Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ym mis Mawrth 1987, darganfuwyd celc bach yn cynnwys bwyell soced asennog o efydd, breichled aur anghyflawn a dernyn o stribed aur, wrth chwilio â datgelydd metel. Mae'r celc bach hwn yn dyddio o'r Oes Efydd Ddiweddar (1000-800 CC). Gwnaed y darganfyddiad mewn cae o dan borfa, o dan hen fanc, ar ddyfnder o ychydig dros 50cm. Cynhaliwyd ymchwiliad archaeolegol yn y man darganfod, ond ni lwyddwyd i ddarganfod dim arall am y dull claddu.
Darganfuwyd y freichled aur a'r dernyn o stribed wedi'u gosod yn ofalus yn soced y fwyell efydd. Roedd y freichled wedi'i phlygu drosodd dair gwaith, i ffitio i'r soced. Gwnaed y freichled trwy forthwylio eurddalen ac ar un adeg roedd ganddi derfynellau â’u pennau wedi'u torchi; math o freichled rhuban sy'n nodweddiadol o dde Prydain. Daethpwyd o hyd i freichledau aur wedi'u gosod yn ofalus mewn bwyeill socedog efydd ar dri achlysur yng Nghymru. Y ddau arall oedd celc Cymuned yr Orsedd, Wrecsam a celc Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych.
Cyhoeddwyd bod y ddwy eitem aur yn drysor mewn Cwest Hapdrysor a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Mai 1987 ac yna fe'u prynwyd ar gyfer y casgliad cenedlaethol. Sicrhawyd y fwyell socedog efydd trwy bryniant preifat.