Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52 Elen Phillips, 2 Mawrth 2020 Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52 Casgliadau Arlein: Gorchudd gwely clytwaith Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i dros 200 o gwiltiau a chlytwaith. Mae’r casgliad amrywiol a phwysig hwn yn cynnwys trawstoriad o gynlluniau a thechnegau, ac yn cynrychioli bron i 300 mlynedd o’r grefft yng Nghymru. Un o uchafbwyntiau’r casgliad yw Cwilt y Teiliwr – gorchudd gwely clytwaith a wnaed gan James Williams, prif deiliwr milwrol o Wrecsam. Mae cynllun y cwilt yn brawf o ddawn greadigol y teiliwr, yn ogystal â’i werthfawrogiad o orchestion peirianegol ei ddydd. Yn y gornel uchaf ar y chwith, mae Pont Menai a gwblhawyd gan Thomas Telford ym 1826. Mae traphont Cefn ger Wrecsam yng nghanol y darn, a phagoda Tsieineaidd yn y gornel uchaf. Mae'r golygfeydd eraill y cynnwys themâu Beiblaidd – arch Noa, Jona a’r morfil, Cain yn lladd Abel, a'r ddelwedd ganolog o Adda yn enwi'r anifeiliaid. Gwneir cwiltiau clytwaith yn aml drwy wnïo defnydd sydd dros ben, er enghraifft hen grysau neu siwtiau. Gwnaeth James Williams ei gwilt drwy ailgylchu sborion gwlân – defnydd lifrau milwrol mae’n debyg. Yn syfrdanol, mae'r cwilt cyfan yn cynnwys 4,525 o ddarnau mân, oll wedi'u gwnïo at ei gilydd o’r cefn gyda thrawsbwythau. Gelwir y math hwn o waith yn glytwaith mewnosod. Mae’n dechneg sy’n gofyn am fedr arbennig â’r nodwydd a brethyn sy’n ddigon trwchus i ddygymod â’r trawsbwythau. O ganlyniad, mae’r engreifftiau sydd i’w canfod mewn casgliadau amgueddfeydd yn dueddol o fod yn gysylltiedig â theilwriaid proffesiynol. Yn ôl hanes teuluol, bu James Williams wrthi am ddegawd, rhwng 1842 a 1852, yn pwytho’r cwilt yn ystod ei oriau hamdden. Ymhen dim, daeth galw i’w arddangos yn gyhoeddus. Ym 1876 dangoswyd y cwilt mewn arddangosfa fawr o ‘drysorau celfyddyd’ (Art Treasures Exhibition) a gynhaliwyd yn Wrecsam i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn ddiweddarach, ym 1925 bu’r cwilt ar arddangos yn Wembley, ac yn Wrecsam unwaith eto pan ddaeth yr Eisteddfod yn ôl i’r dref ym 1933. Mae tystiolaeth o gyfrifiadau ardal Wrecsam yn dangos mai brodor o’r dref oedd James Williams. Fe’i ganed ym 1818 ac erbyn y 1850au roedd ganddo weithdy teilwra yn ei gartref yn College Street, ger Eglwys y Plwyf. Bu farw ym 1895 ac fe etifeddwyd y busnes gan ei fab. Ym 1935, daeth y cwilt i feddiant yr Amgueddfa drwy ei ŵyr, Richard Williams, a oedd hefyd yn deiliwr fel ei dad a’i daid. Meddai ar y pryd: “it has always been my wish that the quilt should be sent to [the] National Museum of Wales so as my fellow countrymen should have the opportunity to admire a work of art that today could not be done if you were to pay the most skilful craftsman £1 a minute to do”.
Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Cymru a'r Rhyfeloedd Byd: Dyddiaduron Kate Rowlands 27 Ionawr 2017 Mae'r cyfri twitter @DyddiadurKate yn trydar dyddlyfrau Kate Rowlands, Sarnau. Ganrif yn ddiweddarach, mae ei chofnodion o 1915 yn rhoi golwg i ni ar fywyd yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth y dyddiadur i feddiant Sain Ffagan yn 1969, pan aethant allan i gymunedau gwahanol i recordio hanes leol pobl Cymru, yn eu geiriau eu hunain. Mae Dyddiadur 1915 Kate Rowlands, yn ddarlun cynnil a chyfoethog o fywyd yng nghefn gwlad Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n rhoi cip i ni o dasgau bob dydd, enwau caeau a ffermydd, cymeriadau lleol, tafodiaeth ac arferion y cartref a'r capel. Darllenwch y dyddiadur ar twitter, neu gweld mwy am gymeriadau'r dyddiadur. Trydar gan DyddiadurKate Rhagor am Kate 'Kitty' Rowlands Bywyd Cynnar Ganed Kate yn y Brymbo, ger Wrecsam, yn 1892. Roedd ei mam, Alice Jane, yn wreiddiol o’r Hendre, Cefnddwysarn. Bu farw ei thad – gweithiwr yn y diwydiant dur – pan roedd hi’n naw mis oed. Wedi hynny, dychwelodd ei mam weddw at ei theulu yng Nghefnddwysarn. Mae’n amlwg i rieni ei mam ddylanwadu’n fawr arni. Mewn cyfweliad hanes llafar â'r Amgueddfa mae’n dweud mai "y nhw oedd y canllawie gathon ni gychwyn arnyn nhw." Tair blynedd yn ddiweddarach, mae’i mam yn ailbriodi ag Ellis Roberts Ellis. Hyd y gwyddom, dyma’r Ellis sy’n cael ei grybwyll yn y dyddiadur. Tua 1887, pan roedd Kate yn bum mlwydd oed, symudodd y teulu bach i ffermio i ardal Llantisilio, ger Llangollen. Dychwelodd y tri i’r Sarnau tua chwe mlynedd yn ddiweddarach – i fferm Tyhen. Dyma leoliad y dyddiadur. Gwaith ar y tir - ac yn y tŷ A hithe’n unig blentyn, gadawodd Kate yr ysgol yn 14 mlwydd oed i helpu ei rhieni wrth eu gwaith. Mae’n debyg mai fferm fach oedd Tyhen – rhy fach i gyflogi dynion. “Mi gollodd nhad a mam eu iechyd i radde. Buodd hynny’n groes fawr i mi gael gyrru mlaen efo addysg ynde. Rhaid i mi fod adre ynde, ’da chi’n gweld… Dipyn o bopeth, jack of all trade ynde. O’n i’n gorfod helpu llawer iawn allan ynde, efo ceffyle a rwbeth felly ynde. Twmo’r popdy mawr i grasu bara, a chorddi fel bydde amser yno ynde, ryw ddwywaith yr wsos ynde.” Hanes Llafar Rhoddodd Kate Rowlands ei dyddiadur i'r Amgueddfa, pan ddaeth Minwel Tibbott a Lyn Davies i'w chyfweld yn y 1960au. Oherwydd gwaith diflino curaduron cynnar yr Amgueddfa, mae casgliad eang yn Sain Ffagan sy'n ymwneud â hanes merched - gellir pori gwybodaeth amdanynt ar dudalennau Hanes Llafar Merched Cymru. Yn ogystal â dyddiadur 1915, rhoddodd Kate ddyddiadur arall i'r Amgueddfa - sef cofnod o'i bywyd yn 1946. Mae modd darllen y dyddiadur hwnnw hefyd ar twitter, a'i archwilio ar flog yr amgueddfa. Kate Rowlands - Bywyd Cynnar Kate Rowlands - Wythnos ar y Fferm Kate Rowlands - Chwarae Steddfod a Gadael Ysgol Yn ogystal â rhannu hanesion lleol ardal y Sarnau, roedd y dyddiadur yn taro goleuni ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar gefn gwlad Cymru. Darllenwch hanes Kate a chymeriadau'r ardal ar flog Dyddiadur Kate. Carcharorion Rhyfel Fron Goch "Erbyn Ebrill 1915, roedd sgil effeithiau’r Rhyfel Mawr i’w gweld a’u teimlo ar lawr gwlad Meirionnydd. Nepell o gartref Kate a’i theulu, fe agorwyd gwersyll i garcharorion rhyfel ar gyn safle distylldy whisgi..." [gweld mwy] Arferion Nadolig "Ro’n i wedi edrych ymlaen cael darllen am baratoadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ac wedi bod yn dyfalu p’un â’i gŵydd yntau asen o gig eidion fyddai’r wledd? Pwy fyddai’n galw heibio?" [gweld mwy] Tomi'r Hendre a'r Ffrynt "Yr wyf yn hynod o hapus a digon o fwyd ac mewn iechyd rhagorol ac yn mynd yn dew ac yn gryf. Nid wyf yn med[d]wl y byd[d] yn rhaid imi byth fynd i’r front... Gyrwch fy nghyllell boced a fy spectol [yn] fuan." [gweld mwy] Alcohol a Dirwest "Soniodd Lloyd George am ‘the lure of the drink’ a dweud bod y ddiod gadarn yn gwneud mwy o’r difrod i Brydain na holl longau tanfor yr Almaen..." [gweld mwy] Gallwch lawrlwytho fersiwn electronic o'r dyddiadur yma: E-lyfr Dyddiadur Kate (PDF)
John Dillwyn Llewelyn — Arloeswr Ffotograffiaeth Cymru Mark Etheridge, 21 Ebrill 2015 Ffotograffau Casgliad John Dillwyn Llewelyn yn Amgueddfa Cymru yw rhai o’r cynharaf a dynnwyd yng Nghymru erioed. Yn ogystal ag oddeutu 850 o brintiau ffotograffig (y rhan fwyaf ar bapur halen), mae yn y casgliad 230 negatif papur Caloteip, 160 negatif gwydr Colodion a rhai dogfennau ac offer ffotograffig. Mae yn y casgliad hefyd negatifau a phrintiau a dynnwyd gan y teulu Llewelyn a nifer o brintiau gan ffotograffwyr eraill a gasglwyd gan y teulu (gan gynnwys Calvert Richard Jones a Roger Fenton). Gallwch weld yr holl luniau a negyddion o gasgliad John Dillwyn Llewelyn ar gatalog Casgliadau Arlein Amgueddfa Cymru. John Dillwyn Llewelyn (1810 – 1882) Ganwyd John Dillwyn Llewelyn yn The Willows, Abertawe ar 12 Ionawr 1810. Roedd y teulu yn byw bedair milltir i’r gogledd ar ystâd Penllergare ers 1817, a phan ddaeth i oed etifeddodd John yr ystâd o’i dad-cu ar ochr ei Fam a chymryd Llewelyn yn gyfenw ychwanegol. Ar yr ystâd yn y 1850au y tynnwyd nifer o’r ffotograffau yn y casgliad hwn. Ar 18 Mehefin 1833 priododd John ag Emma Thomasina Talbot, merch ieuengaf Thomas Mansel Talbot o Margam a Penrice. Mae hyn yn nodedig gan taw cefnder cyntaf Emma oedd y ffotograffydd arloesol William Henry Fox Talbot – dyfeisiwr y broses negatif a fu, ym 1839, mewn cystadleuaeth â’r Ffrancwr Daguerre. Bu farw ar 24 Awst 1882 yn ei gartref yn Llundain, Atherton Grange, ac mae wedi’i gladdu gyda’i wraig Emma ym Mhenllergare. Negatif gwydr colodion o John Dillwyn Llewelyn, tua 1853 Negatif gwydr colodion yn dangos Tŷ Penllergare o’r de, 1858 Gwyddonydd, Botanegydd a Seryddwr Roedd ei deulu yn gyfoethog dros ben gyda’i dad, Lewis Weston Dillwyn, yn berchennog gweithfeydd Crochenwaith Cambrian yn Abertawe. Gallai John felly ganolbwyntio ar ei ddiddordeb ym maes gwyddoniaeth, botaneg a seryddiaeth heb boeni am ennill bywoliaeth. Roedd yn wyddonydd amatur medrus ac yn aelod o Sefydliad Brenhinol De Cymru. Ar dir yr ystâd ym Mhenllergare fe adeiladodd arsyllfa (sy’n dal i sefyll heddiw) a tÅ· tegeirian. Print papur halen yn dangos fâs rosynnau yn y cyntedd yn Nhŷ Penllergare, 1850au Negatif papur caloteip o’r arsyllfa ym Mhenllergare, 1850au Ffotograffydd Arloesol Gyda’i ddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth a chysylltiad teulu ei wraig â Fox Talbot, mae’n hawdd gweld sut y denwyd John at ffotograffiaeth o ddyddiau cyntaf y cyfrwng ym 1839. Prin oedd ei lwyddiant yn y dyddiau cynnar, gyda thechneg Talbot neu Daguerre. Aeth rhai o’r trafferthion technegol yn drech nag ef a trodd ei gefn ar ffotograffiaeth tan ddechrau’r 1850au. O’r ddegawd hon y daw mwyafrif casgliad Amgueddfa Cymru. Fel un o sylfaenwyr Cymdeithas Ffotograffig Llundain (y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol yn ddiweddarach) mynychodd y cyfarfod cyntaf ym 1853. Dangosodd ei waith yn rheolaidd yn arddangosfeydd cynnar y Gymdeithas ac hefyd yn Dundee, arddangosfa Trysorau Celf Manceinion ac arddangosfa Paris 1855. Roedd gan John ddawn o ddal ennyd mewn amser – tonnau, symud cymylau a stêm. Yn arddangosfa Paris ym 1855 dyfarnwyd medal arian iddo am gyfres o bedwar delwedd dan y teitl Motion: tonnau’n torri ym Mae Caswell; llong hwylio ar arfordir Caswell; y llong stêm JUNO yn chwythu stêm yn Nimbych y Pysgod; cymylau uwchlaw Ynys Catrin, Dinbych y Pysgod. Negatif gwydr colodion o’r gyfres Motion yn dangos y llong stêm JUNO yn Nimbych y Pysgod, tua 1855 Negatif gwydr colodion yn dangos John gyda’i gamera caloteip ym 1853 Tynnwyd y ffotograff hwn gan ddefnyddio’r broses Oxymel. Cafodd ei dynnu ar 15 Mawrth 1858 am 1pm, gyda’r plât wedi’i ddatguddio am 15 munud. Golygfa o Abertawe o St. Thomas, gyda llongau hwylio yn y cefndir. Dyfeisio’r Broses Oxymel Ym 1856 dyfeisiodd y broses Oxymel, datblygiad o’r broses colodion oedd yn defnyddio toddiant asid asetig, dŵr a mêl i sefydlogi delweddau. Mantais hyn oedd y gallai negatif gwydr gael ei baratoi ymlaen llaw a’i ddatguddio yn y camera yn ôl y galw. Wedi hyn, doedd ffotograffwyr tirlun ddim yn gorfod cario labordai bychan a phabelli tywyll gyda nhw i bobman. Ym 1856 esboniodd yr Illustrated London News “...y gallai’r platiau gael eu paratoi adref a’u cludo fesul bocs, a meddyliwch am hyn dwristiaid, wrth i chi deithio a tharo ar olygfa wych nid oes ond ffrwyno’r ceffylau, tynnu eich camera, ac mewn mater o funudau gellir cynhyrchu llun, gan law Natur ei hun, fyddai wedi cymryd oriau i’w fraslunio â llaw.” Print papur halen yn dangos John gyda’r holl gyfarpar i greu negatif colodion Y ffotograff cyntaf o ddyn eira yng Nghymru? Tynnwyd y ffotograff oddeutu 1853/54 mwy na thebyg gan Mary Dillwyn neu Thereza Llewelyn. Y Teulu Llewelyn Cafodd John ac Emma saith o blant ond bu farw un pan yn blentyn. Mae’n debyg bod gan nifer o aelodau’r teulu ddiddordeb mewn ffotograffiaeth. Gwaith ei ferch Thereza yw nifer o’r ffotograffau yn y casgliad, ac rydyn ni’n gwybod i Thereza a’i Mam helpu i brintio rhai o’i ffotograffau. Roedd ei chwaer ieuengaf, Mary Dillwyn, hefyd yn amlwg yn y maes a caiff ei chyfri fel ffotograffydd benywaidd cyntaf Cymru. Ffotograff yn dangos y plant Llewelyn yn cael picnic ar y Goppa ger Abertawe ym 1855. Un o gyfres o ffotograffau o’r plant a dynnwyd gan John ar 23 Medi bob blwyddyn – pen-blwydd ei wraig. Casgliad Ffotograffiaeth Hanesyddol Darllen Pellach Penllergare A Victoria Paradise gan Richard Morris, 1999. The Photographer of Penllergare A Life of John Dillwyn Llewelyn 1810-1882 gan Noel Chanan, 2013.
Gweithwyr Francis Crawshay 26 Gorffennaf 2013 Yn y portreadau bychan yma mae un ar bymtheg o weithwyr Francis Crawshay (1811-1878 ), diwydiannwr o'i anfodd fyddai'n meithrin perthynas bersonol agos â'i weithwyr, peth anarferol yn y cyfnod. Ym 1819 prynodd ei dad – y diwydiannwr mawr William Crawshay II – weithfeydd Dur Hirwaun, ac erbyn canol y 1830au roedd Francis yn eu rheoli, ynghyd â gweithfeydd tunplat y teulu yn Nhrefforest, ger Pontypridd, oedd newydd eu ehangu. Mae'r grŵp yn gasgliad o grefftwyr, gweithwyr anfedrus a rheolwyr – pob un yn sefyll yn eu dillad gwaith, gyda'u hoffer gwaith, a thirlun yn gefndir. Er y byddai unigolion cyfoethog weithiau'n comisiynu portreadau o'u gweision tŷ, dyma'r unig ddelweddau hysbys o weithwyr diwydiannol. Credir taw'r artist oedd William Jones Chapman (tua 1808 – wedi 1871), paentiwr portreadau a hela teithiol oedd yn gweithio'n bennaf yng Nghymru a siroedd y gororau. Cafodd y grŵp ei gadw yn y teulu Crawshay dros y cenedlaethau, ac efallai bod y casgliad gwreiddiol yn fwy fyth. Priodolir i William Jones Chapman (?1808 – wedi 1871), un portread ar bymtheg o weithwyr Francis Crawshay (1811-1878 ) yng ngweithfeydd Dur Hirwaun a gweithfeydd Tunplat Trefforest, tua 1835-40. Rhoddwyd gan Sylvia Crawshay, 2012 William James, Rholiwr, Forest Gweithiwr Anhysbys Thos. Francis, Chwarelwr, Forest Thos Euston, Ceidwad Porthdy, Hirwaun Thomas Kirkhouse, Hirwaun Rees Davies, Peiriannydd, Hirwaun Llewellyn Jenkins, Saer Fforman, Hirwaun John Richards (John Cwmbran) John Llewellyn, Gof Fforman, Forest John Davies, Rheolwr Melinau Tun John Bryant, Asiant y Pwll, Hirwaun Evan Bryant, Asiant, Hirwaun David Williams, Saer, Forest David Lewis, Ceidwad Siop, Hirwaun David Davies, Ffwrneisi, Hirwaun David Davies, Llwythwr Cols, Hirwaun