Mae gan y Llyfrgell gyfres o lyfrau cregyn Japaneaidd hardd iawn yn ei chasgliad o folysgiaid.
Enw’r llyfr yw Kai Chigusa, ond mae’n fwy adnabyddus fel Kai sen shu (Darluniau Miloedd o Gregyn) gan Yoichirō Hirase (1859–1925), ac fe’i cynhyrchwyd rhwng 1914 a 1922.
Cregynegwr oedd Hirase, a greodd y casgliad mwyaf o gregyn yn Japan ar droad y ganrif a sefydlu ei amgueddfa gregyn ei hun (Amgueddfa Gregynegol Hirase) yn ninas Kyoto rhwng 1913 a 1919. Roedd ei fab Shintarō Hirase (1884–1939) hefyd yn falacolegwr Japaneaidd, a fu’n addysgu yng Ngholeg Seikei.
Llyfr pedair cyfrol yw hwn, gyda phob cyfrol yn llyfr plygu ‘orihon’. Techneg draddodiadol a ddefnyddir i greu llyfrau yw hon, sy’n cynnwys stribed hir o bapur ag ysgrifen ar un ochr, sydd yna’n cael ei gywasgu trwy ei blygu’n igam-ogam nes ei fod yn mynd i’w gilydd fel consertina. Yn Tsieina y tarddodd hyn, ond cafodd ei ddatblygu’n ddiweddarach yn Japan, lle mae’n gysylltiedig yn bennaf â gweithiau neu lyfrau lluniau Bwdaidd.
Mae pob un o’r pedair cyfrol yn cynnwys tua chant o ddarluniau o gregyn, sy’n creu cyfanswm o 400 i gyd. Yn ôl y sôn, roedd Hirase wedi bwriadu cynhyrchu 10 cyfrol yn wreiddiol, pob un â 100 o ddarluniau, sef ‘Mil o Gregyn’ y teitl.
Torluniau pren wedi’u lliwio â llaw yw pob darlun. Dewisodd Hirase y dechneg hon, yn hytrach na’r un mwy cyffredin ar y pryd – lithograffi – oherwydd ei fod eisiau i’r gwaith fod o ddiddordeb i artistiaid).
Fel llyfrau lluniau yn bennaf, prin iawn yw’r testun, ond mae’r rhagair yn yr iaith Japaneaidd a rhestr y platiau yn ddwyieithog, Japaneaidd a Saesneg.
Mae’r tair cyfrol gyntaf yn eithaf prin, a chafodd cyfrol un ei chomisiynu ym 1914 i goffáu pen-blwydd cyntaf yr Amgueddfa Gregynol. Cynhyrchwyd yr ail a’r drydedd gyfrol ym 1915. Bu oedi wedyn cyn cyhoeddi’r bedwaredd gyfrol, ac ni chafodd ei chyhoeddi tan 1922. Mae copïau o’r bedwaredd gyfrol yn brin iawn erbyn hyn, ac mae llawer yn credu na chyhoeddwyd cymaint o gymharu â’r tair gyntaf.