Hafan y Blog

Aelod o staff Amgueddfa Cymru yn graddio o gwrs Cenedlaethau'r Dyfodol!

Kate Breeze, 21 Mai 2026

Ym mis Mawrth fi oedd y person cyntaf erioed o Amgueddfa Cymru i raddio o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol (AACD)!

Mae AACD yn cael ei redeg gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac yn dod â grŵp dethol o bobl ifanc 18-30 oed o bob cwr o Gymru at ei gilydd i ddatgloi sgiliau arwain ac ehangu gwybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Dechreuodd hyn i gyd pan gyhoeddodd Amgueddfa Cymru eu bod nhw wedi derbyn cyllid drwy Broject Cronfa Arloesi Treftadaeth y Loteri Genedlaethol #GROW i noddi cyfranogwr, sy’n arwain at y person yn gweithio gydag Arweinydd Project #GROW i gefnogi cynaliadwyedd a gweithredu dros yr hinsawdd yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Dwi wastad wedi bod yn angerddol am natur a sut all natur siapio ein hunaniaeth, ein lle yn y byd a'n lles. Fel siaradwr Cymraeg ail iaith hefyd, dw i wastad wedi ffeindio’r ffordd mae iaith a natur yn pontio ac yn gallu ysgogi cysylltiadau gwahanol â'n cynefin yn hynod ddiddorol. Roedd hwn yn gyfle perffaith i roi’r angerdd hwn ar waith a chyfoethogi fy sgiliau a ’ngwybodaeth drwy AACD.

Roeddwn i mor gyffrous i fod yn rhan o AACD 5.0 eleni a'r cyfranogwr cyntaf erioed o Amgueddfa Cymru – roedd yn wefreiddiol ac ychydig yn frawychus i fod y person cyntaf erioed. Ond mae wedi bod yn gyfle anhygoel i ennill sgiliau i danio newidiadau cadarnhaol yn y sefydliad wedi'u hysbrydoli gan werthoedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Fel corff cyhoeddus, mae Amgueddfa Cymru yn dod dan ofynion y Ddeddf, ac mae'n hanfodol bod gan y cenedlaethau nesaf o staff y wybodaeth a'r profiad i'w sianelu yn weithredoedd cadarnhaol.

Dechreuodd fy nhaith AACD gyda chyfnod preswyl lle cwrddais i â'm cohort am y tro cyntaf. Fe wnaethon ni rannu syniadau ac amcanion, ac yn rhwydweithio fel arweinwyr y dyfodol. Cwrddon ni hefyd â'r siaradwyr preswyl, cyn-fyfyrwyr yr Academi, a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker. Roedd hyn yn hynod ysbrydoledig ac yn gosod y naws ar gyfer fy sesiynau hyfforddi bob pythefnos ar draws y rhaglen 8 mis.

Dysgais amrywiaeth o bethau – o sut i weithredu ac ystyried saith cenhedlaeth i’r dyfodol ac adeiladu economi lles, i sut mae arweinwyr eraill yn arloesi dan y Ddeddf. Gwnaeth ein cwrs preswyl olaf yng Ngogledd Cymru sbarduno fy syniadau ymhellach ac adeiladu fy rhwydweithiau gyda phobl sy'n gwneud gwaith mor anhygoel ar draws y sector cyhoeddus, trydydd a phreifat yng Nghymru. Wrth I'r hyfforddiant ddatblygu, roeddwn i hefyd yn rhannu ac yn trafod syniadau gyda gwahanol gydweithwyr, ac mae wedi bod mor foddhaol gweld sut mae pobl eraill yn gyffrous am y potensial o weithio mewn ffyrdd newydd.

O'r diwedd, daeth fy mhrofiad i ben gyda seremoni raddio llawn hwyl ond chwerw-felys yng Nghaerdydd gyda fy nghohort, Swyddfa Cenedlaethau'r Dyfodol, cyn-fyfyrwyr, a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a sefydliadau. Fe wnes i hyd yn oed gymryd rhan fel siaradwr i gyflwyno fy nghynllun newid (mwy am hynny isod!). Roedd yn anhygoel gallu rhannu sut rydw i wedi ymgorffori fy sgiliau a'm gwybodaeth newydd mewn cynllun.

Felly beth sy’n nesaf? Fel rhan o'r AACD, mae pob person yn creu rhywbeth o'r enw 'Cynllun Newid'; sef cynnig yn eich maes arbenigol sy'n sianelu eich gwybodaeth newydd yn gynllun ymarferol fel bod eich gweithle yn alinio'n well â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae fy nghynllun newid yn edrych ar sut allwn ni gyfuno iaith, natur a chynefin i ddatblygu cyfleoedd i gynulleidfaoedd Amgueddfa Cymru sy'n ysgogi cysylltiad, perthyn a lles ac yn helpu pobl i gysylltu â'u cynefin ac â natur yn gyffredinol. Mae cysylltu'r rhain nid yn unig yn meithrin dysgu dyfnach a gofalu am y byd naturiol, mae'n gwahodd pobl i ailgysylltu â natur, yn rhannu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol ac yn cysylltu iaith â llythrennedd ecolegol.

Canlyniad hyn fydd cyfrannu at Gymru yfory lle mae cysylltiadau, gwybodaeth a gofal cynyddol pobl am natur yn meithrin gwytnwch. Mae hefyd yn dangos sut y gall Amgueddfa Cymru fod yn ganolbwynt i'r Gymraeg fel ffordd o fwynhau natur a chynefin – wedi'u hysbrydoli gan ein casgliadau, ein lleoliadau, ein rhaglenni, ein digwyddiadau a'n profiadau.

Rydw i'n hynod falch o fod wedi cael y cyfle hwn i ddatblygu cynllun uchelgeisiol, newydd sbon, creadigol sy'n cyd-fynd â nodau sefydliadol Amgueddfa Cymru. Dw i wedi cyffroi i weld sut all gael ei ddefnyddio er mwyn cyfrannu at ddyfodol gwell i Gymru.

Ni fyddai'r cyfle hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Project #GROW Cronfa Arloesi Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n adeiladu gwytnwch yn y gweithle yn wyneb newid yn yr hinsawdd. Rydw i hefyd yn estyn diolch twymgalon i 'nghydweithwyr ar oject GROW, – Sarah Younan, Heather Jackson, Steph Burge, a Victoria Hillman am eu holl gefnogaeth.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.