Mwynoleg

Millerite
namuwite
Plumbogummite ar Pyromorphite
Ramsbeckite

Sylweddau cemegol gaiff eu creu'n naturiol yw mwynau, fel arfer gyda strwythur crisialog penodol.

Yn syml, dyma friciau adeiladu'r tir a'r graig dan ein traed. Pan fydd yr amodau'n ffafriol gall mwynau ffurfio crisialau, a gall rhai fod yn hynod lliwgar. Mae rhai mwynau'n crynhoi gyda'i gilydd gan ffurfio dyddodion metel gwerthfawr, ac mae gan Gymru hanes cyfoethog o fwyngloddio metel.

Bellach mae bron i 5,000 o fwynau yn hysbys i wyddonwyr. Mae dros 440 wedi cael eu cofnodi yng Nghymru a gellir gweld y rhestr llawn yn https://amgueddfa.cymru/mwnyddiaeth_cymru/

Casgliadau

  • Dros 40,000 o sbesimenau mwynau – y casgliad mwyaf cyflawn o fwynau o Gymru. Yn eu plith mae mwynau aur, arian, plwm, sinc, copr, haearn, manganîs, cobalt ac antimoni yn ogystal â'r mwynau crai cysylltiedig.
  • Casgliad cynhwysfawr o flociau resin wedi’u llathru yn cynnwys mwynau metel o fwyngloddiau Cymru ar gyfer astudiaeth microsgopeg.
  • Cerrig wedi'i llathru o fwyngloddiau metel yng Nghymru i’w hastudio a’u harddangos.
  • Esiamplau o dros 1,000 o fwynau gwahanol o bedwar ban byd.
  • Casgliadau hanesyddol bwysig gan bobl o gefndiroedd amrywiol gan gynnwys tirfeddianwyr, rheolwyr ac ymchwilwyr mwyngloddiau, athrawon ysgol a chyn-sefydliadau mwyngloddio. Daw'r casgliadau hynaf yn ein meddiant o ddiwedd y 18fed ganrif.

Mae gennym nifer o gasgliadau pwysig gan unigolion:

  • Casgliad R.J. King o dros 9,000 sbesimen o fwynau Prydeinig o safon uchel (a mwynau tramor) gan gynnwys rhan o gasgliad cynharach H.F. Harwood. Ymhlith y casgliad hwn mae rhai o'r sbesimenau gorau o arian wedi crisialu o fwyngloddiau Kongsberg yn Norwy, sbesimenau fflẅorsbar (fluorite) o ogledd Lloegr a set gynhwysfawr o fwyn tun (cassiterite) o bedwar ban byd.
  • Casgliad G.J. Williams o fwynau gogledd a chanolbarth Cymru o fwyngloddiau yr ymwelodd Willams â nhw yn ystod ei yrfa fel Arolygydd Mwyngloddiau Cynorthwyol dros Ogledd Cymru ac Iwerddon yn nechrau'r 20fed ganrif.
  • Casgliad Iarlles Powis – casgliad systematig cynnar o fwynau o bedwar ban byd yn dyddio o 1817.
  • Casgliad David Pennant – set fechan o fwynau o'r cyfandir a gasglwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif a throad y 19eg ganrif.
  • Casgliad Terrill o ddiwedd oes Fictoria sy'n cynnwys sbesimenau o Gernyw a gweddill y byd yn bennaf.

Ymchwil Cyfredol

  • Nodweddion mwynau manganîs yng Nghymru
  • Canfyddiadau mwynyddol newydd yng Nghymru
  • Hanes casglu mwynau ym Mhrydain yn ystod yr Oes Oleuedig
  • Cyfansoddiad aur Cymru wrth olrhain arteffactau'r Oes Efydd

Mineralogy

Dr Jana Horak

Pennaeth Mwynoleg a Phetroleg
Gweld Proffil

Tom Cotterell

Uwch Guradur: Mwynau
Gweld Proffil

Dr Daniel Cox

Uwch Swyddog Labordy