Aur o Gymru'r Oes Efydd

Yn yr oriel hon, gwelwn yr arteffactau aur cynharaf sydd gan Amgueddfa Cymru yn y casgliad cenedlaethol. Roedd y tlysau gwerthfawr a chain hyn yn arwydd o statws a chyfoeth y sawl oedd yn eu gwisgo ac yn dangos sgiliau eithriadol eu gwneuthurwyr mewn cymdeithasau cynnar oedd yn gweithio â metel. Maent yn deillio o gyfnod cynhanesyddol a barhaodd dros 1,500 o flynyddoedd, o’r Oes Gopr (2450-2150 CC) a thrwy’r Oes Efydd (tua 2150-800 CC).

More information

Yn yr oriel hon gwelwn yr arteffactau aur cynharaf yn y casgliadau cenedlaethol. Roedd y tlysau gwerthfawr a chain hyn yn arwydd o statws a chyfoeth y sawl oedd yn eu gwisgo, ac yn dangos sgiliau eithriadol eu gwneuthurwyr mewn cymdeithasau cynnar oedd yn gweithio â metel. Maent yn deillio o gyfnod cynhanesyddol a barhaodd dros 1,500 o flynyddoedd, o’r Oes Gopr (2450-2150 CC) a thrwy’r Oes Efydd (tua 2150-800 CC).

Mae’n debygol bod yr eitemau cynharaf wedi defnyddio ffynonellau aur o Iwerddon a Chernyw. Erbyn rhan ganol yr Oes Efydd (1500-1150 CC), mae’n ymddangos yn debygol bod pobl yn gwybod am aur wedi’i ddyddodi mewn afonydd yng ngogledd a chanolbarth Cymru a’u bod yn chwilio amdano trwy badellu. Mae’n annhebygol mai cyd-ddigwyddiad llwyr yw’r ffaith fod darganfyddiadau aur fel celciau, breichdlysau a thorchau mawr o’r cyfnod hwn yng Nghymru yn arbennig o doreithiog ac amrywiol, ond roedd aur o Iwerddon, Cernyw a’r Cyfandir, wedi’i ddylunio yn arddulliau’r mannau hynny, yn dal yn ddylanwadol hefyd.

Ers dyfodiad Deddf Trysor 1996, mae nifer sylweddol o arteffactau aur wedi’u cyflwyno fel trysor, gan ddefnyddwyr datgelyddion metel yn aml. Mae gan hyd yn oed eitemau llai fel breichledi, modrwyau gwallt a chlustdlysau o’r Oes Efydd Ddiweddar storïau newydd, arwyddocaol i’w hadrodd, ac maent yn ein cyfeirio at dechnegau cynhyrchu a phobloedd cymhleth.

Cafodd yr adnodd ar-lein hwn ei greu o ganlyniad i broject gan y Rhwydwaith Ymchwil a ariannwyd yn ddiweddar gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, yn gweithio ar y cyd ag Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban.