Mwydod y môr – beth yw mwydod gwrychog y môr a pham maen nhw mor bwysig? Katie Mortimer-Jones & Teresa Darbyshire, 7 Awst 2024 Y ddwy rywogaeth o lyngyr y traeth sydd i’w gweld o gwmpas y DU, Arenicola marina ac Arenicola defodiens. Abwyd gwyrdd, Alitta virens, sy’n cael ei ddefnyddio’n aml fel abwyd gan bysgotwyr! Welwch chi’r blew lliwgar hardd ar ochrau’r fôr-lygoden, Aphrodita aculeata, yma? Gallwch weld bod y corff wedi’i ffurfio o lawer o segmentau, sy’n dangos mai mwydyn yw môr-lygoden. Mae’r Llynghyren Binc Smotiog, Eupolymnia nebulosa, sydd i’w gweld yn aml o gwmpas y DU, yn cael ei henw oherwydd bod ganddi gorff pinc â smotiau gwyn arno. Welwch chi’r tagellau coch llachar? Mae’r Mwydyn Côn Hufen Iâ, Lagis koreni, yn defnyddio tywod a darnau o gregyn i adeiladu tiwb cywrain. Mae’n byw ben i waered ac yn defnyddio ei flew aur hardd i dyrchu yn y tywod. Montage o rai o’r mwydod gwrychog rhyfeddol rydym yn dod o hyd iddynt ym mhob cwr o’r byd. Ydych chi’n adnabod mwydod? Efallai y byddwch yn rhyfeddu at y rhain. Gall mwydod y môr fod yn hardd, ffyrnig, rhyfeddol a thrawiadolMae mwydod y môr yn hollbwysig ar gyfer iechyd ein moroedd, maen nhw’n rhan bwysig o weoedd bwyd, ac yn ‘arddwyr y cefnfor’Mae gan Amgueddfa Cymru ddau arbenigwr mewn mwydod y môr, sy’n darganfod rhywogaethau newydd yn y wlad hon a thramorEfallai nad ydych wedi clywed am fwydod gwrychog y môr, ond maen nhw’n greaduriaid pwysig iawn a rhyfeddol o hardd yn aml. Dyna ein barn ni fel curaduron yr amgueddfa, a gobeithio y byddwch yn cytuno â ni ar ôl darllen yr erthygl hon!Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad helaeth o infertebratau morol, anifeiliaid sy’n byw yn y môr, ac yn wahanol i chi a fi, nad oes ganddynt asgwrn cefn. Mae’r rhan fwyaf yn dod o ddyfroedd o amgylch Cymru, ond casglwyd rhai o rannau eraill o’r byd. Maen nhw’n cynnwys creaduriaid y môr y byddwch o bosibl yn gyfarwydd â nhw, er enghraifft cimychiaid, crancod, sêr môr, cregyn cylchog, cregyn gleision, cwrelau ac anemonïau, a llawer o rai eraill na fyddwch wedi clywed amdanynt o bosibl.Beth yw mwydod gwrychog?Un o’r grwpiau hyn yw mwydod y môr, neu yn fwy penodol mwydod gwrychog y môr. Enw gwyddonol mwydod gwrychog y môr yw polychaete, enw sy’n golygu “llawer o flew”, gan fod ganddynt lawer o ‘flew’ ar eu cyrff i’w galluogi i symud neu lynu at rywbeth arall. Maen nhw’n perthyn i fwydod cyffredin a gelod, mewn grŵp o’r enw ‘Annelida’, y mwydod segmentiedig. Os ydych wedi astudio mwydyn neu bryf genwair yn agos yn eich gardd, byddwch wedi gweld bod y corff wedi’i ffurfio o nifer o segmentau, sy’n egluro enw’r grŵp.Ble galla i weld mwydod gwrychog?Ydych chi wedi sylwi ar bentyrrau dolennog o dywod ar wyneb y traeth a meddwl tybed beth wnaeth y sypiau rhyfedd hyn o dywod? Wel, maen nhw’n cael eu gwneud gan lyngyr y traeth, math cyffredin o fwydyn gwrychog y môr sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan bysgotwyr fel abwyd i ddal pysgod. Mae llyngyr y traeth yn byw mewn tyllau yn y tywod, ac yn llyncu’r tywod i gael maethynnau. Yna mae angen iddyn nhw gael gwared ar y tywod, drwy ei ryddhau o’u cynffonau, bron iawn fel tiwb past dannedd. Felly, beth rydych chi’n ei weld mewn gwirionedd yw cynnyrch gwastraff y llyngyr – ie, baw llyngyr!Math arall o fwydyn gwrychog y môr y gallech fod wedi clywed amdano yw abwyd melys, sydd hefyd yn cael eu defnyddio gan bysgotwyr fel abwyd. Gall yr abwydyn gwyrdd, Alitta virens, dyfu i fod hyd at fetr o hyd, ac mae’n garthysydd, sy’n aml yn bwyta anifeiliaid eraill! Ond peidiwch â phoeni, dydyn nhw ddim i’w gweld ar y traeth yn aml.Pam y mae mwydod gwrychog y môr yn bwysig?Yn gyntaf, maen nhw’n aml yn ffurfio cyfran fawr o’r anifeiliaid sy’n byw yng ngwely’r môr, weithiau cynifer â 50-80%! Mae hyn yn eu gwneud yn rhan bwysig o weoedd bwyd morol, ac yn darparu bwyd i anifeiliaid eraill megis crancod, cimychiaid, pysgod, adar y môr a hyd yn oed fathau eraill o fwydod. Hebddyn nhw, byddai gweoedd bwyd cyfan yn crebachu. Yn ail, y creaduriaid hyn yw ‘garddwyr y cefnfor’, yn gwneud gwaith tebyg i fwydod ar dir. Maen nhw’n troi’r gwaddodion yng ngwely’r môr drosodd, ac yn cael ocsigen i lawr iddyn nhw. Mae gwyddonwyr yn aml yn dweud eu bod yn ‘rhywogaeth ddangosol’ dda, sy’n golygu eu bod yn gallu dweud rhywbeth wrthym am iechyd a chyflwr y moroedd. Er enghraifft, mae presenoldeb rhai mwydod gwrychog yn dweud wrthym fod gwely’r môr yn iach, tra gallai eraill fod yn arwydd bod yr amgylchedd wedi’i lygru. Gall mwydod eraill adeiladu strwythurau tebyg i riffiau a all fod yn gartref i anifeiliaid o bob math.Sut mae mwydod gwrychog yn edrych?Gobeithio ein bod wedi llwyddo i’ch argyhoeddi pa mor bwysig yw mwydod gwrychog y môr, ond beth am eich argyhoeddi pa mor ddel ydyn nhw? Wel, mae dros 12,000 o wahanol rywogaethau o fwydod gwrychog y môr ar hyd a lled y byd, ac rydym yn darganfod rhywogaethau newydd o hyd. Mae gennym ymhell dros 1,000 o rywogaethau yn y DU, ac mae’r nifer yn cynyddu o hyd. Felly, sut maen nhw’n edrych? Mae mwydod gwrychog y môr wedi addasu i fyw ym mhob cynefin ac amgylchedd morol bron, felly maen nhw’n amrywio’n fawr o ran siâp, maint a lliw. Mae rhai’n fach iawn, mor fach mewn gwirionedd nes eu bod yn byw rhwng y gronynnau tywod ar y traeth, tra mae eraill yn ôl y sôn yn gallu tyfu i fod dros 4 metr o hyd! Gall rhai edrych yn debyg iawn i fwydod cyffredin, ond mae llawer yn edrych yn wahanol iawn, ac mae rhai nad ydyn nhw’n edrych fel mwydod o gwbl. Mae rhai yn lliwiau llachar, yn edrych bron iawn fel blodau, mae eraill bron yn symudliw a sgleiniog, ac mae rhai hyd yn oed yn edrych braidd yn frawychus! Felly, gadewch i ni ddweud wrthych am rai mwydod diddorol iawn ……Aphrodite aciculata, yn edrych yn flewog, ond mwydod ydyn nhw. Maen nhw’n byw ym mhob cwr o’r DU a gallwch eu gweld weithiau wedi’u golchi i’r traeth. Os trowch un ben i waered gallwch weld y segmentau sy’n dweud wrthych mai mwydyn yw môr-lygoden. Mae’n ysglyfaethwr, yn aml yn bwyta mwydod eraill. Ond edrychwch ar y blew hardd a lliwgar ar ei gorff!Mae gan y Llynghyren Binc Smotiog, Eupolymnia nebulosa, gorff pinc â smotiau gwyn arno, a thentaclau tebyg i sbageti y mae’n eu defnyddio i ddal ei bwyd. Er mai ‘strawberry worm’ yw’r enw Saesneg arni, go brin y byddai’n mynd yn dda gyda hufen! Mae llyngyr pinc smotiog yn cuddio dan greigiau ar y traeth, ym mhob cwr o’r DU.Gan ein bod yn siarad am fwyd, dyna i chi’r Mwydyn Côn Hufen Iâ, Lagis koreni. Mae’r mwydod hardd hyn yn adeiladu tiwbiau cywrain siâp côn o ronynnau tywod a darnau bach o gregyn. Mae’r mwydod yn byw ben i waered, gan dyrchu yn y tywod â blew aur, sy’n edrych yn debyg i flew llygaid! Efallai y byddwch yn dod o hyd i diwb gwag ar draethau yn y DU.Pam y mae amgueddfeydd yn cadw casgliadau o fwydod gwrychog y môr?Gobeithio ein bod wedi eich argyhoeddi y gall mwydod fod yn greaduriaid rhyfeddol, ond pam y mae gan amgueddfeydd gasgliadau ohonyn nhw? Mae’r casgliadau hyn yn rhoi ciplun syfrdanol o ba rywogaethau sydd wedi byw mewn gwahanol leoedd ar wahanol adegau. Mae hyn yn bwysig er mwyn i ni allu cofnodi unrhyw newidiadau a allai ddigwydd o ganlyniad i bethau fel newid hinsawdd.A oes rhywogaethau newydd o fwydod gwrychog yn cael eu darganfod o hyd?Mae gan Amgueddfa Cymru ddau arbenigwr mewn mwydod gwrychog y môr sy’n astudio’r anifeiliaid rhyfeddol hyn. Maen nhw’n dacsonomyddion, gwyddonwyr sy’n darganfod, disgrifio ac enwi rhywogaethau newydd ac yn dweud wrth bobl eraill ym mhob cwr o’r byd beth i chwilio amdano. Mae casgliadau amgueddfeydd yn adnodd hynod o bwysig ar gyfer y math yma o ymchwil, ac yn ein helpu i ddysgu mwy am fioamrywiaeth ar y Ddaear a chofnodi ac ymchwilio i newidiadau. Gallwch ddarganfod rhagor am waith disgrifio rhywogaethau yr Amgueddfa yma. Cadwch lygad hefyd am ddiweddariadau ar dudalennau blog yr amgueddfa.
Arthur yr Arthropleura Lucy McCobb, 23 Mawrth 2022 Pwy yw Arthur yr Arthropleura? Model yw Arthur o’r infertebrat mwyaf i fyw ar y tir erioed, creadur tebyg i filtroed o’r enw Arthropleura. O ble y daeth Arthur yr Arthropleura? Arddangoswyd y model yn wreiddiol yn Nhŷ Esblygiad Gerddi Kew ond pan gafodd y gofod ei glirio i baratoi ar gyfer adfer y Tŷ Tymherus, dan nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, nid oedd ei angen mwyach ac, yn garedig iawn, cafodd ei roi gan Kew i Amgueddfa Cymru. Roedd angen gwaith cadwraeth sylweddol ar y model Arthropleura pan gyrhaeddodd Amgueddfa Cymru. Yn dilyn blynyddoedd lawer mewn arddangosfa agored mewn tŷ gwydr, ochr yn ochr â phlanhigion byw, roedd wedi dioddef difrod a rhwd. Roedd lleithder y gofod arddangos wedi peri i’r paent arwynebol blicio, ac roedd sawl corryn a malwen wedi ymgartrefu ar ochr isaf y model! Arthur yr Arthropleura cyn cwblhau'r gwaith cadwraeth Arthur yr Arthropleura yn cael bath --> Y dasg gyntaf oedd golchi’r model yn dda gyda dŵr poeth a sebon i gael gwared ar y baw a’r gwe corryn! Yna cafodd yr holl baent rhydd ei sgwrio, defnyddiwyd pwti epocsi i ailffurfio’r rhannau a oedd wedi’u difrodi ar y coesau a’r pen, ac atgynhyrchwyd y gweadau arwynebol. Roedd y nytiau a’r bolltau a oedd yn cysylltu’r teimlyddion wedi rhydu, felly gosodwyd ffyn dur di-staen newydd yn lle’r hen rannau metel. Arthur yr Arthropleura ar ôl y gwaith atgyweirio Arthur yr Arthropleura yn ymweld a galeri Celf Argraffidaol --> Wedi cwblhau’r gwaith atgyweirio, cafodd y model ei baentio’n ofalus gyda phaent acrylig ac yna’i orchuddio mewn farnais gwydn, nes ei fod yn addas i’w arddangos yn gyhoeddus unwaith eto. Arthur yr Arthropleura wrth ymyl Llwynog er mwyn cymharu maint ffosil o greadur cyntefig tebyg i gorryn (Maiocercus celticus) --> Pwy roddodd yr enw Arthur i’r Arthropleura? Roedd rhai o staff yn adran y Gwyddorau Naturiol wedi closio at y model trawiadol 1.5m o hyd wrth i’r gwaith cadwraeth fynd rhagddo yn y labordy, ac wedi’i enwi’n Arthur yr Arthropleura! Rydyn ni hefyd wedi cael hwyl gydag Arthur; mae wedi “dianc” ac wedi bod yn byw yn rhydd o amgylch orielau’r amgueddfa! Dangoswyd lluniau o’i anturiaethau ar @CardiffCurator, cyfrif Twitter adran y Gwyddorau Naturiol ac roedd yr ymateb gan ddilynwyr y cyfrif yn wych. Mae Arthur yr Arthropleura bellach yn seren ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n ychwanegiad gwych iawn i’n casgliadau! Arthur yn un o’i gynefinoedd naturiol, y gors lo yn ein horiel Esblygiad Cymru Sut olwg oedd ar Arthropleura? Roedd Arthropleura yn edrych yn debyg iawn i filtroediaid heddiw. Roedd ganddo gorff hir, cul yn cynnwys llawer o gylchrannau, gyda phlatiau caled yn gorchuddio’i gefn. O dan y corff, roedd llawer o barau o goesau cymalog, tua 8 pâr ar gyfer pob chwe chylchran, sy’n debyg i nifer y coesau sydd gan filtroediaid modern. Yn ddiweddar, mae palaeontolegwyr wedi sylweddoli mai cylchran flaen y corff, mewn gwirionedd, yw’r hyn roedden nhw’n meddwl oedd pen yr Arthropleura. Roedd y pen go iawn yn celu o dan y gylchran hon, fel sy’n digwydd gyda miltroediaid cyfoes hefyd. Felly mae ein model ni o Arthur wedi dyddio ychydig, ac ni ddylai fod yn edrych yn syth ymlaen cymaint ag y mae. Pa mor fawr oedd Arthropleura? Mae dau fath o dystiolaeth sy’n awgrymu pa mor fawr oedd Arthropleura. Canfuwyd ffosiliau o gorff y creadur, neu rannau ohono, yn yr Almaen, Gwlad Belg, Ffrainc, y Weriniaeth Tsiec, a’r DU, ond maen nhw’n gymharol brin. Yn fwy cyffredin, mae ffosiliau o’r olion troed hir a adawyd gan Arthropleura wrth iddo sgrialu dros dir llaith. Mae ffosiliau o’i olion traed wedi’u canfod yn yr Unol Daleithiau, Canada, yr Almaen, Ffrainc a’r Alban. Mae mesur yr olion yn awgrymu lled y creaduriaid a’u gwnaeth, ac mae modd i ni ddefnyddio hynny i amcangyfrif pa mor hir oedden nhw’n debygol o fod. Mae olion niferus o faint gwahanol mewn rhai lleoedd, sy’n dangos bod Arthropleura o faint gwahanol (ac o oed gwahanol, yn ôl pob tebyg) yn symud o gwmpas yn yr ardal honno. Mae’r olion lletaf sydd wedi dod i’r fei yn 50cm o led, felly amcangyfrifir bod yr Arthropleura mwyaf wedi bod dros 2 fetr o hyd. Ble roedd Arthropleura yn hoffi byw? Mae ffosiliau ac olion troed Arthropleura wedi’u canfod mewn gwahanol leoliadau a fyddai wedi bod yn weddol agos at y cyhydedd 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, gan gynnwys Gogledd America a’r DU heddiw. Canfuwyd llawer o’r ffosiliau cyntaf mewn siâl to sy’n gorwedd ar wythiennau glo, felly tybiwyd am hir bod y creaduriaid enfawr yn byw mewn corsydd glo llaith. Ers hynny, canfuwyd tystiolaeth o Arthropleura mewn nifer o amgylcheddau gwahanol, gan gynnwys olion traed ar hyd glannau afonydd sych. Mae’n ymddangos eu bod nhw’n teimlo’n gartrefol mewn amrywiaeth o dirweddau gyda rhywfaint o orchudd llystyfiant. Arthur yr Arthropleura wrth ymyl Llwynog er mwyn cymharu maint A fyddai Arthopleura wedi fy mwyta? Dydyn ni ddim yn gallu bod yn siŵr beth oedd Arthropleura yn hoffi ei fwyta, oherwydd does dim olion o’r geg wedi’u canfod mewn unrhyw ffosiliau. Fodd bynnag, pe bai ganddo enau caled a chryf ar gyfer brathu ysglyfaeth, mae’n debyg y byddai’r olion wedi goroesi ac wedi cael eu ffosileiddio. Efallai mai rhesymu cylchol yw hynny, ond mae rhesymau eraill pam ein bod ni’n tybio ei fod yn bwyta planhigion yn hytrach na chig. Canfuwyd ffosil Arthropleura yn yr Alban ym 1967, a oedd ag olion planhigion o’r enw cnwp-fwsoglau mawr yn agos i’r fan lle byddai ei berfedd wedi bod. Mae’n bosib bod y ffosiliau yng nghyffiniau ei gilydd drwy ddamwain, felly dydyn ni ddim yn gallu bod yn hollol siŵr mai’r planhigion oedd pryd olaf yr Arthropleura. Fodd bynnag, os oedd ei ddeiet yn debyg i ddeiet miltroediaid cyfoes, mae’n debygol y byddai wedi byw ar olion planhigion, hadau a sborau. Gyda pha greaduriaid eraill oedd Arthropleura yn rhannu ei gartref? Pe baech chi’n edrych ar y creaduriaid a oedd yn rhannu byd Arthropleura, byddech wedi gweld bywyd gwyllt pur wahanol i fywyd gwyllt heddiw. Doedd dim adar na mamaliaid, oherwydd nad oedden nhw wedi esblygu eto. Chwiliwch o gwmpas am y berthynas agosaf i ni, a byddech yn y pen draw yn sylwi ar amffibiad mawr, byrdew o’r enw Eryops yn cuddio yn y dŵr. Doedd anifeiliaid ag asgwrn cefn ddim wedi dechrau tra-arglwyddiaethu ar dir sych eto. Yn hytrach, pryfetach fyddai’r rhelyw o’r bywyd gwyllt o gwmpas y lle. Roedd chwilod du mawr (hyd at 9cm o hyd) yn crwydro ar hyd y lle, a chreaduriaid tebyg i gorynod a fyddai’n llenwi cledr eich llaw. Doedd y rhain ddim yn union fel corynod cyfoes – rhannwyd eu cyrff tew yn gylchrannau yn hytrach nag un darn crwn, a doedden nhw ddim eto wedi esblygu’r gallu i nyddu gwe – ond roedden nhw ar eu ffordd i fod yr arachnidau sy’n gyfarwydd i ni heddiw. Byddai’r awyrgylch yn drwm o hymian eglur rhai o’r creaduriaid mwyaf anhygoel o gwmpas – pryfed enfawr tebyg i was y neidr o’r enw pryfed griffon, gyda lled esgyll o fwy na 70cm. Roedd pryfed griffon ymhlith ysglyfaethwyr pennaf yr oes, ac ymhlith y creaduriaid cyntaf erioed ar y Ddaear erioed i hedfan, tua 150 miliwn o flynyddoedd cyn i’r adar cyntaf wneud hynny. Bu’n rhaid i’n perthynas pell, yr amffibiad Eryops, rannu ei gartref gydag arthropodau hyd yn oed; marchgrancod a oedd hefyd yn hoffi rhannu eu hamser rhwng tir sych a dŵr. ffosil o greadur cyntefig tebyg i gorryn (Maiocercus celticus) Pam nad oes infertebratau mor enfawr i’w gweld ar y tir heddiw? Heb unrhyw amheuaeth, y Cyfnod Carbonifferaidd, tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, oedd oes aur yr infertebratau enfawr. Bryd hynny, roedd chwilod du mawr, arachnidau a phryfed tebyg i was y neidr yn rhannu’r byd gyda’r Arthopleura enfawr, y pryfyn mwyaf i fyw ar y tir erioed. Sut oedd hynny’n bosibl, a pham nad ydyn ni’n gweld infertebratau mor fawr ag Arthur heddiw? Mae’r atmosffer heddiw’n cynnwys tua 21% o ocsigen. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod lefelau ocsigen tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn agos at 35%. Byddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i faint o ynni y gallai pryfed ac arthropodau eraill ei gynhyrchu. Yn wahanol i ni, does gan bryfed a miltroediaid ddim ysgyfaint i anadlu aer. Yn hytrach, mae tiwbiau bychan o’r enw sbiraglau yn gwau drwy eu sgerbydau allanol. Mae ocsigen yn ymledu drwy’r tiwbiau o’r tu allan i geudod llawn gwaed, ac o’r fan honno’n cael ei ddosbarthu o amgylch corff y creadur, gan roi’r egni iddo wneud popeth y mae’n ei wneud. Byddai mwy o ocsigen ar gael yn golygu ffynhonnell fwy o egni, gan alluogi pryfetach i dyfu’n fwy – a hynny yn ei dro yn hynod o bwysig o ran cynhyrchu digon o ynni i bryfed hedegog mawr allu codi i’r awyr. Fyddai’r fath gewri byth yn gallu hedfan o dan amodau atmosfferig heddiw. Arthur yn un o’i gynefinoedd naturiol, y gors lo yn ein horiel Esblygiad Cymru Tu hwnt i lefelau ocsigen, mae cyfyngiadau mecanyddol ynghlwm wrth sgerbwd allanol hefyd, sy’n ei gwneud yn annhebygol y gallai infertebratau mor fawr fodoli heddiw. Er mwyn tyfu, mae angen i bob arthropod waredu’r hen sgerbwd allanol a thyfu un newydd mwy o faint. Ar ôl gwaredu’r hen sgerbwd allanol, mae’r un newydd yn feddal am gyfnod, ac mae’n rhaid i’r arthropod aros iddo galedu cyn parhau â’i fywyd arferol. Mae hwn yn gyfnod peryglus o ran bygythiad gan ysglyfaethwyr, ond mae hefyd yn gosod terfyn ar faint y creadur – os yw’r sgerbwd allanol yn mynd yn rhy fawr a thrwm, mae’n creu perygl y bydd yn cwympo o dan ei bwysau ei hun. Dyna un rheswm pam mae’r arthropodau mwyaf heddiw yn byw yn y cefnfor, lle mae’r dŵr yn helpu i gynnal eu pwysau. Mae terfyn hefyd ar ba mor fawr y gall pryfetach dyfu. Po fwyaf y byddan nhw’n tyfu, y mwyaf trwchus fydd y bilen o’u hamgylch. Pan mae’r bilen yn cyrraedd rhyw drwch penodol, does dim lle’r tu mewn iddi i’r cyhyrau sydd eu hangen i’r coesau allu gweithio. Ffactor arall a fyddai wedi caniatáu i Arthur a’i debyg dyfu mor enfawr oedd diffyg fertebratiaid ysglyfaethus mawr. Am resymau amrywiol felly, dydy hi ddim yn bosib i bryfetach mor fawr fodoli heddiw. Lucy McCobb, Caroline Buttler ac Annette Townsend Geirfa: Arthropod – anifail di-asgwrn-cefn gyda sgerbwd allanol a choesau cymalog. Infertebrat – anifail di-asgwrn-cefn. Sgerbwd allanol – croen allanol caled, sy’n rhoi cymorth ac amddiffyniad i greaduriaid heb sgerbwd mewnol.
Llyfrau’r 16eg ganrif yn Llyfrgell Willoughby Gardner Kristine Chapman, 14 Awst 2017 Ym 1953, cafodd Amgueddfa Cymru gasgliad sylweddol o dros 300 o lyfrau hanes natur, cynnar a chyfoes, yn rhodd gan Dr Willoughby Gardner o Ddeganwy. Cafodd Dr Gardner ei eni yn Swydd Gaer ym 1860. Oherwydd salwch roedd rhaid iddo ymddeol yn gynnar. Aeth i fyw yn Neganwy yn y 1900au cynnar, lle’r oedd yn gallu ymroi ei amser i ddilyn ei ddiddordebau amrywiol, gan gynnwys archaeoleg, pryfeteg a niwmismateg. Oherwydd y diddordebau hyn, roedd ganddo berthynas agos â’r Amgueddfa. Gwnaeth gryn dipyn o waith ar arolygon bryngaerau yng Nghymru er enghraifft, a rhoddodd nifer o wrthrychau a ddaeth i’r fei i’r adran Archaeoleg. Ychydig o flynyddoedd cyn iddo farw rhoddodd ei gasgliad o Aculeate Hymenoptera Prydeinig i’r adran Sŵoleg. Fodd bynnag, ei lyfrgell sylweddol o lyfrau hanes natur oedd ei rodd fwyaf hael. Mae’r casgliad yn cynnwys llyfrau o’r 15eg i’r 18eg ganrif ac mae nifer ohonynt yn drysorau prin, yn enwedig y rheini o’r 16eg ganrif. Trodd Gutenberg y diwydiant argraffu ar ei ben pan ddyfeisiodd y wasg argraffu ym 1450. Lledaenodd y ddyfais newydd o’r Almaen drwy weddill Ewrop ac mae llyfrau’r cyfnod hwn yn dangos defnydd eang a hyderus o’r wasg argraffu. Erbyn 1500 roedd y nifer o weithdai argraffu wedi cynyddu’n sylweddol, ac roeddent wedi gwella’u prosesau digon er mwyn cynhyrchu niferoedd llawer mwy o lyfrau. Roedd hyn yn golygu y gellid cyfnewid gwybodaeth a syniadau yn haws, ac arweiniodd hyn at ddatblygiadau sylweddol ym meysydd hanes natur yn y 16eg ganrif. Llysieulyfrau Yn y blynyddoedd cynnar, tueddwyd i adargraffu clasuron y cynfyd, ond erbyn canol y 16eg ganrif roedd amrywiaeth llawer ehangach o bynciau’n cael eu trafod. Roedd llysieulyfrau, sef canllawiau i blanhigion, yn boblogaidd iawn ar y pryd, ac roeddent yn canolbwyntio’n bennaf ar briodweddau meddyginiaethol y planhigion. Rhestrwyd y planhigion ynghyd â disgrifiadau helaeth o’r clefydau y gallent eu gwella. Yn aml iawn, ffisegwyr blaenllaw oedd yr awduron, yn ysgrifennu ar gyfer pobl gyffredin yn hytrach nag ysgolheigion. Byddai’r disgrifiadau’n aml yn cynnwys torluniau pren o’r planhigion. Dull o ysgythru pren yw torlunio, gyda’r enw’n tarddu o’r dull. Caiff bloc pren ei gerfio, caiff inc ei roi arno, ac yno mae’n mynd trwy’r wasg ynghyd â’r testun. Yna, gellir lliwio’r lluniau â llaw yn ôl yr angen, er y byddai llyfr lluniau lliw yn fwy drud o lawer. Mae casgliad llysieulyfrau’r 16eg ganrif yng nghasgliad Willoughby Gardner yn cwmpasu llawer o gyhoeddiadau blaenllaw’r cyfnod, gan gynnwys gweithiau Otto Brunfels, Leonhard Fuchs a Hieronymus Bock, hynny yw ‘Tadau Botaneg Almaenaidd’ . Roedd Herbarum vivae eicones gan Otto Brunfels yn ddylanwadol gan ei fod yn cynnwys bywluniadau yn bennaf, yn hytrach na lluniau wedi’u copïo o waith oedd eisoes yn bodoli, sef y dull cyffredin bryd hynny. Roedd y lluniau’n edrych mor naturiol â phosibl yn hytrach na’r dyluniadau mwy addurnol a oedd yn fwy cyffredin mewn llysieulyfrau Almaeneg. Cyhoeddwyd y gyfrol yn wreiddiol ym 1530, ond argraffiad diweddarach o 1532 yw’r copi yng nghasgliad Willoughby Gardner. Ym 1539 cyhoeddodd Hieronymus Bock lysieulyfr yn ei famiaith, Almaeneg, a gafodd ei gyfieithu wedyn i’r iaith Ladin er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Roedd gan Willoughby Gardner gopi o’r cyfieithiad Lladin, De stirpium maxime, a gyhoeddwyd ym 1552, gyda lluniau wedi’u lliwio â llaw. Mae copi Willoughby Gardner yn arbennig am fod rhywun ar ryw adeg wedi ysgrifennu enwau Saesneg rhai o’r planhigion â llaw wrth ymyl y lluniau. Cyhoeddwyd De historia stirpium gan Leonhard Fuchs ym 1542, ac mae gan y copi yng nghasgliad Willoughby Gardner luniau lliw hefyd. Yn anffodus mae’n anghyflawn, gyda nifer o dudalennau yng nghanol y llyfr ar goll. Hefyd yn y casgliad mae A niewe herbal, or historie of plantes gan Rembert Dodoens, wedi’i gyfieithu i’r Saesneg ym 1578 o argraffiad Ffrangeg cynharach. Wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol yn Fflemineg ym 1554, gyda’r Ffrangeg yn fuan iawn wedi hynny, roedd llawer o luniau ynddo’n seiliedig ar rai Fuchs, er bod y testun yn wreiddiol. Sŵoleg Yn ogystal â’r llysieulyfrau, mae hefyd nifer o lyfrau arwyddocaol eraill ym maes sŵoleg yn y casgliad o ganol y 16eg ganrif. Ymhlith y gweithiau hyn mae: De differentiis animalium libri decem gan Edward Wotton, 1552, sef llyfryddiaeth o waith awduron clasurol. Ystyriwyd mai Wotton oedd y naturiaethwr cyntaf i wneud astudiaeth systematig o hanes natur. Libri de piscibus marinis gan Guillaume Rondelet, 1554. Roedd Rondelet yn feddyg ac yn athro ym Mhrifysgol Montpelier yn ne Ffrainc. Libri de piscibus marinis yw ei waith mwyaf enwog. Mae’n trafod holl amrywiaeth anifeiliaid y dŵr gan nad oedd ysgolheigion y cyfnod yn gwahaniaethu rhwng pysgod a mamaliaid. Y llyfr oedd y prif destun cyfeirio i fyfyrwyr am bron i ganrif wedi hynny. L’histoire de la nature des oyseaux gan Pierre Belon, 1555. Fforiwr, naturiaethwr, awdur a diplomydd o Ffrainc oedd Belon. Teithiodd yn eang drwy Ewrop gan gofnodi’r bywyd gwyllt a welodd. Fel llawer eraill yng nghyfnod y Dadeni, astudiodd amrywiaeth o bynciau gan gynnwys adaryddiaeth, botaneg, anatomeg gymharol, pensaernïaeth ac Eifftoleg, ac ysgrifennu amdanynt oll. Sawl copi o Historiae animalium gan Conrad Gesner. Dyma gyfres o bum cyfrol. Cyhoeddwyd y pedair gyntaf rhwng 1551 a 1558, yn adrodd hanes creaduriaid pedwartroed, adar a physgod, a chyhoeddwyd y pumed gyfrol ar nadredd ym 1587 wedi marwolaeth Gesner. Ei fwriad oedd creu gwyddoniadur i gofnodi pob math o fywyd adnabyddus, go iawn a mytholegol, sef y rheswm dros gynnwys angenfilod y môr, manticorau ac ungyrn hefyd! Roedd Gesner yn feddyg ac yn athro yn Zurich, ond yn wahanol i Belon nid oedd yn gallu teithio cymaint. Yn hytrach, roedd yn dibynnu ar gyfraniadau gan ffrindiau a chydweithwyr ar draws Ewrop. Nid oedd modd iddo weld yr anifeiliaid â’i lygaid ei hun bob tro, felly penderfynodd Gesner gynnwys popeth a oedd wedi’i ysgrifennu ar yr anifeiliaid yn ei lyfrau. O ganlyniad, nid oedd yn gallu sicrhau bod y wybodaeth yn gywir bob amser. Fodd bynnag, meddai Gesner ei bod: “yn well cofnodi popeth yr oedd wedi dod ar eu traws fel y bydd gan arbenigwyr y dyfodol ym meysydd gwahanol hanes natur bopeth o’u blaen fel y byddai modd iddynt feirniadu drostynt eu hunain ym mhob achos”. Darllen Pellach Arber, Agnes. Herbals: their origin and evolution, 3ydd argraffiad. Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1986 Kenyon, John R. The Willoughby Gardner Library: a collection of early printed books on natural history. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1982 Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl hon yng nghylchlythyr Nawdd yn gyntaf.
Cyrhaeddiad Hirfaith yr Ysbrydwlithen Ben Rowson, 11 Awst 2014 Ysbrydwlithen aeddfed, tua 7cm o hyd. Dannedd llafnaidd yr Ysbrydwlithen, pob un tua hanner milimedr o hyd. Mae'r rhain yn llawer hirach ac yn fwy miniog na dannedd rhywogaethau llysysol. Llun agos o ben y wlithen. Byddai'r llygaid, petasent yn bresennol, wedi'u lleoli ar flaenau'r ddau dentacl uchaf (hiraf). Adroddiadau cywir am Ysbrydwlithod a dderbyniwyd ers hydref 2013. Hawliodd yr Ysbrydwlithen ryfedd y penawdau yn 2008 pan gafodd ei disgrifio fel rhywogaeth newydd o ardd yng Nghaerdydd. Pan ddaethpwyd o hyd i’r sbesimenau cyntaf, ychydig iawn oedd yn hysbys am yr anifail hwn. Ers hynny, mae'r stori wedi cysylltu ein casgliadau a'n harbenigedd gydag aelodau craff o’r cyhoedd ym Mhrydain, rhwydweithiau cofnodi, tacsonomyddion eraill yn Ewrop, a'r cyfryngau. Dyma sut mae’r darlun yn datblygu. Y rhywogaeth Er mwyn pwysleisio ei natur frawychus, rhoesom yr enw gwyddonol Selenochlamys ysbryda i’r rhywogaeth, sy’n seiliedig ar y gair Cymraeg ‘ysbryd’. Enillodd yr enw cyffredin ‘Ysbrydwlithen’ ei blwyf o fewn dim. Roedd ei chysylltu â'r genws anghyfarwydd Selenochlamys yn dasg arbenigol oedd yn gofyn am ddyrannu a dadansoddi sawl sbesimen gan gynnwys ein holoteip. (Gyda llaw, mae’r gair Selenochlamys eisoes yn cyfuno’r geiriau Groegaidd am glogyn, a Selene, duwies y Lleuad, ond roedd ‘Ysbrydwlithen dan Glogyn y Lleuad’ yn swnio braidd yn felodramatig). Mae'r Ysbrydwlithen yn rhyfedd mewn sawl ffordd. Mae'n eithriadol o anodd dod o hyd iddi, gan ei bod yn byw hyd at fetr dan y pridd, a phrin y bydd yn ymweld â'r wyneb. Anaml iawn y ceir niferoedd mawr ohonynt. Mae hyn yn ei gwneud yn wlithen anarferol o anodd chwilio amdani, yn enwedig yng ngerddi pobl eraill neu fannau eraill na ellir palu ynddynt. Mae hefyd yn nodedig iawn. Ar ôl archwilio un ohonynt, mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno y bydd yn aros yn y cof (fel drychiolaeth, efallai?). Mae’r wlithen yn wyn fel rhyw ysbryd, a bron heb lygaid. Nid yw'n bwyta planhigion, ond mae’n lladd ac yn bwyta mwydod, a gall fynd i mewn i’w tyllau gan fod ei chorff yn gallu ymestyn yn hir iawn. Mae’n wahanol i'r rhan fwyaf o wlithod eraill gan fod ganddi dwll anadlu ym mhen pellaf ei chynffon, ac yn tynnu'n ôl fel bys maneg, mae’n ymddangos fel petai’n sugno ei phen ei hun tu chwith. Yn wahanol i rai gwlithod Prydeinig, gellir ei hadnabod o ffotograff da heb unrhyw drafferth. Mae'r lluniau yma’n dangos rhai rhywogaethau tebyg y mae pobl yn drysu rhyngddi hi a nhw yn aml. Mae'r cyfuniad hwn o fod yn anodd ei gweld ac yn unigryw yn ei gwneud yn rhywogaeth berffaith ar gyfer project cofnodi cyhoeddus. Roedd angen i ni wybod mwy, nid yn unig oherwydd ein chwilfrydedd, ond oherwydd y gallai’r rhywogaeth fod yn fygythiad i boblogaethau pryfaid genwair. Roedd yn ymddangos iddi gael ei chyflwyno o dramor, hynny yw ei bod yn rhywogaeth estron neu anfrodorol, y gallai ei lledaeniad fod yn destun pryder. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Cefn Gwlad Cymru gynt (sy’n rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru bellach) am ariannu gwaith arolwg cynnar a rhannu gwybodaeth yn 2009, ac eraill sydd wedi lledaenu'r gair. Cyfraniadau gan y cyhoedd Ers 2008, mae ymatebion wedi dod i law gan dros 300 o bobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig (ac ambell un o dramor) ac wedi’u hateb. Roedd cyfran fawr yn achosion o gam-adnabod, ond roedd llawer yn gywir a bellach mae dros 25 o boblogaethau o Ysbrydwlithod yn hysbys. Ar ôl eu gwirio, mae'r cofnodion wedi cael eu cyflwyno i'r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol trwy . Rydym yn diolch i'r holl ymatebwyr am eu hymdrechion, gan na fyddai braidd dim o'r poblogaethau wedi cael eu cofnodi hebddynt. Fel y dengys y map, mae'r Ysbrydwlithen yn gyffredin yn ne-ddwyrain Cymru, ac i’w gweld yn yr holl brif gymoedd ac yn ninasoedd Caerdydd a Chasnewydd, ac mewn dau safle ym Mryste. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn brin neu'n absennol mewn rhai ardaloedd cyfagos (fel Abertawe) ac yn sicr nid yw i’w gweld ym mhobman yn y rhanbarth hwn. Daw mwyafrif llethol y cofnodion o erddi, rhandiroedd, neu ymylon ffyrdd a glannau afonydd mewn ardaloedd poblog. Mae hyn yn wir hefyd am un enghraifft annisgwyl, a gofnodwyd yn Wallingford, Swydd Rhydychen ym mis Mai 2013, a allai awgrymu lledaeniad tua'r dwyrain. Does dim dwywaith bod y rhywogaeth wedi hen sefydlu ym Mhrydain ac wedi goroesi gaeafau anarferol o oer, sych neu wlyb y pum mlynedd diwethaf. Cyfraniadau gan arbenigwyr Mae'r rhywogaeth hon wedi cael o leiaf 10 mlynedd i ledaenu o gwmpas Prydain, ond nid yw wedi cael ei gweld mewn mannau eraill yng Ngorllewin Ewrop hyd yma. Daw'r cofnodion cynharaf o Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yn 2004 (mewn papur o 2009 gan dacsonomyddion yn gweithio yn yr Almaen) ac o Gaerffili yn 2006 (ar fforwm infertebratau sy’n anifeiliaid anwes). Roeddem yn disgwyl iddi fod wedi tarddu o Fynyddoedd Cawcasws Georgia a Rwsia neu o ogledd Twrci, lle mae Selenochlamys eraill i’w cael. Fodd bynnag, mae papur gan dacsonomydd yn Ukrain yn 2012 yn disgrifio sbesimen amgueddfa o S. ysbryda a gasglwyd yn y Crimea ym 1989. Mae hyn yn gwneud rhywfaint o synnwyr - mae nifer o folysgiaid endemig yn y Crimea, ac mae sawl rhywogaeth estron sydd ym Mhrydain erbyn hyn wedi eu disgrifio fel rhai o’r rhanbarth hwnnw’n wreiddiol. Mae gan y DU hanes o wrthdaro a masnach gyda’r Crimea (mae yna le o’r enw Sebastopol ger poblogaeth o wlithod yng Nghwmbrân!) sy’n gwneud y syniad iddi gael ei chyflwyno’n uniongyrchol ond yn ddamweiniol yn gredadwy. Dadansoddwyd dilyniant DNA o chwech o enghreifftiau o'r Ysbrydwlithen, o Gaerdydd, Casnewydd, Bryste a Thalgarth fel rhan o'n hastudiaethau diweddar o Wlithod Prydain. Roedd y dilyniannau bron yn union yr un fath, gan gefnogi'r ddamcaniaeth nad yw'r rhywogaeth yn frodorol i'r DU. Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi gweld Ysbrydwlithen, gwnewch yn siŵr taw dyna beth yw hi mewn gwirionedd (Selenochlamys ysbryda). Gallwch chi wneud hyn drwy edrych ar y fantell a’r llygaid. Mae’r fantell (lle mae’r llinellau llwyd) yn edrych fel haen o groen gyda’r twll anadlu yn aml i’w weld drwyddo. Mae gan yr Ysbrydwlithen hon fantell fach, gron ar ben ôl y corff. Nid oes smotiau llygaid ar ei deimlyddion (gwelwch y saeth). Mae gan rywogaethau gwlithod gwyn neu olau eraill fantell fawr fel clogyn dros eu ‘hysgwyddau’ ar flaen y corff a smotiau llygaid du ar flaenau eu dau deimlydd. Y ddau a welir yma yw’r Wlithen Rwyllog (Deroceras reticulatum) a’r Wlithen Fwydyn (Boettgerilla pallens). Mae’r ddwy rywogaeth yma yn gyffredin iawn mewn gerddi, felly does dim angen adrodd am y rhain wrthon ni. Y cyfryngau Cafodd ein hapêl eang help llaw diolch i statws yr Ysbrydwlithen fel tipyn o seren. Cafodd ei henwi ymhlith 10 uchaf y rhywogaethau newydd ar gyfer y flwyddyn 2009 gan yr US International Institute for Species Exploration. Mae wedi ymddangos mewn arddangosfeydd yng Nghaerdydd a Bryste, mewn cwestiynau arholiad mewn ysgolion hyd yn oed. Mae wedi ymddangos mewn nifer o lyfrau hefyd gan gynnwys Animal (Dorling Kindersley, 2011) ac, yn fwyaf diweddar, yn ein canllaw 2014 ni i rywogaethau gwlithod Prydain ac Iwerddon. Os gwelwch chi hi Er mwyn monitro unrhyw ledaeniad pellach neu gofnodi ymddygiad, rydym yn dal i fod am wybod am unrhyw Selenochlamys ysbryda a gaiff eu gweld, gyda sbesimen neu ffotograff yn brawf o hynny. Ceisiwch sicrhau nad y wlithen rwyllog Deroceras reticulatum yw hi, a ddangosir uchod. I roi gwybod am Ysbrydwlithen, e-bostiwch Ben Rowson .
Byw neu farw? Planhigion sy’n Atgyfodi? Katherine Slade, 14 Mai 2014 Mwsoglau yn eu hamgylchedd eithafol ar y wal o amgylch Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Grimia clustog-llwyd (Grimmia pulvinata) â blew gwyn, i’w weld yma ar wyneb y graig ar Ben y Gogarth, Llandudno. © Kath Slade Am ba hyd allwch chi fyw heb anadlu tybed? Yn gyffredinol, dim ond am chwe munud y gall pobl fyw heb ocsigen cyn i niwed ddigwydd i’r ymennydd. Ond beth am 25 mlynedd? Gall rhai planhigion fyw cyhyd â hynny heb resbiradu. Sut fyddai modd defnyddio’r gallu anhygoel hwn i atgyfodi i helpu miloedd o bobl? Neu efallai i’n helpu i wladychu bydoedd newydd?Mae pob planhigyn angen dŵr i oroesi. Maen nhw’n cyfuno dŵr â charbon deuocsid yn ystod ffotosynthesis i droi siwgr yn egni. Ond beth sy’n digwydd mewn amgylcheddau eithafol lle nad oes dŵr ar gael?Mae’r Antarctig yn amgylchedd eithafol lle nad oes dŵr ar gael i blanhigion am ei fod wedi’i gloi ar ffurf rhew solet. Ond ni fydd raid i chi edrych mor bell â’r Antarctig am amgylchedd eithafol i blanhigyn. Mae eich to, creigiau serth a phen waliau yn gynefinoedd lle byddai llawer o blanhigion yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddŵr. Eto i gyd, mae mwsoglau’n tyfu yn y cynefinoedd hyn ym mhobman o’n cwmpas. Sut maen nhw’n gwneud hynny?Mae rhai planhigion wedi addasu i gynefinoedd sych neu sychder drwy ddal eu gafael ar ddŵr pan fydd ar gael. Efallai bod arwyneb eu dail yn gwyraidd neu eu bod yn storio dŵr mewn celloedd yn debyg i gactws. Mae mwsoglau a llysiau’r afu’n sugno dŵr o’r atmosffer, ac yn aml yn dibynnu llai ar ddŵr o’r ddaear. Mae gan rai mwsoglau flew gwyn ar eu dail. Mae’r blew yn gwella gallu’r planhigyn i sugno dŵr o’r aer drwy gynyddu ei arwynebedd, a hefyd yn dal diferion bach o ddŵr.Mae gan blanhigion eraill allu anhygoel i oroesi er eu bod wedi sychu’n gyfan gwbl. Nid yw hyn yr un fath â pheidio â rhoi dŵr i’ch cactws am rai misoedd, pan fydd y planhigyn yn defnyddio dŵr wedi’i storio i aros yn fyw. Bydd y planhigion hyn wedi sychu’n llwyr A HEFYD bydd holl brosesau bywyd fel ffotosynthesis a resbiradu’n peidio. Wrth ychwanegu dŵr, mae prosesau bywyd yn dechrau a’r planhigyn yn adfywio. Gelwir hyn yn allu i wrthsefyll dysychiad.Cafodd y gallu i wrthsefyll dysychiad ei weld am y tro cyntaf mewn anifeiliaid dros 300 mlynedd yn ôl, pan gafodd llaid o afon sych ei roi o dan y microsgop. Roedd rotifferau bach iawn i’w gweld yn nofio o gwmpas er mawr syndod i’r sawl oedd yn syllu! Cymerodd 150 o flynyddoedd arall i wyddoniaeth gadarnhau ei bod yn bosibl i fywyd atgyfodi.Mae’r gallu hwn i atgyfodi yn gyffredin mewn mwsoglau a llysiau’r afu llawndwf yn ogystal â hadau, sborau a phaill. Mae’n anghyffredin mewn planhigion sy’n blodeuo a rhedyn llawndwf (un eithriad amlwg yw’r Cnwpfwsogl eilfyw (Selaginella lepidophylla), planhigyn sy’n perthyn i redyn). Mae gwyddonwyr wedi llwyddo i dyfu hadau o blanhigyn lotws sy’n blodeuo a oedd yn 1100 o flynyddoedd oed.Cafodd un math o lysiau’r afu ei adfywio ar ôl 25 mlynedd o fod wedi sychu’n gyfan gwbl. Roedd atgyfodiad y planhigyn ar ôl cymaint o amser yn arbennig o ddiddorol am ei fod yn blanhigyn llawndwf yn hytrach na sbôr neu had. Mae’n rhyfedd meddwl efallai bod y sbesimenau sych o fwsoglau a llysiau’r afu yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru y tu ôl i mi wrth i mi ysgrifennu yn fwy byw nag a feddyliais!Serennog y waun (Campylopus introflexus) â blew gwyn. Cafodd ei weld gyntaf yn y DU yn ystod y 1940au ac mae’n eithaf cyffredin bellach, diolch i’w allu i wrthsefyll dysychiad, o bosibl. © Kath Slade Casgliadau Amgueddfa Cymru – yn fwy byw nag y maen nhw’n ymddangos ar yr olwg gyntaf? Mae’r gallu i adfywio yn dibynnu ar ba mor gyflym y sychodd y planhigyn, am ba hyd, pa mor eithafol oedd y sychu a’r tymheredd, Mae’n bosibl fod y planhigyn yn gallu ymdopi’n well os yw wedi sychu o’r blaen ac wedi ‘caledu’. Mae mwsoglau’n gallu addasu mewn sawl ffordd sy’n ei gwneud yn bosibl iddyn nhw adfywio, yn cynnwys y gallu i:sugno dŵr yn gyflymatgyweirio cynnwys celloedd yn gyflymrhoi genynnau penodol ar waith a’u diffoddcynhyrchu llawer mwy o brotein nag arfer.Mae’r mwsoglau hyn yn cyfrannu at fioamrywiaeth eu hunain a hefyd yn creu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau eraill. Ond sut all adfywio mwsogl ar ben wal fod yn ddefnyddiol? Gallai cyfrinach y mwsogl am ei allu i atgyfodi ein helpu i ddeall sut llwyddodd planhigion i gytrefu’r tir tua 470 miliwn o flynyddoedd yn ôl.Efallai bydd darganfod sut i gyflwyno’r gallu i wrthsefyll dysychiad i blanhigion cnydau yn y dyfodol yn fwy perthnasol i bobl. Mae miloedd o bobl yn llwgu i farwolaeth bob blwyddyn pan fydd cnydau’n methu mewn sychder. Os gallwn ni helpu planhigion cnydau i oroesi sychder drwy eu rhaglennu i fynd i gysgu nes daw glaw eto, gallwn greu cyflenwad bwyd mwy sefydlog.Un syniad diddorol yw defnyddio planhigion â gallu i wrthsefyll dysychiad er mwyn gwladychu planedau eraill. Roedd y gallu i atgyfodi yn help i blanhigion gytrefu’r tir 470 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac efallai y gallai ein helpu ni i wladychu bydoedd newydd ryw ddydd.Darllen pellach:J. Graham (2003) Stages in the Terraforming of Mars: the Transition to Flowering Plants. AIP Conference ProceedingsPeter Alpert (2005) The limits and frontiers of desiccation-tolerant life. Integrative and Comparative Biology 45:685-695Black, M. a H. W. Pritchard (golygyddion) (2002) Desiccation and survival in plants: Drying without dying, tudalennau 207–237Proctor et al. (2007) Desiccation-Tolerance in Bryophytes: A Review. The Bryologist, 110:4, 595-621How Long can Seeds Live? Millenium Seed Bank at Kew Gardens Cofnodion cynharach cofnodion diweddar Data Tywydd ar gyfer Chwefror Dathlu Merched sy’n Arwain: Helen Goddard, Cyfarwyddwr Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Bywyd gwyllt cudd yng ngardd yr amgueddfa 🐝🌿 Ystlumod yn Amgueddfa Lechi Cymru: Gwarchod ein preswylwyr lleiaf yn ystod y gwaith ail-ddatblygu ‘Gwarchod y gwaddol; ffotograffwaith Harry Morrey-Salmon’ categorïau Pob cofnodAddysgAilddatblygu LlechiAmgueddfeydd, Arddangosfeydd a DigwyddiadauBlog y SiopBlogiau AmgueddfeyddCasgliadau ac YmchwilCasglu CovidCrefftwyr Amgueddfa Wlân CymruCyffredinolHoliaduron y gorffennol a’r presennolIechyd, Lles ag Amgueddfa CymruLleisiau’r AmgueddfaRhyfel Byd CyntafStreic! 84-85 Strike!Ymgysylltu â'r Gymuned