Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Yr Hawl i Bleidleisio: Yr Ymgyrch yng Nghymru Elen Phillips, 1 Chwefror 2018 Am wyth o'r gloch y nos ar y chweched o Chwefror, 1918, derbyniwyd Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl, trwy gydnabyddiaeth frenhinol yn San Steffan. Golygai hyn fod rhai menywod, ar ôl bron i ganrif o ymgyrchu, 'nawr yn cael pleidleisio. Rydym wedi hen arfer gweld lluniau o'r 'Syffrajetiaid' yn gorymdeithio yn Llundain, ond beth am yr ymgyrch yng Nghymru? Dull di-drais Er mai hynt a helynt y swffragetiaid oedd yn hawlio sylw’r wasg, roedd mwy o lawer o ‘suffragists’ yn bodoli yng Nghymru. Roedd y ‘suffragists’ yn credu mewn gweithredu heddychlon a newid y drefn drwy ddulliau cyfansoddiadol. Yn eu plith, roedd aelodau’r Cardiff & District Women’s Suffrage Society. Hon oedd y gangen fwyaf o’r National Union of Women's Suffrage Societies tu allan i Lundain. Rose Mabel Lewis (Greenmeadow, Tongwynlais) oedd wrth y llyw yng Nghaerdydd – neu Mrs Henry Lewis fel y cyfeirir ati yn nogfennaeth yr Amgueddfa! Yn gyffredinol, roedd aelodau blaenllaw'r gangen yn fenywod dosbarth canol a oedd yn adnabyddus o fewn mudiadau a chylchoedd cymdeithasol y ddinas. I godi ymwybyddiaeth o’u hachos ac i lenwi coffrau’r gangen, roedden nhw’n cynnal digwyddiadau ac yn gwerthu copïau o gylchgrawn y mudiad, The Common Cause. Mae adroddiad blynyddol y gangen ar gyfer 1911-12 yn rhestru gweithgareddau di-ri, yn eu plith dawns gwisg ffansi, gyrfa chwist a ffair sborion. Yn y flwyddyn honno, dyblodd nifer aelodau’r gangen i 920. Crefft ymgyrchu Baner Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch. Gwnaed gan Rose Mabel Lewis, Llywydd y Gymdeithas Rose Mabel Lewis bwythodd y faner sidan sydd bellach yng nghasgliad yr Amgueddfa – enghraifft bwerus o rym y nodwydd fel arf i ledaenu neges ac i fynegi barn. Er nad ydym yn gwybod union ddyddiad y faner, rydym yn sicr iddi gael ei defnyddio mewn protest yn 1911. Ar 17 Mehefin y flwyddyn honno, arweiniodd Rose Mabel fenywod de Cymru yn y Women’s Coronation Procession yn Llundain. Mae dogfennau derbynodi’r faner yn cynnwys nodyn o eglurhad gan un o gyn-aelodau’r gangen: The banner was worked by Mrs Henry Lewis… [she] was also President of the South Wales Federation of Women’s Suffrage Societies + she led the S. Wales section of the great Suffrage Procession in London on June 17th 1911, walking in front of her own beautiful banner… It was a great occasion, some 40,000 to 50,000 men + women taking part in the walk from Whitehall through Pall Mall, St James’s Street + Piccadilly to the Albert Hall. The dragon attracted much attention – “Here comes the Devil” was the greeting of one group of on lookers”. Roedd baneri fel hyn yn rhan ganolog o ddiwylliant gweledol y mudiad pleidlais i fenywod, ac mae nifer ohonynt i'w canfod mewn amgueddfeydd ac archifdai, gan gynnwys Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd. Roedd trefnwyr gorymdaith fawr 1911 yn disgwyl dros 900 o faneri ar y dydd! Dwy flynedd yn ddiweddarach, yng Ngorffennaf 1913, gwelwyd y faner ar strydoedd Caerdydd fel rhan o orymdaith yn y brifddinas i nodi’r Bererindod Fawr i Lundain (the Great Suffrage Pilgrimage). Yng nghasgliad yr amgueddfa, 'mae lluniau anhygoel o Rose Mabel Lewis, ac aelodau eraill y gangen, wedi ymgynnull gyda’r faner tu allan i Neuadd y Ddinas ym Marc Cathays: Dol voodoo gwrth-swffragetaidd a anfonwyd yn ddienw at fenyw yng ngorllewin Cymru, dechrau’r 1900au Yn ôl adroddiad blynyddol 1913-14, roedd rhai o’r aelodau yn betrusgar ynglyn â’r orymdaith, ond wedi eu bywiogi ar ôl derbyn ymateb ffafriol ar y dydd: It was with misgivings that some members agreed to take part in the procession, but afterwards their enthusiasm aroused and the desire to do something more in the future. The march was useful in drawing the attention of many people to the existance of our society. Creu Hanes: Sain Ffagan a’r canmlwyddiant Yn 2018, bydd y faner i’w gweld yng Nghaerdydd unwaith eto – nid mewn rali y tro hwn, ond ymhlith llwyth o wrthrychau arwyddocaol yn ein hanes cenedlaethol fydd i’w canfod mewn oriel newydd yma yn yr Amgueddfa Werin – penllanw ein prosiect ail-ddatblygu, Creu Hanes. Hyd y gwyddom, nid yw'r faner wedi bod ar arddangos ers iddi gael ei rhoi i'r casgliad yn 1950 gan y Cardiff Women Citizens' Association. Ar y pryd, ysgrifennodd drysorydd y gymdeithas honno lythyr at Dr Iorwerth Peate yn mynegi eu balchder fod y faner bellach ar gof a chadw yn Sain Ffagan: A cordial vote of thanks was accorded to you for realising how much the Suffrage Cause meant to women and for granting a memorial of it in the shape of the banner to remain in the Museum. Ymysg casgliadau'r amgueddfa am y cyfnod, 'mae llythyrau ac adroddiadau gan yr NUWSS, yn ogystal â doli wrth-syffrajet anghyffredin o orllewin Cymru. Dol voodoo gwrth-swffragetaidd a anfonwyd yn ddienw at fenyw yng ngorllewin Cymru, dechrau’r 1900au Ffynonellau cynradd: National Union of Women's Suffrage Societies: Cardiff & District Annual Report, 1911-12 (Amgueddfa Werin Cymru). National Union of Women's Suffrage Societies: Cardiff & District Annual Report, 1913-14 (Amgueddfa Werin Cymru). Dogfennau derbynodi 50.118 (Amgueddfa Werin Cymru). Ffynonellau eilradd: Kay Cook a Neil Evans, 'The Petty Antics of the Bell-Ringing Boisterous Band'? The Women's Suffrage Movement in Wales, 1890 - 1918' yn Angela V. John (gol.), Our Mothers' Land Chapters in Welsh Women's History 1830 - 1939 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1991). Ryland Wallace, The Women's Suffrage Movement in Wales 1866 - 1928 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2009).
Llun am Lun: David Hurn yn trafod Ffotograffieth - Rhan 2 15 Ionawr 2018 Mae Llun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn yn rhedeg o 30 Medi 2017 to 11 Mawrth 2018. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu rhodd sylweddol gan David Hurn – ffotograffau o’i gasgliad preifat. Cynhelir yr arddangosfa yn yr oriel gyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael ei neilltuo i ffotograffiaeth. Dyma ffilmiau o'r arddangosfa: Josef Koudelka "Roedd gen i fflat enfawr yn Bayswater a phan fyddai pobl yn dod i Loegr o dramor fe fydden nhw i gyd yn diweddu’n cysgu ar fy llawr i. A dweud y gwir roedd gen i un ystafell fawr yn y ffrynt oedd â phedwar matres ar y llawr. Ond ta waeth, beth ddigwyddodd oedd bod Josef Koudelka, yn dilyn y gwrthryfel yn Tsiecoslofacia, o bosibl mewn trafferth yn ei wlad, felly fe ddarganfu Elliott Erwitt, oedd yn llywydd Magnum ar y pryd, ffordd o gael Josef allan o Tsiecoslofacia drwy ddyfarnu gwobr iddo ddod i dynnu lluniau." "Un diwrnod dyma gloch y drws ffrynt yn canu, ac wrth y drws roedd Elliott a’r ffotograffydd yma – Josef Koudelka – nad oeddwn i’n gwybod llawer amdano. Dyma Elliott yn gofyn a gâi Josef aros gyda mi tra roedd yn datblygu ei ffilm. “Siŵr iawn,” meddwn i, “sawl rholyn sydd gen ti?” Fy nghof i yw iddo ateb “800”!" "Felly fe arhosodd yn y fflat...pwy â ŵyr, tua wyth mlynedd, roedd yn amser hir iawn, ac yn y diwedd fe ddaethon ni mor agos nes ’mod i’n arfer ei gyflwyno fel brawd imi. Roedd e’n gwneud yr un peth. Rwy’n ei garu’n fawr, mae’n esiampl wych, achos dw i erioed wedi nabod neb sy’n gweithio mor galed, sydd mor ynghlwm wrth ffotograffiaeth, nac sydd mor fanwl gywir ynghylch yr hyn mae’n ei wneud." Tish Murtha "Mae hwn gan Tish Murtha. Roedd Tish yn enigma; hi gafodd y cyfweliad byrraf, mor fyr nes fy mod yn ei gofio, o unrhyw un a gafodd gyfweliad gennym i ddod i mewn i Gasnewydd. Doeddwn i byth yn arfer edrych ar bortffolios; doedd gen i ddim diddordeb gwybod a oedd pobl yn meddwl eu bod nhw’n ffotograffwyr. Fy niddordeb i oedd canfod pobl oedd â thân yn eu bol dros rywbeth, boed yn fotanegydd neu’n bensaer." "Beth bynnag, daeth Tish i mewn ac rwy’n cofio gofyn iddi beth roedd hi eisiau’i wneud ac fe ddywedodd hi rywbeth fel “Dwi eisiau tynnu llun plismyn yn cicio cryts”. Dyna’r oll ddywedodd hi, ac fe ddywedais i “iawn, fe ddysgwn ni hynny i ti”." "Ro’n i’n gwybod y byddai hi’n iawn achos fe siaradodd hi am ei chefndir yn yr un frawddeg fach yna gyda chymaint o angerdd a chymaint o wybodaeth amlwg. Fe dyfodd hi’n ffotograffydd bendigedig. Mae’r llun hwn yn anhygoel. Ennyd mor gariadus rhwng dau sy’n byw ar y stryd. Mae cymaint o agosrwydd yma, allwch chi ddim tynnu’r math yna o lun oni bai’ch bod chi ynghlwm go iawn â’r bobl rydych chi’n tynnu eu llun." Sergio Larraín "Mae’r llun penodol hwn gan Sergio Larrain yn bwysig i mi gan ei fod, mewn ffordd, wedi rhoi caniatâd i mi wneud rhai pethau. Roeddwn i yn Trafalgar Square yn tynnu llun y colomennod, ac roedd ffotograffydd arall wrthi’n tynnu lluniau’r adar hefyd. Sergio Larrain oedd e." "Fe ddaethom yn ffrindiau. Edrychodd Sergio ar fy lluniau a dweud wrthyf nad trwy gystadlu ym myd materion cyfoes yr oeddwn i’n cynhyrchu fy ffotograffiaeth orau, ac awgrymodd fy mod i’n well am gofnodi pethau llawer mwy personol. Roedd hynny’n beth eithriadol i mi, achos fe sylweddolais yn sydyn fod yma ffotograffydd a dynnai luniau roeddwn i wir yn eu caru yn dweud “mae’n iawn i wneud yr hyn rwyt ti wir wrth dy fodd yn ei wneud”. Trwy lwc, dechreuodd yr atodiadau lliw yn y 1960au, ac roedd hynny’n wych achos roedd yna wastad slot bychan yn yr atodiadau ar gyfer rhyw stori ddinod, oedd yn golygu mai’r unig berson i lenwi’r slot hwnnw oedd fi! Felly, mewn ffordd, roedd gen i law rydd, ac mae’n berson pwysig iawn, iawn yn fy mywyd." Llun ar pen y tudalen gan Tish Murtha. Mwy o Wybodaeth (Saesneg yn unig) David Hurn yn Magnum Josef Koudelka yn Magnum Sergio Larrain yn Magnum Tish Murtha
Llun am Lun: David Hurn yn trafod Ffotograffieth 29 Medi 2017 Mae Llun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn yn rhedeg o 30 Medi 2017 to 11 Mawrth 2018. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu rhodd sylweddol gan David Hurn – ffotograffau o’i gasgliad preifat. Cynhelir yr arddangosfa yn yr oriel gyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael ei neilltuo i ffotograffiaeth. Dyma ffilmiau o'r arddangosfa: Y Casgliad "Wnaeth y casgliad ddim dechrau tan 1958, am wn i. Fe ddechreuais i dynnu lluniau ym 1955, ac ym 1958 roeddwn i’n tynnu lluniau yn Trafalgar Square, ac roedd ffotograffydd arall yno. Daeth ata i a dweud rhywbeth rhyfedd iawn. Dywedodd, “rwy’n meddwl y gallet ti fod yn ffotograffydd da iawn”. Beth bynnag, Sergio Larrain oedd e. Roeddwn i’n edrych ar luniau Sergio ac fe roddodd gwpl i mi. Ac fe sylweddolais fy mod yn trysori, nid yn unig y lluniau, ond mae yna rywbeth (annisgrifiadwy yn fy marn i) am y cysylltiad rhwng cael print sydd wedi cael sêl bendith y ffotograffydd ei hun. Felly fe ddechreuais i gasglu ac yna cefais y syniad o gyfnewid printiau. Ac felly dyna ddechreuais i wneud, ac roedd gen i’r hyder i fynd at ffotograffwyr fel Dorothea Lange a phobl felly. Wedyn roeddwn i’n ddigon haerllug i gwrdd â hi a dweud faint oeddwn i’n hoffi ei lluniau, ac y byddwn wrth fy modd yn cyfnewid print. Yna fe sylwais fod pobl yn hoffi cyfnewid. Rwy’n credu ei fod yn gasgliad personol iawn. Rwy’n meddwl am y ffotograffwyr sydd yna; allech chi ddim cael gwell casgliad." Dorothea Lange White Angel Breadline, San Francisco, 1933. "Mae Dorothea Lange yn un o ffotograffwyr mawr hanes. Roedd hi’n bwysig iawn, yn benodol achos ei gwaith cyn y rhyfel yn y basn llwch. Fe wyddwn i am Dorothea Lange, roeddwn i’n digwydd bod yn Chicago ac yn gwybod ei bod hithau’n byw yno, felly fe es i... roeddwn i’n dechrau dod yn adnabyddus fel ffotograffydd, felly fe es i’w gweld hi. Doeddwn i heb feddwl am gael print, roedd hyn cyn i mi ddechrau cyfnewid lluniau hyd yn oed. Roedd hi’n dangos rhai printiau i mi, ac fe ddywedais, “Rwy wrth fy modd â hwn”, ac fe roddodd hi’r llun i mi. Fe gyhoeddodd hi lyfr gwych, gyda’i gŵr, ac mae’n un o’r llyfrau mwyaf cyflawn. Mae’n tynnu sylw at broblem gymdeithasol. Mae’n hardd iawn, yn dangos sut gall llyfr gael ei osod, a sut gall y capsiynau cywir a'r testun cywir a’r lluniau cywir, gyda’i gilydd, greu dadl gref dros rywbeth. Rwy’n credu ei fod yn llyfr pwysig iawn." Henri Cartier-Bresson French painter Henri Matisse at his home, villa 'Le Rêve'. Vence, France, 1944. "Roedd Henri Cartier-Bresson yn briod â ffotograffydd gwych o’r enw Martine Franck. Roedd Martine wedi tynnu lluniau ar Ynys Toraí, ynys fach oddi ar arfordir Iwerddon, ac wedi tynnu llun James Dixon y paentiwr naïf. Fel mae’n digwydd, mae un arall o’r casgliadau sydd gennyf – edrychwch o gwmpas – gan arlunwyr naïf, ac roedd gen i dri phaentiad gan James Dixon achos roeddwn i hefyd wedi bod ar Ynys Toraí yn tynnu lluniau. Dywedais, “Iawn te, beth am imi gyfnewid y paentiad am lun gan Bresson a llun gennyt ti?” Felly cefais ddau ffotograff am y paentiad. Felly, fe gyrhaeddodd y lluniau ac mae’r ddau lun gen i – llun hyfryd iawn gan Martine Franck. Ac yna fe apeliodd hwn ataf am ei fod yn llun o fy hoff baentiwr o bosibl, gan un o fy hoff ffotograffwyr. Mae portread Bresson o Matisse yn un o fy hoff ffotograffau erioed. Wedi i Henri farw cefais amlen drwy’r post oddi wrth Martine yn cynnwys copi arall o’r un llun, ond fod plygiad yn y gornel. Mae gen i nodyn hefyd sy’n fwy hyfryd fyth, ac mae’n dweud: “Cefais hyd i’r llun hwn. Sylweddolodd Henri fod y print gwreiddiol wedi’i niweidio a gwnaeth ail brint”, achos doedd e byth yn gwneud ei brintiau ei hun, yr un bobl oedd wastad yn eu gwneud, “felly meddyliais efallai yr hoffet ti gael hwn hefyd.” Mae’n bortread hyfryd. I mi, mae’n bopeth y dylai portread fod." Llun ar pen y tudalen gan John Davies. Mwy o Wybodaeth (Saesneg yn unig) David Hurn yn Magnum Henri Cartier-Bresson yn Magnum Sergio Larrain yn Magnum Martine Franck yn Magnum Dorothea Lange yn y History Place
Llyfrau’r 16eg ganrif yn Llyfrgell Willoughby Gardner Kristine Chapman, 14 Awst 2017 Ym 1953, cafodd Amgueddfa Cymru gasgliad sylweddol o dros 300 o lyfrau hanes natur, cynnar a chyfoes, yn rhodd gan Dr Willoughby Gardner o Ddeganwy. Cafodd Dr Gardner ei eni yn Swydd Gaer ym 1860. Oherwydd salwch roedd rhaid iddo ymddeol yn gynnar. Aeth i fyw yn Neganwy yn y 1900au cynnar, lle’r oedd yn gallu ymroi ei amser i ddilyn ei ddiddordebau amrywiol, gan gynnwys archaeoleg, pryfeteg a niwmismateg. Oherwydd y diddordebau hyn, roedd ganddo berthynas agos â’r Amgueddfa. Gwnaeth gryn dipyn o waith ar arolygon bryngaerau yng Nghymru er enghraifft, a rhoddodd nifer o wrthrychau a ddaeth i’r fei i’r adran Archaeoleg. Ychydig o flynyddoedd cyn iddo farw rhoddodd ei gasgliad o Aculeate Hymenoptera Prydeinig i’r adran Sŵoleg. Fodd bynnag, ei lyfrgell sylweddol o lyfrau hanes natur oedd ei rodd fwyaf hael. Mae’r casgliad yn cynnwys llyfrau o’r 15eg i’r 18eg ganrif ac mae nifer ohonynt yn drysorau prin, yn enwedig y rheini o’r 16eg ganrif. Trodd Gutenberg y diwydiant argraffu ar ei ben pan ddyfeisiodd y wasg argraffu ym 1450. Lledaenodd y ddyfais newydd o’r Almaen drwy weddill Ewrop ac mae llyfrau’r cyfnod hwn yn dangos defnydd eang a hyderus o’r wasg argraffu. Erbyn 1500 roedd y nifer o weithdai argraffu wedi cynyddu’n sylweddol, ac roeddent wedi gwella’u prosesau digon er mwyn cynhyrchu niferoedd llawer mwy o lyfrau. Roedd hyn yn golygu y gellid cyfnewid gwybodaeth a syniadau yn haws, ac arweiniodd hyn at ddatblygiadau sylweddol ym meysydd hanes natur yn y 16eg ganrif. Llysieulyfrau Yn y blynyddoedd cynnar, tueddwyd i adargraffu clasuron y cynfyd, ond erbyn canol y 16eg ganrif roedd amrywiaeth llawer ehangach o bynciau’n cael eu trafod. Roedd llysieulyfrau, sef canllawiau i blanhigion, yn boblogaidd iawn ar y pryd, ac roeddent yn canolbwyntio’n bennaf ar briodweddau meddyginiaethol y planhigion. Rhestrwyd y planhigion ynghyd â disgrifiadau helaeth o’r clefydau y gallent eu gwella. Yn aml iawn, ffisegwyr blaenllaw oedd yr awduron, yn ysgrifennu ar gyfer pobl gyffredin yn hytrach nag ysgolheigion. Byddai’r disgrifiadau’n aml yn cynnwys torluniau pren o’r planhigion. Dull o ysgythru pren yw torlunio, gyda’r enw’n tarddu o’r dull. Caiff bloc pren ei gerfio, caiff inc ei roi arno, ac yno mae’n mynd trwy’r wasg ynghyd â’r testun. Yna, gellir lliwio’r lluniau â llaw yn ôl yr angen, er y byddai llyfr lluniau lliw yn fwy drud o lawer. Mae casgliad llysieulyfrau’r 16eg ganrif yng nghasgliad Willoughby Gardner yn cwmpasu llawer o gyhoeddiadau blaenllaw’r cyfnod, gan gynnwys gweithiau Otto Brunfels, Leonhard Fuchs a Hieronymus Bock, hynny yw ‘Tadau Botaneg Almaenaidd’ . Roedd Herbarum vivae eicones gan Otto Brunfels yn ddylanwadol gan ei fod yn cynnwys bywluniadau yn bennaf, yn hytrach na lluniau wedi’u copïo o waith oedd eisoes yn bodoli, sef y dull cyffredin bryd hynny. Roedd y lluniau’n edrych mor naturiol â phosibl yn hytrach na’r dyluniadau mwy addurnol a oedd yn fwy cyffredin mewn llysieulyfrau Almaeneg. Cyhoeddwyd y gyfrol yn wreiddiol ym 1530, ond argraffiad diweddarach o 1532 yw’r copi yng nghasgliad Willoughby Gardner. Ym 1539 cyhoeddodd Hieronymus Bock lysieulyfr yn ei famiaith, Almaeneg, a gafodd ei gyfieithu wedyn i’r iaith Ladin er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Roedd gan Willoughby Gardner gopi o’r cyfieithiad Lladin, De stirpium maxime, a gyhoeddwyd ym 1552, gyda lluniau wedi’u lliwio â llaw. Mae copi Willoughby Gardner yn arbennig am fod rhywun ar ryw adeg wedi ysgrifennu enwau Saesneg rhai o’r planhigion â llaw wrth ymyl y lluniau. Cyhoeddwyd De historia stirpium gan Leonhard Fuchs ym 1542, ac mae gan y copi yng nghasgliad Willoughby Gardner luniau lliw hefyd. Yn anffodus mae’n anghyflawn, gyda nifer o dudalennau yng nghanol y llyfr ar goll. Hefyd yn y casgliad mae A niewe herbal, or historie of plantes gan Rembert Dodoens, wedi’i gyfieithu i’r Saesneg ym 1578 o argraffiad Ffrangeg cynharach. Wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol yn Fflemineg ym 1554, gyda’r Ffrangeg yn fuan iawn wedi hynny, roedd llawer o luniau ynddo’n seiliedig ar rai Fuchs, er bod y testun yn wreiddiol. Sŵoleg Yn ogystal â’r llysieulyfrau, mae hefyd nifer o lyfrau arwyddocaol eraill ym maes sŵoleg yn y casgliad o ganol y 16eg ganrif. Ymhlith y gweithiau hyn mae: De differentiis animalium libri decem gan Edward Wotton, 1552, sef llyfryddiaeth o waith awduron clasurol. Ystyriwyd mai Wotton oedd y naturiaethwr cyntaf i wneud astudiaeth systematig o hanes natur. Libri de piscibus marinis gan Guillaume Rondelet, 1554. Roedd Rondelet yn feddyg ac yn athro ym Mhrifysgol Montpelier yn ne Ffrainc. Libri de piscibus marinis yw ei waith mwyaf enwog. Mae’n trafod holl amrywiaeth anifeiliaid y dŵr gan nad oedd ysgolheigion y cyfnod yn gwahaniaethu rhwng pysgod a mamaliaid. Y llyfr oedd y prif destun cyfeirio i fyfyrwyr am bron i ganrif wedi hynny. L’histoire de la nature des oyseaux gan Pierre Belon, 1555. Fforiwr, naturiaethwr, awdur a diplomydd o Ffrainc oedd Belon. Teithiodd yn eang drwy Ewrop gan gofnodi’r bywyd gwyllt a welodd. Fel llawer eraill yng nghyfnod y Dadeni, astudiodd amrywiaeth o bynciau gan gynnwys adaryddiaeth, botaneg, anatomeg gymharol, pensaernïaeth ac Eifftoleg, ac ysgrifennu amdanynt oll. Sawl copi o Historiae animalium gan Conrad Gesner. Dyma gyfres o bum cyfrol. Cyhoeddwyd y pedair gyntaf rhwng 1551 a 1558, yn adrodd hanes creaduriaid pedwartroed, adar a physgod, a chyhoeddwyd y pumed gyfrol ar nadredd ym 1587 wedi marwolaeth Gesner. Ei fwriad oedd creu gwyddoniadur i gofnodi pob math o fywyd adnabyddus, go iawn a mytholegol, sef y rheswm dros gynnwys angenfilod y môr, manticorau ac ungyrn hefyd! Roedd Gesner yn feddyg ac yn athro yn Zurich, ond yn wahanol i Belon nid oedd yn gallu teithio cymaint. Yn hytrach, roedd yn dibynnu ar gyfraniadau gan ffrindiau a chydweithwyr ar draws Ewrop. Nid oedd modd iddo weld yr anifeiliaid â’i lygaid ei hun bob tro, felly penderfynodd Gesner gynnwys popeth a oedd wedi’i ysgrifennu ar yr anifeiliaid yn ei lyfrau. O ganlyniad, nid oedd yn gallu sicrhau bod y wybodaeth yn gywir bob amser. Fodd bynnag, meddai Gesner ei bod: “yn well cofnodi popeth yr oedd wedi dod ar eu traws fel y bydd gan arbenigwyr y dyfodol ym meysydd gwahanol hanes natur bopeth o’u blaen fel y byddai modd iddynt feirniadu drostynt eu hunain ym mhob achos”. Darllen Pellach Arber, Agnes. Herbals: their origin and evolution, 3ydd argraffiad. Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1986 Kenyon, John R. The Willoughby Gardner Library: a collection of early printed books on natural history. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1982 Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl hon yng nghylchlythyr Nawdd yn gyntaf.