Trilobitau yng Nghymru Lucy McCobb, 27 Awst 2024 Trilobitau yw’r ffosilau sy’n cael eu cysylltu â Chymru gan amlaf, ac maen nhw i’w gweld mewn sawl rhan o’r wlad.Mae trilobitau ymhlith y ffosilau anifeiliaid hynaf y gwyddom amdanynt, ac mae rhai dros 500 miliwn mlwydd oedCafodd y lluniadau gwyddonol cyntaf o drilobitau eu gwneud yng Nghymru dros 300 mlynedd yn ôl, gan y naturiaethwr Cymreig Edward Lhwyd yn 1698.Pe baem yn gofyn i chi enwi ffosil o Gymru, am beth fyddech chi’n meddwl? Amonit, efallai, un o’r cregyn troellog hardd sydd i’w gweld weithiau ar y traeth? Neu efallai fod dinosoriaid yn fwy at eich dant, ac y byddech yn dewis Dracoraptor, y theropod cigysol bach gafodd ei ddarganfod ger Penarth ychydig flynyddoedd yn ôl?Mae’r ffosilau hyn yn dyddio o’r cyfnod Jwrasig, sydd wedi’i anfarwoli mewn cyfres o ffilmiau Hollywood poblogaidd. Ond oeddech chi’n gwybod bod y rhan fwyaf o’r creigiau sydd yng Nghymru yn llawer hŷn na hynny? Mae’r ffosilau sydd yng nghreigiau Cymru yn dangos yr anifeiliaid a’r planhigion a oedd yn byw yma filiynau o flynyddoedd cyn y dinosoriaid.Ymhlith y creaduriaid hynafol mwyaf adnabyddus mae’r trilobitau, y cafodd eu ffosilau eu darganfod am y tro cyntaf yng Nghymru dros dri chan mlynedd yn ôl.Pa fath o anifeiliaid oedd trilobitau? Tair ‘llabed’ corff y trilobit, yn dangos sut y cafodd ei enw. (Rorringtonia kennedyi ger Llandrindod, y cyfnod Ordofigaidd.) Niobella smithi, ardal Porthmadog, y cyfnod Ordofigaidd. Rydym yn aml yn disgrifio trilobitau fel creaduriaid sy’n edrych yn debyg i bryfed lludw mawr, gan fod gan y naill a’r llall gyrff â llawer o segmentau. Er bod y ddau’n perthyn i grŵp o anifeiliaid o’r enw ‘arthropodau’, maen nhw’n gefndryd pell iawn. Mae’r enw arthropod yn golygu ‘coes gymalog’, oherwydd mae gan y creaduriaid hyn lawer o goesau cymalog, ynghyd â chragen neu groen allanol cryf, a elwir yn sgerbwd allanol. Mae’n siŵr eich bod wedi gweld cryn dipyn o arthropodau, ond heb sylweddoli efallai. Maen nhw’n cynnwys gwesteion digroeso sy’n sgrialu o gwmpas y lle, fel corynod, pryfed arian, chwilod neu bryfed eraill. Os ydych yn mwynhau gwylio gloÿnnod byw a gwenyn yn mynd o un blodyn i’r llall yn eich gardd neu yn y parc lleol, yna rydych wedi bod yn gwylio arthropodau ers tro byd. Fyddech chi ddim yn cytuno mai un o’r pethau mwyaf cyffrous y gallwch ddod o hyd iddo mewn pwll dŵr ar y creigiau ar lan y môr yw cranc cragen frau â chrafangau miniog?Mae trilobitau yn grŵp diflanedig o arthropodau. Roedd ganddyn nhw sgerbwd allanol caled a choesau cymalog fel yr arthropodau a welwch chi heddiw, ond roedd eu cyrff wedi’u hadeiladu’n wahanol iawn. Mae’r enw trilobitau yn dod o’r ffaith fod gan eu cyrff dair ‘llabed’, neu dair rhan wahanol. Mae’r rhan ganol yn uwch na gweddill y corff, ac yn ymestyn i lawr canol pen y trilobit, ar hyd ei gorff ac i lawr canol ei gynffon. Mae dwy ochr y corff yr un fath yn union â’i gilydd, ac fel arfer mae’r ochrau ychydig yn is na’r rhan ganol, fel tir gwastad bob ochr i grib mynydd. Mae eu hymylon allanol yn troi o danodd i ffurfio ymyl galed o amgylch bol y trilobit, sy’n feddalach na’r sgerbwd allanol.Ychydig o ffosilau sy’n dangos coesau trilobitau. Yn wahanol i’r sgerbwd allanol, a oedd yn gorchuddio cefn yr anifail yn ei gyfanrwydd, doedd y coesau ddim yn galed, felly roedden nhw’n llai tebygol o droi’n ffosilau. Roedd gan drilobitau bâr o goesau cymalog dan bob segment o’r corff, ac yn rhan uchaf pob coes roedd tagell, a oedd yn edrych yn debyg i blu, i alluogi’r trilobit i anadlu. Roedd yna hefyd bâr o antenau neu ‘deimlyddion’ ar du blaen y pen.Roedd llygaid trilobitau yn arbennig iawn. Roedd ganddyn nhw lygaid cyfansawdd fel pryfed â llawer o lensys bach ynghlwm wrth ei gilydd, yn hytrach nag un lens mawr ym mhob llygad fel sydd gennym ni. Mewn llygaid trilobitau, roedd pob lens wedi’i wneud o risial o fwyn o’r enw calsit. Weithiau rydym yn ddigon ffodus i ddod o hyd i ffosilau trilobitau â’u lens llygad grisial yn dal yn ei le. Gallwn eu hastudio i ddarganfod sut roedd trilobitau yn gweld y byd o’u cwmpas. Llygaid trilobitau yw’r llygaid cyfansawdd hynaf y gwyddom amdanynt.Faint o flynyddoedd yn ôl roedd trilobitau yn byw?Mae trilobitau ymhlith yr anifeiliaid ffosil hynaf y gwyddom amdanynt. Canfuwyd y ffosilau trilobitau hynaf yn Sbaen, Moroco, Rwsia ac Unol Daleithiau America, ac maen nhw tua 521 miliwn mlwydd oed. Gan fod llawer o’r creigiau hynaf yng Nghymru wedi cael eu gwasgu a’u cynhesu, dyw’r trilobitau hynaf rydym yn eu darganfod yma ddim mor hen – tua 514 miliwn mlwydd oed. Ymddangosodd trilobitau yn gynnar mewn cyfnod rydym yn cyfeirio ato fel y cyfnod Cambriaidd, pan gafodd llawer o anifeiliaid cregynnog eu darganfod am y tro cyntaf fel ffosilau. Rydym yn galw hyn yn ‘ffrwydrad Cambriaidd’, oherwydd ymddangosodd amrywiaeth eang o wahanol bethau byw yn sydyn am y tro cyntaf yn y cofnod ffosilau. Roedd yr amrywiaeth mawr hwn o fywyd fel pe bai’n ‘ffrwydro’ i fodolaeth o nunlle, ond mae’n debyg nad oes ffosilau o’r anifeiliaid a oedd yn bodoli cyn hyn oherwydd bod eu cyrff yn hollol feddal.Roedd trilobitau yn grŵp llwyddiannus iawn o anifeiliaid, a oedd o gwmpas am tua 270 miliwn o flynyddoedd. Diflanasant tua diwedd y cyfnod Permaidd, tua 252 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn y difodiant torfol mwyaf a welwyd erioed ar wyneb y Ddaear. Fodd bynnag, roedd niferoedd trilobitau wedi bod yn gostwng am beth amser cyn hyn. Dim ond ychydig o rywogaethau yn perthyn i un prif grŵp oedd yn dal o gwmpas pan ddiflanasant yn llwyr yn ‘y marw mawr’, ynghyd â thros 80% o’r holl rywogaethau a oedd yn byw yn y môr bryd hynny!Ble roedd trilobitau yn byw a beth roedden nhw’n ei fwyta? Efallai fod y tagellau mawr yn segmentau corff llydan yr Olenus, yn ei helpu i oroesi yn y dyfnfor llonydd. Roedd gan drilobitau a oedd yn nofio’n rhydd, fel Sagavia, lygaid mawr er mwyn gallu gweld yr holl ffordd o’u cwmpas. Roedd pob trilobit yn byw yn y môr, ond mewn lleoedd amrywiol ac mewn gwahanol ffyrdd. Roedd llawer yn byw ar wely’r môr, yn crafangu drosto neu’n tyrchu i mewn iddo. Roedd eraill yn byw mewn riffiau hynafol wedi’u gwneud gan gwrelau a chreaduriaid eraill y môr. Roedd rhai yn ysglyfaethwyr, yn hela anifeiliaid eraill, ac roedd rhai yn byw drwy chwilota am ddarnau o fwyd a gwastraff, neu drwy hidlo bwyd allan o’r dŵr.Roedd y rhan fwyaf o’r trilobitau yn byw mewn dŵr cymharol fas, ond roedd rhai wedi addasu i fyw ar waelod cefnforoedd dyfnach. Roedd gan ffosilau Olenus o ogledd Cymru segmentau llydan ar eu cyrff. Credwn fod tagellau mawr ar y rhain a oedd yn eu galluogi i oroesi mewn dŵr dwfn lle nad oedd llawer o ocsigen. Mae rhai paleontolegwyr hyd yn oed yn awgrymu y gallai’r tagellau fod wedi bod yn gartref i facteria, a allai fyw ar sylffwr a darparu ffynhonnell wahanol o egni nad oedd angen ocsigen i’r trilobitau.Roedd rhai trilobitau wedi addasu i nofio’n rhydd uwchben gwely’r môr yn y dŵr agored. Mae ffordd o fyw mathau eraill yn parhau’n ddirgelwch, fel y trilobitau bach maint pys a elwir yn agnostidau. Mae’n bosibl eu bod yn arnofio yn y cefnfor agored, yn byw ar wymon, neu’n byw fel parasitiaid ar anifeiliaid mwy.Faint o wahanol fathau o drilobitau oedd yna?Esblygodd trilobitau i nifer o wahanol fathau – gwyddom am dros 22,000 o rywogaethau ac mae rhywogaethau newydd yn cael eu darganfod bob blwyddyn. Mae’r trilobit cyffredin tua 2-10 cm o hyd, ond roedd ystod y meintiau’n fawr iawn. Mae’r rhai lleiaf rydym yn dod o hyd iddynt yng Nghymru yn cynnwys Peronopsis a Shumardia sy’n llai na centimetr o hyd, a’r un mwyaf y gwyddom amdano o Ynysoedd Prydain yw’r Paradoxides mawr sydd tua 50 cm o hyd. Y trilobit cyfan mwyaf sydd wedi’i ddarganfod yn y byd yw’r Isotelus rex 70 cm o hyd o Ganada, ac mae darnau o drilobit a allai fod yn fwy nag 80 cm wedi cael eu canfod ym Mhortiwgal.Roedd gan gyrff trilobitau lawer o nodweddion gwahanol i’w galluogi i addasu i’w ffyrdd amrywiol o fyw. Roedd gan drilobitau a oedd yn nofio, fel Degamella, gyrff main, llyfn a llygaid mawr a oedd yn eu galluogi i weld popeth o’u cwmpas. Roedd gan drilobitau eraill lygaid ar goesynnau, ac mae’n bosibl eu bod yn byw wedi’u claddu’n rhannol yng ngwely’r môr. Roedd gan rai lygaid bach iawn, neu ddim o gwbl, ac mae’n debyg eu bod yn byw i lawr yn y dyfnderoedd tywyll.Un grŵp cyffredin iawn o drilobitau sydd wedi’u darganfod yng Nghymru yw’r trinwcleidau, a oedd â phen anarferol iawn yr olwg. Roedd gan y trinwcleidau ymyl llydan tebyg i fisor haul o amgylch pen hanner cylch, â rhesi o dyllau ynddo a oedd yn edrych yn debyg i ridyll. Mae’n debyg bod yr ymyl rhidyllog yn cael ei ddefnyddio i hidlo bwyd allan o’r dŵr.Mae pigau yn gyffredin ar drilobitau a byddent wedi bod yn ddefnyddiol mewn llawer o ffyrdd. Byddai’r rhai a oedd yn sticio allan o amgylch yr ymylon wedi gwneud i ysglyfaethwyr feddwl ddwywaith, a byddent hefyd yn gweithredu fel esgid eira, yn gwasgaru pwysau’r trilobit gan ei wneud yn llai tebygol o suddo i fwd meddal. Roedd gan rai trilobitau dall, fel Cnemidopyge, un pigyn hir yn sticio allan o du blaen eu pen, ac mae’n debyg eu bod yn ei ddefnyddio i synhwyro eu hamgylchedd. Mae ffosilau diddorol o Moroco yn dangos ‘llinellau conga’ o drilobitau tebyg sy’n perthyn (Ampyx), yn defnyddio eu pigau i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd wrth iddynt symud gyda’i gilydd ar wely’r môr. Roedd trilobitau eraill mor bigog â draenogod – ai dim ond cadw ysglyfaethwyr llwglyd draw oedd pwrpas y pigau yma, ynteu a fydden nhw hefyd yn cael eu defnyddio i’w harddangos i drilobitau eraill?Roedd sgerbydau allanol llawer o drilobitau wedi’u gorchuddio â lympiau neu rychau. Efallai fod pwrpas i rai o’r rhain – fel cuddliw, synhwyro eu hamgylchedd, rheoli llif dŵr, ei gwneud yn haws i dyrchu – neu efallai fod rhai ohonyn nhw at ddiben arddangos. Roedd cyrff trilobitau eraill yn llyfn, gan ei gwneud yn haws iddynt nofio neu durio.Sut roedd trilobitau yn tyfu ac yn mynd yn fwy? Slab from near Builth Wells with several Ogyginus of different sizes (and ages). Drwy edrych ar rai ffosilau bach iawn, gallwn ddweud sut roedd trilobitau ifanc yn edrych. Roedden nhw’n dechrau eu hoes fel larfa, yn edrych yn wahanol iawn i’r oedolion, yn union fel pryfed a chrancod heddiw. Yna roedden nhw’n tyfu drwy nifer o gamau eraill, gan ddod yn fwy a mwy tebyg i drilobitau aeddfed ar ôl pob cam. Roedden nhw’n dal i dyfu ar ôl iddyn nhw aeddfedu.Fel pob arthropod, roedd trilobitau yn gorfod bwrw eu croen er mwyn iddyn nhw allu tyfu, a hynny sawl gwaith yn ystod eu hoes. Roedden nhw’n tyfu sgerbwd allanol newydd o dan yr hen un, yna’n torri’r hen un i’w agor ac yn ei daflu ymaith. Roedden nhw’n cymryd dŵr i mewn er mwyn ehangu’r sgerbwd allanol newydd mwy i’w faint llawn ac yn gadael iddo galedu. Mae hyn yn debyg i’r ffordd y mae crancod yn bwrw eu cregyn ac yn tyfu heddiw. Un rheswm pam ein bod wedi darganfod cynifer o drilobitau yw bod anifail yn bwrw nifer o sgerbydau allanol yn ystod ei oes, a bod pob un yn ffosil posibl yn y dyfodol.Yng nghanolbarth Cymru, gallwn ddod o hyd i lawer o wahanol feintiau (ac oedrannau) o rai o’r trilobitau mwy cyffredin, gan gynnwys Ogyginus corndensis.Pryd y darganfuwyd y trilobitau cyntaf yng Nghymru? Yn y gorffennol, roedd pobl yn credu mai gloÿnnod byw wedi’u troi’n garreg gan dylwythen deg oedd cynffonau’r trilobit Merlinia. Y lluniad gwyddonol cyntaf o drilobit, ‘lleden’ Dr Edward Lwyd (1698), y gwyddom erbyn hyn ei fod yn Ogygiocarella debuchii. Y lluniad gwyddonol cyntaf o drilobit, ‘lleden’ Dr Edward Lwyd (1698), y gwyddom erbyn hyn ei fod yn Ogygiocarella debuchii. Mae’n siŵr bod pobl yng Nghymru wedi dechrau sylwi ar drilobitau a ffosilau eraill ganrifoedd yn ôl, ond mae’n debyg nad oedden nhw’n sylweddoli mai olion pethau a oedd ar un adeg yn fyw oedden nhw. Roedden nhw’n adrodd storïau am y siapiau rhyfedd roedden nhw’n eu gweld yn y graig. Adroddwyd un stori o’r fath yn ardal Caerfyrddin i egluro beth oedd cynffonau trilobitau a ddarganfuwyd yn y creigiau. Roedd pobl leol yn meddwl mai gloÿnnod byw a oedd wedi troi’n gerrig oedden nhw! Yn ôl y chwedl roedd Myrddin y dewin wedi syrthio mewn cariad ag un o’r tylwyth teg, ond yn anffodus doedd hi ddim yn teimlo’r un fath tuag ato ef. Un diwrnod, roedd Myrddin mewn ogof a bwriodd y dylwythen deg hud arno i’w gaethiwo yno am byth. Roedd gloÿnnod byw yn hedfan o gwmpas yr ogof a chawsant eu dal yn yr hud a’u rhewi yn y graig am byth. Defnyddiodd gwyddonwyr y stori hon wrth roi enw gwyddonol i’r trilobitau, sef Merlinia.Mae gan Gymru hanes maith o astudio trilobitau. Cafodd y lluniadau gwyddonol cyntaf erioed o’r ffosilau hyn eu gwneud gan Edward Lhwyd, Cymro a oedd yn adnabyddus am astudio hanes natur, archaeoleg ac ieithoedd Celtaidd. Roedd Lhwyd yn gweithio yn Amgueddfa Ashmole yn Rhydychen a theithiodd o amgylch Cymru i gasglu gwybodaeth ar gyfer llyfr am hanes natur Cymru. Roedd ei lythyrau am ei deithiau yn 1698 yn cynnwys lluniadau o drilobitau yr oedd wedi eu darganfod ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin, a gafodd eu cyhoeddi mewn cyfnodolyn gwyddonol yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Disgrifiodd y mwyaf o’r rhain fel ‘sgerbwd math o leden’ gan mai dyna’r creadur byw yr oedd yn ei atgoffa fwyaf ohono, a doedd ganddo ddim syniad y gallai anifeiliaid ddarfod o’r tir. Gallwn ddweud o luniad clir Lhwyd mai trilobit cyffredin iawn yng Nghymru oedd hwn mewn gwirionedd, sef Ogygiocarella debuchii. Cafodd ail fath o drilobit sydd wedi ei ddarlunio gan Lhwyd ei labelu fel ‘Trinucleum’. Mae hwn yn amlwg yn un o’r trinwcleidau nodedig ag ymyl tebyg i ridyll. Mae darn o drydydd trilobit gafodd ei luniadu ganddo wedi cael ei adnabod erbyn hyn fel trilobit o’r enw Atractopyge.Yn y tair canrif ers i Lhwyd wneud y lluniadau cyntaf hyn o drilobitau, rydym wedi dysgu mai arthropodau oedden nhw, yn hytrach na physgod, ac mae dwsinau o wahanol rywogaethau wedi cael eu darganfod mewn creigiau yng Nghymru. Ond efallai mai’r darganfyddiad mwyaf cyffrous o’r rhain i gyd oedd pan wnaeth J. W. Salter ddarganfod trilobit anferth yn Sir Benfro dros 150 o flynyddoedd yn ôl. Roedd Salter yn gweithio i’r Arolwg Daearegol ac ymwelodd â llawer o leoedd fel rhan o’i waith yn chwilio am ffosilau. Yn 1862, roedd mewn cwch ar arfordir Sir Benfro, ac yn bwriadu glanio yn Solfach, ger Tyddewi. Drwy lwc, glaniodd mewn camgymeriad ym Mhorth-y-rhaw, cilfach tua milltir i’r gorllewin o Dyddewi. Yn y creigiau yno daeth o hyd i ffosilau trilobit mawr iawn. Galwodd Salter ei ddarganfyddiad newydd yn Paradoxides davidis a dyma’r trilobit mwyaf y gwyddom amdano o Ynysoedd Prydain, sydd tua hanner metr o hyd.Ble yng Nghymru y gallwn ni ddarganfod trilobitau? Ychydig o drilobitau Cambriaidd o Gymru: Bailiella o Sir Benfro. Meneviella o Wynedd Parabolina o Wynedd Solenopleura o Wynedd Mae’r rhan fwyaf o’r creigiau sydd dan dirwedd garw Cymru yn hen iawn. Maen nhw’n lleoedd da i chwilio am ffosilau trilobitau, rhai o’r anifeiliaid hynaf y gwyddom amdanynt. Mae’r rhan fwyaf o’r trilobitau yng Nghymru yn dod o greigiau o’r cyfnodau Cambriaidd, Ordofigaidd a Silwraidd, sydd rhyngddyn nhw’n ffurfio rhannau helaeth o’r wlad. Dyma’r tri chyfnod hynaf o amser daearegol rydym yn darganfod ffosilau y gallwn eu hadnabod ohonynt. Enwyd y cyfnod Cambriaidd (485-540 miliwn o flynyddoedd yn ôl) ar ôl yr enw Rhufeinig am Gymru, Cambria. Enwyd y cyfnodau Ordofigaidd (444-485 miliwn o flynyddoedd yn ôl) a’r cyfnod Silwraidd (419-444 miliwn o flynyddoedd yn ôl) ar ôl hen lwythi Cymreig, yr Ordoficiaid a’r Silwriaid. Tri trilobit Angelina Ordofigaidd o Ogledd Cymru, sy’n edrych yn wahanol iawn i’w gilydd oherwydd bod eu cyrff wedi cael eu cywasgu gan rymoedd yn dod o wahanol gyfeiriadau. Tri trilobit Angelina Ordofigaidd o Ogledd Cymru, sy’n edrych yn wahanol iawn i’w gilydd oherwydd bod eu cyrff wedi cael eu cywasgu gan rymoedd yn dod o wahanol gyfeiriadau. Tri trilobit Angelina Ordofigaidd o Ogledd Cymru, sy’n edrych yn wahanol iawn i’w gilydd oherwydd bod eu cyrff wedi cael eu cywasgu gan rymoedd yn dod o wahanol gyfeiriadau. Mae’r trilobitau hynaf yng Nghymru yn dod o greigiau Cambriaidd yn Eryri, a chawsant eu darganfod yn chwareli llechi’r Penrhyn yn y 1880au. Mae trilobitau Cambriaidd ychydig yn iau yn cael eu darganfod i’r de o Faentwrog yn Eryri, ar Benrhyn Llŷn, yn ardal Tyddewi yn Sir Benfro ac yn Nyffryn Mawddach ger Dolgellau. Ychydig o drilobitau Ordofigaidd o Gymru: Gravicalymene o Sir Ddinbych, Lloydolithus, Marrolithoides a Porterfieldia o Sir Gaerfyrddin, Platycalymene a Salterolithus o Bowys. Ychydig o drilobitau Ordofigaidd o Gymru: Lloydolithus o Sir Gaerfyrddin Ychydig o drilobitau Ordofigaidd o Gymru: Marrolithoides o Sir Gaerfyrddin Ychydig o drilobitau Ordofigaidd o Gymru: Porterfieldia o Sir Gaerfyrddin Ychydig o drilobitau Ordofigaidd o Gymru: Platycalymene o Bowys. Ychydig o drilobitau Ordofigaidd o Gymru: Salterolithus o Bowys Mae Canolbarth Cymru yn enwog am drilobitau Ordofigaidd, ond mae llawer o’r lleoliadau casglu mwyaf adnabyddus ar dir preifat. Rhoddodd daearegwr o’r 19eg ganrif, Roderick Murchison, yr enw anffurfiol ‘Pant y Trilobitau’ ar ardal ger y Trallwng, oherwydd bod cynifer o ffosilau wedi’u darganfod yno, ac erbyn hyn mae’r ardal yn rhan o safle a warchodir (SoDdGA). Mae llawer o drilobitau o’r cyfnod hwn wedi’u darganfod yng ngorllewin Cymru hefyd, yn enwedig yn yr ardaloedd o gwmpas Hwlffordd a Chaerfyrddin, yn Eryri (ambell un ar gopa’r Wyddfa hyd yn oed!), ar Benrhyn Llŷn a ger Corwen yn y gogledd-ddwyrain. Ychydig o drilobitau Silwraidd o Gymru: Calymene o Chwarel Pen-y-lan Ychydig o drilobitau Silwraidd o Gymru: Proetus o Sir Fynwy Ychydig o drilobitau Silwraidd o Gymru: Dalmanites o Went. Ychydig o drilobitau Silwraidd o Gymru: Trimerus o Went. Yn y gorffennol, roedd chwarel Pen-y-lan yng Nghaerdydd yn adnabyddus am ei ffosilau Silwraidd hynod, gan gynnwys enghreifftiau cyfan o drilobitau fel Encrinurus. Yn anffodus, mae rhan o’r safle yn anhygyrch erbyn hyn oherwydd bod prif ffordd wedi’i hadeiladu drwyddo, ond mae gweddill y safle wedi’i warchod. Mae trilobitau Silwraidd hefyd wedi’u darganfod mewn sawl rhan arall o Gymru, gan gynnwys yn ardaloedd Hwlffordd a Llanymddyfri yng ngorllewin Cymru, ym Mhowys o gwmpas Meifod, Pencraig a Llanfair-ym-Muallt, ger Llanystumdwy ar Benrhyn Llŷn, a ger Brynbuga yn Sir Fynwy.Mae’r trilobitau ieuengaf sydd wedi’u darganfod yng Nghymru yn dyddio o’r cyfnod Carbonifferaidd, tua 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac mae’n nhw’n cael eu darganfod yn achlysurol iawn ar arfordiroedd Gŵyr a Sir Benfro, yn ardal Merthyr Tudful, a ger Llangollen. Mae trilobitau Carbonifferaidd yn cael eu darganfod hefyd ar arfordir y gogledd, ymysg olion riffiau hynafol mewn ardaloedd fel Llandudno a Phrestatyn.
Mwydod y môr – beth yw mwydod gwrychog y môr a pham maen nhw mor bwysig? Katie Mortimer-Jones & Teresa Darbyshire, 7 Awst 2024 Y ddwy rywogaeth o lyngyr y traeth sydd i’w gweld o gwmpas y DU, Arenicola marina ac Arenicola defodiens. Abwyd gwyrdd, Alitta virens, sy’n cael ei ddefnyddio’n aml fel abwyd gan bysgotwyr! Welwch chi’r blew lliwgar hardd ar ochrau’r fôr-lygoden, Aphrodita aculeata, yma? Gallwch weld bod y corff wedi’i ffurfio o lawer o segmentau, sy’n dangos mai mwydyn yw môr-lygoden. Mae’r Llynghyren Binc Smotiog, Eupolymnia nebulosa, sydd i’w gweld yn aml o gwmpas y DU, yn cael ei henw oherwydd bod ganddi gorff pinc â smotiau gwyn arno. Welwch chi’r tagellau coch llachar? Mae’r Mwydyn Côn Hufen Iâ, Lagis koreni, yn defnyddio tywod a darnau o gregyn i adeiladu tiwb cywrain. Mae’n byw ben i waered ac yn defnyddio ei flew aur hardd i dyrchu yn y tywod. Montage o rai o’r mwydod gwrychog rhyfeddol rydym yn dod o hyd iddynt ym mhob cwr o’r byd. Ydych chi’n adnabod mwydod? Efallai y byddwch yn rhyfeddu at y rhain. Gall mwydod y môr fod yn hardd, ffyrnig, rhyfeddol a thrawiadolMae mwydod y môr yn hollbwysig ar gyfer iechyd ein moroedd, maen nhw’n rhan bwysig o weoedd bwyd, ac yn ‘arddwyr y cefnfor’Mae gan Amgueddfa Cymru ddau arbenigwr mewn mwydod y môr, sy’n darganfod rhywogaethau newydd yn y wlad hon a thramorEfallai nad ydych wedi clywed am fwydod gwrychog y môr, ond maen nhw’n greaduriaid pwysig iawn a rhyfeddol o hardd yn aml. Dyna ein barn ni fel curaduron yr amgueddfa, a gobeithio y byddwch yn cytuno â ni ar ôl darllen yr erthygl hon!Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad helaeth o infertebratau morol, anifeiliaid sy’n byw yn y môr, ac yn wahanol i chi a fi, nad oes ganddynt asgwrn cefn. Mae’r rhan fwyaf yn dod o ddyfroedd o amgylch Cymru, ond casglwyd rhai o rannau eraill o’r byd. Maen nhw’n cynnwys creaduriaid y môr y byddwch o bosibl yn gyfarwydd â nhw, er enghraifft cimychiaid, crancod, sêr môr, cregyn cylchog, cregyn gleision, cwrelau ac anemonïau, a llawer o rai eraill na fyddwch wedi clywed amdanynt o bosibl.Beth yw mwydod gwrychog?Un o’r grwpiau hyn yw mwydod y môr, neu yn fwy penodol mwydod gwrychog y môr. Enw gwyddonol mwydod gwrychog y môr yw polychaete, enw sy’n golygu “llawer o flew”, gan fod ganddynt lawer o ‘flew’ ar eu cyrff i’w galluogi i symud neu lynu at rywbeth arall. Maen nhw’n perthyn i fwydod cyffredin a gelod, mewn grŵp o’r enw ‘Annelida’, y mwydod segmentiedig. Os ydych wedi astudio mwydyn neu bryf genwair yn agos yn eich gardd, byddwch wedi gweld bod y corff wedi’i ffurfio o nifer o segmentau, sy’n egluro enw’r grŵp.Ble galla i weld mwydod gwrychog?Ydych chi wedi sylwi ar bentyrrau dolennog o dywod ar wyneb y traeth a meddwl tybed beth wnaeth y sypiau rhyfedd hyn o dywod? Wel, maen nhw’n cael eu gwneud gan lyngyr y traeth, math cyffredin o fwydyn gwrychog y môr sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan bysgotwyr fel abwyd i ddal pysgod. Mae llyngyr y traeth yn byw mewn tyllau yn y tywod, ac yn llyncu’r tywod i gael maethynnau. Yna mae angen iddyn nhw gael gwared ar y tywod, drwy ei ryddhau o’u cynffonau, bron iawn fel tiwb past dannedd. Felly, beth rydych chi’n ei weld mewn gwirionedd yw cynnyrch gwastraff y llyngyr – ie, baw llyngyr!Math arall o fwydyn gwrychog y môr y gallech fod wedi clywed amdano yw abwyd melys, sydd hefyd yn cael eu defnyddio gan bysgotwyr fel abwyd. Gall yr abwydyn gwyrdd, Alitta virens, dyfu i fod hyd at fetr o hyd, ac mae’n garthysydd, sy’n aml yn bwyta anifeiliaid eraill! Ond peidiwch â phoeni, dydyn nhw ddim i’w gweld ar y traeth yn aml.Pam y mae mwydod gwrychog y môr yn bwysig?Yn gyntaf, maen nhw’n aml yn ffurfio cyfran fawr o’r anifeiliaid sy’n byw yng ngwely’r môr, weithiau cynifer â 50-80%! Mae hyn yn eu gwneud yn rhan bwysig o weoedd bwyd morol, ac yn darparu bwyd i anifeiliaid eraill megis crancod, cimychiaid, pysgod, adar y môr a hyd yn oed fathau eraill o fwydod. Hebddyn nhw, byddai gweoedd bwyd cyfan yn crebachu. Yn ail, y creaduriaid hyn yw ‘garddwyr y cefnfor’, yn gwneud gwaith tebyg i fwydod ar dir. Maen nhw’n troi’r gwaddodion yng ngwely’r môr drosodd, ac yn cael ocsigen i lawr iddyn nhw. Mae gwyddonwyr yn aml yn dweud eu bod yn ‘rhywogaeth ddangosol’ dda, sy’n golygu eu bod yn gallu dweud rhywbeth wrthym am iechyd a chyflwr y moroedd. Er enghraifft, mae presenoldeb rhai mwydod gwrychog yn dweud wrthym fod gwely’r môr yn iach, tra gallai eraill fod yn arwydd bod yr amgylchedd wedi’i lygru. Gall mwydod eraill adeiladu strwythurau tebyg i riffiau a all fod yn gartref i anifeiliaid o bob math.Sut mae mwydod gwrychog yn edrych?Gobeithio ein bod wedi llwyddo i’ch argyhoeddi pa mor bwysig yw mwydod gwrychog y môr, ond beth am eich argyhoeddi pa mor ddel ydyn nhw? Wel, mae dros 12,000 o wahanol rywogaethau o fwydod gwrychog y môr ar hyd a lled y byd, ac rydym yn darganfod rhywogaethau newydd o hyd. Mae gennym ymhell dros 1,000 o rywogaethau yn y DU, ac mae’r nifer yn cynyddu o hyd. Felly, sut maen nhw’n edrych? Mae mwydod gwrychog y môr wedi addasu i fyw ym mhob cynefin ac amgylchedd morol bron, felly maen nhw’n amrywio’n fawr o ran siâp, maint a lliw. Mae rhai’n fach iawn, mor fach mewn gwirionedd nes eu bod yn byw rhwng y gronynnau tywod ar y traeth, tra mae eraill yn ôl y sôn yn gallu tyfu i fod dros 4 metr o hyd! Gall rhai edrych yn debyg iawn i fwydod cyffredin, ond mae llawer yn edrych yn wahanol iawn, ac mae rhai nad ydyn nhw’n edrych fel mwydod o gwbl. Mae rhai yn lliwiau llachar, yn edrych bron iawn fel blodau, mae eraill bron yn symudliw a sgleiniog, ac mae rhai hyd yn oed yn edrych braidd yn frawychus! Felly, gadewch i ni ddweud wrthych am rai mwydod diddorol iawn ……Aphrodite aciculata, yn edrych yn flewog, ond mwydod ydyn nhw. Maen nhw’n byw ym mhob cwr o’r DU a gallwch eu gweld weithiau wedi’u golchi i’r traeth. Os trowch un ben i waered gallwch weld y segmentau sy’n dweud wrthych mai mwydyn yw môr-lygoden. Mae’n ysglyfaethwr, yn aml yn bwyta mwydod eraill. Ond edrychwch ar y blew hardd a lliwgar ar ei gorff!Mae gan y Llynghyren Binc Smotiog, Eupolymnia nebulosa, gorff pinc â smotiau gwyn arno, a thentaclau tebyg i sbageti y mae’n eu defnyddio i ddal ei bwyd. Er mai ‘strawberry worm’ yw’r enw Saesneg arni, go brin y byddai’n mynd yn dda gyda hufen! Mae llyngyr pinc smotiog yn cuddio dan greigiau ar y traeth, ym mhob cwr o’r DU.Gan ein bod yn siarad am fwyd, dyna i chi’r Mwydyn Côn Hufen Iâ, Lagis koreni. Mae’r mwydod hardd hyn yn adeiladu tiwbiau cywrain siâp côn o ronynnau tywod a darnau bach o gregyn. Mae’r mwydod yn byw ben i waered, gan dyrchu yn y tywod â blew aur, sy’n edrych yn debyg i flew llygaid! Efallai y byddwch yn dod o hyd i diwb gwag ar draethau yn y DU.Pam y mae amgueddfeydd yn cadw casgliadau o fwydod gwrychog y môr?Gobeithio ein bod wedi eich argyhoeddi y gall mwydod fod yn greaduriaid rhyfeddol, ond pam y mae gan amgueddfeydd gasgliadau ohonyn nhw? Mae’r casgliadau hyn yn rhoi ciplun syfrdanol o ba rywogaethau sydd wedi byw mewn gwahanol leoedd ar wahanol adegau. Mae hyn yn bwysig er mwyn i ni allu cofnodi unrhyw newidiadau a allai ddigwydd o ganlyniad i bethau fel newid hinsawdd.A oes rhywogaethau newydd o fwydod gwrychog yn cael eu darganfod o hyd?Mae gan Amgueddfa Cymru ddau arbenigwr mewn mwydod gwrychog y môr sy’n astudio’r anifeiliaid rhyfeddol hyn. Maen nhw’n dacsonomyddion, gwyddonwyr sy’n darganfod, disgrifio ac enwi rhywogaethau newydd ac yn dweud wrth bobl eraill ym mhob cwr o’r byd beth i chwilio amdano. Mae casgliadau amgueddfeydd yn adnodd hynod o bwysig ar gyfer y math yma o ymchwil, ac yn ein helpu i ddysgu mwy am fioamrywiaeth ar y Ddaear a chofnodi ac ymchwilio i newidiadau. Gallwch ddarganfod rhagor am waith disgrifio rhywogaethau yr Amgueddfa yma. Cadwch lygad hefyd am ddiweddariadau ar dudalennau blog yr amgueddfa.
Fflora Diatom Prydain ac Iwerddon Ingrid Jüttner, 16 Mai 2023 Ffig. 1. 1=Amphora macedoniensis, 2=Achnanthidium caledonicum, 3=Eunotia juettnerae, 4=Fragilaria battarbeeana, 5=Gomphonema varioreduncum, 6=Planothidium reichardtii, 7=Sellaphora saugerresii, (microsgopeg golau). Ffig. 2. 8=Surirella pinnata, 9=Surirella subsalsa, 10=Cymatopleura hibernica, 11=Tetracyclus emarginatus, (microsgopeg golau). Ffig. 3. Rhywogaethau mewn dyfroedd llawn maetholion: 12=Cocconeis pediculus, 13=Navicula gregaria, 14=Rhoicosphenia abbreviata, 15=Nitzschia palea; species in acidified waters: 16=Eunotia exigua, 17=Eunotia incisa, 18=Tabellaria flocculosa, 19=Pinnularia subcapitata, (microsgopeg sganio electron). Ffig. 4. 20=Cocconeis neothumensis, 21=Eunotia serra, 22=Staurosirella rhomboides, 23= Semiorbis hemicyclus, (microsgopeg sganio electron). Beth yw diatomau? Algâu ungell microsgopig sy'n byw mewn dyfroedd croyw a lled hallt, y môr a chynefinoedd daearol llaith yw diatomau. Dyma’r grŵp mwyaf cyfoethog o blith y rhywogaethau algâu. Amcangyfrifir bod rhwng 100,000 a 2 filiwn o rywogaethau yn bodoli a bod rhywogaethau newydd yn cael eu darganfod yn aml.Pam mae diatomau yn bwysig? Mae diatomau yn algâu pwysig yn yr amgylchedd sy’n cynhyrchu ocsigen ac yn darparu ffynhonnell fwyd i nifer o organebau. Maent hefyd yn sensitif i nifer o amodau amgylcheddol, er enghraifft mae gwahanol rywogaethau'n amrywio yn eu dewis o grynodiadau maetholion, asidedd, halwynedd, llwyth gwaddod, trefn llif a thymheredd. Felly, mae diatomau yn bioddangosyddion da sy'n rhoi gwybodaeth i ni am yr amgylchedd a chyflwr ecosystemau dyfrol. Mae nifer o ddulliau i fonitro newid amgylcheddol wedi cael eu datblygu ac mae mynegeion diatomau fel Mynegai Diatomau Troffig (TDI) y DU a Metrig Asideiddio Diatomau (DAM) yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan ymchwilwyr amgylcheddol ac asiantaethau amgylcheddol i fonitro ansawdd dŵr a statws ecolegol ein ecosystemau dŵr croyw (Kelly et al. 2020, Jüttner et al. 2021).Beth sy’n gwneud diatomau yn unigryw? Mae gan diatomau nodwedd unigryw, cellfur sydd wedi'i wneud o silica, a defnyddir ei siâp a'i batrwm morffolegol cywrain i adnabod y gwahanol rywogaethau mewn microsgopeg.Sut allwn helpu ni i adnabod diatomau? Mae’r wefan Fflora Diatom Prydain ac Iwerddon yn broject mawr sy’n hwyluso’r broses o adnabod diatomau drwy ddefnyddio eu nodweddion morffolegol. Caiff y project ei arwain gan guradur diatomau Amgueddfa Cymru, Dr Ingrid Jüttner, a’i ariannu gan Gymdeithas Wymonegol Prydain a chyfraniadau anariannol gan yr arbenigwyr a'r sefydliadau sy'n cymryd rhan. Mae'n cynnwys flora diatom ar y we a chyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid sy'n cynnig adolygiad tacsonomaidd o ddiatomau o gynefinoedd dŵr croyw, lled hallt ac isawyrol ym Mhrydain ac Iwerddon.https://naturalhistory.museumwales.ac.uk/diatoms/https://www.researchgate.net/profile/Ingrid-JuettnerAmcangyfrifir bod miloedd o rywogaethau o ddiatomau dŵr croyw ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae'r degawd diwethaf wedi gweld nifer o ddiwygiadau tacsonomig, gan gynnwys y rhai mewn genera cyffredin gan gynnwys Amphora, Achnanthidium, Eunotia, Fragilaria, Gomphonema, Planothidium a Sellaphora ac mae rhai rhywogaethau na chofnodwyd yn aml yn y genera hyn bellach wedi'u dogfennu ar wefan diatom flora (Ffig. 1). Mae’n debygol bod nifer o rywogaethau diatomau newydd ym Mhrydain ac Iwerddon eto i’w darganfod, yn enwedig mewn cynefinoedd sydd heb eu cofnodi’n ddigonol fel dyfroedd croyw anghysbell ar dir uchel.Yn ogystal, fe wnaethon ni ddechrau astudio deunydd hanesyddol a ddefnyddiwyd gan ymchwilwyr diatomau cynharach i ddisgrifio rhywogaethau newydd, er enghraifft casgliadau William Smith, un o ddiatomyddion amlycaf y 19eg. Ei gyfraniad mawr i ymchwil diatomau oedd cyhoeddi'r Synopsis of the British Diatomaceae (1853, 1856), un o'r monograffau diatom systematig cyntaf, ac sy’n dal i fod yn adnodd pwysig ar gyfer adnabod diatomau. Mae ei gasgliadau o sleidiau a deunydd gwreiddiol o'r rhywogaethau a ddisgrifiodd yn cael eu cadw yng Ngardd Fotaneg Meise, Gwlad Belg (Hoover 1976), yn Amgueddfa Astudiaethau Natur, Llundain (Smith 1859) a Gardd Fotaneg Frenhinol Caeredin. Mae casgliad Smith yn cynnwys dros 1200 o samplau o bob rhan o Brydain, ond mae nifer o rywogaethau y fflora Prydeinig a ddisgrifir gan Smith wedi’u dogfennu’n wael, a bydd yn destun ein hastudiaethau yn y dyfodol (Ffig. 2).Pam mae gwefan Fflora Diatom Prydain ac Iwerddon mor bwysig? Mae diwygiadau tacsonomig diweddar ac astudiaethau ar ddosbarthiad rhywogaethau (e.e., Novais et al. 2015, Levkov et al. 2016, Wetzel et al. 2019, Jüttner et al. 2022, Van de Vijver et al. 2022) wedi arwain at ddealltwriaeth well o dacsonomeg rhywogaethau ac ecoleg. Cyhoeddwyd yr astudiaethau hyn mewn amrywiaeth o gyfnodolion a llyfrau gwyddonol sy’n golygu ei bod hi’n anodd i ddefnyddwyr dulliau monitro diatomau, myfyrwyr ac ymchwilwyr nad ydynt yn ymwneud ag ymchwil tacsonomig i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Felly mae gwefan Fflora Diatom Prydain ac Iwerddon, sydd ar gael yn eang, ac sy’n crynhoi'r cynnydd diweddaraf mewn tacsonomeg diatomau, yn adnodd gwerthfawr sy'n cefnogi'r defnydd o ddiatomau mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a chymwysiadau.Ar hyn o bryd mae 334 o rywogaethau mewn 66 genera wedi’u cyhoeddi ar-lein. Mae pob tacson yn cael ei ddogfennu drwy ddefnyddio arsylwadau microsgopeg golau, ond mae nifer hefyd wedi'u darlunio â lluniau microsgopeg electron sganio, a rhai â delweddau o'r celloedd byw. Mae disgrifiadau morffolegol a rhestr o gyfeiriadau allweddol yn cyd-fynd â phob tacson. Daw nifer o’r rhywogaethau cyhoeddedig o ddyfroedd croyw yr effeithiwyd arnynt gan ewtroffeiddio neu asideiddio ac sydd i’w gweld yn aml wrth fonitro amgylcheddol afonydd a llynnoedd (Ffig 3).Yn fwy diweddar, fe wnaethom ddarganfod a darlunio nifer o rywogaethau prin o ddyfroedd croyw heb eu llygru (Ffig. 4). Serch hynny, mae fflora cynefinoedd dyfrol lled-naturiol neu bron yn naturiol, er enghraifft y rhai sy'n nodweddiadol mewn corsydd, llynnoedd ucheldir, nentydd a ffynhonnau blaenddwr yn parhau i fod yn brin a byddant yn ffocws i'n gwaith yn y dyfodol. Gall dyfroedd croyw heb eu llygru gynnwys niferoedd uchel o dacsonau sydd mewn perygl (Cantonati et al. 2022) ac mae dealltwriaeth well o fflora'r gwlypdiroedd unigryw hyn yn bwysig a gall gefnogi projectau sy'n asesu newid amgylcheddol mewn cynefinoedd dan fygythiad a chefnogi gwaith adfer ecolegol. LlyfryddiaethCantonati M., Hofmann G., Spitale D., Werum M., Lange-Bertalot H. 2022. Diatom Red Lists: important tools to assess and preserve biodiversity and habitats in the face of direct impacts and environmental change. Biodiversity and Conservation 31: 453–477. https://doi.org/10.1007/s10531-021-02339-9Hoover, R.B. 1976. Inventory of the original typical collection of the Reverend William Smith (1808–1857). Types du Synopsis of British Diatomaceae. tt. [i]–xlv, 1–106, 11 plât. Antwerp: Koninklijke Maatschappij voor Dierkunde van Antwerpen met de medewerking van de Koninklijke Albert 1 en het Stadsbestuur van Antwerpen.Jüttner I., Kelly M.G., Evans S., Probert H., Orange A., Ector L., Marsh-Smith S. 2021. Assessing the impact of land use and liming on stream quality, diatom assemblages and juvenile salmon in Wales, United Kingdom. Ecological Indicators 121, 107057. https://doi.org/10.1016/j.ecolind.2020.107057Jüttner I., Hamilton P.B., Wetzel C.E., Van der Vijver B., King L., Kelly M.G., Williams D.M., Ector L. 2022. A study of the morphology and distribution of four Achnanthidium Kütz. species (Bacillariophyta), implications for ecological status assessment, and description of two new European species. Cryptogamie Algologie 43(10): 147–176. https://doi.org/10.5252/cryptogamie-algologie2022v43a10Kelly M.G., Phillips G., Juggins S., Willby N.J. 2020. Re-evaluating expectations for river phytobenthos assessment and understanding the relationship with macrophytes. Ecological Indicators 117, 106582. https://doi.org/10.1016/j.ecolind.2020.106582Levkov Z., Mitić-Kopanja D., Reichardt E. 2016. The diatom genus Gomphonema from the Republic of Macedonia. Diatoms of Europe Vol. 8. Koeltz Botanical Books, Oberreifenberg, 552 tt.Novais M.H., Jüttner I., Van de Vijver B., Morais M.M., Hoffmann L., Ector L. 2015. Morphological variability within the Achnanthidium minutissimum species complex (Bacillariophyta): comparison between the type material of Achnanthes minutissima and related taxa, and new freshwater Achnanthidium species from Portugal. Phytotaxa 224(2): 101–139. https://doi.org/10.11646/phytotaxa.224.2.1Smith W. 1853. A Synopsis of the British Diatomaceae. Vol.1. John Van Voorst, London, 89 tt., 31 plât.Smith W. 1856. A Synopsis of the British Diatomaceae. Vol.2. John Van Voorst, London, 107 tt., 67 plât.Smith W. 1859. List of British Diatomaceae in the Collection of the British Museum. Taylor and Francis, London, 55 tt.Van de Vijver B., Williams D.M., Kusber W.-H., Cantonati M., Hamilton P.B., Wetzel C.E., Ector L. 2022. Fragilaria radians (Kützing) D.M.Williams et Round, the correct name for F. gracilis (Fragilariaceae, Bacillariophyta): a critical analysis of this species complex in Europe. Fottea 22(2): 256–291. https://doi.org/10.5507/fot.2022.006Wetzel C.E., Van de Vijver B., Blanco S., Ector L. 2019. On some common and new cavum-bearing Planothidium (Bacillariophyta) species from freshwater. Fottea 19(1): 50–89. https://doi.org/10.5507/fot.2018.016
Goresgynwyr estron Anna Holmes, 15 Mai 2023 Cadwch lygad am y rhain ger eich cartref: Jac y Neidiwr a Clymog Japan Gwymon Pompom (Caulacanthus okamurae) yn sownd wrth Gregyn Gleision gan ffurfio haen drwchus. Teithiodd Gwyran Darwin (Austrominius modestus) yr holl ffordd o Awstralia ar longau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'n glynu'n sownd wrth greigiau. [Figure caption – barnacle plates] Mae'n siŵr eich bod chi wedi gweld y pentyrrau hyn o Ewinedd Moch (Crepidula fornicata) ar eich glannau lleol Gall rhywogaethau ymledol achosi anhrefn i'n bioamrywiaeth, i’n heconomi ac i’n hiechydSut ydyn ni'n gwybod os yw planhigyn neu anifail yn broblem?Mae'n bwysig gwybod sut i adnabod y rhywogaethau anfrodorol/ymledol hyn er mwyn achub ein hecosystemau – a dyna’n union mae tacsonomegwyr Amgueddfa Cymru yn ei wneud…Feddylioch chi erioed beth yw Rhywogaethau Ymledol? Mae rhai’n cyfeirio atyn nhw fel estroniaid, ond pam yr holl ffws a ffwdan? Pam nad ydyn nhw'n perthyn yma a pha niwed allan nhw ei wneud o ddifri?!Mewn gwirionedd, mae rhywogaethau ymledol yn achosi problemau i'n bywyd gwyllt, i’n heconomi ac i’n bioamrywiaeth. Maen nhw'n goresgyn cynefinoedd ac yn lledaenu'n gyflym, gan greu hafoc, sy’n costio miliynau mewn gwaith atgyweirio, ac maen nhw’n gallu lledu afiechydon na all ein planhigion a'n hanifeiliaid brodorol eu hymladd. Yn syml, maen nhw'n niwsans go iawn! Os hoffech chi ddysgu mwy a helpu gyda'r frwydr darllenwch ymlaen.Beth yw rhywogaethau anfrodorol? Mae teithio wedi gwneud ein byd yn llawer llai, ond wrth i ni symud o amgylch y blaned ar gyfer busnes, gwyliau a masnach, mae anifeiliaid a phlanhigion yn symud gyda ni. Flynyddoedd yn ôl, cyn i ni sylweddoli pa broblemau roedden ni'n eu hachosi, fe ddechreuon ni fewnforio planhigion prydferth, neu bysgod cregyn sy'n tyfu'n gyflym ac yn gwneud elw cyflym. Ond gall y planhigion a'r pysgod cregyn hyn guddio anifeiliaid neu blanhigion eraill – sydd i gyd yn barod i'n goresgyn ni!Pan fydd rhywogaethau'n cyrraedd rhywle na fydden nhw wedi gallu cyrraedd yn naturiol, maen nhw'n cael eu hystyried yn Anfrodorol. Dydy’r cynefin ddim yn un y gallen nhw fod wedi ei gyrraedd heb gymorth dynol. Pan fydd rhywogaethau anfrodorol yn canfod bod yr amodau'n iawn ac yn ymsefydlu, gall arwain at broblem go iawn. Ym Mhrydain, mae 2000 a mwy o blanhigion ac anifeiliaid wedi eu cyflwyno gan bobl o bob cwr o'r byd, naill ai'n fwriadol neu’n ddamweiniol.Beth yw rhywogaeth ymledol? Er bod y rhan fwyaf o'r anifeiliaid a'r planhigion anfrodorol ym Mhrydain yn ddigon diniwed, gall tua 10-15% ledaenu a dechrau cael effaith negyddol ar ein rhywogaethau brodorol, ein hiechyd, ein hecosystemau ac ar ein heconomi. Maen nhw'n cael eu dosbarthu’n Rhywogaethau Ymledol wedyn.Gallwch chi weld dwy enghraifft dda o blanhigion ymledol problematig yn eich milltir sgwâr. Jac y Neidiwr, neu'r 'Himalayan Balsam' yn Saesneg, yw’r cyntaf a dyna i chi enw da, ynte. Mae’n flodyn pinc, hardd sy'n lledu fel tân gwyllt, ac fe ddaeth i'r DU o'r Himalaya fel addurn gardd ym 1839. Clymog Japan (Japanese Knotweed) yw’r ail, sydd â choesynnau tanddaearol dwfn felly hyd yn oed os ydych chi'n ei dorri, mae'n tyfu'n ôl y flwyddyn ganlynol. Gall dyfu i hyd at 2.1 metr (7 troedfedd) gan daflu cysgod dros bob planhigyn arall. Mae'r ddau blanhigyn ymledol hyn yn atal planhigion eraill rhag tyfu, gan leihau bioamrywiaeth yn yr ardal honno. Mae anifeiliaid ymledol yn broblem hefyd, weithiau'n fwy fyth gan eu bod nhw fel arfer ychydig yn fwy symudol. Ac mae gan hyd yn oed y rhai disymud hynny sy'n byw yn y môr, fel y wystrys a’r chwistrell fôr, gyfnod bridio symudol sy’n golygu y gallan nhw ledu i fannau eraill.Goresgynwyr y môr – o lle daethon nhw, a sut? Mae pethau'n gallu bod yr un mor drafferthus yn y byd morol. Mae'r Gwymon Sargaso (Sargassum muticum) yn wymon brown arnofiol gyda codau aer ar hyd ei goesyn. Mae’n cronni mewn harbyrau ac ar draethau, mae'n bla ac yn taflu ei gysgod dros wymon eraill sydd angen golau haul i dyfu, yn union fel planhigion y tir. Mae Gwymon Sargaso yn tyfu'n gyflym iawn, ac mae’n mynd yn sownd mewn llafnau cychod, ond mae hefyd yn lleihau cynhyrchiant cynradd, sy’n elfen bwysig o ecosystem iach. Mae hyn yn achosi effeithiau negyddol ar ein hanifeiliaid ac ar ein planhigion brodorol, gan newid y cydbwysedd bioamrywiaeth.Mae rhywogaethau ymledol yn newyddion drwg, ac er bod rhai ohonyn nhw'n ganlyniad uniongyrchol i fewnforio dynol, mae llawer wedi cyrraedd yma'n ddamweiniol trwy ddyframaethu, dŵr balast mewn llongau neu ddulliau eraill. Mae llawer o rywogaethau infertebratau morol a elwir yn rhywogaethau ymledol yn ddisymud pan maen nhw'n llawn dwf, ond mae ganddyn nhw gyfnod larfaol symudol yn eu cylch bywyd. Mae hyn yn caniatáu i rywogaethau symud fel anifeiliaid planctonig bach. Unwaith yn y golofn ddŵr, gall mân gerrynt eu cludo o fewn yr harbwr gan ganiatáu iddyn nhw symud o long i long.Ym Mhrydain ac Iwerddon mae nifer y rhywogaethau sy'n cael eu hystyried yn anfrodorol yn amrywio ac mae gwyddonwyr yn ymchwilio byth a hefyd i rywogaethau sydd ar y gorwel – rhai sydd wedi eu canfod mewn gwlad gyfagos a allai gyrraedd yma. Yn achos rhywogaethau morol, un o'r llefydd hynny sy'n cael ei fonitro'n rheolaidd yw'r Iseldiroedd gan ei fod mor agos at ein glannau – os bydd rhywbeth yn cyrraedd yno, mae'n debygol y bydd i'w weld yn nyfroedd Prydain tua chwe mis yn ddiweddarach.Yn ffodus mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cynhyrchu canllaw i rywogaethau morol anfrodorol yng Nghymru. Ac mae gan Amgueddfa Cymru becyn rhywogaethau ymledol morol, wedi'i lunio ar y cyd â CNC, sydd ar gael ar fenthyg i weithdai er mwyn helpu pobl i adnabod rhywogaethau anfrodorol. Am fwy o fanylion am y pecyn, cysylltwch ag: anna.holmes@amgueddfacymru.ac.uk.Mewnforion dynol Mae rhywogaethau'n dod yn ymledol pan mae'r amodau'n iawn iddyn nhw allu tyfu'n drech na’r rhywogaethau brodorol a chystadlu am eu bwyd a’u gofod. Mae Wystrysen y Môr Tawel (Magallana gigas) yn enghraifft dda o hyn. Ar un adeg, roedd ein poblogaethau wystrys Ewropeaidd brodorol (Ostrea edulis) yn ffynnu. Yn y cyfnod Rhufeinig, roedden nhw’n cael eu cludo yn ôl i'r Eidal i'w bwyta, ond heddiw, mae blynyddoedd o dreillio anghynaliadwy a lledaeniad clefydau marwol wedi lleihau’r stociau yn sylweddol. Oherwydd y gostyngiad hwn mewn niferoedd, cafodd Wystrysen y Môr Tawel gyda'i chragen drom, gadarn, ei chyfradd twf cyflym a'i gallu i wrthsefyll clefydau, ei chyflwyno yn y 1960au at ddibenion masnachol. Cwta bum mlynedd yn ddiweddarach cafwyd y cofnod cyntaf ohoni yn y gwyllt, ac mae wedi lledu’n gyflym byth ers hynny. Yn ne Lloegr, ardal ddyframaethu boblogaidd, mae wystrys sydd wedi dianc wedi atgynhyrchu a chreu anhrefn mewn rhai lleoliadau. Gan achosi casgliadau trwchus o gregyn miniog, trwm, maen nhw'n beryglus i bobl ac anifeiliaid sy'n cerdded ar draethau. Cofnodwyd 150,000 o Wystrys y Môr Tawel yn ardal Dyfnaint a Chernyw yn ddiweddar, er mai prin iawn oedden nhw ychydig flynyddoedd ynghynt. (Mae gan erthygl Pacific oyster expansion threatens Devon and Cornwall estuaries - BBC News ragor o wybodaeth am hyn.)Mae’r cimwch Americanaidd (Homarus americanus), wedi cael ei fewnforio i'r DU ers y 1950au. Mae'n rhad ac yn cael ei bysgota ar raddfa ddiwydiannol, ond yn anffodus mae wedi cyflwyno afiechyd sy'n andwyol i’n cimwch Ewropeaidd. Mae’r cimwch Americanaidd yn cael ei ystyried yn rhywogaeth ymledol am ei fod yn trechu ein cimwch brodorol yn y frwydr am ofod ac mae'n gallu bridio gydag e hefyd; proses o'r enw croesryweddu (pan mae dwy rywogaeth debyg yn gallu bridio'n llwyddiannus). Mae'n anodd, ond nid yn amhosib, adnabod y cimwch Americanaidd – gan achosi problem i'r rhai sy'n ceisio monitro'r goresgynnwr.Dyframaethu Cyflwynwyd rhywogaethau di-ri yn ddamweiniol, wedi'u cuddio ar blanhigion, yn y pridd neu hyd yn oed ar anifeiliaid megis wystrys. Cyflwynwyd Ewin Mochyn (Crepidula fornicata) yn ddamweiniol gyda grawn neu silod wystrys o ddwyrain Gogledd America yn y 1970au ac mae wedi lledu’n gyflym. Unwaith roedd yr Ewin Mochyn wedi cyrraedd cyrchfannau tramor roedd yn gallu elwa i'r eithaf ar ei lwyddiant trwy gael larfau planctonig a allai ei helpu i ledu’n lleol. Heddiw, mae rheoliadau dyframaethu llym ynghlwm wrth fewnforio unrhyw rywogaethau anfrodorol ac felly ni ddylai hyn ddigwydd eto – mewn theori! Yn anffodus, mae'r Ewin Mochyn yma i aros gan ei bod hi'n amhosib cael gwared arno. Mae'n mwynhau cynefin alltraeth ac ar ran isa'r traeth gan ffurfio pentyrrau trwchus o unigolion sy’n cysylltu eu hunain â bywyd gwyllt brodorol gan eu mygu.Goresgynwyr trwy ddŵr balast a chyrff llongau Llongau cargo mawr yw un o brif gludwyr rhywogaethau anfrodorol morol. Er mwyn teithio ar draws moroedd a chefnforoedd, mae llongau enfawr yn cario dŵr balast (hefyd uchod) o'u tarddle er mwyn sicrhau bod y llong yn cydbwyso. Mae'r dŵr yn cael ei sugno drwy bibellau yn y porthladd, weithiau gyda larfau o rywogaethau ymledol posib yn y dŵr. Ar ben ei thaith bydd y llong yn gwagio ei thanciau balast yn y porthladd newydd, gan wasgaru'r larfau mewn lleoliad cwbl wahanol. Cafodd canran fawr o oresgynwyr morol eu mewnforio fel hyn ar y cychwyn. Erbyn heddiw fodd bynnag, mae mesurau rheoli ar waith i reoli dŵr balast ym mhorthladdoedd Prydain.Mae llawer o ymwthwyr morol wedi manteisio ar gyfnodau o wrthdaro i lynu wrth longau rhyfel a fyddai’n teithio ar hyd a lled y byd. Cofnodwyd y Chwistrell Fôr Ledr am y tro cyntaf yn Plymouth, Lloegr, ym 1953 ychydig wedi rhyfel Korea. Dychwelodd llongau i'w porthladdoedd yn ystod ac ar ôl y rhyfel gyda phob math o greaduriaid yn sownd i gyrff y llongau, ac mae un – y chwistrell fôr ledr – bellach wedi ymledu cyn belled ag Ynysoedd Orkney yn yr Alban. Mae’n gallu glynu wrth arwynebau caled, mae'n aml wedi’i chramennu ag anifeiliaid a phlanhigion eraill, ac yn y DU, fe’i gwelir yn aml gyda rhywogaethau ymledol eraill.Cafodd y Gragen Long neu Gwyran Darwin, brodor o Awstralia, ei gweld am y tro cyntaf ym Mhrydain yn Harbwr Chichester ym 1946 ac mae'n hysbys ei bod yn glynu wrth gyrff llongau tanfor a llongau rhyfel. Llwyddodd y cramenogion hyn i groesi'r byd trwy fodio ar draffig rhyfel! Ers hynny mae wedi lledu ar draws y glannau creigiog drwy Loegr i Gymru ac mae bellach wedi cyrraedd yr Alban ac Iwerddon gyda 7861 wedi'u cofnodi yn Ynysoedd Prydain hyd yma. Mae’n reit unigryw ac yn ddigon del gyda'i phlatiau ffriliog gwyn ac fe'i gwelir yn gorchuddio creigiau ar hyd a lled glannau Cymru.Rafftio ar sbwriel plastig fel dull o deithio Mae ein moroedd a'n cefnforoedd wedi'u cysylltu â'i gilydd, gan greu corff enfawr o ddŵr y gall goresgynwyr morol fanteisio arno. Er bod y dulliau cyffredin hyn o fewnforio, fel dyframaethu, dŵr balast a glynu wrth gorff llong yn cael eu monitro i raddau, mae un maes sy'n weddol ddieithr i ni. Gall rhai creaduriaid morol lynu’n sownd wrth eitemau plastig arnofiol a chroesi'r moroedd mawr heb help llaw gan neb. Mae rhywogaethau rafftio, fel maen nhw’n cael eu galw gan wyddonwyr, yn defnyddio sbwriel plastig i deithio o lan i lan a hyd yn oed ar draws cefnforoedd. Mae ceryntau yn creu cludfelt enfawr ar gyfer y rhywogaethau hynny sy'n gallu dal yn dynn gydol y daith. Am fwy o wybodaeth am anifeiliaid rafftio, darllenwch y blog Rafting bivalves in Britain and Ireland | Museum Wales.Ond allwch chi wneud unrhyw beth i helpu? Yr ateb yw 'gallwch'! Os hoffech chi ymuno â'r frwydr, rydyn ni bob amser yn croesawu pâr arall o lygaid ar lawr gwlad! Ymgyrch bioddiogelwch genedlaethol yw Edrych, Golchi, Sychu ac er ei bod wedi'i hanelu'n wreiddiol at ddefnyddwyr afonydd a llynnoedd dŵr croyw, mae'r un mor berthnasol i'r arfordir hefyd. Os byddwch chi'n gwisgo esgidiau gyda gwadnau garw, edrychwch i weld a oes unrhyw beth yn sownd ar y gwaelod. Golchwch gyda dŵr croyw a sgwriwch unrhyw beth sy'n sownd, cyn ei adael i sychu. Ond, byddwch yn ofalus – mae rhai anifeiliaid morol fel cregyn a gwyddau môr yn gallu cau’n glep a goroesi allan o ddŵr am ychydig ddyddiau felly gofal piau hi.Yma yng Nghymru, mae app wedi'i greu i gofnodi rhywogaethau ymledol, nid dim ond rhai morol yn unig. Er mwyn dysgu mwy, ewch i Ymledwyr Ecosystem | Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Herbarium Katherine Slade & Sally Whyman, 2 Ebrill 2022 Introduction Did you know that National Museum Wales houses the Welsh National Herbarium? Here we explore the herbarium and what it means. We discuss how the herbarium is stored and what can be found there as well as who can benefit from it. What is a Herbarium? A herbarium is a collection of preserved (mostly dried) plant specimens that have been stored appropriately and arranged systematically to ensure quick access for curators, artists, students, researchers and the general public for scientific research and education. The Welsh National Herbarium contains vascular plants (such as flowering plants, conifers, ferns and club-mosses), bryophytes (mosses, liverworts and hornworts), lichens, fungi, slime moulds and algae. There are also botanical illustrations, models and collections relating to the use of plants by people such as spices, herbs, crops, wood and fibres. Specimens are also kept of diseased plants, keeping a record of plant infections and pest damage over time. In the vascular herbarium, specimens are arranged by plant family and genus while other plant groups such as mosses are arranged alphabetically. Specimens are stored in tall metal cabinets and in wooden drawers on roller racking, within the herbarium, which is kept at an even temperature and humidity. Move from herbarium cabinet to herbarium cabinet, and you can delve into a huge array of plant diversity world-wide. For example one cabinet might have Black Raspberry (Rubus occidentalis from North America, and the next cabinet you open might have Laver seaweed (Porphyra species) from Pembrokeshire. A herbarium is the only place to be if you want to study the world’s plants in one place, or even ‘just’ all plants that live across Wales! Curators are working to scan all specimens, making accessing data and sharing specimen images and information with other institutions easier. Difference between a Herbarium and Herbaria Herbaria is the plural and herbarium is the singular, so you have one herbarium and many herbaria. There are thousands of herbaria around the world and each one is the home of historical plant records covering hundreds of years to the present day. The oldest plants in National Museum Wales are 300 years old. They are plant time capsules containing unique information that would otherwise be lost. The herbarium is checked regularly for infestations, and strict guidelines are put in place to ensure all specimens remain in pristine condition. Any loss or damage to specimens would be catastrophic because of the irreplaceable nature of collections. It is the curator’s role to ensure that all specimens are kept in good condition indefinitely, stored according to the correct guidelines. The herbarium is checked regularly for infestations, and strict guidelines are put in place to ensure all specimens remain in pristine condition. Herbaria contain ‘type specimens’, individual specimens that a scientist has used to base their description on when describing a new species. Any loss or damage to specimens would be catastrophic because of the irreplaceable nature of collections. Who benefits from herbaria? Botanists The most obvious field that benefits from herbaria is botany; botanists are plant scientists that study and perform experiments on plants. Some herbarium specimens are hundreds of years old, so this gives botanists a unique chance to look at how plant life has changed over time. There are many studies that can be performed on herbarium entries, and these usually depend on the specialist skills of the researcher looking at them. Botanists can use herbaria and botanical specimens to answer questions such as: Where do plants live and how does this change over time? What is the diversity and abundance of a certain plant species? Where can you find rare plants? An important question for conservation. How have plants changed their flowering time (phenology) in response to climate change? For example some plants flower earlier due to climate change that’s occurred since the industrial revolution. When were invasive non-native species first recorded in, for example, Wales? How have plants changed their morphology over time? For example the density of stomata when cross referenced to fossil plants in the museum, shows evidence for adaptation by plants to changes in carbon dioxide in our atmosphere millions of years ago. Other Scientists It’s not exclusively botanists that benefit from herbaria, other branches of science can also use the botanical collections in their research. Biologists, climate scientists, conservationists and ecologists can benefit from the specimens found in herbarium and frequently use collections for ongoing research. Herbaria can answer questions such as: When did a plant pest first arrive in Wales? How do plants respond to climate change? Has a plant been found in a particular habitat? Historians Specimens stored in the herbarium can give insights into the daily life of people in history. Collections like the economic botanic collection contain plants and botanical items that have had an important domestic, medicinal or cultural use to society. This collection contains herbs, dyes, textiles and culturally important items that are kept to demonstrate their importance to world culture through displays, museum visits and exhibitions. Historians can also use herbarium collections for project collaborations, for records of discoveries and for exploration. Artists Artists have, and continue to draw inspiration from herbaria, using the unique perspective from nature that only a herbarium collection can give. Teachers / People in education Herbaria and museums are a great resource for education. Curators at National Museum Wales use the collections to help tell stories of history, culture and science in the museum galleries, exhibitions, for behind the scenes tours, at events and online. What can be found in Herbaria? Vascular Plants Vascular plants also sometimes known as ‘higher plants’ are composed of all individuals that have water conducting tissue in their stems. Flowers, conifers, grasses, trees, ferns, club-mosses, horsetails, herbs, succulents, etc. are all types of vascular plants. These types of plants are usually stored on archival herbarium sheets, but the exact method of preparation and storage may depend on the specimen. Plants that are easily pressed are mounted onto acid free herbaria sheets, with a descriptive label for each specimen. Curators aim to preserve all the reproductive (eg fruits, seeds) and vegetative organs (eg stems, leaves) of each plant, which are critical for species identification. Any plant parts that can’t be easily pressed, e.g. tubers, bulbs, fleshy stems, large flowers, cones, fruits, etc are usually dried and placed in boxes and then cross referenced with the pressed specimen. Bryophytes (Mosses and Liverworts) Bryophytes include liverworts, hornworts and mosses and are sometimes also known as ‘lower plants’ and represent some of the oldest organisms on Earth. Bryophytes often grow closely packed together on rocks, soil or trees. These types of plant don’t have regular water conducting tissue (a vascular system), so rely heavily on their environment to regulate their water levels. In National Museum Wales, mosses, liverworts and hornworts are not pressed onto herbarium sheets. Instead, specimens are air dried and placed in packets or boxes to ensure their long-term storage. Algae Algae are a very diverse group of non-flowering aquatic organisms that contain chlorophyll, so can photosynthesise to produce energy for themselves. Some can cause algal blooms in lakes and the sea as well as forming ‘pond scum’. However, algae are very important to the Earth, and it’s estimated that they produce 70-80% of the Earth’s atmospheric oxygen. The term ‘algae’ covers a wide range of organisms including seaweed such as kelp, filamentous species and microscopic algae such as diatoms and dinoflagellates. These groups are not all related and can exist in a huge range of different forms! In Wales, red laver seaweed (Porphyra) is collected to make laverbread which is often served as part of a Welsh breakfast. Collecting and preserving algae can be done in a few different ways; storing them in liquid, on a microscope slide or dry preserving the specimen onto herbarium paper. What method is best usually depends on the species being collected and its properties. Fungi Fungi are organisms with often highly complex chemical makeups that occupy almost every habitat on Earth. Fungi are studied by mycologists and are not related to plants so are placed in their own kingdom. Surprisingly, most fungi are hidden to us, many dwelling underground connected by a network of long thin cells called hyphae. It is only a small portion of fungi that produce fruiting bodies we know as toadstools and mushrooms. For the herbarium, the best way to preserve fungi fruiting bodies is to air dry them (cutting them into slices first if they are large), and then store in packets or boxes. Without fungi we wouldn’t have beer, cheese or perhaps many plants. Fungi help decomposition, making nutrients available to plants in the soil. Many trees have symbiotic relationships with fungi with nutrients and water transported directly into the tree roots. Fungi even help plants to communicate with each other within the soil using their underground networks. Lichens Lichens are unique in plant taxonomy because they are an organism composed of two separate organisms in a symbiotic relationship. A lichen is composed of a fungus, and either an algal cell or bacterial cell. The fungal portion of the organism extracts organic carbohydrates and nutrients from the environment, and the algal/bacterial portion of the organism undergoes photosynthesis to capture energy from the sun. Because lichen are difficult to extract from their environment, commonly they are collected still attached to their substrate (rocks, bark, soil crusts) and stored in boxes. How to make a Herbarium Making your own herbarium is a fairly simple process, it doesn’t require many materials. Please note that the following instructions are for preparing pressing plants such as ferns and flowers. Different preservation techniques are used for seaweeds, fungi and mosses. Step #1: Head out to a local field or forest, or even your back garden and look for interesting specimens to use. Never pick rare or endangered plants and always get permission from the landowner. Use the rule of 1 in 20 - only take a plant if there are another 19 in the same place. Always follow the Botanical Society of Britain and Ireland’s code of conduct. Step #2: Once you’ve found something to add to your collection, take lots of photos for future reference showing where the plant is growing and features that could help with identification. Make notes about its appearance that may be lost in the preservation process such as colour, stem shape and overall height. Also note down the date, where the plant was found including map reference and the habitat; is it in the shade, sheltered by trees or on a slope? Step #3: Once you’re happy you’ve captured all the details, carefully take a few cuttings of the plant, make sure you don’t damage it unnecessarily. Take care to select parts that contain as many plant parts as possible eg. leaves showing different shapes, stems, flowers and seeds. Step #4: Use a thick bag or container to carry your cuttings home. There you can start the process of pressing your plants. How to press plants for a Herbarium Once you’ve arrived home with your plants you can start preparing them for pressing. Step #1: Create a homemade plant press (you can use hardboard or plywood). Place one board flat on a hard level surface and place several sheets of newspaper on top, then add a sheet of blotting paper. Step #2: Prune and brush clean your cuttings. Remove larger fleshy fruits which will not press well. Step #3: Place your specimen on top of the blotting paper. Arrange it so that as little as possible is overlapping to aid the drying process, removing spare branches if needed. If possible, turn over a leaf so that the underside can be easily seen on the herbarium specimen once it is pressed. Step #4: Place another layer of blotting paper on top of your plant, and another layer of newspaper on top of that. Step #5: Close the press by putting another piece of hardboard or plywood on top of your specimen. Use books/bricks or similar heavy items to press your cutting flat. Step #6: You will need to keep the plant in the press for between 2-21 days, depending on the thickness and type of plant you’ve chosen to press. Check the plant once a day to keep an eye on progress. Replace the newspaper and blotting paper within the press if they’re damp. How to make a Herbarium sheet Once you’re happy that your specimen is dry and pressed you can create your herbarium sheet. Step #1: Place your plants on a sheet of card . (Top tip: If possible, use conservation-grade or acid free card, it doesn’t break down as quickly as ordinary types of paper, which means your herbarium will last for much longer). Step #2: Attach the plant to the sheets of paper at strategic points with short thin strips of acid free card (see image). Cut the strips to roughly 2-4mm width – so that they are relatively easy to cut and handle but won’t cover too much of the plant. Place a small amount of glue at either end of the strip so that the plant itself doesn’t get glue on. Then place the strip over a stem or leaf tip and press the glued ends onto the sheet. (Top tip: PVA glue will work for this or use conservation grade EVA that lasts forever). Step #3: In the bottom right hand corner using a pencil or a pen with colour fast, fade proof ink, write the name of the plant along with all the information you recorded when collecting it. Don’t forget to add your name as the collector, if the specimen is sent to a herbarium this is very valuable information. You have now completed your first herbarium sheet. How to prepare a Herbarium file Repeat the above process and build on your collection of herbarium sheets to create a herbarium. File the specimens away flat in boxes and never turn them upside down as pieces may fall off. Make sure you create labels for each sheet and use the information you collected when picking your plants to add names to and classify each specimen. As you add to the collection, decide how to organise it. You could arrange it alphabetically or keep plants that related to each other together in their families. Whichever arrangement you choose, make sure it’s the right one for you as it will become much more time consuming to rearrange as your collection grows. Imagine trying to rearrange the 750,000 specimens in National Museum Wales! “This article includes material written originally by Amy Wyatt, a Professional Training Year student at Amgueddfa Cymru in 2018, and was extended by botany curators Katherine Slade & Sally Whyman.”