Diwydiant - Gweithdai'r Byd

Ceffylau yng nglofeydd Cymru

Ceri Thompson, 6 Hydref 2023

Mae golwr yn sefyll o dan y ddaear mewn pwll glo; mae'r trawstiau pren o'i gwmpas ac mae'n gafael mewn ceffyl glo
Mae dau ddyn yn dal ffrwyn dau geffyl. Mae’n dywyll ond mae olwyn glo i’w weld yn y cefndir; mae wyneb un dyn yn edrych yn ddifrifol
Ceffyl brown yn sefyll ar drac mewn pwll glo; mae sied werdd un ochr iddo a thomen lechi yr ochr arall, mae'r cefyll yn tynnu cart y tu ol iddo
Ceffyl gwyn yn rhedeg mewn cau; mae coed yn y pellter tu ol iddo

Mae ceffylau wedi bod â chysylltiad agos â chloddio glo ers dyddiau cynnar y diwydiant. Cawson nhw eu defnyddio i gludo glo o'r pyllau i'r cwsmer, i bweru injans weindio a phwmpio ac, yn bwysicaf oll, i symud glo o'r talcen glo i'r siafft.

Ym 1878 cyfrifodd yr RSPCA fod dros 200,000 o geffylau yn gweithio ym mhyllau glo Prydain. Lleihaodd y niferoedd wrth i fecaneiddio ddod yn fwy cyffredin, ond parhawyd i'w defnyddio trwy gydol yr ugeinfed ganrif. Mae’n debyg mai ceffyl pwll glo olaf Cymru oedd Robbie, a ymddeolodd o Bwll Glo Pant y Gaseg ym 1999.

'Merlod pwll glo,' oedd enw mwyaf cyffredin y cyhoedd arnyn nhw, ond roedd ceffylau pwll glo Cymru fel arfer tua 15 dyrnfedd o uchder – yr un maint â cheffylau rhyfel Harri VIII. Honnir yn aml iddyn nhw fynd yn ddall, ond ni fyddai ceffyl dall wedi bod yn ddefnyddiol iawn o dan y ddaear, ac fel arfer byddai unrhyw anifail a oedd wedi colli ei olwg yn cael ei ddwyn i'r wyneb cyn gynted â phosibl.

Er eu bod yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu glo cyn cyflwyno cludiant mecanyddol, mae defnyddio ceffylau yn y diwydiant glo yn aml wedi bod yn ddadleuol iawn. Dadleuai'r perchnogion glo eu bod yn hanfodol yn y broses economaidd o dynnu glo, a byddai'r rhai sy'n caru anifeiliaid yn ystyried eu defnydd yn greulon.

Yn y canol, rhwng y ddwy ochr, oedd y glowyr, a oedd efallai yn cydymdeimlo â'r anifeiliaid hyn. Fodd bynnag, gallen nhw anwybyddu unrhyw greulondeb, neu hyd yn oed fod yn greulon eu hunain, pe bai eu pecyn cyflog dan fygythiad.

Roedd ceffylau pwll glo Cymru fel arfer tua 15 dyrnfedd o uchder ac yn wrywod, adfeirch yn bennaf ond roedd rhai meirch yn cael eu cadw. Roedd y mwyafrif o deip Cob Cymreig ond roedd ceffylau mwy megis ceffylau gwedd a cheffylau a fewnforiwyd o Wlad Belg hefyd yn cael eu cadw, yn enwedig ar yr wyneb neu ar y prif ffyrdd cludo. Pan oedd y stociau o geffylau yn isel, roedd modd eu cael o mor bell i ffwrdd ag America a Rwsia. Roedd merlod llai, tua 13 dyrnfedd o uchder, yn cael eu defnyddio weithiau ar gyfer dyletswyddau cludo ysgafn.

Roedd yn rhaid iddyn nhw fod o leiaf 4 oed cyn cael eu derbyn i waith pwll glo. Ym 1893, roedd disgwyliad oes cyfartalog ceffyl pwll glo rhwng 8 a 9 mlynedd, a byddai tua 6% yn cael eu lladd mewn damweiniau. Erbyn y 1950au roedd hyn wedi codi i rhwng 10 a 15 mlynedd, er bod rhai a oedd yn cyflawni 'tasgau ysgafn' yn dal i fod mewn cyflogaeth a hwythau dros 20 oed.

Erbyn y 1930au, roedd y rhan fwyaf o geffylau yn gweithio rhwng 45 a 60 awr yr wythnos. Ar ôl 1949 nid oedd uchafswm yr oriau gwaith i fod yn fwy na 48 awr a dim mwy na 7 shifft, yr wythnos. Roedd ganddyn nhw hefyd hawl i'r un egwyl o 20 munud â'r dynion.

Ym 1938, roedd gan lowyr hawl i wythnos o wyliau blynyddol â thâl, ac roedd y ceffylau fel arfer yn cael eu caniatáu uwchben y ddaear hefyd. Erbyn 1948 roedd y glowyr a'r ceffylau yn cael pythefnos o wyliau blynyddol.

Erbyn 1878, roedd yr RSPCA yn amcangyfrif bod tua 200,000 o geffylau yn gweithio ym mhyllau glo Prydain. Erbyn 1913 roedd hyn wedi gostwng i 70,000, oherwydd dulliau cludo mecanyddol gwell. Ym 1930 adroddwyd nad oedd gan 25 o byllau glo Cymru unrhyw geffylau o gwbl. Ym 1947 roedd yna tua 8,000 o geffylau pwll glo yng Nghymru, erbyn 1967 dim ond 417 oedd. Erbyn yr 1980au roedd ceffylau'r Bwrdd Glo Cenedlaethol yn cael eu hymddeol ond, mewn 'pyllau preifat' llai, cafodd ceffylau eu defnyddio am rai blynyddoedd eto.

Ymddeolodd ceffylau pwll glo olaf Cymru, Gremlin a Robbie, o Bwll Glo Pant y Gaseg, Pont-y-pŵl, ym 1999. Cawson nhw eu hanfon i un o gartrefi gorffwys yr RSPCA yn Milton Keynes, ond roedd hynny'n rhy ddiflas i Robbie, a chafodd ei fenthyg i Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Lloegr yn Wakefield lle bu'n tynnu tybiau ysgafn o ymwelwyr o amgylch y safle. Bu farw Robbie ar 27 Ebrill 2009, y ceffyl pwll glo olaf yng Nghymru yn ôl pob tebyg.

I lawer o ymwelwyr â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, y rhannau mwyaf cofiadwy yw’r stablau tanddaearol a'r rhai ar yr wyneb, sy’n dal i ddwyn enwau’r ceffylau a oedd yn gweithio yno. Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, roedd tua 300 o geffylau yn gweithio ym mhyllau glo Blaenafon, a 72 ohonyn nhw’n gweithio yn Big Pit.

Daethpwyd â'r ceffyl tanddaearol olaf yn Big Pit i fyny ym 1972, ond parhaodd dau geffyl i weithio ar yr wyneb tan 1974.

Boed yn 'anifail anwes bodlon' neu'n 'ferlyn pwll truenus', roedd y ceffyl pwll glo yn rhannu'r un amodau a pheryglon â'r glöwr ei hun. Buon nhw’n farw yn eu cannoedd o gamdriniaeth, damweiniau a ffrwydradau. Mae arnom ddyled fawr iddynt, gan gynnwys llwyddiant y chwyldro diwydiannol.

Glo - hanes pobl ar-lein

2 Medi 2014

Cylchgrawn COAL o Bwrdd Glo Cenedlaethol

Cylchgrawn COAL a gynhyrchwyd gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol o fis Mai 1947 ymlaen. Newidiwyd yr enw'n ddiweddarach i COAL NEWS.

Mae'r cylchgrawn Glo ar gael ar Rhagor.

Seiliwyd arddull GLO ar y cylchgrawn ffotonewyddiaduraeth Picture Post, ac mae hefyd yn cydweddu â Ffrynt Cartref, cylchgrawn gwych Sain Ffagan oedd yn cofio bywyd Cymreig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae Glo hefyd yn debyg i COAL, cylchgrawn y Bwrdd Glo Cenedlaethol, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1947.

Gellid disgrifio Glo orau fel cylchgrawn 'hanes pobl'; gwahoddir pobl i gyfrannu eu barn, delweddau a phrofiadau ar pwnc arbennig.

Mae detholiad o straeon a delweddau o'r cylchgrawn ar gael ar Rhagor fel erthyglau unigol; mae pob un ohonynt yn cysylltu'n ôl i'r rhifyn perthnasol.

Mae'r cylchgronnau ar gael i'w lawrlwytho isod.

Gweithwyr Glo [4.8 MB]

Gweithwyr Glo [PDF 4.8 MB]

Gweithwyr Glo
Glo

Maes glo angof? [PDF 2MB]

Y Gogledd-ddwyrain: Maes glo angof?
Glo - Cadw'r Olwyn i Droi

Cadw'r Olwyn i Droi [PDF 2.4 MB]

Cadw'r Olwyn i Droi
Pwll Mawr [PDF 5.4MB]

Pwll Mawr [PDF 5.4MB]

Pwll Mawr
Dai a Tomi [PDF 5MB]

Dai a Tomi [PDF 5MB]

Dai a Tomi
Glo 10: Lleisiau Cambrian

Lleisiau Cambrian [PDF 2.2MB]

Lleisiau Cambrian
Chwerthin a Chrio - Glo 2016

Chwerthin a Chriö [PDF 7.1MB]

Chwerthin a Chriö
 

Cymru – gwlad forwrol fodern?

David Jenkins, 26 Medi 2013

Stemar tramp o Gymru yn llwytho glo mewn porthladd yng Nghymru - Y Radnor o Gaerdydd yn Nociau’r Barri ym 1925.

Stemar tramp o Gymru yn llwytho glo mewn porthladd yng Nghymru - Y Radnor o Gaerdydd yn Nociau’r Barri ym 1925.

Mae gan Gymru arfordir hir a rhyfeddol brydferth dros 850 o filltiroedd o hyd, a does unman yn y wlad ymhellach na deugain milltir o'r môr. Pa ryfedd felly i'r Cymry, dros y canrifoedd, brofi cyfnodau hir o forio brwd – ond nid felly bu hi erioed...

 

Y priffyrdd Celtaidd

Roedd teithio ar y môr yn bwysig yn y cyfnod cynhanesyddol, yn enwedig i'r seintiau Celtaidd. Mae archaeoleg yn datgelu i ba raddau y cai'r môr ei ystyried yn briffordd ganddynt, nid yn rwystr, ac mae'r faith bod yr un saint yn cael eu cofio yng Nghymru, Iwerddon, Cernyw a Llydaw yn brawf o'u teithio cenhadol.

Gyda dyfod y Llychlynwyr i reoli'r dyfroedd o amgylch Cymru dechreuodd y Cymry gefnu ar y môr, a hynny tan y 18fed ganrif pan fu'r Chwyldro Diwydiannol yn sbardun unwaith eto i fynd i forio. Roedd galw mawr am nifer o fwynau trwm o Gymru, a'r dull mwyaf economaidd o'u cludo oedd dros y môr, ar longau a adeiladwyd yng Nghymru ac a lywiwyd gan Gymry.

Glo stêm Cymru – tanwydd penna'r byd

Glo oedd y pwysicaf o lawer o'r mwynau a allforiwyd o Gymru. Dyma oedd tanwydd pennaf y byd â chanddo statws tebyg i olew heddiw, a dyma oedd sail economi Cymru o'r 1850au tan ymhell i'r ugeinfed ganrif. Doedd llongau oedd yn llosgi glo stêm de Cymru ddim yn dibynnu ar y gwynt a gallent gyrraedd pen eu taith yn gynt ac yn gyson, gan weddnewid agweddau o fywyd bob dydd.

Disgyn wnaeth y galw am lo stêm Cymru o'r 1920au ymlaen, ac erbyn 1957 olew oedd prif ffynhonnell ynni'r byd. Cafodd dirywiad diwydiannau trwm Cymru hefyd effaith ar ddiwydiant morwrol Cymru, gyda dociau'n cau a llai o Gymry'n mynd i'r môr. Heddiw, mae Cymru'n mewnforio mwy o ynni nag y mae'n allforio – fyddai neb wedi dychmygu hynny ganrif yn ôl!

Diwydiant twristiaeth

Mae'r môr yn denu miloedd o bobl i'r Gymru ôl-ddiwydiannol, ond i fwynhau, nid am fusnes. Ymhlith gweithgareddau morol yng Nghymru heddiw mae hwylio, syrffio, pysgota, arforgampau a gweithgareddau hamdden eraill. Twristiaeth erbyn hyn yw diwydiant mwyaf Cymru ac mae'r arfordir rhagorol yn allweddol wrth ddenu ymwelwyr i'r wlad.

Gweithwyr Francis Crawshay

26 Gorffennaf 2013

Yn y portreadau bychan yma mae un ar bymtheg o weithwyr Francis Crawshay (1811-1878 ), diwydiannwr o'i anfodd fyddai'n meithrin perthynas bersonol agos â'i weithwyr, peth anarferol yn y cyfnod. Ym 1819 prynodd ei dad – y diwydiannwr mawr William Crawshay II – weithfeydd Dur Hirwaun, ac erbyn canol y 1830au roedd Francis yn eu rheoli, ynghyd â gweithfeydd tunplat y teulu yn Nhrefforest, ger Pontypridd, oedd newydd eu ehangu.

Mae'r grŵp yn gasgliad o grefftwyr, gweithwyr anfedrus a rheolwyr – pob un yn sefyll yn eu dillad gwaith, gyda'u hoffer gwaith, a thirlun yn gefndir. Er y byddai unigolion cyfoethog weithiau'n comisiynu portreadau o'u gweision tŷ, dyma'r unig ddelweddau hysbys o weithwyr diwydiannol.

Credir taw'r artist oedd William Jones Chapman (tua 1808 – wedi 1871), paentiwr portreadau a hela teithiol oedd yn gweithio'n bennaf yng Nghymru a siroedd y gororau. Cafodd y grŵp ei gadw yn y teulu Crawshay dros y cenedlaethau, ac efallai bod y casgliad gwreiddiol yn fwy fyth.

Priodolir i William Jones Chapman (?1808 – wedi 1871), un portread ar bymtheg o weithwyr Francis Crawshay (1811-1878 ) yng ngweithfeydd Dur Hirwaun a gweithfeydd Tunplat Trefforest, tua 1835-40.
Rhoddwyd gan Sylvia Crawshay, 2012

'Bywydau Glowyr yn werth 5½c yr un': Ymgynghoriad y Llywodraeth i drychineb Senghennydd 1913

6 Gorffennaf 2012

Mam ifanc a'i phlentyn yn aros am newyddion

Mam ifanc a'i phlentyn yn aros am newyddion

Oriawr Senghennydd

Darganfuwyd yr oriawr hon ar gorff yn dilyn trychineb pwll glo Senghennydd ar 14 Hydref 1913, ac fe'i defnyddiwyd i adnabod y corff. Bu farw 440 o ddynion o ganlyniad i'r trychineb. Ni ddarganfuwyd rhai o'r cyrff. Hwn oedd y trychineb gwaethaf yn hanes meysydd glo Prydain.

Cyrff gweithwyr yn cael eu cario o'r pwll

Cyrff gweithwyr yn cael eu cario o'r pwll

Senghenydd-Explosion-Report-opt.pdf

Senghenydd Explosion Enquiry and Report to the Home Office 1913

Senghenydd-Explosion-Report-APPENDICES.pdf

Senghenydd Explosion Enquiry and Report - APPENDICES

Cyfanswm terfynol y gwŷr a fu farw yn nhrychineb glofa ar 14 Hydref 1913 oedd 439. Chafodd rhai o'r cyrff fyth eu canfod. Dyma un o'r trychinebau glofaol gwaethaf yn hanes meysydd glo Prydain.

Ddeng munud wedi wyth ar fore 14 Hydref 1913 roedd y 950 o ddynion sifft y dydd yng nglofa Universal, Senghennydd newydd ddechrau ar eu gwaith pan ysgubodd ffrwydrad anferth drwy'r gwaith.

Roedd cymaint o bŵer yn y ffrwydrad nes i'r gawell ddwy dunnell gael ei thaflu i fyny Siafft Lancaster hyd nes taro'r gêr weindio.

Daeth y dynion oedd yn gweithio ar ochr ddwyreiniol y gwaith tanddaear i gyd i'r wyneb yn ddiogel, ond roedd yr ochr orllewinol yn danchwa, a dim ond llond llaw a ddihangodd.

Erbyn 20 Hydref, roedd y cyfanswm wedi cyrraedd 440 gan gynnwys un gweithiwr achub.

Allai'r ymchwiliad dilynol ddim canfod achos y ffrwydrad er bod pawb yn gytun bod nwy methan (llosgnwy) wedi cyfrannu. Daeth hi'n amlwg fod bynnag bod nifer o reolau Deddf Pyllau Glo 1911 wedi cael eu torri.

Ym mis Mai 1914 wynebodd rheolwr y lofa, Edward Shaw, 17 cyhuddiad tra wynebodd perchnogion y lofa, Lewis Merthyr Coal Company, 4 cyhuddiad.

Cafwyd Edward Shaw yn euog o 8 o'r cyhuddiadau a chodwyd dirwy o £24 arno, a arweiniodd at bennawd yn un o'r papurau lleol yn datgan 'Bywydau Glowyr yn werth 5½p yr un'. Cafwyd y perchnogion yn euog o un cyhuddiad o fethu gosod gwyntyll awyru cildroadol a chodwyd dirwy o £10 a £5.25 o gostau arnynt.

Roedd 60 o'r gŵyr a laddwyd o dan eu hugain oed, ac wyth yn bedair ar ddeg yn unig. Gadawyd 205 o fenywod yn weddwon, 542 o blant heb eu tadau a 62 o rieni dibynnol heb eu meibion.

Hwn oedd yr ail ffrwydrad yng nglofa Universal – bu farw 81 o ddynion ym 1901.

Caeodd glofa Universal ym mis Mawrth 1928.

Isod gellir gweld copi o'r ymgynghoriad llawn gan y Swyddfa Gartref i'r ffrwydrad yng nglofa Universal Colliery, Senghennydd ym 1913.