Cymru a'r Rhyfeloedd Byd: Dyddiaduron Kate Rowlands 27 Ionawr 2017 Mae'r cyfri twitter @DyddiadurKate yn trydar dyddlyfrau Kate Rowlands, Sarnau. Ganrif yn ddiweddarach, mae ei chofnodion o 1915 yn rhoi golwg i ni ar fywyd yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth y dyddiadur i feddiant Sain Ffagan yn 1969, pan aethant allan i gymunedau gwahanol i recordio hanes leol pobl Cymru, yn eu geiriau eu hunain. Mae Dyddiadur 1915 Kate Rowlands, yn ddarlun cynnil a chyfoethog o fywyd yng nghefn gwlad Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n rhoi cip i ni o dasgau bob dydd, enwau caeau a ffermydd, cymeriadau lleol, tafodiaeth ac arferion y cartref a'r capel. Darllenwch y dyddiadur ar twitter, neu gweld mwy am gymeriadau'r dyddiadur. Trydar gan DyddiadurKate Rhagor am Kate 'Kitty' Rowlands Bywyd Cynnar Ganed Kate yn y Brymbo, ger Wrecsam, yn 1892. Roedd ei mam, Alice Jane, yn wreiddiol o’r Hendre, Cefnddwysarn. Bu farw ei thad – gweithiwr yn y diwydiant dur – pan roedd hi’n naw mis oed. Wedi hynny, dychwelodd ei mam weddw at ei theulu yng Nghefnddwysarn. Mae’n amlwg i rieni ei mam ddylanwadu’n fawr arni. Mewn cyfweliad hanes llafar â'r Amgueddfa mae’n dweud mai "y nhw oedd y canllawie gathon ni gychwyn arnyn nhw." Tair blynedd yn ddiweddarach, mae’i mam yn ailbriodi ag Ellis Roberts Ellis. Hyd y gwyddom, dyma’r Ellis sy’n cael ei grybwyll yn y dyddiadur. Tua 1887, pan roedd Kate yn bum mlwydd oed, symudodd y teulu bach i ffermio i ardal Llantisilio, ger Llangollen. Dychwelodd y tri i’r Sarnau tua chwe mlynedd yn ddiweddarach – i fferm Tyhen. Dyma leoliad y dyddiadur. Gwaith ar y tir - ac yn y tŷ A hithe’n unig blentyn, gadawodd Kate yr ysgol yn 14 mlwydd oed i helpu ei rhieni wrth eu gwaith. Mae’n debyg mai fferm fach oedd Tyhen – rhy fach i gyflogi dynion. “Mi gollodd nhad a mam eu iechyd i radde. Buodd hynny’n groes fawr i mi gael gyrru mlaen efo addysg ynde. Rhaid i mi fod adre ynde, ’da chi’n gweld… Dipyn o bopeth, jack of all trade ynde. O’n i’n gorfod helpu llawer iawn allan ynde, efo ceffyle a rwbeth felly ynde. Twmo’r popdy mawr i grasu bara, a chorddi fel bydde amser yno ynde, ryw ddwywaith yr wsos ynde.” Hanes Llafar Rhoddodd Kate Rowlands ei dyddiadur i'r Amgueddfa, pan ddaeth Minwel Tibbott a Lyn Davies i'w chyfweld yn y 1960au. Oherwydd gwaith diflino curaduron cynnar yr Amgueddfa, mae casgliad eang yn Sain Ffagan sy'n ymwneud â hanes merched - gellir pori gwybodaeth amdanynt ar dudalennau Hanes Llafar Merched Cymru. Yn ogystal â dyddiadur 1915, rhoddodd Kate ddyddiadur arall i'r Amgueddfa - sef cofnod o'i bywyd yn 1946. Mae modd darllen y dyddiadur hwnnw hefyd ar twitter, a'i archwilio ar flog yr amgueddfa. Kate Rowlands - Bywyd Cynnar Kate Rowlands - Wythnos ar y Fferm Kate Rowlands - Chwarae Steddfod a Gadael Ysgol Yn ogystal â rhannu hanesion lleol ardal y Sarnau, roedd y dyddiadur yn taro goleuni ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar gefn gwlad Cymru. Darllenwch hanes Kate a chymeriadau'r ardal ar flog Dyddiadur Kate. Carcharorion Rhyfel Fron Goch "Erbyn Ebrill 1915, roedd sgil effeithiau’r Rhyfel Mawr i’w gweld a’u teimlo ar lawr gwlad Meirionnydd. Nepell o gartref Kate a’i theulu, fe agorwyd gwersyll i garcharorion rhyfel ar gyn safle distylldy whisgi..." [gweld mwy] Arferion Nadolig "Ro’n i wedi edrych ymlaen cael darllen am baratoadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ac wedi bod yn dyfalu p’un â’i gŵydd yntau asen o gig eidion fyddai’r wledd? Pwy fyddai’n galw heibio?" [gweld mwy] Tomi'r Hendre a'r Ffrynt "Yr wyf yn hynod o hapus a digon o fwyd ac mewn iechyd rhagorol ac yn mynd yn dew ac yn gryf. Nid wyf yn med[d]wl y byd[d] yn rhaid imi byth fynd i’r front... Gyrwch fy nghyllell boced a fy spectol [yn] fuan." [gweld mwy] Alcohol a Dirwest "Soniodd Lloyd George am ‘the lure of the drink’ a dweud bod y ddiod gadarn yn gwneud mwy o’r difrod i Brydain na holl longau tanfor yr Almaen..." [gweld mwy] Gallwch lawrlwytho fersiwn electronic o'r dyddiadur yma: E-lyfr Dyddiadur Kate (PDF)
199 o Geiniogau Arian - Celc y Fenni Edward Besly, 6 Ionawr 2017 Rhan o gelc y Fenni fel y'i darganfuwyd. Yn Ebrill 2002 ffeindiodd tri chwilotwr metal (John L Jones, Richard Johns a Fred Edwards) ddarganfyddiad heb ei ail mewn cae ger y Fenni, Sir Fynwy: celc gwasgaredig o 199 o geiniogau arian. Roedd y celc yn cynnwys darnau arian y brenin Eingl-Sacsonaidd Edward Gyffeswr (1042-66) a Gwilym Goncwerwr, sef y Norman, Wiliam I (1066-87). Cafodd y rhan o Gymru lle y darganfuwyd y darnau arian ei chyfeddiannu yn fuan wedi i'r Normaniaid orchfygu Lloegr. Codwyd cestyll cynnar yng Nghaerllion a Chas-gwent ac mae'r celc yn dyddio o'r cyfnod cyn sefydlu tref gyfagos y Fenni yn y 1080au. Pan gafodd ei ddarganfod roedd y celc wedi'i orchuddio â chrawen drwchus o waddodion haearn. Yn y gwaddodion hyn cafwyd hyd i olion defnydd oedd yn awgrymu bod y darnau arian mewn cwdyn brethyn yn wreiddiol. Ni wyddys p'un ai a oedd yr arian wedi'i guddio'n fwriadol, neu wedi'i golli, ond yr un peth sy'n sicr yw bod ei berchennog yn dlotach o lawer: byddai un swllt ar bymtheg a saith geiniog (16s 7c, neu £0.83c) gyfwerth â chyflog sawl mis yn hanes y rhan fwyaf o bobl. Bathu Arian Mae darnau arian Eingl-Sacsonaidd a Normanaidd yn ffynonellau hanesyddol unigryw: ar bob un datgelir enw'r lle y cafodd ei fathu a'r bathwr arian fu'n gyfrifol am y gwaith. Roedd y boblogaeth o fewn cyrraedd rhwydwaith o fathdai ar hyd a lled Lloegr (nid oedd bathdy yng Nghymru) a bob hyn a hyn câi'r arian a ddefnyddid ei gasglu ynghyd a'i ailfathu gan ddefnyddio cynllun newydd. Wrth reswm, roedd y brenin yn hawlio ei gyfran bob tro. Mae celc y Fenni'n cynnwys cynnyrch 36 o fathdai hysbys, ynghyd â rhai cyhoeddiadau afreolaidd na ellir mo'u lleoli ar hyn o bryd. Darnau arian o fathdai'r ardal, megis Henffordd (34 darn) a Bryste (24), yw'r rhai mwyaf cyffredin; yn fwy niferus na'r rhai o fathdai mawr fel Llundain (19) a Chaer-wynt (20). Ar y llaw arall, ceir darnau arian unigol o fathdai bach fel Bridport (Dorset), neu rai pell i ffwrdd fel Thetford (Norfolk) a Derby. Mae celciau o orllewin Prydain yn brin iawn ac felly mae celc y Fenni wedi dwyn i'r amlwg nifer o gyfuniadau na chawsant eu cofnodi o'r blaen o ran bathdai, bathwyr arian a chyhoeddiadau. Yn ôl pob tebyg, ni chawn wybod sut cyrhaeddodd y darnau arian hyn gornel cae yn Sir Fynwy ond, yn ogystal ag ychwanegu at ein gwybodaeth am arian bath, maent yn bwrw goleuni ar faterion ariannol yn yr ardal wedi'r goncwest Normanaidd. Cafodd y celc, sydd ym meddiant Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, ei ddatgan yn drysor o dan y ddeddfwriaeth gyfoes, ac mae'r darganfyddwyr wedi cael eu gwobrwyo. Abergavenny Hoard Edward the Confessor, 'Expanding Cross'; Llundain, Lifing Edward the Confessor, 'Expanding Cross'; Llundain, Lifing Edward, 'Pointed Helmet'; Llundain, Eadred Edward, 'Pointed Helmet'; Llundain, Eadred Edward, 'Sovereign'; Henffordd, Eadric Edward, 'Sovereign'; Henffordd, Eadric Edward, 'Sovereign'; Taunton, Brihtric Edward, 'Sovereign'; Taunton, Brihtric Edward, 'Sovereign'; Caerwrangon, Garulf Edward, 'Sovereign'; Caerwrangon, Garulf Edward, 'Sovereign/Hammer Cross'; Taunton, Brihtric Edward, 'Sovereign/Hammer Cross'; Taunton, Brihtric Edward, 'Hammer Cross'; Cricklade, Æthelwine Edward, 'Hammer Cross'; Cricklade, Æthelwine Edward, 'Hammer Cross'; Caerwysg, Wicing Edward, 'Hammer Cross'; Caerwysg, Wicing Edward, 'Hammer Cross'; Tamworth, Brininc Edward, 'Hammer Cross'; Tamworth, Brininc Edward, 'Bust Facing'; Caerloyw, Wulfweard Edward, 'Bust Facing'; Caerloyw, Wulfweard Edward, 'Bust Facing'; Henffordd, Ægelric Edward, 'Bust Facing'; Henffordd, Ægelric Edward, 'Bust Facing'; Henffordd, Ælfwi Edward, 'Bust Facing'; Henffordd, Ælfwi Edward, 'Bust Facing'; Henffordd, Earnwi Edward, 'Bust Facing'; Henffordd, Earnwi Edward, 'Bust Facing'; Efrog, Iocetel Edward, 'Bust Facing'; Efrog, Iocetel William I, 'Bonnet'; Caer, Ælfsige William I, 'Bonnet'; Caer, Ælfsige William, 'Two Sceptres/Two Stars'; Wareham, Sideman William, 'Two Sceptres/Two Stars'; Wareham, Sideman William, 'Two Stars'; Bryste, Ceorl William, 'Two Stars'; Bryste, Ceorl William, 'Two Stars'; Henffordd, Leofstan William, 'Two Stars'; Henffordd, Leofstan William, 'Two Stars'; Llundain, Brihtric William, 'Two Stars'; Llundain, Brihtric William, 'Two Stars'; Sandwich, Ælfget William, 'Two Stars'; Sandwich, Ælfget William, 'Two Stars'; irregular issue William, 'Two Stars'; irregular issue William, 'Sword'; Wilton, Ælfwine William, 'Sword'; Wilton, Ælfwine William, 'Profile Right'; Rhydychen, Heregod William, 'Profile Right'; Rhydychen, Heregod Darllen Cefndir Conquest, Coexistence, and Change. Wales 1063-1415 gan R. R. Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1987). The Norman Conquest and the English Coinage gan Michael Dolley. Cyhoeddwyd gan Spink and Son (1966).
Teipiwch eich ffordd i’n casgliadau Harriet Wood, 17 Ebrill 2014 Hafan Catalog Teipiau Molysgiaid. Neptunea lyrata, y sbesimen teip hynaf yn Amgueddfa Cymru, a gasglwyd gan y Capten James Cook yn Alaska ym 1778. Lluniau a labeli sbesimen ar gyfer y teip Octopus maculosus a ddisgrifiwyd gan ein cyfarwyddwr cyntaf, Williams Evans Hoyle, ym 1883. Map yn dangos y 110 o wledydd sy’n gartref i’r bobl sydd wedi ymweld â’n gwefan hyd yn hyn. Sbesimenau mwyaf poblogaidd ar ôl 18 mis ar-lein Cyhoeddodd Amgueddfa Cymru Gatalog Teipiau Molysgiaid ym mis Medi 2012. Hwn oedd y tro cyntaf i’n cynulleidfa gynyddol ar y we allu gweld lluniau o dros 350 o’n sbesimenau pwysicaf o folysgiaid. Casgliadau Molysgiaid Amgueddfa Cymru (Saesneg yn unig) Mae casgliadau molysgiaid Amgueddfa Cymru o arwyddocâd rhyngwladol ac maent yn cynnwys cannoedd o filoedd o sbesimenau. Mae molysgiaid yn grŵp hynod amrywiol sy’n bodoli yn y rhan fwyaf o amgylcheddau’r blaned – o falwod tir ar ben mynyddoedd i folysgiaid dwyfalfog mewn fentiau hydrothermol, cregyn côn gwenwynig i gregyn gleision perl dŵr croyw, gwlithod cigysol i fôr-gyllell guddliw. Mae ein casgliad yn adlewyrchu’r amrywiaeth hon a’r amrediad daearyddol ac amgylcheddol. Beth yw teipsbesimenau? Mae ‘teipsbesimenau’ unrhyw gasgliad hanes natur ymhlith yr eitemau gwyddonol arbennig sydd angen eu diogelu yn fwy na dim byd arall. Maent yn sbesimenau sy’n cael eu dethol yn ofalus i gynrychioli rhywogaethau newydd, ac maent ar gael yn barhaol i dacsonomyddion y dyfodol gyfeirio atynt. Mae casgliad Molysgiaid Amgueddfa Cymru yn cynnwys 3200 o deipsbesimenau, wedi’u casglu dros gyfnod o bron i 200 o flynyddoedd. Mae dwy ran o dair o’r casgliad yn dod o gasgliad cregyn enwog Melvill-Tomlin , gan dystio i ddyfnder gwyddonol a phwysigrwydd hanesyddol y casgliad. Ein teip cynharaf yw gwichiad moch mawr dŵr oer o Alaska, a gasglwyd ym 1778 gan y Capten James Cook yn ystod ei drydedd fordaith (a’r olaf). Disgrifiwyd y teip hwn, a llawer o rai eraill, gan rai o gasglwyr a thacsonomyddion pwysicaf eu hoes, gan gynnwys William Evans Hoyle, cyfarwyddwr cyntaf yr Amgueddfa ac arbenigwr ar Seffalopodau. Y Catalog Teipiau Molysgiaid ar-lein Gan fod llawer o ymholiadau ynglŷn â chasgliadau yn ymwneud â deunydd teip, roeddem yn awyddus i ddatblygu dull o sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb ledled y byd, felly aethom ati i greu’r Catalog Teipiau Molysgiaid. Dechreuodd y project yn 2009, gan ganolbwyntio yn y dechrau ar wahanu 350 o’n teipiau pwysicaf o’r prif gasgliad a’u storio mewn cypyrddau newydd haws eu cyrraedd a mwy diogel. Tynnwyd lluniau o’r holl sbesimenau hyn a’u labeli, a gwiriwyd a sganiwyd y cyfeiriadau yn ymwneud â disgrifiadau gwreiddiol y rhywogaethau. Cafodd yr wybodaeth hon ei chasglu mewn cronfa ddata a’i chyhoeddi ar-lein. Ond megis dechrau’r gwaith yw hyn… Bydd y llu o deipiau sy’n weddill yn cael eu hychwanegu o dipyn i beth, a bydd y staff yn parhau i ymchwilio i deipiau anhysbys yn ein casgliadau. Bydd teipsbesimenau newydd yn cael eu hychwanegu hefyd pryd bynnag y caiff rhywogaethau newydd eu darganfod, a’u disgrifio gan ein tacsonomyddion. Pwy sydd wedi bod yn edrych? Ers mynd ar-lein yn 2012, mae nifer yr ymholiadau ynglŷn â theipsbesimenau wedi cynyddu’n ddirfawr. Mae hyn yn dangos cyfraniad pwysig gwefannau at gynyddu mynediad i’n casgliadau a’r defnydd ohonynt. Drwy ddefnyddio Google Analytics, mae gennym rywfaint o syniad o bwy sydd wedi bod yn edrych dros y deunaw mis diwethaf: Mae 3,973 o ymwelwyr wedi edrych ar 12,268 o dudalennau. Mae pobl o 113 o wledydd wedi ymweld â’r safle. Y pum defnyddiwr mwyaf: y DU, Sbaen, yr Unol Daleithiau, yr Eidal, Ffrainc. Mae 59.5% yn ymwelwyr newydd a 40.5% yn ymwelwyr sy’n dychwelyd. Y sbesimen yr edrychwyd arno amlaf: Scintilla lynchae Oliver a Holmes, 2004 Bwrw golwg Felly, beth am fwrw golwg drosoch eich hun ac fe gawn ni weld lle rydym arni ymhen blwyddyn… Wood, H. a Turner, J. A. 2012. Catalog Teipiau Molysgiaid. Amgueddfa Cymru. Ar gael ar-lein yn http://naturalhistory.museumwales.ac.uk/molluscatypes.
Teipffosilau Amgueddfa Ar-Lein Caroline Buttler, 8 Ebrill 2014 Anthracoceras cambriense Bisat, 1930 Bumastus? xestos Lane & Thomas, 1978 Metacoceras postcostatum Bisat, 1930 Archimylacris scalaris Bolton, 1930 Pan fydd rhywogaeth newydd yn cael ei disgrifio caiff un ‘teip’ sbesimen ei bennu, a’i gadw mewn sefydliad cydnabyddedig lle gall unrhyw un ei astudio. Mae teipsbesimenau yn adnoddau hanfodol i dacsonomegwyr – i ddisgrifio rhywogaethau sy’n bodoli eisoes ac i adnabod rhywogaethau newydd. Heb depisbesimenau, byddai’n anodd cadw cofnod cywir o rywogaeth, a gallai newid yn y dacsonomeg dros amser olygu na fyddai dehongliadau yn y dyfodol yn cyfateb o gwbl i’r dehongliad gwreiddiol. GB3D Teipffosilau Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn cydweithio ag Arolwg Daearegol Prydain a sefydliadau eraill yn y DU i gynhyrchu’r casgliad 3D rhithwir cyntaf o deipsbesimenau ffosil Prydain, a hynny dan nawdd JISC. Gall defnyddwyr bellach lawrlwytho a chwilio drwy filoedd o ddelweddau safon uchel (nifer ohonynt yn anaglyffau 3D) a modelau ffosil 3D digidol, a hynny am ddim. Mae’r project GB3D Type Fossils Online wedi agor drysau’r casgliadau er mwyn galluogi academyddion, ymchwilwyr a phobl â diddordeb mewn ffosilau i’w hastudio yn eu hamser eu hunain. Cyfran fechan yw ein casgliad o dros 2000 o deipsbesimenau ffosil Prydeinig o’n casgliad llawn o sbesimenau o Gymru a gweddill y byd. Bydd ymchwilwyr o Gymru, y Deyrnas Unedig a gweddill y byd yn defnyddio’r casgliadau yn eu hymchwil tacsonomaidd. Mae palaeontolegwyr yr Amgueddfa wedi enwi nifer o rywogaethau ffosil newydd a rhai ffosilau wedi cael eu henwi ar eu hôl ac mae’n hanfodol iddyn nhw, ac i bob tacsonomegydd, gael mynediad i’r teipsbesimenau. Wrth geisio cadarnhau rhywogaeth newydd posibl, yr cam delfrydol yw archwilio teipsbesimenau rhywogaethau tebyg. Nid yw hyn yn bosibl bob tro, gyda costau teithio yn un rheswm amlwg. Pan fydd rhywogaeth newydd yn cael ei gynnig, caiff ei ddisgrifio mewn cyfnodolyn gwyddonol a tynnir ffotograff o’r teipsbesimen. Yn anffodus, nid oes ffotograff o bob teipsbesimen mewn cyhoeddiadau hŷn, neu gall y lluniau fod o safon isel gan ei gwneud yn anodd i weld nodweddion penodol y sbesimen. Bydd yr adnodd digidol newydd felly’n amhrisiadwy – lluniau cydraniad uchel 2D a 3D o’r casgliad teipsmesimenau Prydeinig yn ogystal â modelau 3D. Bydd y wefan yn rhad ac am ddim ac yn rhoi mynediad i’n casgliadau i bobl o bedwar ban byd. Ewch i'r wefan yma.
Ci Da yn Gwella Penny Hill, 5 Mawrth 2014 Cerflun bach manwl o gi heb fod dros 5cm o daldra fyddai wedi’i orchuddio â haen o dun neu arian mwy na thebyg. Mae tyllau yn y gwaelod metel yn awgrymu ei fod yn esitedd ar blinth. Un o ddau gerflun bach o gŵn a ganfuwyd yn Llys Awel. Mae ei dafod allan yn barod i lyfu. Mae’r ci wedi bod yn gyfaill mynwesol i ddyn ers cyn cof. Gwelwyd straeon eto’n ddiweddar am gŵn yn achub bywydau drwy ffroeni cancr, neu wella cylchrediad gwaed drwy lyfu coesau a breichiau. Ond nid darganfyddiad newydd yw’r cysylltiad rhwng pobl, cŵn ac iechyd. Yn y casgliad archaeoleg, ymhlith grŵp o wrthrychau a ganfuwyd yn llys Awel, Conwy mae dau ffigwr bychan o gŵn. Mae dau blac aloi copr yno hefyd. Addurn pwnsh dot o amlinell ci sydd ar y cyntaf, ond mae’r ail wedi dirywio a gallai fod yn gi arall, neu’n enw duw. Y gred yw taw allor wedi’i gysegru i dduw iachaol oedd y safle, ac mae’r gwrthrychau eu hunain wedi’u dyddio i gyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain, rhwng diwedd y ganrif 1af AD a diwedd y 4edd ganrif AD. Mwy na thebyg i bobl adael y gwrthrychau yn offrwm i’r duw yn y gobaith y byddai’n sicrhau iechyd da ac yn eu gwella rhag afiechyd. Pam cŵn? Cai’r duw meddyginiaeth Groegaidd Asklepios (Aesculapius oedd enw’r Rhufeiniaid arno) ei ddangos yn aml yng nghwmni ci. Mwy na thebyg bod pobl wedi gweld cŵn yn iachau eu hunain drwy lyfu a’r cysylltiad wedyn wedi tyfu. Adeiladwyd noddfa fawr i’r cwlt yn y 4edd ganrif CC yn Epidaurus, Groeg. Tyfodd hon yn un o ganolfannau iachau mwyaf yr hen fyd. Un elfen o’r ddefod iachau oedd derbyn llyfiad gan gi dwyfol y noddfa. Yr unig esiampl gyffelyb y gwyddir amdani ym Mhrydain yw cwlt Nodens, y duw Romano-Brydeinig oedd â’i noddfa yn Lydne, Swydd Gaerloyw. Canfuwyd 9 portread o gŵn yno, ac fel yn Llys Awel mwy na thebyg taw pererinion yn chwilio am wellhad rhag afiechyd a’u gadawodd. Yn 5cm o daldra ac wedi’u gwneud o aloi copr, eistedda’r ddau gi â’u cynffonau rhwng eu coesau a’u tafodau allan yn barod i lyfu. Mae’r manyldeb arnynt yn hynod, gyda’r llygaid a’r clustiau, y trwynau, y pawennau a’r ffwr i gyd yn amlwg. Mwy na thebyg iddynt gael eu creu drwy ddefnyddio’r dull colli cwyr, felly dim ond un cyfle oedd i gastio’r metel. Castiwyd un ci mewn un darn ond mae’r llall yn fwy cymhleth. Wrth wneud gwaith cadwraeth, dysgwyd sut y cynhyrchwyd y cerflun. Castiwyd darnau ar wahân cyn eu sodro at eu gilydd. Darlun o blac offrwm gydag arlliwio ychwanegol yn amlygu amlinell ci. Darlun o blac offrwm. Yw’r llinellau toredig yn yr hanner gwaelod yn sillafu enw duw sydd bellach yn angof, neu ai ci arall sydd yma? Cadwraeth Yn ystod gwaith cadwraeth, gwelwyd bod pedwar cast – pen, corff, cynffon a thafod – wedi’u sodro at eu gilydd i greu cyfanwaith. Awgrym pellach o hyn yw’r rhigolau yn y metel ger uniad y pen a’r corff, fyddai’n gymorth i’r sodrwr ddal y ddwy ran wrth weithio. Ceir tystiolaeth hefyd bod castio’r ffigwr wedi achosi cryn drafferth i’r crefftwr, a’r aloi copr ddim yn llifo ac yn llenwi’r mowld bychan. Bu’n rhaid trwsio’r trwyn a’r goes flaen dde gan dorri’r deunydd oedd heb gastio’n gywir a sodro rhannau newydd yn eu lle. Mae’r trwyn newydd wedi diflannu ond mae’r goes newydd gyda ni o hyd, a gellir gweld nad yw’r gwaith mor gywrain â’r goes chwith. Mwy na thebyg i’r cerflun gael ei orchuddio mewn tun neu arian i guddio’r camgymeriadau a gwella’r golwg terfynol er mwyn dyrchafu pedigri’r ci bach. Ni chafwyd canlyniadau pendant o ddadansoddi’r arwyneb fodd bynnag ac nid yw’r gorchudd, os oedd un yn bodoli erioed, wedi goroesi. Bydd yn rhaid i ni ddychmygu sut olwg oedd ar y ci ar ei newydd wedd, ac a wnaeth yr offrwm ennyn trugaredd y duwiau?