Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Cyfraniad Cymru at dŵf ymerodraeth forwrol Prydain Oliver Fairclough, 27 Tachwedd 2015 Mae gan Amgueddfa Cymru ddau bortread sy’n dangos rôl Cymru yn natblygiad ymerodraeth forwrol Prydain yn y ddeunawfed ganrif. Paentiwyd y lleiaf o’r rhain oddeutu 1764 ac mae’n bortread llawn (54.5 x 42.6 cm) o William Owen (1737-1778). Paentiwyd yr ail yn Canton, Tsieina oddeutu 1791 ac mae’n bortread o John Jones (1751-1828), Capten yn gwasanaethu’r East India Company. William Owen William Owen (1737-1778) Ganwyd William i deulu cefnog Owens of Cefyn-yr-Hafodau yn Sir Feirionydd. Roed bywyd ar y môr yn beryglus, a gwneud gyrfa ohoni yn waith caled oed yn galw am dylanwad yn ogystal â thalent. Roedd yn yrfa addas i ŵr bonheddig, fodd bynnag, nad oedd yn gofyn am fuddsoddiad ariannol mawr gyda phosibilrwydd hefyd o wneud ffortiwn o gipio trysor a gwobrwyon. Byddai’n rhaid i deuluoedd berswadio Capten i groesawu eu mab i’w griw fel ‘gŵr bonheddig ifanc’ er mwyn ennill y chwe mlynedd o wasanaeth fyddai’n rhaid eu cwblhau i gymhwyso fel Is-gapten. Derbyniodd tad William eirda gan Ysgrifennydd y Morlys a roddodd y bachen yng ngofal ei fab-yng-nghyfraith. Gwasanaethodd William yng Ngorllewin Affrica ac India’r Gorllewin cyn hwylio am India ym 1754. Roedd ei saith mlynedd yn yr is-gyfandir yn rhai prysur gyda Phrydain mewn rhyfel â Ffrainc. Ymladdodd William ar y tir ym Mrwydr Plassey yn ogystal ag ar y môr, a chael ei anafu gan belen mysged. Fe’i dyrchafwyd yn Is-gapten ym 1758, ac roedd yn rhan o’r gwarchae ar harbwr Pondicherry lle cafodd ei anafu drachefn wrth ymosod ar ddwy long Ffrengig. Gwelir Owen yn lifrau Is-gapten yn y Llynges Frenhinol (patrwm 1748-1767). Esboniodd mewn cofnod o’i wasanaeth sut iddo golli rhan o’i fraich dde wrth ymosod ar ddwy long Ffrengig dan ynnau Pondicherry: 'on the night of 7 Oct 1760 he [was] ordered to cut out the French ships La Baleine and Hermoine from under the guns of Pondicherry, … [when] he had the misfortune to have his right arm shot off … by a Cannon Ball. Dychwelodd Owen i Brydain ar hanner cyflog ar ddiwedd y rhyfel ym mis Tachwedd 1762. Prin oedd y cyfle am ddyrchafiad mewn cyfnod o heddwch ac ym 1766 hwyliodd i Nova Scotia gyda’r Arglwydd William Campbell, oedd newydd gael ei benodi’n llywodraethwr. Rhoddodd Campbell ynys iddo ym Mae Passamaquoddy (rhwng New Brunswick a Maine) ac erbyn 1771 roedd 73 o bobl wedi ymsefydlu yno. Dychwelodd i Brydain wrth i ryfel Sbaen gorddi, ond rhaid oedd aros tan 1776 cyn derbyn comisiwn unwaith eto a hwylio am India. Daeth dyrchafiad i’w ran i swydd Comander y slŵp HMS Cormorant. Yn anffodus, ni welodd William ddiwedd y rhyfel – cafodd ei ladd mewn damwain feddw y Madras yn Hydref 1778. John Jones John Jones (1751-1828) Ganwyd John Jones i deulu dosbarth canol yn Abertawe ym mis Awst 1751. Daeth yn brentis morwr masnachol cyn gwasanaethu ar un o longau’r East India Company, Queen, ar fordaith i Madras a Tsieina ym 1770-1772. Wedi dychwelyd ymunodd â’r Llynges Frenhinol. Roedd heddwch ym Mhrydain ym 1773 ac mae’n debyg iddo ymrestru er mwyn gwella ei statws cymdeithasol a phroffesiynol. Roedd o ddosbarth is na William Owen ac fellu bu’n gwasanaethu fel Meistr (gwarantswyddog yn gyfrifol am fordwyo) cyn derbyn comisiwn Is‑gapten ym 1782 ar ddiwedd Rhyfel America. Heb swydd ar ddiwedd y rhyfel, ymunodd â’r East India Company gan wasanaethu am bymtheg mlynedd. Ef oedd Mêt 1af y Carnatic ym 1786-7, a Mêt 1af y Deptford ym 1787-9. Yn y pen draw fe’i penodwyd yn Gapten un o longau’r cwmni, Boddam, gan hwylio dair gwaith i Tsieina ym 1791-2, 1793-4 a 1800-1. Mae ei lyfr cyfrifon personol o fordaith gyntaf y Boddam wedi goroesi ac yn dangos iddo fuddsoddi £11,000 mewn nwyddau i’w gwerthu ym Madras a Canton (gan gynnwys haid o gŵn hela) gan wneud elw personol o bron i £4,000. Defnyddiodd yr arian hwn i brynu gwerth £7,500 o nwyddau lleol yn Canton, fyddai wedi’u gwerthu am fwy o elw yn Llundain. Paentiwyd ei bortread gan Guan Zuolin, artist o Tsieina oedd yn gweithio yn Canton rhwng 1770 a 1805. Roedd yn arfer y dull flat, clir, Ewropeaidd o baentio mewn paent olew wedi’i deneuo â dŵr. Ym 1794 prynodd Jones Dŷ Sain Helen uwchlaw Bae Abertawe a comisiynodd y pensaer William Jernegan i’w ailadeiladu fel fila neo-glasurol. Mae golygfa o’r tŷ ym 1800 yn ei ddangos mewn glaswelltir gyda cheffylau, gwartheg a defaid John Jones yn pori. Treuliodd ymddeoliad cyfforddus yno tan ei farwolaeth mewn damwain cerbyd ym 1828. Dŷ Sain Helen
Cymru – gwlad forwrol fodern? David Jenkins, 26 Medi 2013 Stemar tramp o Gymru yn llwytho glo mewn porthladd yng Nghymru - Y Radnor o Gaerdydd yn Nociau’r Barri ym 1925.
Baner y Sgowtiaid ar daith i Begwn De Jennifer Barsby, Adran Gadwraeth, Elen Phillips, Adran Bywyd Gwerin, a Tom Sharpe, 14 Mehefin 2013 Comander Evans yn rhoi'r faner yn ôl i'r Arweinydd T. W. Harvey ar fwrdd y Terra Nova ar 17 Mehefin 1913 Achub y faner o weddillion neuadd y sgowtiaid, Wyverne Road, Cathays, Caerdydd, wedi cyrch bomio Almaenig ar 30 Ebrill 1941 Pan ddychwelodd y Terra Nova, llong alldaith Antarctig Capten Scott, i borthladd Caerdydd ar 14 Mehefin 1913, roedd sawl baner yn chwifio arni. Yn ogystal â Lluman Wen ar ei starn, y ddraig goch ar y prif hwylbren ac arfbais Dinas Caerdydd ar yr hwylbren blaen, roedd baner arall tipyn llai hefyd yn cyhwfan ar flaen y llong. Baner fach werdd 4ydd Trŵp Sgowtiaid Caerdydd oedd hi, a aeth i'r Antarctig ac yn ôl. Sefydlwyd 4ydd Trŵp Sgowtiaid (St Andrew) Caerdydd yn ardal Cathays yng Nghaerdydd ym mis Hydref 1908, prin bum mis wedi i sylfaenydd y mudiad Robert Baden-Powell gyhoeddi Scouting for boys. Er gwaetha'i deitl, dyma'r trŵp sgowtiaid cyntaf i'w sefydlu yng Nghymru. Ym mis Mawrth 1910, archebodd eu harweinydd, T. W. Harvey, faner gan bencadlys y sgowtiaid yn Llundain, er mwyn ei chyflwyno i Scott ar gyfer ei alldaith arfaethedig i Begwn y De. Talodd chwe swllt amdani, a thair ceiniog i'w phostio, ac ar yr anfoneb a bostiwyd gyda'r taliad drwy archeb bost, ysgrifennodd "Urgent. For Captain Scott Terra Nova for South Pole" . Cyflwynwyd y faner i'r alldaith ym mis Mehefin 1910, pan oedd y Terra Nova yng Nghaerdydd i lwytho glo a chyflenwadau eraill yn barod ar gyfer y fordaith fawr i'r Antarctig ar 15 Mehefin. Roedd yn un o sawl baner a gyflwynwyd i'r alldaith yng Nghaerdydd gyda chais i'w cludo i Begwn y De. Mae'n sicr i'r baneri gyrraedd caban cychwynnol yr alldaith yn Cape Evans, McMurdo Sound ym môr Ross, ond go brin yr aeth Scott â nhw bob cam i Begwn y De ei hun. Ffurfiodd 4ydd sgowtiaid Caerdydd osgordd er anrhydedd ar ochr y cei yn Noc y Rhath pan ddychwelodd y Terra Nova i Gaerdydd ddydd Sadwrn 14 Mehefin 1913. Dridiau'n ddiweddarach, ar 17 Mehefin, ymgasglodd tua hanner cant o'r trŵp ar fwrdd y Terra Nova i wylio'r Comander Teddy Evans – a gymerodd yr awenau ar ôl i Scott farw – yn cyflwyno eu baner yn ôl i'w harweinydd T. W. Harvey. Wrth annerch y bechgyn, dywedodd Evans, "Well, boys, here's your flag, and I hope you will treasure it. It has been a long way. If you become such good soldiers as Captain Oates, you will be good men." Ar ôl i'r faner ddychwelyd i ddwylo'r sgowtiaid, cafodd ei fframio a'i harddangos yn neuadd y sgowtiaid yn Wyverne Road Caerdydd tan 30 Ebrill 1941, pan gafodd yr adeilad ei ddinistrio gan ffrwydryn tir Almaenig a ollyngwyd yn ystod cyrch awyr. Wrth chwilio a chwalu drwy'r adfeilion wedyn, cafodd pawb gryn syndod o weld y faner yn un darn a ddim gwaeth. Nid dyna ddiwedd anturiaethau'r faner, fodd bynnag. Cafodd ei harddangos yn y cwt newydd, a losgodd i'r llawr maes o law, cyn symud i adeilad newydd arall yn Cathays a ddifrodwyd gan ddŵr ar ôl i'r peipiau fyrstio. Goroesi fu hanes y faner unwaith eto. Bellach yn rhan o gasgliad tecstilau Amgueddfa Cymru, mae baner 4ydd trŵp sgowtiaid Caerdydd (St Andrew) wedi ailymuno â dwy faner arall oedd yn cyhwfan ar y Terra Nova pan ddychwelodd i Gaerdydd – y Lluman Wen a'r Ddraig Goch. Baner 4ydd Trŵp Sgowtiaid Caerdydd Boy Scouts Be Prepared Mae'r faner wedi'i gwneud o ddau ddarn o frethyn gwlanog gwyrdd garw, gwehyddiad plaen, wedi'i gwnïo â pheiriant drwy'r canol gyda phwythau dwbl ag edau gotwm ddu. Mae'r ochrau wedi'u troi tu chwith a'u gwnïo â pheiriant gyda'r un edau ddu. Ar ganol y faner mae motiff fleur-de-lis melyn y Sgowtiaid wedi'i amlinellu â phaent brown a du. Mae'r brethyn gwyrdd wedi'i randorri a'r ymylon wedi'u troi am i mewn, gyda'r motiff wedi'i osod ar y tu blaen, a'r ymylon wedi'u plygu oddi tano a'u gwnïo â pheiriant gyda phwythau dwbl. Mae'r dechneg hon yn golygu bod modd gweld y motiff o'r ddwy ochr wrth chwifio'r faner, er mai dim ond o'r tu blaen y gellir gweld yr ysgrifen. O dan y fleur-de-lis, mae sgrôl, eto mewn gwlân melyn, â'r arwyddair BOY SCOUTS BE PREPARED wedi'i beintio mewn priflythrennau du. Mae enw'r trŵp wedi'i beintio'n wyn yn y gornel chwith isaf. Mae'n mesur 92.5 cm x 115cm, sy'n golygu mai dyma'r faner leiaf o blith baneri'r Terra Nova sydd yng nghasgliad yr Amgueddfa. Mae ymyl y faner, a fyddai wedi bod yn nannedd y gwynt, wedi treulio cryn dipyn. Mae difrod fel hyn yn gyffredin ar faneri. Mae rhywfaint o farciau duon ar y tu blaen hefyd, ac er na wyddom yn union beth ydyw, mae'n debyg iawn i'r marciau sydd ar y ddwy faner arall o gasgliad y Terra Nova. Mae olion rhwd bach, tyllau pinnau a phwythau tacio hir yn awgrymu ei bod wedi'i harddangos ar fwrdd caled mewn ffrâm ar un adeg. Mae cryn dipyn o ddifrod golau ar y tu blaen hefyd. Yn anffodus, does dim modd gwrthwneud hyn, ond bydd deunyddiau ar gyfer cadwraeth yn helpu i gynnal strwythur ffisegol y faner. Mae olion colli lliw, rhwygo a staenio yn ein helpu i ddeall sut cafodd y faner ei defnyddio, ei storio a'i harddangos yn ystod 103 o flynyddoedd o hanes. Ein nod yw diogelu cymaint ag sy'n bosib o wybodaeth am orffennol y faner.
Bro Morgannwg a bwrlwm diwydiant 31 Gorffennaf 2012 Adeiladwyd dociau newydd ym Mhorth-cawl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Llun o Grochendy Ewenni o ddechrau'r ugeinfed ganrif. Chwarel galchfaen ger Aberddawan yn 1950au. Dociau'r Barri, tua 1910, gyda llongau wedi'u hangori wrth y bwiau'n aros i lwytho glo. Bro Morgannwg a bwrlwm diwydiant Er mai amaeth fu diwydiant y Fro yn bennaf, mae nifer o ddiwydiannau eraill wedi chwarae rhan bwysig yn hanes yr ardal, ac mae rhai ohonynt yn dal ar waith heddiw. Datblygodd rhai o'r diwydiannau hynny oherwydd daeareg galchfaen yr ardal, ac eraill oherwydd yr arfordir maith neu'r dirwedd gymharol wastad. Crochenwaith Bu crochendy yn Ewenni ers dechrau'r bymthegfed ganrif. Y teulu Jenkins fu wrth y llyw ers 1610, ac mae'n parhau'n fusnes llwyddiannus heddiw. Chwarela Bu cryn dipyn o gloddio am galchfaen yn yr ardal hon. Cafodd ei ddefnyddio yn y diwydiant adeiladu, a'i losgi er mwyn cynhyrchu gwrtaith a sment. Roedd yn cael ei gludo hefyd ar draws Môr Hafren i Wlad yr Haf a gogledd Dyfnaint. Mwyngloddio Yn y cymoedd i'r gogledd o'r Fro, roedd cronfeydd helaeth o lo ager o ansawdd uchel. Er gwaethaf maint enfawr a phrysurdeb dociau Caerdydd, roeddent yn rhy fach i ateb y galw byd-eang am y tanwydd gwerthfawr. Felly, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladwyd cyfleusterau newydd ym Mhorth-cawl, Penarth a'r Barri. Yn wir, pan oedd y diwydiant ar ei anterth ym 1913, allforiwyd dros 11 miliwn o dunelli o'r Barri. Mae dociau'r Barri'n dal mewn defnydd heddiw.