Cyfleusterau Dadansoddol a Thechnegol

Creigiau yn y labordy geoleg
Gwyddonydd a pheiriant pelydr-x
Cyfrifiadur a microsgop
Scanner 3D
Labordy geoleg

Mae cyfleusterau ac arbenigedd Amgueddfa Cymru yn darparu ystod o gefnogaeth ddadansoddol a thechnegol i'r adran Gwyddorau Naturiol er mwyn hwyluso ymchwil o safon rhyngwladol, a gwaith casgliadau ac allestyn. Cefnogir gwaith yr adrannau Archaeoleg, Celf a Chadwraeth hefyd gan ein cyfleusterau.

Labordai Paratoi Daeareg

Drwy ddefnyddio offer lapio a llathru optegol mae'r Labordai Paratoi Daeareg yn cynhyrchu ystod o ddeunydd o safon uchel i gefnogi casgliadau a phrojectau ymchwil Adran y Gwyddorau Naturiol.

Labordy Diffreithiant Pelydr X

Mae ein mesurydd diffreithiant pelydr X PANalytical X’Pert PRO (XRD) yn declyn hyblyg all ddadansoddi nodweddion deunyddiau heb eu dinistrio at ddibenion projectau casgliadau, ymchwil ac ymgynghori.

Labordy Delweddu Gwyddorau Naturiol

Yn Labordy Delweddu Gwyddorau Naturiol mae amrywiaeth o gyfleusterau microsgopeg, ffotograffeg a sganio 3D sy'n cefnogi amryw brojectau ymchwil, curadu ac ymgynghori'r adran.

Labordy Geneteg

Gall y Labordy Geneteg ddefnyddio techneg Adwaith Cadwynol Polymerase (PCR) i drin a lluosogi deunydd genetig. (Sylwer: nid oes cyfleusterau dilyniannu Amgueddfa Cymru).

Labordai Bioamrywiaeth Infertebratau

Cyfleusterau sy'n cefnogi ein gwaith ymchwil.

Mae yn Amgueddfa Cymru hefyd y cyfleusterau canlynol at ddibenion ymchwil:

  • Labordy FITR
  • XRF

Analytical & Technical Facilities

James Turner

Swyddog Delweddu Digidol a Mynediad
Gweld Proffil