glir, a allai gyfateb i un o frasluniau Amgueddfa Cymru... Dinbych-y-Pysgod Gwelir enghraifft arall o blygu drosodd ynDinbych-y-Pysgod. Mae'r plyg ar ochr chwith y darlun yn dangos yr ochr arall. Dinbych-y-Pysgod (1678) Francis Place. Braslun 1 Dinbych-y-Pysgod (1678) Francis Place. Braslun 2 Dinbych-y-Pysgod (1678) Francis Place. Wedi'u cyfuno'n ddigidol
Francis Place (1647-1728) Emily O'Reilly, 10 Chwefror 2011 Mae gan Amgueddfa Cymru frasluniau o bymtheg golygfa o Gymru a luniwyd gan Francis Place (1647-1728). Mae deg o'r rhain mewn un llyfr braslunio. Tynnwyd y deg braslun ym 1678, a dyma'r lluniau cynharaf o Gymru a dynnwyd 'yn y fan a'r lle'. Ond pwy oedd Francis Place? Brodor o Swydd Efrog oedd Francis Place, ac fe'i ganwyd i deulu cyfoethog ym 1647, yr olaf o ddeg o blant. Penderfynodd ei dad y dylai Francis ddilyn ei ôl troed ef fel cyfreithiwr, a phan oedd yn ddwy ar bymtheg neu'n ddeunaw oed aeth Francis i Gray's Inn yn Llundain i astudio'r Gyfraith. Fodd bynnag, nid oedd y gyfraith yn apelio at Francis, a chafodd esgus i roi'r gorau i astudio a dychwelyd adref yn sgil y Pla Mawr ym 1665. Dychwelodd i Lundain yn fuan wedyn i weithio gyda Wenceslaus Hollar, a'i cyflwynodd i'r gwaith o wneud a gwerthu argraffiadau. Mae'n bosibl bod Place wedi derbyn ei holl etifeddiaeth, neu gyfran ohoni, cyn marwolaeth ei dad ym 1681, a byddai hyn wedi ei alluogi i ddilyn ei ddiddordeb mewn celf a physgota. Brenhiniaeth a'r oes Virtuosi Oes y Virtuosi oedd yr ail ganrif ar bymtheg — cyfnod pan oedd dynion cyfoethog ag amser ar eu dwylo rhannu diddordeb mewn celf, gwyddoniaeth ac athroniaeth. Aeth llawer ohonynt ymlaen i sefydlu'r Gymdeithas Frenhinol ym 1660. Yn ystod hanner cyntaf y ganrif, dim ond aelodau o'r teulu brenhinol a'r rhai oedd â chysylltiad agos â nhw oedd yn dysgu sut i ddarlunio a pheintio. Tua diwedd y ganrif daeth celf yn boblogaidd ymhlith tirfeddianwyr cefnog a'u meibion a'u merched. Aethant ati i astudio er mwyn ennill gwybodaeth, a oedd yn wahanol iawn i'r rhai oedd yn dibynnu ar ddarlunio fel bywoliaeth. Er mai amatur oedd Place yn y bôn, ceir tystiolaeth iddo dderbyn arian am ei waith, yn enwedig yn y dyddiau cynnar. Felly roedd Place yn debyg iawn i wŷr bonheddig eraill y cyfnod; roedd ganddo ddigon o amser ac arian, a dengys yr hyn sydd wedi goroesi o'i waith iddo arbrofi gyda sawl cyfrwng, gan gynnwys porslen. Roedd yn aelod o Virtuosi Efrog a oedd yn cynnwys Martin Lister, Henry Gyles, Thomas Kirke FRS a William Lodge. Mae'n bosibl iddo ennill comisiynau yn sgil ei aelodaeth o'r grŵp hwn. Diolch i arian ei dad, teithiodd Place yn helaeth o gwmpas y DU i fraslunio a physgota. Dengys ohebiaeth o'r cyfnod bod y brasluniau sydd gan Amgueddfa Cymru wedi'u gwneud yn ystod taith Place yng Nghymru a Gorllewin Lloegr ym 1678. Ri gyfaill William Lodge oedd ei gydymaith ar y daith, oedd hefyd yn aelod o Virtuosi Efrog. Roedd teithio yn ystod y cyfnod hwn yn gallu bod yn beryglus. Roedd sawl cynllwyn Pabaidd ar waith ar y pryd, a gwyddom i'r ddau ddyn dreulio noson yn y carchar yng Nghymru yn sgil amheuaeth eu bod yn ysbiwyr Jeswitaidd. Dinbych y Pysgod Braslun gwreiddiol Dinbych y Pysgod Dinbych y Pysgod wedi'u cyfuno'n ddigidol: