Aur o Gymru'r Oes Efydd

Celc Capel Isaf, Manordeilo, Sir Gaerfyrddin

Celc o’r Oes Efydd Ganol (1500-1275 CC) yn cynnwys pedwar breichdlws cyffen eurddalen a dernyn o derfynell aur, o dorch rhuban. Mae dau o’r breichdlysau’n cau â phin a bachyn, ac mae gan un arall derfynellau wedi’u fflatio sy’n gorgyffwrdd yn cael eu dal gan ddolen gysylltiedig.

Darganfuwyd y celc hwn gan weithwyr oedd yn cloddio ffos ar gyfer pibell garthffosiaeth ym mis Medi 1975 ger tref Llandeilo. Darganfuwyd yr eitemau wedi’u pacio’n dynn a’u “lapio o gwmpas ei gilydd”. Credir eu bod wedi’u claddu’n fwriadol o dan faen dyfod rhewlifol mawr, a fu’n garreg nodi ar gyfer y grŵp hwn o bethau a guddiwyd.

Bu’n anodd rhoi dyddiad ar y celc hwn am mai ychydig o eitemau ac iddynt arddull debyg oedd yn hysbys pan wnaed y darganfyddiad. Mae’r dernyn posibl o dorch rhuban oedd yn y celc yn rhoi cliw i ni, ond mae’r ffaith mai ychydig o gopr oedd yn yr aur yn fwy nodweddiadol o eitemau yn gynharach yn yr Oes Efydd.

Cyhoeddwyd bod y celc yn drysor mewn Cwest Hapdrysor a gynhaliwyd yn fuan ar ôl gwneud y darganfyddiad ac fe’i prynwyd ar gyfer y casgliad cenedlaethol yn 1976.