Gwen John: Eicon Cwiar Cymreig? Helena Anderson, 9 Mehefin 2026 Yn ddiweddar mae Gwen John wedi adennill ei lle fel un o eiconau ciwar Cymru. Doedd rhywioldeb Gwen byth yn gyfrinach (fe soniodd ei brawd, Augusutus, ei bod hi'n cael ei thynnu at ddynion a menywod yn ei ragair i gatalog yr Arddangosfa Goffa yn 1946, ac mae'n codi yn y tri bywgraffiad ohoni), ond mae'r diddordeb newydd yn ein hannog i ystyried sut fyddai hyn yn dylanwadu ar ei gwaith a sut fyddai hi'n gweld y byd. Sut mae rhywedd a rhywioldeb yn newid sut fyddwn ni'n dehongli dewis artist o destun ac arddull, a sut fyddan nhw'n darlunio'r byd?Cafodd Gwen berthynas ramantus a rhywiol gyda dynion a menywod drwy gydol ei hoes. Yn ei hunangofiant fe soniodd Augustus sut y cafodd hi ei chroesi mewn cariad gan gyd-fyfyrwraig yn Ysgol Gelf Slade, wnaeth arwain at ddrama a Gwen yn ei heiddigedd yn mynnu bod y ferch yn gorffen ei charwriaeth gyda dyn priod. Awgrymodd Susan Chitty, awdur y bywgraffiad cyntaf ohoni, taw Grace Westray oedd hon – cyd-fyfyrwraig oedd yn rhannu fflat gyda Gwen ac Augustus am gyfnod. Efallai taw hi yw'r fenyw ifanc yn y blaendir yn Portread Grŵp – un o'r gweithiau prin sy'n bodoli o ddyddiau coleg Gwen. Drwy'r ffenest fe welwn ni ddau ffigwr arall, sef Gwen a'r artist Ambrose McEvoy o bosib (cariad arall). Mae'r portread grŵp yn dangos y cwlwm cymhleth o gariad, cyfeillgarwch a theulu oedd yn nodwedd o fywyd coleg Gwen. Roedd y fflat roedd y myfyrwyr yn ei rannu ar 21 Fitzroy Street yn bair creadigol wnaeth sbarduno ei datblygiad artistig, ac yn hafan ddiogel iddi arbrofi a darganfod ei rhywedd. Gwen John, Portread Grŵp, 1897. Casgliad Celf UCL – i'w weld ar hyn o bryd yn Gwen John: Hardd a Hynod Patrwm tebyg welwn ni yn nifer o'i pherthnasau: atyniad cryf a theimladau dwys yn gorlifo'n ddefosiwn llethol gan Gwen. Yn fuan ar ôl symud i Baris yn 1904 dyma hi'n cyfarfod y cerflunydd Auguste Rodin. Cyn hir roedd hi'n hoff fodel iddo, a datblygodd perthynas ramantus. Mae'r berthynas wedi'i chofnodi yn y cannoedd o lythyrau anfonodd hi ato, ac sydd bellach yn archifau'r Musée Rodin. Mae nifer yn llythyrau caru sy'n trafod rhyw a chwant yn agored (gan gynnwys atyniad at fenywod) a rhai hefyd yn sôn am ei gwaith modelu dydd-i-ddydd i artistiaid eraill. Roedd nifer o'r rhain yn fenywod cwiar, fel Ottilie Roederstein, Ida Gerhardi, Anna Wood Brown, a Hilda Flodin – pob un yn gleientiaid a ffrindiau am flynyddoedd. Dyw hi ddim yn glir os fyddai Gwen byth yn mynychu'r caffis a'r salons oedd yn ganolbwynt i fyd artistig, Saffig y menywod hyn, ond byddai hi'n bendant yn cylchdroi yn yr un cylchoedd.Ac fel nifer o'r menywod y byddai hi'n cydweithio â nhw, roedd rhentu lle ei hun yn hanfodol i'w byd personol a phroffesiynol. Yr apartment dan y distiau a welwn ni yn Cornel o Stafell yr Artist ym Mharis oedd ei chartref a'i stiwdio. Mae'r hanesydd Alicia Foster wedi dangos sut oedd ystafell ei hun yn allweddol i'w gwaith fel artist, ond fel menyw ddibriod, roedd hefyd yn lle diogel i wahodd ffrindiau a chariadon. Mewn oes pan allai cerdded y strydoedd heb gwmni ddenu sylw digroeso, roedd gallu rhentu lle bach, preifat yn rhoi rhyddid personol, rhywiol, cymdeithasol ac economaidd. Pa ryfedd fod ystafelloedd Gwen yn ymddangos mor aml, ac mor aml yn destun ei gwaith? I fenyw ac artist cwiar, sengl, roedd lle fel hyn yn hafan a bywoliaeth. Gwen John, Cornel o Stafell yr Artist ym Mharis, 1907-9, NMW A 3397 Ddiwedd 1926 dyma Gwen yn cyfarfod yr athronwyr Pabyddol enwog Jacques Maritain, oedd yn byw ym Meudon gyda'i wraig Raissa a'i chwaer yng-nghyfraith Véra Oumançoff. Buan y datblygodd Gwen deimladau dwys at Vera, ddaeth yn gyfaill mynwesol ac arweinydd ysbrydol iddi. Byddai'r ddwy yn siarad yn aml ar ôl yr offeren yn yr eglwys, ac yn cerdded yn y goedwig gyda'i gilydd. Datblygodd agosatrwydd Gwen yn deimladau rhamantus, ond mae'n debyg nad oedd Véra'n teimlo'r un fath. Mae sawl drafft o lythyrau angerddol at Véra ymhlith papurau Gwen John yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn y llythyrau mae Gwen yn plethu myfyrdodau crefyddol a defosiwn rhamantus, gan ofyn i Dduw sut i garu Véra, a gofyn am gael cusanu ei dwylo. Cafodd Véra ei llethu gan yr holl sylw, a gofynnodd i Gwen beidio â llythyru ac ymweld fwy nag unwaith yr wythnos. Fe wnaeth Gwen hynny, ond yn ogystal â llythyrau, dechreuodd ddod â darluniau o'r enw dessins de lundi (darluniau dydd Llun) yn anrhegion gyda hi ar ei hymweliadau. Bob wythnos am bron i ddwy flynedd fe gyflwynodd Gwen ddarlun neu ddyfrllun i Véra, yn gymysgedd o weithiau unigryw a fersiynau o syniadau cynharach. Mae'r testunau, yr arddull, a'r cyfrwng yn amrywio'n fawr. Byddai'n cyflwyno rhai wedi'u glynu ar bapur lliw, gyda'r teitl a'r dyddiad ar y cefn. Dyma sut ydyn ni'n gwybod teitlau cymaint o waith Gwen ar bapur (fel Mademoiselle Pouvereau a Souvenir du Dimanche des Rameaux). Gwen John, Mademoiselle Pouvereau, NMW A 3607 Fe gadwodd Véra'r darluniau hyn ymhell ar ôl i'r berthynas orffen, hyd yn oed ar ôl iddi ffoi i'r UDA yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd dros gan dessins de lundi eu hailddarganfod yn archif y teulu Maritain yn y 1960au, ac mae nifer o'r gweithiau sydd nawr yng nghasgliad stiwdio Amgueddfa Cymru yn fersiynau o'r dessins de lundi a roddodd Gwen yn anrheg. Wrth edrych o'r newydd ar y rhain o safbwynt rhywioldeb Gwen, maen nhw'n amlwg yn fwy nag astudiaethau o gyfansoddiad ac arlliw. Maen nhw'n arwydd o gariad mynwesol yn deillio o gyd-addoli a chyd-weddïo, ac oherwydd taw unwaith yr wythnos y gallai Gwen gysylltu â Véra daeth y darluniau yn fodd ychwanegol o ddangos ei chariad. Lluniau dydd Llun yn lle llythyrau.Un o'r delweddau wnaeth Gwen eu hanfon fel dessins de lundi oedd darlun o Santes Thérèse o Lisieux (1873-1897). Lleian gyfoes o Ffrainc oedd hon, wnaeth farw'n ifanc a chael ei dyrchafu'n sant cyn gynted â phosib. Roedd hi'n un o'r seintiau cyntaf i ymddangos mewn ffotograff, a defnyddiwyd hyn gan y cwfaint i gynhyrchu eiconau ohoni a sbarduno'r ymgyrch i'w dyrchafu. Fe gyhoeddodd y cwfaint yn Lisieux lyfrau, cardiau gweddi, a chofroddion gyda llun Thérèse. Fel artist wnaeth droi at y ffydd Babyddol, cafodd Gwen ei chyfareddu gan y ffotograffau hyn oedd yn dangos am y tro cyntaf wir wyneb sant, yn hytrach nag eicon delfrydol wedi'i gynhyrchu ganrifoedd ar ôl eu marw. Datblygodd hoffter arbennig at lun o Thérèse a'i chwaer hŷn, Céline, yn blant a dyma hi'n darlunio a phaentio'r cyfansoddiad gannoedd o weithiau. Anaml fydd y delweddau hyn yn cael sylw mewn astudiaethau o waith Gwen John, ac maen nhw'n aml yn cael eu wfftio fel brasluniau difeddwl neu obsesiynol. Ond mae hyn yn anwybyddu pa mor bwysig fyddai gweld 'gwir wyneb' santes oedd prin dair blynedd yn hŷn na Gwen. Yn goron ar y cyfan, erbyn i Gwen ddechrau ei darlunio hi yn y 1920au roedd Thérèse wedi dod yn dipyn o eicon cwiar ei hun, gyda Jean Cocteau, Henri Ghéon, Lucie Delarue-Mardrus, Vita Sackville-West, a Radclyffe Hall yn ddilynwyr brwd. Roedd ei neges o 'wneud y pethau bychain' – gallai bywyd tawel, amherffaith fod yn ddwyfol diolch i weithredodd bach cyffredin – yn apelio at bobl oedd wedi cael tröedigaeth, artistiaid avant-garde, a phobl ar gyrion cydeithas. Roedd 'ffordd fychan' Thérèse yn apelio'n fawr at Gwen a byddai hi'n ysgrifennu yn ei llyfrau nodiadau diweddarach ei bod hi am ddod yn santes ei hun. Fel rhywun ar y cyrion, oedd ddim yn cydymffurfio â safonau cyffredin yn ei gwaith na'i rhywioldeb, roedd delwedd a dysgeidiaeth Thérèse yn gysur mawr iddi. Gwen John, Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, NMW A 15561 Gwen John, Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, NMW A 15534 Wrth edrych ar waith Gwen o safbwynt rhywedd hyblyg gallwn ni ddehongli ei gwaith o'r newydd. Dim ond ychydig o esiamplau mae'r erthygl hon yn eu trafod, ac mae digon o waith i'w wneud eto. Wrth gydnabod bod Gwen John yn berson cwiar ac ystyried sut fyddai hyn yn dylanwadu ar ei ffordd hi o weld y byd, rydyn ni'n dyfnhau ein dealltwriaeth ohoni. I ddysgu mwy am Gwen fel artist cwiar, darllenwch lyfr Norena Shopland Forbidden Lives (2017), Erthygl Tabitha Deadman yn Art UK ‘Bi visibility: Gwen John and multiple gender attraction’, ac erthyl Mair Jones yn Art UK ‘Queer Welsh women in art’. Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.