Pwy oedd y Celtiaid? 5 Mehefin 2021 Llun o ryfelwyr yn ymladd. Mae’r llun hwn yn nodweddiadol o’r darlun clasurol o Geltiaid fel ymladdwyr ffyrnig.Ychydig iawn oedd y Celtiaid cynnar yn ysgrifennu am eu hunain. I’r Groegiaid, y Keltoi, Keltai neu’r Galatai oeddent. Roedd y Rhufeiniaid yn eu galw yn Celti, Celtae a Galli.Y Groegiaid oedd y cyntaf i sôn am y Celtiaid, rhwng 540 CC a 424 CC. Ond tystiolaeth y Rhufeiniaid sydd fwyaf defnyddiol. Wrth i’r Rhufeiniaid ymestyn eu tiriogaeth, daethant ar draws y Celtiaid yn y gogledd. Fodd bynnag, mae’r testunau clasurol yn anghyflawn gan eu bod wedi cael eu copïo ymhell ar ôl y cyfnod. Felly darlun pytiog sydd gennym o’r Celtiaid.Mae haneswyr yn credu bod y Celtiaid yn gasgliad o lwythau o ganolbarth Ewrop yn wreiddiol. Er eu bod yn perthyn i wahanol lwythau, roedd ganddynt rywfaint yn gyffredin o ran diwylliant, traddodiadau, credoau ac iaith.Beth oedd y Celtiaid yn galw eu hunain?Dydyn ni ddim yn gwybod beth oedd y Celtiaid yn galw eu hunain. Rydyn ni’n defnyddio’r enw ‘Celtiaid’ heddiw i ddisgrifio nifer o lwythau oedd yn byw yn ystod Oes yr Haearn. Nid yw’r testunau Clasurol yn cyfeirio at bobl Prydain ac Iwerddon fel Celtiaid. Casgliad o lwythau oedd y Celtiaid, ac roeddent yn tueddu i gael eu nabod yn ôl enw’r llwyth penodol yn hytrach na fel un genedl neu ymerodraeth fawr.O ble oedd y Celtiaid yn dod? Un o geiniogau Gweriniaeth Rhufain yn dangos pen Galiad gyda gwallt gwyngalchog. Mae’r hanesydd Rhufeinig Diodorus Siculus yn disgrifio’r traddodiad hwn. Mae ffynonellau o’r fath yn cynnig cipolwg camarweiniol o’r Celtiaid.Mae ffynonellau cynnar yn dweud bod y Celtiaid yn byw yng ngorllewin Ewrop a hefyd yn y canolbarth, o gwmpas tarddle’r afon Donaw (Danube). Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn ar draws canol a dwyrain Ffrainc, de’r Almaen a’r Weriniaeth Tsiec.Yn 279 CC, gwyddom fod y Celtiaid wedi ysbeilio Delphi, un o lefydd sanctaidd y Groegiaid. Cofnododd Strabo (daearyddwr Groegaidd) gyfarfod rhwng y Celtiaid ac Alecsander Fawr yn y Balcanau yn 335 CC. Yn ôl testunau Clasurol, symudodd llawer o’r Celtiaid o ganol Ewrop i ogledd yr Eidal a dwyrain Ewrop ar ôl 400 CC.Y Celtiaid ym MhrydainMae’n debyg bod y Celtiaid wedi cyrraedd Prydain tua 1,000 CC, ac wedi byw yma yn ystod Oes yr Haearn, Oes y Rhufeiniaid a’r cyfnod ar ôl y Rhufeiniaid. Mae dylanwad y Celtiaid yn dal yn gryf heddiw, ac i’w weld yn ein iaith, diwylliant a thraddodiadau.Celtiaid CymruRydyn ni’n ystyried Cymru yn wlad Geltaidd heddiw, ac mae bod yn Geltiaid yn rhan o hunaniaeth fodern Cymru. Ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, fodd bynnag, llwythau ac arweinwyr penodol oedd yn bwysig. Erbyn i’r Rhufeiniaid oresgyn Prydain, roedd pedwar llwyth yn byw yn nhiroedd Cymru:Ordoficiaid (gogledd-orllewin)Deceangli (gogledd-ddwyrain)Demetae (de-orllewin)Silwriaid (de-ddwyrain)I ddeall sut y cafodd y Celtiaid eu cysylltu â Chymru, rhaid i ni edrych ar ddatblygiad yr ieithoedd Celtaidd.Pa ieithoedd oedd y Celtiaid yn eu siarad? Archaeologia Britannica Edward Lhuyd (1707). Astudiaeth arloesol a arweiniodd at gydnabod dau deulu o ieithoedd Celtaidd.Mae olrhain dechreuadau ieithoedd Celtaidd yn anodd. Mae’r rhan fwyaf yn cytuno eu bod yn deillio o iaith gynharach o’r enw ‘proto-Indo-Ewropeg’. Mae’n debyg i’r iaith hon gyrraedd gorllewin Ewrop rhwng 6000 CC a 2000 CC, wrth i bobl symud o ganol Asia. Ond ni wyddom yn iawn pryd yn union y digwyddodd hyn, a phryd a sut y datblygodd yr ieithoedd Celtaidd.Rydyn ni’n credu fod yr ieithoedd Celtaidd wedi datblygu ryw bryd yn y cyfnod 6000 CC i 600 CC. Cafodd yr arysgrif cynharaf mewn iaith Geltaidd ei ddarganfod yng ngogledd yr Eidal, ac mae’n dyddio i’r 6ed ganrif CC.Awgrymodd George Buchanon, ysgolhaig o’r 16eg ganrif, bod pobl cyfandir Ewrop ar un adeg yn siarad casgliad o ieithoedd Galaidd cysylltiedig. Gan fod Cymraeg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban yn debyg i’r ieithoedd hynafol hyn, y ddadl oedd bod pobl Prydain wedi dod o Ffrainc a Sbaen yn wreiddiol.Datgelodd gwaith ymchwil arloesol Edward Lhuyd ym 1707 fod dau deulu o ieithoedd Celtaidd: Celteg P neu Frythoneg (Cymraeg, Llydaweg, Cernyweg); a Chelteg Q neu Goideleg (Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Manaweg). Tybiwyd fod yr ieithoedd Brythoneg yn dod o Gâl (Ffrainc), a’r ieithoedd Goedeleg o Iberia (Sbaen a Phortiwgal).Yn ystod y 18fed ganrif, câi siaradwyr ieithoedd Celtaidd eu hystyried yn Geltiaid. Felly daeth pobl Cymru i gael eu nabod fel Celtiaid.Ieithoedd CeltaiddMae’r Gymraeg – iaith frodorol Cymru – yn cael ei siarad gan tua 20% o boblogaeth Cymru, a gan filoedd o bobl eraill ar hyd a lled y byd. Bu farw siaradwyr brodorol olaf y Gernyweg yn y 19eg ganrif, ond cafwyd adfywiad yn y 20eg ganrif ac erbyn hyn mae ychydig gannoedd yn ei siarad. Mae miloedd yn siarad Llydaweg, ond mae’r iaith dan fygythiad mawr.Mae Gaeleg yr Alban yn dal i gael ei siarad hefyd, ond mae ganddi lawer llai o siaradwyr na’r Gymraeg. Mae gan Gaeleg yr Alban sianel deledu, sef BBC Alba, a sefydlwyd yn 2008.Sut oedd y Celtiaid yn edrych? Yn ôl y Rhufeiniaid, roedd y Celtiaid yn gwisgo dillad llachar, ac roedd rhai yn defnyddio lliw y planhigyn glaslys i baentio patrymau ar eu cyrff.Beth oedd y Celtiaid yn wisgo?Mae’r Celtiaid yn adnabyddus am wisgo dillad gwlân lliwgar, a phatrymau sydd yn dal i’w gweld yn nillad Tartan yr Alban. I’r Celtiaid roedd dillad yn arwydd o statws a phwysigrwydd o fewn y llwyth. Byddai gwisg arferol yn cynnwys tiwnig a belt, yn ogystal â chlogyn hir a throwsus gâi eu clymu gyda ‘ffibwla’ – math o fwcl. Yn wir, yn ôl haneswyr, roedd y Celtiaid ymysg y bobl gyntaf yn Ewrop i wisgo trowsusau.Beth oedd y Celtiaid yn ei fwyta?Doedd dim siopau yn oes y Celtiaid – byddent yn tyfu planhigion, ac yn ffermio a hela anifeiliaid i’w bwyta.Byddent yn bwyta bwydydd gwyllt fel madarch, aeron, danadl poethion, garlleg gwyllt ac afalau, yn ogystal â sbigoglys, cennin, moron, pannas, mwyar duon, eirin Mair a llus. Roedd cnau cyll a chnau Ffrengig yn rhan o’u diet, yn ogystal â grawn i wneud bara ac uwd.Byddent yn hela carw, llwynog, afanc, baedd gwyllt ac arth; yn ffermio ieir, geifr, defaid, moch a gwartheg; ac yn pysgota eog, brithyll a macrell. Roedd yr ieir yn dodwy wyau, a byddent hefyd yn bwyta wyau adar gwyllt, ynghyd â thrychfilod a mêl gan wenyn.Mae mwy o wybodaeth am fwyd y Celtiaid yn ystod Oes yr Haearn yn ein hadnodd addysg Bywyd Bob Dydd y Celtiaid.Celf ac Archaeoleg y Celtiaid Manylyn trisgell, tua 11cm (4.3 modfedd) ar draws, ar blac o Lyn Cerrig Bach (Ynys Môn). Mae’r enghraifft drawiadol hon o gelf La Tène yn cael ei hystyried yn dystiolaeth o draddodiad celfyddydol y Celtiaid.Datblygodd arddull newydd o gelf yn ystod y 5ed ganrif CC, ac ymledodd ar draws Ewrop. Mae llawer o archaeolegwyr wedi dehongli hyn fel tystiolaeth o ddiwylliant neu hunaniaeth Geltaidd unedig.Cafodd celf Geltaidd ei chydnabod a’i henwi gan ysgolheigion Prydeinig tua chanol y 19eg ganrif. Ym 1910-14, cafodd y gwrthrychau cynharaf i gael eu haddurno yn yr arddull hon eu holrhain i un ardal ddiwylliannol yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, de’r Almaen a Gweriniaeth Tsiec.Cafodd ei enwi yn ddiwylliant La Tène, ar ôl casgliad pwysig o waith metel addurnedig gafodd ei ddarganfod ar lan Llyn Neuchâtel yn y Swistir. Am gyfnod hir, câi lledaeniad celf La Tène ar draws Ewrop, gan gynnwys Prydain ac Iwerddon, ei ddehongli fel goresgyniad gan bobl Geltaidd.Yn fwy diweddar, mae archaeolegwyr Prydeinig wedi bod yn cwestiynu’r syniad o Geltiaid yn goresgyn Prydain, ac o ‘gymdeithas Geltaidd’ oedd yn rhannu iaith, celf, credoau a hunaniaeth. Ychydig o dystiolaeth archaeolegol gadarn sydd i ddangos fod pobl wedi cyrraedd ar raddfa eang o’r cyfandir.Mae archaeoleg Oes yr Haearn ym Mhrydain yn awgrymu clytwaith o gymdeithasau rhanbarthol, bob un â’i hunaniaeth unigryw. Mae hyn yn gwbl groes i’r syniad o un diwylliant Celtaidd.Mae archaeolegwyr erbyn hyn yn cwestiynu mwy ar eu tybiaethau eu hunain wrth ddehongli safleoedd Oes yr Haearn. Nid yw celf La Tène yng Nghymru o reidrwydd yn dystiolaeth o Geltiaid yn goresgyn. Gallai hefyd ddangos lledaeniad ffasiwn ar draws cymdeithasau, neu gallai fod yn awgrym o gysylltiadau a chyfnewid rhwng llefydd pell. Rydyn ni hefyd yn gwybod fod arddull benodol Brydeinig i lawer o gelf La Tène ddiweddarach, a’i bod yn absennol o gyfandir Ewrop.CrynodebMae’r Celtiaid wedi bod yn bwnc dadleuol ers i ysgolheigion ddechrau ei astudio, ac mae’r dadlau’n parhau.Mae’n bosibl y gall astudiaethau genetig o DNA pobl hynafol a modern wella ein dealltwriaeth o’r pwnc. Ond mae astudiaethau hyd yma wedi tueddu i ddefnyddio samplau hynod fach o bobl a hen dybiaethau ynghylch iaith ac archaeoleg, gan arwain at gasgliadau annhebygol.Darllen pellachExploring the World of the Celts gan S. James. Thames & Hudson (1993).The Celts: Origins, Myths and Inventions gan J. Collis. Tempus Publishing Ltd (2003).The Ancient Celts gan B. Cunliffe. Oxford University Press (1997).
Caerdydd a’i fathdy yn Oes y Normaniaid. Edward Besly & Peter Webster, 5 Hydref 2018 Arian o gyfnod Gwilym Goch - blaen Arian o gyfnod Gwilym Goch - cefn Mae Amgueddfa Cymru newydd gaffael darn prin o hanes cynnar Caerdydd: ceiniog arian o gyfnod y brenin Normanaidd Gwilym II (1087-1100) a wnaed ym mathdy’r castell yn nechrau’r 1090au. Darn arian sydd newydd ei gaffael o gyfnod Gwilym Goch Mab Gwilym Goncwerwr (neu ‘y Bastard’) oedd Gwilym II ac roedd yn cael ei alw’n 'Gwilym Goch’ neu ‘Rufus’, efallai am fod ganddo wallt coch. Yn ystod ei deyrnasiad ef y dechreuodd y Normaniaid gynnal cyrchoedd i’r rhan hon o Gymru o dan Robert FitzHamon, barwn Normanaidd a oresgynnodd yr ardal a dod yn arglwydd cyntaf Morgannwg. Daeth y Normaniaid â’r arferiad o ddefnyddio darnau arian gyda nhw ac ymddengys bod bathdy wedi’i agor yn y castell yn fuan ar ôl ei sefydlu yn 1081. Fodd bynnag, nid oedd yr un darn arian a dadogwyd yn bendant i fathdy Caerdydd yng nghyfnod Gwilym Goch wedi’i gofnodi cyn i hwn ymddangos yn 2017, mewn casgliad preifat oedd yn cael ei werthu ar ocsiwn. Cyn goresgyniad y Normaniaid, roedd darnau arian bath yn cael eu defnyddio’n rheolaidd yn Lloegr yng nghyfnod yr Eingl-Sacsoniaid. Roedd ganddynt rwydwaith o fathdai a chyflenwad canolog o ddeiau i wneud yr arian ond doedd dim traddodiad o fathu arian yng Nghymru. Tref ffiniol oedd Caerdydd yn nyddiau cynnar y Normaniaid ac felly roedd rhaid i’w bathdy ymorol amdano’i hunan: ymddengys bod dei tu blaen (‘pen’) y darnau arian wedi’i fenthyca o rywle arall a delw’r brenin wedi’i ailysgythru, gan wneud iddo edrych braidd yn ddigri. Roedd dei y cefn (‘cynffon’) wedi’i wneud yn lleol ac mae arwyddnod y bathdy, ‘CAIRDI’ [CIVRDI neu CIIIRDI], wedi’i ysgythru’n glir ond yn amrwd arno ond ni allwn ddarllen enw’r bathwr yn iawn, ‘IÐHINI’ (Ð = ‘TH’) – efallai mai Æthelwine oedd ei enw (diddorol nodi mai enw Sacsonaidd yn hytrach nag un Normanaidd yw hwnnw). Roedd dyluniad yr arian bath yn cael ei newid bob ychydig flynyddoedd – ac roedd y brenin yn cael cyfran bob tro y cyhoeddwyd darnau arian newydd. Erbyn hyn, gwyddom am bedwar gwahanol gyhoeddiad o ddarnau arian o fathdy Caerdydd ag enw ‘William’ arnynt (gallai fod yn Gwilym Goncwerwr neu ei fab, Gwilym Goch) a phedwar cyhoeddiad arall yn enw Harri I (1100-35) ond maent i gyd yn eithriadol o brin. Yn rhyfel cartref teyrnasiad y Brenin Steffan (1135-54), syrthiodd Caerdydd i ddwylo plaid ei elyn yr Ymerodres Matilda, plaid yr Angefiniaid. Yn 1980, canfuwyd celc o dros 100 o ddarnau arian yng Nghoed y Wenallt, uwchlaw Caerdydd, y rhan fwyaf yn perthyn i gyhoeddiadau na wyddem amdanynt o’r blaen o gyfnod Matilda. Trawsnewidiwyd ein gwybodaeth am y cyfnod gan y canfyddiad hwn. Roedd yn cynnwys cyhoeddiadau barwnaidd o Gaerdydd ac Abertawe a dyma'r dystiolaeth gynharaf sydd gennym am yr enw 'Swansea'. Ar ôl hynny, fodd bynnag, nid oes sôn am fathdy Caerdydd. Mae ein darn arian newydd o gyfnod Gwilym Goch yn ddarn arall o’r jig-so am hanes cynnar Caerdydd a’r cylch. Mae llawer o ddarnau eraill o’r jig-so yn dal ar goll, a phwy a ŵyr beth sy’n dal heb ei ddarganfod? Bu Gwilym Goch farw ar 2 Awst 1100 pan drawyd ef â saeth wrth iddo hela yn y New Forest: damwain anffodus ynteu lofruddiaeth tybed? Edward Besly, Nwmismatydd (Curadur Darnau Arian a Medalau), Amgueddfa Cymru. Y castell Normanaidd fel y tybia CBHC yr oedd yn edrych. Credir na chodwyd y gorthwr cerrig tan ar ôl teyrnasiad Gwilym Goch ac mai o bren y byddai wedi’i godi’n wreiddiol. Mwnt a dyfrffos o’i gwmpas Man lle tybir yr oedd y wal rhwng y wardiau Mur Rhufeinig wedi’i ailddefnyddio, heb y tyrau oedd yn taflu allan mae’n fwy na thebyg Clawdd pridd a ffos y tu allan iddo Trychiad cynllunio trwy amddiffynfeydd pridd y castell cyn tynnu rhan allanol y clawdd canoloesol oddi yno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r 20fed ganrif ac ail-greu mur y gaer Rufeinig. Olion mur y gaer Rufeinig Clawdd Rhufeinig Clawdd Normanaidd Mur y castell o’r cyfnod canoloesol diweddarach Mur Normanaidd y castell wedi’i ail-greu rhwng Porth y De a Thŵr y Cloc Mur gorllewinol y castell. Yn y bôn, wal y castell Normanaidd yw’r darn rhwng y tyrau. Y mwnt Normanaidd enfawr, gyda gorthwr gwag o gerrig a godwyd yn ddiweddarach yn y canoloesoedd. Y clawdd Canoloesol sy’n dal y tu mewn i’r muriau dwyreiniol. Olion adeilad o’r canoloesoedd hwyr sydd i’w weld yn y glaswellt ym mlaen y llun. Y wal gerrig a’r porth o’r ward allanol i’r ward fewnol, gan edrych o’r Gorthwr tua Phorth y De. Mae’n fwy na thebyg bod y wal hon yn rhan o amddiffynfeydd y castell Normanaidd. Y map a greodd Speed o Gaerdydd yn 1610. Dyfodiad y Normaniaid Ffrwyth datblygu mawr yn Oes Fictoria yw’r Gaerdydd a welwn heddiw i raddau helaeth ond mae ardal reit yng nghanol y ddinas lle bu caer Rufeinig ac a oresgynnwyd wedyn gan y Normaniaid. Ychydig o dystiolaeth, os o gwbl, sydd bod pobl yn byw yng Nghaerdydd rhwng diwedd y cyfnod Rhufeinig a dyfodiad y Normaniaid i Gymru yn y 1080au, ond efallai bod pobl yn byw am gyfnod yn y man lle’r oedd y ffordd Rufeinig o Gaerllion i Gaerfyrddin yn croesi afon Taf. Pan gyrhaeddodd y Normaniaid, dyma'r man lle penderfynwyd sefydlu canolfan filwrol a gweinyddol eu harglwyddiaeth newydd, Morgannwg, gan ailddefnyddio olion yr hen gaer Rufeinig i godi mur a sefydlu tref fechan wrth borth y de. Ail-greu’r castell Normanaidd Y castell oedd canolbwynt Caerdydd yn y cyfnod Normanaidd ond mae adeilad presennol y castell yn wahanol iawn i’r un gwreiddiol. Er mwyn cyrraedd at y castell Normanaidd, mae’n rhaid i ni dynnu’r addasiadau a wnaed gan ardalyddion Bute yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r 20fed ganrif, a oedd yn cynnwys adfer rhannau o furiau’r hen gaer Rufeinig. Cododd y Normaniaid glawdd enfawr o bridd dros olion muriau’r gaer Rufeinig, o fan ger cornel ogledd-orllewinol y castell ac o gwmpas i’r ochrau sy’n wynebu Ffordd y Brenin a Heol y Dug erbyn hyn. Atgyweiriwyd muriau eraill y gaer Rufeinig (o fan ger porth presennol y de ac o gwmpas i’r ochr sy’n wynebu Parc Bute erbyn hyn) ond, yn rhyfedd ddigon, ymddengys bod y tyrau oedd yn taflu allan ac yn rhan o’r amddiffynfeydd Rhufeinig wedi’u tynnu – i gael deunyddiau i wneud y gwaith atgyweirio efallai. Mae’r mur Normanaidd hwn i’w weld o hyd, er bod cryn dipyn o waith adfer wedi’i wneud arno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhwng porth y de a Thŵr y Cloc ac i'r gogledd o adeiladau pen gorllewinol y castell. Daeth y deunydd ar gyfer y cloddiau ar yr ochr ogleddol, yr ochr ddwyreiniol a rhan o’r ochr ddeheuol o ffos enfawr a gloddiwyd o gwmpas y darn amgaeedig i gyd. Cafodd y ffos hon ei llenwi ar Ffordd y Brenin a Heol y Castell/Stryd y Dug ac mae’n gorwedd o dan y ddyfrffos orllewinol bresennol a'r lledgamlas ogleddol. Cewch gipolwg ar y ffos hon yn achlysurol pan agorir ffosydd gwasanaeth o gwmpas y castell ond cawn syniad cliriach o’i maint o dystiolaeth John Ward, curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerdydd rhwng 1893 ac 1912. Gwelodd Ward y toiledau tanddaear yn cael eu cloddio yn Ffordd y Brenin ac, eu eu bod o dan y ddaear yn llwyr, dywedodd nad oeddent yn cyrraedd gwaelod y ffos. Yn niagram cynllunio Ward o glawdd pridd y castell, gwelir canlyniad yr holl waith cloddio ffosydd – y clawdd sylweddol sy’n dal y tu mewn i furiau’r castell (i’r chwith yn y diagram) a’r un fath ar y tu allan. Y tu mewn i’r amddiffynfeydd allanol, cododd y Normaniaid fwnt enfawr – tomen tebyg i fasn pwdin a’i ben i lawr, a dyfrffos fawr o’i gwmpas. Mae hwn i’w weld o hyd, er bod Capability Brown wedi gwneud peth gwaith tirlunio ar y mwnt tua diwedd y 18fed ganrif a bod y ddyfrffos (a lanwyd gan Brown) wedi’i hailgloddio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac efallai ei bod ar ffurf fwy rheolaidd nag y bu. Gallwn dybio bod rhyw fath o adeiladwaith ar ben y mwnt, tŵr a phalisâd pren mae’n debyg, a bod y 'gorthwr gwag’ presennol o gerrig wedi cymryd eu lle yn yr 1240au. Credir bod gweddill tu mewn y castell wedi’i rannu fel y gwelir yn awr â rhyw fath o wal rhwng y gorthwr a phorth y de. Mae’n debygol, ond nid yn bendant, mai wal gerrig oedd yno. Gallwn ddisgwyl bod adeiladau (o bren mae’n fwy na thebyg) yn y ddwy ‘ward’ a gafodd eu creu felly ond, hyd yma, ni ddaethpwyd ar draws adeiladweithiau pendant yn yr ardal fechan a gloddiwyd. Y dref Normanaidd I’r de o’r castell oedd tref fechan Caerdydd. Y map a grewyd yn 1610 gan John Speed yw’r olygfa glasurol o’r dref ganoloesol. Mae’n dangos darn o dir a mur o’i amgylch yn ymestyn i’r de o fan ychydig i’r dwyrain o gornel de-ddwyreiniol y castell i waelod lle mae Heol Eglwys Fair yn awr. Fodd bynnag, map o’r dref yn y cyfnod canoloesol diweddar yw hwn. Mae’n debygol bod y drefn Normanaidd gyntaf yn llai, a’i ffiniau’n ymestyn i lle mae Stryd Womanby, Stryd y Cei, Stryd yr Eglwys a Heol Sant Ioan (yr hanner cylch o strydoedd ym mhen gogleddol y dref fel y’i gwelir ar fap Speed). Gellir gweld y patrwm hwn o hyd yn strydoedd Caerdydd ac mae cyffordd Heol Fawr a Heol Eglwys Fair, a chyffordd Heol Sant Ioan a Working Street i’w gweld ar y man lle credir roedd y terfyn cynnar. Trafodir hyn a llawer o hanes dogfennol Caerdydd yn oesau’r Normaniaid a’r Angefiniaid gan David Crouch (2006). Ni wireddwyd gobaith Crouch y bydd archaeoleg yn ychwanegu at y darlun hwn hyd yma. Ni ddaethpwyd o hyd i adeiladweithiau mor hen wrth gloddio yn y man lle’r awgrymir roedd y dref gyntaf (yn Stryd Womanby a Stryd y Castell) ond mae’r gwaith yn cadarnhau bod pobl yn byw yno yn oes y Normaniaid. Yn wir, wrth i drigolion Caerdydd yn Oes Fictoria fynd ati i gloddio selerydd, collwyd llawer o dystiolaeth bosibl, gwaetha’r modd. Peter Webster, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd, Amgueddfa Cymru (cyn-ddarlithydd, Prifysgol Caerdydd) Darllen Pellach Castell Caerdydd Ceir ymdriniaeth helaeth o’r castell canoloesol yn CBHC, An inventory of the ancient monuments in Glamorgan, Vol. III, Part 1a, Medieval Secular Monuments, the early castles from the Norman conquest to 1217, Llundain 1991, 162-211, sydd, er gwaetha’i deitl, yn adrodd stori’r castell hyd at yr 20fed ganrif. Rhoddir rhagor o gefndir i waith adfer Ardalyddion Bute gan J. P. Grant, pensaer i’r 4ydd Ardalydd (Cardiff Castle, its history and architecture, Caerdydd 1923). Y Dref Gan David Crouch y mae’r drafodaeth orau ar Gaerdydd yr oes Normanaidd. ‘Cardiff before 1300’ tt.34-41 yn J.R.Kenyon, D.M.Williams (Goln), Caerdydd. Architecture and Archaeology in the Medieval Diocese of Llandaff, Trafodion Cynhadledd Cymdeithas Archaeolegol Prydain 29, Llundain 2006. Mae hwn yn cynnwys cyfeiriadau at waith cynharach gan W.Rees (1962) a D.Walker (1978).
Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Y celc o’r Oes Efydd Ddiweddar o Drefddyn: Stori am Fwyeill a Phicellau Matthew Guiseppe Knight, 16 Medi 2017 Celc Trefddyn, Torfaen Llafn uchaf y fwyell De Cymru oedd wedi torri. Dychmygwch yr olygfa. Rydych allan yn cerdded mewn cae. Rydych yn sgubo’ch datgelydd metel ffyddlon yn ôl a blaen dros y ddaear o’ch blaen wrth gerdded. Fe glywch bipian rhythmig y peiriant gyda phob cam a gymerwch. Yn sydyn, mae’r bipian yn cyflymu. Mae rhywbeth yn y ddaear. Rydych yn dechrau cloddio, i weld beth sydd yno. Wrth gloddio, daw pen bwyell hynafol i’r golwg… Dyna oedd hanes Gareth Wileman a’i ddatgelydd metel ym mis Tachwedd 2014. Dros gyfnod o ryw bythefnos, datgelodd Gareth gelc o’r Oes Efydd Ddiweddar oedd yn cynnwys tri phen bwyell socedog efydd a dau flaen picell efydd yn agos iawn at ei gilydd yng nghymuned Trefddyn, Torfaen. Roedd Gareth yn sylweddoli pa mor arwyddocaol oedd ei ganfyddiad ac fe gysylltodd yn syth â Mark Lodwick, Cydlynydd Darganfyddiadau Cynllun Henebion Cludadwy Cymru, a aeth ati i archwilio man darganfod y celc. Claddwyd y celc tua 3000 o flynyddoedd yn ôl (rhwng 950 ac 800 CC) yn yr Oes Efydd Ddiweddar. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd celciau o lawer o offer metel, yn cynnwys arfau a thŵls, eu claddu mewn gwahanol fannau. Beth sydd yn y celc? Er y gellir dosbarthu eitemau’r celc yn fras fel ‘pennau bwyeill’ a ‘phennau picellau’, mae pob un yn perthyn i ddosbarth penodol y gallwn eu defnyddio i’n helpu i ddeall sut y câi gwahanol bethau eu masnachu yn yr Oes Efydd. Un peth diddorol iawn yw soced yn perthyn i fwyell socedog ‘De Cymru’ a gladdwyd yn y celc. Cafodd yr ymyl dorri ei thynnu’n fwriadol yn yr Oes Efydd. Mae un o’r bwyeill eraill wedi’i difrodi’n fwriadol hefyd. Mae i’r bwyeill hyn dair asen fertigol ar y ddau wyneb ac maent yn arbennig o gyffredin yn … ie, rydych chi’n iawn, De Cymru! Ar y llaw arall, mae un pen picell yn eithaf prin. Cyfeirir ato fel ‘pen picell lafn lloerfwlch’ gan fod dau dwll hanner crwn yng nghanol y llafn. Mae blaen y pen picell hwn a rhan o’r soced wedi'u torri i ffwrdd, a gallai hynny fod yn fwriadol hefyd. Pam y mae’r celc yn bwysig? Daethpwyd o hyd i gelc Trefddyn mewn ardal lle na wyddem o’r blaen am weithgarwch pobl yn yr Oes Efydd. Mae’n ychwanegu at swm cynyddol o ddeunydd o’r Oes Efydd Ddiweddar a ganfuwyd ledled Cymru. Roedd casglu neu gelcio pethau a’u claddu yn draddodiad eang yn yr Oes Efydd Ddiweddar, ond nid ydym yn siŵr pam roedd pobl yn gwneud hyn. Mae cyfuniadau o arfau, fel picellau, a thŵls, fel bwyeill, yn gyffredin mewn celciau o’r Oes Efydd Ddiweddar. Ond gall eitem berthyn i fwy nag un dosbarth – gall bwyell fod yn arf peryglus hefyd a gallai rhai pennau picellau fod yn eitemau seremonïol. Mae’n bosib mai casgliad un person yw'r cyfuniad o wahanol bethau sydd mewn celc. Neu efallai bod nifer o bobl wedi dod ynghyd i gladdu pethau a oedd yn bwysig i ardal benodol. Mae’n fwy na thebyg na fyddwn ni fyth yn gwybod beth y mae celf Trefddyn yn ei gynrychioli. Y pen picell ‘lafn lloerfwlch’ prin. Yr unig fwyell gyflawn yn y celc. Daethpwyd o hyd i un fwyell wedi torri, a llawer o ddarnau llai. Roedd datgladdu’r celc yn waith mwdlyd iawn!§ Torri neu Beidio â Thorri Mae llafnau dwy o’r bwyeill yng nghelc Trefddyn fel pe baent wedi’u tynnu’n fwriadol. Mae difrod bwriadol tebyg i’w weld ar y pennau picellau. Fodd bynnag, gadawyd y drydedd fwyell yn gyfan. Pam oedd hyn? A lle mae’r darnau coll? Mae’n bosib bod y darnau yn dal yn y ddaear, yn disgwyl cael eu darganfod. Fodd bynnag, roedd difrodi eitemau cyn eu claddu mewn celc yn beth cyffredin i’w wneud. Roedd rhai darnau o eitemau’n cael eu dewis i’w claddu – yn yr achos hwn – pennau soced y bwyeill – ac roedd darnau eraill yn cael eu heithrio (y llafnau torri). Weithiau, mewn celciau eraill, dim ond llafnau’r bwyeill a gawn, heb y socedi. Efallai bod y rhan o’r eitem a gladdwyd yn bwysig. Mae arwyddocâd i gynnwys eitemau cyflawn hefyd. Yn Nhrefddyn, roedd y fwyell gyflawn wedi’i hogi ac mae’n debyg ei bod wedi’i defnyddio cyn ei chladdu. Byddai’n dal yn ddefnyddiol, felly pam fyddai rhywun yn claddu eitem y gellid ei defnyddio? Efallai bod y fwyell wedi’i defnyddio ers blynyddoedd a bod iddi arwyddocâd arbennig i'w pherchnogion, gan ei gwneud yn addas i'w chladdu. Mae’n bwysig meddwl am yr eitemau hyn fel pethau defnyddiol a symbolaidd. Deall yr Oes Efydd Diben archaeoleg yw dod i ddeall pobl y gorffennol. Mae celc Trefddyn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar yr Oes Efydd yn y rhan hon o Gymru, lle na chanfuwyd deunyddiau cynhanesyddol o’r blaen. Mae’n dangos fod yno gymunedau yn yr Oes Efydd a’u bod yn ymwneud ag eitemau mewn ffyrdd dirgel na allwn ni ddim ond dyfalu beth oeddent. Mae pob darganfyddiad yn ein helpu i ddeall y darlun ehangach ac mae celc Trefddyn yn gam pwysig tuag at wneud hyn. Nodiadau a Diolchiadau Bu darganfyddwr y celc hwn yn ddigon cyfrifol i’w gyflwyno trwy Gynllun Henebion Cludadwy Cymru ac erbyn hyn rydym yn falch o gael ei arddangos yn Amgueddfa Pont-y-pŵl lle gall y cyhoedd ei fwynhau. Cafodd ei gaffael â chyllid gan y Prosiect Hel Trysor: Hel Straeon. Cewch weld rhagor o fanylion am waith ymchwilio’r celc, a sgwrs gyda’r darganfyddwr, Gareth Wileman, yma. Diolch i Adam Gwilt (Prif Guradur: Cynhanes yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru) a Mark Lodwick (Cydlynydd Darganfyddiadau: PAS Cymru) am ganiatáu i mi weld adroddiad oedd heb ei gyhoeddi am y celc.
Dagr Bae Abertawe Abigail Dickinson a Roqib Monsur, 21 Mehefin 2017 Yn 1971, ychydig a wyddai myfyriwr Pensaernïaeth o’r enw Paul Tambling y gallai fod ar fin gwneud darganfyddiad archaeolegol mwyaf ei fywyd ac y byddai i Ddagr Bae Abertawe (fel y’i gelwir erbyn hyn) arwyddocâd arbennig yn ei fywyd. Wrth gerdded ar draeth Abertawe, sylwodd Paul a’i bartner Angela ar yr hyn oedd yn ymddangos fel darn o fflint yn ymwthio allan o’r tywod. Mewn gwirionedd, roeddent wedi darganfod, trwy hap a damwain, ‘ddagr fflint 4200 o flynyddoedd oed’. Dywedodd Paul wrthym: “Pan godais y dagr, roeddwn i’n methu deall sut roedd wedi cyrraedd yno, yn enwedig gan nad yw fflint yn brigo’n naturiol yn unman yng Nghymru. Roedd y fflint mewn cyflwr ardderchog ac nid oedd yn ymddangos bod symudiadau’r môr wedi amharu arno. Yn ogystal â bod yn waith celf cain, mae’n grefftwaith gwych ac mae’n fy ysbrydoli wrth i mi gynllunio adeiladau, a minnau’n gwneud fy ngorau i gyrraedd yr un safon uchel yn fy nghrefft bob amser. Bron 46 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r dagr gan y pâr o hyd. Mae'n agos at eu calonnau a chredant ei fod yn symbol unigryw o'u perthynas hirhoedlog. Dywedodd Paul: “Byth er pan oeddwn yn fyfyriwr, mae’r fflint wedi symud gyda mi fwy na chwech o weithiau mewn hen amlen er bod cyfnodau yn fy mywyd pan oeddwn yn meddwl fy mod wedi'i golli. Serch hynny, ers i mi ddarganfod yn ddiweddar bod iddo bwysigrwydd hanesyddol enfawr, prin y mae allan o’m golwg.” Erbyn hyn, gwyddom mai ‘Dagr y Bicerwyr’ yw’r fflint a’i fod yn dyddio o’r Oes Efydd gynnar, tua 2250 i 2000 o flynyddoedd Cyn Crist, sy’n golygu ei fod tua 4200 o flynyddoedd oed. Yn ei ddydd, roedd iddo arwyddocâd symbolaidd mawr gan y byddai wedi’i gladdu gyda rhywun uchel ei statws er mwyn bod gydag ef yn y byd a ddaw. Darganfuwyd ychydig o ddagerau eraill yng Nghymru ond does dim un cystal â dagr Bae Abertawe. Yn ne-ddwyrain Lloegr y canfuwyd y nifer fwyaf o ddagerau o’r cyfnod hwn. Mae i Ddagr y Bicerwyr werth archaeolegol a symbolaidd enfawr ond beth y mae’n ei olygu i Paul ac Angela fel teulu? “Mae’r dagr yn symbol o hyd ein bywyd priodasol. Mi ddes i o hyd iddo dair blynedd cyn i ni briodi ac mae’n ein hatgoffa o’r penwythnosau hyfryd hynny roedden ni’n eu treulio yn Abertawe slawer dydd, ac yn ein clymu’n nes at ein gilydd. Roedd yn amser hudolus a does dim modd ei ailadrodd.” Mae Paul ac Angela Tambling yn rhedeg ymgynghoriaeth bensaernïol yn Aberhonddu. Nid oeddent yn sylweddoli pa mor bwysig oedd y dagr i ddechrau ond ers i’w arwyddocâd archaeolegol ddod yn amlwg, mae arbenigwyr yn dweud wrthynt yn aml pa mor lwcus oeddent i ddod o hyd i beth mor bwysig mewn lle mor annisgwyl. “Rwy’n berson lwcus,” meddai Paul. “Roeddwn i’n lwcus i briodi Angela ac yn lwcus i ddod o hyd i’r dagr pan oeddwn yng nghwmni Angela.” Dywedodd Paul wrthym ei fod yn gwybod yn reddfol bod y dagr yn beth rhyfeddol cyn gynted ag y cododd ef, ond nid oedd yn siŵr ai dagr ynteu blaen gwaywffon ydoedd. Ar hyd y blynyddoedd, mae Angela wedi bod yn dweud wrtho, “Pam nad ei di i holi?” Ar ôl cael ei blagio’n ddi-baid, penderfynodd Paul yn y diwedd fynd i Amgueddfa Brycheiniog ond pan gyrhaeddodd, gwelodd ei bod wedi cau ar gyfer gwaith adnewyddu mawr. Tua dechrau 2016, aeth y pâr i arddangosfa naddu fflint yn Amgueddfa Cyfarthfa, Merthyr Tudful, gan Phil Harding o’r Time Team. Yno, ar ôl siarad â Phil y daeth yn amlwg pa mor bwysig oedd y dagr a chyngor Phil oedd y dylai’r eitem hon o bwysigrwydd archaeolegol gael ei chofnodi gan Amgueddfa Cymru. Yn fuan wedyn, cysylltodd Mark Lodwick, Cydlynydd Darganfyddiadau Cynllun Henebion Cludadwy Cymru, yn Amgueddfa Cymru, â’r cwpwl ac yn dilyn hynny cawsant gyfarfod. Pan esboniodd Mark arwyddocâd y dagr, dywedodd Paul: “Roedd blew fy ngwegil yn sefyll i fyny pan ges i wybod am wahanol haenau arwyddocâd y dagr, wrth feddwl bod gen i rywbeth yr oedd rhywun wedi'i wneud 4200 o flynyddoedd yn ôl”. Aeth Paul ymlaen, “Roeddwn i’n dal y peth ’ma yn fy llaw, gan feddwl cyn lleied o barch roedd wedi'i gael ers 1971 a minnau'n ei gadw mewn hen amlen yng nghefn rhyw ddrôr.” Ers y cyfarfod gyda Phil Harding a Mark Lodwick, mae’r dagr wedi cael llawer mwy o sylw ac mae hyn wedi annog Paul ac Angela i gymryd mwy o ddiddordeb mewn archaeoleg a’r Bicerwyr. Ar hyn o bryd, does dim bwriad i amgueddfa gaffael dagr Bae Abertawe oherwydd mae’n eiddo i Paul ac Angela ond maen nhw wedi gwneud eu gorau, gyda help Mark Lodwick, i sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod am bwysigrwydd y dagr.