Llyfrau Sbesimen ac Exsiccatae yn y Lysieufa Ddiflodau

darn o bapur gyda phlanhigyn wedi'i sychu

Algae Danmonienses gan Mary Wyatt, yn cynnwys gwymon o Dyfnaint a gasglwyd yn y 1830au

darn o bapur gyda phlanhigyn wedi’i sychu

L.W. Dillwyn ‘Herb. Brit. Conferv.’ llyfr o wymon ac algae dŵr croyw wedi’u gwasgu o dde Cymru, o ddechrau’r 1800au

Mae Llysieufa Ddiflodau Amgueddfa Cymru yn gasgliad llawn sbesimenau o blanhigion wedi’u gwasgu.

Ynddo, ceir 36 o lyfrau a chyfresi a elwir yn 'exsiccatae' (o'r Lladin 'exsiccatus', sy'n golygu 'wedi ei sychu'). Rhwng eu cloriau mae esiamplau o algae, ffwng, cen, mwsogl, llysiau’r afu a mwy, sy'n dyddio o rhwng 1803 a 2001.

Mae gan rai o’r llyfrau yma hanesion rhyfeddol, ond prin yw’r wybodaeth am rai eraill. Er enghraifft, mae un gyfrol o’r new New Zealand Mosses yn cynnwys llawer mwy na mwsogl. Ynddi hefyd mae cen, algae a rhai hydrosoaid (anifeiliaid morol pitw) wedi’u gwasgu hyd yn oed, diolch i benderfyniad y casglwr anhysbys i grwpio’r sbesimenau gyda’i gilydd am eu bod yn ymddangos ar yr olwg gyntaf fel mwsogl.

Cyhoeddwyd rhai cyfrolau yn wreiddiol fel llyfrau, er enghraifft Flora Oceana, sy’n cynnwys sbesimenau gwymon wedi’u gwasgu er mwyn addysgu pobl am yr hyn sydd i’w weld ar arfordir caregog. Roedd cyhoeddiad Mary Wyatt yn y 1830au, casgliad o wymon Dyfnaint dan yr enw Algae Danmonienses, yn arloesol ac yn ategu ei hincwm o’i siop gregyn yn Torquay.

Efallai taw cyhoeddiad pwysicaf y llysieufa yw’r llyfr ar algae dŵr môr a dŵr croyw a gasglwyd gan Lewis Weston Dillwyn. Ynddo mae nifer o deipsbesimenau – y sbesimenau sy’n sail i enw gwyddonol.

Exsiccatae

Exsiccatae yw grwpiau o sbesimenau dyblyg gaiff eu dosbarthu gan wyddonwyr i lysieufeydd eraill. Y bwriad yw lleihau’r perygl o golli casgliad sbesimenau pwysig a galluogi gwyddonwyr ledled y byd i’w hastudio.

Oddeutu’r 1900au newidiodd exsiccatae o fod yn gyfrolau rhwymedig i sbesimenau rhydd. Golygai hyn y gallai llysieufeydd eu hymgorffori i’w casgliadau presennol ochr yn ochr â sbesimenau perthnasol, a hwyluso’r gwaith o’u caffael a’u hastudio. Yn ogystal â’r cyfrolau rhwymedig, mae bron i 17 exsiccatae bellach wedi’u hymgorffori i brif gasgliad Amgueddfa Cymru, ac mae’n debyg bod mwy heb eu cofnodi.

Lawrlwytho'r rhestr (.doc yn Saesneg)