Gwymon a Lewis Weston Dillwyn

Chara globularis
Chara globularis, rhywogaeth Charophyte cyffredin sydd i’w gweld mewn cynefinoedd dŵr ffres a lled hallt.
Pwll glan môr ym Mhorthcawl, de Cymru gyda gwymon Ulva gwyrdd.
Seaweeds
Gwymon amrywiol ym Mae Breichled, Penrhyn Gŵyr.

Mae digonedd o wymon i’w gweld ar draethau arfordir Cymru, gyda’r dyfroedd tymherus a’r amrediad llanw mawr yn creu amodau delfrydol ar gyfer gwymon. Gwymon o Brydain yw mwyafrif y sbesimenau yng nghasgliad Amgueddfa Cymru ac er nad yw’n gasgliad mawr mae ynddo 422 o rywogaethau, sef tua dwy ran o dair o holl wymon Prydain.

Ymhlith y casgliadau mae esiamplau o rywogaethau gwymon Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU, er enghraifft Anotrichium barbatum (gwymon coch) a Phymatolithon calcareum (gwymon coch a chwrelaidd). Casgliad gwymon mwyaf Amgueddfa Cymru yw’r 1131 o rywogaethau a brynwyd oddi wrth E.M. Holmes ym 1922.

Yn y 1980au a’r 1990au, gwnaeth Amgueddfa Cymru nifer o bryniadau pwysig a gasglwyd o bob cwr o Gymru gan Sue Hiscock. Sue Hiscock yw awdur y llyfr poblogaidd British Seaweed Field Keys a gyhoeddwyd gan y Cyngor Astudiaethau Maes. Ymhlith ei chasgliadau roedd sbesimenau a gofnodwyd yn ystod gwaith arolygu manwl i fapio cynefinoedd rhynglanwol ac islanwol Ynys Skomer. Mae’r ynys ar arfordir Sir Benfro yn enwog am ei bywyd morol ac yn un o dair Gwarchodfa Natur Forol Prydain.

Mae gan Amgueddfa Cymru fodelau gwymon, yn gwyr ac yn sbesimenau real, at ddibenion arddangos ac addysgu. Ymhlith y rhain mae sbesimenau cyffredin fel Ascophyllum nodosum, Fucus serratus, F.spiralis, F.vesciculosus, Laminaria digitata, Palmaria palmata a Pelvetia canaliculata yn ogystal ag eraill sy’n cael eu harddangos yn barhaol yn yr Orielau Hanes Natur.

Yn y llyfrgell ddarluniau botaneg mae gennym set o 221 plât lliw gwych a ddefnyddiwyd yng nghyhoeddiad Johnstone a Croall, Nature Printed British Seaweeds (1860).

Lewis Weston Dillwyn

Yn nghasgliadau Amgueddfa Cymru mae copi o waith Lewis Weston Dillwyn Herbarium British Confervae, llyfr o 277 sbesimen algae a gasglwyd gan yr awdur. Brodor o ardal Abertawe oedd Dillwyn – sy’n ffigwr pwysig yn hanes Cymru – ac mae nifer o’r sbesimenau a gasglodd yn dod o Abertawe neu’r cyffiniau. Yn y blanhigfa mae nifer o’r sbesimenau a ddefnyddiwyd ganddo wrth baratoi ei waith arloesol ym 1809 ar British Confervae. (Hen air am algae edafog yw Conferva. Gall y rhain fod yn rywogaethau dŵr ffres neu morol, gan gynnwys rhai gwymon. Defnyddiodd Linnaeus y gair Conferva fel enw genws y grŵp hwnnw fel Dillwyn, ond ers hynny mae algae edafog wedi cael ei rannu’n nifer o grwpiau gwahanol). Mae copi prin o’r gwaith ym meddiant Amgueddfa Cymru – mae’n llawn darluniau lliw prydferth o algae ac yn gam pwysig i astudiaeth algae. Cyn 1809, dim ond 34 rhywogaeth oedd wedi’u disgrifio, ond cododd hyn i 177 o rywogaethau gyda chyhoeddi’r Herbarium. Mae’n rhan bwysig o’n casgliadau a gallai fod yn cynnwys nifer fawr o deipsbesimenau.

Ymhlith casgliadau eraill Amgueddfa Cymru mae nifer fawr o sbesimenau molysgiaid a gasglwyd gan Lewis Weston Dillwyn.