William James Tatem, Barwn 1af Glanely, 1868-1942 David Jenkins, 30 Tachwedd 2011 William James Tatem, Barwn 1af Glanely o Sain Ffagan. Mae'n debyg taw fel perchennog ceffylau rasio nodedig y cofiwn ni am Arglwydd Glanely heddiw, gyda'i geffylau yn ennill pob un o'r pum Clasur Prydeinig. Yn y diwydiant llongau y gwnaeth ei ffortiwn fodd bynnag, ac roedd yn hael yn ei gefnogaeth o achosion da yn ne Cymru, yn enwedig Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Nid Cymro oedd Tatem o gwbl; cafodd ei eni yn Appledore yng ngogledd Dyfnaint ym 1868, ac wedi marwolaeth ei dad yn ifanc, symudodd ei fam y teulu i Gaerdydd pan oedd Tatem yn ddeunaw. Ymunodd â chwmni llongau Anning Brothers fel clerc gan ddod i ddeall y busnes llongau yn drylwyr. Defnyddiodd y wybodaeth hon i fentro i'r busnes ar ei liwt ei hun ym 1897, ac roedd meistr un o'i longau hefyd yn frodor o Appledore, William Reardon Smith. Fflyd fawr Erbyn 1914 roedd Tatem wedi adeiladu fflyd sylweddol o un llong ar bymtheg. Cafodd ei urddo'n fachog ym 1916 ac ym 1918 cafodd ei ddyrchafu'n un o arglwyddi'r deyrnas gan ddwyn y teitl, Barwn Glanely o Sain Ffagan. Roedd yn berchennog llongau craff a werthodd ei fflyd am grocbris ym 1919 pan oedd ffyniant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei anterth, cyn dychwelyd i'r busnes gyda chwe llong newydd am fargen ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Diolch i hyn, bu blynyddoedd y dirwasgiad yn llawer haws iddo na'i gyfoedion. Exning, plasty'r Arglwydd Glanely yn Newmarket Yr Arglwydd Glanely yn arwain Singapore, wedi ennill ras St Leger 1930; Gordon Richards oedd y joci 'Sporting Bill' Datblygodd ei ddiddordeb mewn rasio ceffylau ymhellach wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1919-20 prynodd dŷ gwych Exning yn Newmarket, a stablau cyfagos Lagrange. Daeth ei fuddugoliaeth fawr gyntaf yn Royal Ascot ym 1919 pan enillodd Grand Parade y Derby. Roedd y fuddugoliaeth hon yn ddadleuol ar y pryd, gan taw ef oedd yn berchen y ffefryn yn yr un ras, Dominion. Roedd Dominion ymhell ar ei hol hi pan basiodd Grand Parade y postyn yn gyntaf am bris o 33/1 — gyda arian Glanely i gyd ar hwnnw! Roedd yn ffigwr adnabyddus yn y rasys mawr i gyd a byddai pawb yn ei adnabod fel "sporting Bill". Dyngarwch ac achosion da Roedd yn hael ei gefnogaeth ariannol i Amgueddfa Cymru, ac enwyd Oriel Glanely yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ei ôl. Bu'n llywydd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ddwywaith, ym 1920-25 a 1934-42, ac ariannodd y gwaith o adeiladu labordai gwyddonol newydd. Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen defnyddiodd ddwy o'i longau ei hun i gludo nifer fawr o ffoaduriaid o Wlad y Basg i dde Cymru, a sefydlodd elusen i'w cynorthwyo yn ddiweddarach. Er iddo lwyddo mewn sawl maes, profodd sawl tristwch yn ei fywyd personol. Bu farw ei unig fab, Shandon yn chwe mlwydd oed ym 1905, a bu farw'r Arglwyddes o'i hanafiadau yn dilyn damwain car ym 1930. Cafodd yntau ei ladd mewn cyrch awyr ar Weston-Super-Mare ar 24 Mehefin 1942.
Casgliad ffotograffau ddiwydiannol Hansen Mark Etheridge, 15 Mawrth 2011 Un o drysorau mwyaf archif ffotograffau ddiwydiannol gyfoethog Amgueddfa Cymru yw Casgliad Hansen. Mae yn y casgliad 4,569 negatif o longau yng Nghaerdydd (gyda dwy ran o dair ohonynt yn negatifau gwydr). Fe'i tynnwyd gan aelodau o deulu Hansen rhwng 1920 a 1975 ac maent yn gofnod ffotograffig arbennig o fynd a dod llongau yn y porthladd yn ystod y cyfnod hwnnw. I drigolion glannau Môr Hafren, byddai'n rhaid teithio bob haf ar un o stemars pleser 'White Funnel' P.& A. Campbell. Newydd gael ei hadeiladu oedd y Bristol Queen a welir yma yn gadael Caerdydd yn ystod haf 1947. (1179/1279) Arferai Caerdydd allforio glo, olew a phetrol, ond erbyn diwedd y 1940au roeddent yn cael eu mewnforio. Adeiladwyd tancer 'BP' British Success ym 1946 ar yr afon Clud. Tynnodd Hansen ffotograff ohoni yn angori yn Noc y Rhath yng Nghaerdydd ar 2 Awst 1947. (1633/1720) Roedd gweld llongau'r cwmnïau cargo Prydeinig mawr yn beth cyffredin yng Nghaerdydd yn y blynyddoedd wedi'r Ail Ryfel Byd. Adeiladwyd City of Pretoria ym Mhenbedw ym 1947 i gwmni Ellerman Bucknall Line. Dyma hi yn cyrraedd Caerdydd ym 1964, gyda phentir Penarth yn y golwg yn y pellter. (3633/180C) Wrth reswm, mae llongau cwmnïau llongau Caerdydd yn amlwg yng Nghasgliad Hansen. Adeiladwyd y llong gargo stêm Peterston yn Sunderland ym 1925 ar gyfer Evan Thomas, Radcliffe & Co., ac fe'i gwelir yma yn cyrraedd Caerdydd ym 1947. (1181/1281) Prynwyd y casgliad ym 1979 ac ers hynny, mae print o sawl un o negatifau'r casgliad wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau gan Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Llongau'r Byd. Ym 1993 cyhoeddwyd detholiad o ffotograffau o'r casgliad ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru a Gwasg Prifysgol Cymru, gyda chefnogaeth ariannol gan y Gyfnewidfa Faltig. Bu Shipping at Cardiff: Photographs from the Hansen Collection, 1920-75 (ISBN 0-7083-1231-4) yn gyhoeddiad poblogaidd gan aildanio diddordeb yn y casgliad cyfan ac arwain at sawl ymholiad am ei gwmpas a'i gynnwys. Morwr o Ddenmarc â diddordeb mewn ffotograffiaeth oedd Lars Peter Hansen. Ymsefydlodd yng Nghaerdydd ym 1891 gan sefydlu busnes ffotograffiaeth oedd yn canolbwyntio ar gofnodi llongau ym mwrlwm y dociau. Ym 1936, etifeddodd ei drydydd mab Leslie y busnes, a parhaodd ef i dynnu ffotograffau o longau tan ei ymddeoliad ym 1975. Yn anffodus, ymddengys nad oes unrhyw negatifau wedi goroesi o'r cyfnod cyn 1920, er bod rhai printiau o longau a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf â nod Hansen arnynt yng Nghasgliad yr Amgueddfa. Ym 1979, penderfynodd mab Leslie Hansen, Leslie oedd ei enw yntau hefyd, werthu'r negatifau oedd yn weddill a phrynwyd y casgliad cyfan gan Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru. Swyddog Cadwraeth yr Amgueddfa ar y pryd oedd Mr Don Taylor. Aeth ati i gwblhau'r dasg anferth o ail-rifo pob negatif, eu gosod mewn bagiau negatif newydd a chasglu catalog o'r deunydd. Diolch i wybodaeth helaeth Mr Taylor o longau a'i natur drylwyr, cynhyrchwyd catalog manwl a chynhwysfawr a arweiniodd at gyhoeddi The Hansen Shipping Photographic Collection (ISBN 0-7200-0437-3) ym 1996. Dylai darllenwyr sydd am archebu printiau o'r casgliad hwn gysylltu â: Swyddog Trwyddedu Delweddau, Mentrau AOCC Cyfyngedig, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP Ffôn: (029) 2057 3280 neu ebostio kay.kays@amgueddfacymru.ac.uk Nodwch enw'r llong a rhif catalog. Gellir gweld prisiau gwahanol fathau o atgynhyrchiadau ffotograffig wrth wneud cais i'r cyfeiriad uchod.
Llofnodion o Alldaith Capten Scott i'r Antarctig ym 1910 12 Tachwedd 2010 Y Terra Nova yn nociau Bute East, Caerdydd, 15 Mehefin 1910 Alldaith Antarctig Brydeinig Scott Roedd Alldaith Antarctig Brydeinig Scott ym 1910-13 wedi dal dychymyg y cyhoedd ym Mhrydain, yn enwedig wedi i long Scott, y Terra Nova, ddychwelyd i Gaerdydd o'r Pegwn heb Scott a phedwar o'i gymdeithion. Roedd galw mawr am lofnodion aelodau'r alldaith. Mae tair eitem yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru sydd, gyda'u gilydd yn cynnwys llofnodion 27 o swyddogion, gwyddonwyr a chriw alldaith Scott; dau wedi'u dyddio o ddechrau'r alldaith ac un o'i diwedd. Yn eu plith mae llofnodion Scott, Wilson, Bowers ac Oates fu farw ar y daith yn ôl o Begwn y De. Mae'n nodedig nad yw llofnod y Cymro Edgar Evans o Rossili yng Ngŵyr, y cyntaf i farw ar y daith yn ôl o'r Pegwn, i'w weld ar y dogfennau o ddechrau'r alldaith; Is-swyddog yn unig ydoedd. Dechrau o Gaerdydd Mae llofnodion y canlynol yn ategu ffotograff o'r Terra Nova, swyddogion y llong a swyddogion eraill: E. L. Atkinson Y llawfeddyg Edward Leicester Atkinson, RN (1881-1929). Prif Lawfeddyg y Parti a pharasitolegydd. Atkinson arweiniodd y daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912. W. W. Archer W.W. Archer, RN (Wedi ymddeol). Prif Stiward, Parti'r Lan. G. Murray Levick Y llawfeddyg George Murray Levick, RN (1877-1956). Llawfeddyg Parti'r Gogledd ar yr alldaith a oroesodd am saith mis drwy'r gaeaf mewn ogof ia. Astudiodd gytref Pengwiniaid Adélie ym Mhenrhyn Adare ac ysgrifennodd lyfr ar bengwiniaid yr Antarctig yn ddiweddarach. L. E. G. Oates Captain Lawrence Edward Grace Oates (1880-1912), 6ed Dragŵniaid Inniskilling. Yn dioddef yn enbyd gan effaith ewinrhew ar ei draed, bu farw Oates ar y daith yn ôl o Begwn y De ar 16 Mawrth 1912. Ef sy'n enwog am ddweud wrth ei gymdeithion, Scott, Wilson a Bowers, "I am just going outside and may be some time" wrth adael y babell a diflannu i'r storm eira. E. R. G. R. Evans Is-gapten Edward (Teddy) Ratcliffe Garth Russell Evans, RN (1881-1957). Dirprwy Bennaeth yr alldaith. Roedd Evans yn allweddol yn ennill cefnogaeth a nawdd Cymreig ar gyfer yr alldaith gan gymryd yr awenau wedi i Scott farw. R. Scott Capten Robert Falcon Scott, CVO, RN (1868-1912). Arweinydd yr Alldaith. Scott fu'n arwain Alldaith Discovery 1901-04 y a dychwelodd i arwain Alldaith y Terra Nova. Cyrrhaeddodd Begwn y Gogledd ar 16 Ionawr 1912 gyda Wilson, Bowers, Oates ac Edgar Evans. Bu farw'r pump ar y daith yn ôl. Y Terra Nova yn Hwylio tua'r Antarctig Llythyr wedi'i ddyddio 17 Mehefin 1910, Ar y Môr, oddi wrth Teddy Evans at P. Lowry Rusden o'r Mercantile Pontoon Co Cyf, Doc y Rhath, Caerdydd ar bapur gyda phennawd yr Alldaith Antarctig Brydeinig: ".. Daliasom awel deg yn gynnar bore ddoe ac rydym wedi bod yn hwylio ar gyflymder o fwy nag 8 not byth er hynny. Credaf na fydd yr un ohonom yn anghofio Caerdydd. Llofnodion Edward R. G. R. Evans Is-gapten Edward (Teddy) Ratcliffe Garth Russell Evans, RN (1881-1957). Dirprwy Bennaeth yr alldaith. Bu Evans yn cynllunio ei Alldaith Antarctig ei hun gyda chefnogaeth a nawdd Cymreig, pan glywodd am gynlluniau Scott. Cafodd yrfa forwrol enwog yn ddiweddarach gan gael ei urddo'n Arglwydd Mountevens ym 1946. D. G. Lillie Dennis G. Lillie MA. Biolegydd Parti'r Llong Victor Campbell Is-gapten Victor Lindsey Arbuthnot Campbell, RN (1875-1956). Arweinydd Parti'r Gogledd oedd wedi'i sefydlu i ddechrau ym Mhenrhyn Adare yng Ngwlad Victoria. Aeth chwe gŵr y parti Gogleddol i drafferthion i'r de ar yr arfordir gan oroesi am saith mis drwy'r gaeaf mewn ogof ia heb lawer o fwyd ac yn eu dillad haf. Apsley Cherry-Garrard Apsley George Benet Cherry-Garrard BA (1886-1959). Sŵolegydd Cynorthwyol. Talodd Cherry-Garrard £1000 i ymuno â'r Alldaith. Aeth yntau gyda Wilson a Bowers ar siwrnai yn y gaeaf i gasglu wyau Pengwiniaid Ymerodrol a ddisgrifiodd yn ddiweddarach yn ei lyfr, The worst journey in the world. Roedd yn rhan o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912. H.Rennick Is-gapten Henry E. de P. Rennick, RN. Prif Swyddog ar y Terra Nova. E. W. Nelson Edward W Nelson (1883-1923). Biolegydd, Parti'r Lan. Edward A. Wilson Dr Edward Adrian Wilson (1872-1912). Prif Wyddonydd a Sŵolegydd, Parti'r Lan. Bu Wilson gyda Scott ar Alldaith y Discovery 1901-4. Roedd yn artist a sŵolegydd medrus a thalentog ac yn ffrind agos i Scott. Bu farw gyda Scott a Bowers yn eu pabell ar Silff Ia Ross wrth ddychwelyd o Begwn y Gogledd ym Mawrth 1912. E. L. Atkinson Y Llawfeddyg Edward Leicester Atkinson, RN (1881-1929). Llawfeddyg y Prif Barti a pharasitolegydd. Atkinson arweiniodd y daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912. H. R. Bowers Is-gapten Henry Robertson Bowers, Royal Indian Marines (1883-1912). Cafodd Bowers ei roi yn ngofal y storfeydd gan Scott. Roedd yn aelod o'r Parti Pegynol olaf a bu farw gyda Scott a Wilson yn eu pabell ar Silff Ia Ross wrth ddychwelyd o Begwn y Gogledd ym Mawrth 1912. Dychwelyd i Gaerdydd Llofnodion swyddogion a chriw RYS Terra Nova ar eu dychweliad i Gaerdydd Mehefin 14/13 (Sadwrn). Stamp Un Geiniog Seland Newydd, "Victoria Land" wedi'i brintio drosto ac wedi ei ffrancio â "British Antarctic Expedition Ja 18 [19]13". Mae'r llofnodion ar y ddalen hon yn ddiddorol gan taw llofnodion y criw ydynt, ar wahân i bedwar swyddog a gwyddonydd, sy'n awgrymu y cai'r criw eu cyfri'n enwog ar ddychweliad yr alldaith. W. W. Archer W Archer, RN (Wedi ymddeol). Prif Stiward, Parti'r Lan. A. Cherry-Garrard Apsley Cherry-Garrard. Sŵolegydd Cynorthwyol. E. W. Nelson Edward W Nelson. Biolegydd. E. L. Atkinson Y Llawfeddyg Edward L Atkinson RN. Llawfeddyg y Prif Barti a pharasitolegydd. Wm W. Williams C.E.R.A. 2il Ddosbarth William W. Williams, RN. Prif Beiriannydd, Parti'r Llong. W. A. Horton E.R.A. 3ydd Dosbarth William A. Horton, RN. Is Beiriannydd, Parti'r Llong. T. S. Williamson Is-swyddog Dosbarth 1af Thomas S. Williamson, RN. Parti'r Lan. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4. Roedd yn aelod o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912. H. Dickason Llongwr Abl Harry Dickason, RN. Parti'r Gogledd. A. Balson Prif Longwr Albert Balson, R.N. Parti'r Llong. W. H. Neale Stiward W.H. Neale. Parti'r Llong. F. Parsons Is-swyddog Dosbarth 1af Frederick Parsons, RN. Parti'r Llong. Victor Campbell Is-gapten Victor Lindsey Arbuthnot Campbell, RN (1875-1956). Arweinydd Parti'r Gogledd Mortimer McCarthy Llongwr Mortimer McCarthy. Parti'r Llong. Wm L. Heald Is-swyddog Dosbarth 1af William L. Heald, RN (Wedi ymddeol). Parti'r Llong. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4. W. Lashly Prif Daniwr William Lashly, RN (1867-1940). Parti'r Lan. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4. Roedd yn aelod o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ymgartrefodd Lashly yng Nghaerdydd, gan weithio fel swyddog tollau tan iddo ymddeol i Hampshire ym 1932. H. Pennell Is-gapten Harry Lewin Lee Pennell, RN (1882-1916). Parti'r Llong, Mordwywr. F. E. Davies Prif Saer Llongau Francis E.C. Davies, RN. Saer, Parti'r Llong. A. S. Bailey Is-swyddog 2il Ddosbarth Arthur S. Bailey, RN. Parti'r Llong. J. Lees Llongwr Abl Joseph Lees, RN. Parti'r Llong.
Tanwydd ar gyfer teithio i'r Antarctig: Cwmni Tanwydd Patent y Goron, Caerdydd Jennifer Protheroe-Jones, 23 Gorffennaf 2010 Bloc o Danwydd Patent y Goron Teithiau arwrol i gyfandir yr AntarctigCafwyd sawl taith arwrol i gyfandir yr Antarctig tua dechrau'r ugeinfed ganrif. Tanwydd Patent y Goron o'r De oedd y tanwydd a ddewiswyd ar gyfer yr allteithiau hyn i'r Antarctig.Tanwydd Patent y GoronYn ogystal â derbyn 100 tunnell o lo stêm gan gwmnïau glo'r De, cafodd Alldaith Brydeinig Capten Scott i'r Antarctig 300 tunnell o flociau tanwydd gan Gwmni Tanwydd Patent y Goron Caerdydd. Diolch i hyn a'r nawdd arall a gafwyd o Gaerdydd a'r De, penderfynodd Scott ddynodi Caerdydd yn borthladd cartref ei long, y Terra Nova. Anfonodd y Terra Nova i lwytho tanwydd yng Nghaerdydd yn hytrach na'i anfon ar y trên i Lundain.Roedd gwaith Tanwydd Patent y Goron ger camlas Morgannwg yn y Maendy. Roedd yn un o nifer ar hyd y gamlas, a diolch i'w cyfraniad nhw a chyfraniad nifer o weithfeydd eraill mewn porthladdoedd eraill yn y De, roedd y rhanbarth hwn yn cynhyrchu mwy o danwydd patent nag unman arall yn y byd. Cafodd y rhan fwyaf o'r tanwydd patent ei allforio, ac roedd Ffrainc yn un o'r prif gwsmeriaid.Scott yn canmol llwyddiant y tanwydd patentEr mwyn gwneud y tanwydd roedd rhaid cymysgu a chynhesu glo mân wastraff a phyg, gweddillion tar glo distyll, a chywasgu'r cymysgedd mewn mowldiau. Cynhyrchwyd blociau yn amrywio o 7 pwys i 56 pwys. Blociau 28 pwys oedd y rhai mwyaf cyffredin — a dyna'r rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer alldaith Scott. Roedd modd pentyrru'r blociau yn rhwydd ac nid oeddynt angen cymaint o le â glo.Pan gyrhaeddodd yr anturwyr eu prif wersyll yn Cape Evans ar Ynys Ross yn yr Antarctig, defnyddiwyd y blociau tanwydd i adeiladu wal gefn y stablau a godwyd ar gyfer merlod yr alldaith.Teithiau cynharachYm 1901 derbyniodd llong y Discovery a ddefnyddiodd Capten Scott ar ei alldaith gyntaf i'r Antarctig 200 tunnell o Danwydd Patent yng Nghaerdydd. Roedd yr Aurora, llong Alldaith Awstralasia i'r Antarctig (1911-14) hefyd yng Nghaerdydd i dderbyn Tanwydd Patent y Goron ar 4 Awst 1911 cyn hwylio i Awstralia a'r Antarctig.
Syr William Reardon Smith (1856-1935) David Jenkins, 15 Hydref 2009 Gall y rhan fwyaf o amgueddfeydd ddiolch un cymwynaswr yn arbennig am newid eu byd; Syr William Reardon Smith oedd y gŵr hwnnw yn achos Amgueddfa Cymru.Fel trysorydd (1925-28) a llywydd (1928-32) yr Amgueddfa, Syr William Reardon Smith fu'n gyfrifol am wyrdroi cyflwr echrydus coffrau'r Amgueddfa, a goruchwylio'r gwaith o gwblhau adain ddwyreiniol fawreddog Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy'n rhan annatod o ganolfan ddinesig unigryw Caerdydd.Nid Cymro oedd Reardon Smith; cafodd ei eni i deulu morwrol ym mhentref glan môr Appledore ar arfordir gogledd Dyfnaint ar 7 Awst 1856.Gwas llongPan oedd Syr William yn 3 oed, bu farw ei dad pan suddodd ei sgwner mewn storm ar y môr ger Porth Tywyn. Er gwaethaf hyn, daeth Reardon Smith yn was caban pan oedd yn dal i fod yn ei arddegau cynnar. Dechreuodd trwy weithio ar longau lleol oedd yn ymwneud â busnesau arfordirol ardal Môr Hafren. Aeth ymlaen wedyn i wasanaethu ar y llongau hwylio oedd yn cludo deunydd i adeiladu rheilffyrdd i UDA a mwyn copr i Chile.Y Capten Reardon SmithAg yntau ond yn 22 oed, daeth yn gapten ar nifer o longau hwylio ac agerlongau, y mwyafrif ohonynt yn eiddo i'r cwmni llongau enwog o'r Alban, Hugh Hogarth of Glasgow. Symudodd i Gaerdydd gyda'i wraig a'i deulu ym 1900.Ym 1905, sefydlodd gwmni i brynu a gweithredu agerlong newydd, y City of Cardiff. Dyma oedd ei wir alwedigaeth. Bu'r fenter yn llwyddiant ysgubol, ac erbyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd ganddo naw agerlong cargo, oll yn allforio glo o'r de.Er iddo golli sawl llong wrth law'r llongau tanfor yn ystod y Rhyfel, daliodd ati i ehangu ei lynges. Erbyn 1930, roedd Reardon Smith yn gyfrifol am dros 35 o longau.Syr WilliamGwnaed Syr William yn farwnig ym 1920, a throdd ei sylw mwyfwy at weithgareddau dyngarol. Sefydlodd Ysgol Forwrol Reardon Smith ym 1921. Pedair blynedd yn ddiweddarach, prynodd fad hwylio mawr, y Margherita, i'w ddefnyddio fel cwch hyfforddi ac fel bad hamdden i'w deulu.Cyfrannodd yn hael at Ysbyty Brenhinol Caerdydd a hefyd at gost adeiladu ysbyty newydd yn Bideford. Gwaddolodd gadair athro yn adran ddaearyddiaeth Prifysgol Caer-wysg, sy'n dwyn ei enw hyd heddiw.Ond Amgueddfa Genedlaethol Cymru oedd prif ffocws ei haelioni. Rhwng 1915 a 1935, cyfrannodd ef a'i wraig, y Fonesig Ellen, rhyw £150,000 at goffrau'r Amgueddfa.Yn ogystal â'r rhoddion personol yma, gweithiodd yn ddiflino i godi arian o ffynonellau eraill. Er mwyn cydnabod ei gyfraniad, enwyd y ddarlithfa newydd a agorwyd yn adain ddwyreiniol yr Amgueddfa ym 1932 yn Ddarlithfa Reardon Smith.Bu farw Syr William ar 23 Rhagfyr 1935 yn dilyn salwch byr. Mae'r byd yn cofio amdano nid yn unig am ei lwyddiant fel perchennog llongau ond hefyd am ei haelioni neilltuol. Dewisodd wario ei ffortiwn ar newid byd pobl eraill, ac am hynny, mae trigolion de Cymru a gorllewin Lloegr yn ddyledus iddo hyd heddiw.Erthygl gan: David Jenkins.