Petroleg

Tarren galchfaen Creigiau Eglwyseg, Llangollen

Mae yng Nghymru ddaeareg ryfeddol: Tarren galchfaen Creigiau Eglwyseg, Llangollen

Modelau replica o'r unig ddau feteoryn y gwyddom iddynt lanio yng Nghymru.

Modelau replica o'r unig ddau feteoryn y gwyddom iddynt lanio yng Nghymru: Pontllyfni 1931 (dde) a Beddgelert, 1949 (chwith). Gellir gweld trychiad o feteoryn Beddgelert (canol) yn oriel Esblygiad Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Glaucophane mewn sgist glas, Môn.

Glaucophane mewn sgist glas, Môn. Mae'r trychiad hynod denau hwn yn cynnwys glaucophane, amffibol glas. Mae'r mwyn hwn yn dangos i'r graig gael ei chladdu hyd at 35km yng nghrwst y Ddaear cyn dychwelyd i'r wyneb a chael ei gweddnewid yn fwyn gwahanol.

Cloddiadau archaeolegol yng Nghraig Rhos-y-felin.

Cloddiadau archaeolegol yng Nghraig Rhos-y-felin. Mae astudiaethau petrolegol a geogemegol wedi ein galluogi i gymhathu'r adfeilion rhyolitau dalennog yng Nghôr y Cewri â'r cerrig brig yma (delwedd trwy garedigrwydd Adam Stanford).

Petroleg yw gwyddor astudio creigiau; eu mwynoleg, eu gwead, eu strwythur a'u gwreiddiau.

Mae Casgliad Petroleg Amgueddfa Cymru (35,000 o sbesimenau gan gynnwys 10,000 trychiad tenau) yn adnodd unigryw ar gyfer ymholiadau, cyfeirio ac ymchwil.

Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar gasglu cerrig adeiladu ac addurno Cymreig, creigiau igneaidd a metamorffig Cymreig a meteorynnau.

Casgliadau

Yn ogystal â bod yn gyfeirfa ar gyfer deunydd o leoliadau yn y DU a gweddill y byd, ymhlith cryfderau'r casgliad mae:

  • Casgliad cyfeiriol Petroleg Cymru
  • Deunydd ymchwil o Gymru, y DU a'r Byd (traethodau PhD a chyhoeddiadau)
  • Casgliad Glo Cymru – a gasglwyd yn ystod yr 20fed ganrif o lofeydd gweithiol
  • Casgliad Llechi Cymru
  • Casgliad cyfeiriol Cerrig Adeiladu ac Addurniadol Cymru
  • Y casgliad meteorynnau
  • Y casgliad petroleg archaeolegol – sbesimenau o arteffactau ac adeiladau
  • Casgliad creiddiau tyrchu bas o dde Cymru, gyda chofnodion a mapiau cysylltiol

Ymchwil

Daeareg Neoproterozoic-Cambriaidd gogledd-orllewin Cymru (Môn a Llŷn) yn canolbwyntio ar darddiad gwaddodion Uwchgrwpiau Monaidd. (Dr J. M. Horak)

Gweithgarwch igneaidd y cyfnod Paleosoig Is yng Nghymru (Dr R.E. Bevins)

Gweithgarwch igneaidd y cyfnod Paleogenaidd yng Nghymru a'r cyffiniau (Dr R.E. Bevins a J.M. Horak)

Mae'r casgliad petroleg archaeolegol wedi cefnogi nifer o brojectau ymchwil gan gynnwys:

  • Defnydd cerrig yng Nghymru'r Oesoedd Canol, gan gynnwys corpws ar gerrig wedi'u harysgrifio a cherfluniau cerrig yng Nghymru (Dr J.M Horak)
  • Olrhain doleritau gleision brith a rhyolitau Cymreig yng Nghôr y Cewri (Dr R.E. Bevins)

Ymchwil parhaus i gerrig adeiladu ac addurniadol Cymru.

  • Tywodfeini carbonifferaidd gogledd ddwyrain Cymru a'u defnydd adeiladu (e.e. Cefn, Tywodfaen Gwespyr)
  • 'Marblis' addurniadol carbonifferaidd Cymru (e.e. Helygain, Snowdrop Marbles)

Petrology

Dr Jana Horak

Pennaeth Mwynoleg a Phetroleg
Gweld Proffil

Dr Daniel Cox

Uwch Swyddog Labordy

Andrew Haycock

Curadur - Mwynyddiaeth a Phetroleg (Phetroleg)
Gweld Proffil