Aur o Gymru'r Oes Efydd

Celc Llanddewi-yn-heiob, Powys

Darganfuwyd y tair torch hyn o ruban aur wedi’u gwasgu’n belen euraid. Cawsant eu tynnu’n rhydd a’u hadfer i’w siapiau gwreiddiol fel y caent eu gwisgo. Maent yn arddull gynnar yr aur tro, yn dyddio o’r Oes Efydd Ganol (1400-1275 CC)

Darganfuwyd y celc ar 10 Mehefin 1955 ar gae serth i’r de o Fferm Cwmjenkin gan y ffermwr wrth i'r cae gael ei aredig am y tro cyntaf. Darganfuwyd y torchau, ar ddyfnder aredig o lai na naw modfedd, mewn tywarchen oedd newydd ei haredig. Dangosodd nith y ffermwr nhw i’w hathro daearyddiaeth, a gysylltodd ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Cynhaliwyd cwest i’r torchau, cyhoeddwyd eu bod yn Hapdrysor ac fe’u prynwyd ar gyfer y casgliad cenedlaethol yn 1955.

Dyma’r unig dorchau rhuban aur y gwyddom iddynt gael eu darganfod yng Nghymru. Yn y blynyddoedd diwethaf, darganfuwyd breichledau a thorchau rhuban aur tebyg yn Priddy, Gwlad yr Haf, ac roedd y rheiny hefyd wedi’u gwasgu’n bêl. Mae hyn yn awgrymu bod yr addurniadau aur hyn yn cael eu hailgyfuno’n fwriadol cyn eu dychwelyd i’r pridd. Cawn ein temtio i weld cysylltiad posibl â symboliaeth yr haul.