Aur o Gymru'r Oes Efydd

Celc Cymuned Llantrisant Fawr, Sir Fynwy

Celc o'r Oes Efydd Ganol (1400-1275 CC) sy'n cynnwys o leiaf chwe eitem aur ac efydd o emwaith, palstaf efydd a dagr efydd. Mae'r eitemau gemwaith yn cynnwys dernyn o freichled aur addurnedig, dwy freichled efydd addurnedig, o leiaf ddwy dorch neu gylch gwddf efydd wedi’u troelli a phin efydd.

Yn ystod 2013 a 2014 gwnaed cyfres o ddarganfyddiadau, wrth ddefnyddio datgelyddion metel mewn cae dan borfa. Mae'r arteffactau'n ffurfio celc a gafodd ei anhrefnu a’i wasgaru wrth aredig yn y cyfnod modern. Archwiliwyd y man darganfod gan archaeolegwyr amgueddfa, gan helpu i nodi union fannau darganfod yr eitemau a lleoliad y celc yn y dirwedd.

Mae’r celc hwn yn arwydd o amrywiaeth ffurfiau gemwaith efydd ac aur yn rhan gynnar yr Oes Efydd Ganol, a elwir weithiau’n ‘Haenlin Addurnau’ ym Mhrydain. Mae darganfyddiadau fel hyn yn brin yng Nghymru, ond cafodd celciau tebyg iawn eu darganfod yng Ngwlad yr Haf a Sussex. Mae'r torchau efydd yn enghreifftiau cynnar o draddodiad gwaith metel dirdro, a ddatblygodd yn ddiweddarach yn draddodiad y dorch aur â chantelau tro ledled Prydain ac Ewrop yr Iwerydd.

Cyhoeddwyd bod y celc yn drysor yn 2015 ac fe’i prynwyd yn ddiweddarach ar gyfer y casgliad cenedlaethol.