Wedi dal mewn Eiliad Trevor Bailey, 26 Chwefror 2014 Gwybedyn y Madarch (Sciaridae) Gallech chi gredu taw dim ond ddoe y bu’r anifeiliaid bychan yma farw, ond mewn gwirionedd, mae nhw tua 50 miliwn o flynyddoedd oed. Mae un o’n myfyrwyr profiad gwaith wedi bod yn defnyddio meddalwedd newydd i greu delweddau o’r casgliad ambr i’w rhannu â chi. Dyma hi’n defnyddio microsgop i dynnu lluniau o wahanol ddyfnderoedd mewn sampl ambr, cyn cyfuno’r darnau o bob llun oedd mewn ffocws i greu un delwedd glir. Drws i fyd hynafol Bu farw’r anifeiliaid yma ar ôl cael eu dal yn y resin meddal gludiog y bydd coed pinwydd yn ei gynhyrchu i’w gwarchod rhag haint. Pan fu farw’r coed, cafodd y resin ei gladdu danddaear mewn haenau o lystyfiant a gwaddod – a trodd gwasgedd a gwres y resin yn ambr caled. O gyffiniau Môr y Baltig y daw’r rhan fwyaf o’n casgliad ambr ac mae’r anifeiliaid yn cynnwys morgrug, pryfed glas, chwilod, pryfed, gwybed mân, medelwyr, gwyfynod, mwydod nematod, corynnod a chacwn. Roedd y creaduriaid yma yn byw o leiaf 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn fforestydd y cyfnod Eocenaidd. Roedd hwn yn gyfnod o hinsawdd ‘tŷ gwydr’ llawer cynhesach na heddiw o ganlyniad i lefelau carbon deuocsid uwch yn yr atmosffer. Yn y casgliad hefyd mae cacynen mewn ambr o waddodion y cyfnod Cretasig yn New Jersey, UDA – felly roedd yn fyw yr un oes â’r deinosoriaid! Gofalu am ambr Rydyn ni’n cadw’r casgliad ambr mewn cynhwysyddion aerdyn mewn ystafell lle gall y tymheredd a’r anwedd dŵr (lleithder) gael eu rheoli. Os yw ambr yn symyd yn rhy sydyn rhwng atmosffer rhy sych i un rhy llaith, gall holltau bach agor, gan gau’r drysau hyn ar y gorffennol. Trapped in Amber Gwybedyn y Madarch (Sciaridae) Morgrugyn a Chorryn Corryn Gwybedyn y Madarch (Sciaridae) Gwybedyn y Madarch (Sciaridae) Gwybedyn Brathog a Gwyfyn Cacynen, efallai Stigmaphronidae Chwilen Pryfyn (Diptera) Pryfyn (Diptera) Gwybedyn y Madarch (Sciaridae)
Planhigion Popeth 10 Chwefror 2014 Ble mae cnau daear a thatws yn tyfu? Beth yw tomatos? Archwilio’r Planhigyn Popeth dychmygol a dysgu mwy am y planhigion ar eich plât. Hadau yw ffa. Hadau planhigyn ffa yw ffa ac maen nhw’n tyfu mewn coden. Rydyn ni’n bwyta’r goden hefyd weithiau. Mae ffa yn perthyn i’r un teulu o blanhigion â phys. Ffrwyth yw tomato. Ffrwyth planhigyn tomato yw tomatos. Os ydych chi’n sleisio tomato gallwch chi weld yr hadau ynddo. Mae tyfwyr tomatos yn defnyddio cacwn yn eu tai gwydr i beillio’r blodau er mwyn cynhyrchu tomatos. Ffrwythau yw eirin. Hedyn yw’r garreg sydd mewn eirin. Mae’r darn noddlawn blasus yn denu anifeiliaid (gan gynnwys ni!) er mwyn helpu i wasgaru’r hadau. Blodau yw clofau. Blagur blodau sych coeden drofannol yw clofau cyfan. Yn Indonesia caiff y rhan fwyaf o glofau eu cynhyrchu, lle mae pobl yn eu cynaeafu â llaw cyn eu sychu yn yr haul Rydyn ni’n bwyta dail y perlysiau hyn. Mae gan oregano a mintys ddail persawrus. Mae pobl ledled y byd yn defnyddio perlysiau i wneud te neu i ychwanegu blas wrth goginio. Mae gwyddonwyr yn credu bod yr olew hanfodol sy’n rhoi’r arogl arbennig i’r dail wedi datblygu dros amser er mwyn rhwystro anifeiliaid rhag eu bwyta. Rydyn ni’n bwyta dail winwns, cennin a chennin syfi. Gallwn dynnu haenau o groen winwns. Deilen arbenigol yw pob haenen, ac mae’r planhigyn yn eu defnyddio i storio bwyd a dŵr. Yn ôl yr hanes, dyma Dewi Sant yn cynghori milwyr i wisgo cennin er mwyn adnabod ei gilydd yn hawdd ar faes y gad. Gwreiddiau yw moron. Dim ond pedair gwlad yn y byd sy’n cynhyrchu mwy o foron na’r DU rydyn ni’n tyfu cymaint ohonyn nhw. Moron piws neu felyn oedd y rhai cynharaf. Yna, dechreuodd bridwyr planhigion ddatblygu moron oren ddaeth yn boblogaidd dros ben. Coesynnau danddaear yw tatws. Mae planhigion tatws yn storio carbohydrad (startsh) yn y coesynnau danddaear arbennig hyn o’r enw cloron. Mae tatws yn perthyn i’r un teulu o blanhigion â thomatos, pupurau a tsilis. Hadau yw cnau daear. Mae cnau daear yn cael eu cynaeafu o dan y ddaear. Pan fydd pryf yn peillio blodau’r planhigyn cnau daear, mae codennau yn datblygu gyda’r cnau (hadau) y tu mewn. Mae’r codennau wedyn yn cael eu gwthio’n araf i mewn i’r ddaear wrth i goes y goden dyfu’n hirach.
Curadu'n eich gwneud chi'n wallgo! Dr Victoria Purewal, 5 Tachwedd 2013 Ffigwr 1 Rhan o ddalen sbesimen o lysieufa 3ydd Iarll Bute, tua 1770. Does dim cliwiau ar y ddalen i ddweud os cafodd y papur hwn ei drin neu beidio. Olion y planhigyn yn ymddatod yn naturiol yw'r staeniau brown. Ffigwr 2 Yr un ddalen llysieufa gan olau uwch fioled. Mae'r afliwiad llwyd yn nodweddiadol o effaith mercwri a'r tasgiadau llachar yn brawf bod mercwri hylif wedi'i ddiferu. Ffigwr 3 Defnyddio'r ddyfais sganio uwch fioled. Gall casgliadau hanes natur ddirywio o ganlyniad i blâu a malltod ac felly'n hanesyddol, defnyddiwyd cemegion i warchod y casgliadau yma i'r dyfodol. Y cemegyn a ddefnyddiwyd amlaf oedd Clorid Mercwri (sychdarth cyrydol). Mae nifer o sbesimenau wedi goroesi erbyn heddiw diolch i fercwri, ond mae sgil-effaith – mae halwynau mercwri'n wenwynig i blâu, ac i bobl. 'Mad as a hatter' Yn y 19eg ganrif roedd hi'n gyffredin yn y diwydiant creu hetiau i drin felt â nitrad mercwri. Byddai'r mercwri wedyn yn treiddio i groen cynhyrchwr yr hat a'i pherchennog, a gwyddom bellach ei fod yn ymosod ar y system nerfau ganolog ac yn effeithio ar yr ymennydd. Achosodd gwenwyno mercwri i lawer o gynhyrchwyr hetiau ymddwyn yn rhyfedd iawn, a dechreuwyd defnyddio'r ymadrodd Saesneg 'Mad as a hatter'. Mae'n ddigon posibl taw dyma oedd ysbrydoliaeth Lewis Carrol ar gyfer ei de parti gwallgo. Y broblem fwyaf gyda'r triniaethau yma yw eu bod nhw'n peryglu iechyd, a bron yn amhosibl i'w gweld gan lygad dyn (Ffig. 1). Diolch i waith ymchwil gan Adran Gadwraeth Amgueddfa Cymru, canfuwyd bod rhai o'r 600,000 sbesimen llysieufa yn y casgliadau wedi'u halogi â mercwri. Gallai hyn beryglu iechyd aelodau'r staff ac ymwelwyr heb ymdrin â'r broblem. Roedd hi'n bwysig gallu dweud pa ddalenni oedd wedi'u trin, gyda pha gemegyn a faint ohono a ddefnyddiwyd. Byddai gwneud hyn yn y dull arferol wedi galw am gyflogi gemegwyr arbenigol, prynu offer dadansoddi drud a blynyddoedd o waith – proses hir a chostus. Wrth ymchwilio ymhellach darganfu Vicky Purewal, cadwraethydd botaneg Amgueddfa Cymru, bod defnyddio mercwri yn cyflymu prosesau cemegol wrth i bapurau heneiddio, gan roi cliwiau bychain o bresenoldeb yr elfen. Dyfeisiwyd techneg anghyfarwydd benodol oedd yn gallu troi'r cliwiau yma'n wybodaeth gadarn, a hynny heb offer drud – dim ond lamp UV-A fechan. Mae'r ymbelydredd uwch fioled yn achosi i rai prosesau cemegol yn y papur arddangos gwawr fflwrolau o liw penodol: prawf positif o bresenoldeb mercwri (Ffig. 2). Bu'r ymchwil hwn gan Amgueddfa Cymru'n hanfodol wrth ddatblygu techneg gyflym o adnabod casgliadau wedi'u halogi (Ffig. 3). Mae wedi bod o gymorth wrth gasglu gwybodaeth ar driniaeth sbesimenau dros y blynyddoedd a thrwy hynny, ein helpu i ddiogelu iechyd staff ac ymwelwyr â'r llysieufa. Gall y casgliadau felly gael eu rhannu yn ddeunydd wedi ei drin a deunydd heb ei drin er mwyn eu hail-fowntio a gwaredu cyfran helaeth o'r deunydd gwenwynig o'r llysieufa. Bu'r dechneg i ganfod pa sbesimenau oedd wedi'u trin â mercwri hefyd o gymorth i'r gwaith ymchwil dadansoddi DNA yn y llysieufa, gan fod presenoldeb mercwri yn gallu amharu ar y dystiolaeth DNA y gellir ei dynnu o'r planhigyn. Mae'r ymchwil hwn yn effeithio ar ddau faes: cadwraeth broffesiynol ac arfer curadurol; ac iechyd a diogelwch defnyddwyr casgliadau'r llysieufa. Ymhlith y sefydliadau sydd wedi elwa o'r dechneg syml, gyflym hon mae'r Gerddi Botaneg Brenhinol yn Kew, yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon – techneg a ddatblygwyd yma yn Amgueddfa Cymru gan Vicky Purewal.
John Stuart, 3ydd Iarll Bute (1713-1792): Bute's Botanical Tables Heather Pardoe, 30 Medi 2013 Llun o'r Trydydd Iarll Bute (atgynhyrchwyd o Temple of Flora (1807) gan Robert Thornton). Copi Botanical Tables yr Amgueddfa. Yn 2013 rydym yn dathlu trichanmlwyddiant geni'r Trydydd Iarll Bute, ffigwr pwerus ym Mhrydain y ddeunawfed ganrif a oedd yn enwog fel gwleidydd ac fel botanegydd. Un o'i gyfraniadau mwyaf i fotaneg oedd llyfr o'r enw Botanical Tables. Mae Amgueddfa Cymru yn ffodus i berchen ar set gyflawn o'r gwaith prin a chywrain hwn. Roedd John Stuart, 3ydd Iarll Bute (1713-1792), yn gyfaill mynwesol i Siôr III. Er yn gyndyn i wneud, aeth Bute yn wleidydd yn gynnar yn ei yrfa, a hynny yn dilyn anogaeth gan ei ffrind brenhinol. Ym mis Mai 1762, fe'i hetholwyd yn Brif Weinidog. Er hyn, profodd Bute yn arweinydd amhoblogaidd ac ymddiswyddodd ar ôl blwyddyn. Mae'n rhaid ei fod wedi teimlo rhyddhad i encilio o fywyd cyhoeddus i'w dŷ yn Highcliffe, Hampshire, gan ymroi i'w ddiddordeb mewn botaneg yn ei lyfrgell fotanegol anferth. System dacsonomaidd newydd Carl Linnaeus Bu Bute yn gweithio ar lawer o gyhoeddiadau botanegol a bu'r tacsonomydd enwog o Sweden, Carl Linnaeus, yn ddylanwad mawr arno. Cyhoeddiad enwocaf Bute oedd Botanical Tables. Ei deitl llawn oedd; Botanical Tables containing the different familys of British Plants distinguished by a few obvious parts of Fructification rang'd in a Synoptical method. Cyhoeddwyd y tablau ym 1785 a'r bwriad oedd esbonio egwyddorion system dacsonomaidd newydd a dadleuol Linnaeus. Roedd mwyafrif y darluniau yn y Botanical Tables gan yr arlunydd John Miller (1715-1790). Roedd yn dasg anferth, yn cynnwys dros 600 o ddarluniau o'r organau rhywiol wedi'u rhifo yn unol â system Linnaeus. Mae 9 cyfrol ym mhob set o dablau ac maent yn sôn am yr holl blanhigion sydd ym Mhrydain – gan gynnwys mwsoglau, glaswelltau, blodau a choed, ynghyd â chen, ffwng a gwymon – ac mae'n cynnwys darluniau manwl o bob planhigyn a restrwyd. Argraffwyd deuddeg set o'r Botanical Tables gan yr Arglwydd Bute a thalodd £1,000 amdanynt o'i boced ei hun. Rhwymwyd y mwyafrif ohonynt mewn lledr croen llo gydag arfbais y teulu Bute yn y canol. Cafodd dwy set eu paratoi yn arbennig ar gyfer y teulu brenhinol a'u rhwymo mewn croen gafr coch gydag aur ar ymyl y tudalennau ond heb arfbais Bute. Botaneg fel difyrrwch ffasiynol Roedd Bute yn awyddus iawn i esbonio'r system dacsonomeg i fenywod, oherwydd teimlai fod y "rhan hyfryd hon o natur" yn addas ar gyfer y "rhyw deg"; gyda'u nawdd hwy, byddai botaneg yn dod yn ddifyrrwch ffasiynol ymhen dim o dro. Anrhydeddodd y dymuniad hwn gan gyflwyno saith cyfrol o'r Botanical Tables i fenywod: Y Frenhines Charlotte (gwraig Brenin Siôr III) Catherine II (Ymerodres Rwsia) Duges Portland Mrs Jane Barrington Y Foneddiges Elizabeth (Betty) Mackenzie Y Foneddiges Anne Ruthven Y Foneddiges Jane Macartney. Roedd y tair olaf yn perthyn iddo. Cadwodd Bute ddwy gyfrol ac anfonodd un gyfrol yr un at y botanegydd blaenllaw o Brydain a ddaeth yn Gadeirydd y Gymdeithas Frenhinol, Joseph Banks (1743-1829), y botanegydd blaenllaw o Ffrainc, George Louis Leclerc, Comte de Buffon (1707-1788) a chyfaill i Bute, Louis Dutens (1730-1812). Mae casgliad Amgueddfa Cymru yn cynnwys darluniau a thablau rhydd a ystyrir yn frasluniau neu'n ddeunydd a oedd yn cael ei baratoi i'w gyhoeddi maes o law. Er hyn, ym 1994, prynodd yr Amgueddfa gopi cyflawn o'r Botanical Tables mewn arwerthiant llyfrau pwysig iawn o lyfrgell Beriah Botfield yn Christie's. Wrth geisio darganfod pa rai o'r 12 set wreiddiol sydd ym meddiant yr Amgueddfa, mae ein hymchwilwyr wedi llwyddo i olrhain 10 ohonynt, ac mae modd cysylltu 7 o'r rheiny â'r sawl a'u derbyniodd yn wreiddiol. Efallai, rhyw ddydd, y bydd rhywun yn dod o hyd i'r ddau sy'n weddill ar silff lychlyd mewn hen lyfrgell. Byddwn wedyn yn gwybod i sicrwydd lle mae pob copi. Derbyniodd Y sawl a dderbyniodd gopi o'r Botanical Tables: Y Frenhines Charlotte (gwraig Brenin Siôr III) [copi croen gafr coch wedi'i rwymo] Catherine II (Ymerodres Rwsia) [copi croen gafr coch wedi'i rwymo] Duges Portland Mrs Jane Barrington Y Foneddiges Elizabeth (Betty) Mackenzie, aelod o'r teulu Y Foneddiges Anne Ruthven, aelod o'r teulu Y Foneddiges Jane Macartney, aelod o'r teulu Syr Joseph Banks (1743-1829) George Louis Leclerc, Comte de Buffon (1707-1788) Louis Dutens (1730-1812) Cadwyd gan Drydydd Iarll Bute Cadwyd gan Drydydd Iarll Bute Lluniau Botanical Tables gan yr Arglwydd Bute Yn dangos gwahanol forffolegau ffrwythau a chonau. Yn dangos gwahanol forffolegau hadlestri gan gynnwys capsiwlau a chodennau. Yn dangos gwahanol forffolegau blodau. Yn dangos y gwahanol addasiadau mewn planhigion i'w hamddiffyn rhag niwed. Yn dangos y gwahanol fathau o ddail. Yn dangos y gwahanol fathau o flagur dail. Yn dangos y gwahanol fathau o goesynnau noddlawn sydd mewn planhigion, yn enwedig cacti a phlanhigion suddlon eraill. Yn dangos y gwahanol fathau o goesynnau a boncyffion sydd mewn planhigion. Datura stramonium L. (Afalau Dreiniog). Yn dangos y blodau a manylion y ffrwyth. Atropa belladonna L. (Codwarth). Yn dangos strwythur y blodyn a phen yr hedyn. Dianthus caryophyllus L. (Penigan Pêr). Yn dangos manylion y blodyn a phen yr hedyn. Phaseolus coccineus L. (Ffa dringo). Yn dangos manylion y blodyn a'r goden ffa. Caltha palustris L. (Gold y gors). Yn dangos strwythur y blodyn a'r hadau. Cyfeiriadau Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. (gol) 2003. Catalogue of Botanical Prints and Drawings held by the National Museums & Galleries of Wales. Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, tud. 319. Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. 2009. Bute's Botanical tables: dictated by Nature. Archives of natural history 36 (2): 277–298. Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. (paratoi ar gyfer) Bute's Botanical Tables (1785). Luton Hoo. Cyhoeddiad Arbennig i ddathlu'r Trichanmlwyddiant.
Insects in Amber 25 Gorffennaf 2013 Fungus gnat in amber 98.2G.2 Opilones Spider 98.7G.27 Moth 98.7G.24 Biting Midge and Moth 98.7G.1 Sciaindae Fungus Gnat