Cyflawni'r dasg Ceri Thompson, 19 Mehefin 2012 Yr tîm o achubwyr Cerdyn post yn cofnodi trychineb The Flooded Colliery at Troedyrhiw Y pump glöwr hachub Ym mis Awst 2010 caewyd 33 o weithwyr 700 metr o dan wyneb y ddaear yn dilyn cwymp ym mwynglawdd copr/aur San Jose yn Chile. Wedi 69 diwrnod o dan y ddaear ac ymgyrch achub anferth, gan gynnwys cyfraniadau gan NASA a dros ddwsin o gwmnïau rhyngwladol, achubwyd pob un o'r 33 dyn dros gyfnod o 24 awr. Ar ôl codi'r gweithiwr olaf i'r wyneb, daliodd y gweithwyr achub arwydd tuag at y camerâu ag arno'r geiriau Mision cumplida Chile — Cyflawnwyd y dasg Chile. Amcangyfrifir bod dros biliwn o bobl wedi gweld y geiriau yma ar y teledu.Trychineb TynewyddDyma'r gwaith achub yn Chile yn dwyn i gof ddigwyddiad tebyg yng Nghwm Rhondda dros 130 o flynyddoedd ynghynt. Ar 11 Ebrill 1877, boddwyd Glofa Tynewydd yn y Porth gan ddŵr o hen weithfeydd gwag Hen Lofa Cymmer gerllaw. Ar y pryd, roedd pedwar glöwr ar ddeg o dan ddaear, ac aed ati i geisio eu hachub.Cafwyd hyd i bump o'r gweithwyr ar ôl clywed sŵn curo, a bu'n rhaid i'r tîm achub dorri drwy 12 llath o lo i gyrraedd atyn nhw. Yn anffodus, dyma un o'r dynion yn cael ei ladd gan rym yr aer yn dianc drwy'r twll achub. Roedd naw dyn bellach ar goll.Ymdrechu taerClywyd mwy o sŵn cnocio o lefydd gwaith o dan linell y dŵr a dyma'r tîm achub yn cymryd bod y dynion wedi goroesi mewn poced aer. Ceisiodd dau ddeifiwr o Lundain eu cyrraedd ond roedd yn dasg amhosibl gan fod cymaint o rwbel yn y twneli. Penderfynwyd taw'r unig beth amdani oedd torri twnnel achub drwy 38 llathen o lo.Yn ystod y deg diwrnod o gloddio i gyrraedd y gweithwyr caeth, daeth y gwaith achub i glyw'r wasg ryngwladol ac anfonwyd telegram gan y Frenhines Fictoria hyd yn oed, gan ei bod yn poeni am ffawd y dynion. Cyrhaeddwyd y glowyr ar ddydd Gwener 20 Ebrill; doedd ganddyn nhw ddim bwyd ac roedden nhw wedi byw ar ddŵr brwnt y pwll am ddeg diwrnod. Gan fod y boced aer wedi datgywasgu mor gyflym wrth eu hachub, roedd y pum glöwr yn dioddef o barlys y môr (the bends) ond dyma nhw'n gwella'n llwyr wedi treulio noson yn yr ysbyty. Boddodd y pedwar glöwr arall.Dewrder ac arwriaethEr taw bychan oedd y nifer a gollodd eu bywydau o gymharu â thrychinebau eraill yr oes (lladdwyd 114 o ddynion a bechgyn mewn ffrwydrad yng Nglofa Cymmer ym 1856), denodd dyfalbarhad y timau achub gryn sylw gan y wasg a'r cyhoedd. Dyfarnwyd pedair ar hugain o Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth a nifer o wobrwyon eraill i'r timau mewn seremoni a gynhaliwyd ar y Maen Siglo uwchlaw Pontypridd. Gwneir amcangyfrif i hyd at bedwar deg mil o bobl fynychu'r digwyddiad.Achubwyr Tynewydd oedd y cyntaf i dderbyn Medalau Albert am ddewrder ar dir. Mae pump o'r medalau yma bellach i'w gweld yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ynghyd ag esiamplau o lestri arian ac eitemau eraill sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.Erthygl gan:Ceri Thompson, Curadur
Ffasau glo a chopr W.E. Logan a'r map daearegol 7 Chwefror 2012 William Logan, 1856 Henry Thomas De la Beche (1796-1855), tua 1841, sefydlydd yr Arolwg Daearegol Prydeinig. "Gweithiais fel caethwas drwy'r haf ar wlff Sant Lawrence, gan fyw bywyd dyn anwar mewn pabell agored, gan gysgu ar y traeth mewn blanced a sach gyda'm traed ger y tân, prin y byddwn yn tynnu fy nillad, byddwn yn bwyta porc hallt a bisgeti llong gan gael fy mhoenydio weithiau gan fosgitos". Llythyr gan Logan at De la Beche, 20 Ebrill 1844. Logan yng Nghanada Wedi meithrin ei sgiliau daearegol ar greigiau glo Abertawe, ymgeisiodd Logan ym 1841 am swydd Cyfarwyddwr Arolwg Daearegol cyntaf Canada. Cefnogodd nifer o ddaearegwyr blaenllaw Prydain ei gais, yn cynnwys Henry De la Beche, a cafodd ei benodi yn Ebrill 1842. Erbyn 1849 roedd Logan, a phedwar gweithiwr wedi mapio'r ardal rhwng Afon Sant Lawrence a'r Llynnoedd Mawr, wedi gweithio ar ddyddodion glo Nova Scotia ac wedi can rod mwyn copr i'r dwyrain a Montreal. Ym 1863, cyhoeddodd Logan a'i staff yr astudiaeth fawr gyntaf o ddaeareg Canada. Mae'n cael ei hystyried yn binacl cyhoeddi gwyddonol Canada'r 19eg ganrif. Cyhoeddwyd mapiau ym 1865 a 1869 yn dilyn y gwaith hwn. Logan yn dychwelyd i Gymru Byddai Logan yn teithio ar draws yr Iwerydd yn ami; fe wnaeth y daith dros 30 o weithiau i gyd. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1856, y person cyntaf i gael ei eni yng Nghanada i dderbyn yr anrhydedd. Cafodd ei anrhydeddu hefyd gall Ffrainc, y Gymdeithas Frenhinol, y Gymdeithas Ddaearegol, Prifysgol Bishop yn Quebec a Prifysgol McGill ym Montreal, yn ogystal â dinasyddion Toronto a Montreal. Er i Logan ymddeol yn swyddogol ym 1869, fe barhaodd i wneud gwaith maes yn yr haf o amgylch Montreal a byddai'n treulio ei aeafau yn nhŷ ei chwaer yng ngorllewin Cymru. Bu farw yno ym Mehefin 1875 ac mae wedi'i gladdu ym mynwent eglwys Cilgerran yn Sir Benfro. Heddiw, mae William Edmond Logan yn cael ei gofio fel gwyddonydd pwysicaf Canada erioed, ac yng Nghymru y dechreuodd ar ei yrfa ddaearegol. Cysylltiadau Amgueddfa Abertawe
Casgliad mwynau chwedlonol y Fonesig Henrietta Antonia, Iarlles Powis Tom Cotterell, 31 Ionawr 2012 Catalogue of Metallic Minerals in the Possession of the Countess of Powis Cyfrol II, 1817: Catalogau gwreiddiol y casgliad. Tudalen gatalog o Gyfrol 1. Earthy Minerals. Olifin ar gwarts o Gernyw, rhodd i Henrietta gan Iarlles Aylesford. Sbesimen 9 cm o hyd. NMW 29.311.GR.80. Yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y cafodd un o gasgliadau mwynau hanesyddol pwysicaf yn Amgueddfa Cymru ei adeiladu. Y Fonesig Henrietta Antonia Clive (1758-1830), Iarlles Powis oedd y gasglwraig, a cafodd ei roi i'r Amgueddfa gan 4ydd Iarll Powis ym 1929. Mae'n un o'r casgliadau mwynau cyntaf sy'n gysylltiedig â Chymru. Y Fonesig Henrietta, Iarlles Powis Ganwyd y Fonesig Henrietta i deulu Herbert, teulu uchel ei barch â thiroedd helaeth oedd yn disgyn o Iarll Penfro yn y bymthegfed ganrif. Henry Arthur Herbert (c.1703-1772), Iarll 1af Powis oedd ei thad, oedd yn berchen ar ystadau mawr yn Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru yn ogystal ag eiddo yn Llundain. Ganwyd Henrietta yn eu prif gartref, Parc Oakley, yn Bromfield ger Llwydlo, ond wedi i hwnnw gael ei werthu i Robert, Arglwydd Clive (Clive o India) ym 1771, treuliodd ei harddegau yn y cartref teuluol, Castell Powis. Clive o India Ym 1784, priododd Henrietta Edward, mab hynaf y diweddar Arglwydd Clive, priodas oedd o fudd i'r ddau deulu — roedd y teulu Herbert wedi mynd i ddyled drom, ond roedd eu henw yn dal yn uchel ei barch, tra bod teulu Clive wedi casglu cyfoeth aruthrol drwy ymgyrchoedd milwrol Robert, Arglwydd Clive yn India. Aeth Henrietta ac Edward i fyw yn Neuadd Walcot ger Trefesgob lle ganwyd pedwar o blant iddynt, Edward, Henrietta Antonia, Charlotte Florentia a Robert Henry. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, gwnaed Edward Clive yn Lywodraethwr Madras ac yn ystod ei hamser yn yr India, dechreuodd Henrietta gasgliad o gerrig a mwynau. Yn ddiweddarach bu'n prynu ac yn cyfnewid mwynau â chasglwyr blaenllaw'r cyfnod gan gynnwys James Sowerby, Dr John MacCulloch ac Iarlles Aylesford. Cofnododd sawl sbesimen a roddwyd iddi gan ei phlant hefyd. Mwynau'r Ddaear a Mwynau Metelig Mae casgliad Henrietta yn nodweddiadol o steil casgliadau o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda'r mwynau wedi'u trefnu'n systematig yn ôl eu nodweddion cemegol. Rhannodd Henrietta ei chasgliad yn ddwy gyfrol wedi'u hysgrifennu â llaw: Cyfrol 1 — Earthy Minerals a Chyfrol 2 — Metallic Minerals. Defnyddiodd system rifo i gofnodi pob sbesimen gan lynu label bychain i bob un. Er bod nifer o'r labeli yma wedi hen ddiflannu, mae manylder ei chatalog wedi ein galluogi ailadnabod sbesimenau sydd wedi colli eu rhifau gwreiddiol. Roedd dros fil o sbesimenau yng nghasgliad Henrietta, ac mae cannoedd o samplau wedi cael eu hadnabod yng nghasgliad yr Amgueddfa. Er bod nifer o sbesimenau ar goll, mae'n hynod pa mor gyflawn yw'r casgliad, ag ystyried ei oedran. Heddiw, caiff ei ystyried yn un o'r casgliadau mwynau hanesyddol pwysicaf yn Amgueddfa Cymru.
Plant mewn Pyllau Glo 11 Ebrill 2011 Yn unig yn y tywyllwch Roedd Mary Davis yn 'ferch fach bert' chwe mlwydd oed. Daeth Archwiliwr y Llywodraeth o hyd iddi yn cysgu'n sownd yn erbyn carreg fawr dan y ddaear ym Mhwll Glo Plymouth, Merthyr. Wedi cael ei dihuno dywedodd: "Fe es i gysgu oherwydd bod fy lamp wedi diffodd am nad oedd digon o olew ar ôl. Roedd ofn arna i am fod rhywun wedi dwyn fy mara a caws. Dwi'n credu taw'r llygod mawr wnaeth." Dywedodd Susan Reece, oedd hefyd yn chwe mlwydd oed ac yn geidwad drws yn yr un pwll glo: "Dwi wedi bod dan y ddaear am chwech neu wyth mis a dydw i ddim yn ei hoffi rhyw lawer. Rwy'n dod yma am chwech y bore ac yn gadael am chwech y nos. Pan fydd fy lamp yn diffodd, neu fy mod i'n llwgu, bydda i'n rhedeg adref. Dydw i heb gael niwed eto." Mewn perygl Roedd pwll glo yn lle peryglus iawn i oedolion, felly does dim syndod bod nifer o blant wedi cael eu hanafu'n wael dan y ddaear. "Roedd damwain bron i flwyddyn yn ôl a cafodd y rhan fwyaf ohonon ni ein llosgi. Cefais i fy nghario gartref gan ryw ddyn. Roedd yn boenus iawn am fod y croen wedi llosgi o fy wyneb. Doeddwn i ddim yn gallu gweithio am chwe mis." Phillip Phillips, 9 oed, Pyllau glo Plymouth, Merthyr "Cafodd fy mhen i ei wasgu beth amser yn ôl gan ddarn o'r to yn cwympo..." William Skidmore, 8 oed, Pwll Glo Buttery Hatch, Mynydd Islwyn "..cafodd fy nghoesau i eu gwasgu beth amser wedyn, wnaeth fy nghadw o'r gwaith am rai wythnosau." John Reece, 14 oed, Pwll Glo Hengoed Plant o lowyr a gyrwyr ceffylau Byddai rhai plant yn treulio hyd at 12 awr ar eu pen eu hunain, ond roedd brawd Susan Reece, John yn gweithio gyda'i dad ar y ffas: "Rydw i'n helpu fy nhad ac rydw i wedi bod yn gweithio yma am ddeuddeg mis. Rydw i'n cario ei offer drosto ac yn llenwi'r dramiau â'r glo mae wedi ei gloddio neu ei ffrwydro. Fe es i i'r ysgol am rai diwrnodau a dysgu'r wyddor." John Reece, 8 oed, Pyllau Glo Plymouth, Merthyr Roedd gan Philip Davies geffyl yn gwmni. Roedd yn welw a heb fawr o gig amdano ac yn gwisgo dillad carpiog wedi treulio. Doedd 'e ddim yn gallu darllen: "Rydw i wedi bod yn gyrru ceffylau ers oeddwn i'n saith ond roeddwn i'n gweithio ar ddrws aer am flwyddyn cyn hynny. Byddwn i'n hoffi mynd i'r ysgol ond rydw i wedi blino gormod gan fy mod i'n gweithio deuddeg awr." Philip Davies, 10 oed, Pwll Glo Dinas, y Rhondda Byddai dramwyr yn tynnu eu certi gyda chadwyn wedi'i chlymu o amgylch y canol. Bydden nhw'n gweithio yn y twnneli isel rhwng y ffasau glo a'r prif dwneli uwch lle gallai ceffylau gael eu defnyddio. Roedd y ceirt yn pwyso tua 1½cwt. o lo ac roedd yn rhaid ei dynnu am bellter o tua 50 llath mewn twnnel tua 3 troedfedd o uchder. "Fy swydd i yw cludo glo o'r pen i'r brif ffordd; mae'r pellter yn 60 llath; does dim olwynion ar y ceirt; rydw i'n eu gwthio nhw o fy mlaen; weithiau, bydda i'n eu llusgo nhw am fod y cert weithiau yn cael ei dynnu arnon ni, ac rydyn ni'n cael ein gwasgu'n aml." Edward Edwards, 9 oed, Pwll Glo Yskyn, Llansawel Byddai dramiwr yn ennill tua 5c y diwrnod am hyn. Y Tair Chwaer Roedd gwaith dur Dowlais hefyd yn berchen ar byllau glo a haearn; nhw oedd y mwyaf yn y byd ar y pryd ac yn darparu cynnyrch i bob rhan o'r byd. Roedden nhw yn dal i ddibynnu ar blant am eu helw fodd bynnag. Roedd tair chwaer yn gweithio yn un o'u pyllau glo: "Rydyn ni'n gofalu am y drysau yn y lefel pedair troedfedd. Rydyn ni'n gadael y tŷ cyn chwech bob bore ac rydyn ni yn y lefel tan saith o'r gloch, neu'n hwyrach weithiau. Rydyn ni'n ennill 2p y diwrnod ac mae ein golau yn costio 2½c yr wythnos. Roedd Rachel mewn ysgol ddydd ac mae hi'n gallu darllen rhywfaint. Cafodd hi ei gwasgu dan ddram amser yn ôl ac roedd hi adref yn sal am amser hir, ond fe wellodd hi." Elizabeth Williams, 10 oed a Mary a Rachel Enoch, 11 a 12 oed, Pyllau Dowlais, Merthyr. Yn Dilyn y Deddfu Roedd hi'n anochel y byddai deddf yn cael ei phasio wedi'r dicter cyhoeddus a glywyd yn sgil cyhoeddi'r Adroddiad. Pasiwyd y Ddeddf Rheoli Pyllau Glo o'r diwedd ar 4 Awst 1842. O 1 Mawrth 1843 roedd hi'n anghyfreithlon i fenywod neu unrhyw blentyn o dan ddeg oed weithio dan y ddaear ym Mhrydain. Doedd dim iawndal i'r sawl a gollodd eu swyddi ac a achosodd hyn galedi mawr. Ond roedd hi'n hawdd osgoi'r Ddeddf — dim ond un arolygwr oedd ym Mhrydain gyfan ac roedd yn rhaid iddo roi rhybudd cyn ymweld âr pyllau glo. Mae'n debyg bod nifer o fenywod wedi parhau i weithio yn anghyfreithlon am sawl blwyddyn, a dim ond wrth iddynt gael eu lladd neu eu hanafu fyddai pobl yn dod i glywed. Daeth hi'n llai derbyniol i fenywod ennill cyflog yn y diwydiant glo wrth i amser basio. Er hyn, roedd nifer fechan o fenywod yn gweithio ar yr wyneb yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ym 1990 diddymwyd y ddeddf warchod gan roi'r hawl unwaith eto i fenywod weithio o dan y ddaear.
Gweithio Dramor - Ymfudo o Gymru 9 Chwefror 2010 Dylanwad yr ymfudwyr CymreigYn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, symudodd miliynau o bobl o bob cwr o'r byd i wledydd eraill i chwilio am waith. Roedden nhw am newid eu bywydau, blasu arferion gwaith newydd neu gael antur mewn gwlad wahanol.Aeth llawer ohonyn nhw o Cymru â'n sgiliau diwydiannol traddodiadol gyda nhw. Helpodd rhai i greu llwyddiant economaidd parhaol yn eu gwledydd newydd. Aeth eraill ati i addasu eu sgiliau neu i ddysgu sgiliau newydd. Llwyddodd rhai i ennill arian a bri mawr. Cafodd eraill fywydau llwyddiannus mwy di-nod, gan ymgartrefu a magu teuluoedd. Daeth rhai nôl adref wedyn, ond ni welodd eraill eu mamwlad byth eto.Yma byddwn yn dangos y gwahanol ddiwydiannau o Gymru a allforiodd weithwyr ac arbenigedd i bedwar ban y byd. Beth oedd y diwydiannau a'r sgiliau hyn? I le aeth y gweithwyr? Pam oedd pobl yn gadael, a sut? Pa werthoedd a thraddodiadau aeth gyda nhw? Pa effaith gafodd eu hymadawiad ar Gymru? Glofa Cymreig, Kentucky Glo"Roedd ein diwydiant glo'n llewyrchus dros ben tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd y byd cyfan yn troi aton ni am arbenigedd a chyngor."[gweld mwy] Mwynglawdd copr Burra Burra, 1874. Copr"Cymru oedd yn arwain y diwydiant mwyndoddi copr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y gweithfeydd yn ardaloedd Abertawe a Threffynnon yn cynhyrchu mwy na hanner copr y byd i gyd."[gweld mwy] John Davies o Dalsarnau, Gwynedd, gyda'i frawd a'i gyfaill. Reoddynt yn chwilio am aur yn Queensland, Awstralia yn y 188au Aur"Mae pobl wedi bod yn mwyngloddio aur yng Nghymru'n ysbeidiol ers miloedd o fynyddoedd, ond ni chyfogodd y diwydiant lawer o weithwyr erioed. Serch hynny, ymunodd llawer o Gymry â'r 'Rhuthrau am Aur' enwog yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg."[gweld mwy] Gweithwyr Cymreig yn y gweithfeydd haearn yn Hughesovka. John Hughes yw'r ail o'r dde yn y rhes flaen Haearn"Cymru oedd yn arwain y ffordd yn y gwaith o ddatblygu'r diwydiant haearn ym Mhrydain ac nid yw'n syndod felly mai ymfudwyr o Gymru oedd llawer o arweinwyr y diwydiant rhyngwladol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg."[gweld mwy] Bangor, Pennsylvania Llechi"Defnyddiwyd llechi fel deunydd toi yn Ewrop. Allforiwyd llechi o Gymru i bob cwr o'r byd ar gyfer projectau adeiladu pwysig. Roedd y ffaith i lechi gael eu darganfod mewn llawer o wledydd gwahanol yn un o nifer o ffactorau economaidd a barodd i weithwyr o Gymru symud i'r ardaloedd hynny."[gweld mwy] Gwaith Dur Lithgow, New South Wales, Awstralia, 1920s Dur"Addaswyd llawer o'r canolfannau haearn i greu dur, sy'n ddeunydd cryfach, mwy amlbwrpas. Nid yw'n syndod i'r Cymry wneud cyfraniad pwysig at y newid hwn."[gweld mwy] Metropolis a adeiladwyd ar gyfer William Thomas ym 1885. Llongau"Mae gan Gymru 1,200km (750 milltir) o arfordir a hanes morwrol hir. Teithiodd morwyr o Gymru dros y byd i gyd yn allforio nwyddau o Gymru ac yn mewnforio deunyddiau crai ar gyfer diwydiant. Roedd llongau Cymreig ymysg y mwyaf adnabyddus ym maes masnach forwrol ac roedd perchnogion y cwmnïau ymysg y bobl fwyaf cefnog."[gweld mwy] Carreg chwarela, Randolph, Wisconsin Mwyngloddio Metel"Roedd y gweithwyr Cymreig yn enwog am eu harbenigedd ym maes mwyngloddio. Yn ogystal â glo, roedden nhw'n gallu cloddio am aur, haearn, plwm a chopr."[gweld mwy] John Williams Tunplat"Cymru hefyd oedd un o brif gyfenwyr y byd ym maes cynhyrchu tunplat. Ar ddechrau'r 1890au cynhyrchwyd dros 80% o dunplat y byd yn ne Cymru."[gweld mwy] Morgan C. Jones, (ar y dde), nai Morgan Jones oedd yn gweithio dros yr un cwmni Diwydiannau Eraill"Nid pawb yng Nghymru oedd yn gweithio yn y diwydiannau trwm 'traddodiadol' wrth gwrs. Roedd llawer yn gweithio mewn diwydiannau eraill ac aethant ati i drosglwyddo'r sgiliau roedden nhw wedi eu dysgu mewn pyllau, ffowndrïau a gweithfeydd i weithleoedd eraill."[gweld mwy] Cartŵn o'r Western Mail, 1928 Patrymau Ymfudo"Nid pawb a adawodd Gymru am fywyd newydd dramor ffarweliodd â'u mamwlad am byth. Daeth llawer o bobl adref am bob math o resymau. Yr enw am hyn yw mudo yn ôl."[gweld mwy] Bois Breaker yn Pennsylvania. Dechreuodd nifer o fechgyn ifanc o Gymru weithio'n ifanc iawn yn America. Radicaliaeth"Roedd gweithwyr diwydiannol o Gymru'n dod o ardaloedd lle'r oedd yr undebau llafur trefnus iawn. Roedden nhw'n adnabyddus am sefyll dros eu hawliau, amodau gwaith diogel a chyfogau teg."[gweld mwy] Eglwys Hen Saron, yr eglwys Gymreig gyntaf yn Minnesota, 1856 Diwylliant Cymraeg"Fel llawer o ymfudwyr eraill, aeth y Cymry â'u diwylliant i'r gwledydd newydd gyda nhw. Mewn lle dieithr a newydd, roedd cadw caneuon, straeon, ieithoedd a thraddodiadau cyfarwydd yn helpu ymfudwyr i ymdopi â'r anghyfarwydd."[gweld mwy] Paratoi bwyd ar gyfer Cymanfa Ganu, Eglwys Peniel, Pickett, Wisconsin,1946. Menywod"Er taw dynion oedd y mwyafrif o'r gweithwyr diwydiannol, roedd menywod yn bwysig iawn i'r cymunedau mudol."[gweld mwy] California, UDA Enwau llefydd"Roedd hi'n gyffredin i ymfudwyr o bob gwlad enwi eu haneddiadau newydd ar ôl llefydd yn eu mamwlad. Roedd hyn yn ffordd o ddathlu eu hunaniaeth a chadw cysylltiad â'u mamwlad."[gweld mwy]