Infertebratau morol
Mae Adran y Gwyddorau Naturiol yn gyfrifol am gasgliad helaeth ac amrywiol o infertebratau morol. (gweler
Folysgiaid morol a daearol). Annelida, Arthropoda ac Echinodermata yw mwyafrif y casgliad, yn ogystal â nifer fechan o phyla morol llai eraill.
Mae'n gasgliad dynamig sy'n tyfu'n barhaus diolch i arolygon, gwaith maes, a derbyn sbesimenau'n rhoddion.
Casgliadau
- Casgliad mawr o bron i chwarter miliwn o sbesimenau cofrestredig o 20 phyla morol gwahanol.
- Mae gennym hefyd gasgliadau mewn gwirod, samplau meinwe wedi rhewi a Crustacea a chwrel sych.
- O ganlyniad i arbenigedd ein staff mae dros hanner y casgliad yn samplau Polychaeta (mwydod gwrychog morol).
- Er bod y rhan fwyaf o samplau o Brydain, mae teipddeunydd Crustacea a Polychaeta yma o dros 60 o wledydd.
- Deillia cyfran helaeth o'r casgliad o arolygon benthig morol Amgueddfa Cymru ar arfordir Cymru a'r Môr Celtaidd yn ogystal â thramor yn y Seychelles, Hong Kong ac Ynysoedd Malvinas.
- Mae gennym gasgliadau cyfeiriol o arolygon olew a nwy yn y DU ac ar draws y byd.
Ymchwil
- Rydym yn arbenigo'n bennaf mewn mwydod gwrychog morol (Annelida: Polychaeta). Mae dros 30 taxa newydd wedi cael eu canfod a'u disgrifio ers 2000, diolch i dechnegau molecwlaidd a morffolegol.
- Yn ein gwaith rydym yn defnyddio darlunio, SEM, ffotograffiaeth, dyraniad a dadansoddi DNA.
- Ymhlith ein projectau presennol mae ymchwil i Magelonidae ac ymchwil i Polychaeta Ynysoedd Malvinas.
- Mae projectau eraill yn cynnwys arolygon o amrywiaeth polychaete Ynysoedd Sili ac arsylwadau o ymddygiad a defnydd codau abdomen Magelonidae.