Cadw a gofalu am ein casgliadau

Curadu'n eich gwneud chi'n wallgo!

Dr Victoria Purewal, 5 Tachwedd 2013

 Rhan o ddalen sbesimen o lysieufa 3ydd Iarll Bute, tua 1770.

Ffigwr 1 Rhan o ddalen sbesimen o lysieufa 3ydd Iarll Bute, tua 1770. Does dim cliwiau ar y ddalen i ddweud os cafodd y papur hwn ei drin neu beidio. Olion y planhigyn yn ymddatod yn naturiol yw'r staeniau brown.

Ffigwr 2 Yr un ddalen llysieufa gan olau uwch fioled.

Ffigwr 2 Yr un ddalen llysieufa gan olau uwch fioled. Mae'r afliwiad llwyd yn nodweddiadol o effaith mercwri a'r tasgiadau llachar yn brawf bod mercwri hylif wedi'i ddiferu.

Defnyddio'r ddyfais sganio uwch fioled.

Ffigwr 3 Defnyddio'r ddyfais sganio uwch fioled.

Gall casgliadau hanes natur ddirywio o ganlyniad i blâu a malltod ac felly'n hanesyddol, defnyddiwyd cemegion i warchod y casgliadau yma i'r dyfodol. Y cemegyn a ddefnyddiwyd amlaf oedd Clorid Mercwri (sychdarth cyrydol). Mae nifer o sbesimenau wedi goroesi erbyn heddiw diolch i fercwri, ond mae sgil-effaith – mae halwynau mercwri'n wenwynig i blâu, ac i bobl.

'Mad as a hatter'

Yn y 19eg ganrif roedd hi'n gyffredin yn y diwydiant creu hetiau i drin felt â nitrad mercwri. Byddai'r mercwri wedyn yn treiddio i groen cynhyrchwr yr hat a'i pherchennog, a gwyddom bellach ei fod yn ymosod ar y system nerfau ganolog ac yn effeithio ar yr ymennydd. Achosodd gwenwyno mercwri i lawer o gynhyrchwyr hetiau ymddwyn yn rhyfedd iawn, a dechreuwyd defnyddio'r ymadrodd Saesneg 'Mad as a hatter'. Mae'n ddigon posibl taw dyma oedd ysbrydoliaeth Lewis Carrol ar gyfer ei de parti gwallgo.

Y broblem fwyaf gyda'r triniaethau yma yw eu bod nhw'n peryglu iechyd, a bron yn amhosibl i'w gweld gan lygad dyn (Ffig. 1).

Diolch i waith ymchwil gan Adran Gadwraeth Amgueddfa Cymru, canfuwyd bod rhai o'r 600,000 sbesimen llysieufa yn y casgliadau wedi'u halogi â mercwri. Gallai hyn beryglu iechyd aelodau'r staff ac ymwelwyr heb ymdrin â'r broblem. Roedd hi'n bwysig gallu dweud pa ddalenni oedd wedi'u trin, gyda pha gemegyn a faint ohono a ddefnyddiwyd. Byddai gwneud hyn yn y dull arferol wedi galw am gyflogi gemegwyr arbenigol, prynu offer dadansoddi drud a blynyddoedd o waith – proses hir a chostus.

Wrth ymchwilio ymhellach darganfu Vicky Purewal, cadwraethydd botaneg Amgueddfa Cymru, bod defnyddio mercwri yn cyflymu prosesau cemegol wrth i bapurau heneiddio, gan roi cliwiau bychain o bresenoldeb yr elfen. Dyfeisiwyd techneg anghyfarwydd benodol oedd yn gallu troi'r cliwiau yma'n wybodaeth gadarn, a hynny heb offer drud – dim ond lamp UV-A fechan. Mae'r ymbelydredd uwch fioled yn achosi i rai prosesau cemegol yn y papur arddangos gwawr fflwrolau o liw penodol: prawf positif o bresenoldeb mercwri (Ffig. 2).

Bu'r ymchwil hwn gan Amgueddfa Cymru'n hanfodol wrth ddatblygu techneg gyflym o adnabod casgliadau wedi'u halogi (Ffig. 3). Mae wedi bod o gymorth wrth gasglu gwybodaeth ar driniaeth sbesimenau dros y blynyddoedd a thrwy hynny, ein helpu i ddiogelu iechyd staff ac ymwelwyr â'r llysieufa. Gall y casgliadau felly gael eu rhannu yn ddeunydd wedi ei drin a deunydd heb ei drin er mwyn eu hail-fowntio a gwaredu cyfran helaeth o'r deunydd gwenwynig o'r llysieufa. Bu'r dechneg i ganfod pa sbesimenau oedd wedi'u trin â mercwri hefyd o gymorth i'r gwaith ymchwil dadansoddi DNA yn y llysieufa, gan fod presenoldeb mercwri yn gallu amharu ar y dystiolaeth DNA y gellir ei dynnu o'r planhigyn.

Mae'r ymchwil hwn yn effeithio ar ddau faes: cadwraeth broffesiynol ac arfer curadurol; ac iechyd a diogelwch defnyddwyr casgliadau'r llysieufa. Ymhlith y sefydliadau sydd wedi elwa o'r dechneg syml, gyflym hon mae'r Gerddi Botaneg Brenhinol yn Kew, yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon – techneg a ddatblygwyd yma yn Amgueddfa Cymru gan Vicky Purewal.

Casgliad mwynau chwedlonol y Fonesig Henrietta Antonia, Iarlles Powis

Tom Cotterell, 31 Ionawr 2012

<em>Catalogue of Metallic Minerals in the Possession of the Countess of Powis</em> Cyfrol II, 1817: Catalogau gwreiddiol y casgliad.
Catalogue of Metallic Minerals in the Possession of the Countess of Powis

Cyfrol II, 1817: Catalogau gwreiddiol y casgliad.

Tudalen gatalog o Gyfrol 1. <em>Earthy Minerals</em>.

Tudalen gatalog o Gyfrol 1. Earthy Minerals.

Olifin ar gwarts o Gernyw, rhodd i Henrietta gan Iarlles Aylesford. Sbesimen 9 cm o hyd. NMW 29.311.GR.80.

Olifin ar gwarts o Gernyw, rhodd i Henrietta gan Iarlles Aylesford. Sbesimen 9 cm o hyd. NMW 29.311.GR.80.

Yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y cafodd un o gasgliadau mwynau hanesyddol pwysicaf yn Amgueddfa Cymru ei adeiladu. Y Fonesig Henrietta Antonia Clive (1758-1830), Iarlles Powis oedd y gasglwraig, a cafodd ei roi i'r Amgueddfa gan 4ydd Iarll Powis ym 1929. Mae'n un o'r casgliadau mwynau cyntaf sy'n gysylltiedig â Chymru.

Y Fonesig Henrietta, Iarlles Powis

Ganwyd y Fonesig Henrietta i deulu Herbert, teulu uchel ei barch â thiroedd helaeth oedd yn disgyn o Iarll Penfro yn y bymthegfed ganrif. Henry Arthur Herbert (c.1703-1772), Iarll 1af Powis oedd ei thad, oedd yn berchen ar ystadau mawr yn Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru yn ogystal ag eiddo yn Llundain. Ganwyd Henrietta yn eu prif gartref, Parc Oakley, yn Bromfield ger Llwydlo, ond wedi i hwnnw gael ei werthu i Robert, Arglwydd Clive (Clive o India) ym 1771, treuliodd ei harddegau yn y cartref teuluol, Castell Powis.

Clive o India

Ym 1784, priododd Henrietta Edward, mab hynaf y diweddar Arglwydd Clive, priodas oedd o fudd i'r ddau deulu — roedd y teulu Herbert wedi mynd i ddyled drom, ond roedd eu henw yn dal yn uchel ei barch, tra bod teulu Clive wedi casglu cyfoeth aruthrol drwy ymgyrchoedd milwrol Robert, Arglwydd Clive yn India. Aeth Henrietta ac Edward i fyw yn Neuadd Walcot ger Trefesgob lle ganwyd pedwar o blant iddynt, Edward, Henrietta Antonia, Charlotte Florentia a Robert Henry.

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, gwnaed Edward Clive yn Lywodraethwr Madras ac yn ystod ei hamser yn yr India, dechreuodd Henrietta gasgliad o gerrig a mwynau. Yn ddiweddarach bu'n prynu ac yn cyfnewid mwynau â chasglwyr blaenllaw'r cyfnod gan gynnwys James Sowerby, Dr John MacCulloch ac Iarlles Aylesford. Cofnododd sawl sbesimen a roddwyd iddi gan ei phlant hefyd.

Mwynau'r Ddaear a Mwynau Metelig

Mae casgliad Henrietta yn nodweddiadol o steil casgliadau o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda'r mwynau wedi'u trefnu'n systematig yn ôl eu nodweddion cemegol. Rhannodd Henrietta ei chasgliad yn ddwy gyfrol wedi'u hysgrifennu â llaw: Cyfrol 1 — Earthy Minerals a Chyfrol 2 — Metallic Minerals. Defnyddiodd system rifo i gofnodi pob sbesimen gan lynu label bychain i bob un. Er bod nifer o'r labeli yma wedi hen ddiflannu, mae manylder ei chatalog wedi ein galluogi ailadnabod sbesimenau sydd wedi colli eu rhifau gwreiddiol.

Roedd dros fil o sbesimenau yng nghasgliad Henrietta, ac mae cannoedd o samplau wedi cael eu hadnabod yng nghasgliad yr Amgueddfa. Er bod nifer o sbesimenau ar goll, mae'n hynod pa mor gyflawn yw'r casgliad, ag ystyried ei oedran. Heddiw, caiff ei ystyried yn un o'r casgliadau mwynau hanesyddol pwysicaf yn Amgueddfa Cymru.

William Goscombe John (1860-1952)

Oliver Fairclough, 10 Rhagfyr 2011

Morffews
Morpheus

William Goscombe John (1860 - 1952)

Icarus
Icarus

Sir Alfred Gilbert (1854 - 1934)

Roedd Cymru yn yr oes Edwardaidd yn gyforiog o gyfoeth y diwydiannau glo, haearn a dur, ac yn llawn cyfleon i gerflunydd. Mae cofebion cyhoeddus William Goscombe John i'w gweld ledled Cymru ond yn enwedig yn ei dref enedigol, Caerdydd. Ef hefyd a ddyluniodd medalau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol, sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw.

Torri cwys

Ganwyd William John yng Nghaerdydd ym Mawrth 1860. Mabwysiadodd yr enw Goscombe o bentref yn Swydd Gaerloyw ger hen gartref ei fam. Roedd ei dad, Thomas John, yn gerfiwr coed yn y gweithdai a sefydlodd yr Arglwydd Bute i ailwampio Castell Caerdydd. Ymunodd William â'i dad pan yn 14, gan astudio yn Ysgol Gelf Caerdydd ar yr un pryd.

Ym 1881 symudodd i Lundain fel disgybl gynorthwy-ydd i Thomas Nicholls, y cerflunydd oedd yn gyfrifol am Wal Anifeiliaid y Castell. Parhaodd â'i astudiaethau yn Ysgol Gelf Kensington, ac yn Ysgolion yr Academi Frenhinol o 1884, lle y dysgodd fodelu naturiaethol mewn clai yn y dull Ffrengig, dull a gyflwynwyd i Lundain yn y 1870au gan Jules Dalou.

Roedd yn fyfyriwr athrylithgar, ac fe deithiodd ymhell. Treuliodd flwyddyn ym Mharis, yn cynnwys cyfnod yn stiwdio Rodin. Ym 1890 dychwelodd i Lundain ac ymsefydlu yn St John's Wood.

Mae ei gerflun Morpheus, a ddangoswyd yn Salon Paris ym 1892, yn dangos yn amlwg ddylanwad Rodin.

Y 'Gerflunwaith Newydd'

Nod cerflunwyr yng nghenhedlaeth John oedd ceisio creu cerfluniau mwy dynamig drwy bortreadu'r corff dynol mewn modd hynod naturiaethol. Dyma benllanw traddodiad cerfluniol oedd â'i wreiddiau yng nghyfnod y Dadeni, a dyma Rodin a'i gymdeithion yn aildanio'r traddodiad yn Ffrainc yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dilynwyd llwyddiant Morpheus gan gerflun o Ioan Fedyddiwr ar gyfer yr Arglwydd Bute, a grŵp o noethluniau maint llawn yn cynnwys Bachgen yn Chwarae a Coblyn. Mae'r rhain yn dangos ei feistrolaeth wrth lunio'r ffurf ddynol.

Erbyn diwedd y 1890au roedd Goscombe John wedi gwneud enw i'w hun, ac wedi arddangos ei waith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Daeth sawl comisiwn cyhoeddus mawr i'w law ac roedd yn brysur iawn yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cymru a'r Ymerodraeth

Er ei fod yn byw yn Llundain, roedd John yn ystyried ei hun yn gerflunydd cenedlaethol Cymru. Ym 1916 cyfrannodd ganolbwynt marmor Bendith Dewi Sant i'r Bobl i grŵp o ddeg ffigwr a wnaed ar gyfer Neuadd y Ddinas Caerdydd. Derbyniodd sawl comisiwn hefyd gan Gymry blaenllaw'r oes. Adeiladodd John ei yrfa drwy ffyddlondeb i noddwyr lleol, ond derbyniai waith o bob cwr o'r Ymerodraeth, megis Beddrod y Prif Weinidog Ceidwadol, yr Arglwydd Salisbury, yn Abaty Westminster, a'i gerflun marchogol o'r Brenin Edward VII yn Capetown.

Ei gerflun cyhoeddus mawr cyntaf oedd cofeb Catrawd y Brenin (1905) yng nghanol Lerpwl; gwaith oedd yn ymgorffori milwyr o hanes y gatrawd, yn cynnwys y Drymiwr Bach anferth, ei waith enwocaf.

Cyfunwyd y Cymreig a'r Ymerodrol mewn comisiwn ar gyfer regalia arwisgo'r Tywysog Edward (Edward VIII yn ddiweddarach) yng Nghastell Caernarfon ym 1911. Dyluniodd John goron, modrwy, teyrnwialen a chleddyf oedd yn ymgorffori eiconau 'Cymreig' o ddreigiau, cennin Pedr a chlymau Celtaidd.

Doedd gan John fawr i'w ddweud am gerflunwaith modern a elwai yn gerflunwaith 'Ynys y Pasg', gyda'i bwyslais ar gerfio'n uniongyrchol i'r garreg. Roedd tuedd beirniadol yn datblygu hebddo erbyn 1914, ond daeth trasiedi'r Rhyfel Byd Cyntaf â sawl comisiwn newydd am gofebion, nifer ohonynt yng Nghymru.

Goscombe John a'r Amgueddfa Genedlaethol

Roedd Goscombe John yn un o sylfaenwyr Amgueddfa Cymru a bu'n aelod o'r Cyngor am dros deugain mlynedd gan chwarae rôl flaenllaw wrth bennu tuedd y casgliad celf i'r dyfodol. Yn ogystal â chasgliad cynhwysfawr o'i weithiau ei hun, mae ei roddion i'r Amgueddfa yn cynnwys gwaith nifer o'i gyfoedion yn y mudiad Cerflunwaith Newydd, yn cynnwys Icarus, gan Alfred Gilbert a gweithiau gan nifer o artistiaid a edmygai.

James Pyke Thompson (1846-1897)

David Jenkins, 1 Rhagfyr 2011

James Pyke Thompson, 1846-1897

James Pyke Thompson, 1846-1897

Roedd James Pyke Thompson yn un o gymwynaswyr pennaf Amgueddfa Cymru. Cymynodd ei gasgliad celf i'r Amgueddfa, a rhoi symiau mawr o arian i sicrhau datblygiad Amgueddfa Cymru.

 

Ganwyd James Pyke Thompson yn Bridgwater yng Ngwlad yr Haf. Roedd yn perthyn i Samuel Browne, oedd yn bartner yng nghwmni melino Spillers, a sefydlwyd gan Joel Spiller yn Bridgwater ym 1829.

Gwelodd diwydiant melino'r DU newidiadau mawr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daeth melinau mawr wedi'u pweru gan stêm i gymryd lle'r hen felinau dŵr a gwynt gwledig, ac fe'u hadeiladwyd yn y porthladdoedd mawr i brosesu'r cyfaint cynyddol o rawn oedd yn cael ei fewnforio i fwydo'r boblogaeth.

Spillers yng Nghaerdydd

Agorodd Spillers felin o'r fath yng Nghaerdydd ym 1854.

Yn dilyn marwolaeth gynnar Joel Spiller y flwyddyn cynt ac ymddeoliad Samuel Browne, daeth y busnes i feddiant y teulu Thompson.

Ym 1864 y dechreuodd James Pyke Thompson reoli Spillers yng Nghaerdydd ar y cyd â'i dad. Ymgartrefodd mewn tŷ crand ym Mhenarth o'r enw Redlands, a byddai yntau a'i wraig Sarah yn chwarae rôl flaenllaw yn eglwys Undebol West Grove.

Casglwr celf brwd

Cyn ymuno â'r cwmni, treuliodd Pyke Thompson flwyddyn ym Mharis, lle datblygodd ei ddiddordeb mewn celf gain. Roedd ei gasgliad yn cynnwys paentiad hynod yr artist cyn-Raphaelaidd, Dante Gabriel Rossetti, Rosamund Deg (a brynwyd gan yr artist am £72-9-0d ym 1885), wyth print ar hugain gan Turner, dros saith deg o luniau dyfrlliw gan artistiaid Prydeinig amrywiol a chasgliad coeth o borslen Caerwrangon, Chelsea, Nantgarw ac Abertawe.

Roedd Pyke Thompson am i'r cyhoedd rannu ei gasgliad. Ym 1887 adeiladodd oriel ar dir ei gartref a'i galw yn Dŷ Turner. Fe agorodd ar 27 Mehefin 1888, ac roedd ar agor ar brynhawniau Sul, pwnc llosg ar y pryd. Roedd Pyke Thompson wedi dadlau ers amser y dylai amgueddfeydd ac orielau cyhoeddus agor ar y Sul, gan ei fod o'r farn y byddai cyfleon o'r fath yn "...dyrchafu meddyliau dyn ac yn cyffwrdd eu calonnau."

Bu farw Pyke Thompson yn Sevenoaks, Swydd Gaint, ar 17 Chwefror 1897 ac ym 1921, daeth Tŷ Turner dan reolaeth yr Amgueddfa Genedlaethol. Yn ei ewyllys, cymynodd ei gasgliad celf, oedd erbyn hynny yn cynnwys llun dyfrlliw mawr gan Turner o Briordy Ewenni, a swm o £3,000 i Amgueddfa Caerdydd; trosglwyddwyd y rhain yn ddiweddarach i'r Amgueddfa Genedlaethol Newydd.

Caiff ei haelioni ei gydnabod yn enw Oriel Pyke Thompson yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lle mae detholiad o'i gasgliad porslen yn dal i gael ei ddangos heddiw. Mae gweithiau eraill o'i gasgliad yn cael eu dangos yn orielau celf yr Amgueddfa hefyd.

Cysylltiadau

Ffotogallery, Turner House

William James Tatem, Barwn 1af Glanely, 1868-1942

David Jenkins, 30 Tachwedd 2011

William James Tatem, Barwn 1af Glanely o Sain Ffagan.

William James Tatem, Barwn 1af Glanely o Sain Ffagan.

Mae'n debyg taw fel perchennog ceffylau rasio nodedig y cofiwn ni am Arglwydd Glanely heddiw, gyda'i geffylau yn ennill pob un o'r pum Clasur Prydeinig. Yn y diwydiant llongau y gwnaeth ei ffortiwn fodd bynnag, ac roedd yn hael yn ei gefnogaeth o achosion da yn ne Cymru, yn enwedig Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Nid Cymro oedd Tatem o gwbl; cafodd ei eni yn Appledore yng ngogledd Dyfnaint ym 1868, ac wedi marwolaeth ei dad yn ifanc, symudodd ei fam y teulu i Gaerdydd pan oedd Tatem yn ddeunaw. Ymunodd â chwmni llongau Anning Brothers fel clerc gan ddod i ddeall y busnes llongau yn drylwyr. Defnyddiodd y wybodaeth hon i fentro i'r busnes ar ei liwt ei hun ym 1897, ac roedd meistr un o'i longau hefyd yn frodor o Appledore, William Reardon Smith.

Fflyd fawr

Erbyn 1914 roedd Tatem wedi adeiladu fflyd sylweddol o un llong ar bymtheg. Cafodd ei urddo'n fachog ym 1916 ac ym 1918 cafodd ei ddyrchafu'n un o arglwyddi'r deyrnas gan ddwyn y teitl, Barwn Glanely o Sain Ffagan. Roedd yn berchennog llongau craff a werthodd ei fflyd am grocbris ym 1919 pan oedd ffyniant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei anterth, cyn dychwelyd i'r busnes gyda chwe llong newydd am fargen ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Diolch i hyn, bu blynyddoedd y dirwasgiad yn llawer haws iddo na'i gyfoedion.

Exning, plasty'r Arglwydd Glanely yn Newmarket

Exning, plasty'r Arglwydd Glanely yn Newmarket

Yr Arglwydd Glanely yn arwain <em>Singapore</em>, wedi ennill ras St Leger 1930; Gordon Richards oedd y joci

Yr Arglwydd Glanely yn arwain Singapore, wedi ennill ras St Leger 1930; Gordon Richards oedd y joci

'Sporting Bill'

Datblygodd ei ddiddordeb mewn rasio ceffylau ymhellach wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1919-20 prynodd dŷ gwych Exning yn Newmarket, a stablau cyfagos Lagrange. Daeth ei fuddugoliaeth fawr gyntaf yn Royal Ascot ym 1919 pan enillodd Grand Parade y Derby. Roedd y fuddugoliaeth hon yn ddadleuol ar y pryd, gan taw ef oedd yn berchen y ffefryn yn yr un ras, Dominion. Roedd Dominion ymhell ar ei hol hi pan basiodd Grand Parade y postyn yn gyntaf am bris o 33/1 — gyda arian Glanely i gyd ar hwnnw! Roedd yn ffigwr adnabyddus yn y rasys mawr i gyd a byddai pawb yn ei adnabod fel "sporting Bill".

Dyngarwch ac achosion da

Roedd yn hael ei gefnogaeth ariannol i Amgueddfa Cymru, ac enwyd Oriel Glanely yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ei ôl. Bu'n llywydd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ddwywaith, ym 1920-25 a 1934-42, ac ariannodd y gwaith o adeiladu labordai gwyddonol newydd.

Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen defnyddiodd ddwy o'i longau ei hun i gludo nifer fawr o ffoaduriaid o Wlad y Basg i dde Cymru, a sefydlodd elusen i'w cynorthwyo yn ddiweddarach.

Er iddo lwyddo mewn sawl maes, profodd sawl tristwch yn ei fywyd personol. Bu farw ei unig fab, Shandon yn chwe mlwydd oed ym 1905, a bu farw'r Arglwyddes o'i hanafiadau yn dilyn damwain car ym 1930. Cafodd yntau ei ladd mewn cyrch awyr ar Weston-Super-Mare ar 24 Mehefin 1942.