Botaneg

Sbesimenau botaneg

Sbesimenau botaneg yn Lysieufa Genedlaethol Cymru

Sbesimenau Helyg gwasgedig (rhywogaeth Salix) yn y lysieufa fasgwlaidd

Sbesimenau Helyg gwasgedig (rhywogaeth Salix) yn y lysieufa fasgwlaidd

Cymuned o fwsogl ar rostir Ynysoedd Malvinas gyda Dendroligotrichum squamosum a welir yn benodol yn Hemisffer y De

Cymuned o fwsogl ar rostir Ynysoedd Malvinas gyda Dendroligotrichum squamosum a welir yn benodol yn Hemisffer y De

Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i Lysieufa Genedlaethol Cymru, sy'n cynnwys dros 750,000 o sbesimenau o bob cwr o'r byd.

Ein nod yw creu a chadw darlun llawn o fotaneg Cymru, sydd o bwys ac o safon rhyngwladol.

Mae'r Llysieufa yn dyst i 300 mlynedd o gasglu ac yn cyfrannu at ymchwil rhyngwladol ym meysydd dosbarthu a newid hinsawdd.

Casgliadau

Mae'r casgliad yn cynnwys planhigion, ffyngau ac algae wedi'u cadw, yn ogystal ag arteffactau, sleidiau, modelau a darluniau. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:

  • Esiamplau o bron i bob planhigyn fasgwlaidd cynhenid i'r DU a nifer o rywogaethau sydd wedi'u cyflwyno i'r ynysoedd.
  • Casgliadau pwysig o blanhigion blodeuog Prydain gan gynnwys Hieracium, y Casgliad Dosbarthol Cenedlaethol, a chasgliad cyfeiriol pwysig o blanhigion Rubus.
  • Casgliad bryophytau ail fwyaf y DU. Yn ogystal â Chasgliad y DU Cymdeithas Fryolegol Prydain, mae yma dystiolaeth hanfodol o'r mil a mwy o rywogaethau mwsogl, llysiau'r afu a cyrnddail ym Mhrydain ac Iwerddon a'u dosbarthiad heddiw ac yn y gorffennol.
  • Dros 1000 o deipsbesimenau, man cychwyn enwi gwyddonol.
  • Y casgliad botaneg economaidd o blanhigion a ddefnyddir ledled y byd mewn meddyginiaeth, dillad a bwyd.

Uchafbwyntiau Ymchwil

  • Mae ein hymchwil dosbarthol ac ecolegol i ddiatomau (algae microsgopig) yn bwysig i ddeall sut mae llygredd a newid hinsawdd yn effeithio ar ein hafonydd a'n llynnoedd.
  • Mae monitro hirdymor o wasgariad paill arwyneb yng Nghymru yn cynyddu dealltwriaeth o newid llystyfiant a hinsawdd dros filoedd o flynyddoedd ac yn caniatáu i ni gymharu â lleoliadau perthnasol ar draws Ewrop.
  • Mae gwaith mapio mwsogl arloesol yn Ynysoedd Malfinas yn ein galluogi i gymharu'r llystyfiant ag ardaloedd eraill yn Hemisffer y De.

Botany

Dr Ingrid Jüttner

Prif Guradur Uned Botaneg
Gweld Proffil

Dr Heather Pardoe

Prif Guradur Uned Botaneg
Gweld Proffil

Katherine Slade

Curadur Botaneg
Gweld Proffil

Sally Whyman

Curadur Botaneg
Gweld Proffil